Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
."0 dan olygiaeth Ap Ceredigion.
News
Cite
Share
0 dan olygiaeth Ap Ceredigion. y Gair Cyswyn I Byr a Byw Yr Ilydref.-Darlienweh eich llyfr emynau hirnosau y gaeaf hwn i ddeall rywbeth am gorfan ac odl, a deuwch yma yr Hydref nesaf, Na wangalonwch er dim. Tranoeth y Drin.Llinellau gwychion, gloewion, yn llawn lliw a chyfriniaeth brin, brydferth. Telyneg amheuthyn. Tebyg i ddyn fydd ei Iwdwn.—PeniTC- ion doniol yn nhafodiaeth Ceredigion, a'r rhai hynny yn amheuthyn. Wele wythen gyfoethog i feib awen, sef cerddi llafar gwlad. Diolch i'r bardd ffraethbert am daro'r cywair, a hynny mor groew. Dowch eto yn ami. Y r Chwedleuwr.—Englyn brathog, byw, a llawn os yii Ily-ni. Anhawdd llun- io ei well. Dowch i Bethlehem-.—Fe wel oleu dydd y Nadolig. Peace on Earth.-Thanks, hope to publish in good J :me, Rhvbudd.-Torrir ewinedd gwr du Llunden gyda hyn, fel na cheir bychan am dychan; craffu am crafu, &c. &c. (N.B.-Awgryma'r "gwr du i'r beirdd ysgrifennu mewn llav/ysgrifen ddarllenadwy. Dywed nad yw llaw- ysgrifen aflerw bob amser yn brawf o athrylith. Swil yw i dd'od ei hun i'r goleu a rhoddif yr awgrym hwn drosto gan y Gdl.)
Y Chwedleuwr.
News
Cite
Share
Y Chwedleuwr. Dyn oriog, mae dan ei eiriau-galon Yn gwylio gwendidau, Brawd yw'r gwr i'r bradwr gau, A gwleddwr ar gelwyddau. Dolgellau. EDNANT.
Trannoeth y Drin.
News
Cite
Share
Trannoeth y Drin. Mae seren yn y nef ac yn y lJyn, A ltoer a'i throell arian uwch y bryn; Ym mreichiau'i gilydd wele ddau an- wylyd, Ac weithiau-'r ddau yn methu a chredu hyn! Tyr'd, hwyr, gwna'th deml yn hardd i'r mab a'i wen; Rhoth rus a'th saffir dyfnlliw yn ei lien Gwna'r bryniau'n llathr bileri, a'r Llwybr Llaethog Yir gan ac yn oleuni cryn uwchben. Eithr mae i gariad perffaith mab a mun Ei gwm a'i lif a'i loer a'i ser ei hun; A'i eos her.a gan o winllan werdd,. Pan dawo adar cerdd yn fud bob Un. Mae ganddo iddynt hwy, trannoeth y drin, Gwpanau ddau yri Hawn o ddeuryw win, Y gwyn a'r coeli,, a,hwy:th.,tu'ii frwy-sg ill deutiedd, o yfed rhin y nefoedd fin wrth fin. Ni wel y ddau anwylyd y pryd hyn Mo'r eneth unig grwydra heibio'r llyn; Mae'r naill yn fwy na llonnaid trem y < Hall.. A galar byth ni ddaw i fyd n-ior wyn 1, JAMS.
Tehig i Ddyn fydd ei Lwdwn.
