Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
' -GOHEBIAETH.
GOHEBIAETH. LLYTHYR ODDIWRTH GAPLAN YN Y FYDDIN. Norfcn West Frontier Field Force, India. 19/7/19. 4. Olfgfdd 'Y tillf A'R DYWYSOGAHTH.' Syr,—Er fy mod i ar hyn o bryd yn derbyn £ 500 y flwyddyn, oyflog cadben yn y Fyddin Indiaidd, caniatewch i mi ofyn am eglurhad o ddirgelaethwch na fydd, efallai, o ychydig bwys I'm dyfodol, hyny ydyw, Pa fodd y gali curad priod I fodoli' ar gyflog o L140 y ftwyddyn 1 Byddaf yn bur ddiolchgar am 88boniad cyu i mi ymddiswyddo o'r Fyddin. Gwedi treullo tros dair blynedd yn y Dwyraln mae arnaf hiraeth ymweled i'r Hen Wlad a helpu'r Hen Fam yn el blinder. Nid gwaith wrth fodd calon dyn ydyw ymladd yn erbyn yr Afghaniaid, yr haul (120° 1), y moaquito I (pryf y tywod a'r llwch. Er's blwyddyn a haner ni chlywais air o Gymraeg. Hindustani vw iaith swyddogol Byddin yr India. Cofion cynhesaf at fy ngbyfoedion yn y Coleg a Mr. Daviea, y Manciple.—Yr eiddoch, fO., G. W. JONES, Capt., 1/61st (K.G.O,) Pioneers.
Llanarth. I
Llanarth. MYDROILYN.—Dydd Iau, y 14eg eyfisol, cyflwynwyd "Gold Watch" ardderchog i'r Parch. D. Thos. Jones, gan y warden, Mr. D. Rees, y Plas, ar ran yr Eglwya ynMydrollyn, fel arwydd o serch ac edmygedd. Bu Mr. Jones yn gwasanaethu fel curad yn y plwyf atn yn agos i bedair blynedd. Cafwyd ef bob amser yn un y gellid ymddiried ynddo, yn weithgar, cymwynasgar, caredig a didwyll. Teimlir yn chwith i feddwl ei fod wedi ym- adael. Dymunwn ei longyfarch ar ei ddyrch- afiad haeddianol i gymeryd gofal o'r Eglwys yn Mydrim, St. Clears. Boed iddo gael Duw yn rhwydd ac iechyd i gario y gwaith da yn mlaen yn el faes newydd. Prydnawn Gwener diweddaf, y 15fed o'r mis hwn, yn eglwys y plwyf uchod, cynhal- lwyd gwasanaeth coffadwriaeth i'r diweddar Capt. T. Jones, Lark's Hi! yr hwn a fu farw yn sydyn o glefyd y galon yn Tangiers, ac a I gladdwyd yno. Cymerwyd rhan yn y gwas- anaeth gan y Ficer, y Curad, a Fleer Tal. garreg, a phregethodd y Ficer yn bynod o rymua ac effelthiol oddiar 1 Thes. iv 12-18; adnodau ag oeddynt yn darawiadal a Shysur- us lawn i'r amgylchiad pruddaidd-yr olaf ydyw—" Am hyny diddenwch eich gilydd a'r ymadroddion hyn." Yr oedd y gynulleldfa luosog yn tyatio yn uchel i gymeriad yr ymadawedig. Gadawa weddw a dwy ferch i alaru ar ei ol. Cysured y teulu a'r perthyn- asau ar eiriau mi gredwn o'i brofiad olaf Mae genyf drwydded am y wlad,' Na wylwch mwy anwyllaid mad Rwy'rí myn'd i'r nef at Iesu i fyw, Rwy'n hoffi marw er mwyn cael byw." Chwareuwyd y Dead March" gan yr organyddes. 1
Bangor Teifi.-
Bangor Teifi. Dathlwyd arwyddo cytundeb heddwch yn y plwyf hwn ddydd Llun, Awst 4ydd, yn y modd canlynol :-Daeth y plwyfollon ac ereill ynghyd erbyn tri o'r glooh i Lodge- Blaen- dyffryn, pa le a roddwyd gan Mr. a Mrs. Coe, Blaendyffryn, at wasanaeth y pwyllgor i wneyd tê, &c., i gyfranogl o wledd o dd a bara brith o'r fath oreu. Wedi gwneyd cyfiawnder i'r amryw ddanteithion, nellldu- wyd i gae cyfagos, a roddwyd at wasanaeth y gwyddfodolion gan Mr. T. Jones, Troedrhiw- rhweb, i gynal sports o bob math, a lie y buwyd am oriau yn difyru ein bunain, Rhoddwyd gwobrau i bawb a fu yn Ilwydd- ianus i enill y gamp. Cyn ymadael cafodd pawb swper, ac ar gynygiad y Paroh. E. J. Davies, rheithor, yn