Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
Ye BRYTHON GYMRBIG. On Sale throughout Cai-diganshire and parts of wi6 Counties of Carmarthen and Glamorgan, „nc* sent Post Free for Is. Id. per Quarter 8. 2d. per Half Year, &c., prepaid. The credit charge is Is. 3d. per Quarter. -0- Scale of Charges for Advertisements. TRADE- 1 Insertion is. per inch (single column) per Insertion. I] do 6d. do. do. do. & 52 4d. do. do. do. PUBLIC NOTICES and PROPERTY SALES 4d. per line, per insertion. SALES OF FURNITURE 3d. per line, per insertion GOVERNMENT NOTICES & ELECTION ADDRESSES 6d. per line, per insertion. Cheap Prepaid of the "Wanted Class" 12 ^tds or under, 6d., and a Half-penny for each word. Three insertions for the price of two.
Advertising
Ye BRYTHON CYMREIG, Ar werth drwy Geredigion, a rhanau o Siroedd Caerryrddm a Morganwg; a danfonir yn rhad f>'da r am Is. Id. y Chwarter, 2s. 2d. yi ilaner Llwyddyn, &c., gyda blaendal. Y telerau am goel yw Is. 3d. y chwarter. -0- Telerau am Tlysbysiadav-, MASNACHOL— i waith i swllt y fodfedd QUI1 golofn) yr wythnos 13 eto 6d. eto eto etc 26 & 52 4d. eto eto eto HVSBTSION Ci-HOEDDUS, ARWERTHIADAU ElDDO 4d. y llinell, yr wythnos. ARWERTHIADAU DODREFN, 3d. y llinell, yr wythnos. RHYBUDDION Y LLYWODHAETH, ANERCHION ETHOLIADOL, 6d. y Ilinell, yr wythnos. Hysbysiadau Rhad (gyda blaendal) o ddo^bath yr Yil Eisiau," 12 gair neu ki, 6d., a Dimsi am bob gair ychwanegol. Gyhoddir li ysbyda-* dair gwaith am bris dwywaith.
Newyddion Cyffredinol.
Newyddion Cyffredinol. Amcangyfrifir traul Cymru yn 1899 4r addysg ganolraddol yn 874,6lip. Y mae Dr Mostyn, Wrocsam, esgob 0 lqenevia a ficer apostolig Cymru, a newydd gael ei ethol yn un 0 is- gadeiryddion Cymdeithas Anrhydeddus y Oymmrodorion. Drwg genym ddeall fod Moelwyn, y "ardd-bregethwr o Aberteifi, yr hwn a fu er's peth amser yn dilyn ei efryd- laethau yn Leipzic, wedi bod yn hynod aelyn y ddinas hono am y dau ns diweddaf, ac yn analluog i weithio. 1 Rhoddodd gwraig i lafurwr yn Lloear elledigaeth i dri o blant yr wythnos ddi- Weddaf. Buont feirw cyn eu cofrestru pe buasent yn fyw, adnabyddesid hwy "virth yr enwau Roberts Jenkins,' Buller Jenkins, a Tugela Jenkins.' Diau fod ymhlith ein darllenwyr gryn lawer a fuont ryw dro neu gilydd ar ben yr Wyddfa fawr. Y mae yr Wyddfa yn 3,571 o droedfeddi o uchder. Pan y dywedwn fod Spion Kop yn 4,000 o droedfeddi, gellir amgyffred i raddau yr CY aGhawsderau sydd gan ein milwyr i tytted drostynt yn Neheudir Affrica. Dan ewyllys y diweddar Syr Henry Tate, Barwnig, gadewir y swm o 100,000p i'w ferch, Mrs Isolina Gse, a'i phlant. Gwraig yw Mrs Gee i Mr 0 Thomas Gee, Lerpwl, mab y diweddar Ur Thomas Gee, Dinbych. Gadawodd y trancedig hefyd y swm o 200p i'w ys- grifenydd cyfrinachol, Mr Wm. Hughes, yr hwn sydd yn frodor o Ddinbych. Dydd Sadwrn derbyniodd y Parch G. Ceidiog Roberts, Llanllyfni, lythyr oddi- wrth ei frawd, y Parch T. J. Lloyd, Johannesburg, ei fod wedi cyraedd Llundain ar y diwrnod blaenorol. Cychwynodd o Johannesburg ar yr lleg 0 Ionawr, gan