Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
Ye BRYTHON CYMREIG. 9" Sale throughout Cardiganshire and parts of a. ^0unties of Carmartlien and Glamorgan, „lc> sent Post Free for Is. Id. per Quarter at' Per .Half Year, &c., prepaid. The Cl'ltdlt charg is Is. 3d. per Quarter. -0- Scale of Charges for Advertisements. TRADE- 1 Insertion is. per inch (single column) per Insertion. 2 do 6d. do. do. do. 4d. do. do. do. PUBLIC NOTICES and PROPERTY SALEs 4d. per line, per insertion. SALES OF FURNITURE 3d. per line, per insertion GOVERNMENT NOTICES & ELECTION ADDRESSES 6d. per line, per insertion. Cheap Prepaid of the "Wanted Class" 12 ^prds or under, 6d., and a Half-penny for each aduitional word. Three insertions for the price °t two.
Advertising
Ye BRYTHON CYMREIG. Ar werth drwy Geredigion, a rhanau o Siroedd Caerfyrddin a Morgan wg; a. danfonir yn rhad gyda r Post am Is. Id. y Chwarter, 2s. 2d. vi Jianer Blwyddyn, &c., gyda blaendal. Y telerau am goel yw Is. 3d. y chwarter. -0- Tehran am Tfysbysiadav, MASNACHOL— i waith i swllt y fodfedd (ju it golofn) yr wythnos 13CLO 6d. eto eto tic 26 & 52 4d. eto eto t HYSBYFCION CYIIOECDUS, ARWERTHIADAU EIDlJO 4d. y llinell, yr wythnos. ARWERTHIADAU DODEEFN, 3d. y llinell, yr wythuos. RHYBUDDIOX T LLYWODRAETH, ANEBCHION ETHOLIADOL, 6d. y Hinell, yr wythnos. Hysbysiaclau Rhad (gyda blaendal) o ddosbath yr "Yn Eisiau," 12 gair neu lai, Gel., a Dimsi am bob gair ychwanegol. Cyheddir hysbvdaa dair gwaith am bris dwywaith.
Marwolaeth I Lleurwg.1
Marwolaeth I Lleurwg.1 Drwg genym orfod cofnodi hanes mar- wolaeth y Parch John Rbys Morgan (Lleurwg), gweinidog eglwys Seion, Llan- elli, a ddigwyddodd nos Fercher. Yr oedd yn wael er's rhai wythnosau. Yr oedd efe yn un o weinidogion mvyaf adnabyddus y Bedyddwyr yn Nghymru. Cymerodd y gladdedigaeth le ddydd Llun ddiweddaf. Ganwyd Lleurwg ar yr 17eg o Awst, 1822, yn L!ysfaen, Mynwy, ond symudodd ei rieni, pan oedd ef yn ei febyd, i ifermdy o'r enw Maesyfelin, yn mhlwyf Llaneurwg, Mynwy. Yr oedd ei dad yn ddyn o safle a ddylanwad yn yr ardal, nid yn unig fel amaethwr cyfrifol a Jlwyddianrms, ond gan ei fod wedi cael diwylliant uwch na'r cyffredin yatyrid ef yu gyfarwyddwr a I I cbydgborwr ar amrywiol faterion. Treuliodd J. Rhys Morgan boreu oes mewn bywyd amaethyddol. Cafodd yr addysg oreu oedd i'w gael yo. y cylch yr adeg hono, a rhoddodd amlygiadau yn foreu ei fod yn blentyn natur a mab athrylith. Yr cedd ei arabedd, a nwyf- iant ei yspryd, ei dalent, a'i alluoedd meddyliol yn tynu sylw yr ardal. Gwelid mai nid bacbgen cyffredin oedd mab Rhys Morgan, Maesyfelin, a'r dyb gyffradin am dano oedd fod defnyddiau dyn mawrynddo. Y syniad am ddyn mawr y dyddiau hyny oedd pregethwr. Yr oedd diaconiaid eglwys y Bedyddwyr, o'r hon yr oedd yn aelod, yn ddigon llygadog i ganfod athry- lith a chyinhellwyd ef i arfer ei ddawn fel pregethwr. Ufuddhaodd, ac yn y flwyddyn 1742 derbyniwyd ef i athrofa Pontypwl. Ar ddiwedd tymor ei efrydiaefch, derbyn- iodd alwad i Bangor, lie yr ordeiniwyd ef. Daeth yn adnabyddus a chlodfawr yn y cylch hwn yn fuan. Fel yr oedd ei glod yn ymledu, ceisiai rhai o'r eglwysi Seisnig yn Lloegr ei ddenu dros Glawdd Offa. Cafodd alwad i Manceinion, a'r un pryd hefyd cafodd alwad i Aberafon, yn Morganwg. Trodd y fantol o du Aberafon, or y buasai yn fwy o enill arianol iddo pe yr elai i Loegr. Ond byddai hyny yn golled fswr i Gvmru. Yn Aberafon daeth yn fawr ei ddylan- wad a'i boblogrwydd. Derbyniai wahodd- iadau o bob cwr o'r wlad i ddyfod i breg- othu