Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
Advertising
HYSBYSUygAg ^Oyhoeddir Hyebysiadan yn 1* Bbwebm OncRsio ar Y TELERAU RHAD OANLYNOL "S5K3SB..sss £ r K'MOh Arwerthiadau Sc. „ Hysbysiadau (Tb 01 trefoiant, yn ymddibyno Masnachol eu £ 6' y trmrai y cyhoeddir hwynt, maintioli, See. TELERAU NEILLDUOL AM FLAEN-DAL Am HyBbysiadau yn dais SO gair neu lai, cysylltiad a Swyddi „ Unwaith, 60. neu LeoeddjjrnEisiau. Ystafelloedd, Tai, Tir, yn „ Tair gwaith, Is. Ob. Eisiau, ar Osod, neu ar Werth. „ Glnreab „ is. Ga. Masnach, Stoo, Dodrefn, Peirianau, neu fan Am bob 10 gair yah- bethau, ar Worth, nen wancgol, haner y yn oael eu eynyg ar MwcJ prisowM uchod. Ni cbyhoeddir Hysbysiadau yn d&l perthynafl a Bhedegfeydd, Gamblo, Hapchwareaon, Cyffozl Graoh-feddygon (eithrir Cyfferi Breintiodig da eu gair), Arian Fenthycwyx, ProSoswyi j Gelfyddyd Dda," nea ryw bysoytfad amti o iMtO wrthwynebol, ar unrhyw deleraa. Cyfieithir Hysbysiadau 08 bydfl gal wad am hyny, yn rhad. Danfoner pob Oohebiaethaa M AiSJiiebion, mm gynar yn yr wytbnoe a« y bytido modd ya gyfeiriodig T Buo&nxD, Wilsb Pbiib Oraicn, LA.MPETKB.
Advertising
ADVERTISEMENTS Advertisements will be inserted in Yo Ba ITWO OliBEZQ at the following CHEAP SCALE OF OHAHQX8 PArHamentasy, Law, and) M. per line per inser- Publio Notices tion. ¡¡g¡,¡¡-¡ 3d. (to. do, Trade j By airanr»w<;»i. according to MTOrK9exneaGBlIi0SlU0a' a?' o1 'a^ion* i Bpaco req i rm i, & c. SPECIAL PREPAID RATES Wat Ad^ortisaments fenfng to Situations, I Oca insertion, Od Wanted, or Vacant 2 Apartments, HeaMs, or | Thro* 1*. Odi Land, Wr-nted to L«t, I ft. for Sale f „ SIX 1s- ad Stock Furoi- J tTIre, Mahinarvjor Bile- Every addit^nal 10 cellaiieoiia Articles for I wards, hair the abovr Sale or Hire. prices. No Advertisements relating to Racing, Gam. bling, Lotteries, Quack Medicines (except. Patent Medleines ot good repute), Money Lenders, Astrologer;?," Fortuac Tellers, or others of an objectionable character will be inserted upon any terms. English Advertisements will be translated, if required, free of cliarge. All Communications and Ordoro should be ad- dressed, tta early in the week as possible, to Thb Manao*b, WmtjSK PRESS OFFICA, LARAPETIMIS. "1!tY.Iif""JL
- NEWYDEION CYFFREDXNOL
NEWYDEION CYFFREDXNOL -000.- Addewidion i Goleg Caerdydd. Bu Coleg Prifysgol Caerdydd yn lwcns. Y mae arnynt eisiau colegdy newydd. Hen westy sydd ganddynt, yr un modd a Bangor ac Aberystwyth. Rhoddodd y Llywodraeth addewid iddynt o Ugain Mil (120,000) ar yr amod fod ugain mil arall yn cael eu tanys- grifio yn Ileol at yr amcan. Yn ysgil cyn- ygiad y Llywodraeth daeth un arall oddi- wrth Gwmni y Drapers yn cynyg Deng Mil ( £ 10,000) ar yr amod fod ugain mil yn cael eu casglu. Yn y cyfarfod haner blynyddol penderfynwyd apelio at y cyhoedd am Ddeng Mil ar Hugain. Tybia hyny adeilad gwerth o Haner Cant i Drigain Mil o bunau.
