Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
[No title]
— $; I-Nid ydynt yiz gyfrtfol am syniadau ein Gohebwyr. Gol,
DIRWEST CEREDIGION.
DIRWEST CEREDIGION. At Olygydd ye BRYTHON. Geiriau Mr Marchant Williams a'r BRYTHON ar fater Diwest a gyffroant Gymru fel y gwelir yn y wasg. I Mor gryfion yw geiriau uniondeb,' ae mor ofer yw ymgais golygwyr a gweinidogion i'w gwrthbrofi. Erys y ffaith nad yw pregethwyr a seneddwyr Cymru yn ddifrifol gyda Dirwest nac unrhyw ddiwygiadau. Yr wyf yn cofio am dros ddeuddeg o demlau dirwestol yn ngodre Ceredig- ion yn rhifo dros fil o aelodau-meibion a merched ieuainc gan mwyaf-yn disgwyl am nawdd ac arweniad diaconiaid a gweinidogion. Ond y gweinidogion a'r diaconiaid bron heb eithriaid yn ymddwyn fel estrysiaid yn yr anialwch a gwaeth. Cynghreirient i ddistrywio y temlau, a llwyddasant i'w llwyrchwalu yn mhob lie oddigerth yn Llechryd. Daeth llifeiriant y 'Blue Ribbon' drwy y wlad. Cymer miloedd yn sir Aberteifi y Rhuban GIas. Yr ardal Llechryd yn unig ymun- odd dros ddau cant mewn un wythnos, mwy na hyny yn Cilgerran, mwy wedyn yn nhref Aberteifi. Ymunodd y pregethwyr gyda'r lluaws, ond fel y gwelwyd, nid i'w lleshau ond i'w llygru. 0 fewn y gwersyll dirwestol ymddygasant fel gelyn Gordon yn Kartoum. Yr wyf yn cofio cynygion taer a difrifol yn ymestyn dros flynyddau i godi teimlad dros ddirwest yn nghwrdd chwarter sir Aberteifi, ond y duwinyddion fel dawon Lot yn Sodom a droent bob cynyg yn gellwair, ond pob ymgais i gysegru y cwrw pa mor ysgeler bynag a sicrha gydymdeimlad cynadledd y gweinidogion. Proffesai rhai o honynt ddirwest hefyd, ond dir- west heb gyfiawnder na gwroldeb i groesi pendefig- ion parchus y botel a'r bibell. Nid yw sir Aberteifi yn eithriad, gwn am gymydogaethau yn sir Benfro a threfi lie yr oedd cymdeithasau a themlau dirwestol yn rhifo eu canoedd, ac wedi myned i'r draul i gael Brass Band. ond pregethwyr yn eu bradu, nes fod y temlau yn cael eu cau a'r Band yn tewi. Gellwn bentyru engreifftiau a sir Gaer a sir Forganwg yn profi yr un peth. O'r gweinidog- ion sydd yn ddirwestwyr ceir llawer o honynt yn gaethion i'r bibell-blys gwaeth, mwy gormesol, a ttiwy niweidiol yn. mhob modd i gorff ac enaid, a **rwy afian ac annaturiol nac yfed glasied yn gym- edrol fel y dywedir. Y mae yn gofyn rhyfyg cyffelyb i feibion Scefa i ysmociwr fentro pregethu Dirwest, "Y meddyg iacha dy hun," "Yr hwn wyt yn addysgu arall, onith ddysga dy hun ? Coeliaf fod un o'r brwydrau poethaf i gael eu hymladd cyn hir rhwng y gwir bwlpud a'r dybacco-brwydr yr ymwria iddi ysbry lion fyrdd y mwg a'r mwr- "Wch ar fasnach mewn myglys sydd yn sylfaen- edig ar y Fall Fawr ac ar falldod dyn. Ceir gweinidogion dirwestol rhydd o'r myglys na fedrant son nemawr am ddirwest gartref oblegid cryfder a dylanwad y fasnach feddwol yn eu heglwysi-Yll rheswm dros iddynt daranu gartref cyn myned o honynt i un man arall. Daw iasau dirwestol weithiau drwy dref Aberteifi, ond y tafarnwyr a drigant mewn tangnefedd yn y 0-apelau. Nid yw y pwlpudau yn pery dychryn i Unrhyw ddrwg, y bobl ieuainc ac hyd yn oed plant Y dref ydynt yn ddiarebol am yfed, smocio, tyngu a. rhegu. Clywais un heddgeidwad yn dweyd fod plant a phobl ieuainc Aberteifi yn anarluniadwy o anwaraidd." Yr un darluniad roddir am bobl ieuainc y Ferwig, Blaenanerch, &c.-a lleoedd lie bu sobrwydd a Sancteiddrwydd yn amlwg un- waith. Profion galarus yw y pethau hyn, mai trade yw y pwlpud, ac mai trade yw dirwest os na thyr dan wraidd y dybacco, y tyngu, y rhegu, yr anlladrwydd, a'r holl ddrygau rhyfygus sydd mewn bri. Pan ofyna Gol. y BRYTHON am restr o weinidogion dirwestol Ceredigion, carwn i rywun roddi darluniad cryno a chlir o safon dirwest. MINAH.