yn uchelwyliau ei enwad. Dyma'r adeg y daeth yn enwog fel Eisteddfodwr. Yr oedd cymaint o'r awen a'r thn Cymreig ynddo fel y tybid y byddai yn fuan y bardd goreu yn Nghymru. Edrychai y frawdol- iaeth farddol arno fel y seren ddisleiriaf yn ffurfafen yr Eisteddfod a'r byd barddon- ol yn Nghymru. Barnai prif feirdd ein gwlad y gallasai Lleurwg fod wedi enill mwy o gadeiriau Eisteddfodol na neb yn Nghymru pe bae wedi rhoi ei fryd ar hyny. Yr oedd barddoniaeth yn berwi drwy ei natur, nid oedd neb yn fwy o feistr ar y mesurau caethion, a gallai englynu mor rhwydd ag anadlu. Cydnabyddid ei allu gan awdurdodau yr Eisteddfod Genedlaeth- ol er's degau o flynyddau, a rhestrid ef yn uchel yn mhlith y beirniaid. Yr esboniad na fu yn fardd cadair genedlaethol er's llawer blwyddyn oodd ei fod o'r farn fod ymroddi i farddoni ar gyfer Eisteddfodau yn dinystrio dyn fel pregethwr. Enillodd nifer o gadeiriau lleol flynyddau yn ol, ond gan fod hyny yn atal gwaith ei fywyd, ym- ataliodd, ac aberthodd y clod a'r cadeiriau ar alior ei rwymedigaeth fel gweinidog. Sieryd hyn gyfrolati am ei lwyr ymgysegr- iad i'w waith, a'i ysbryd htinan-aberthol. Yn 1855, symudodd o Aberafon i Capel Seion, Llanelli, a bu llwyddiant mawr yn coroni ei lafur yn y dref gynyddol hono. Yr oedd yr eglwys yn gymharol fechan pan gymerodd ei gofal, ond gwreiddiodd a bwr- iodd ganghenau ar y dde a'r aswy, a'r eg- lwys yn awr yn gryfach nag erioed. Ar ddiwedd y ddegfed flwydd o'i weinidogaeth yn Llanelli, cafodd dysteb o 50p gan yr eglwys. Bu Lleurwg hyd yn ddiweddar yn y safle uchaf fel golygydd y galloi ei enwad ei osod ynddi. Anrhydeddwyd ef hefyd gan ei eowad drwy ei ddyrchafu yn llywydd Un- deby Bedyddwyr yn y flwyddyn 1878, ac y mae ei anerchiad o Gadair yr Undeb yn un a hir gotir gan y rhai a'i clywsant. Ar- graffwyd hi, a phery yn hir yn un o dry- sorau llenyddol Cymru. Ei destyn ydoedd, Y Beibl yn unig reol ffydd ac ymarwedd. iad.' Y flwyddyn hon hefyd graddiodd ef yn D.D. yn Mhrifysgol Rochester, Unol Dalaethao. Fel darlithydd yr oedd yn un o'r enwocfa a fagodd Cymru. Nid oedd odid neb wedi darlithio cyuifer o weithiau ar wahanol destynau. Nid oedd yr un cwmwd yn Nghymru na fu yno yn darlithio a phre- gethu. Gwnaeth fwy at gynorthwyo eg- lwysi gweiniaid na nemawr un yn in gwlad. Fel dyn nodweddid ef gan onestrwydd trwyadl. Ni chafodd rhagrith lety am eil- iad yn inynwes Dr Morgan. Cashaai ys- bryd llechwraidd a dichellgar a chas per- r flaith. Ar y cyutaf yr oedd ei dduil syml. I plaen, a dirodres yn rhoddi rhyw argraff mai sarug a gerwin oedd ei natur, ond pan y deuid i'w adnabod deuai i'r golwg y dwysder, teimladrwydd, a'r lledneisrwydd tyneraf, oedd fel gwythienau aur yn rhedejj trwy ei galon. Fel pregethwr yr oedd yn ogoniant i'r areithfa, yn dduwinydd dwfn, meddyliwr mawr, ac yn feistr areithyddiaeth. Dech- reuai yn groew a. llais hyglyw ac eglur yna codai yn raddol, ymwresogai, a rhoddai floedd nes ysgwyd y gynulleidfa. Cymerodd ran amlwg a blaenllaw yn mhob mudiad cymdeithaaol a gwleidyddol yn y dref er pan yn byw yn Llanelli. Gwasanaethodd yn fedrus ac yn deilwng ohono ei hun fel llywydd pwyllgor llenydd- ol yr Eisteddfod Genedlaethol yno. Yr oedd yn uchel ei barch a'i ddylanwad trwy y dref, ond nid mwy gan neb na chan ei eglwys yn Nghapel Seion. Yn 1895, ar derfyn ei ddeugeinfed flmydd fel gweinidog yn eu plith, penderfynodd yr eglwys ei an- rhegu a thysteb fel arwydd o'u parch iddo a'u hymlyniad wrtho, ac yn mhen ychydig wythnosau cyflwvnwyd iddo y swm hardd o tua 150p.
