Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
Ye BRYTHON GYMRBIG. th« throughout Cardiganshire and parts of tho bounties of Carmarthen and Glamorgan, 2 Post Free for Is. Id. per Quarter per Half Year, &c., prepaid. The ec«fc charga is Is. 3d. per Quarter. —o— Scale of Charges for Advertisements. .< TRADE— Insertion rs, per inch (single columa) per Insertion. sS A &!• do. do. do. 0«Sa 4d. do. do. do. ^BMC NOTICES and PROPERTY SALES 4d. per line, per insertion. 84LEs OF FURNITURE 3d. per line, per insertion GOYBRNMENT NOTICES & ELECTION ADDRESSES 6d. per line, per insertion. Prepaid of the "Wanted Class" 12 or under* 0d., and a Half-penny for each ^Mltional word. Three insertions for the price
Advertising
Ye BRYTHON CYMREIG, — Ar werth drwy Geredigion, a rhanan o Siroedd Caerfyrddin a Morganwg; a danfonir yn rhad gyda r Post am Is. Id. y Chwarfcer, 23. 2d. yi Haner Blwyddyn, &c., gyda blaendal. Y telerau am goel yw Is. 3d. y chwarter. -WO« ■ IV x Telerau am Hysbysiadau, MASKACHOL- I waith I swllt y fodfedd euts golofn) yr wythnos 3 eto 6d. eto eto eto 26 & 52 4d. eto eto eM HYSBYSION CYHOEDDUS, ARWERTHIADAU EIDDO 4d. y llinell, yr wythnos. ARWERTHIADAU DODREFN, 3d. y llinell, yr wythnos. RHYDUDDION Y LLYWODRAETH, ANERCHION ETHOLIADOL, 6d. y llinell, yr wythnos. Hyshysiadau Ehad (gyda blaendal) o ddosbath yr "Yn Eisiau." 12 gair neu lai, 6d., a Dimei am bob gair ychwanfgol. Cyhpddir hysbyda, dair gwaitli am bris dwywaith.
"Ye Brython" yn Athrofa Trefecca.
"Ye Brython" yn Athrofa Trefecca. ;'i v:.e- (Parlutd.) DeaUaf ddarfod i ryw ysgrifenydd yn un ? bapyrau dyddiol Caerdydd y dydd o'r "ken amlyga ei syndod am i mi ddywedyd yn Un o fy ysgrifau nad oedd Howel Harris pertbyn i enwad y Methodistiaid mai a?lod o Eglwys Loegr ydoedd, a'i fod o ran ei ddaliadau crefyddol a'i ddull yn pregethu J11 fwy na haner Crynwr. Gwnaethnm Oyiw cyffelyb mown 11ecyhoeddus yn flaen- orol, sef ar yr achlysur 0 osod i lawr gareg 4ylfaen Ty Cwrdd newydd i'r Crynwyr yn Landrindod a darfu i rywrai amheu fy Pifrifaldeb y pryd hwnw. Y mae yn bryd 1 tIli bellach i egluro fy hun, a cheisio profi yr hyn faentumiais, neu ynte ei dynu yn Voylle cyntaf dymunwn ddywedyd n'd oedd y Cymdeithasau crefyddol sefydl- wyd ar hyd y wlad yn nyddiau a thrwy Offerynoliaeth Howel Harris wedi ymflurfio 8,1 hunain ya enwad crefyddol o gwbl Yo ystod ei oes ef. Math o gang- henan o'r Eglwysi Plwyfol yr yatyriai y bobl a gyrchent 1 addoli i dai *&nedd, ac i dai cyrddau, y cynulleidfaoedd Den y cymdeithasau hyn. Mae yn wir fod gWyr lleyg, neu bob! heb dderbyn urddau eegobol, yn pregethu iddynt, eithr I cy- ^Shorwyr,' ae nid I pregethwyr,' y gelwid ac yn ddieithriad, offeiriaid o Eglwys r°e?t. oedd yn 4 gweinyddu yr ordinhadau 1(jdynt, a hyny gan amlaf yn y L1ar.au Plwyfol. Nid gwiw ceisio celu y Ifaith "On. Er fod Howel Harris yn uwch