GWEINIDOGION A DIRWEST.
GWEINIDOGION A DIRWEST. Syr,—Y mae Mr Marchant Williams wedi tynu nyth y Picwn yn ei ben am ddweyd nad yw gweinidagion Cymru o fawr rym gyda dirwest, oddieithr ychydig iawn o hynynt. Y mae gwirionedd mawr bob amser yn peri cyffro mawr. Dywedwch Mr Gol. eich bod yn crfdu fod tua haner gweinid- ogian sir Aberteifi yn ddirwestwyr. Ofnwyf yn wir, eich bod yn credu yn rhy dda am y parchedigion. Mae dau fath o ddirwestwyr, y ffugiol a'r gwiiion- eddol. Pa nerth sydd yn nirwest y pregethwyr a bleidiant y dafarn a i fynychwyr yn erbyn dirwest ? Gwell genym y gweinidogion na phroffesant ddirwest o gwbl na'r Phariseaid anghyson a chwerthinllyd hyn. DIRWESTWR.
BWRDD YSGOL LLANSANTFFREAD.
BWRDD YSGOL LLANSANTFFREAD. Syr,—Nid oes eisiau craffder i ganfod fod dylor- nydd y Bwrdd uchod wedi newid ei safle yn hollol a tbrwyadl oddiar pan ddechreuodd wneuthur ei ymosodiadau yn eich colofnau Mor fuan ag y chwalwyd ei ddychymygion cyntaf y mae yn ymroi i greu bwganod newyddion. Nid oes yr un cys- ylltiad rhwng yr haeriadau a'r holiadau a wnaed ganddo yn ei lythyr olaf a'r gymysgfa flaenorol. Pan welir un yn newid ei safle yn fynych mae y casgliad yn naturiol ei fod yn teimlo nad oes ganddo sail ddyogel i sefyll arno. Wedi i mi chwalu pob cysgod o gyhuddiad a wnaeth ar y Bwrdd Ysgol mae yn newid ei safbwynt trwy lunio cyhuddiadau newyddion. Yr unig asgwrn mae yn parhau i'w gnoi ydyw yr oediad o saith niwrnod yn nghynal- iad un o gyfarfodydd y Bwrdd. Creda difriydd y Bwrdd fod ganddo hawl i wneuthur unrhyw haeriadau anwireddus i foddio ei fympwy ei hun gan ei fod yn ysgrifenu dan gysgod ffugenw, ond dangosaf iddo yn wahanol. Caf fy meio gan lawer am dalu y sylw a wnaethum i'w sothach Fel y mynegais o'rl blaen ni fuaswn yn cymeryd fy ysgrifben yn fy Haw i'w ateb onibai fy mod yn tybied y gallasai gamarwain rhai o'r un dosbarth ag ef ei hun i ffurfio camgasgliadau am y Bwrdd Ysgol a'i weithrediadau. Yn ei lythyr diweddaf mae ganddo amryw haeriadau newydd- ion hollol anwireddus, a chynifer a phedwar ar ddeg o ofyniadau. Yr wyf yn hollol barod i'w hateb oil, ac i gyfnewid llythyrau ag ef neu unrhyw un arall ar gyfrifon a gwaith y Bwrdd, ond ar delerau cofier, a'r rhai hyny yn hollol deg mi gredaf. Rhaid iddo yn gyntaf wneuthur ymddi- beurad dan ei enw priodol am yr anwireddau mae wedi ysgrifenu yn barod. Yn ei lythyr diweddaf mae ganddo haeriad hollol anwireddus yn dal perthynas a'm gwaith fel Ysgrifenydd y Bwrdd, sef nad yw adroddiad Swyddogol y Bwrdd wedi ei dynu yn ol cynllun Swyddfa Addysg. Mae hyn ynamlygiad o'i anwybodaeth dygn ef, neu o ysbryd drwg tad y celwydd." Mae adran 1 o adroddiad swyddogol y Bwrdd yn gopi cywir o'r 'financial