Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

OWRS Y RHYFEL.

News
Cite
Share

OWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHitiOS UN FFRYNT I'R HOLL RYFEL. PRYDER YR EIDAL YN PARHAU. AWR DDU RWSIA YN GOLEUO. BRWYDRO MEWN MEUSYDD BEIBLAIDD. TRECHU'R SUBMARINES. I Parhau o hyd mae r pryder mawr am ¡ dynged yr Eidal. Parhau i wthio ymlaen i enill tir, ac i gymeryd trefi a charohar- orion rhyfel yn yr Eidal y mae Germani tra yr ysgrifenir yr ysgrif hon. 0 bosibl y daw tro ar fyd cyn y daw yr ysgrif o'r waag, ond tywyll yw y rhagolwg yn yr EidaJ ar hyn o bryd. Esgorodd anffodion yr Eidal ar ganlyniadau tra anisgwyliadwy yr wythnos a aeth heibio. Ysgydwyd oadeiriau Prif Weinidogion yr Eidal a Ffrainc, a Phrydain. Syrthiodd y ddau naenaf o'u cadeiriau, a buwyd yn darogan msfi syrthio a wnai Mr. Lloyd George hefyd, aud yn nfhadair y Prif Weinidog y rnaei efe ar h is bryd, ac --j,. yxt. bosib] y bydd t^V&dd ynddi yn giadamaoh ar ol yr ysgytiad nag ydoedd cyn hyny. UN FFRYNT I'R HOLL RYFEL. Fel yr hyspyswyd ar y pryd, aeth Mr. Lloyd George, ynghyda Phrif Weinidog I Ffrainc, ac awdurdodau milwrol y ddwy wlad i'r Eidal pan ddaeth yr hanes am lwyddiant rhuthr mawr byddinoedd Ger- mani i'r wlad hono. Dau amcan mawr j oedd i'r ymweliad hwn, a'r naill yn di- bynu o angenrheidrwydd ar y llall. Yr| amcanion hyn oeddynt:— J 1. Cadarnhau ymlyniad yr Eidal wrth Brydain a Ffrainc yn y rhyfel, rhag gwneyd ohoni heddwch a'r gelyn. 2. Tref^u ffordd o ymwared iddi o'i chyfyngder a i pherygi presenol. Cafwyd yr wythnos ddiweddaf brofion o gywirdeb yr hyn a ddywedwyd yn yr ysgrif ddiweddaf yn y LLAN, 8.elf mai amcan mawr ergyd nerthol Germani oedd gorfodi yr I EidaJ i ddeisyf am heddwch. Byddai troi yr Eidal allan o'r rhyfel ar unrhyw del- era u yn gwneyd nifer gelynion Germani I yn llai, ac yn rhyddhau byddinoedd Awstria a Germani i ymosod mewn lie arqfl. Gan gofio mai popeth a, rydd gwlad fel ag a wna dyn am ei einioes. nid disail oedd y pryder a deimlid a fedrai yr Eidal wrthsefyll y brofedigaeth i ildio er mwyn diogelu y wlad, y bobl, a'r trysorau oenedl- aethol, rhag anrhaith barbaraidd Germani, Gan sylweddoli y perygl brysiodd Prif Weinidogion Prydain a Ffranc i'r Eidal. Sylweddolasant y rhaid trefnu ffordd o ymwared i'r Eidal os nad oedd Germani naill ai i ddarostwng y deyrnas o dan draed y Caisar, neu ei gorfodi i wneyd heddwch. Dywed ymwelwyr a Germani ar 01; y rhuthr mawr, mai cri cyffredinol gwerin a bonedd Germani heddyw yw y rhaid i'r Eidal wneyd heddwch ac y bydd gwneyd heddwch a'r Eidal yn agor y drws i wneyd heddwoh hefyd a, Ffrainc ac â I Phrydain. Dangoswyd yn y LLAN yr wythnos ddiweddaf pa fath delerau heddwch a hawliaaai y Caisar e dan y cyfryw amgylehiadiau. Dro ar ol tro yn yr ytgrifau hyn yr wyf wedi oeisio gwaagu iar feddwl y darllenydd miai un maes yw yr boll ryfel gan nad ymha le bynag y bo'r brwydro. Yn