Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
__ Breuddwydiwr.
Breuddwydiwr. SONIR yn fynnych am gyfrwyster a dichell Iddew. Beir neu edmygir ei fedr yn pentyrru golud. Perchir neu condemnir ei allu di- hafal i ymwthio i bob math o gymdeithas. Rhegir neu bendithir ei wydnrwydd di- gyffelyb i oroesi pob erledigaeth. Canmolir neu gwatwarir ei gariad diderfyn at rodres ae ymddanghosiad mewn aur a deimwnt. Ymddiddenir a phopeth yn ei gylch ond am un, sef mai efe yw BREUDDWYDIWR mwyaf byd. Nid ydym yn un o'rrheini a gred fod perthynas deuluaidd rhwng y Cymro a phob rhyw genedl dan haul. Nid oes dim haws i grach-ysgolhaig nae i ysgolor direidus ddangos fod i eiriau a phriod-ddulliau Cymreig eu cyfystyron yn iaith semi cenhedl- oedd hanner barbaraidd Gogleddbarth India neu ganolbarth yr Affric, neu iaith uchel- war cenhedloedd Mesopotamia. Ac nid ydym yn eicr na cheir ambell i gymrawd o Rydychen yn chwerthin rhyngddo ag ef ei hun ar ambell i fore Saboth gwlyb yn ei fwthyn gwledig wrth feddwl fel y mae wedi cam- arwain pobl ddiniwed Cymru gyda'i dermau dyagedig a'i gymhariaethau mwys. Ond pe byddem mewn vatad meddwl i gredu fod Iddew ac Iberiad yn frodyr agos, fe geir un ffaith yn hanes y ddau sydd ar y wyneb yn arwain i grediniaeth felly, sef fod y naill fel y llall yn Freuddwydiwr dyfal. Ni chred neb heddyw amgen nad disgrifiad barddonol, nid liythreimol, a geir yn Genesis am greadigaeth a chwymp dyn. Ond rhaid wrth ddawn breuddwydiol Cymro i ganfod prydferthwch breuddwyd Iddew yn creu gwraig o asen dyn tra yr oedd efe, greadur, yn cysgu'r cwsg ddygodd fwyaf o boen a helynt iddo o unrhyw gwsg ar wyneb daear, gan fod gwraig fynych- af, os nad yn ddraen yn ochr dyn, yn deyrn gormesol ar ei ben, neu yn ystol droed iddo, y naill a'r llall yn arwain i'w ddirywiad. Breuddwydiwr yn unig allai arwain Sarah Grand i ddweyd fod gwraig eiddil yn rhwydd yn gallu temtio dyn, ond nad allai neb ond yr hen fachgen ei hun demtio gwraig. Car- asem ddangos yr elfen freuddwydiol yma fel hyn drwy holl hanes Iddew hyd at D. C. Davies a Rufus Isaacs, ond ymataliwn rhag rhoddi sail i ddarllennwyr y BRYTHON brofi yr hyn a gredir yn ddiameu ganddynt yn barod, fod eydnawsedd hanfodol rhwng Gwiddon" a phreswylwyr lie na enwir gennym.
Trigydd.
