Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Eisteddfod Bwlchgwyn.

T Y Cyfarfod Cyntaf.

Tl Cyfarfod yr Hwyr.

Y Nodiadau.

ft • . h^RVi) eirn'adaeth…

News
Cite
Share

ft • h^RVi) eirn'adaeth y Gadair. Crist ym mreichiau Simeon." !■ ac Vn VVYD cynnifer a 18 o gyfansoddiad- w ^el; 6u plith amryw o deilyngdod pur Srvj^ilwv/ ^hawster mwyaf fydd, nid cael k^diad ° r gadair, ond dethol y cyfan- L del bynreu ° blith cynnifer o rai rhagorol. §wna^ fy ngoreu i sicrhau lleb fod gennyf yr un amc-an dirjgj 8wneud cyfiawnder a'r beirdd a ^i°Soe 8an^ eu gwaith i'm dyfarniad. «r^ydd y cystadleuwyr yn gwneud yn amhosibl i mi ymhelaethu ar bob cyfan- soddiad, ond gwneir ychydig sylwadau ar bob un, ac heb ymgais i'w graddoli yn y drefn y deuant i'm llaw. Vulcan.-Er fod yn y cyfansoddiad hwn rai darnau go dda, y mae yn dra diffygiol mewn arddull a newydd-deb barddonol. Ceir yma ormod o gyffredinedd fel hyn,— Simeon wrth gyflwyno Y Plentyn bach i'w fam, Ddywedai yn ei ddagrau, 0, cadw ef rhag cam.' Glaslor.-Mae yn y gerdd hon lawer o syniadau dyfnion a barddonol. Mae'n eglur fod yr awdwr yn feddyliwr, ac wedi canfod yn lied glir a phell i amrywiol deimladau galon ddynol,a'r modd y eyflenwid gofynn- ion natur dyn yn y Gwaredwr. Gresyn, er hynny, fod yn rhaid ychwanegu mai diffygiol iawn yw y cyfansoddiad o ran mydryddiad ac arddull. Owilym Arfon.Cyfansoddiad pur gyff- redin yw hwn, ac yn frycheulyd iawn mewn ystyr lenyddol., Ni cheir ynddo braidd bennill heb wallau gramadegol a mydryddol. Simon o Cyrene.-Diolch i'r awdwr hwn am ysgrifennu mor eglur ond, yn sicr, y mae i'w feio am adael cymaint o'i bryddest heb ei atalnodi. Nis gellir esgusodi hyn mewn cyfansoddiad cystadleuol am gadair. Ond ychydig iawn o frychau llenyddol sydd yn y gerdd, ac ymae ynddi ami ddarn awen- yddol cryf. Mae y cynllun, er nad yn ddyfeisgar, yn ddigon naturiol, ac wedi ei ddatblygu yn lied gyson ac effeithiol. Teimlir, fodd bynnag, fod y bardd weithiau yn tueddu at fod yn rhy gyffredinol, ac yn cymeryd gormod o fantais ar yr Ym- gnawdoliad, yn hytrach na chanu yn awyr- gylch uniongyrchol yr olygfa sydd yn y testyn. Llithra hefyd mewn mannau i gyffredinedd ac amleiriaeth, megis yn y llinellau canlynol Yng nghanol myrdd o ryfeddodau Gylchynnant fywyd Mab y Dyn, Enynna hon chwilfrydedd oesau,— GweldjDuw mewn cnawd yn faban cun; Mae yma ddyfnfor o ddirgelwch Lie sudda llestri meidrol ddawn, Sy'n ceisio boddio cywreingarwch Esbonio Duw a'i lwybraun llawn." Nid yw yn terfynu mor effeithiol ag y disgwyliwn. Ar y cyfan, cerdd o gryn deilyngdod yw hon, ond ei nwyfiant awen- yddol yn fwy na'i newydd-deb barddonol. Dyma y goreu hyd yma, yn sicr. F,dntygydd.Rhaid i hyd yn oed Simon o Cyrene wneud ffordd i hwn fyned