Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
MYSBYSTADAU Oyhoeddtr Hysbysiadau yn Ye BBTHOI GTMKBIG ar Y TELERAU RHAD OANLYMOL Cyfreithiol, }«c-y Hineil y too. Arwerthiadau 80. „ Hysbysiadau fYn ol trefniant, yn ymddibynu Masnacliol ja* e° ?a £ e' njfer 7 J™1™1 I cyhoeddir hwynt, maintioli, Ac. TELERAU NEILLDUOL AM FLAEN-DAL Am Hysbysiadau yn dal\ 90 gair nan lai, cysylltind a Swyddi I „ Unwaith, 80. neu Leeeddjm Eisiau. I Ystafelloedd, Tai, Tir, yn I „ lair gvaith, la. OB. Eisiau, ar Osod, neu ar I Werth. i n Oimoefci „ is. Qb. Masnach, Stoc, Dodrefn, I Peirianau, neu fan I Am bob 19 gair yob- bethau, ar Werth, neu j wancgpl, haner y yn cael eu eynyg ar Hory priEoS^aohod. Ni chyhoeddir Hysbysiadau yn dal pert&ynaa a lihcdegfeydd, Gamblo, Hapohwareuon, Oyflori Crnck-faddygon (eithrir Cyfleri BreintiedJg da eu gair), Arian Fenthyoww, ProSewwyr 5 Gelfyddyd Ddu," nea ryw hyHDytfad staJl o oatm wrthwynebol, ar anrhyw delerau. Cyfieithir Byabyaiadau SMBOOMg, 08 galvvad am hyny, yn rhad. Danfoner pob uohebiaethas ao Arobebion, mat gynar yn yr wythnos ag y byddo modd n gyfeiriedig Y FMAOLTDD, WiLsa PJDIØ OFFIOX, LAMPBTBB.
Advertising
ADVERTISEMENTS ADVERTISEMENTS will bo INSERTED in y" HE rtlIO OYMRftia at the following CHEAP SCALE OF OHAHOtE Parliamentary, Law, and 6d. par line per ma«r- Public Noticoe ) turn. MM 3d. do. do Trade (By arrangement, SCOOP ting to AflTOriisements 1 Potion, number of I, space reqmrod, &c. SPiECiAL F*REPA)D RATES Per Advertisements re.- 20 words. ferring to Situations, „ One insertion, M Wanted, or Vacant Apartments, Houses, j Three, la. ML l-tand, Wanted to I«et, for Sale „ Six Is. «d. Businesses!, Stock Furns- tnra, Mahlnery^or Mie- jSvery additional 10 eeUaneoas Articles for ? vswdg, half the abovr Sale or Hire. prices. No Advortisemtiflts relating to Racing. Gam. Wing, Lotteries, Quack Medicines (except Patent Mwslfoines of good repute), Money Lenders, Astrologers," Fortune Tellers, or others of an objectionable character will be inserted upon ang terms. English Advertisements will be translated, it required, free of charge. All Communications and Orders should be ad- dressed, us aajlY in the week as possible, to THE MANAGES, W.M.LGEF PRESS OFPIO*, JJAMPBTKR.
UN 0 FEIBION GLEWj CEREDIGION.!