News
Cite
Share
Tehig i Ddyn fydd ei Lwdwn. (Hanesyn yn nhdodia,ith Canolbarth Ceredigion,) Un dwarnod mi gwrddes a thro digon hallt Pan 'down i y'mynd i dy Nanti; Ces bigad onadw, nes cododd 'y ngwallt Yn beic lan fel plufs ceiliog twrci; Bues dyat colli'n anal—mi screclies mor or Nes rhedodd y da a'r ceffyle Yn drwpyn ar galamp at ochor y mor I gwato o oiwg 'y nghleme. Mi safes gan hynny dan neid gwefel hir; Yr own i fel dyn wedi delwi; Ond toe iawn, llais glywes in gbfyn yn glir Os own i yn nabod Twm Shani. Mi wedes dan snwffial, a 'mhen yn 'y nghwd, Y mod i yn nabod yr horswn; Wet osna ti'n gwbod," myntc'r llais yn go frwd, Taw tebig i ddyn fydd i lwdwn ?" Ond 'down i'm yn diaIl heth o'dd e' yn weid, A safes i wedyn fel postyn; Ond tyma'r llef lweth mew mynud yn gweid. v Eod gen Twm ddoi gwched o v/enyn; Ae wrth i fi bipo, a whilo, w'ch chi, Mi weles,—gwenynen o'dd yno; Ondwetswn ieirynole. bysehi Yn gweid rhwbelh wrthi cyn pigo. Pe byse hi'n canu, no whwrnu,—'na i gyd — 9 Mi fysw i i i j eindo yn hir,an; Ond nath hi'm canu, na roiviido,-dirn byd,- Ond pigo yn stret nath y Satan; O'r blan am Twm Shani â'i hen natur sIoi, Ac am i hen bige fe, gwiddwn Oud widdwn i darned y gallse fe grei Yn gwmws 'run peth yn i lwdwn. Pen awr, ro'dd yn wmed i'n shew fach i'r byd, Yr o'dd e i gyd wedi whuddo; Ond hidiwn i'm rap am y whuddu i gyd Ond pai bod 'y mhen i yn gwinio; Ond tewi o'dd ore, a mynd yn y blan, Agoddy boengore gallswn Wa'th beth o'dd i ddisgwl gan wenyn Twm Shan Os tebig i ddyn fydd i lwdwn P NEOO.
,--LLITH 4 MORFA.'
News
Cite
Share
LLITH 4 MORFA.' Hunan-Feddarg raff. BETH pe bai pob un yn 'sgrifenu ei feddargralf ei hun, ac yn ei adolygu yn ddifrifol bob pen-blwydd? Byddai ein mynwentydd wedyn yn lleoedd o encili-id adeiladol; a'r ddolen gydiol rhwug y byw a'r marw yn elfen o gysur am y ceid yma adroddiad o brofiad yr ymadawedig a fyddai o ddirfawr les i'r byw. Dylai pob dyn fod a'r gallu ganddo i roi ryw hanes o'i hun, a'r hanes hwnnw yn gerfiedig ar garreg ei fedd. Mae'r syniad yn werth meddwl am cfano. Wrth gwrs, mae geiinym hanes am lawer wedi 'sgrifennu eu boddirgraff eu hunain cyn hyn. Dyma i chi linellau Gray yn West- minster Abbey:— Life is a jest, and all things show it; I thought so once, and now I know it." A dyma i ni y Deon Swift, fel hyn: Abi, viator, et imitare, si poteris strenuum pro virili libertatis vindicem." A'r Cardinal Newman fel hyn: Ex umbris et imaginibus in verita- tem." A dyma hunan-feddargraff hunanol Benjamin Franklin: The Body of v BENJAMIN FRANKLIN Printer (Like the cover of an old Book, Its contents torn out, And stripped of its lettering and gilding), lies here food for worms; Yet the work itself shall not be lost, For it will, as he believed, appear once more in a new, And more beautiful edition, Corrected and amended by The Author." Ar fedd yn South Africa ceir hyn gan swyddog miiwrol o'r enw