TREFILAN.
TREFILAN. CYFARFOD BLYNYDDOL YR YSGOL SULl —Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Ysgo Sul y lie uchod ar ddydd Mawrth, y 27ain cynfisol. Dyma ddiwrnod ag y mae dis- gwyliadau mawrion am dano. Cawn y plant fisoedd cyn hyn yn gloewi eu cof wrth ymroddi i ddarllen, canu, dadleu, ac adrodd. Dyma ddiwrnod hefyd ag y mae beirdd y dyffryn yn ymgodymu a'u gilydd, ac yn wir, chwareu teg iddynt, y maent i fyny a'u caneuon mewn pryd-canenon yn llawn o ddiolch am y tê a'r gacen frith, ac yn britho eu cynyrchion y mae diolch rhoddwraig y tê yn flynyddol, sef Mrs Griffiths, y Gelly, boneddiges ag y canodd un o'r beirdd am dani fel hyn :— Hawdd ydyw clodfori cymeriad mor wyn, Mae'i rhinwedd mor amlwg a dinas ar fryn Naa gellir eu chuddio—fe reda ei chlod Tra Trichrug a Dyffryn yr Aeron yn bod. Yn lied debyg y mae y cyfarfodydd hyn yn cael eu cario yn y blaen o flwyddyn i flwyddyn. Te yn yr ysgoldy am dri yn y prydnawn, mabol-gampau yn canlyn, fel exercise erbyn yr orchest hwyrol, sef y cy- ngherdd, yr hwn a ddechreuir gydag an- erchiad byr i bwrpas, yn llawn addyag a zel dros y gwaith, gan ein rheithor parehus a lIafurns, y Parch T. C. Edmunds, B.A. Ytia rhenir y gwobrwyon i'r ffyddloniaid am y flwyddyn am y cysondeb goreu yn yr ysgol, ac i'r goreuon eu cof am adrodd pen- odau ac adnodau. Dyma waith ag y mae yn bleaer calon i wylipd ein Rheithor mor foddhaus yn gwenu wrth ranu. Os bydd y wobr yn fechan neu yu fawr y mae y gwobrwyedig yn sicr o air o galondid i ail- afael ynddi, ac i wella ar y gorphenol. Wel, yn canlyn hyn y mae rhaglen y cyngerdd, pryd y cawn weld y bardic fraternity yn esgyn y llwyfan i adrodd ar ran yr ysgol y diolch dyledus i bawb, i lawr o'r rhoddwraig haelionus i olehwraig y Ilestri ac eleni, tra yr oedd y beirdd wrthi yn adrodd, wele un ohonynt yn derbyn pellebyr, yr hwn a ddarllen wyd yo uniougyrchol i'r gynulleidfa, yn eu hysbysu fod y Cadfridog Cronje a'i fyddin wedi eu gorddiwes gan Argiwydd Roberts. Os do, dyma floedd nes crynai y nenfwd ac y siglai y parwydydd !—bloedd gwyr yn caru eu gwlad. Wedi i'r brwd- frydedd leddfu, dechreuwyd ar waith y rhaglen—gwaith a barhaodd am yn agos i dair awr o amser felly anhawdd ydyw i mi eowi pawb, ond gallaf ddweyd fod 61 llafur diflino ar y cyfan, a mentraf broffwydo fod dyfodol disglaer iawn yn aros Ysgol Sul Trefilan wrth ganfod yr hwyr yma wahanol alluoedd y to ieuanc—pawb wrthi wrth fodd ei galon. Un gair yn y fan hon. Ai nid hyfryd iawn fuasai gweled dynion a merched wedi tyfu i fyny yn cymeryd mwy o ran yn ngwaith y cyngerdd, fel ag i roddi esiampl i'r to ieoanc i'w