Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

LLANCRANOG.

News
Cite
Share

LLANCRANOG. MARWOLAETH. Oes y mae rhyw gyffyrddiad yn y gair marwolaeth, ag sydd yn treiddio fel trydan drwy'r cyfansoddiad dynol. Y mae einioe-i dyn wedi cyraedd ei fan pellaf yn y gair hwn, ac nid oes dim i ganlyn ymhellach ond syrthio i dir angor- y bedd. Felly tarawyd trigolion Llan- granog a mudandod boreu dydd cyntaf o'r mis hwn, pan taenwyd y newydd fod Mrs E. Evans, Craigydon, wedi huno yn yr angau. Yr oedd er's blynyddau yn cael ei llethu gan ymweliadau disymwth o'r dolur arswydus hwnw, sef clefyd y galon, ond boreu'r dydd cyntaf o'r mis hwn cafwyd hi yn ei gwely wedi huno. Yr oedd y noson gynt yn ei hiechyd arferol. Hebryngwyd ei gweddillion i fynwent henafol Llan- dysilio. Y mae hi wedi myned a thori pob eysylltiad a'r fuchedd hon. Yr oedd yn wraig rinweddol ac o gymeriad dilychwyn a thalai pob un barch diledryw iddi. Bydd yn golled i'r eglwys ar ei hot ac i'r Ysgol Sul, ond 4 Marwolaeth y eyfiawn sydd fendigedig.' A chymerwn wers oddiwrth ymadawiad disymwth ein chwaer, 4 Canys yn yr awr ni thybiom y da w ulab y Dyn.' Tangnefedd i'w gorphwysfa a Duw noddo y perthynasau yn eu galar, hyd nes y cant gyfarfod eto, pryd y bydd hiraeth wedi troi yn llawenydd, a galar wedi troi yn orfoledd.—Tydu. DYDD GWYL DEWI.—Y mae yn hen arferiad bellach gan Eglwyswyr y plwyf hwn i gadw gwyl ar y laf o Fawrth, ac ni bu eleni yn wahanol i arfer. Pan droisom allam am y tro cyntaf y boreu hwnw, gwelwn ar unwaith, er ei bod yn bur foreu, fod yna ryw un wedi bod allan o'm blaen i, canys yr oedd yna fanerau i'w gweled yn barod yma a thraw oddiamgylch i'r Rheithordy, a'r rhai hyny yn siglo eu cynffonnau fel pe yn llawen gyfarch y trigolion oil, ac yn prysur alw yr ugeiniau gwahoddedigion i'r wledd. Troisom i fewn i gegin y Rheithordy, ond och cawsom fraw. Canys meddyliasom ein bod ryw- fodd neu gilydd o dan ddylanwad rhyw gennii, neu wedi dyfod yn ddamweiniol ar draws Aladdin''s Lamp, ac wedi rhwbio hono yn anfwriadol, oblegid meddyliasom yn sicr ein bod yn un o store roome Spiers a Pond, Llundain, ond ar ol cryn dipyn o daeru a gwirio o du Annie a Mary coeliasom mai yn nghegin y Rheithordy yr oeddem wedi'r cyfan. Ond beth sydd i'w feddwl wrth yr e., ti-a supply jma heddyw, Mary fach ?' meddwn i. O, y mae meistr wedi rhoddi gwahoddiad i holl dlodion y plwyf eleni,' meddai hithau Hwra,' meddwn ninau, a ffwrdd a mi i ddweyd y newydd da wrth ereill. Wel, dyna ni wedi myned drwy gytnaint ag a fed rem o'r danteithion yn Troedrhiwgam, ac wedi gorphen a'r sports yn y pare o flaen y Rheithordy, a dyma ni yrwan yn Troed- rhiwgam drachefn yn dechreu derbyn y prizes blynyddol rydd y Rheithor i ffydd- loniaid Ysgol Sul Llangranog ac YRgol Sul Dewi Sant. Yr oedd 29 wedi enill o Langranog a 25 wedi enill o Dewi Sant. Felly gwelir gan fod y list mor faith mai anmhosibl ydyw rhoddi enwau pawb. Ond gallwn ddweyd mai Jani Jones, Penrallt, oedd y goreu am attendio, a Sarah Evans, Llettyrhew, am ddweyd adnodau, &c., yn Llangranog a John Gibson, Penrhiw, am attendio, a Daisy Jones, Holly Bank, am ddweyd adnodau, &c., yn Dewi Sant. Anmhosibl hefyd ydyw rhoddi enwau yr oil o'r rhai gymerodd ran yn y cyngerdd am fod yr items ar y rhaglen yn cyraedd 32, ond gallwn ddweyd ein bod wedi cael ) gwyl ardderchog drwyddi i gyd, heb ddimau o gost i neb o honom, Cafwyd llawer o guro dwylaw, &c., drwy'r cyfarfod, ond dim i gydmaru a'r hyn gafwyd pan gynygiodd y Rheithor cheers &c., i'r Cad- fridogion Roberts, Kitchener, Bnller, WhitR, &c ac yn enwedig pan enwyd y Welsh Regiments, oddigerth efallai pan roddwyd cheers i'r Rheithor a'i wraig hoff am y wledd gawsom ganddynt.—Ioriverth. [Boed i Iorwerth a phob Gohebydd tebyb iddo ymdrechu defnyddio llai o eiriau Saesneg y tro nesaf. Arwydd o wendid mawr mewn ysgrifenydd ydyw peth fel hyn. Cadwer y Gymraeg yn ddilwyr.—

,PE CADER.

ARERPORTH.

LLANARTH.

Y Rhyfel.¡

Men out of Health

II Ye Brython" yn Athrofa…

Cwmni Yswirol y Prudential

Enwogion y Pulpud.