Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYNHADLEDD RHYL.

Y STREIC.,

News
Cite
Share

Y STREIC. MAE bellach yn rhy ddiweddar i ymhel a manylion y streic, gySa dywedyd y dylai pob dyn sydd yn deilwng o waith gael "cog byw yn y gwaith hwnnw. Nid ydym .yn awgrymu nad yw pob un o weithwyr y ffyrdd haearn yn der-byn cyflogbyw, ac nid ydym yn dywedyd ei fod. Eithr erys un agweddbwysig o'r Jlghy. tundeb diweddar yn destyn dwys ystyriaeth. I bob pwrpas ymarfer- ol y Llywodraeth yw perchennog presennol y ffyrdd haearn, a chyn- rychiola y Llywodraeth holl ddeil- iaid y deyrnas. Nid oes unrhyw gwmni yn elwa ar cbwys wyneb y gweithwyr yn yr achos hwn, faint bynnag o sail sydd i'r eyhuddiad mewn achosion oraill. Yn wir dywedir, gan rai a ddylent wybod, fod rhedeg y ffyrdd haearn yn cost- io i'r wlad tua banner, can mil o bunnau bob blwyddyn. Syrth y golled hon ar y trethdalwyr, ac yn sicr y mae beichiau trethdalwyr y wlad hon ar hyn o bryd yn orthrym- us ddigon. Yr unig ffordd arall i gyfarfod a'r golled yw, trwy eto godi pris teithio a chludo nwyddau. Y mae pris teithio esus yn afresym- ol o uchel, ac un o ganlyniadau uniongyrcliol tollau am glu- do nwyddau yw pris uchel bwydydd a glo. Barnodd y Llywodraeth- a barnWn^fod mwyafrif mawr deil- iaid ein teyrnas o'r un farn—na ellir rhoddi rhagor o bwysau ar y wlad er mwyn parhau y dull hwn o gludo pobl a chario nwyddau. Ceis- iodd arweinwyr y gweithwyr--mae yn hwysig oofio na fu i'r arweinwyr ymgynghori o gwbl a'r gweithwyr -orf-odi y Llywodraeth i ganiatau eu gofynion, cyfiawn neu beidio, ac arweinwyd y gweithwyr oil allan mewn gwrthryfel yn erbyn awdur- dod y wladwriaeth. Nid oedd neb *-■ • i deithio ar ol awr benodedig, ac nid oedd neb i gael bwyd. Y mae gan bob gweithiwr hawl i wrthod ei wasanaeth os yw yn anfoddlon i* delerau ei waith, ond nid yw taflv holl drefnidiaetli hyrnas gyfan i annhrefn ar fyr rybudd ond wrth. 9 ryfel. Ond dyryswyd y cynllun gan nerth y Llywodraeth a chyd- ymdeimlad y werin. Ni ddioddef- odd neb o eisiau bwyd, ac yr oedd rhif y peiriannau tan yn cynhyddu yn ddyddiol mor sydyn fel y daetli yr arweinwyr poethlyd i'w hiawn bwyll cyn i lawer o niwed gael ei gyflawni. Y mae gennym ddau sylw i'w wneud. Y mae'n amlwg fod gwyr doethaf Llafur yn condemnio ym- ddygiad nwyd-wyllt arweinwyr gweithwyr y ffyrdd haearn, ac ym- drechasant, nes llwyddo, i'w dwyn i sylwreddoli eu camgymeriad. Newydd yw hyn ym myd llafur, ao argoel dda ar gyfer y dyfodol. Nid yw ond teg hefyd ycliwranegu i'r gweithwyr, fel cyfangorff, ym- ddwyn, yn hollol foneddigaidd a heddychol. Nid bob amser y gwna gweithwyr—nac eraill ychwaith (J ran hynny—haeddu^r dystiolaeth hon o dan amgylchiadau cyffelyb. Yr ydym yn berft'aitl*sicr nad yw4r gweithwyr wedi colli dim drwy en hymddygiad parchus.

CYNGRES LEICESTER.