o'i ysgwyddau fel pregethwr na braidd neb o'i gydoeswyr, eto i gyd, nid oes haoes iddo ef fedyddio neb na chwaith weinyddu «wper yr Arglwydd. Pan yn siarad neu yu ysgrifenu am dano, ac am bregethwyr cyfeirid at Daniel Rowland, Williams, *^antycelyn, &c fel y Parch Daniel Row- land, y Parch W. Williams eithr y 'Brawd Howel Harris' bob amser. Heblaw hyny, aplod o Eglwys Loegr y desgrifiai efe ei hun 0 i febyd i'w farwolaeth; ao hyd yn nod ar ei gareg fedd cyfeirir ato fel un 'a dderbyn- ,0dd y rhai a geisiasant iachawdwriaeth i'w °y > wrth hyny y cododd teulu yn Nhre- fecca, i ba rai y darfu iddo ffyddlon weini hyd ei ddiwedd, fel dyfal weinidog Duvv, tc aelod cywir 0 Eglwys Loegr.' Pa dyst- laeth ychwanegol sydd eisieu er profi mai J^glwyswr ydoedd o ran proffea beth by nag? ^yfchai efe a'r teulu yn Nhrefecca i Eglwys ^a'garth ar Sul y (Jymundeb, neu ynte ?y<idai offeiriad o Dalgarth yn dyfod atynt 1 Drefecca i weinyddu y Cymun. Pregetbai mhobman, ac yn mya^ pob enwad, a ^ywedirfod iddo roeaaw neillduol yn addol- y Bedyddwyr a'r Annibynwyr a diau ddau enwad hyny fanteisio lIawer drwy weinidogaeth danbaid. Nid oedd gwa- haniaeth ganddo yn mha le nac ar ba ^chlyaur i bregethu, yn enwedig os rhoddid roeaaw neu ganiatad. Eto, nid oes 16mhetiaoth nad oedd Howel Harris ei hun, in wir, luaws o'r rhai oedd yn cydlaforio g ef yn mYilg y Cymdeithasau a elwid yn Cymdeithasau Methodistaidd,' yn rhag- j rtillyd 0 blaid Eglwys Loegr. Ni jyoent o gwbl gydnabod eu hunain Ymneiilduwyr. Yu hyn yr oeddent yo wahanol i'r cymdeithasau sefydlwyd drwy offerynoliaeth John Wesley arfu i Wesley, er iddo barhau yn j\lc fel oiewn cysylltiad a'r Eglwys, rai "^ynyddau cyn ei farwolaeth ffurfio ei 9441YOwyr yn enwad neu sect Ymneillduol, gosod ei hun yn fath o esgob arnynt, tebyg j esgobion y Morafiaid. Hynyyw yn y flwyddyn 1784 cymerodd arno awdurdod esgob i urddo Cynghorwyr neu bre- lleyg yn weinidogion i weinyddu a Swpper yr Arglwydd. 'Arolyg- \Vyr' y g"lwai efe y gweinidogion hyn. Yn 17.86 <4wdurdododd ei bregethwyr i ddefu- Yddio y Llyfr Gweddi Cyffredin yn eu 44ddoliadau neu I wasanaethau., Heblaw hyny, yn 1874 darfu iddo awyddo gweithrod Syfreithiol, drwy ba un y gwnaet,h ddar- Pariaeth ar ol dydd ei farwolaeth, yr hyn Bynaerodd le yn 1791, sef penodi cant o bwaonau (a enwid yn y weithred) pa rai .wm oeddent bregethwyr, ac esbonwyr Gair Sanctaidd Duw, a rhoddi iddynt yr awdurdod hono oedd ganddo ef ei hun i urddo pregethwyr neu weinidogion i wein- yddu yr ordinhadau yn y gwahanol gapcli. Yr oedd hyn i gael ei wneyd yn y Gynadledd Flynyddol, ac os dygwyddai un neu ragor o'r cant yma farw, yr oedd hawl gan y gweJdilf i ethol ereill er gwneyd fyny y nifer gofynol. Gelwid y rhai hyn y 4 Cant cyfreithlon' (legal hundred). Caniateir i gynrychiolwyr etholedig gan y cyfarfodydd talaethol i bresenoli en hunain yn y Gynnadledd, ac