efelychu ? Cofus genyf am y gwyliau hyn yn cael sylw neill- duol pawb cyn hyn. Bydded eich gallu- oedd yn gorwedd i ba gyfeiriad bynag, gwnewchddefnydd o'r ddawnsyddgeDych er pleser 'i chwi a'r cwmwd felly y flwyddyn nesaf bydded mwy o'r bob! yn y gwaith. Cyn terfynu y cyfarfod, talodd ein harolyg- wr ffyddlon a llafurus, Mr D. Jones, Pen- Ian, ddiolch gwresog i Mrs Griffiths, y Gelli, am ei haelioni dibali, yn cael ei eilio mewn modd difai gan ein Rheithor, yr hwu a glodforodd Mrs Griffiths yn ol ei haedd- iant, ac i derfynu un o'r cyfarfodydd mwyaf gwresog a gawsom erioed, canwyd gyda brwdfrydedd digyffelyb 'Duw gadwo'r Frenhines' a Han Wlad fy Nhadau,' nes peri i ddyn gofio am ddyddiau y Diwygiad a'r molianu. Meddyliasom na fuasai terfyn ar ail-adrodd y gao, ac wedi myned allan ni chlywid dim ond y bryniau a'r cymoedd yn gydgan i gyd.-LI. O. D.
BETTWS LEIKY,
BETTWS LEIKY, GWLJSDD DE.—Cynhaliwyd yr wyl de flynyddol mewn cysylltiad a'r Ysgol Sul yn y lie uchod, prydnawn dydd Iau, yr 8fed cynfisol. Yr oedd y darpariaethau yn bob- peth ag a allesid ddymuno. Ar ol i bawb fwynhau eu hunain gyda'r danteithion, ym- ddifyrai rhai mewn ehwareuon diniwed, ereill mewn ymgom ddifyr ar brif bynciau y dydd, tra yr oedd y plant yn ymddi- fyru eu hunain trwy ddynwared y Prydein- iaid a'r Boers. Ffurfiasant ddau gwmni, galwent an yn British a'r lIall yn Boers. Gresyn na fuasai milwyr Prydainyn medra gwneyd cystal gwaith yn Neheubarth Affrica ag a wnaeth cwmni'r British yn Bettws Leiky, er na laddwyd ac na chlwyf- wyd neb, dim ond gorfodi'r Boers i ffoi. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod adlon- iadol. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan ein vicar—y Parch Timothy Davies, ac ar- weiniwyd gan y cerddor byd-enwog-Mr J. Gwynfil Davies, Llangeitho. Own na chaniata y golygydd i mi osod cynwysiad y rhaglen yma, gan y llanwai yn agos i golofn gyfan. Tystiolaeth pawb yw mai dyma y cyfarfod goreu fu yma er's blynyddau. Da iawn, blant Bettws Leiky, eich bod yn di- wyllio ac nid dirywio mewn dysg a dawn. 1 fynu bo'r nod,' onite ? Y mae y cyfeillion o'r gwahanol fanau, fuont yn ein cynorthwyo i gynal y cyfarfod, yn teilyngu ein diolchgarwch gwresocaf. Ond, yn benaf, dymunaf ddiolch i'n gwragedd a'r merched haelionus, am roi y fath gefnog- aeth deilwng i blant yr Ysgol,—fel y canodd un o'r beirdd oedd yno :— Nid trip' i Aberaeron Nac Aberystwyth chwaith, Na bara chaws a chwrw, Na ginger brandy braith Ond cawd prydnawn bach hapus, 'Roedd pobpeth yn ei le, Cadd pawh yn lion a serchoii, S;tith Lalvvyn lawn o de. GWILÝM Amos,
Newyddion Cyffredincl.