cael ei eilio gan Mr. T. Jones, Brynpark, pasiwyd pleldlais o ddi- olehgarweh i Mr. a Mrs. Coe a Mr. T. Jones am eu earedigrwydd. Wedi canu yr Anthem Genedlaethol, ymwahanodd pawb tuag adref, wedi mwynhau prydnawn difyrus dros ben, o'r lleiaf hyd y mwyaf, a thystiolaeth pawb I oedd mai da oedd bod yno, a melus moes mwy. Y mae gair o glod yn ddyledus i ysgrifenydd- ion y mudiad, Mr. G. Davies, Gilfachronw, a Mr. J. Phillips, Aberhoffhant, am y modd Mr. J. Phillips, Aberhoffnant, am y modd rhagorol y cyflawnasanfc eu gwaith, ac i'r boneddigesau oil a fu yn gweini, pa rai sydd rhy luoaog i enwi. BEDTDD,-Prydnawn Sul diweddaf, derbyn- iwyd i arch Egiwys Grist Olwen, merch fechan Mr. a Mrs. T. Head, Bwlchmelyn. Gweinyddwyd gan y Parch. E. J. Daviea, rheithor. Y rhieni bedydd oeddynt Miss H. Davies, Troedrhiwrhwch, a Mr. D. Emrys Roes, Abermachnog. Gobelthio y bydd i Olwen facb, pan y dSl i oedran, fod mor ffyddlon yn yr Eglwys a'r Ysgol Sul a'i ch wiorydd. BangoriAn
-./ Fflint.
Fflint. EGLWYSIG.—Am y flwyddyn yn diweddu Pasg, 1919, casglwyd y swm o 2104p. 18s. lie. yn eglwysi y dref hon, ac yr oedd y treuliadau yn 1952p. 12s. 10c., gan adael jgweddill o 152p. 6s. Ie. mewn Haw. Mae y Canon Nicholas yn weithiwr egniol, ac nid yw yn rhyfeddod fod pobpeth yn llsyyddo dan ei arolygiaeth.—Arnicas.
Deoniaeth Arfon.
Deoniaeth Arfon. (0 dan arolygiaeth y Parch. H. Jones, Peny- groes). PENYGROES. CENHADOL.- Y mae Eglwys Crist, Peny- groes, yn hynod am el sel genhadol. Y dydd o'r blaen agorwyd blychau yr S.P.C.K., acyr oedd eu cynwysiad yn 91 15s. 2c. SJP.G. — Yr ydys yn hyderu y byddwn mewn sefyllfa yn fuan i anfon casgliad i'r Gymdeithaa a adnabyddir wrth y tair llythyrenau uchod, sef The Society for the Propagation of the Gospel in Foreign parts." Gwyddys fod hon yn hen gymdeithas wedi ei sefydlu mor bell yn ol a'r flwyddyn 1701. Gelllr cael eyflawnder o flychau ond anfon i ysgrifenydd y Gymdeithas. Gwyddys fod yr S.P.G. wedi gosod nod arbenig o'i blaen yn awr, sef casglu £ 250,000 fel Diolch-offrwm am Heddweh. Dyma gyfleusdra arbenig i bawb ag sydd yn caru heddwch i roddi yehydig o'u cyfoeth tuag at hyrwyddo y mudiad uchod ymlaen. YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.— Llongy- farcbwn Miss Annie Wood-Griffith, aelod ffyddlon o Eglwys Crist, Penygroes, am ei llwyddiant yn yr Eisteddfod. Cafodd ei gosod yn gydradd oreu am ddatganu penill- ion yn ol dull y Gogledd. Hefyd, llongy- farchwn y Parch. John Williams, ficer Coed- ana a Llangwyllog, M6n, cyngurad Peny- groes, am iddo dderbyn gradd o anrhydedd. Adnabyddir ef yn awr wrth yr enw Gwyllog." Y GYMDEITHAS DDIRWESTOL. Yn ol a ddeallwn, bydd Cynhadledd Ddirwestol yn cael ei chynal yma yn lied fuan. Nid ydym mewn sefyllfa i roddi y manyHon heddywT TRIP YR YSGOL SUL.-Dydd Sadwrn, aeth Eglwyswyr Llanllyfni, Penygroes, a Talysarn am drip i Gaernarfon. Yr oedd yr bin yn hyned ffafriol, a pbawb wedi mwynhau eu hunain yn rhagorol. Y mae clod yn ddy- ledus i'r Pwyllgor, ac yn arbenig i'r bonedd- igesau, am gario allan y trefniadau mor llwyddianus. Yr ydym yn cymeryd y y cyfleusdra yma i ddiolch i'r Parch. J. Morgan, ficer Caernarfon, am ei garedigrwydd yn rhoddi I ni ystafell mor gyfleus i wneyd y t6 i'r plant. RRAI AR EU GwyLiAU.