Trigydd. Trigydd ydoedd dyn o Iwyth neu ardal arall, yr hwn, pan ddeuai i aros mewn lie nad oedd ganddo ainddiffyniad ei geraint, a roddai ei hun o dan nawdd pennaeth neu Iwyth cymdogol. 0 adeg foreuaf bywyd Semitaidd, cymedrolir di-ddeddfwriaeth y diffaethweh gan yr egwyddor fod bywyd ymwelydd yn sanctaidd. Amddiffynir dyn rhag ei elynion y foment y daw i mewn i babell neu hyd yn oed i gyffwrdd aVliinynau, ac nis gellir ei ddrygu ond ar draul gorchfygu yr holl Iwyth. Dyrchafwyd y gair TRIGYDD o fywyd cym- deithasol i fywyd crefyddol, ac yn y wedd hon edrychid arno yn yr adnod hon. Yn adeg foreuaf crefydd Israel, ystyriai'r Iddew fod ganddo hawl naturiol i arnddiffyniad Duw. Gwelir yr un syniad yn hanes Crist- ionogaeth ymysg ein cenedl ni. Syniad Lladinaidd yw fod breintiau crefyddol yn dod i feddiant dyn drwy ras a thrugaredd swyddogion eglwysig. Syniad Cymreig yd- oedd fod gan ddyn hawl gyfreithlon i'r breintiau hyn, oherwydd ei berthynas a llwyth crefyddol. Olion y syniad yma yw'r dybiaeth fod pob dyn, os na chofrestrir ef mewn unrhyw gangen Anghydffurfiol yn ein gwlad, yn aelod o Eglwys Loegr. Er i'r syniad Iddewig am hawlfraint naturiol dyn i fod o dan nawdd Duw ddal gafael yn y genedl hyd at ddyddiau Crist, a lefeinio llawer o'i ddaliadau crefyddol, cawn mewn adeg ddiweddarach y gred fod dyn yn teithio mewn gwlad- estronol ac yn derbyn popeth o ras penarglwyddiaethol Duw. Felly edrychir arno yn y Salm hon estron ydyw wedi cael ei dderbyn i ffafr Duw. Dyn dyeithr ydyw wedi cael ei wneud yn un o deulu Duw, wedi cael llety ym mhabell Duw. Disgwylid i drigydd mewn pabell Semitaidd gydymffurfio i ryw raddau ag arferion y babell fel dyledswydd oddiwrtho yn cyd- fyned a'r breintiau yr oedd efe yn eu mwyn- hau. Yn y Salm hon edrychir ar Dduw fel Noddwr dyn, ac fe ymholir pa ddyledswyddau sy'n rhwymedig ar y dyn a gymer Duw o dan ei aden.
Preswylydd.
Preswylydd. Pan y gesyd dyn ei hun o dan arnddiffyniad pennaeth, daw i berthynas newydd a'r pennaeth, ond fe ddaw hefyd i berthynas newydd a'r llwyth, ac fe gyfyd dyledswyddau newyddion oddiwrtko tuag at y llwyth, a dyna awgrymir a'r gair preswylydd. Pan y gesyd dyn ei hun o dan arnddiffyniad Duw, daw, mae'n wir, i berthynas newydd a. Duw, ond daw hefyd i berthynas newydd a'i gyd ddyn ion ac o'r berthynas newydd yma fe gyfyd dyledswyddau newyddion tuag at ddynion. Nid wyf yn sicr nad oes eisieu pwyso ar y gwirionedd yma. Esgeulusir ambell i ddyledswydd tuag at frawd neu chwaer grefyddol am ein bod yn sicr y gwnant faddeu i ni.
Perffeithrwydd.I
Perffeithrwydd. Wedi dangos mai dyn da yw'r dyn sy'n dal porthynas neilltuol a Duw ac a dynion gyda dyledswyddau neilltuol, eir ymlaen i fanylu. Y rhinwedd gyntaf a nodir yw perffeithrwydd. Camarweinir ni wrth dybio fod y gair yn cynnwys rhywbeth cadarnhaol. Cydnabyddir y dylid ei gyfieithu dianaf, difai, heb frycheuyn, diargyhoedd, unplyg. Cyfieithir gair o'r un gwreiddyn yn Lef. iii. 1., yn berfleithgwbl. Manylir ar yr ystyr natur- iol yn Deut. xv. 25. Dyn perffaith yw dyn heb anaf na chloffni, nac unrhyw ddrwg anaf ysbrydol arall arno. Dyn perffaith yw'r dyn a rydd ei hun yn llwyr i Dduw heb rannu ei hun rhwng Duw a rhywun arall fel y dywed Iesu Grist Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon." Dyn perffaith yw'r dyn na cheidw ddim yn ol oddiwrth Duw fel Ananias a Sapphria. Y dyn a ddaw i fyny a galwadau Duw fel eu disgrifir yn Deut. xviii. 0 14. Gellir rhyfeddu ar un olwg paham y rhoddir rhinwedd naeaol yn gyntaf, ac y mae'r rhyfeddod yn cynhyddtt pan welir na ddat- blygir y syniad hyd ddiwedd y Salm, Fe geir yr esboniad yn arferion cymdeithasol yr Arabiaid gyda golwg ar drigydd. Er y disgwylid i hwnnw gydymffurfio a defodau ac addoliad ei noddwyr, eto ni ofynnid iddo roddi heibio ddefodau ac addoliad ei Iwyth ei hun, ae ni ddisgwylid iddo ychwaith wneuthur dim a fyddai yn wadiad ar ei fywyd blaenorol. Gallasai yr Iddew feddwl fod Duw fel Noddwr yn debyg i noddwr dynol, ac na ddisgwylid iddo yntau ychwaith dorri ei gysylltiad ag arferion anwyl ganddo er ei fod yn awr o dan nawdd Duw. Yr oedd yn bwysig cywiro camgymeriad felly ar unwaith, a dyna paham y dywedir yn y lie blaenaf Yr hwn a rodia yn berffaith." k
Cyfiawnder.