hefyd i siarad a phleidleisio, ond nid oes unrhyw benderfyniad i dd'od i rym cyn derbyn cymeradwyaeth y cant cyfreithlon Nid hir y bu y drefn yma mewn bodolaeth cyn achosi tramgwydd oblegid yn mhenrhyw chwe' mlynedd ar ol matwolaeth John Wesley, sef yn 1797 darfu i luaws o bobl ymneillduo oddiwrth y Cyfundeb Wesleyaidd dan arweiniad A. Kilham, am na chaniateid i'w pregethwyr weinyddu yr ordinhadau. Sefydlasant enwad newydd dan yr enw 4 Y Cyfnndeb Newydd,' ac yn y flwyddyn 1895 yr oedd yn perthyn iddo 34,910 0 aelodau a 212 o weinidogion. Ar ol hyn tarddodd amryw enwadau ereill allan o'r Cyfundeb Wesley- aidd, megys y 4 Methodistiaid Cyntefig,' pa rai geisient gynal cyfarfodydd yn y meus- ydd tebyg i gyrddau Wesley a Whitfield, 4 Pregethwyr Cynorthwyol' o'r enwau Clowes a Bourne ddechrouasint yr enwad hwn tua'r flwyddyn 1808. Yn 1895 yr oedd yn perthyn iddo 195,750 o aelodau, 1,115 0 weinidogion, ac 16,567 o bregeth- wyr cynorthwyol. Y Cristionogion Beiblaidd,'canlynwyrpregethwr cynorthwy- ol o'r enw O'Bryan yn Ngbernyw, a ym- giliasant oddiwrth y Cyfundeb Wesleyaidd yn 1815 am na wnae y Gynnadledd ganiatan 1 fenywod bregethu. Yn 1895 rhifant 33,125 o aelodau, a 274 o weini- dogion. Torodd dau enwad arall allan o'r Cyfundeb, yn 1835 a 1848, oherwydd rhywanghydwelediad a'r Gynnadledd, pa rai a unasant a'u gilydd yn 1857 dan yr enw Eglwysi Rhydd y Methodistiaid Uuol, acyn 1895 yr oedd yn perthyn iddynt 85,154 o aelodau a 413 o weinidogion. Ni wnaeth Howel Harris (ra Daniel Itowland o ran hyny), sefydlu enwad o gwbl fel John Wesley ac ereill ar ei ol. Fel y dywedais, Eglwyswr selog iawn oedd oedd Howel Harris drwy ei oes, er ei fod yn pregethu yn addoldai yr Ymneilldnwyr, yu gystal ag mewn tai annedd ac ar hyd y prif ffyrdd a'r caeau,' ac y mae yn dra sicr na ddaeth i'w feddwl erioed i sefydlu enwad crefyddol ar wahan i'r Eglwys Sefydledig. Yn wir y mae profion ei fod wedi gwrtbwynebu pob osgo o eiddo ei bleidwyr yn y cyfeiriad hyny. Eglwys. wraig selog hefyd oedd ei briod, yr hon oedd yn ferch i foneddwr o'r enw Mr Williams y Serin, swydd Faesyfed. Ni ddarfu i'w ferch chwaith byth ymuno a'r Metbodistiaid ar ol iddynt ymgorffori yn enwad. Priododd foneddwr 0 feddyg o'r enw Pritchard 0 Aberhonddu, cyn marwol- aeth ei thad, ac ni fu unrhyw gysylltiad o gwbl rhyngddi a'r Methodistiaid nac a 4 Theulu Trefecca chwaitb. Ni weinyddwyd 'Swper yr Arglwydd' mewn 4 adeilad anghysegredig' gan yr offeiriaid a bregethent i'r Cymdeithasau Methodistaidd cyn 1754, pryd y gtvnaed hyny gan Whitfield yn nghapel Woodstock. Yn 1763 ychwanegwyd dau le arall, sef Capel Newydd, sir Benfro, a Chapel Gwynfil, Llangeitho. Yn 1783 dechreuodd y Parch T. Charles wneyd hyny yn y Bala, ac ar ol marwolaeth Daniel Rowland ychwahegwyd amryw addoldai ereill. Rhaid cofio er hyny nad ystyriai y Method- istiaid eu hunain yn 