yr ysgrif yr wythnos ddiweddaf oeisiais ddangos miai methu edryoh ar y rhyfel all fel; un maes oedd yn cyfrif am anffodion Serbia a, Roumniaa, ac yn awr yr Eidal iwtyd. Dyna y wers a. wsgwyd adref i feddwl Mr. Lloyd George a'i gymdeithion pan ymwe-feavt t'r Eidal. Wedi gyru yr ar- gyhoeddiad hwn adref, daeth cynrychiol- wyr y tair gwlad, Prydain, Ffrainc, a'r Eidal, yn unfryd unfarn i r penderfyniad naturiol y rhaid ymladd y rhyfel o hyn allan genym ni, fel ag a wneir o'r cychwyn cyntaf gan Germany fel un rhyfel ar un maes. Felly pendejrfynwyd cael I UN PRIFGYNGOR RHYFEL i wylio ac astudio symudiadau ac anghen- ion pob rhan o'r maes. Yn y Senedd nos Feroher diweddaf eglurodd Mr. Lloyd George swyddogaeth a chyfansoddiad y Prifgyngor Rhyfel hwn. Heb fyned i fanylion gormodol gellir aymio i fyny y cynllun yn fyr fel hyn: 1. Fod Prif Weinidog, ac un cynrych- iolydd milwrol, o bob un o'r tair gwlad i ffurfio y Cyngor, ac ymgynghorir a'r gwledydd eraill sydd mewn cyngrair a ni fel y gallont. hwythau hefyd ddanfon cyn- rychiolwyr os cydsyniant. 2. Fod y Prifgyngor i wylio yr holl faes, gan edryoh ar bob rhan ohono fel rhanau o un ffrynt mawr, ac i awgrymu -pa beth a ddylid ei wneyd ymhob rhan o'r ffrynt. 3. Fod Maeslywyddion pob gwlad i barhau i fod yn gyfrifol i Lywodraeth eu gwlad eu hun yn unig, 4. Nad oes un gallu gweinyddoi yn oael ei roi i'r Prifgyngor hwn, hyny yw, nad oes ganddo awdurdod i orchymyn i un- rhyw Faeelywydd i wneyd dim ond trwy I orchymyn Ijh'wodrae^h y wlad o dan yr I hon y gweithreda y Mceelywydd hwiiw. > 5. Fod Aelodau Milwrol y Prifgyngor i eistedd yn barhaus yn Versailles yn II Ffrainc mewn cydymgynghoriad beun- yddiol l'u gilydd, ac mewn gohobiaeth barhaus â'u Llywodraethau gwhanol; a bod cyfarfod o holl Aelodau y Prifgyngor (hyny yw y Prif Weinidogion a'r Aelodau Milwrol) i gaeh ei gynal o leiaf unwiaifch bob mis, ac yn amlach pan fo galw. Dyna yn syml ffrwyth cyhoeddus ym- weliad Mr. Lloyd George a'r Eidal. Y BRWYDRO YN YR EIDAL. Fel yr awgryntwyd uehod nid yw. pethau i w gweled yn gwella hyd yn hyii yn yr Eidal. Fe gofir fod pedair afon fawr yn rhedeg rhwng byddin Germani pan dde, ohreuodd y rhuthr, a dinas hanesyddol gyfoethog Venice oedd yn nod cyntaf ei 4tuebelgals i'w henill. Yr afonydd hyny ydynt: 1, Isonzo; 2, Tagliameuto; 3, Livenza; 4. Piave. I Ffurfid llinell amddififyniad byddin yr Eidal ar bob un o'r pedair hyn. Hyspys- wyd eisoes fod y gelyn wedi gyru byddin yr Eidal yn ol o'r ddwy flaenaf o'r pedair afon. Yr wythnos ddiweddaf croesodd y drydedd, ac yn awr daw'r hanes trwm ei fod wedi croesi yr olaf o'r pedair, y Piave, drydedd, ac yn awr daw r hanes trwm ei fod wedi croesi yr olaf o'r pedair, y Piave, mewn o leiaf bedwar man gwahanol. Croesodd y gelyn y Piave ynghyntaf oil yn y mynydd-dir yn agos i gan' milltlr o enau'r afon. Croesodd hi wed'yn mewn tri man arall yn agos i'w genau. YílO ma,e o fewn llai nag ugain milltir i ddinas Venice, ac o bob tu i r rheilffordd sydd yn arwain tua'r ddinas. Felly, tra yn ys- grif enu hyn, mae dau berygl mawr yn bygwth yr Eidal, se,f 1. Y collir dinas Venice. 