Cyfiawnder. Nid elfenniad o'r ymadrodd cyntaf yw'r ddwy frawddeg nesaf, ond gwedd arall gadarnhaol ar y cymeriad ddarlunir. Ystyr wreiddiol cyfiawnder yw tyndra neu gadern- id. Rhinwedd yw, gan hynny, drwy yr hon y glýn dyn wrth safon osodedig. Mae gan y llwyth ei safon a pherthyn i'r pennaeth ei ddeddf. Ni chaiff trigydd fyw fel y myn yn ol rheol o'i fympwy ei hun. Rhaid iddo gydymffurfio a safon ei noddwr. Noddwr dyn yw Duw. Mae gan Dduw yntau ei ddeddf. Deddf Duw yw ei gyfamod. Cyf- iawnder, felly, yw cydymffurfiad a chyfamod Duw. .;02
Advertising
y AWR YN BAROD. LLOFflON GRA WNWIN. SEF Cyfrol Goffa y Parchn. WILLIAM ROBERTS, Lerpwl; WILLIAM NICHOL- SON; D. M. JENKINS; H. PARRY THOMAS,eto; HUGH JONES,Birkenhead; a DAVID JOHN, Manchester. Cynwysa y gyfrol ysgrif fywgraffyddol ar bob un o'r brodyr hyn, ynghyda phregeth gan bob un a darluniau rhagorol, dan olygiaeth y Parch. 0. L. ROBERTS, Lerpwl. Pris 2s., trwy y post 2s. 3c. Yr elw arferol i ddosbarthwyr. Pob archebion i'w hanfon i'r awdwr, 7 Hampstead Road, Liverpool. Anfoner yr archebion ar unwaith, gan y oyhoeddir rhestr awn o'r Tanysgrifwyr ar ddiwedd y gyfrol.
Nodion o Fanceinion.