UN 0 FEIBION GLEW j CEREDIGION. Y mae a ganlyn wedi gymeryd o'r Mon- treal Daily Witness Y PARCH. DR. EVANS. Y mae y gwr enwog uchod yn frodor o blwyf Llangranog, swydd Aberteifi, Cymru. Daeth Dr Evans i'r America pan oedd yn un-ar-hugain oed, ac yna aeth i'r ysgol rag- barotawl i Gouvernvur, swydd St Lawrence, New York, ar ol hyn bu yn athraw mewn ysgol elfenol am tua. pedwar mis. Cyn gadael Cymru fe dreuliodd ei amser fel pupil-teacher yn y Ceinewydd, ac am yspaid o dair blynedd bu yn ysgolfeistr yn ysgol Frytanaidd Pontgarreg. Deckreuodd breg- ethu yn ei iaith frodorol yn Richville, New York a graddiodd yn uchaf o'i ddosbarth ynNgholeg Middlebury, Vermont yn 1876, a bu yn athraw mewn Lladin yn Ngholeg Oberlin am flwyddyn. Bu yn myfyrio duw- inyddiaeth yn Yale a Oberlin, a graddiodd yn y lie olaf yn 1880. Rhoddodd Coleg Middlebury iddo y gradd o D.D. yn 1892. Eu weinidogaeth sefydlog gyntaf oedd yn Norwood, New York, yr hwn a barhaodd am bum mlynedd, pryd y cynyddedd nifer yr aelodau o bumtheg a thriugain i ddau gant. Eu weinidogaeth nesaf oedd yn St. Pauls, Minn., yr hon a barhaodd bron yr un amser a'r cyntaf, pryd y cododd nifer yr aelodau o ddeugain i dros ddau gaut. Eu fugeiliaeth olaf oedd yn Springfield, Mo., maes o gryn bwysigrwydd ag anhawsderau. Bu yma am bum mlynedd a phedwar mis. Yma canlynodd mwy o lwyddiant eu ym- drechion nag yn flaenorol, cynyddodd nifer yr eglwys o gant a phumtheg a thriugain i bedwar cant. Tra yn Missouri fe dderbyn- iodd bob anrhydedd lleol a gwladol a ellid roddi iddo. Tra y mae Dr Evans yn fugail gwyliadwrus, gweithgar, a llygadgraff, ac yn meddu cymwysderau neillduol ar linellau efengylaidd, eu brif nerth yw y pwlpud. Dywedodd y diweddar Lywydd Ingalls, o Goleg Drury, unwaith fod llywyddiaeth feddyliol Springfield yn mhwlpud yr eglwys gynulleidfaol yno (sef eglwys Dr Evans). Yn ddiweddar cymarai gohebydd i'r Berlin Congregationalist" ef i Dr Guthrie yn ei allu mawr i fod yn ddydd- orol i bob dosbarth ar yr un pryd. Mewn perthynas a'i ymadawiad i Missouri dywedai y Chicago Advance am Awst y laf. "Y mae cynulleidfaoliaeth yn Missouri, ac yn enwedig felly y rhan ddeheu-orllewinol, wedi derbyn colled drom drwy ymadawiad y Parch E. C. Evans, D.D., i gymeryd gofal eglwys Emmanuel, Montreal. Yn ystod ei weinidogaeth o bum mlynedd a phedwar mis yn Springfield, derbyniwyd 276 i'r eglwys, 157 drwy gyfaddefiad. Catholig o ran ysbryd, efengylaidd yn ei olygiadau duwinyddol, pregethwr yn llawn o yni a than, ac yn gwneuthur eu hun yn hollol hyddysg yn angenrheidiau ysbrydol eu gyn ulleidfa. Dihunodd ag ysbrydolodd yr eglwys i waith, a chario allan y gwaith hwnw fydd y dysteb oreu bosibl i'w ffydd- londeb a'i ddoethineb. Yr oedd eu allu i'w deimlo drwy holl linellau enwadol y dalaeth, ac fe deimlir hiraeth cyffredinol ar ei ym- adawiad." Y mae Dr Evans yn efrydydd aiddgar a manwl mewn gwahanol ganghen- au, fel prawf o hyn taer ddymunwyd arno i gymeryd cadair mewn llenyddiaeth Seisnig yn un o'r colegau Americanaidd blaenaf, a hadair mewn Groeg y Testament Newydd yn un o'r colegau Duwinyddol, ond teimla Inai ei faes neillduol ef yw y pwlpud. Hir oes a llwyddiant iddo ydyw dymuniad ei fro enedigol.