Child, gyfan- soddwyd ganddo y noson o flaen Spion Kop. Os syrthio wnai dyma oedd i fod ar garreg ei fedd — It is well with the Child." A rhag i mi drespasu 'chwaneg ar amynedd y Golygydd-—dyma ddigon 'rwan. Y Cyfaill Eglwysig "âtn Tach wedd Ceir y mis hwn sylwedd pregeth a draddodwyd gan y Golygydd yn Eglwys y Gelli, Arfon, ar achlysur ei Jiwbili, Hydref, 1919-a sylweddol iawn yw hefyd. Er mwyned a thoddedig yw rhed- iad,y don Infantry Hill," nid wyf ryw- sut yn hoffi cerddoriaeth y llinnell olaf, yn enwedig y ddau nodyn olaf. Cymorth ch werth in i hen ac ieuanc yn y Ddalen ddiddan o Leyn." Gwelais y Cyfaill" yn llawna,ch nag yw y mis hwn. Ond mae yma geiniogwerth ryfeddol. 6 Perl y Plant" am Tachwedd.' Da gan galon pawb ohonom wel'd darlun o Mr. Hugh Vincent, Bangor, fel un o'n harweinwyr. Dyn hoffus 3,w--a-gos iawn atoch--hollol naturiol ac heb ronyn o ragrith yn perthyn iddo. Deuwn i gyffyrddiad ag ef yn ami pan ym Machynlleth. A rwyf yn cofio yn dda i mi fod yn pregethu yn Eglwysy Plwyf un bore Sul yn Saesneg, a Mr. Vincent yn bresennol. Nis gwyddwn y byddai yno. A phwnc fy mhregeth oedd y lllødd y bu i lesu Grist ymwneud a'r cyfreith- iwr oedd yn ei holi. Dipyn yn drwm oeddwn ar stranc y twrne. A'r noson honno—ar ol swpper yn y Rheithordy- dyma Mr. Vincent yn gofyn i mi: Be ydan ni, dwrneiod, wedi wneud i chi, Mr. Hughes?" Fel gwin da, mae doethineb a medrusrwydd ateb Magi Jones yn gwella fel mae' -yn myn'd yn hynach. Sylwch, blant a phobl, ar ei hateb diweddaraf hi. Dyna i chi be' 'di multum in parvol" Daeth yr ysgrif "Edvfard Jones a'r medtlwl i'm cof am "Ysgol Edward Jones, Aberyst- wyth." Llawer offeiriad a chapten llong fu drwy ei ddwylaw erioed; a rhyfediaf weithiau na fuasai rhywun yn rhoi i ni hanes ei fywyd, a rhai o enwogion yr hen ysgol. Welsoch chi don yn ateb i'r geiriau erioed fel y mae, ron" Glan Teifi" yn y Perl ? Deryn bach ar y gangen, wedi meddwi gan ganu I Nis gallaf lai na llongyfarch Katie Hughes, o Waenfawr, yn ennill y gamp am gyf- ieithu darn mor gas. Gall Berwfodyn falch ohoni. Ac am y darn n iw ,gyneithu—wcl, wSt i'r dyn! Ceir yn y Perl ddigonedd o amrywiaeth i blesio pawb. Hyn a'r Llalt Ar ol un o frwydrau mwyaf y rhyfel, collodd Scotyn ei ffordd, a chrwydraiyma a thraw. Cwrddodd ag un o miiwrol Ffrainc, a gofynnedd: Begg- ing your pardon, Sir, but which is the way to the war." Wedi myn'd ym mhell, yn wir I • Are you still taking a cold plunge every morning*?" No, I quit doiAg that to save time\ Why, a cold plunge doesn't take more than a minute or two." I know, but I used to sjtsnd three-quarters of an hour curled up in bedhesitating." Digon tebyg. Yr hogen fach wedi bod yn hogen ddrwg—ac ar ol deyd ei phader y nos- waith honno-ei mh, am, yn gofyn iddi pa'm nad oedd wedi gofyn i Dduw am faddeuant. A dyma.'r" ateb: Why, mother, I didn't s'pose you wanted it mentioned outside the family." Chware teg
:MANION 0 FON.