'enwad hyd yn oed ar ddechreu y ganrif bresenol. Mae o fy mlaen yn awr lyfryn bychan yn dwyn yr enw Rheolau a Dybenion y Cymdeithasau Neillduol yn mhlith y bobl a elwir y Methodistiaid yn Nghymru, a gytunwyd arnynt mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn y Bala, Mehefin 16 a'r 17, 1801. Caerlleon. Argraffwyd gan W. C. Jones, 1801." Yn y Rhaaymadrudd ceir y geiriau caulynol:— 'Nidydym mfwriadol yn ymneillduo, nac yn golygu ein hubain fel Ymueillduwyr oddi- wrth yr Eglwys Sefydledig. 0 ran ein daliadau athraiviaethol yr ydym yn cytuno yn hollol ag Erthyglau egwyddorol Eglwys Loegr yn unig yr ydym yn chwenych gyda phob gostyngeidd- rwydd, yu yr undeb hwnw, y cyliawn ryddid y mae gosodiad a ffurf ragoro'l llywodraeth wladol ein Teyrnas yn ei ganiatau i arferyd pob moddion ysgrythyrol tuag at helaetinx gwybodaeth ° Dduw, a'r hwn a anfonodd efe, lesu Grist a thrwy hyny adeiladu ein gilydd yn y sancteiddiolaf ftydd. Y mae cymaint ag sydd yn ymddangos yn ein liarferiadau crefyddol fet yn tueddl1 at ymneSlduad wedi cymeryd lie ° aiigenrheidrwydd nid ° ddewis- iad. Nid gwneuthur sism na sect na phlaid sydd yn ein golwg na atto Duw !—ond Ile-iad ein gilydd a'n eydwladwyi- Dyna'r nod yr ydym_ yn dymuno cyrc'hu atto trwy bob moddion. Gwyddom yn dda nad yw ein hymddygiad ddim yn foddhaol na chan Eglwys- wyr na clian Ymneiilduwyr, &c." Yn y flwyddyn 1811 y darfu i'r Methn- distiaid dori pob cysylltiad a'r Eglwys Sefydledig, sef pan y darfu iddynt yn Nghymdeithasfaoedd y Bala a Llandilo ben- derfynu ordeinio gweinidogion eu hunain i weinyddu yr 4 ordinhadau.' Mae yn wir iddynt ddechreu y gwaith ryw bymtheg mlynedd yn gynt, sef pan ddechreuasant gofrestru eu tai cyrddau fel addoldai Ym- neillduol, a phan y darfu i'w pregethwyr ofyn am drwyddedau i bregethu, eithr gwnaed hyn oil er amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadan y werin anwybodus, ac nid gyda'r bioriad i ymneiUduo. Ond yn 1811 yr oedd agwedd arall ar y Cyfundeb. Trwy nad oedd digon 0 offeiriaid urddedig Eg- livya Loegr yn foddlawn gweinyddu yr or- dinhadau, a phregethu yn eu haddoldai, penderfynodd y Gymdeithasfa, sef cynrych- iolwyr y Cymdeithasau, wneyd y diffyg i fyny drwy urddo nifer neillduol o'r cy- nghor-vyr' yn weinidogion. Perodd hyn fath 0 ddaeargryn yn y gwersylloedd Methodistaidd. Ymadawodd amryw o'r offeiriaid fu yn eu gwasanaethu yn hollol oddiwrthynt, tra y glynodd ereill, ac o hyn allan edrycbwyd ar y Methodistiaid fel en- wad Ymneillduol ond ni fu Howel Harris erioed yn perthyn iddo ac y mae yn an- hawdd penderfynu pa beth a wnelai pe yn byw yn 1811. Mae sicrwydi iddo wrth. wynebu pob cynyg wnaed yn ei ddyddiau ef yn y cyfeiriad hwn, ac os yw hyny yn sail ddigonol i farnu, credaf mai ymadael a'r Cymdeithasau Methodistaidd a wnelai yn 1811 yn hytrach nac arddel ei hun yn Ymneillduwr. (Tw barhau).