statement' fel ei cyflwyn- ir i archwilydd ei Mawrhydi dan Fwrdd y Lly- wodraeth Lleol, ac adran 2 yn gopi cywir o form 4 B fel eu cyflwynir i arolygwyr ysgolion ei Mawrhydi. Heriaf ef na neb arall i brofi yn wahanol. Un engrhaifft arall a nodaf i ddangos ei fod yn dyrysu yn yr haeriadau disail mae yn lunio ydyw, fod ysgol Cross Inn wedi colli jE30 o Grants. Yn ei lythyr cyntaf, cofus gan eich darllenwyr iddo ddweyd ei bod yn £ 70. Dyna ddau anwiredd yn crogi eu gilydd. Pan wna ymddiheurawd dan ei enw priodol am yr anwireddau uchod, byddaf yn barod i ateb ei gwestiynau ereill a dim cyn hyny. Credaf fod rhyw derfynau i fod i wrandaw ar gyfarthiadau corgi." Yr eiddoch, T. A. LLOYD, Ysgrifenydd y Bwrdd [Dyna derfyn ar y ddadl hon yn ei ffurf bresenol. Gan fod Mr Lloyd yn ysgrirenu dan ei enw priodol, nid teg yw caniatau i'w wrthwynebydd i ysgrifenu dan ffugenw. yn enwedig pan mae y ddadl, o angen- rheidrwydd, yn dechreu cymeryd agwedd bersonol. Os ewyllysia Trethdalwr gyd-ymffurfio a chais Mr Lloyd, cyhoeddwn lythyr byr oddiwrtho eto, ac yna ar ol i Mr Lloyd ei ateb, rhaid i'r ddau dewi. GOL.
ADOLYGIAD Y WASG.
ADOLYGIAD Y WASG. Y GENINEN—Hyiref 1895.Dyma un o'r rhif- ynau goreu o'r GENINEN ddaeth allan o'r Wasg. Cynwysa ysgrifau rhagorol :—Y Parch. Llewelyn loan Evans, D.D., LL.D., gan Mr J. Davies, Y.H., (Gwyneddon) adgofion o'r Pethau a Welais ac a Glywais, gan y Parch. D. Roberts, D.D., (Dewi Ogwen) Nerth Dyfrol yn Nghymru, gan Mr Benjamin Davies y Parch. Edward Roberts, D.D., gan y Parch. Charles Davies Agni yng Nghref- ydd Anianol" y Proffeswr Max Miiller, gan y Parch. W. Ryle Davies Paham y gorfu yr Undeb- wyr ? gan y Parch. Emrys ap I wan Nodion ar rai Pynciau Cymreig, gan y Prifathraw Michael D. Jones; Glyndwr, gan Ferw; Clwydfardd, gan Bedrog; Y Chwarelwr: Englynion, gan Ferw; Cusan Judas, gan Dafolog Enwogion Cymru, iv. Y Bardd Newydd, gan Elphin Yr Iaith Gymraeg gan Gynfaen Awdl ar agoriad Eisteddfod Gen edlaethol Llanelli, 1895, gan Hwfa Mon "y Dysgawdwr Bychan Doeth," (Crynhodeb o Ddar- lith) gan Hiraethog Chwarelyddiaeth Traethawd Arobryn, gan Ddewi Peris Gwaseicld-dra y Cymry, gan Ysbryd Llewelyn Eisteddfod Gen- edlaethol Llanelli, 1895, gan Lais y Bobl; Y Traddodiad am y Ferch o'r Seer a'r Telynwr Dall o Nottais, gan Mr Jenkin Howell Diarhebion Lleol neu^Ddywediadau Ystrydebol a glywir yn Merthyr a'r Cylchoedd cyfagos, gan Wernyfed Pwnc mewn Gramadeg Cymrasg, gan Mr David Samuel, M.A., (Dewi o Geredigion) Barddon- iaeth Gymreig, gan lolo Caernarfon Eclmwnt Prys, gan y Parch. William Hughes; De a Gogledd Cymru yn cydsylfaenu Pensylvania, gau j Parch. H. E. Thomas, D.D.; Chwedlau am Ogofau a Thylwyth Teg, gan Fleddyn Y Teimlad Cenedl- aethol, gan y Parch D. 0, Jones Myn'd i Ffwrdd, gan Dudno Gwyddfa, Llywelyn, gan Walchmai; Cantref y Creuddin, gan y Parch, Owen Jones, F.S.A.. (Meudwy Mon) Manion Eisteddfodol, gan Lu o Feirdd Iaith y Cymry, gan y Proffeswr J. Morris Jones, M.A.; Y Beibl gan. Dr Cynddylan Jones. Gweddillion Llenyddol.