NEWYDDIGiy; C i"FFR £ DINOJLI…
NEWYDDIGiy; C i"FFR £ DINOJL I .x. 11.)' "]..lJ. Jt4 1( )1. L -<»¡: Marw yn 104 mlwydd oed. Dydd Sadwrn diweddaf, Hydref 1ge9, bu farw hen wraig yn Celfig place, Llanelli, o'r enw Mrs Elizabeth Morris. Hyd yn ddiweddar mwynhaodd yr hen wraig iechyd yn rhagorol. Cyrhaeddodd ei 104 mlwydd oed ar y 5ed o fis Mawrth diweddaf. Dan- goswyd pob caredigrwydd tuag ati yn ystod y blynyddau diweddaf, fel na fu arni eisiau dim. Ganed hi yn Llanelli, ac ni fu ond unwaith allan o'r dref. Glowr oedd ei gwr, a gorfu arno i fyned i chwilio am waith, a llwyddodd i'w gael yn y Blaina, ac yna aeth yno ato, gan ddwyn gyda hi ei phlentyn a pharsel trwm, a cherddodd yr holl ffordd bob cam, a chymerodd iddi bum diwrnod i gyrhaedd yno. Yr oedd hyny tua 70 mlynedd yn ol. Eglwyswyr selog oedd ei rhieni, ond pan briododd canlynodd ei gwr at y Bedyddwyr, a daeth yn aelod o eglwys Adulam, Felinfoel. Gorfu iddi rai blyn- yddau yn ol fyned dan operation gyda'i llygaid ddwywaith, ac aeth yn llwyddianus drwyddi ac yr oedd eigolygon yn rhagorol hyd ei marwolaeth. Bu iddi 14 o blant, ac nid oes ond un yn fyw, yr hon sydd yn 70 mlwydd oed. Bu yn weddw am dros haner canrif. Dywedir na fu hi erioed yn y tren. Dygwyd yr hen wraig i sylw Tywysog Cymru, ac anfonodd y Dywysoges iddi barsel o ddillad, y rhai a werthfawrogid yn fawr ganddi fel rhodd y Dywysoges.
Damwain yn Clydach, ger Abertawe.
Damwain yn Clydach, ger Abertawe. Dydd Sadwrn diweddaf, cymerodd dam- wain difrifol le yn ngwaith glo Gueret Graig- ola,trwy ba un collodd dau eu bywyd. Arhos- odd y ddau ddyn ar ol yn y gwaith wedi i'r gweithwyr ereill yrnadael, oherwydd rhyw reswm adnabyddus iddynt hwy yn unig, a I phan y daethant i waelod y pwll, gyda'r bwriad i ddyfod i fyny, canfyddasant fod y gweithwyr wedi gadael y lie. Rhoddasant arwydd, a cbawsant ateb fod y peirianydd wedi myned adref. Credir iddynt fethu aros yn amyneddgar am ddychweliad y peirianwr, aethant i geisio gwneud ei ffordd eu hunain allan drwy le ag yr oedd awyr yn dyfod i mewn &c., a chan fod pibellau wedi I eu gosod i lawr ar hyd y ffordd, yr oedd gorchymyn pendant wedi ei roddi i'r gweith- wyr i beidio teithio y ffordd hono, ond yn unig pan ganiateid iddynt, a hyny pan fydd- ai yr ager wedi ei ollwng maes, fel ag i'r awyr oeri. Dydd Sadwrn yr oedd yn boeth iawn, ac yn beryglus iddynt gynyg gwneud eu ffordd allan y ffordd hono, oblegid nid oedd y gweithiau wedi eu stopio ond am rhyw chwarter awr pan y gwnaethant yr ymgais gyda'r fath ganlyniad difrifol Pan yr aed i lawr cafwyd hwy yn feirw. Enwau y ddau ddyn anffodus oedd John Gibbs, 27 mlwydd oed, yn byw yn Glais, ac yr oedd yn briod, tra yr oedd y llall yn ddyn ieuanc o'r enw John R. Jones, yn byw yn Fardre, Clydach.
Y Bwrdd Ysgol a'r Gymraeg.