Saethu Brenhines.
Saethu Brenhines. Dywedir fod y Japaniaid wedi saethu brenhines Corea. Anfonodd yr American- iaid nifer o forfilwyr i wylio ty llysgenadydd y wlad hon yn y brifddinas, gan fod terfysg wedi tori allan.
Y Llofruddiaeth yn Wigan.
Y Llofruddiaeth yn Wigan. Cyhuddwyd Elijah Winstanley a William Keanley o lofruddio y cudd-heddgeidwad Kid yn Wigan ar y 29ain cynfisol a Wil- liam Halliwell o ymosod yr un pryd ar y cudd-heddgeidwad Osborne. Fel y nodasom yr wythnos ddiweddaf, dod ar draws y carch- arorion yn lladrata nwyddau o wagen y rheilfforad ddarfu y swyddogion, pryd yr ymosodwyd arnynt. Trywanwyd Kiddnaw gwaith. Traddodwyd y tri i sefyll eu prawf yn mrawdlys Lerpwl.
Meddyg Ffodus.
Meddyg Ffodus. Gadawyd y swm o £70,000 i'r meddyg Syr Henry Thomas gan un y bu yn gweini arno. Fodd bynag, y mae y perthynasau am geisio tori yr ewyllys.
Arddangosfa'r Llaethwyr-
Arddangosfa'r Llaethwyr- Cynhelir Arddangosfa i laethwyr, &c., yn Llundain yr wythnos hon. Un o'r prif nod- "Weddion yw cystadleuaethau mewn gwneud ymenyn, &c. Mae yr holl wobrwyon yn cyrhaedd y swm o £ 2,500. Gellir gweled peiriant ar waith ynddi sydd yn godro deg ° Fuchod mewn llai na chwarter awr.
Gwneud ymaith a gwasanaeth…
Gwneud ymaith a gwasanaeth Meirch. t Unmaith yn rhagor bygythir gwneud ym- aith a gwasanaeth meirch bron yn gyfan- 8|wbl, gan fod dynion wedi bod yn dra llwyddianus i berffeithio cerbydau fo yn cael eu gyru trwy gymorth olew, trydan, &c. Jj^y^helir arddangosfa fawr o'r rliai hyn yn J^inbridge Wells, a rhoddir amlwg i'r ^dran amaethyddol. Ai tybed ruiai'r feddyg- maeth i'r ffermwr yw defnyddio olew yn lie ceffy la u ?
Y Ddirprwyaeth Dirol Gymreig.
Y Ddirprwyaeth Dirol Gymreig. Dywed gohebydd y Manchester Guardian ■tod adroddiad y Ddirprwyaefth uchod yn ^rysur yn cael ei wneud. Mae Mr Brynmor °nes, A.S., Mr Lleufer Thomas, a Mr Cecil yn bresenol yn brysur yn gwneud ad- roddiad yn barod i'w gyflwyno i ystyriaeth R ?di.rPrwyaeth yn nechreu Tachwedd. i'r cyhoedd gael yr adroddia;1. yn fuan ar 01 i'r Senedd ail-ymgynull.
Y Llong gyflymaf yn y Byd.
Y Llong gyflymaf yn y Byd. Yn Llundain adeiladwyd llong i Lywodr- aeth Rwsia. Ei gwasanaeth fydd dinystrio torpedoes. Yr wythnos ddiweddaf rhodd- wyd prawf arni, a dangoswyd mai hi yw yr agerlong gyflymaf yn y byd, gan ei bod yn gallu teithio yn ol y cytlymder o 34 milldir yr awr.
Syrthiad Llwyfan.
Syrthiad Llwyfan. Tra y gosodid careg sylfaen eglwys yn Ohio syrthiodd llwyfan y safai 1,600 o ed- rychwyr arno. Lladdwyd 16, ac anafwyd Iluaws ereill.
