Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GWASANAETHAU DIOLCHGARWCH…

News
Cite
Share

GWASANAETHAU DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAEAF. Erfynir ar i'n gohebwyr fod mar fyr ag sydd yn bosibl wrth gofnodi ygwasanaethau uchocL—OOL. Bryneglwys. Yr oedd eira'n cuddio'r ddaear pan gynhaliwyd ein gwyl o Ddiolehgarwch I am y Cynhaeaf eleni, dydd Mercher, y 12fed cyfisol, am 10 o'r gloch. Gwein- yddwyd y Cymun Bendigaid gan y Ficer, .y Parch. Gomer Edwards. Pregethwyd yn y prynhawn yn Saesneg i gynuli- eidfa dda, ac yn yr hwyr yn Gymraeg i Eglwys lawn o bobl gan y Parch. G. R. Davies, M.A., Rheithor Corwen. Aeth Mr. Kyffin Jones, un o'r warden- aid i'w ymofyn yn ei gerbyd, a Mr. David Hughes, warden arall ag ef yn ol i Gorwen yn ei gerbyd. Oawsom wasan- aethau da, gwrandawiad astud, a chanu chalonog. Calonogir ni fod cynifer a 22 gopiau o'r C.P.N. a'r Llan yn cael eu derbyn 1 yn y plwyf bychan, gwledig hwn. Mae Heygwyr darllengar o werth nid bychan. Yspytty Ifan. Gwasanaethwyd gan yr offeiriaid adnabyddus, Parchedigton A. E. Lewis, Rheithor Llanrug, J. H. Rees, Rheithor Rhoscolyn. Cynorthwywyd ein Ficer yn y gwasanaeth nos Fawrth gan y Parch. J. Abel, FiceJlv-Capel Garmon. Cafwyd casgliadau sylweddol, a chyr- haeddodd blychau. Cenhadol y Plant y swm teilwng o £ 2 9s. 4d. Priodol iawn oedd y trefniad i'r plant gyflwyno eu blychau yr un pryd ag off rymau y gynull- eidfa yn y gwasanaeth am 2.30 dydd Mawrth. Addurnwyd yr Eglwys eleni fel arfer gan weithwyr y Voelas o dan ajrolygiajeth Mrs. "Roberts, y Ficerdy. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Mr. Robert Jones, Llanyporth. Cileen. Gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid am 10.30 o'r gloch, pryd y daeth nifer dda ynghyd. Am 3 o'r gloch yn y prynawn. Gwasanaeth yn Saesneg. DarUenwyd y llithiau gftn Major Buddicom, Penbedw. Pregethwyd gan y Parch. W. A. Rees Jones, Curad y Wyddgrug, ar y pwnc o wasanaethu Duw a'r galon a'r pen. Datganodd y cor yr anthem, Food and Gladness" dan arweiniad Mr. J. R. Jones, yr hwn hefyd a rhoddodd wledd i bawb a oedd yn bresenol yn ei ddat- ganiad meistrolgar o'r solo. Am 7 o'r gloch gwasanaeth Cymraeg, pryd y darllenwyd y llithiau gan y Parch. O. G. Pritchard, Rheithor Nannerch, a phregethodd y Parch. R. D. Hughes, Eheithor Derwen, ar y testya "Pa le mae y Naw." Cawsom ddatganiad medrus iawn gan y cor o'r anthem, "Llawenychais pan ddywcdant wrthyf awn i Dy'r Arglwydd." Yr oedd Miss Hayes, ein organyddes, mewn hwyl cam- pus gyda'r organ. Yr ydym yn dra dyledus i bawb a anfonasant roddion tuagat addurno yr Eglwys, sef Mrs. Blackwell (Isfryn), Mrs. Richards (Village), Mrs. Williams (Tanyrhiw), Mrs. Buddicom, Mrs. Bartley, Mrs. Mewton, Mrs. Turner, Mrs. Jones (Ty Ucha'rllan), Mrs. Williams (Tyddyn- ucha), Mrs. Rushforth (Plasnewydd), Mrs. Hughes (Y Gors), Mrs. Jones (Walwen), Mrs. Williams (Village), Mrs. Jones (Red Lion Inn), Mrs. Foulkes Williams, Mr. Jones .