—Yr Emynwyr Cymreig, gan Gynddelw Ystyr y gair Bettws gan yr Un Arferon Eglwysig gan yr Hen Bohl, gan Nicander a Dosbarfch Dafydd ab Edmwnt, gan Greuddynfab, &c., &c.
NEWYDDION LLEOL
NEWYDDION LLEOL LLANBEDR Y LLYS Onw ARTEROL.-Dydcl lau diweddaf cyfaddefodd Robert Humphreys ei fod yn euog o ladrata harness eiddo Mr Dougall, Aberystwyth, ac asyn. eiddo Mr Edwards, Laurels, a. dedfrydwyd ef 1 bed war mis o garchar gyda llafur caled. Dydd Gwener, agorwyd y Llys drachefn o fhwn y Meistri. J.W. Bund (cadeirydd), T. H. R. Hughes, J. Fow- don, H. Tobit Evans, D. Davies, a W. Inglis Jones. Dygwyd cynghaws gan Mr B. Phillips, Inland Revenue Officer, yn erbyn Hugh Williams a Jane Lloyd, Derigaron am £ 20 am dori cy-fraith yr excise, Mewn geiriau ereill ape! ydoedd yn erbyn dyfarn- iad ynadon Tregaron, pa rai ddarfu daflu allan yr achos ddygwyd ger eu bron gan Mr Phillips yn erbyn y diff yiiyddioii. sef cyhuddiad o gadw cerbyd heb d-wydded. Taflodd y llys yr achos allan, a gwnaethant yr un peth ag un arall cyffelyb ddyg- wyd gan Mr Phillips yn erbyn Roderick Lloyd, surveyor y Cynghor Sirol. Ymddangosodd Mr J. Walter Jones, bargyfreithiwr, yn cael ei gyfar- wyddo gan Mr N. J. Highmore, cyfreithiwr cyn orthwyol yr Inland Revenue dros yr achwynydd, a Mr Arthur J. Hughes, cyfreithiwr, Aberystwyth, dros y diffynyddion. LLYS YR YNADON.—Cynhaliwyd dydd Gwener, y 18fed cyfisol, o fiaen Meistri T. H. R. Hughes, a H. T. Evans, Cadw ci heb drwydded.—Gahiriwyd nn mhellach eto yr achos hwn a ddygwyd yn mlaen gan swyddog y Cyllid, B. Phillips, Tregaron, yn erbyn Wm Davies, shop, Llangybi. Meddw- dod.Dirwywyd John Bowen, hen droseddwr, i 5s, neu saith niwrnod o garchar; Evan Davies, Moelfryn, a ddirwywyd i 2s 6c a'r costau Rees Lloyd, Panaugleision, a ddirwywyd i 5s a'r costau. Esgeuluso cyfranu at gynal rhieni.-Gwysiwyd Ben- jamin Jones, Tynewydd, Ogmore Vale, o esgeuluso cynal ei dad trwy wrthod talu XI 19s dyledus arno 29ain o Feli. Hefyd gwysiwyd David Williams, Nantycaws. Gorchymynwyd atafaelu. Gohiriwyd cwyn gyffelyb a wnaed yn erbyn Thomas Jones, Hafodtridrws. Gorchymynwyd i Evan Jones, Tynycae, Llanwenog, i dalu £ 2 dyledus 29ain o Fedi, ac i'w gyfraniodau gael eu gostwng i 6c yr wythnos o hyny allan. DIRWEST. Cynhaliwyd cyfarfod llewyrchus, lluosog, ac anenwadol yn addoldy y Methodistiaid, Llanbedr, nos Fercher diweddaf, pryd y cafwyd anerchiad Cymraeg rhagorol