Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Eisteddfod Bwlchgwyn.

T Y Cyfarfod Cyntaf.

Tl Cyfarfod yr Hwyr.

Y Nodiadau.

ft • . h^RVi) eirn'adaeth…

Nodiadau Cerddorol.

Dewis Emynau.

News
Cite
Share

Dewis Emynau. Yr arferiad cyffredin yw i'r gweinidog ddewis yr holl emynau fel ag i gydfyned a'r bregeth a draddodir. Nis gallwn weled fod angen o gwbl am hyn. Llawer mwy cyson a phriodol fyddai i arweinydd y gan ddewis, dyweder, dair emyn gyntaf y gwasanaeth, gan adael yr olaf i'r pregethwr. Trwy hyn sicrheid canu calonnog. Gellir hefyd ddefn- yddio ffafr-donau y gynulleidfa. Gellir rhoi prawf ar donau lied newydd, a gellir darparu yn fwy deheuig ymlaen Haw. Yn lie hyn, ceir tair, efallai, o'r pedair emyn ar yr un mesur, ac fe ddichon yr un nodwedd, fel rheol yn y cywair lleiaf. Dylai fod yma amrywiaeth yn hyn, gan ddefnyddio gwahanol fesurau, mwy o emynau mawl, o nodwedd glodforus. Yr wyf yn cofio am un amgylch- iad a ddigwyddodd dro yn ol yn B-, i ddangos pa mor fanwl yr astudir yr emynau a ddewisir ar gyfer y gwasanaeth. Yr arferiad yno oedd i flaenor y gan ddewis yr emynau a'r tonau, oddigerth yr emyn olaf, er rhoddi cyfle i'r pregethwr ddewis emyn i gydfyned a thestyn y bregeth. Yr oedd y pregethwr yn un o gewri yr enwad. Ar ol pregeth faith, athrawiaethol, rhoddwyd emyn i'w ganu, ac meddai, Gan fod amser wedi rhedeg ymhell, fe ganwn ddau bennill yn unig o'r emyn,—y cyntaf a'r olaf," a chanu wnaed, ac ni sylwodd neb ar y foment fod dim allan o Ie hyd nes y deuwyd at yr ail bennill oedd i'w ganu, a gwelwyd mai ail adroddiad o'r pennill cyntaf or emyn air am air oedd. Canwyd y pennill drwyddo, ail ganwyd y ddwy linell olaf. Nid oedd a fynnai yr emyn hwn o gwbl a thestyn y bregeth gwelwyd ei bod wedi ei ddewis heb ystyriaeth o gwbl i'w briodoldeb. Yr wyf.yn gryf o'r farn y dylai blaenor y gan gael mwy o ryddid yn y cyfeiriad hwn, yn hytrach na gadael y mater, fel y mae ar hyn o bryd yn y nifer liosocaf o'r eglwysi, Yn sicr, byddai gwell gwedd ar ganu cynulleidfaol ein heglwysi. Yr wyf yn cofio am un hen flaenor y gan a deimlai yn ddiystyrwch arno roddi iddo yr emynau cyn y byddont yn cael ei rhoddi allan o'r pulpud yn y gwasanaeth, gan mor sicr a phrofiadol y teimlai yn ei swydd fel os digwyddai gael emyn iled adnabyddus o ran hyd, ni phetrusai ganu ton newydd spon ar yr emyn neu fe gyfansoddai un ar y foment fel yr elai ymlaen, heb hidio fawr beth ddeuai o'r gynulleidfa. Yr oedd hyn lawer blwyddyn yn ol, pan nad oedd ond ychydig mewn cynulleidfa yn hyddysg yng nghyfrinion cerddoriaeth. Fe ddylai fod paratoad arbennig yn cael ei wneud ar gyfer hyn, yn hytrach na gadael y cyfan hyd y munud olaf. Os moliant, boed y moliant goreu a ellir ei roddi.

Advertising