Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

__ Breuddwydiwr.

Trigydd.

Preswylydd.

Perffeithrwydd.I

Cyfiawnder.

Advertising

Nodion o Fanceinion.

News
Cite
Share

Nodion o Fanceinion. GAN CYFRIN. Yr Hen Gaerfa Rufeinig. HYSBYSAIS fy ymweliad a hi dro yn ol a chredaf mai amserol yw ychydig o'r hanes yn awr, gan fod y llannerch wedi ei chau, a nifer o'r pethau a ddarganfyddwyd yn cael eu harddangos yn Heaton Park. Efallai nad ydynt mor ddyddorol yno ag oeddynt ar eu cynhefin lannerch yn Duke's Place, lie buont er's deunaw can mlynedd. Dyma'r lie, yn ol pob tebyg, y dechreuodd y ddinas fawr hon, adeiladwyd yr hen furiau o wenith- faen coch, cerrig cyffredin y cyffiniau hyn, a dichon mai dyna'r rheswm i'r Derwyddon ei galw yn Gaer Meini." Ar un o'r darnau bathol a ddargaijfyddwyd, mae rhif y fiwydd- yn 80. Glanniodd y Rhufeiniaid ym Mhryd- ain ganrif yn flaenorol, ond cyfnod llawn o frwydrau a rhyfeloedd ydoedd, ac hyd y fiwyddyn 86 bu 30 mlynedd o ryfela caled, am fod Rhufain yn anterth ei gogoniant, ac ymdrechai'r Brythoniaid yn ddewr i ymJid y gelyn i ffwrdd. Nid rhyfedd fod yr ynys wedi ei Uinellu a ffyrdd Rhufeinig ac yn ol haneswyr, ymddengys mai y gaerfa hon oedd canolfan yr holl ffyrdd, yn debyg i seren a phelydrau yn ymestyn ohoni. Ar ddarn arall o arian mae yr enw Adrian," Yn nechreu yr ail ganrif yr oedd ef yn enwog fel gwneuthurwr gwrthgloddiau, a diau iddo gael cyfleustra i adeiladu oherwydd yn y flwyddyn 114 gwnaed cytundeb o heddweh a Trajan, ac felly darfyddodd y rhyfel am ysbaid. Mae ar y llannerch hon sylfaen tri adeilad, heblaw y cadarnfur allanol, ac mae amryw fan drysorau a ddarganfyddwyd yn fynegiant lied glir o gyfnod heddychol. Rhaid fod y ddau ryw wedi bod yn preswylio yn y fan, oblegid deuwyd o hyd i fodrwy merch, gyda charreg werthfaWT ynddi ac yn ddi-doriad, hefyd ddarnau tlysion o freichledau gwydr merch. Petli cyffredin mewn hen olion fel sydd yma yw dod o hyd i wydr ffenestri, ond un darn bychan a wel- wyd, goleulas ei liw, ac un ochr yn arw a'r llall yn llyfn a gloew. Dyna'r modd i adna- bod gwydr Rhufeinig, oblegid tywalltent eu gwydr toddedig i fferu ar garreg wastad, ac felly byddai'r tu isaf yn ddwl a garw. Cloddiwyd allan feirii clo uwchben pyrth, a chawgiau a dysglau cywrain, taclau bronze, pennau picellau, meini melinau byehain, a llechi to o glai llosgedig. Mae dan ddarn o garreg gydag enamel arnynt, o liw tywyll prydferth, wedi cadw ei liw a'i ddisgleirdeb yn berffaith. Mae rhai darnau arian ereill a gaed yn perthyn i'r drydedd ganrif. Un o'r pethau anhawddaf ei egluro yn y lie ydyw y darganfyddiad o lwybr cul islaw sylfeini y muriau, a'i wyneb wedi ei balmantu, & cherrig gogrynion byehain yn gelfyddydol gyda rhesi ochr yn ochr hollol unionsyth ar ymylon allanol y llwybr. Mae y gaerfa yn mesur 175 o latheni petryal, ond oddiwrth y llwybr, gelir tybio fod y llannerch hon yn dramwyfa amser maith cyn i Rufeinwr roddi ei droed ar yr ynys. «Sb Parry a Solomon. Gwr diwyd yw y Barnwr Parry mae yn cyfansoddi darnau chwareyddol eto a llyfr i blant. Caiff gyfle campus yn barhaus yn y llysoedd i astudio'r natur ddynol. Yr wythnos ddiweddaf setlodd achos dyn o'r enw Solomon Solomon, yr hwn a wysiai gwmpeini y relwe am iawn, oherwydd iddo wrth yfed chwisgi yn y Midland Hotel gael darn o wydr i'w wddf, a brifodd ei fys wrth ei dynnu allan. Nid oedd Solomon yn ddigon doeth i adael y chwisgi yn llonydd, ond yr oedd ei ddoethineb yn ddigon i hawlio iawn am frifo ei fys, ac fe gafodd ychydig hefyd. Ond iawn neu beidio, Xvyr dyn ar y ddaear pa ddrygau sydd yn dilyn y ddiod feddwol. Gwell peidio codio hefo hi. Per Emynydd Cymru Nos Sadwrn, yn Gore Street, traddododd y Parch. Tryfan Jones ddarlith ar y testyn yna. Traddododd gyfres o ddarlithiau ar hen emynwyr Cymru yn ystod y gaeaf diweddaf. Mae yn werth dysgu gymaint ellir am ein hemynau, ond y drwg yw mai nifer feelian ohonynt arferir yn gyffredin. Aiff deng mlynedd heibio heb i ambell un gael ei ddarllen yn gyhoeddus o gwbl, a rhaid cael llyfr yn y llaw, a syllu ar bob gair, yn y rhai mwyaf arferedig. Ond dyna'r ffasiwn,- ac mae treio lladd ffasiwn mor anodd a lladd neidr.

Advertising

Dyn Da.

Gwirionedd,

IPULPUDAU MANCHESTER.