Nodion o Fanceinion. GAN CYFRIN. Yr Hen Gaerfa Rufeinig. HYSBYSAIS fy ymweliad a hi dro yn ol a chredaf mai amserol yw ychydig o'r hanes yn awr, gan fod y llannerch wedi ei chau, a nifer o'r pethau a ddarganfyddwyd yn cael eu harddangos yn Heaton Park. Efallai nad ydynt mor ddyddorol yno ag oeddynt ar eu cynhefin lannerch yn Duke's Place, lie buont er's deunaw can mlynedd. Dyma'r lie, yn ol pob tebyg, y dechreuodd y ddinas fawr hon, adeiladwyd yr hen furiau o wenith- faen coch, cerrig cyffredin y cyffiniau hyn, a dichon mai dyna'r rheswm i'r Derwyddon ei galw yn Gaer Meini." Ar un o'r darnau bathol a ddargaijfyddwyd, mae rhif y fiwydd- yn 80. Glanniodd y Rhufeiniaid ym Mhryd- ain ganrif yn flaenorol, ond cyfnod llawn o frwydrau a rhyfeloedd ydoedd, ac hyd y fiwyddyn 86 bu 30 mlynedd o ryfela caled, am fod Rhufain yn anterth ei gogoniant, ac ymdrechai'r Brythoniaid yn ddewr i ymJid y gelyn i ffwrdd. Nid rhyfedd fod yr ynys wedi ei Uinellu a ffyrdd Rhufeinig ac yn ol haneswyr, ymddengys mai y gaerfa hon oedd canolfan yr holl ffyrdd, yn debyg i seren a phelydrau yn ymestyn ohoni. Ar ddarn arall o arian mae yr enw Adrian," Yn nechreu yr ail ganrif yr oedd ef yn enwog fel gwneuthurwr gwrthgloddiau, a diau iddo gael cyfleustra i adeiladu oherwydd yn y flwyddyn 114 gwnaed cytundeb o heddweh a Trajan, ac felly darfyddodd y rhyfel am ysbaid. Mae ar y llannerch hon sylfaen tri adeilad, heblaw y cadarnfur allanol, ac mae amryw fan drysorau a ddarganfyddwyd yn fynegiant lied glir o gyfnod heddychol. Rhaid fod y ddau ryw wedi bod yn preswylio yn y fan, oblegid deuwyd o hyd i fodrwy merch, gyda charreg werthfaWT ynddi ac yn ddi-doriad, hefyd ddarnau tlysion o freichledau gwydr merch. Petli cyffredin mewn hen olion fel sydd yma yw dod o hyd i wydr ffenestri, ond un darn bychan a wel- wyd, goleulas ei liw, ac un ochr yn arw a'r llall yn llyfn a gloew. Dyna'r modd i adna- bod gwydr Rhufeinig, oblegid tywalltent eu gwydr toddedig i fferu ar garreg wastad, ac felly byddai'r tu isaf yn ddwl a garw. Cloddiwyd allan feirii clo uwchben pyrth, a chawgiau a dysglau cywrain, taclau bronze, pennau picellau, meini melinau byehain, a llechi to o glai llosgedig. Mae dan ddarn o garreg gydag enamel arnynt, o liw tywyll prydferth, wedi cadw ei liw a'i ddisgleirdeb yn berffaith. Mae rhai darnau arian ereill a gaed yn perthyn i'r drydedd ganrif. Un o'r pethau anhawddaf ei egluro yn y lie ydyw y darganfyddiad o lwybr cul islaw sylfeini y muriau, a'i wyneb wedi ei balmantu, & cherrig gogrynion byehain yn gelfyddydol gyda rhesi ochr yn ochr hollol unionsyth ar ymylon allanol y llwybr. Mae y gaerfa yn mesur 175 o latheni petryal, ond oddiwrth y llwybr, gelir tybio fod y llannerch hon yn dramwyfa amser maith cyn i Rufeinwr roddi ei droed ar yr ynys. «Sb Parry a Solomon. Gwr diwyd yw y Barnwr Parry mae yn cyfansoddi darnau chwareyddol eto a llyfr i blant. Caiff gyfle campus yn barhaus yn y llysoedd i astudio'r natur ddynol. Yr wythnos ddiweddaf setlodd achos dyn o'r enw Solomon Solomon, yr hwn a wysiai gwmpeini y relwe am iawn, oherwydd iddo wrth yfed chwisgi yn y Midland Hotel gael darn o wydr i'w wddf, a brifodd ei fys wrth ei dynnu allan. Nid oedd Solomon yn ddigon doeth i adael y chwisgi yn llonydd, ond yr oedd ei ddoethineb yn ddigon i hawlio iawn am frifo ei fys, ac fe gafodd ychydig hefyd. Ond iawn neu beidio, Xvyr dyn ar y ddaear pa ddrygau sydd yn dilyn y ddiod feddwol. Gwell peidio codio hefo hi. Per Emynydd Cymru Nos Sadwrn, yn Gore Street, traddododd y Parch. Tryfan Jones ddarlith ar y testyn yna. Traddododd gyfres o ddarlithiau ar hen emynwyr Cymru yn ystod y gaeaf diweddaf. Mae yn werth dysgu gymaint ellir am ein hemynau, ond y drwg yw mai nifer feelian ohonynt arferir yn gyffredin. Aiff deng mlynedd heibio heb i ambell un gael ei ddarllen yn gyhoeddus o gwbl, a rhaid cael llyfr yn y llaw, a syllu ar bob gair, yn y rhai mwyaf arferedig. Ond dyna'r ffasiwn,- ac mae treio lladd ffasiwn mor anodd a lladd neidr.