Charles Ashton.
Charles Ashton. Ar y pedwerydd dydd o fis Medi, 1848, rhoddodd merch ddibriod o'r enw Elizabeth Ashton enedigaeth i fab, mewn penty o'r enw Ty'nysarn, Llawr y Glyn, yn mhlwyf Trefeglwys. Saif Ty'nysarn ar dir y Neuadd, tyddyn o gryn faintioli yn y gy- mydogaeth hono. Enw tad y ddywededig Mrs Ashton oedd Charles Ashton, saer maen wrth ei alwedigaeth a galwyd ei wyr dychan ar ei enw ef yn Charles Ashton. Cafodd ei fagu ar aelwyd ei daid yn y lie a nodwyd am ryw hyd ac yr oedd Charles gyda gweithio ei greflt, yn dai ychydig dir, rhyw ddigon bron i gadw dwy fuwch a mochyn, yr hyn oedd gryn dipyn 0 hendwr i deulu bach ar ei lawn hwda. Nid oedd llawer o lawenydd oherwydd ger.i dyn i'r byd y diwrnod hwnw yn ardal Llawr y Glyn. ac ni ddychymygodd neb o drigolion gonest a diniwed y lie y fath bosibllrwydd rhyfedd oedd yn y baban a anesid yn Ty'n- sarn. Yr oedd y ffrwd o effaith a gychwyn- odd allan ar y pryd mor fychan a dibwys yn eu golwg fel nad ymholodd neb gyda fawr 0 ddyddordeb i ba gyfeiriad y cy- chwynai, na pha Ii, na pha fodd, y dybenai ei rhediad yn y byd. Pe buasai rhywun yno yn gwybod y diwedd am dano o'r de- chreu, tebyg ddigon y dywedasai gyda Solomon, 4 Mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na'r byw y rhai sydd yn fyw eto. Gwell na'r ddau yw yr hwn ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin aydd dan haul.' Nid peth dibwys ydyw rhedeg y perygl o fyw dan y cyfrifoldeb o ddyn yn y fuchedd hon. Er yr aflwydd a ddaeth i blant dynion drwy auffawd fawr y cwymp a gymerodd le yn ein hanes y mae, trwy ras Duw, bosibilrwydd ardderchog i fywyd dyn eto. Delir o'i flaeii ragolygon disglaer o anrhydedd a dyrchaf- iad. Ond y mae peryglon hefyd ynglyn a bywyd pob dyn, fel y dylai roddi pob cam yn mlaen gyda gofal a phwyll. Pa mor obeithiol bynag y by'dd mynediad plentyn allan, nis gall lai na bod yn bryder mawr i'r neb sydd yn gofalu am dano ac yn dy- muno ei ddaioni. Peth mawr yw gallu gorphen byw yu y byd yma mewn llawen- ydd gorfoleddu ar ddiwedd brwydr ber- ygiua bywyd fel concwerwr sydd yn beth gogoneddua ond y mae yr anhawsderau y fath, y gelyniou mor lluosog a chryficu, dyn mor ddibrofiad, canlyniad pob camgy- meriad mor alaethua, fel na ddylai neb fod yn uchelfrydig, eithr ofni. Nac ym ffrost- icd yr hwn a wregyso ei arfau, fel yr hwn fydd yn eu diosg.' Yr oedd teulu yr Ashtoniaid yn lluosog yn Sir Drefaldwyn er cyn cof. Nid yw yn hollol hyabya o ba le y daethant yma, ac y mae gwahanol farnau am eu gwreiddyn a'u haniad ac nid af flnau i geisio penderfynu yr hyn y mae hynafiaethwyr yu methu cyd- o!ygu arno. Hynodid amryw ohonynt gan dnedd at lenyddiaeth ac adnabydlid rhai ohonynt fel cerddorion. Un ohonynt hwy ydoedd John Ashton. awdwr dwy don a gyhoeddwyd yn y 4 Llyfr Tonau Cynulleid- faol' gan leuan Gwyllt, o'r enw I Trefeg- lwys a 4 Llanbrynmair a thonau rhagorol ydynt. Bu llawer o'r tylwyth yma yn ffyddlawn a def nyddiol gyda chrefydd mewn gwahanol gylchoedd. Nid oedd un achos i'r lienor Charles Ashton gywiiyddio oher- wydd eidylwyth nid oedd y graig y nadd- wyd ef ohoni yn un diraddiad arno. Prin a chyffredin oedd mauteision addyagyn nghy- mydogaeth Llawr y Glyn yn nyddiau mebyd Charles Ashtcn ac