News
Cite
Share
MANION 0 FON. Gan "Dulyn." Cynhadledd y Rhyl. Nid un eglwysig ond cynhadledd addysg ydoedd hon. 'Roedd cynrychiol- aeth dda or Monwyson yn bresennol. Cymerwyd rhan ftaenllaw yn. yr ymdra- fodaeth gan ddaiu o Eglwyswyr amlwg Llangefni—yr Athrawon S. J. Evans, M.A., a Leslie Scott, B.Sc., ac hefyd gan y ffraeth Ficer Prichard o Amlwch. Boddhawyd fi'n ddirfawr weled cynifer j o aelodau y Bwrdd Llywodraethol yn cymeryd rhan mor flaenllaw yn y gynhad- 1 ledd hon. Dadleuai Arglwydd Esgob 1 Llanelwy dros amrywiaeth ysgolion a pleidiai ar ran Ysgolion Gwa- ddoledig fel Ysgol Howell, Dinbych, ac Ysgol Rhuthin. 'Roedd Deon Llanelwy, Archddeacon Lloyd, Syr Harry Reichel, y Proffeswyr Arnold ac Archer hefyd yn bresennol. Hawdd gweled fod Eglwyswyr Cymru yn cym- eryd y diddordeb mwyaf o hyd yn addysg gwerin Cymru. Llangaffo. Rhai garw yw pob] Llangaffo am gasglu. Casglwyd tros chwe ugain punt yn y plwyf tuagat godi cofeb i'r dewrion na ddaethant yn ol. Beth fel Bazaar am ddwyn yr arian i'r god? Mae Miss Hughes, yr Ysgolfeistress fwyn, a Mrs. Lloyd ym mysg y goreuon am ddenu'r swllt O'l- I.togell. Heneglwys. Cwrdd o Undeb y Mamau a'r G.F.S. gynhaliwyd yn y Rheithordy yma yr wythnos ddiweddaf-a nifer dda wedi casglu ynghyd. Rheithor Llangefni oedd yn traddodi'r siars, yn hollol ymarferol fel arfer. Mae Mrs. Lloyd-Jones, Hen- eglwys, yn adnabyddus trwy'r Esgobaeth, a'r galwadau arni i annerch y rhianod a'r mamau yn y gwananol blwyfi yn ami. Llanfaelog Drwg gennym glywed am yr anffawd i'r Parch. Llew. Williams, F.C.S., y nos- waith o'r blaen. Y noson yn dywell, a llewyrxh y llusern yn egwan ydoedd achws y ddamwain. Ond nis gall fod yn ddrwg iawn arno; mae ef yn fferylh dd trwydd- edig a chyffeiriau wrth law. Bethpe bai "Morfa" yn cwympo oddiar ei ddeu- rodyr Llangefni. Cyfarfod diddorol gafwyd yn yr Ysgoldy nos Lun—cyfarfod cyntaf y tymqr i'r Mamau a Chymdeithas y Merched. 'Roedd y gypaned yn flasus, a'r canii yn swynoL Rhoddwyd goleuni y trydan yn yr ysgol yn ddiweddar, a phe gwerid dywedir C50 ir yr ystafell yma, i'w dodrefnu yn briodol ac i'w gwneud yn glyd, ni byddai angen gwario yn drwm i godi Neuadd Eglwysig. Cymdeithas Ddadleuol y Neuadd Goffa. Y tro hwn darlith ar Thomas Carlyle gan y Rheithor. Un: o darlithiau goreu y. cefais y fraint o wrando er's llawer dydd, Yn wir, gwr aniryddawn yw'n "person" ni. Deil y ddarlith hon i'w thraddodi fwy nag it unwaith. Eglwyswyr Mun—mynnweh ei chlywed ar bob cyfrif. Llangeinwea. Cynhaliwyd yma Nodachfa lewyrchus yn Ysgol y Cyngor, yr elw at gronfa i brynu hen Ysgol Llangeinwen i'w defn- yddio fel ystafell Eglwysig. Cafwyd £ 94, a chan fod y Rheithor a'r Wardeniaid yn flaenorol wedi casglu £ 66 at yr un amcan, da gennym fod digon mewn Haw i dalu am yr adeilad. Cam rhagorol. Llanddonai Cynhaliwyd Cyfarfod Adloniadol i'r Plant, o dan lywyddiaeth Mr. John Roberts, warden. Mwynhawyd cyfarfot1 hv/yliog.
EGLWYS ST. DEINIOL, LERPWL.