2. Yr amgylchir rhan fawr o fyddin yr Eidal cyn y geill encilio i le mwy diogel. Am y cyiitaf o'r ddau berygl hyn collill dinas Venice, ymddengys fod yr Eidalwyr eu hunain fel pe yn parotoi at hyny. Venice yw, o bosibl, y ddinas gyfoethocaf yn y byd mewn trysorau y ceifau cain, mewn adeiladau, oerfluniau, ac arluniau o bob math. Dengys hanes y Germania,id yn Belgium a Ffrainc eu bod yn gosod eu bryd ar ladrata popeth gwerthfawr y mjedrant roi eu dwylaw arno, ac yn di- nystrio popeth cain na fedrant ei yspeilio a'i gario ymaith. Rai wythnosau yn ol gwelwyd fod Germani yn parotoi i ddi- nystrio dinas Venice, canys cyhoeddasant fod Venioe yn benoadlys milwrol, yn gan- olfan gwneyd munitions, etc. eagns oedd hyny a luniwyd ymlaen Haw er cyfiavlmhau gwaith magne-lau Gormani yn dinystrio adeiladau a thrysorau hanesyddol y lie. Penderfynodd yr Eidal beidio gadael rhith esgus i'r gelyn i wneyd hyn. Ni ckaiuateir i neb Eidalwyr mewn gwisg milwrol fod oddifewn i derfynau y ddinas, a gadewir y ddinas ei hun mor ddiamddiffyn ag un- rhyw beutref yn Nghymru fel na chaff or gelyn esgus dros danio ar y lie. Am yr ail berygl, sef yr anigylchir rhan fawr c fyddin yr Eidal cyn y geill encilio, rhaid cofio dau beth, sef:— (a) Y disgwylir i fyddin yr Eidal ddal ei thir ar lan yr afon Piave hyd y munyd olaf er rhwvstro'r gelyn i'w chroesi. (b) Fod llai o Ifordd gan fyddin Ger- mani vn v Trentino i ddod i lawr a chroesi y ffyrdd ar hyd v rhai y rhaid i fyddin vr Eidal encilio, nag sydd gan fyddin yr Eidal ei hun i deithio i gyraedd v croes- ffyrdd hyny. Try y cwbl felly yn awr, fel yr oedd wythnos yn ol, ar v posiblrwydd i fyddin Prydain a Ffrainc gyraedd yno mewn pryd i achub byddin vr Eidal. Ymddengys heno fod y frwydr fawr eisoes wedi dechreu. Fel y dywedwyd croesodd y gelyn yr afon mewn tri lie yn agos i enau y Piave, ond hyd yma metha symud ymlaen. Rhwvstrwyd ef gan fyddin yr Eidal yn ei ymgais i groesi yr afon mewn tri lie arall. Felly yn v fantol y mae tynged Venice ar hyn o bryd. GWAWR GOBAITH YN RWSIA. Newyddion cyukySglyd yn gwrthddweyd eu gilydd a gafwyd yr wythnos hon o Rwsia. Dywed un hanes fod Kerensky, y Prif Weinidog, wedi caaglu byddin ac wedi gorchfygu y gwrthryfelwyr yn Petro- grad. y brifddinas. Dywed adroddiad arall fod Kerensky wedi methu ac inai'r gwrthryfelwyr enillodd y fuddugoliaeth yn y brwydro. Dywed trydydd adroddiad fod y ddinas ei hun ar din. Hyd nee ceir hysbysrwydd swyddogol a sicr anhawdd dweyd sut y try pethau allan. Os caria'r gwrthryfelwyr y dydd, yna, bydd yr awr dywyll ddu y aoniwyd am dani yn yr ysgrif yr wythnos ddiweddaf, wedi taro. Os methu wna'r gwrthryfel, pa un bynag ai Kerensky ai arall fo'n