Newyddion Cyffredincl. Danfonir y Cadfridog Cronje a'r prif garcharorion a ddaliwyd yn Paardeberg Ynys St Helena. Ymddengys fod y rhyfel bron ar ben, toor bel! ag y mae a fyno trigolion y balaeth Rydd, oblegid dengys mynegiad Arglwydd Roberts fod gwyr y Dalaeth Ityd4 yn rhoddi eu harfau i fyny, ya cy'riwys drylliau a Maxims. Dywed go- hebydd o Bloemfontein fod drylliau yn <lyfod i mewn yn gyflymach nag y gallai l'nrhyw law-wneuthurwr eu troi allan, a hyny nid yn unig yn Bloemfontein, ond hefyd ar hyd yr oH o linell y rheilffordd. Y mae eisoes 2,500 o ddrylliau wedi eu rhoddi i fyny. Yn ol y raddfa yma bydd y Dalaeth Rydd heb fyddin o gwbl yn fuan. Ar nos Sabbath, Mawrth 31ain, 1901, y cyfrifiry bobl yn Mhrydain Fawr a'r fwerddon, Mae y Senedd eisoes yn trefnu y rheolau erbyn yr amgylchiad, a dyddorol yw nodi fod pwys arbenig eto i gael ei roddi ar safle y Gymraeg, a'r nifer sy n parbau i'w siarad yn Nghymru. Yn y cyfrifiad diweddaf, yr hyn a wnaed 4deng mlynedd yn ol, rhoddwyd i fewn y tio cyntaf gwestiwn i bawb yn Nghymru a Mynwy, pa un a allenfc siarad Cymraeg ai peidio; ond gan fod nifer fawr wedi camddeall y cwestiwn, ofnir nad oedd yr atebion bob amser yn hollol gywir, a cheisiai rhai pobl ddweyd c nad oedd y cyfrifiad yn gywir. Gan fod pawb erbyn hyn yn gwybod amcan yr ymholiad a wnaed, yr ydym yn hy- derus y bydd i Gymm fod yn barod erbyn y cyfrifiad a wneir y flwyddyn nesaf, i roddi atebion cywir i bob cwes- tiwn a osodid ar restr y cyfrifydd. Dyma fel y safai y cyfrifon am Gymru ar ol cyfrifiad 1801 :-Yu siarad Saesneg yn unig, 759,416; yn siarad Cymraeg yn inig, 508,036; yn siarad Cymraeg a Saesneg, 402,253; dyeithriaid, 3,076 heb ateb, 12,833 babanod dan ddwy- flwydd, 90,791 cyfanrif y bobl, 1,776,405. Yn y papyrau a ddosberthir y flwyddyn nesaf yn Nghymru a Mynwy, bydd yr un cwestiwn eto, ond y tro hwn ni ddisgwylir i'r ateb gyowys plant o dan dair oed. Bydd yn ddyddorol gweled tynged yr iaith yn ol y deng mlynedd diweddaf pa un ai cynyddu ynte llei- hu y mae ei siaradwyr ac er mwyn cael y gwirionedd, hyderwn y gofelir ftna roddi pob mantais i breswylwyr Cy- tiaru fel ag i osgoi yr anhawsderau a brof- wyd ar yr achlysur blaenorol. Dylid Cael allan hefyd pa nifer sy'n siarad Cymraeg yn Lloegr. Mesura Ynys St Helena ddeng milldir o hyd wrth wyth o led, ac mae iddi ar- ^ynebedd 0 saith a deugain o filldiroedd petryal. Mae yn gorwedd rhyw 1,200 milldir oddiwrth ororau gorlIewinol Affrica, ac mae ei phellder o Cape Town yn 1,695 o filldiroedd. Cymer bum' diwrnod neu chwech i age-long fyned 0 Cape Town yno. Y mae enw St Helena, oherwydd cysylltiad Napoleon Bona- parte a hi, yn adnabyddus i bawb o'r bron, Fe gofir fod Napoleon wedi cael ei alltudio i ynys fechan yn Mor y Can- oldir unwaith. Oyn hir efe a lwyddodd 5 i ddiane oddiyno, ae er nad oedd gan- ddo ond ychydig ganlynwyr pun laniodd yn Ffrainc, a phan gyfarfyddodd a'r tyridiu ddanfonasid o Paris i'w ddal, dy- wedodd ychydig eiriau wrth y dynion, a throisant hwythau i gyd yn eu bolau gydag ef, a gosodasant Napoleon (eu 45 hanwylddyn) ar