Anrhegu Prif Swyddog Rheilftordd…
Anrhegu Prif Swyddog Rheilftordd y Cambrian. Prydnawn Sadwrn anrhegwyd Mr Alfred Aslett, prif reolwr ac ysgrifenydd Rheil- ffordd y Cambrian, gan ei gyd-swyddogion a silver plate' ac anerchiad bardd, ar ei ymadawiad i gymeryd i fyny ei swydd fel prif reolwr y Furness Railway. Derbyn- iodd Mrs Aslett hefyd anrheg ddrudfawr. Ymgasglodd nifer fawr o swyddogion y rheilffordd a chyfeillion i weled yr anrheg- iad, pa un a wnaed gan yr Henadur George Owen, peirianydd, a swyddog hynaf y cwmni.
Agor Coleg Wesleyaidd Newydd…
Agor Coleg Wesleyaidd Newydd yn Nghymru. Prydnawn dydd Llun agorodd Dr Waller, llywydd y Gynhadledd Wesleyaidd, yr Hydropathic Establishment yn Ngholwyn Bay fel ysgol uwchraddol i enethod dan yr enw Coleg Penrhos. Llongyfarchodd Dr. Waller y cyfarwyddwyr am eu bod wedi sicrhau adeiladau ardderchog i'w hysgol, pa rai ystyriai ef yn gystal, os nad yn well, nag unrhyw perthynol i'r Cyfun- deb Wesleyaidd.—Anerchwyd y cyfarfod gan W. Oulton, Lerpwl Mrs Meek, Arglwydd Faeres Manceinion a'r Parch Charles Garrett.
Ty-dorwr Crefyddol.
Ty-dorwr Crefyddol. Mewn Ilys ynadol arbenig yn Neuadd Drefol Fflint, dydd Llun, dygwyd Thomas M'Guire, brodor o Galashies, gerbron ar y cyhuddiad o dori i'r Castle Villa, Fflint, preswylfod y Cynghorydd Thomas Ryan, gyda'r bwriad o ladrata, ar neu oddeutu y laf cyfisol. Tystiwyd i'r carcharor, oddeutu haner awr wedi deuddeg, lwyddo i gael mynediad i'r ty, a thra yn myned i fyny'r grisiau gwynebwyd ef gan y forwyn, ac ar hyny rhedodd y carcharor ymaith a diang- odd i'r heol. Yn ddilynol archwiliodd Mr Ryan y ty, a gollyngwyd blaidd-fatheuad, yr hwn a ddilynold y carcharor i fan, lie y croesodd dros railings i'r ty lie yr arhosai. Mrs Williams, yr hon a gadwai y ty lie y 11etyai y carcharor, a dystiodd ei fod wedi ymofyn llety gyda hi nos Sul, a phan y dywedodd hi y gallai ef aros allan hyd nes y I dychwelai hi o'r eglwys neu fyned i'w wely, aeth ef gyda hi i'r eglwys, ac yn digwydd myned i'r ystafell lie y cysgai, nos Lun, gwelodd ef ar ei liniau yn dweyd ei bader. Dyna'r tro diweddaf iddi hi ei weled— Traddodwyd y carcharor i sefyll ei brawf yn y Frawdlys Chwarterol.
Brawdlysoedd Cymru.
Brawdlysoedd Cymru. A ganlyn yw dyddiad y brawdlysoedd yn Nghymru Caernarfon, Gwener, 25ain cyf- isol; Rhuthyn, Llun, 28ain cyfisol Caer, Gwener, Tachwedd 8fed,; Aberhonddu, Llun, Tachwedd 11; Caerdydd, Mercher, Tachwedd 13. Y Barnwr fydd Mr Law- rence.
Damwain ar yr Rheilffordd.
Damwain ar yr Rheilffordd. Yn hwyr, nos Sadwrn, rhedodd cerbydres yn llawn o deithwyr i mewn i gerbydres nwyddau yn Park Junction, oddeutu milldir o Gasnewydd yn nghyfeiriad Basal leg. Yr oedd y gerbydres nwyddau yn cychwyn o flaen y Hall, dywedir i'r olaf gael arwydd fod y llinell yn glir. Oherwydd ei bod yn teith- io yn gyflymach daliodd y gyntaf, a rhedodd y peiriant i van y gerbydres nwyddau, gan anafu y guard yn ddifrifol, a diangodd pawb arall heb niwed.
Lladrad Gemau.