—Yii ddiweddar, bu 'y Parch. T. Michael Jones, curad Blaenau Ffestiniog, yn aros yma, a thraddododd bregeth an nos Sul yn Eglwys Llanllyfni. Ar hyn o bryd y mae Mr. W. Lewis (Lay Reader), Llanasa, yn aros gartref, a bu yntau mor garedig a throddodi pregeth yn Talysarn. Hefyd, y mae y Parch. David C. Jones, o Lanelli, yn aros ar hyn o bryd gyda Mr. a Mrs. Davies, y Grove. Yr ydys yn hyderu y bydd yntau yn ddlgon cryf i roddi pregeth i ni oyn cefnu ar yr ardal. Y mae pob cynulleidfa yn falch o glywed doniau dieithr. CYNORTHWYO.—Yr oedd yna barti o Beny- groes a Llanllyfni yn cynorthwyo mewn cyngerdd yn Nghlynnog y noswaith o'r blaen. Clywsom eu bod wedi gwneyd eu rhan yn ganmoladwy. DADWADDOLIAD. Dyma ddywed y Guardian am Ddadwaddoliad yr Eglwys, hyny yw, The Welsh Church (Temporali- ties) Bill. It reduces the loss of the Churoh from Disendowment from L98,000 a year to X48,000 a year." Pan yn ysgrifenu (ddydd Gwener), y mae y Mesur wedi ei ddarllen ddwywalth yn Nhy, yr Arglwyddi. Con- demniodd Esgob Winchester y Mesur mewn geiriau cryfion. Dyma a ddywed yn ol ad- roddiad y newyddladuron :_C The Bishop of Winchester objected to the bill as a severe and harsh measure upon a gallant little Church, struggling against the greatest pecuniary odds. They were entitled to look for generous treatment under the bill." Diameu fod pob Eglwyswr egwyddorol wedi cael aiomedlgaeth fawr yn addewidion y Prif Weinidog, ond rhaid cofio na addunedodd y Prif Weinidog ddim yn bendant, ond ei fod yn myned i ail-ystyried adranau arianol o'r Mesur. Fe ddylai Eglwyswyr Cymru wneyd ymdrech arbenig i ddylanwadu ar y Senedd i'r Eglwys gael ei hen fynwentydd a'r tir Eglwysig.
Advertising
CLERICAL. ASSISTANT Curate Wanted for Penmon, Anglesey; Bilingual; title might be offered. Apply, Yicar. 4192-1114p. RHOSTRYFAN, Llanwnda. Wanted, Curate. Welsh; Good Stipend. Deacon would do. —Apply, Vicar, Llanwnda, Carnarvonshire. 4195 1116p CLERGY Help Wanted at Bettws-y-Coed for Sundays, Sept. 14, 21, 28, and Oct. 5. —Apply, Vicar. 4193-1114p. LAY Reader Wanted. Bilinguist; Good Sal- ary.—Vicar, LLAN Office, Lampeter. 4194-111 3p- WANTED, Bilingual Colleague for Nanty- moel; duties shared equally. Stipend at least £ 200.—Apply Rev.-H. Withers. Nantymoel. 4035-1113p. VICAR of Guilsfield, Welshpool, wants Curate for Country Parish English Ser- vices interesting sphere Evangelical Church- man. Priest, 2180 Deacon, £170. 4198—1113p. PWLLHELI. Colleague wanted. Bilingual JL Priest or Title offered.-Apply Vicar, Pwllheli. 4197-1116p. LLANDUDNO Junction (Dio. St. Asaph). Wanted Assistant Curate; Bilinguist; I Title might be given.—Rector, Llangystenyn, Llandudno Junption, N. Wales. 4196-1113p. LANFAIRTALRAIARN. Curate wanted. L Bilingual. Title offered. Rural Parish.— Apply, Rector. 4199-1114p.
Yr Eglwysi Cymreig yn Lerpwi.
Yr Eglwysi Cymreig yn Lerpwi. DEWI SANT.—Hampstead Road, oft Sheil Road, ASAPH SANT. -May fields, off Westminster Rd. DEINIOL SANT.-Upper Parliament Street. Bydd y Ficer yn falch i dderbyu oddiwrtb offeiriaid ac ereill yn Ngbymru gyfeiriadau yr Eglwyswyr Cymreig a ddeuant i ymsefydlu yn y ddinas. Hefyd, parod fydd i ymweled a'r cleifion o Gymru yn y gwahanol yspyttai.—Cyfeiriad Rev. D. E. HUGHES, 33 Radstock Road, Liverpool. 0