Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CoUg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

News
Cite
Share

CoUg Prifysgol Cymru, Aber- ystwyth. Y GYMDEITHAS AMAETBYDDOL. Cynjialiwyd cyfarfod blynyddol y Gym- deithas uchod yn y Ooleg, dydd Gwener, Mawrth 2il, pryd yr oedd tua phedwar ugain a deg o'r aelodau yn bresenol i wrando yr anerchiad blynyddol cyntaf, yr hwn a draddodwyd eleni gan Mr C. Morgan Richardson, Neuadd Wilyro, ger Aberteifi, ar y mudd goreu i fagu gwartheg a cbyrn byrion (shorthorn). Cymerwyd y gadair gan Proffeswr Edward Edwards, A.C., yr hwn a gyflwynodd y darhthydd i'r cyfarfod mewn araeth ffraeth a dest1 us Cafodd y Darhthydd y derbyniad m wyaf serchod a brwdfrydig. Ar ddiwedd yr anerchiad talwyd iddo ddiolcbgarwch gwresocaf y cyfarfod. Mevrn cyfatfod arall a gynhaliwyd yn ddiweddarach yn y prydnawn, cymerwyd y gadair gan y Prifathraw Roberts, llywyddy Gymdeitbas, pryd yr hysbyswyd fod tri-ar-ddeg o draethodau wedi eu derbyn i'r gystadleu- aeth am y tlws (niedal) a gynygiwyd gan y Gymdeitbas. Yr oedd chwech o'r traeth- odau wedi eu hysgrifenu yn Gymraeg a saith yn Saesneg. Y testynau a ddewis wyd i ysgrifenu arnynt ydoedd y rhai canlynol :-(l) Gwarthey duon Cyrnrei- (2) Gwartheg swydd Ilenffordd (3) Gwartheg cyrn byrion (short horn) (4) j Gwartheg gwylltion gwynion Chortley. (5) Arbrawfiadau ar dir, porfa a gwair (6) Y modd i wella fi'eiriau a marchnadoedd Ileol (7) Hen arferion, sydd erbyu hyn wedi eu rhoddi heibio, yn nglyn ag Amaethyddiaeth. Enillwyd y tlwa gan Mr Daniel Williams, Glanrannell, Liansawel, yrhwna ysgrifenood ar y testyn olaf a nodwyd. Darllenwyd papyr gan Mr John Deaville, Chordley Lodge, swydd Staffdrd; darllenwyd papyr ar wartbeg duon Cym reig gan Mr J. B. Owen, Hafod, Llanboidy. Yn yr hwyr, ymgyfarfu yr aelodau j giniawa yn Ngwesty Waterloo, pryd y treuliasant amaer hapus iawn gyda'u gilydd, a chanwyd amryw o ganeuon dyddorol. Dewiswyd y personau canlynol yn swyddogion am y fiwyddyn ddyfodol :— Is-gadeiryddion, Mri D. D. Williams, y Coleg John Roberts, Towyn M. H. Williams, Liansadwrn G. J. Davies, Llanbedr-Pont-Stephen. Trysorydd, Prof. Lewis. Ysgrifenydd cyffredinol, Mr J. Alan Murray. Ysgrifenyddion Ileol Sir Frycheiniog, Mr D. W. Price Sir Gaer- fyrddin, Mr Walter Williams Sir Aber- teifi. Mr D. D. Evans Sir Feirionydd, Mr R. N. Jones; Sir Drefaldwyn. Mr D. M. Wigley: Sir Benfro, Mr John James Swydd Stafford, Mr A. A. Hopwood. Dewiswyd y personau canlynol yn aelodau anrhydeddus o'r Gymdeithas :—Mr James Wilson, darlithydd o'r Amaethyddiaeth yn Mhrifysgol Aberdeen Mr T. H. Middle- t >n, prclieswr mewn Amaethyddiaeth yn Ngoleg Gwyddonol Durham; Mr C. Morgan Richaidson, Aberteifi a Miss Darrell, Coleg Aberystwyth. Derbyniwyd hefyd ddau a deugain o aelodau newyddion gweithgar. Penderfynwyd cynyg y gwobrau canlynol i ymgystadlu am danynt esbyn y flwynddyn nesaf :-Cwpan arian am y cnwd gwreiddiau (root crop) goreu gwobr am y 8wm mwyaf o laeth, o ran mesur ac ansawdd, eir gan un fuwch o fewn y tymor o 36 o wythnosau gwabr am yr ych goreu a besgwyd o fewn yr amser byraf; gwobr am y casgliad goreu, ond heb fod yn fawr, a arddangoair yn y cyfarfod blynyddol nesaf. Gwnaed trefniadau tuag at sicrhau darlithydd i draddoli anerchiad yn y cyfarfodydd blynyddol nesaf.

Advertising

Aberayron a Llanbedr.

Advertising

..s......-RAILWAY TIME TABLE.-MAR.91900