deithio i Delagoa Bay a glanio yn Naples, yna ar draws Cyfandir Ewrop i Lundain. Yr oedd Mr Lloyd Yo weinidog hynod o barchus a mawr ei ddylanwad ar eglwys gyfoethog a lluosog Perthynol i'r Presbyteriaid Seisnig yn Johannesburg, ac wedi aros yno am ei |od yu ddeiliad o lywodraeth America, He bu yn gvreinidogaethu yn mysg y Gyrnry a'r Americaniaid am ddeuddeng tnlynedd. Derbyniodd alwad i dd'od i bwysig perthynol i'r Presbyter- laid yn Newcastle, Lloegr, ac oddiyno, dan nawdd Synod y Presbyteriaid, aeth 1 Ddeheudir Affrica. Ar ol llwyddiant ein harfau yn Neheu- dir Affrica yr wythuos ddiweddaf y mae ttewyddiaduron y Cyfandir wedi newid eu ton yn rhyfeddol am y wlad hon. Geilw newyddiaduron Awstria arnom i ddangos ysbryd mawrfrydig yn awr ar ein goruchaflaeth-y gallwn fforddio gwneyd hyny, gan fod ein nerth wedi ei brofi i'r fath raddau fel na faidd unrhyw Wlad gynyg ymosod arnom. Yn mhlith yr Ellmyniaid daeth y newydd am ym- ostyngiad Cronje fel siomedigaeth ddir- Y mae y papyrau Ffrengig yn UQ'iel eu clod am wrhydri y Prydeiniaid, a chan fod Prydaiu Fawr o'r diwedd Wedi dial Majuba, mai ei lie hi ydyw cy- lueryd y cam cyntaf tuag at adfer hedd- web. Swm a sylwedd barn y Wasg Americanaidd ydyw-, Roberts y gorch- fygwr, a Cronje yr arwr.' Gwelwn fod yr Haul a'r Goleuad wedi dyfod i wrthdarawiad A'ti gilydd y dydd o'r blaen. Ymddengys ddarfod i'r Haul gyhuddo gweinidogion yr Hen Gorff o gydymdeimlo yn eithafol a'r Boeriaid. Ateba y Goleuad y cyhudd- iad yn y geiriau a ganlyn Y mae yr Haul yn gyffredin yn esgeulus yn y mater o gywirdeb, ac fel rheol gwna ei ymddangosiad fis ar ol ei amser. Parthed y cyhuddiad arbenig hwn, y mae mor bell oddiwrth y gwirionedd ag y dichon iddo fod. Methn yr ysgrifen- ydd ganfod safbwynt y rhai sydd yn wrthwynebol i'r rhyfel hwn.' Mewn paragraff arall hysbysa y Goleuad fod Mr Philip: Watkins, yr bwn a fu un adeg yn bregejthwr mewn cysylitiad a Chyfarfod Misol Sir Fynwy, yn mhlith y rhai sydd yn awr yn ymladd y Boer- iaid. Yr oedd y gwasanaeth a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol St Paul, Llundain, er dathlu coffadwriaeth Dewi Sint, yn un o'r rhai mwyaf tarawiadol a gynhal- iwyd erioed yn Llundain. Cyfrifid fod y gynulleidfa yn rhifo agos i 13,000. Y peth mwyaf tarawiadol yn y gwasanaeth ydoedd deuddeg o delynau yn cael eu chwareu gan ddeuddeg o foneddigesau, o 9 n dan arweinyddiaeth Mr Jolin Thomas, yr hyn a barodd gryn lawer o ddyddor- deb, nid yn unig mewn cylchoedd eg- Iwysig ond hefyd mewn cylchoedd cerdd- orol yn Llundain yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Dychweliad at yr hen drefn o gyfeiliant offerynol a arferid yn nydd- iau y Beibl ydoedd hyn, ac yr oedd yr hysbysiad nad arferwyd telynau erioed er dyddiau Solomon mewn gwasarraeth Dwyfol yn gwneyd yr achlysui yn un nodedig. Mor rhagorol ydoedd yr effaith fel y mae yn dra annhebyg y bydd i unrbyw uchelwyl ddyfodol fod heb y fath gynorthwy prydferth i addoliad Dwyfol, ond y bydd i lawer 0 eglwysi ddilyn yr esiampl a osodwyd yn Eglwys Gadeiriol St Paul.
