Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

BUT I ALLTUDIO RHYFEL O'R…

News
Cite
Share

BUT I ALLTUDIO RHYFEL O'R BYD? lGany Parch. David Jones, B.A., Abererel-i Yn Hyfr y proffwyd Esau cawn y geiriau nodedig hyn:—"Y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth ac nid oes grym i esgor." Dyna yn gywir, mi gredaf, yw ein cvflwr fel gwlad heddyw; yr ydym yn sefyll yn syfrdannu rhwng ilau fyd, neu, efallai, y ddylwn ddweycl, rhwng dwy oes. Mae yr hen oes neu fyd mi obeithaf, wedi trengu, neu o leiaf yn dechreu tynnu ei thraed i'r gwely i wneyd hynny. Gwyddorn yn dda ddigon beth oedd Yiodwedd annymunol yr oes ddiffaith honno; oes matyolaeth, cystadleuacth ae hunangais ydoedd, pob tin yn ymegnio i fod ym mlaenaf a gadael i'r diafol i gymeryd yr olaf. Cladder hi am byth yn nyfnderoodd abred! Ond yr anfitawd yw, er marw o'r hen oes, ofnaf, nad oes rym i- esgor ar yr oes iiewydd: er fod ein llanciau dewrion ar feusydd erehyll- yr i Arirmgedon wedi rhoddi marwol ghvyf i ddraig uffernol gormes, balchder a liunanles, eto i gyd hyd yma ychydig o arwyddion a weiaf fod gwawr oes newydd i fod. Gofier mai ofer ac am ddim yr aberthodd mwy na deng miliwn o'n eyd-ddynicn-blodau tirfion ieucne- tyd y byd, eu bywydau gwyryfaidd gwerthfawr, os lla fedrwn ddwyn byd ac oes newydd i fotlol-,ietli. Beth, gofynaf, oedd amcan a diben yn ysgarmesoedd brawyclius fu yn anurddo wyneb ein daiar dlos yn ystod y prim mlynedd ddi- weddaf-ysgarmesoedd rhwng gwahanol genhedloedd, ysgarmesoedd gymdeith- asol rhwng cyfalaf a llafur, ac hefyd ysywaeth crefyddol rhwng gwahanol adraimau Eglwys Dduw? Beth oeddynt? Fy nghred ddiysgog i yw nad oeddynt,— ond i bawb ohonom ddeffro a gwneyd ein dyiedswydd—ddim ond pangfeydd esgor i oes newydd,gwaew tyfiant y ddynoliaeth i gyflwr uwch a gwell yn y dyfodol agos. Teimiaf ya weddol hydcrus fod Seion Duw yn glaf ac yn myned i esgor ar genhedlaeth well a mwy brawdol na ni, cenhedla-eth a wna uno holl ddynolryw yn un frawdoliaeth gadarn, hunan ym- wadol a chariadus, pan y bydd Eglwys Dduw, Gwraig yr Oen, fel y dywed y bardd trwy'r ddD.o'r a'r Nef yn Un," Hyderaf hefyd fod gymdeithas, ar wahan i'r Eglwys, mewn gwewyr; ac yn myned i esgor ar gyfnod newydd ym myd llafur, pan y ca pawb yn ddiwahaniaeth gyfle cydradd i ymladd brwydr gated bywyd, a theimlaf yn dra awyddus i gy- hoeddi gostegion priodas rhwng cyfalaf a llafur, meistr a gweithiwr, cyfoethog a tlawd. Dyna, cofier, yw telerau y briodas,—fod y perchennog a'r llafurwr i fod yn gyd-gyfranogion yn yr anturiaeth beth bynnag fydd, ac fod gan y gweith- iwr yn ogysfcal a'r meistr lais gwirion- eddol yn llywodraethiad y ffirm, y fas- riach neu y globwll; eu bod yn ymgyf- amodi i gadw a chynnal ei gilydd o hyn all an er gwell, er gwaeth, er cyfopthoe- ach, er tlotaeh, yn glaf ac yn iach hyd nes gwahanno angeu hwy. Dadl deg a rhesymol y gweithiwr yw hid yn