Advertising
University College of Ulales, ABERYSTWYTH. Short Courses in Law, A Six-Week's Course of Lectures on English Law will be delivered by Proffesor T. A. LEVI, M.A., B.O.L., at the College, from APRIL 29th to JUNE 8th, 1907. These Lectures are specially adapted for Articled Clerks, and are open to them without payment of fee. Ten Lectures will be delivered each week, namely:- Three on the LAW OF CONTRACT. Two on the LAW of TORT & CRIME. Three on the LAW of REAL AND PERSONAL PROPEREY & Two on the PRINCIPALES of CONVEYANCE. The Lectures will be equally suitable for Intermediate and Final Students, and the students will be entitled to the use of the previleges of other College Students. All applidations for admission to the Course should be directed as soon as pessible to J. H. DAVIES, M.A., Registrar The Well=Known Remedy dI from Wales for dI RHEUMATISM, LUMBAGO, SVIATIOA BACK-ACHE, WEAK CHEST, SORE THROAT, BURNS, OUTS, BRUISES, &c., is MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. Sold in Bottles, 1/li, & 2/6, by Grocers and Chemists, or from the undermentioned Lancashire Represeittative- EDWARD R. HUGHES. 13 St. Michael's Road, Liverpool, S. Agent- LEWIS JOB LEWIS, 20 Verulam St., Lpool. Book of Testimonials, &c., sent Post Free on Application to the Manufacturers- Morris Evans & Co., FESTINIOG, N. WALES 6 7/8aOveRrfon St. Ll VCPDOOl 49 651 Edge lane rVVi 41** REMOVAL CONTRACTORS To or from any distance bd ROAD, RAIL, OR SEA. a Telephones—535 6 536 Royal. Telegrams-" Readiness, Liverpool." ø FIREPROOF Warehouses For Storage of Furniture and Valuables. Telephone-157Y Birkenhead. Er amlder ei gwsmeriaid,—yn siop HUGHES, Pawb gant eu hangenraid Am siwt newydd bydd, heb baid, Frethynwr i Frythoniaid. JOHN HUGHES, Tailor 6 Draper, 24 OXTON ROAD, BIRKENHEAD jflfe Greenman's WSm COMPLETE HOUSE FURN- ISHERS, Credit-Without Hire Agree ment-at Cash Prices. V 491 RICE LANE, WALTON & 72 AIGBURTH ROAD, LIVERPOOL Tel. 6y Walton, & 31y Lark Lane. Tel. 0733 Royal. Established 1884 JOHN LLOYD, -HIGH-CLASS TAILOR- (From T. B. Johnston, Lord St.), 89 HOLT ROAD, COFIANT Y PARCH Edward Morgan, DYFFRYN, GAN Y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A., BOOTLE. Cynhwysa y Cofiant amryw Ddarluniau. Wedi ei rwymo mewn llian. PRIS, 6s. Cyhoeddedig gan Gee a'i Fab, Cyf., Dinbych, ao i'w gael gan yr holl Lyfrwerthwyr. H. PROCTER, F.B.P.S. I I I .) The City Phrenologist, Is a Fellow and Councillor of the British Phrenolog- ical Society (Incor- porated). Holds Six Certificates & Six Gold Medals ior Pro- ficlency In Phrenology and Hand-reading. Mr. Procter has had 35 years' Profession- al Experience in Liverpool.and is now giving Consultations HEALTH, PHRENOLOGY & HANDREADING at 58 Lime St. & 25 Mt. Pleasant :If !iAC"DY V t2/J i !YW Y \.t £ GORtU 4 ■ ■« ■ I I WARVQ OPQCffl ACt FARGEIIiIO AM yroc VAWk, PRAS "S\\U,. XrA KWAO TKWYS Po-at ^OLowH\uv J638 Russell's Chronograph- Massive 18 carat Keyless MAGNIFICENT PRESENTATION (quite new 6 months ago with proof), lD 0uW condition This HIGHEST GRADE ENGLISH FULL HUNTING HBAV* LESS CHRONOMETER LEVER, by .gt. Russell & Son, Makers to the Queen, Ob g0,.e(f