ganGwyneth Vaughan; yr hon sydd wedi gwneud enw da iddi ei hun fel pleidydd achos sobrwydd a phurdeb yn Nghymru. Gwraig i feddyg ydyw, a rhoddodd gynghorion rhagorol i ferched ieuanc Cymru mewn moesau a gwisgoedd. Etholwyd yr hen wron dirwestol, Mr John Thomas, College Street, yn gadeirydd, a chafwyd sylwadau pwrpasol ganddo yntau fel arfer. Arhosodd tua haner cant ar ol ar ddiwedd y cyfar- fod, a sefydlwyd cangen o Gymdeithas Ddirwestol y Menywod. Dewiswyd Mrs John Morris yn Llywydd, a Miss Maggie Davies, Bridge Street a Miss Edwards, Factory, yn Ysgrifenyddion. DAMWAIN.—Nos Fercher, digwyddodd damwain dost i Evan James Evans, mab Mrs Jonah Evans, Heol y Bont, drwy i geffyl ar ba un y marchogai, syrthio arno yn wysg ei gefn. Cludwyd ef i'r ty mewn sefyllfa o ddideiinladrwydd, ond deallwn ei fod ychydig yn well heddyw. Y CYNGHOR TREFOL.—Gwneir paratoadau gan wahanol ymgeiswyr yma ar gyfer etholiad. Deall- wn fod y rhai canlynoI wedi eu henwi i lenwi y pedair sedd wag:—David Davies, Temperance Hotel; Joseph Davies, Cambrian Factory Samuel Davies, New Row, Carpenter, (Globe) Stephen Vaughan Davies, Grocer; James Edwards, Sexton Henry Tobit Evans, Journalist a. John Morris, Station Terrace. Tynodd y Meistri Stephen Davies a John Morris su henwau yn ol, ae felly ni fydd ond pump yn sefyll brwydr.
TRAWSGOED
TRAWSGOED DAMWAIN ANGEUOL.—Fel yr oedd Mr David Hughes, Llwyngronwen, yn symud i fyw i Gal- fachafael, Llanrhystyd, dydd'Gwener diweddaf cym-erodd ei fab bychan 12 oed John gydag ef. Cyhaeddasant Bont y Trawsgoed tua 4 o'r gloch y I boreu Aetli lair gwagen drosodd yn ddyogel, ond J trodd y llanc 'nol i weld y 1 lei 11 yn dod, ac fel yr oedd j cert Cefngaor yn dyfod, ac yn cael ei yru gan John j Evans, gwas, darfu i'r ceffyl blaen gael ofn, dad- j ymchwelodd y cart, a lladdwyd y bachgen bach yn i y fan. Cymerwyd ei gorph i dy ei ewythr—Mi- Richard Rowlands, Hendre Rees, a chladdwyd ef I dydd Mawrth yn Llanilar. Cynhaliwyd trenghol- 1 iad dydd Sadwrn, a dychwelwyd rheithfam o I "ifarwolaeth ddamweiniol." I
--! 'CILCENNIN '
CILCENNIN CYFARFODYDB DIOLCITGARWCH AM Y CYNHAU- AF. — Dydd Gwener diweddaf, cynhaliodd eglwys Annibynol, ac eglwys Wesleyaidd y lie uchod eu cyfarxodydd diolchgarwch blynyddol. Y mae yn llawenydd genym ddweyd en bod fel arfer yn yn gyfarfodydd undebol. Yn y boreu cynhaliwyd | cyfarfod gweddi yn nghapel y Wesleyaid a chafwyd cyfarfad da, ac ystyried yr amser gynulliad rhagorol. Yn y prydnawn cynhaliwyd cyfarfod gweddi drachefn an nghapel y Annibynwyr, ac yr oedd yn hyfryclweh gan bawb yn ddiau weled gwynebpryd | ein parchus weirsidog yn bresenol, ac wedi cael adferiad iechyd i'r fath raddau nes dyfod i'r cyfar- fod hwn. Hyderwn y bydd iddo dderbyn adgyf- | nerthiad fwy-fwy hyd nes y daw yn alluog i | draethu y Gwirionedd am flynyddau lawer eto. Yn | yr hwvr caf wyd pregeth hyrtod o ddyddorol, pwr- | pasol, ac effeithiol, gan y Parch. Mr Jones, gwein- I idog y Wesleyaid. MARWOLAETH.