Y Trychlneb yn y Wladfa Cymreig.
Y Trychlneb yn y Wladfa Cymreig. Parha y cyfraniadau at wneyd fyny golled y Gwladfawyr oherwydd gorlifiad yr afon i dd'od i law y Trysorydd, Mr Snead Williams, manager, National Provincial Bank, Castelluewydd Emlyn; er fod casgliadau ereill wedi rhwystro lluaws o eglwysi i wneyd yr hyn ddymuneut. Hyderir y gwna y gweinidogion a'r blaenor- iaid osod yr achos 0 flaen y gwahanol gynulletdfaoedd ar nnwaith, a danfon y casgliadau i Mr Williams. Wele restr o'r rhai dderbyniwyd yn ddiweddar — h s. c. Symiau gydnabyddwyd yn fUenorol 65 13 11 Castle Street, Llatidain (B.) 2 2 0 Llanwrtyd (T.O.) 3 11 7 Cadoxton (T.C.) 0 16 4 Capel SuI Cyd weli (A.) 1 7 0 Alr T. Isaac 1 0 0 Saron, Llangeler (A.) 1 0 6 Soar, Merthyr Tydfil (A.) 1 18 0 Mr T. H. Williams, Y.H., Gwaelodygarth 1 0 0 Parch T. H. Symond, Towyn. 1 1 0 Mr Lloyd Morgan, A.S. 0 10 0 Calfaria, Iiirgoed (A.) 0 15 0 Carmel, Taugrisiau, Ffestimog (A.) 2 1 2 Trerhondda, Ferndale 1 9 2 Bethel, Aberdar 1 14 6 j £ 86 0 2
'Ceninen Gwyl Dewi.'
'Ceninen Gwyl Dewi.' Cynhwys-T. E. Ellis; gan y Parch Rhys J. Huws. Charles Ashton gan y Parch Evan Davies. Ceulanydd gan Frynfab. Y Parch Thomas Roberts, Jerusalem; gan y Parch Richard Humphreys. Dewi Sant: Can gan Ddyfnalit. Gwyl a Gwaith: Can Gwyl Ddewi gan Eifion Wyn. Atgofion am y Parchedig Richard Humphreys Morgan, M.A. gan y Parch J. Puleston Jones, M. A. Dewi Sant: Can; gln Lifon. Gwyl Dewi Sant Can gan Armonydd. Adgofion am yr Eglwysbach -gan Gadvan. Goleufryn; gan Mr John Evan Roberts, Maer Bangor. Y Parch Robert Roberts, Llangeitho gan y Parch Lewis Edwards, c' D.D. Can Gwyl Dewi; gan Huwco Pen- maen. Y Gwir Barchedig Daniel Lewis Lloyd (Llwyd o Lan Llethi) gan y Parch T. II. Hughes. Y Parch John William,4, Y Rhos; gan y Parch H. Uernyw Wil- liams. Y Parch T. James, M.A. gan y Parch J. E. Davies, M.A. Adgofion am Geulanydd gan y Parchn Charles Davies a David Adams, B. A. (Hawen). Nicholas Bennett (Trefnan) gan Mr R. Willfams, F.R.Hist.S. Cofio'r Tadau; gan Mr Robert Bryan. Yr Anrhydeddus T. L. Hughes; gan y Parch W. Ryle Davies. Ehedydd lal; gan y Parch Ben Davies. John Rvans (Eglwysbach) gan y Parch John Thomas, M.A. Adgofion am y Parch Rowland Hughes gan y Parch Owen Williams. loan Glan Lledr: Byr Gofion gan Elis o'r Nant. Caneuon, Eoglynion, &c. Gan Ferw, Rhuddfryn, Grugog, lolo Caernarfon, loan Brothen, Ap Cledwen, leuan Ionawr, loan Glan Menai, Ap Cerediglon, Gwilym Llafar, Menaifab, J. J. Ty'nybraich, Gwalchmai, GwiJym Deudraeth, Peirianydd, Ap Gwalia, Mr Hywel Williams, Mr R. Ingram, Mr John Jones, Gwilym Dyfi, Mr J. Crawnon Jones, G.T.S.C., Croesfryn, Mr E. O. Jones, Glan Pair, Glan Tecwyn, Mr Owen Hughes, Mr R. J. Rowlands, Dewi Orwig, Gwyllteiriog, Dinlle, Eifion Wyn, Mr R. E. Jones, Mr John Jones, Elihu, Eifionydd, Trebor Aled, Iolo Tir Iarll.