Liverpool, with full compensating balance, COMPENSATED TO ALL T^iatlo0 ATURES, adjusted to all positions, within 5 seconds per month, very 0*' perfected class A movement (JEWELt^rrgP; ENDS), 19 FULL VISIBLE SBUftrgf RUBIES, PATENT OVERCOIL BBfiSVap SPRING, patent Keyless UNBREA oolldS MAINSPRING, Chronograph Centre' ieDt- and outside STOP ACTION. A most ^r0nfl ific ally accurate instrument,of sensitive metic capacitv, suitable for EXP^L NAVIGATING AND ASTRONO^^e OBSERVATIONS, Late property of » captain (4oz.) HEAVY SOLID 18ct. HALL MARKED GOLD THROUGH$ a Otll without mark or scratch. Russell's ao years' guarantee accompanies the MONTH'S TRIAL, Security advance go»#d given with above of £ 15. Exchanges to ^()P to any part of the Kingdom. DAVI HIGH-CLASS GOLD HUNTING WAi^, ONE HALF BELOW COST. LOWr1 LIVERPOOL. Telephone 0777 Royal. Davies's Price £16/10/" rId Watches safely despatched to all narts of L21 Gents Gold Keyless SECONDHAND Gents Solid 18 C, t. High-grade Keyless f-plate English bY Full Jewelled Chronometer Lever ^UNf r0v«' this noted London maker, with all recent i v$6 ments, being of the very finest mech^n workmanship of this reputed maker, ijfeti10? known to need comment. Warranted a. jjat and perfect in all detail. Also one /gaiO0 Russell and Son, Church street, Liverpo0 price). New six months ago. Davies's Price, 10 Guinea Russell's Ladies' Just like new, very Strong Keyless Lj;elanOe, lady, full Jewelled Chronometer » oPIf Brequet Spring, and latest improvemea > 8 months old heavy Solid Gold S j0ely thick Cases, damp and dust prooi, p chased makers and our guarantee jt. years. Wonderful bargain, call to g0ut' Month's trial. Cash bade if not as rep ed. Sent on approval. 7/6 Davies's Price,.Fl Every Watoh Offered is a Timek OPe 7 Guinea Gents Russell's solid Silver English Lever. £ !/Ift/6 Very strong, heavy bf aJ/IO/O golid gilver Capped Russell and Son, Church-street, /-pro"* (makers to the Queen) new this year Ljetef to show). High Grade full plate Chroii apd balance, ruby jewelled, Brequet Spr' ?t get latest improvements (the kind that *?0 guft1' out of order easily. Makers' ana o s0\}fi^ antee, 25 years, perfect time-keepertuggell 6 in every respect, month's trial. Also & g$)' secondhand 7 Guinea Silver Hunte sent on approval. Stamped Solid Gold FASHIONABLE GOLD f A Graduated Curb Albert s#L Stamped every link, Hall-marked and GOVERN (Jr^ 62/5/- STAMPED; another 4A 1 uated Curb, now £ 2/9^ ECTION. EVERY CHfJr V RANTED AT SPECIALS* • DUCED PRICES.00 SOLID HEAVY GRADU CURB AND SEALCbestep; CS in the trade).. ,0oJ°A icrkw stamped every link> 0jfb> marked; also D°ubl £$/0 & 2/19/6 £ 2/14/; Double Long also a massive weavj Curb £ 11; now £ 5/12/6. SOLID HEAVY GRAD^cO^ £ 7 CURB ALBERT. G°Jn%.px^0 ■Nrnw stamped every link; A « Double Curb» no?> A no* S £ 3/5/= Double Open Curb, Te&Uj. 1 1 10/ Double Fetter LW> from £ 8 81 to & »/' b, Massive Graduated now iC4 10/- QUI NBA QOLD ^yEDDlNG WIDEST AND HEAVIBST PUR10 GOLD EEDUOBD 7/6 I Ag POUND. FINGER-SIZID CAltD 27/6 RINGS 35/- RINGS I <$fS* NOW NOW I 20s. 25s. I PRESENT OF SUGAR TONCfM? gp0° HALF-DOZEN TEA I L HALF-DOZEN TEA I 30 Low i
Dyn Da.