Y Bwrdd Ysgol a'r Gymraeg. Cynhaliwyd cyfarfod o Fwrdd Ysgol y Wyddgrug dydd Llun, o dan lywyddiaeth Mr LI. Eaton. Derbyniwyd deuddeg-ar- hugain o gynygiadau am y swydd o feistres ysgol y babanod yn Leeswood. Yn drlilynol tynwyd y nifer yma i lawr i bedwar neu bump o ymgeisyddion, yn cynwys y rhai a feddant rhyw gymaint o wybodaeth o'r Gymraeg. Tybiai Mr R. Prince ei fod yn ddymunol i'r person a benodid vybod rhyw gymaint o Gymraeg.—Sylwodd y Parch. E. M. Roderick nad oedd yr athrawes bresenol yn deall Oymraeg. Y Cadeirydd Nis gall- asent gael ymgeisyddion pe y mynid hyny. Yn awr y mae genym 32.—Dywedodd Mr Prince nad oedd ef yn credu yn y cri o "Gymru i'r Cymry," ond meddylia efe y dylai yr athrawes a benodid ddeall Cymraeg, yn enwedig mewn cymydogaeth yn mha un yr oedd y plant gan rnwyaf yn siarad Cymraeg yn eu cartrefi. Penderfynwyd gofyn i ddwy o'r ymgeisyddesau a ddeallent Gymraeg fod yn bresenol mewn cyfarfod neillduol o'r Bwrdd dydd Sadwrn nesaf. —
Llofruddio ei Baban mewn Grwali-|…
Llofruddio ei Baban mewn Grwali- gofrwydd. Ni fydd i'r ddynes ieuanc, Mrs Rees, yr hon a laddodd ei baban yn sir Benfro yn j Mehefin diweddaf, cld'od gerbron y Barnwr J yn y Frawdlys nesaf. Dygir hi i garchar Broadmoor, am ei bod, yn ol tystiolaeth meddygol, yn hollol wallgof. j
Sefyll allan yn Belfast.
Sefyll allan yn Belfast. Mae llong-adeiladwyr Belfast wedi dyfod allan ar streic oherwydd gwrthodiad y meistriaid i ganiatau iddynt godiad yn eu cyflogau. Amcangyfrifir fod dros 7,000 yn segur dydd Sadwrn, a bodola teimlad cryf yn mysg y dynion o blaid ymladd y mater hyd yr eithaf.
Lladrad o Lythyrdy.
Lladrad o Lythyrdy. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, cyf- lawnwyd lladrad beiddgar yn llythyrdy Llanbradach. Ymddengys fod gal wad ar Mrs Eastment, y postfeistres, tua 2 o'r gloch, i adael y swyddfa ychydig amser. Ar ei dychweliad cafodd er ei dychryn fod y safe yn agored, ac fod X28 mewn aur, t6 mewn arian, a thua 7s mewn pres wedi myned ymaith. Yr oedd yn anmhosibl i'r lladron ddwyn arian allan o tu allan i'r counter. Rhoddwyd hysbysiad ar unwaith i'r hedd- geidwaid, ac hyd yn bresenol nid oes dim haues am y lladron.
Yr Ystorm yn Italy.
Yr Ystorm yn Italy. Brysneges y Central News o Rufain a ddywed :—Y mae yr ystorm a aeth dros ran fawr o'r wlad wedi achosi difrod mawr, a cholliad mawr ar fywydau. Yn ol yr hys- bysiad y inae tua 50 o bersonau wedi colli eu bywydau.
Ffynon Gwenflrewi.
Ffynon Gwenflrewi. Yn nghyfarfod misol Cynghor Dosbarth Trefol Treffynon, sir Fflint, dydd Llun, Dr J. Williams, Y.H., yn y gadair, cyfododd y cwestiwn o denantiaeth Ffynon Gwenffrewi. Darllenwyd llythyr oddiwrth y tenant pres- enol, y Parch Dad Beauclerk, yr hwn a ddywedodd Yr wyf yn ymgymeryd i dalu l50p yn flynyddol am y ffynon a'r baddonau, ac i fod yn gyfrifol am bob adgyweiriadau cyffredin, tufewn ac allan, ar y telerau fy mod i yn dal y brydles am y ffynon am o leiaf ddeng mlynedd." Pender- fynodd y Cynghor, ar ol peth dadleu, i osod y ffynon am un flwyddyn yn ol 150, y tenant i dalu yr holl draul am adgyweiriadau mewnol, a'r Cynghor i dalu y trethi. Ardreth bresenol y ffynon ydyw lOOp, y tenant yn gwneud yr adgyweiriadau. Hon yw y ffynon y gwneir cymaint o dwrw yn ei chylch gan y Pabyddion. Honant fod gwyrthiau yn cael eu cytlawnu yno yn barhaus.
Achos hynod yn Nghaernarfon.