yr orsedd drachefn. Wedi hyny bu yn alluog i gael byddin- oedd cryfion ynghyd, a bu yn peri trafferth a helbul i holl wledydd Ewrop am flynyddau. O'r diwedd, yn 1814, darfu, fel y cofir, i'r Due Wellington ei lwyr orchfygu yn y frwydr fawr ym- laddwyd yn agos i Brussels-ar faes Waterloo. Llwyddodd Napoleon i ddi- anc, ond ar ol bed yn ceisio byw yn Ffrainc ac yn methu cael heddwch yno, ar y 13eg o fis Gorphenaf, 1815, rhodd- odd ei hunan yn Haw y Saeson. A chyda Haw, dyna hanes y rhan fwyaf o'r Ffrancod alltudir o'u gwlad eu hunain edrychant ar Brydain fel y lie goreu iddynt lochesu ac ymgartrefu ynddi ( 'Rwyf wedi dyfod,' meddai Napoleon, fel Themistocle, i dafla fy hunan ar gymwynasgarwch y genedl Seisnig.' Wedi iddo wneyd hyny, y cwestiwn mawr oedd-Beth i wneyd ag ef ? Nid oedd wiw meddwl am ei adaelyn Lloegr. Yr oedd yn rhy agos i Ffrainc. Buasai yn sicr o fod wedi dianc, codi byddin arall, a pheri i ryfel arall dori allan. Bu y Llywodraetl1 yn rhoi ystyriaeth briod- ol i'r cwestiwn dyrus h wn, canys yr oedd yn anodd gwybod lie ar y ddaear fuasai yn ddigon cryf a diogel i gadw dyn mor alluog a Napoleon yn garcharor. Ond y penderfyniad y deuwyd iddo oedd ei fod i gael ei alltudio i St Helena. Yn Nhy y Cyffredin, prydnawn ddydd Mercher, cynygiodd Mr A. Spicer fod Mesur Cau y Tafarnau ar y Sabboth (sir Fynwy), yr hwn oedd yn darparu fod Cyfraith Cau y Tafarnau ar y Sabboth, 1881, yn cael ei heangu fel ag i gynwys sir Fynwy. Cynygiodd Mr W. Tudor Howell fod y mesur yn cael ei wrthod. Cefnogwyd y mesur gan Mr M'Kenna, Syr J. Kennaway, Mr T. Shaw, Mr Orr-Ewing, Mr Tritton, y L!yngesydd Field, ac ereill tra y darfu i Mr Maclean, yr Ucbgadben Jameson, Cadben Phillipotts, a'r Uch- gadben Wyndham-Quin, ei wrthwynebu. Dywedodd Syr W. Harcourt fod pobl sir Fynwy yn mron yn unfryd yn ffafriol i'r mesur. Dywedodd Syr M. White Ridley, yn ngwyneb y safle oedd y Ddirprwyaeth Drwyddedol wedi ei gymeryd i fyny ar y cwestiwn, nad oedd yn meddwl ei bod yn iawn i'r LIywodraeth gynyg unrhyw withwyneb- iad na gwasgu dim ar y Ty er, o'i ran ef ei hun yn bersonol, byddai iddo bleidleisio yn erbyn yr ail-ddarlleniad. Pan ymranwyd, cafodd yr ail-ddarlleniad ei gario trwy 188 o bleidleisiau yn erbyn, 124; mwyafrif dros yr ail- ddarlleniad, 64.
Prlfathrofa Cymru.
Prlfathrofa Cymru. Mae y boneddigion canlynol wedi eu penodi yn arholwyr yn arholiad matricula- tion Prifatbrofa Cymru yn y flwyddyn 1900 :—Latin Prof. E. A. Sonnenschein, M.A., Birmingham E. S. Shuckbuigb, M.A., Cambridge. English Language and the History of England and Wales Prof. A. S. Napier, M.A., Ph.D., Oxford Prof. J. K. Laughton, M. A., Wimbledon. Mathematics G. B, Mathews, M.A., F.R.S., Bangor; Major P. A. MacMahon, R.A., F.R.S., London. Welsh Prif. J. Rhys, M. A., LL.D., Oxford. Greek W. E. Jordan, Cambridge. French H. E. Berthon, B.-es-L., Oxford. German T. Bailey Saunders, M. A., London. Dyna- mics: D. H. Griffiths, M.A., F.R.S., Cambridge. Chemistry F. D. Chattaway, M.A, D.Sc., Ph.D., London. Botany Prof. Reynolds Green, D.Sc., F.R.S.' Cambridge.