LLANDYSSUL.
LLANDYSSUL. LLYS YR YNADON.—Gynhaliwyd yn y Perth Hotel, Llandyssul, ar yr 28ain cyn- fisol. Yr oedd yn bresenol Mri John Pugh Vaughan Pryse, Milwriad Lewes, Llys- newydd Cadben Stewart, A. H. Jones, D. J. Lloyd, T. Davies, Parch W. James, B.A., a'r Parch Thomas Thomas.—Cyhudd- odd yr Heddgeidwad Bowen, Peucader, Evan Davies, Alltfechan-terrace, Pencader; John Evans, cigydd, Pencader; David Powell, gM.ehydd, Powell Castle, Llanfi- hangel Alice Davies, Shop, Pencader; Henry James, Llwynglas, Llanllwni; John Evans, LHwcoed, Llanybyther David Edward-, Black Lion, Llanybyther a Daniel Edwards, Troedrhiwfer, Pencader, o ganiatau iw cwn fod mewn lleoedd ey- hoeddus heb eu safnrwymo. Dirwywyd hwy i 60 yr un a'r costati.-Cafodd David Davies, Gwargraig, Llanybyther, a John Jones, Llandyssul, eu dirwyo i Is yr un a'r costau am beidio cadw goleuni ar eu cer- bydau yn ol deddfau Heol Siroedd Caer- fyrddin ac Aberteifi.-Cyhuddwyd John Jones, Albion Arms, Glanduar, gan yr Heddgeidwad W. G. Morgan, Llanybyther, o gadw ei westy yn agored ar y Sul yn groes i Ddeddfau CauTafarndai ar y Sul yn Nghymru. Dirwywyd ef i 20s, a Evan Davies, y saer, i 2s 6s a'r costau am fod yn y gwesty.-Cyhuddodd Thomas Williams, porter yn ngorsaf Llanybyther, Thomas Evans, Blaenpant, o ymosod arno a'i guro. Ymddangosodd Mr Stanley Griffith-Jones, bargyfreithiwr, Aberystwyth, dros yr achwynydd. Dirwywyd ef i 20i.-Cyhudd- odd yr Heddgeidwad Lewis, Llandyssul, Rachel Simister, 3, Horse Shoe, Llandys- sul, o gynyg gwneuthur hunanladdiad drwy gymeryd methylated spirits ar yr 20fed cyn- tisol. Rhyddhawyd hi ar yr atnod fod i'w thad a'i phriod gymeryd gofal ohoni.— Rhoddwyd caniatad i Mr A. E. Smith, Porth Hotel, i gadw ei westy yn agored hyd 12 o'r gloch y laf o Fawrth, oblegid y byddai ciniaw coffadwriaethol am Dewi Sant yno y noson hono. RHEDEGFA CEFFYLAU. Cymerodd yr ymdrechfa flynyddol hon le eleni ar yr 28iin cynfisol-y trotian yn nghaeau Aber- cerdin, a'r neidio a'r carlamu yn nghaeau Maries Head Hotel. Yrymdrech llaenaf oedd trotian i geftylau heb fod dros dair blwydd oed, a merlynod dan 13 dyrnfedd. Pellder oddeutu milldir a haner. Gwobr fiaenaf, 1p; ail, 10s. 1, Mr Rowlands, Caerfyrddin 2, Mr Evans, Gyfeile, Llan- dyssul 3, Mr Davies, Penlan-noeth, Llan- dyssul. Trotian, agored i bob math o geffylau pellder, milldir a haner. Gwobr flaenaf, 2p ail wobr, lp. 1, Mr Rowlands, Caerfyrddin; 2, Mr Bevan, Porthclawdd, Abertawe 3, Mr Rowlands, Caerfyrddin. Trotian i geffylau heb fod dan bedairoed pellder, dwy filldir. Gwobr flaenaf, lp ail, 10s 1, Mr Wm. Thomas, Llanbedr; 2, Mr David Evans, Ffynon- Ilewrlyn, Llandyssul. Neidio dros glwydi yn cael eu cuddio gan eithin yn nghae y Wilkes' Head, Yr oeddy swn yn gyffredin ar y