ben, bydd gobaith y gwelir Rwsia eto yn adenill nerth ac yn brwydro yn erbyn y gelyn un- waith etc. Oadarnheir y dybialth mai goruchwyl- wyr cyflogedig a llwgrwobrwyedig y Caisar oeddent y tu cefn i'r gwrthryfel gan y ffaith Lod Sosialwyr Germani wedi danfon cenadwri swyddogol i longyfarch y gwrth- ryfelwyr. Gan y myn y gwrthryfelwyr honi mai rhag ofn gweled y Tsar yn cael ei adfer i'w orsedd y gwrthryfelasant, rhaid i Sosialwyr Germani, os gonest ydynt, -ld I I ddiorseddu y Caisar. Eithr gan mai ei glodfori a wnant, a chan eu bod yn cyfarch gwrthryfelwyr Rwsia fe! eu cyfeillion goreu, rhaid mai gwneuthur ewyllys y Caisar yr oedd y gwrthryfelwyr. Ond ymddengys fod perygl mawr cyntaf y gwrthryfel eisoes wedi myned heibio. Unig obaith y gwrthryfelwyr oeddtsierhau d i buddugoliaeth fawr, svdyn, a chyffredinol. Mae pob awr fo'n pasio cyn y caffont hyny yn lleihau eu siawns i enill. Gan nad beth am dynged Kerensky ei hun, ym- ddengys fod corff mawr gwerin Rwsia vn wrthwyuebol i'r gwrthryfelwyr, ac o'r ffaith hono y tyr gwawr gobaith. • BRWYDRO MEWN MEUSYDD BEIBLAIDD. Yr wythnos fwyaf dyddorol i ddeiliaid yr Ysgol Sul er dechrel y rhyfel. a fu yr wythnos ddiweddaf. Pe cymer y dar- llenydd map o Wiad Canaan am gyfnod yr Hen Destanient, gan farcio ar hwnw symudiadau byddin Prydain a Bechgyn Cymru yr wythnos ddiweddaf a'r wythnos o'r blaen, cliwyddir yn ddirfawr ei ddy- ddordeb vn N ghwr v Rhyfel ac yn Hanes y v Beibl. Ceisiaf nodi yn fyr rai o'r prif bwyntiau. ANTURIAETHAU DAU GYMRO. 1 Gwyddis bollaah fod Beahgyu Cymru I yn chwarae rhan bwyaig a blaenllaw yn y brwydro yn NgwIad Canaan. Mae yno ganoedd, os nad miloedd, o ddeiliaid yr ýggol Sul yn Nghymru yn teithio llwybrau y Patriarchiaid. Yn eu plith mae dau frawd, John Jones a Dafydd Jones, mown bataliynau gwahanol. Yr oedd John yn IY Irl gysylltiedig a'r adran ar y ddehau, a Dafydd ar yr aswy, i fyddin Prydain. Felly, caiodd John ei hun yn ymladd yn erbyn y Twrc yn Beersheba, He bu Abra- ham, Isaac, Jacob, ac Esau yn preswylio. Gyiwyd byddin y Twrc ar ifo tua dinas Hebron. Gan fod John yn hoff o i Fedbl, ac yn ymchwiliwr, daeth i'w fryd pan yn gwersyliu yn Beersheba i edrych 0'1 gwm- pas a welai efe rai o olion y dyddiau gynt. Felly (ai mewn breuddwyd ai mewn gwel- edigaeth barned y darllenydd) gwelodd John weision Abraham a gweision Abi- melech yn cweryla ynghylch y ffynon ddwfr, a'r ddau benaeth yn gwneyd cyf- aniod wrth ochr y ffynoil. ac yn ei galw hi yn Beersheba, Ffynon y Llw. Gwelodd y gaethwraig Hagar yn cBiel ei gyru ymaith gyda ï bachgen bach, Ishmael, o babell Abraham i farw o sychcd yn yr anialwoh. Aeth John ar ei hoi, a gweJodd hi a'i bachgen bach ar farw o syched pan ym- ddangosodd angel yr Arglwydd iddi ac yn ei gwaredu hi—ac yna ei mab bychan, Ishmael, yn cynyddu yn genedl gref ac yn dad yr holl lwythau Arabaidd a gylch- ynant wersyll Prydain heddyw. Gwelodd