yr oedd y trig olion yn teimlo yn ddigon comfforddus yn ngwyneb hyny. Cedwid ysgol ar y pryd bo') yn ail chwarter yn nghapel y Wesley- aid a chapel y Methodistiaid, gan frawd nad oedd yn meddu y cymhwysderau uchaf, a dwed y Ileiaf, i'w alwedigaeth. I'r ysgol hon yr anfonwyd Charles yn fachgen wyth eed, ac arosodd yno am bedair blynedd. Nid oedd neb yn proffwydo dyfodol uchel iddo y pryd hwnw, er ei fod yn dysgu yn lied gyflym a didrafferth. Yr oedd ynddo awydd am addysg; a gofidiai oherwydd gadael yr ysgol mor fuan. Pan yn un ar-ddeg oed aeth i'r Dylifau, gwaith plwm cyfagos, ar dorfyn plwyfydd Trefeglwys, Llanbrynmair, a Darowen a chafodd waith yno gyda'r rhai oedd yn golchi y plwm. Nid oedd yn hoffi ei le yn fawr yno ond y mae yn debyg fod hyny i'w briodoli i'r ffaith fod y gwaith yn anghydnaws a'i natur, yn fwy nag i ddiogi. Ofnid a darogeuid y tyfai i fyny yn fachgen diles. Pan yr aeth un brawd i'w gynghori, gan ddatgan yr ofnau a gol. eddid yn ei gylch, ffromodd yn fawr a dy- wedodd nad allai rhai pobl brisio dim ond gwaith corff. ond fod rhyw waith uwch na hwnw yn bod a bod rhai wedi eu tori allau i hwnw. Drwy hyn dangosai yn fach- gen ei fod wedi gosod ei fryd ar rywbeth amgen na dilyn ei waith fel llafurwr wrth y dydd. Ceiaiodd yn daer gan ei fam y pryd hwn ei gynorthwyo i gael ychydig ysgol, i gyfaddasu ei hun i lanw rhyw gylch uwch na'r un yr oedd ynddo yn awr, Yr oedd hithau ar y pryd wedi priodi, ac yn dechreu myned yn deulu. Ac er fod ei phriod, Daniel Davies, yn weithiwr da, nid oedd yr amaethwyr yn rhorldi iddo fwy o gyflog nag wythswllt yn yr wythnos a'i fwyd. Dan yr amgylchiadau, nis gallai ei fam weled ei ffordd i gynorthwyo Charles i gael ysgol. Digiodd yn anfaddeuol wrthi oherwydd hyny, ac ni ddangosodd tuag ati y teimlad o dynerwch a pharch a ddylasai hyd ddydd ei marwolaeth dywedai perthynas iddo y siaradai am dani wrtho ef gyda theimlad o greulondeb o'r herwydd. Ystyriai ef iddi wneyd cam ag ef trwy wrthod ei gais. Y mae ei wendid a'i nerth, ei ddiffyg a'i ragor- ( iaeth, elfenau ei aflwydd a'i ddyrchafiad, [ i'w gweled yn lied amlwg yn yr hanesyn [ hwn. Diffyg mawr ei fywyd oedd hunan- garweh. Pa mor llwyddianus bynag y gallodd guddio hyn oddiwrth ei gyfeillion, yr oedd hi ynddo yn duedd lywodraethol ei holl fywyd. Cai ereill aberthu a fynent er ei fwvn ef; ond ni wnai efe fawr er mwyn neb, ond yn yr oIwg ar ryw ad-daliad iddo ei hun am hyny ac fel y dywed yr ben fardd- Nid hael, hael er cael ced.' Oddiar deimlad o hunangarwch mynai ef i'w fam wasgu ei hun a tholli ar gysuron, os nad angenrheidiau, ei theulu er ei fwyn ef. Yr oedd ei gais yn afresyraol a di- deitnlttd ac yr oedd ei waith yn dal dig ati drwy y blynyddoedd am ei wrthod, yn an- nynol. Yr unig beth canmoladwy yn hyn ydyw ei awydd angerddol am addyag a gwybodaeth. Yr awydd yma, gydag ewyllyi gref, ydyw y rheswm am ei holl lwyddiant. Medrai ei ewyllys orchymyn hyd warog- aeth ac yr oedd yn rhaid i bob gallu a phob nwyd oedd ynddo ufuddhau iddi. Yr oedd yn benderfynol anghyffredin ac oni buasai am hyn ni enillasai dyn o'i gyrj haeddiadau naturiol ef, dan y fath amgylch- iadau, y safle uchel 0 enwogrwydd oedd iddo fel awdwr a Ilanor.-O Geninen Gwyl De iv i.'