News
Cite
Share
EGLWYS ST. DEINIOL, LERPWL. Nos Fercher, y 3ydd cyfisol, cynhaliwyd Cyngerdd Mawreddog yn y Balfour Institute, Smithdown Rd.,«0 dan nawdd Eglwys St. Deiniol. Llywyddw d gan G. 'W. Hughes, Ysw., F.T-S.C., yn ei ddull medrus arferol. Yr artistes ydoedd fel a ganlyn: —Miss Lillian Cooper (So- prano) Birmingham, Yorkshire Concerts; Mrs. Evan Lewis, (Contralto) Llandudno Pier Concerts; Mr. Evan Lewis, (Tenor) Winner National Eisteddfod, Neath; Mr. Frank Nicholson, (Baritone) Win- ner National Eisteddfod Corwen; Miss Audrey Neale (Solo Violin) Liverpool and Cheshire Concerts.; Mr. Owen Francis, the well known penillion singer; Cyfeil- yddes: Miss Nellie Lewis, L.R.A.M. Mwynhawyd rhaglen hynod o ddiddorol, a theimlad pawb ydoedd eu bod wedi cael gwledd • ardderchog. Mae clod mawr yn ddyledus i'r pwyllgor am roddi inni y cyfleustra o wrandaw ar dalent mor gy- foethog. Cyn diweddu cynygiodd Mr. T. H. Hughes (Darllenydd JLleygol yng mgo-fal yr Eglwys) bleidlais o ddielch- garwch i'r Cadeirydd, ac i'r rhai hynny ag ydoedd wedi gweithio mor ddiwyd i wneuthury Cyngerdd yn llwyddiannus, ac hefyd i'r rhai hynny ag ydoedd wedi bod mor garedig ,a chyfrannu tuag at dreuliadau y Cyngerdd. Eiliwyd gan Mr. A. G. Williams, organydd yr Eglwys. Paratowyd A< light refreshments" ar gyfer yr artistes gan Mrs. Williams, Arundel Street, a Miss Williams, Gars- Y, 0 ton. Terfynwyd noson ddifyrus trwy ganu yr Anthem Genhedlaethol. Yr elw yn inyned tuag at dynnu y ddyled sydd yn i eefyli ar yr Eglwyr Noyis.
DEONIAETH ARFON.
News
Cite
Share
DEONIAETH ARFON. (0 dan Arolygiaeth y Parch. H. Jones, Penygroes.) Llanwnda- C.S.S.S. Dydd Llun, cynhaliwyd cyfarfod o'r Central Society of Sacred Study," y rhanbarth yn Ficerdy y plwyf uchod. Yr oedd yn bresennol Father Southam, Snowdon Ranger; Parchn. H. Morris, Llandwrog; R. Tywyn-Jones, Llanllyfni; R. R. Roberts, Groeslon; W. B. Hughes, Llanwnda; J. Griffith, Rhostryfan; a H. Jones, Penygroes. Darllenodd Father Southam bapur ar Epistolau Bu- geiliol St. Paul. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch. T. H. Richards, Clynnog, yn ei afiechyd. Pasi- wyd fod y cyfarfod nesaf i gael ei gynnal yn Llanllyfni. Cyn ymadael cyfranog- wyd o de blasus a arlwywyd gan Mrs. Bennett Hughes. Caernarlon-Curad. Deallwn fod y Parch. D. Thomas, Glanogwen, wedi cael ei benodi yn gurad Llanbeblig. Bu ef yn Neoniaeth Arfon o'r blaen pan yn gurad Llanrug. Bangor-S. la go. Y mae y Parch. W. J. Williams, curad hynaf Caergybi, wedi ei benodi yn gurad Eglwys St. lago, Bangor. Nid ydyw Mr. Williams yn anadnabyddus yn Neon- iaeth Arfon, canys bu yn gwasanaethu ym Mhehtir am gyfnod. JumWe Sale. Llithrodd y gair Llanrug yn ddam- weiniol uwchben y cofnodiad am y Jumble Sale" gynhaliwyd er budd Ysgol Eglwysig perthynol i St. James, Bangor. Penygroes —Y Gymdeithas Lenyddol Nos Fawrth cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas uchod, o dan lywyddiaeth y Parch. R. Towyn-Jones, Rheithor y Plwyf. Ar ol ychydig o eiriau o'r gadair, galwyd ar y Parch. J. Griffiths, Rhostry- fan, i roddi darlith ar Fywyd y milwr yn Ffrainc." Amaethyddiaeth. Deallwn fod amaethwyr y gymydogaeth ac ereill sydd yn cymeryd diddordeb mown amaethyddiaeth yn prysur barotoi ar gyfer arddanghosfa amaethyddol, ras aredig. (ploughing match) a phrawf cwn defaid. Llanwnda.