Abraham ."u Jf'- vt addomy parhaol cyntaf y ceir hanes am dano. Gwelodd Abraham yn cael ei alw oddi yno i aberthu ei fab, ei unig anedig fab Isaac, ar fynydd Moriah. Aeth John un hwyr- ddydd i un o'r bryniau gerllaw, a daeth o hyd i hen ogof; aeth i mewn, a chafodd yno lwch santaidd--canp, Ogof Macpelah, beddrod y teulu ydoedd. Bu John yn eistedd ar y tywod yn y man y bu meibion anuwiol Samuel y Proffwyd yn eistedd fel barnwyr yn Israel, a gwelodd Elias y Pro- ffwyd a'i was yn dod yno yn ffoi oddi wrth ddialedd Jezebel; gwelodd y Proffwyd yn I¡ gadael ei was yno, ac aeth John ar ol y Proffwyd i'r anialwch ac a eisteddodd gydag ef o dan y ferrywen. A wyt ti ddarllenydd yn amheu stori John? Onid oes tair or saith ffynon a gloddiwyd gynt yn Beersheba i'w gweled yno hyd y dydd hwn? Ac oni bu John, ac ugeiniau o fechgyn Ysgol Sul Cymru yn yfed o'r dwfr yn Ffynon y Llw ei hun? Ac onid yw yr holl lanerchau eraill a welwyd gan John o fewn cyraedd gwersyll Prydain yn Beersheba? Tranoeth aeth John gyda'i fataliwn allan ar ol y Tyrciaid ymron hyd Hebron, un o ddinasoedd noddfa Israel gynt, ond ni bu yn ddinas noddfa ddiogel i'r Twrc. Yno y dechreuodd Dafydd deyrnasu; yno y dae,th y deg llwyth i gynyg Brenhiniaeth Israel iddo; ie, ac yno y cynllwynodd ei fab Abzalom i'w erbyn gan geisio dwyn y frenhiniaeth oddiar ei dad. Yn y cyfamser yr oedd Dafydd Jones, brawd John, gyda'i fataliwn yntau yn rhodio llwybr Samson gynt yn nhir y Philistiaid, ac yn enill dinas Gaza. Gwel- odd Dafydd y man lie y lladdodd Samson y llew, ae y cafodd fel o'i ysgerbwd. Bu gyda'i fataliwn yn erlyn ar ol y Twrc hyd yn Gath, cartref y cawr Goliath. Enill- odd y Cymry 'ddinas' Gath, nad yw heddyw ond pentref bychan o dai pridd. Mwy dyddorol hyd yn oed na hyny i Dafydd Jones oedd cymeryd rhan yn yr ymosodiad llwyddianus ar ddinas Asdod. Wedi onill y ddinas bu Dafydd yn ohwilio am adfeilion teml Dagon He bu yr Arch yn aros a lie y ayrthiodd yr eilun dduw ac y torodd yn ddarnau. Ond yr oedd holl olion yr ben hanes Philistiaidd wedi oael eu gwasgar i'r pedwar gwynt, a dinasarall ar ol hono wedi cael ei malurio gan Sargon, BI enin Assyria yn nyddiau Heseciah. Heblaw Gath ac Asdod gwelodd Dafydd enill dinasoedd Ascalon ac Ecron, do, a Beth Shemesh 'befyd, l'e y tarawyd y Beth Semesiaid gynt 'am iddynt edryoh ar Arch yr Arglwydd.' Heddyw mae Dafydd Jones a'i fataliwn o Gymry o fewn ychydig filltiroedd i Joppa (a elwir heddyw Jaffa), lie y cododd Petr Tabitha o farw yn fyw. Mae magnelau Prydain heddyw o fewn cyraedd i Ogof Adulam, lie y llechodd Dafydd ai bedwar canwr gynt. Ddoe, yr oedd Dafydd Jones yn oerdded o'r tu allan i'r gwersyll, a daeth at laoa afon fechan, y Wadi Sunt, sy'n rhedeg i'r Wadi Surar. Pwy ddaeth i'w gyfarfod yr ochr arall. i'r afon ond ei frawd John. 'Wyddost ti beth yw yr afon fach yma?' gofynai John. 'Wadi Sunt,' atebai Dafydd Jones. "Ie, ond wyddost ti ei hanes?' 