Lladrad Gemau. Mae heddgeidwaid Caerdydd yn chwilio i mewn i achos o ladratta gemau a gynierodd le nos Sadwrn yn ngorsaf Rheilffordd y Great Western. Yr oedd boneddiges yn dychwelyd i Gaerdydd o Lundain, ac ymysg ei chludgelfi yr oedd bag yn cynwys gemau gwerth dros lOOp. Ymddengys ei bod wedi anghofio fod pethau mor werthfawr yn y bag. a rhoddodd ef gyda chelfi ereill yn ngofal porter i'w cario i'r ochr arall i'r orsaf. Pan gyrhaeddodd yno nid oedd golwg am y bag, ac ni wyddis yn y byd i ba le y mae wedi myned.
Masnach Glo y Deheudir.
Masnach Glo y Deheudir. Cwynir yn gyffredin fod perchenogion glofeydd y De yn gwerthu dan eu gilydd, ac fod hyny wrth gwrs yn niweidio y fasnach yn ddrwg iawn. Wrth siarad yn Merthyr, mewn cyfarfod o'r glowyr, eyfeiriodd Mr D. A. Thomas yn arbenig at hyn, a dywedai y dylai y dynion fod yn unol. Yna gallent gael dyn yn y farchnad, a phan geid fod un yn gwerthu dan y Heill y dylent ddysgu iddo wers trwy ddod a'r gweithwyr allan o'r lofa.
Y Ffrancod yn Madagascar.
Y Ffrancod yn Madagascar. Mae y Ffrancod wedi meddiaru Antan- anarivo, prifddinas Madagascar. Ni chad- arnheir yr adroddiad yn swyddol. Daw yr hanes, er hyny, o ffynonell dda. Fe'n credir gan bobl y swyddfa dramor Ffrengig. Yr hyn a ddisgwylient ydyw. Yr unig gwestiwn y gallai dadl fod arno ydoedd—a allai y fyddin fyned cyn belled. Yn ol bryslythyrdiweddaf y Cadfridog DUCHESNE, yr oeddynt yn myned yn mlaen mewn ysbryd uchel ac iechyd da.' Y pryd hwnw, ychydig filldiroedd oedd rhyngddynt a'r brifddinas. Yr oedd yr oil o brif anhaws- derau anianyddol y wlad wedi eu gorch- fygu. 0 ddechreu y rhyfelgyrch hyd ei ddiwedd fcanys dyna, yn ddiau, fyddmedd- ianu y brifddinas), ni ddangosodd yr ynys- wyr mo honynt eu hunain yn ddim amgen na haid o lyfriaid. Dibenent am eu diog- elwch yn gyfangwbl ar anhawsderau anian- yddol eu gwlad. Cofient am y gwasanaeth a gawsent ganddynt ar achlysuron blaenorol, ac hyd yn oed yn nechreu y rhyfelgyrch hwn. Y corsydd heintus a'r fforestydd disathr oeddynt cystal ag amddiffynfeydd cedyrn iddynt. Atynt, chwanegasant hwythau gaerfeydd. Ond, mor gynted ag y deuai'r Ffrancod i'r golwg, gan udganu yn eu hudgyrn, cwympai y caerfeydd hyn i'w dwylaw fel caerau Jericho i ddwylaw yr IfcSraeliaid. Eu gwarchodwyr a floent, gan | gilio i gaerfeydd nes i'w prifddinas. Yno yr arosent, hyd nes y deuai y Ffrancod, unwaith yn rhagor, i'r golwg ac yna, nerth eu traed ymaith a hwy drachefn. Fel hyn yr oedd y rhyfelgyrch hwn, nid yn cael ei ymladd, ond yn hytrach, ei gario yn mlaen. Profa yn amlwg nad oes dim newydd mewn rhyfel er dyddiau Alexander Fawr. Arfer- ai efe ddweyd nad oedd caerfeydd cryfion j i.I't"-w.:¡>;¡;toi.r"Z!¡tt.uzr;C!Jr wnrth dim heb ddynion cryfion o'u mewn. Dengys canlyniad hwn fod ynyswyr Madagascar yn hobi hollol gymhwys i fod dan ddarostyngiad, gan nad pa un a ydynt yn haeddu bod ai peidio. Os na ailant am- dcliLfyn eu gwlad yn well na hyn, amlwg yw na allant wneud defnydd priodol o honi. Nid ydynt wedi gwneuthur dim tuag at ddadblygu yr ynys ardderchog yr ymsefyd- lasant arni.