Cymdeithas y Prudential.
Cymdeithas y Prudential. Mewn colofn arall yn y rhifyn hwn ym. ddengys mantolen flynyddol Cymdeithas Y swiriol enwog y Prudential, a chynghorwn bawb sydd yn cymeryd dyddordeb mewn yswiriaeth i'w hastudio yn fanwl, ac yna rhwymir hwy i gredu fod y 4 Pru' yn hollol ar ei phen ei hun mewn nerth cyfoeth a gonestrwydd yn nygiad yn mlaen ei gwaith mawr. Ymestyn ei chortynau y mae wedi wneyd y flwyddyn ddiweddaf, fel arfer. Y mae y Gymdeithas eleui yn werth 3,232,351p yn fwy na'r Hynedd. A chyn- ydd aruthrol welir yn mhob cangeno waith y Gymdeithas. Y goruchwyliwr tlleol yw Mr Williams, Waterloo Villa, Waterloo Terrace, Caerfyrddin Mr D. Thomaa, 21, The Avenue, eto; i a Mr J. Daron Jones, 3, Lewia Terrace, Llandilo, a da genym alio ei longyfarch ef a'i staff ar eu llwydd- iant parhaus. Allan o ryw 25ain 0 Raudir- oedd yn Neheubarth Cymru. Caerfyrddin oedd y 7fed ar y rhestr eleni. Mae y Cwmni yn awr yn caniatau policies rhyddion ar ol talu premiums am 25iin o flynyddaa.
At Olygydd YE BR-YTHON.
At Olygydd YE BR-YTHON. SYR,—Caniatewch i mi ychydig ofod I roi gair neu ddau o atebiad i ysgrif yn eich rhifyn diweddaf o eiddo un sydd wedi beiddio galw ei hun yn Coedmon '—mor annharawiadol yw yr enw i'w osod wrth y fath surni dichellgar heb yr un pwrpas gauddo ond ceisio diraddio dyn ieuanc sydd yn ceisio dringo i fyny i.e., y mae yr amcan yn eglur drwy ei fod yn defnyddio yr Argnmenturn ad hominem mor gryf yr hyn sydd yn brawf dieithriad yn ol elfenaa rhesymeg fod y cane yn ddisail. Nid rhyfedd fod Mr Edwards heb ei ateb yr eiddil, ceisied ddysgu bod yn fwy eang- frydig. A yw yn meddwl nad oea neb ond efe yn gwybod fod yua ddwy ffordd i 8illebu y prifenwau a nododd yn ei ysgrif, ac pad oedd yn bosibl i Mr Edwards roddi credit am bob un o'r ddwy ffordd ? Terfynaf gyda gair o gyngor i Caedmon' i aros hyd y bydd iddo gael achos mwy tellwng er ymarfer ysgrifenu i'r wasg, a'i annog i feithrin dyfalbarhad gydag yagrifentt Cymraeg. Efeall y bydd i'w ymdrechion droi allan yn fwy llwyddiatius y tro neaaf. Ydwyf, &c., Sxos QUILT,