Dyn Da. Un o freuddwydion mwyaf prydferth a ffrwythlon Iddew oedd ei freuddwyd am ddyn da. Mae gwahaniaeth i'n tyb ni cyd- rhwng gweledigaeth a breuddwyd. Achosir breuddwydion nos gan fyfyrdodau dydd. A phan ddywedir wrthym gan ambell un na fydd efe byth yn breuddwydio, hawdd iawn gennym ei gredu, gan na fedd ddigon o ymenydd i feddwl yn ystod oriau deffro dydd i fod yn sylfaen breuddwydion nos. Un o addewidion y dyfodol disglaer oedd i wawrio ar fyd ydoedd, Eich gwyr ieuainc a welant weledigaethau, eich henuriaid a freuddwydiant freuddwydion." Dynion ieuainc dibrofiad sydd yn adeiladu cestyll yn Spaert--rbaid wrth henafgwr profiadol i freuddwydio, gan mai efe yn unig sydd a'r defnyddiau ganddo yn hanes y gorffennol. Fe geir breuddwydion yr Iddew am ddyn da mewn amryw fannau yn yr Hen Destament: Salm xv., xxiv. 3-5 Esaiah xxiii. 13-16 Micah vi. 6-8. Dat- blygir y syniad helaethaf a llawnaf yn Salm xv., a chredwn os gallwn ddwyn allan feddwl y Salm honno, y byddem yn gwneud gweddol gyfiawnder a'r drychfeddwl Iddewig. Ceir yn gyntaf oil ddisgrifiad o'r hyn a feddylir wrthjddyn da'mewn dwy frawddeg- yr hwn a drig ym mhabell Duw, a'r hwn a breewylia yw mynydd sancteiddrwydd Duw.
Gwirionedd,
Gwirionedd, Cytunir gan bawb fod hwn yn cyfeirio at rywbeth mwy mewnol na dim y soniwyd am dano hyd yn hyn. Gall dyn beidio cydymffurfio a deddfau fit yn allanol yn unig. Gall ufuddhau i ddeddfau sydd yn arwynebol yn unig. Ond am y dyn hwn, gellir ym- ddiried iddo ac ynddo a gall ymddiricd hefyd ynddo ei hun. Mae dweyd a gwneud, meddwl a bod, credu a gweithredu, yr un peth ganddo ac iddo. Nid perthynas allanol a deddfol sydd rhwng hwn a'i noddwr. Datgymalodd ei hun oddiwrth yr hyn fu, a chylymodd ei hun a'r hyn sydd. Nid di- flasdod mympwyol a'r hyn fu a'i harweiniodd i ddarfod a hwynt am yspaid, a phan 61 y diflasdod heibio, denir yntau yn ol atynt. Nid newydd-deb yr hyn sydd a'i dygodd atynt am dymor, a phan beidia y newydd-deb yr atdynnir ef yn ol oddiwrthynt. Na, ond teimla agendor, erbyn hyn, rhwng yr hyn fu a chydnawsedd a'r hyn sydd a drig gydag ef tra y bydd, ac a dderfydd yn unig pan y derfydd yntau a bod. Fe beidia'r dyn gyd- ymffurfio a'r byd, ac fe syrth i mewn a deddf- au Duw drwy fod perthynas ei enaid a'r cyfryw wedi newid. Deuir felly yn y tair brawddeg o'r mwyaf allanol at y mwyaf mewnol, am mai dyna'r drcfn lumesyddol. Datblygir y svniadau hyn yn yr adnodau dilynol, gan ddechreu gyda'r mwyaf mewnol, ac ymestyn at y mwyaf