Ymosod ar ei Dad.
Ymosod ar ei Dad. Dydd Mawrth diweddaf dygwyd un John Williams, o Haen yr Henadur G. R. Harris, yn Blaenau Gwvnt, d:¡ II y cyb nddiad o dry- wariu ei dad, .John Williams, 63 mlwydd oed, y noson flaenorol. Dywedai yrachwyn- ydd iddo fyned adrof tua 9 o'r gloch nos Lun, a chanfod ei fal; yno mewn diod. Gorchymynodd iddo fyned allan, ac wrth iddo wrthod myned iddo yntan fyned ato a I i'w droi allan, yna yrcuflodd y carcharor mewn darn o bren, ac ymosododd arno ag ef. Gohiriwyd yr achos hyd dydd Gwener.
; Hunanladdiad yn Blaenafon.
Hunanladdiad yn Blaenafon. Dydd Mawrth diweddaf, gwnaed ym- chwiliad yn ngorsaf yr heddgeidwad Blaen- afon, i achos o farwolaeth James George Caddick, bricklayer a contractor, pa un a gymerodd le prydnawn dydd Sadwrn yn Woodland Street. Dygodd y rheithwyr rheithfarn o Hunanladdiad tra dan wall- gofrwydd amserol."
Talu pedair Punt am lanhau…
Talu pedair Punt am lanhau Danedd. Yr hyn a ganlyn a gymerodd le yn nhy eilliwr yn y Strand, Llundain, rai dyddiau yn ol. I mewn daeth Americanydd. 'Torwch fy m arf meddai. At y gwaith a'r eilliwr ar unwaith. Ar haner y gorchwyl, ebai yr eilliwr \Vir, chwi ddylech gael glanhau eich dannedd. Fyddaf fi ond ychydig fun- ydau yn gwneud.' O'r goreu,' ebai y gwr o Canada Wedi dioddef y driniaeth am dri neu bedwar muityd, ebai yr eillydd, yn ei don fwyaf melfedaidd k Chyst hyn ddim ond pedair punti chwi. Pe elech at dentist buasai yn costio dwy bunt chwaneg.' Yn y fan, wedi clywed y crogbris, dywedodd wrtho am stopio. ,rrhaJaFfi byth gymaint a hyny i cliwi.' Ond yn ei flaen yr aeth, gan ddyweyd na chodai fwy ua dwy bunt am y cwbl, Yn lie gwrandaw arno, galw am heddgeidwad wnaeth yr Americanydd, a rhoddi yr eillydd yn ei law dan y cyhuddiad o amcanu ei d wyllo ef o'i arian. } i •
Dyweddiad y Due o Marlborough.
Dyweddiad y Due o Marlborough. Cadarnheir y newydd am ddyweddiad y Due o Marlborough a Miss Consuelo Vander- n bilt gan longyfarchiadau ei gyfeillion. Yn nheulu y Vanderbilts, ni wna y briodas ddim cyffro ynglyn a dosbarthiad eiddo y tjdwyth. Yn y teulu hwn, y mae swm pendant y gynysgaeth yn cael ei osod o'r neilldu ar gyfer pob un o'r merched ac yn chwanegol at hyny, darperir nad yw eu gwyr i gyffwrdd a'u harian, ond yn nnig gyda'u caniatad hwy. Ami Americanes oludog sydd wedi croesi y Werydd ar yr un 'neges o drugaredd' a Miss Consuelo, er pail ddaeth Miss Sallie Mc'Kean drosodd, yn uiwedd y ddeunawfed ganrif i drugarhau wrth un o bendefigion anghenus Yspaen. Ond, y Due o Marlborough, mae'n debyg, sydd wedi llwyddo i ddal yr oludocaf. Bydded i'r ddau hawddfyd priodasol.