heibio iddo. Pryddest, feddylgar a newydd, a nodedig o syml a difyrrus i'w darllen. Mae hi o nodwedd delynegol, ac yn llawn o gyffyrdd- iadau tyner a gwibiadau hoew. Yn wir, perygl y bardd hwn yw ymollwng yn ormod- 01 i ddilyn ei nwyfiant. telynegol nes ymylu weithiau ar ysgafnder chwareus, a cholli i raddau yr urddas sydd briodol i destyn mor aruchel. Svlwer ar y pennill canlyn- ol 'Roedd henaint bellach yn pwyso Yn flin a thrwm ar ei ben, A rhywbeth ddyfeisiodd tlysni Yil gWlleuthur ei fari yn wen Ei gam bob dydd ai yn tyrrach, Ond ai ei obaith yn fwy, A dringai bob dydd i'r mynydd Drwy gymorth rhyw ffon neu ddwy." Diffyg pwyll a gofal, ac nid diffyg awen, a barodd i'r bardd ganu rhai darnau 11 ac sydd yn y bryddest, megis y llinellau hyn — Tydi fydd yn trwsio Cymeriadau fil, A dorrwyd heb wrido Gan bechod a'i hil. Anurddir y cyfansoddiad gan rai brychau llenyddol. Pe canai yr awdwr hwn yn fwy gofalus a choeth, nid yn hawdd y gellid ei guro. Mae celfyddyd cerdd yn haeddu gwell gwaith nag a wnaeth efe y tro hwn, ac mae ei awen farddonol yn ei wneud yn ddi- esgus. Y Delyn Doredig.l\Tydrydda'r awdwr hwn yn ddigon rhwydd a chelfydd, a cheir gryn lawer o hwyl awenyddol yn ei waith ond mewn clirder arddull a syniadau bardd- onol, y mae yn ol i amryw o'i gydymgeiswyr. Gwelir amryw frychau llenyddol drwy y gwaith, ac ymddengys rhai ohonynt yn fwy o gynnyrch diofalwch nag anwybodaeth, megis y canlynol :— Er i engyl drwy eu canu Llanw'r ddae'r a nodau'r ncf, Rhaid cael goreu mam i'w fagu Baban dilys yw Ele. Cyfansoddiad anwastad ac anaddfed yw hwn, ond yn addaw yn dda gydag ychwaneg o astudiaeth ac ymarfer. Un a Gan i'w Ogonedd.—Medd awdwr y gerdd hon hawl deg i gystadlenaeth gadeiriol, oblegid canodd yn awenyddol a chryf, ac nid oes nemor ddim meflau llenyddol ar ei waith ac eto, er hynny, gadawodd lawer o le i ereill ragori arno mewn cynllun a choeth- ter. Ni theimlir wrth ei ddilyn fod nemor ddim datblygiad a chynnydd yn ei olygiad o'i destyn. Ni cheir yma ddarluniau gor- ffenedig, na fawr o awgrymiadau cyrhaedd- gar, ond bardd awenyddol yn ymollwng yn lied ddiofal i ddilyn ei nwyd. Nid yw ei weledigaethau yn ddigon eglur, a llithra ambell dro i ganu'n lied amhenodol mewn syniad, a Ilac mewn arddull Tichel vdyw He Simeon Yn arlunfa fawr ein Ffydd Gwelir myrdd o waredigion Y n edmygu braint oi ddydd. n Tuedda i'r ffol-arferiad o chwareu a chyng- haneddion ar draul sobrwydd meddwl a choethder arddull Goleuni holl genhedloedd byd Oedd gywnir SaIm i dreiddgar serch A goreu falm i hawddgar ferch." Gwylmor y Boreu.