—Marwolaeth. Heddyw y mae gennym y gorchwyl o gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth Mrs. Williams, gweddw y diweddar Barch. D. L. Williams, yr hwn a fu yn ficery plwyf uchod am bedair blynedd a'r ddeg a deugain. Bu gwrthrych ein hysgrif farw yn Rhyl dydd Mercher, 26ain o Dachwedd, a chludwyd hi gyda cherbydres y reilffordd i Ddinas Junction dydd Llun, Rhagfyr laf. Cariwyd hi i Eglwys Llanwnda, gan y Mri. I. W. Williams, W. Jones, a R. Pritchard, swyddogion yr Eglwys, a Mr. I Griffith, yr hwn a fu yn aelod o Eglwys Llanwnda, ond yn awr yn aelod o gor Eglwys Llan- beblig. Gwasanaethwyd yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. W. B. Hughes, Ficer y Plwyf, a'r Parch. H. Morris, Rheithor Llandwrog. Datgan- wyd emyn Gymraeg yn yr* Eglwys, a chanwyd yr olleryn gan Mr. W. Jones. Hefyd cafwyd emyn Seisnig, a gwasan- aethwyd wrth yr offeryn gan Miss A. Jones, olynydd y diweddar Mrs. Williams fel organyddes yn y gwasanaethau. Seis- nig. Ar lan y bedd yr oedd y gerddor- iaeth o dan arweiniad Mr. I. Griffith. Y prif alawr oedd y Parch. A. N. Breden, B.A. (brawd) Rheithor Sutton, Roch- ford, Essex. Ym mhlith rhai o gyfeill- esau y foneddiges drancedig gwelwyd Miss Roberts, Bryn Morfa, Caernarfon, a Misses Grifiith, Rhyl. Yr oedd Mrs. Williams yn hynod o boblogaidd pan yn y plwyf oherwydd ei charedigrwydd tuag at bawb. Yr oedd yn amlwg oddiwrth 1 deimladau drylliog amryw oedd yn yr anglodd eu bod wedi dyfod i dalu y gyin- [ wynas olaf i gyfeilles wirioneddol. I Heddwch i'w llwch. | Eglwys St. Thomas, Llandwrog. Gwnaed elw o L55 o'r Sale of Work I ddiweddar. Mae Mr. Ellis, prif-athraw Penffcrddelen, a warden Eglwysig, wedi dechreu Ysgol Nos ar gyfer y bechgyn ieuainc, ac mae yn llwyddiant mawr; Derbynir dau ddwsin o'r Llan gan aelodau yr Eglwys, a rhywbeth yn gyffelyb o'r Cyfaill a'r Peri.-Eisteddodd deg o ysgelheigion yr Arholiad Esgob- a<eth»l prynawn Sadwrn diweddaf. Mae gobaith am athrawon ac athrawesau da yn y dyfodol. Ai gwir fod llai yn eistedd yr arholiad yn y blynyddau di- f weddaf liyn?-Clywsc)m fod Miss Maggie Griffith,, Tai Newyddion, Groeslon, wedi pasio ei arholiad fel nurse, a'i bod ar fedr cymryd i fyny ei dyledswyddau yn Ninas Mawddwy.
LLANBUBOCH. *—
News
Cite
Share
LLANBUBOCH. — Blin gennym. gofnodi marwolaeth Morgan Jenkins, un o fechgyn ieuanc ac adclawoI Eglwys Llandudoeh, yn 23 oed. Mab oedd i Captain a Mrs. Jenkins, Cwm. Bu yn Ysgrifennydd ffyddlon i'r Ysgol Sul am rai blynyddau. Yr oedd yn aelod o'r Cor, ac yn gymunwr ffyddlon. Ar ol cystudd hir, yr hwn a ddioddefodd yn amyneddgar, hunodd yn yr angeu heren dydd lau, Hydref 23ain. Daeth torf jicsog ynghyd prynhawn dydd Llun, 27ain, i dtlu eu parch olaf i'r ymadawedig. Gwasah- aethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y Ficer, y Parch. J. G. Hughes, ac yn yr Eglwys gan y Parch. D. Tlowen, (irradl f Ymhlith llawer o bleth dorchau yr oedd un wedi ei danfon gan Ysgol Sul yr Eglwys. Bydded i Dduw yn ei ras gofio am ei rieni, ei frodyr a'i chwiorydd, yn eu galar, yn Ei drugaredd caniataed heddwch i'r ymadawedig-
Advertising
Advertising
Cite
Share