—Drwg genym gofnodi marwol- | aeth sydyn ac anamserol Jane Jones, Bwlchydwr, I merch 12 oed, yr hon a ymadawodd a'r fuchedd hon o dan amgylehiadau torcalonus. Ymddangos- I ai yr ymadnwedig yn hollol iaoh a heinyf hyd yn | ddiweddar iawn, ond tarawyd hi yn annisgwyliad- S wy a'r dolur gwddwf, a bu raid iddi ymadael a'r 1 byd presenol. Yr oedd y ferch fechan yma yn yr I ysgol yr wythnos cyn y diweddaf, ac y mae yn ddywenydd genym ddwyn cymeradwyaeth uchel I iddi fel ysgoJheiges dda, a ffyddlon yn mhob ystyr. Oydymdeinilir yn fawr a'i rhieni a'i pherthynasau oil, a hyderir y bydd yr Hwn sydd wedi eu cynal yn y gorpheno], eu eynnl eto yn y dyfodol.
PISGAH
PISGAH Dydd Snl diweddaf, traddodwyd pregeth angladdol yn Pisgah i'r diweddar Mr William Jones, Vron Villa. Erbyn 2 o'r gloch yr oedd torf fawr wedi ymgasglu yn nghyd o barch i goffadwriaeth ein cyfaill ymadawedig, ac i ddangos eu cydymdeimlad a Mr a Mrs Cadben Jones. Ar ddechreu y cyfarfod acroddodd hen wraig 86 mlwydd oed y Psalm fawr-sef Mrs Hannah Thomas, Plwmp, mamgu yr ymadawedig,'ac un o hen aelodau ffyddlon Pigah. Gofynodd Mrs Jones a'r teulu i'w gweiiiidog, Mr Griffiths, am gael y Parch. T. R. Davies i Nanternis, i bregethu pregeth angladdol i'w hanwyl William, ond dywedir i'r cais gael ei wrthod, er eu bod yn helpu cynal yr achos yn ylle. Ond wedi i Cadben Jones ddychwelyd gartref, cafwyd pregeth yn Pisgah oddiar Psalm 103, 12-18. Talwyd teyrnged uchel i William fel un medrus yn ei alwedigaeth, ufudd i'w rieni, ac o gymeriad hynod o grefyddol Yr oedd y dorf yn cael eu gwneud i fyny o bob enwad crefyddol. Yr oedd pawb yn un. MARAH.
ABERPORTH
ABERPORTH DAMWAIN.—Prydnawn dydd lau, yr 17eg,gyf- isol, fel yr oedd bachgen bychan o'r. enw Evan Phillips, dwy flwydd oed, yn chwareu o amgylch clos y Blue, rywfodd neu gilydd syrthiodd i'r Ilyn, a boddodd. heb i neb ei ganfod. Nid oedd ei rieni ond y diwrnod blaenorol wedi dyfod i'r lie i fyw, ac yr ceddynt ar y pryd yn brysur yn gosod y celfi yn eu lie fel na ddarfu iddynt am ychydig amser weled ei golli. yna a,ethant ar unwaith i chwilio am dano, ac er eu tristweh canfyddasant ef yn gorwedd mewn rhan ddwfn o'r llyn. Cynhal- iwyd trengholiad dydd Sadwrn o flaen Mr J. H. Evans, y crwner, i wneud ymchwiliad manwl i'r amgylchiad, a, dygodd y rheithwyr ddedfryd o Farwolaeth ddamweiniol.' Cymerodd y cladded- igaeth Ic,, dildd laluit. Cydymdeimla yr holl gym- ydogaeth a'r teulu yn eu tristweh.