cae cyn dechreu ar yr ymdrech mai ceffyl y farrier' fyddai yn euro, ond pan ddaeth ei dro i gynyg ni wnai fyned dros yr un ohonynt, ond pasiai gyda brya heibio iddynt oil. Gwobr gyntaf, lp 103 ail, lp. 1, Mr T. J. Thomas, Cwmgyfeile 2, Mr J. Williams, Rhydfach, a Mr Evan Thomas, Berthlwyd, yn gyfartal. Carlamu a neidio dros glwydi pellder, dwy filldir. Gwobr gymaf, 3p; ail, lp 10s 1, Mr Evans, meddyg anifeiliaid, Llandyssul 2, Mr Philliys, Pantglas, Meidrim. Carlamu a neidio dros gloddiau, agored i ffermwyr a masnachwyr 0 fewn cylch 30 milldir pell- der, oddeutu dwy filldir. Gwobr gyntaf, lp 10s ail, 158 1, Mr Jenkin Jenkins, Blaenplwyf (' Nance o'r Glyn '); 2, Mr T. J. Thomas, Cwmgyfeile. Carlamu ar y gwastadedd, i rai heb fod dros 131 Haw o uwchder; pellder, dwy filldir a haner. Gwobr gyntaf, lp ail, 10s 1, Mr E. Thomas, BerthJvvyd, Llandyssul 2, Mr Phillips, Meidrim 3, Mr J. Davies, Pen- Ian, Llaufihangel-ar-arth. Carlamu ar y gwastadedd, agored i bawb pellder, dwy filldir a haner. Gwobr gyntaf, 2p 10s; ail, lp 10s: 1, Mrs Jones, gynt o'r Emlyn Arms, Castellnewydd-Emlyn 2, Mr Evans, meddyg anifeiliaid, Llandyssul. Carlamu dros gloddiau, agored i bawb; pellder, dwy filldir a haner. Gwobr gyntaf, 4p 4s ail, lp la 1, Mr Phillips, Pantglas, Meidrim 2 a 3, Mr Jenkin Jenkins, Blaenplwyf. Ymdrechfa i rai nad oedd wedi enill gwobr yn un o'r rhedegfeydd. Pellder, 11 0 filldiroedd ar y gwastadedd 1 (£1 10s), Mr John Williams, Rhydfach, Llangeler; 2 (10.3), Mr T. Griffiths, Royal George, Llanbedr. Pasiodd un o'r rbedegfeydd mwyaf llwyddianus a fu yma er's blynydd- au er y gwelwyd yma fwy o nifer o geffylau, ond yr oedd y pigion wedi d'od ar gwehilion wedi aros gartref, Yr ysgrifen- ydd a'r trefnwr oedd Mr R. M. Davies, Post Office, Llandyssul, yr hwn a gariodd ei waith allan eleni etc fel y mae yn arfer gwneyd yn rhagorol. Ni wnaeth arbed ei hunan ond gwoithiodd mewn amser ac allan 0 amser dros lwyddiant y rhedegfeydd. Y cychwynwr oedd Mr A H. Jones, Penrallt. Beirniaid Mr D. J. Lloyd, Gilfachwen Mr E. Jones, Tyssul Castle a'r Milwriad Lewes, Llysnewydd. Y goruchwylwyr oeddynt; Mr William Jones, Pengraigwen Mr T. J. Thomas, Cwm Mr D. L. Jones, Cilgwyn Arms HoteI; Mr T. Jones, Troedrhiwrhweh a Mr Benjamin Jones, Pontwelly. Tra yr oedd yr arian dan ofal Mr J. Rees Harries, Metropolitan Bank, a Mr John Davies, Wilkes Head. Wedi cael siars pendant i ofalu am fwyd a diod ddigonedd i'r ymwelwyr. Yr hwn a wnaeth ei waith gyda sel a brwdfrydedd diguro. RHYDDHAD LAJDYSMITH. — Derbyniwyd y newydd hwu yn Llandyssul gyda brwci- frydedd mawr. Yr oedd clychau yr Eglwys Blvvyfol yn cael ei chwareu drwy y prydnawn, ac yr oedd disgyblion yr ysgol gnolraddolyu gorymdeithio ar hyd y lle o dan lywodraethiad ei haddysgwr, Sergt.