BISURATED MAGNESIA GIVE8 INSTANT REllE F FROM INDIGESTION. Vvhen you have eaten too much or too fast, when you feel so full and bloated that it's hard to breathe and your heart pounds because of the pressure against it, just take two or three little tablets of Bisurated Magnesia with a sip of hot water. You will begin to get easier at once and the trouble will entirely disappear in a few minutes. There is nothing else that gives the same quick and positive relief from indigestion, gas, acidity and dyspepsia. That's why every package contains a binding guarantee of satisfaction or money back. Go to-day and get a Is. 3d. package of Bisurated Magnesia Tablets from your nearest chemist. Then eat a hearty meal of the things that usually disagree with you, and take three tablets and you will say to your friends, You can eat what you like if you take Bisurated Magnesia." NEBVE UNREST is a product of the age, and is closely allied to self-consciousness in its varied forms of timidity, shyness, dread cf ordeal, fear of oneself, blushing, lack of confidence and control. Our Free Booklet. "Self-command by the EUMETRO Method," will interest you. EUMETRO SCHOOL, 29, Birley-street, Blackpool SPECIAL OFFER fSli181ril, 200 Litfht-Cctoured Damask Pattern Washlrlo QuiSts. These Quilts are well known for their use- fulness and hard wear. In pretty shades of Pink Sky, Olive, etc. Siz3 78 in. by 100 in. Sale price 7/6. (Postage 5d. extra.) Also 858 Pairs of Beautiful Twilled White Cotton Sheets, size 70 in. by 90 in., made from the best yarn only, special heavy quality, hemmed ready for use. Sale price 12/6 per pair. (Postage 5d. extra.) Also 4,600 Pairs of WHITE YORKSHIRE BLAN- K ETS which are guaranteed to prove a great soutcs of satisfaction to the purchaser. Measuring size, 52 in. wide by 72 in. long. Sale price IZ/6 per pair. (Postage 6d. extra.) 500 Real Oriental Wadded Quilts, size 5 ft. by 6 ft. Covered with beautiful rich Turkey Chintz and Sateen (fast colours), with borders, best quality, made, the greatest bargain ever offered, a4!ierougfily- healthy article, medically recommended'lor warmth. Sale price only 14/11. (Postage 6d. extra.) THE GREATEST BARGAINS IN RECORD. These prices are half their value to-day. Illustrated Bargain CataUoue of Carpets, Hearth- rugs, Overmantels, Bedsteads; Bedd kit. Table Linens, Curtains, etc., post free, if mentioning Ckurch Family Neivspaper (21/11/1919) when writing. Address: F. HODGSON aid SONS (Dept. C.F.N.). Miifrs. and Merchants, Woodsley Read, LEEDS INFLUENZA AND CATARRH Vesis's Lightning. Cough Sure Checks liiueilnza at the outset, and Soon Cures Nasal Catarrh. For Influenza Veno's Lightning Cough Cure is incomparable. It checks, &he l attack at the very outset if taken promptly and obviates all danger of complications. In nasal catarrh also Veno's acts like a charm, soothing the inflamed surfsices » of the nose and throat, and quickly restoring free breathing. Merit has m-acla Veno's the most popular remedy in the world for all bronchial troubles. Trusi always to Veno's Lightning Cough Cure. for Influenza and Nasal Catarrh, for Coughs and Colds, Lung Troubles, Asthma Bronchitis, Difficult Breathing, Hoarse- ness, and for Whooping Cough and other Bronchial Troubles in children. Prices Is. 3d. and 3s., the 3s. size being the more economical. Of Chemists and Medicine Vendors everywhere. Insist on having Veno's, and refuse all substitutes. The Happy Home is never a dull home. Let Sparkla make your home bright-cheerful happy. Sparkla makes all metal-work sparkle. Cleans paint- work, woodwork and kitchen utensils in little time and no trouble. SMRKLA Securing IMishing Soap Excellent for dirty hands. Does not scratch. No grease, acids or injurious chemicals Of all Grocers, Ironmongers or Stores MADE IN TWO SIZESt Large Double Tablet, 4d.g Single Tablet, Id. If any difficulty in obtaining write JOSEPH WATSON &,SO-NS-I-Tl& Whitehall Soap Works, sjsbus.