'Na wn i,' ebe Dafydd, 'ond ein bod ni wedi ymladd yn galed ddoe cyn ei chroesi.' 'Ie,' atebai John, 'ond bu ymladd mawr yma cyn eleni. Dyma'r afon wrth lan yr hon y bu Dafydd a Goliath yn ymladd. A weldi y cerig man, llyfn yma yn ngweJy yr afon ? Careg fel hon oedd gan Dafydd yn ei ffon-dafl pan laddodd efe y caWr. 'Tad anwyl!' ebe Dafydd, a chododd yntau gareg fechan o wely'r afon. 'Ef- allai, digon hawdd, mai hon yw'r gareg a suddodd i dalcen Goliah o Gath a gosod- odd hi yn ei booed. 'Ie, neu hon,' ebe John, a gosododd yntau gareg fechan arall yn ei boced yntau. Pan ddaw'r ddau frawd adref i Gymru bydd pob un ohonynt yn dangos i'r class yn yr Ysgol St-11 'v gr"'ç' "r hon y lladdodd Dafydd Groliatih gynt T' Dyna stori John Jones a Dafydd ei frawd. Yn ei hanfod mae yn wir. Rhyngddynt hwy, a'u bataliynau, a'r gweddill o fyddin Prydain, gyrwyd y Twrc ar ffo i fyny hyd yn ymyl Joppa, i olwg Dyffryn Saron, lie y ceid y 'Rhosyn Saron,' a lie y porai 'yr ychain pasgedig,' yn nyddiau Dafydd Fnenin. Cymerwyd genym dros wyth mil o'r Tyrciaid yn gar- charorion, Iladdwyd miloedd ereill ohon- ynt, enillasom gant o fagnelau oddiar y gelyn yno yr wythnos ddiweddaf, ac yr ydym wedi meddianu y gyffordd (junction) ar y rheilffordd sydd yn cysylltu a Jeru- salem, y rheilffordd fawr sydd yn rhedeg o Damascus trwy Jeereel i Beersheba. Yr ydym felly eisoes ar du y gogledd i'r Ddinas Santaidd Jerusalem, ac yn medd- ianu yr unig reilffordd sydd yn cysylltu'r ddinas ag Aleppo, y gyffordd fawr ar y rheilffordd i Bagdad. I CAEL Y TRECHAF AR Y SUB- MARINES. Gallesid meddwl ein bod o'r diwedd yn dechreu trechu perygl y submarines. Suddwyd llai o longau yr wythnos ddi- N weddaf nag a wnaed mewn unrhyw wyth- nos er dechreu'r flwyddyn. Ni chollwyd ond un ilong fawr, a dim ond pump o rai bychain. Buom yn colli 20, 30, a dros 40 mewn wythnos. Ceisir cyfrif am y lleihad presenol mewn amryw ffyrdd. Y dybiaeth fwyaf poblog- aidd, wrth gwrs, yw fod ein rhagocheliad- au ni yn orbyn y perygl yn.fwy effeithiol, a'n gwrthymosodiadau ni ar y submarines yn fwy lliwyddianus. Dywed eraill fod nifer mawr o'r submarines wedi cael eu danfon gan Germani i feueydd eraill, megis Mor y Canoldir a'r Adriatic, ac i ymosod ar y Hongau sy'n cludo byddin yr America i Ewrop. Oollwyd dwy long o'n heiddo yn Mor y Canoldir ger glanau Palestina yr wythnos ddiweddaf, llongau rhyfel byohain oedd y rhai hyn yn cyd- weithredu o'r mor ar fyddin ar y tir i ymosod ar fyddin y Twrc. Submarine o ciddo'r gelyn a'u suddodd. Gellir deall hefyd awydd mawr Germani i sicrhau, os medr lywodraeth droe For yr Adriatic, ar lanau yr Eidal, IT gaIluogi llynges Awstria i ddod allan o'r (porthljaddoedd i gyd- w,aithr,edu a'r fyddin sy'n ymosod ar. yr Eidal. Ond gan nad beth yw yr esponiad, oalon- ogol yw y ffaith fod nifer y llongau a sudd- wyd v pythfnOt. diweddaf yn llai nag

[No title]