Achos hynod yn Nghaernarfon. Yn Llys Bwrdeisiol Caernarfon, dydd Llun, gwrandawyd achos o dadogiad o natur hynod anarferol. Yr achwynes ydoedd Mary Roberts, yn byw yn 4, Turkey-shore, diffyn- vdd, William Jones, 19, Bank-quay. Ym- ddangosai Mr J. T. Roberts, dros yr achwyn- yddes, ac amddiffynid gan Mr Rich. Roberts. Ymddengys i'r partion ymbriodi yn Awst, 1894, yr achwynyddes, fe ddywedid yn des- grifio ei hun fel gwraig weddw, ac yn cael ei phriodi yn yr enw Mary Thomas, Yn mhen amser canfyddodd. y diffynydd fod gwr cyn- taf yr achwynyddes yn fyw, a gwrthododd gydfyw a hi neu dalu am gadwraeth plentyn a anwyd er ei briodas a hi, ac mewn canlyn- iad dygid y cynghaws presenol. Hysbys- odd yr achwynyddes y llys nad oedd am ddeuddeng mlynedd yn flaenorol i'w hail briodas wedi clywed dim am ei gwr cyntaf, yr hwn oedd forwr, a thybid ei fod wedi boddi. Gadawodd ef hi am na chydsyniai hi fyned allan i buteinio, ar ei gais ef. Rhoddodd ar ddeall i'r diffynydd, cyn ei briodi, na wydhai a oedd ei gwr cyntaf yn fyw ai peidio.—Mr Richard Roberts, yr hwn a sylwodd mai hwn oedd yr achos cyntaf o'r fath a ddygwyd o fiaen y llys, a dywedodd fod y diffynydd, yr hwn oedd yn perchen cy tn eri ad difrycheulyd, yn wr gweddw pan briododd yr achwynyddes, yr hon ni fuasai wedi briodi o gwbl onibai am yr honai hi mai gwraig weddw ydoedd. Oafodd y diff- ynydd ei dwyllo yn greulawn.—Rhoddodd y Fainc ddyfarniad yn ei erbyn, a gorchym- ynodd iddo dalu dau swllt yn wythnosol.— Hysbysodd Mr Roberts y byddai iddo apelio yn erbyn y dyfarniad.
Masnach Glo y Deheudir.
Masnach Glo y Deheudir. Mete cwmiii Glofa Gwaencaegurwen wedi taro ar seam newydd bedair troedfedd o ddyfndcr, ac yn bwriadu ei gweithio allan. Bydd i'r swai o lo a godir o'r lofa gael ei godi o 12,000 i 14,000 tunell y dydd. Cym- erir 200 oddynion yn ychwaneg i'w gweithio
Y Gyfraifch ar Shafio.
Y Gyfraifch ar Shafio. Yn Lerpwl, ddydd Mawrth, gwrandawyd achos hynod, yn yr hwn yr hawlid iawn oddiar eilliwr lleol am yr hyn a elwir yn shave fudr." Dywedai yr erlynydd ei fod wedi cael clwyf ar ei wyneb oherwydd fod y barbwr wedi tori ei groen wrth ei eillio, ac wrth ddefnyddio y pot o'r hwn yr oedd pawb yn cael eu shafio. Dywedai y diffyn- ydd pe buasai wedi talu am ddwfr ar waban, y gallai fod wedi ei gael. Gofynai y barnwr i'r rheithwyr a oedd esgeulusdra ar ran y diffynydd mewn defnyddio y pot neu yr ellyn cyffredin, a dywedai y rheith- wyr nad oedd. Felly dyfarnwyd o fclaid y diffynydd.
Hunanladdiad Torcalonus.
Hunanladdiad Torcalonus. Lladdodd hen foneddwr o'r enw Ferdi- nand Miers, yr hwn yn flaenorol fu yn gadfridog yn myddin Germani, ei hun drwy yfed prussic acid yn Lundain nos Sadwrn. Yr oedd y trancedig wedi bod yn feddianol ar gryn lawer o gyfoeth, a safle pur dda mewn cymdeithas, ond trwy fethdaliad Cymdeithas y Liberator collodd £6000, ac yr oedd yn ddiweddar wedi bod yn haner newynu. Rboddwyd bwyd iddo amryw weithiau gan oruchwyliwr llvfrgell yn Ludgate Circus. Nid oedd ganddo yr un ddimai ar ei elw.