ogym- aint mwy o gyflog ond safon uwch ac anrhydeddusach o fywyd, ac mi dybiaf fod cyfiawnder a chydwybod dynolryw o'i blaid. Sut, tybed, y mae alltudio hwn allan o'r byd? Cyn at-eb y cwestiwn pwysig yna yn foddhaol, rhaid inni yn gyntaf gael gwybod o ba le y mae rhyfeloedd yn tarddu. "0 ba le," gofyna yr Apostol St. lago, "y mae rhyfeloedd ac ym- laddau yn eich plith chwi? Onid oddi- wrth hyn, sef eich melus chwantau, y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau ?" Trachwant yw y ffynnon erch o'r hon y maent i gyd yn tarddu; a chan fod y ffynnon yn fudr, ac iiliach y mae y ffrydiau aflan sydd yn goferu allan ohoni o'r un natur gan fod y gwreiddyn yn chwerw a gwenwynig, y mae yr holl Ifrwythau i gyd yn alaethus. Beth yw'r ffrwythau ? Beth ond gelyniaeth ddieflig rhwng cenhedlocdd, syched gwallgof ac anniwall am waed, cartrefi anghyfanedd, aelwydydd wylofus, gwragedd gweddwon, plant ammdifaid, meusydd ffrwythlon wedi eu troi yn ddiffaethwch anial! gofid galar, gruddfan a gwae anrhaethol! O'r fadi ffrwythau chwerw a gresynus! Y mae rhyfel yn drwyadl ddrwg, yn ddrwg yn ei darddiad ac yn ddrwg yn ei effeithiau; uffern ar y ddaiar ydyw! Y pwnc pwysig ac ymarferol yw sut y mae ei atal yn y dyfodol F Rhaid dechreu gyda'r ffynnon, a'r ffynnon fel y clywsom yw trachwant; a tardd pob trachwant o hunangais ac hunanfoddhad. 0 ganlyniad rhaid inni wneyd fel y gwnaeth Eliseus y proffwyd i drigolion pryderus Jericho gynt: "Ac efe a ddywedodd, ddygwch i mi phiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a'i dygasant ato ef. Ac efe a aeth at ffynhonell y dyfroedd ac a fwriodd yr halen yno." Yna yr ychwanegir nes ym mlaen: "Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn." Rhaid i ninnau wneyd yr un peth, a'r phiol newydd inni yw Efengyl gras Duw, a'r halen yw y gras o gariad 7 yn dywalltedig ar led yng nghalon holl ddynolryw! Yn y pen draw dyna'r unig feddiginaeth a fedr ymlid ymaith hunan a thrachwant a rhyfeloedd o Jericho, "dinas y felldith," sef y byd cythryblus hwn. Ofnaf yn fawr fod llawer iawn o grefydd Cymru heddyw^yn tarddu nid o awydd a sel i ogoneddu Duw a llesoli ein cyd-ddynion, hynny yw e.: helaethu teyrnas Dduw; ond o eiddigedd I cul dros ei blaid fach ei hun, balcht-er a hunanles,—awydd myned i'r Nefoedd neu ofn myned i Uffern. Ymaith a'r fath Phariseaeth ddir- mygedig: addoli crefydd yn lie addoli Duw," yw humbugoliaeth felly fel y .sylwodd un yii dra phriodol yn y Gyng- res Eglwysig. Gadewch inni geisio dych- welyd yn ol yn edifeiroJ at onestrwydd a duwioldl.) ein hen defdiau diymhongar; anghofio ein hunain yn gyfangwbl- myned yn ol yn ostyngedig at Efengyl yr ymgnawdoliaeth. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar-y ddaiar tang- nefedd, i ddynion ewyllys da." Dyna gyweirnod y Nadolig sydd yn agosau, a dyna gyweirnod Cristionogaeth. Rhai glanhau ffynnhonell y dyfroedd i ddechreu. IT. Yn yr oes newydd rhaid dyrchafu delfryd dynolrywT. Pan nesaodd gwyl olaf y bara croyw yn Jerusalem, gosododd yr Iesu, Tywysog Tangnefedd, ddwy ddelfryd ger bxon ei ganiynwyr, pan ymrysonent, fel llawer heddy w pwy o honynt a dybygid ei fod yn fwyaf." Dyma un Ac etc a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhin- | oedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a'r rhai sydd mewn awdurdod arnynt a elwir yn bendefigion." Dyna bolisi a delfryd yr oes aeth heibio, arghvyddiaethu, awdurdodi, "y trecha treisied, y gwanaf gwaedded." Yn ys- bryd yr hen egwyddor drahaus yna, dywedodd un hen ormeswr creulawn wrth ei ftlwyr pan yn ymosod ar wlad Na adewch ddim iddynt ond llygaid i wylo." Dyma'r ddelfryd a'r egwyddor arall a roddes yr Iesu: "Eithryr ydwyf fi yn eich mysg.fel unyn gwasanaethu." Di- byniia dyfo-dol y byd ar ba un o'r ddwy ddelfryd yna ydym yn feddwl fabwysiadu rhag llaw,. A brwydr ffyrnig, greulawn am awdurdod a thra-arglwyddiaeth yw bywyd y dyfodol i fod neu ynte cydym- gais br'awdol, iachus, pa fodd i ragori ar ein gilydd, sut i wasaSiaethu ac i godi y gwan i fynny, yn b.ersonol, cymdeithasol a chenhedlaethol. Sicr yw fod Prydain, Fawr os nad yr holl fyd ar y groesffordd heddyw, ac fod yna lawer 0 brobl.emau pwysig a dyrus ryfeddol i'w penderfynu o'i blaen, ond fy nghred ddisygl yw mai dyma wreiddyn a chalon y cyfan oll-tra-Arglwyddiaeth ynte gwasanaeth yw delfryd y dyfodcj i fod os yr olaf mentraf broffwydo y bydd diwedd ar bob rhyfel, personol, cym- deithasol a chenhedlaethol. Afraid yw inni adgofio y darllenydd o'r esiampl odidog a gawsom gan y Tangnefeddwr Mawr ar wyl y bani croyw: Yr lesu yn gwybod roddi o'r Tad bob peth oil yn ei ddwylaw Ef, a'i fod wedi dyfod oddiwrth Dduw,- ae yn myned at Dduw: Efe a gyfododd oddi, ar y swper, ac a roes heibio ei gochlwjsg ac a gymerodd i dywel "gwisg slave yn lie y gogoniant tragwyddol oedd iddo, yn y Nefoedd: ac a ymwregysodd.. Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i'r cawg ac a ddech- reuodd olchi traed ei ddysgyblion a'u sychu a'r tywel a'r hwn yr oedd Efe wedi ei wregysu" Brenin dynolryw, ni a welwn wedi cymeryd arn-o agwedd caeth- was ac yn golchi traed deuddeg gwerin- wr cyffredin ac yn eu plith Judas Fradwr! Pan ddaw Eglwys Dduw, pan ddaw meistr a gweithiwr, a phan ddaw holl genhedloedd y byd i wneyd hyn—y maent yn dra phell o wneyd hynny,eto- fe dderfydd pob ymryson a chaiff pob rhyfel ei lwyr alltudio o'r byd, ac "ni ddysgant ryfel mwyach." Mewn gwas- anaethau, cofier, y mae gwir fawredd, ac uchelgais pob gwir Gristion ddylai fod, fel yr hen sant hwnnw yn y canolosoedd a ddyxnunai fod i Dduw a'i gyd-ddynion yr hyn yw y fraich ddehau i'r gweith- iwr (I'w barliav).

FESTINIOG A'R CYLCH.

RHYBUDD .1

Y CYMRO .ODDICARTRE'

BETHESDA A'R CYLCH.

-CONGL Y CYMRO IEUANC. —+—

;. CAPEL TYGWYDD.: -

THE LOUDWATER MURDER MYSTERY.

Advertising