(White Cottage), Mr. R. Powell. Ac yr ydvm yn diolch yn wresog i'r boneddigesau aio, eu caredigrwydd yn addurno mor ddestlus yr hen eglwys henafol a godidog:—Mrs. Foulkes Williams, Mrs. Richards, Mrs. a Misses Mewton, Miss Eva Williams, Miss Jones (School House), Andrew Bartley, a llu o'n to ieuanc addawol. Rhoddwyd y casgliadau tuag at yr S.P.C.K. a St. Dunstan's Institute for the Blind. Ychydig yn ol cawsoiii "grant" o Lyfrau Emynau, hen a newydd, a "grant" o £ 5 gan S.P.C.K. tuag at gael ilyfrau i'r Ysgol Sul a'r Eglwys. Can diolch iddynt am ei cymwynas-j garwch. Bryaford. Pregethodd Rheithor Llanrwst yn y ddau wasanaeth, y Saesneg a'r Cym- ] raeg. Cafwyd dadganiad ar yr organ cyn ac ar ol y gwasanaethau gan Miss Florence Edwards (y Ficerdy). Y darnau cerddorol oeddynt Prelude and Fugue C minor (Bach). Rossini's Stabat Mater Arm, arm ye Brave," Handel's march "Warriner." Bylchau. Eglwys St. Thomas. Y pregethwyr eleni oeddynt: Parch. J. G. Roberts (Dinbych), yn y prynawn, a'r Parch. E. LI. A. Jenkins (Llanelwy), yn yr hwyr. Daeth nifer dda ynghyd yn y boreu am 10 i'r Cymun Bendigaid. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn ddestlus gan Mrs. Rees, Mrs. Evans, Misses Valentine Hughes, a Jones, a Mr. J. Evans (Churchwarden). Diolch i'r holl gyfeillion caredig am eu rhoddion o yd, blodau, a ffrwythau. Llangernyw. Pregethwyr: Y Parchn. R. D. Hughes, Rheithor Derwen; H. R. Hughes, Ficer Abergele, a D. J. Owen Williams, Llanddulas. Cymerwyd rhan gan y Parch. R. Ellis Llansanan; J. R. Jones, Llanfair; D. R. Griffiths, Llan- ddoget; LI. A. Richards, St. George ac H. Lloyd, Llanddewi. Canodd y cor yr anthemau Y Ganaan Glyd (Ambrose Lloyd), "Dyrchafaf Di (Eos Llechid), a I was Glad (Elvey). Addurnwyd yr Eglwys gan Misses M. a K. Jones, a Maggie Wynne, a garddwr Hafodunos. Cafwyd gwyl llwyddiannus ym mhob ystyr. Llangower. Cynhaliwyd gwyl o Ddiolchgarwch am y Cynhaeaf yn Eglwys y Plwyf uchod ddydd Iau y 6fed cyfisol. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid am 10 yn y boreu gan y Parch. J. Darbyshire-Roberts, B.A., Rector, ac am hanner awr wedi dau yn y prynawn, cafwyd gwasanaeth Saeaneg, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Rector, a darllenwyd y Uithoedd gan y Parch. W. Hughes, Ficer Llanuwchllyn, a Deon Grwladol Penllyn, ac am hanner awr wedi chwech yn yr hwyr cafwyd gwasanaeth Cymraeg, y Rector a'r Parch. Lloyd Jones o Wrexham yn gweinyddu, a Mr. Edward Pughe yndarllen y llithoedd. Gwein- yddwyd wrth yr offeryn gan Miss King, Fachdeiliog Hall, yn y bore a'r prynawn, a Mrs. Roberts, Rectory, yn yr hwyr. Cafwyd casgliadau da yn ystod y dydd ar gyfer gwahanol gronfeydd yr Esgob- aeth. Y Parch. Henry Jones bregethodd drwy y dydd. Gyffylliog. Dechreuwyd nos Fercher, y 5ed, gyda'r Brynhawnol Weddi, a phregeth gan y Parch. D. Rees, Rheithor Bylchau, ger Dinbych. Dydd Iau, cafwyd gwein- yddiad o'r Cymun Bendigaid am 8 a.m. ac hefyd ail weinyddiad corawl am 10 a.m. Yn y prynhawn am dri o'r gloeh canwyd y Brynhawnol Weddi yn Saesneg gan Reithor Blychau, a chafwyd pre- geth gan y Parch. R. D. Hughes, Rheithor Derwen. Yn yr hwyr am 7 p.m., gwasanaeth a phregeth yn Gym- raeg, y Parch. R. D. Hughes yn pre- gethu. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth hwn gan y Rheithor, y Parch. D. Rees, Bylchau, a Mr. Howell Daniel, Denbigh Datganodd y cor yr anthem Deus Misereatur (German), o dan arweiniad Mr. Cadwaladr Evans. A chwareuwyd yr organ yn y gwasan- aethau gan Miss Sallie Evans, Ty- draw'r Llan. Cafwyd cynulleidfaoedd mawrion, yn enwedig yn y gwasanaeth olaf, pan yr oedd yr Eglwys a'r porth wedi eu gorlenwi. Parhawyd yr wyl dros y Sul canlynol, a chafwyd gwasan- aethau bendithiol. a chynulleidfaoedd teilwng. Bendithied Duw yr oil a offrymwyd er gogoniant i'w Enw, a lies Ei Eglwys yn y plwyf. Addurnwyd yr Eglwys yn weddus ar gyfer yr wyl gan foneddigesau o'r plwyf, a derbyniwyd cyflawnder o flodau a ffrwythau oddiwrth blant yr Hen Fam tuag at y gwaith hwn. Birkenhead-St. Winifred's. Pregethwyd yn y bore a'r hwyr gan y Parchedig D. E. Hughes, Ficer Dewi Sant, Lerpwl. Yr oedd yr Eglwys-yr hon oedd wedi ei gwisgo yn hardd a chwaethus-yn orlawn—mewn gwirion- edd gorfu i lawer droi yn ol o'r drws oherwydd diffyg lie yn yr adeilad. Canwyd yr anthem Ystyriwcl^ lili'r maes" gan y cor, a chafwyd rhwng chwech a saith punt o offrymau. Cellan a Llanfair Clydogau. Cynhaliwyd y gwasanaethau ar y 29ain a'r 30ain o Hydref. Pregethw,yr, Parch. J. R. Davies, Llanbedr; a'r Parch. E. J. Davies, Bangor Teifi. Cynulliadau mawr, gwell nag arferol. Gasglwyd tuag at Drysorfa yr Esgobaeth. Addurnwyd yr Eglwys yn ddestlus fel y canlyn :— Cellan, Miss Thomas, Tafarndy; Miss Davies, Llwyn Onn; Miss Rees, Blaon- cwmcoy; a Miss Evans, Rectory. Manfair, Mrs. Morgan, Nantymel; Mrs. Thomas, Esgerddu; Miss Rees, Fron- doifi; Miss Davies, Blaencyswch; Miss Evans, Llanfair Fawr; Miss Jones,. Gelli; a Miss Evans, Cyswch. Glanhawyd rhod- feydd y fynwent gan Mri. Joseph Evans, J.P., Evan Morgan, David Richards, David Jones a Charles Evans. St. Petr, Ceckett, Abertawe. Cynhaliwyd gwasanaethau o ddiolch- garwch am y cynhaeaf yn St. Petr ar y 19eg, 20fed, a'r 21ain o'r mis diweddaf. Dechreuwyd gyda gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid am 8.30 a.m., Cymerwyd y gwasanaeth am 11 gan y Ficer, y Parch. G. Thomas, Llangyfelech, yn pregethu yn Saesneg. Yn y prynhawn, am 2.30, United Service Cymraeg a Saesneg: y Parch. G. "Thomas yn Gymraeg, 'a'r; Parch. Watkin Davies (St. Judes), yn Saesneg. Yn yr hwyr, am 6, gwasanaeth a phregeth yn Gymraeg gan y Parch. G. Thomas, ac yn y Schoolroom, yn Saesneg gan y Parch. G. Price, Penuel, Machynlleth. Nos Lun, yn Gymraeg, a nos Fawrth, yn Saesneg, Mr. Price yn pregethu. Yr oedd y gerdd- oriaeth dan ofal Mr. W. Evans, a chanwyd yr anthemau, We are His Flock." W. J. Ponsonby wrth yr organ. Addurnwyd yr Eglwys yn hynod adclis gan Mrs. Thomas, Mrs. D. Williams, Mrs. Pugh, Mrs. W. J. Ponsonby, Mrs. Gilbert, a Mrs. Bonham. Cafwyd gwasanaethau ardderchog a chynulleidfaoedd mawr. Bydded fod y gwasanaeathau hyn yn lies ysbrydol i ni i gyd.

corrisT" ' 1

........,.....L-t...¿.SJT.L:J..4."..LV-L

AT EIN GOHEBWYR

Advertising