^ * i ETH:'-''' -...'de.,"",-_.,.'.r-,","",".{"J',-Yh_'".;,t
i ETH .de. .r-, "{" J' Yh_t -wr. MYN'D I FFWRDD. O'r GE-VINEN, Ilydref., 1895 Mi welais long yn hwylio draw 0 flaen y gwynt A theimlaf eto wasgiad llaw Cyfeillion gynt, Pan ar ymadael ar ei bwrdd, < A chanu'n iach wrth fyn'd i ffwrdd. Daw blodau'r haf i wisgo'r ddol, A deilia'r coed „ Ond ni ddaeth gwyneb neb yn ol O'r daith erioed A c ni ehaf ar y ddaear gwrdd A'r anwyl rai sy'n myn'd i ffwrdd. Mor wag y \v'.t., adwyd gynt fu'n llawn 0 lawen blant Yspeilio delyn gawn 0 dant i dant: Ni chwrddwn mwy o gylch y bwrdd,— Mae amryw wedi myn'd i ffwrdd. Mae'r lloog yn myn'd' o hyd, o hyd, Ar ryfedd daith A ninau'n cwyno yn y byd, A'n gruddiau'n llaith, Am lawer ftrynd sydd ar ei bwrdd Yn myn'd o hyd—yn myn'd i ffwrdd. A gawn ni etto gwrdd ? O cawn, Ryw ddydd a ddaw Ca wn ail gyfarfod hyfryd iawn Yr ochor draw Daw'r teulu oil o gylch y bwrdd, A neb yn son am fyn'd i ffwrdd. Daw'r tro i uainau cyn bo hir Fyn'd ar eu hoi O! ai,n guel mordaiil-h dawel, glir, A'r dwfr fel dot; Na chwythed awel dros y bwrdd I frochi'i don wrth fyn'd i ffwrdd. TUDNO.
[No title]
Cynhaliwyd cyfarfod pwysig o Lywod- raethwyr Coleg Aberystwyth dydd Mercher diweddaf dan lywyddiaeth Mr J. F. Roberts, Manchester. Ymddengys fod yn y Coleg yn awr 350 o fyfyrwyr. Y nifer y llynedd oedd 330. Mae yn ddiau mai Aberystwyth ydyw y mwyaf llwyddianus o'r tri Choleg Cened- laethol—Aberystwyth, Bangor, a Chaerdydd. Addawodd Syr William Harcourt, Canghell- ydd Trysorlys y Llywodraeth dcliweddaf Y.19,000 ar yr amod y gwnelai cyfeillion y Coleg gyfranu 15,000. Yn lie £ 5,000, darfu' iddynt gyfranu 5,800. Yr oedd 130 o fon- eddigesau yn efrydn. yn y Coleg, a bwriedir adeiladu ty oymhwys iddynt. Yn yr un cyfarfod cynygiodd Mr Vaughan Da vies, A.S., benderfyniad pwysig i'r perwyl fod cais i gael ei wnend at y Llywodraeth bresenol am ychwaneg o rodd at addysg amaethyddol, yn ngwyneb y ffaith fod y Coleg yn sefyll yn nghanol gwlad amaeth- yddol, ac wedi bod mor llwyddianus eisioes yn ei adran amaethyddol. Cefnogwyd y cynygiad yn wresog gan Major Pryce Jones, A.S., a Mr Richard Jones, Pertheirin. Hyd- erwn y gwna y Llywodraeth gydsynio a hyn. Mae'r Archddiacon Griffiths wedi rhoddi ei ddyfarniad yn yr achos a ddygai gweddw i of o'r enw George Williams yn erbyn trys- orfa y glowyr am gynorthwy. Rhoddodd iddi 5s yr wythnos a 2s 6c. at gadw ei phlentyn. Ymddengys fod y gof wedi ei anafu tra yn gweithio yn Nglofa Ty'ny- bedw, ac iddo weithio ar brydiau yn ystod y deunaw mis ar ol hyny, ond bu farw yn Mawrth diweddaf. Gwrthodai y drysorfa roddi unrhyw gynorthwy iddo tra yr oedd yn wael. Sibrydir fod yr Archddiacon wedi ymddiswyddo fel canolwr oherwydd ym- ddygiad annynol y gymdeithas at wraig y gof.