- Major Church. Cauwyd y siopau, a rhoddwyd pob gwaith heibio yn v prvd- nawn gydag eifchrio gwneuthur Jdarpariadau ar gyfe yr hwyr. Yn yr hwyr, ymgasglodd mwyafnf y bobi ar yr ysgwar yn ymyl Richmond House, yn cael eu blaenori gan gwmni o dan arweiniad Mr Daniel Howells yn cario,ffaglau tan, yna y drum and fife band, a r oil o dau arweiniad Sergt.-Maior Church yn cael ei gyoorthwyo gan Corporal Thomas Thomas, y Blua Bell, yr hwn oedd y.n, e'drych yn filwrol a meistrolgar yn ei khaki suit. Yr oedd y saethu ar tau- ddangosiadau yn cael ei garie yn mlaen ar y bryn gyfeibyn 0 dan arweiniad Mr Thomas Davies, Medical Hall, y rhai roddasant foddlonrwydd trwyadl i bawb. Gwir yw na chafodd y newydd hwn o ryddhad Ladysmith fwy o gymeradwy- aeth yn un man yn ol rhif ei drigolion nac yma. Y mae y pro-Boers wedi difianu oddiyma ers amryw ddyddiau bellach, ac y maent wedi dyfod i sylweddoli fod gwaed yn :devrach na dwfr, ac mai ymladd ein brwydrau ni maent yn wneuthur yn Affrica. DEWI SA^VT.—-Cadwyd coffadwriaeth am Dewi Sant eleni fel arfer yn Ngwesty y Porth, lie yr oedd darpariaethau° helaeth wedi cael eu gwneuthnr gan Mr a Mrs Smith. Cymerwyd y gadair gan y Parch W. G. Jenkins, ficer, yr hwn a wnaeth gynyg toast i'r 'Frenhines a'r Teulu Brenhinol,' ac wedi hyny i Dewi Sant. Cynygiodd Mr J. Jone3 toast y Clerigwyr a Gweinidogion pob Enwad,' a gwnaeth y Parch D. Jones, curad, a'r Parch T. Arthur Thomas (Undodwr) ateb. Gwnaeth Dr A. T. Evans gynyg ein Milwyr a'n Llynges, &c,' a gwnaeth Mr Nicholas, Lloyds Bank, ateb. Hefyd canwyd amryw ddarnau, a chafwyd cyfarfod dyddorol dros ben. (Gweler adroddiad llawnach mewn man arall o papyr hwn).
GWERNLLWYN.
GWERNLLWYN. TE PAItTI.-Dydd Gwener, yr 2il cyfisol, oedd yn ddiwrood apwyntiedig gan yr eglwys uchod i gynal ei gwyl de flynyddol a gwyl yn iawn ydoedd yn mhob ystyr. Digon odea bara brith, blasus, ynghyd a gwragedd a merched serchog a charedig yn gweini, a thystiai yr hen a'r ieuainc eu bod wedi eu Ilwyr foddloni ar y bwrdd, ac yn yr hwsr cefnwyd ar y byrddau a chaf. wyd cyfarfod adloniadol lewyrchua o dan lywyddiaeth y gweimdog, y Parch D. Jones, ac aed trwy raden faith o ganu, dadleu ac adrodd, yr oil yu dangos egni ac ymdrech, ac yr ydys yn cysylltu enwau y tri canlynol a'r cyfarfod, fel rhai sydd wedi bod yn hynod ymdrechgar yn paratoi ar ei gyfer, sef David Thomas, Nantgarran; David Davies, Tygwyn, a Tom Jones, Twllcornol, pa rai sydd yn lied adna- byddus Syda'r calill yn eisteddfodau lleol y cylchoedd yma. /,lane o'r Fro.
Advertising
I'W HAU YN NFIYMOR YR HYDREF. LAWES SLAG. 0 BOB SLAG, Y SLAG GOREU YW LAWES SLAG.) ,o¡. Yr ansawdd bob amser o'r "gradd uchaf ac yn gyfartal. Y MAE STOCK GYDA JOHN M. HOWELL, ABERAERON. OANfVSWCIl AM BRISIAU.