-Cyfansoddiad awenydd- ol arall, ond nid mor newydd a byw ag eiddo Edmygydd." Pur ddidaro yw ei linellau arweiniol. Darlunia ei hun yn mynd "i'r capel y tro cyntaf gyda'i fam, i wrando un a bregethai yr efengyl, a gofynna :— A beth wn i nad hanes y dyn bach Yn mynd yng nghol ei fam i'r deml fwyn Oedd baich a chenadwri'i bregeth iach ?" Ac fel yr a. ymlaen, mae ei or-fynychiad o'r un ymadroddion yn feichus yn ami, yn enwedig y gair eydi.o. Yn cydio am ei phlentyn gwyn "Rhyw gydio a chofleid- io Yn cydio ynnof fi;" A gwyr pob un mai cydio;" "Yn cydio a chofleidio Yn cydio''n ein Tra'n cydio yn an- wylyd Yn cydio'n hwn mor glyd;" Y mae'r cydio yn gaffaeliad;" "Roedd Simeon fwyn yn cydio Cydio yn y baban Iesu Cydio yn ei Dduw "Cydiodd ynddo i'w fendithio Yn cofleidio'r Un sy'n cydio ynddo yn y byd." Er fod yn y bryddest ami bennill tlws a syniad bardd- onol, fel cyfanwaith y mae yn bur anaddfed. Gydag ymarferiad a'r gelfyddyd farddonol a meithriniad o arddull mwy coeth a thry- loew, -diau y gellid disgwyl pethau gwych oddiwrth yr awdwr hwn. Toriad Dydd.-Anfynnych y llithra awdwr y bryddest hon i gyffredinedd, ond nid ywyn hollol glir oddiwrth linellau llac ac ymad- roddion ystrydebol a di-bwynt. Gallasai grynhoi a gloewi llawer brawddeg, yn hytrach na charlamu ymlaen, fel y gwna yn awr ac eilwaith, fel pe mewn mwy o awydd i gyr- raedd terfyn ei dasg nag i orffen ei waith yn y modd goreu. Dywed am Simeon :— Ef welai yn offrymau'r dynol dAr Arwydd ei ddyfod, ac ysgrifen per Oedd ar bob aberth." Eto Dy iachawdwriaeth a ganfyddodd Ef Yng ngwen y newydd Fab o fro y Net; Allan o'i hunan,—yn ei freichiau gweinion Yr ydoedd holl gyfaredd ei obeithion Ei hyder Ef oedd yn y Tlws o wyneb Ddaeth allan o gynhesrwydd Tragwydd- oldeb." Anurddir pob tudalen a diffygion mewn arddull, mynegiant, ac addfedrwydd. Er hyn oil, mae awdwr y cyfansoddiad hwn yn berchen yr awen wir, a cheir profion o hynny hefyd ar bob tudalen. Cystwyed. ei awen i ganu yn fwy syml, cryno, a.gorffenedig, ac ni fydd ei lwydd ymhell. G.IIda'r Wawr.Nid oes yn y gystadleuaeth bryddest felusach ei naws a mwy defosiyool ei thon na hon, ac y mae hefyd yn awenyddol drwyddi. Ymgollodd yr awdwr mewn syn- edigaeth barchedig ac addolgar yn y syniad o fawredd ymostyngiad Crist, a rhaid yw dweyd nad yw wedi dwyn allan mor effeithiol a rhai o'i gydymgeiswyr yr amrywiaeth na'r arbenigrwydd cynwysedig yn y testyn. Yn sicr, nid tegwch a'r testyn gosodedig yw ei wneud mor debyg ag y gwneir gan amryw o'r ymgeiswyr, "Gyda'r Wawr" yn eu plith, i Enedigaeth neu Ymgnawdoliad Crist. Wrth gwrs, mae hyn oil yn gynwys- edig yn y testyn, ond i gael eu crynhoi i amgylchoedd uniongyrchol yr olygfa a meddylfryd Simeon. Ceir darnau gwir fardd- onol yn y bryddest, a cheir hefyd ambell ddarn pur gvffredin—yn enwedig yn yr arweingerdd. PEDROG. [F gwcddill yr wythnos nesaf]. --o

Nodiadau Cerddorol.

Dewis Emynau.

Advertising