allanol, am mai dyna'r drefn resymegol. Wrth ddilyn gyrfa dyn ar un ochr, ymddatod y mae oddiwrth y byd yn gyntaf, ac ymlynu wrth Dduw yn ail, tra y cymer oes iddo Iwyr ddileu olion cariad at beohod a chynhyrchu perffaith gydymffurfiad a Duw. Wrth olrhain achos ac effaith o'r ochr arall, cariad at Dduw ac awydd berffaith o ran ei natur i gydym- ffurfio a'i gyfraith a draidd drwyddo yn gyntaf, ac a gynhyrcha ynddo nerth i gyf- ly lawni gweithredoedd cyfiawnder ac i ymatal rhag cyflawni gweithredoedd y cnawd. Ychydig iawn o ystyr y mae'r ymadroddion hyn yn eu cyfleu i ddyn cyffredin. Gallai un o'r cyfryw yn rhesymol iawn ddweyd, le, yr wyf yn cydolygu a thi, Salmydd, fod yn rhaid i ddyn da feddu ar bopeth yr wyt wedi ei nodi, ond mi fuaswn yn leicio cael gwybod beth yr wyt ti yn ei feddwl wrth rodio yn berffaith. Carwn ddeall beth yw bod yn gyfiawn, canys nid yr un peth yw cyfiaAvnder i bawb. Hoffwn gael deall pwy yw y dyn geirwir." Mae y Salmydd yn ateb y ewestiynau hyn yn y gweddill o'r Salm, ond oedwn-,ddangos hyn hyd ryw dro arall.
IPULPUDAU MANCHESTER.
PULPUDAU MANCHESTER. SABOTH, MEHEFIN 16, 1907. Y Methodistiaid Calfinaidd. Moss SIDE-10-30 a 6-30, D. D. Williams PENDLETON-10-30, Wyn Roberts, 6,1. J. Williams, Llandderfel HEYWOOD[ST—10-30, I.J.Williams, 6, Wyn Roberts HIGHER ARDWIOK—10-30, 6, Y Wesleyaid. DEWI SANT-10-30, T. P., 6, T Thomas COLLYHURST-IO-30, J. M. Hughes, 6, W. T. Jones SION-IO-30, Cyf. Gweddio, 6, J, M. Hughes BEULAH—10-30, J. D. Owen, 6, T P. CALFARIA-IO30 a 6, E.L. EOOLES-2-0, J. M. Hughes, 6-30, Cyf. Gweddio LEEDS—11 a 6-30, BRADFORD—11 a 6-30 Y Bedyddwyr. UP. MEDLOOK ST—10-30 a 6, J.H.Hughes LONGSIGHT.—10-30 a 6, ROBINS LANE, SUTTON-IO-30 a 5-30, Yr Anibynwyr. BOOTH ST-IO-30, R. Roberts, 6-15, M. Llewelyn CHORLTON RD—10-30, M. Llewelyn, 6, R. Roberts SALFORD—10-30 a 6, W. W. Jones QUEEN'S RD—10-30 a 6, G. Evans FAILSWORTH—10-30 a 6, EOCLEB-IO-30 a 6, Yr Eglwys Sefydledig DEWI SANT—11 a 6-30, H. R. Hughes --0- Yr oedd y cenllusg a ddisgynnodd yn Rossett, ger Gwre^sam, brydnawn dydd Sul diweddaf, o faint marbles. Yr oedd yr anghyfiawnder, y camwri, a'r hunanoldeb a wnai ryfel yn angenrheidiol, yn beth pechadurus ac i'w gashau ond nid oedd y milwr a elai allan i yniladd ac am- ddiffyn ei wlad ddim mwy o bechadur nag ydoedd y plismon a arferai orfod (force) er mwyn cael ufudd-dod i'r gyfraith." Fel yna ebe Eegob Llanelwy wrth bregethu i'r Denbighshire Hussars Imperial Yeomanry y Saboth diweddaf.