Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Advertising

AT EIN GOHEBWYR -

A TORfR GOT YN OL MAINT Y…

Adgof uwch anghof.

News
Cite
Share

Adgof uwch anghof. Cafodd y frawdoliaeth feddygol erioed le anrhydeddus yng nghyfeilach crefydd, a cheir darlun o'r berthynas hapus ddylai fod rhwng yr offeiriad a'r meddyg yng nghyfeiILga.rwch Paul yr Apostol a Luc y physygwr anwyl. Y mae raeddyg a fo hefyd yn wir Griation yn gymeriad i'w edmygu, ac yn ddylanwad gwerthfawr i hyrwyddo gwaith Eglwys Dduw yn y plwyf. Gan hynny, oeisiwn osod gcr bron Y, b darllenwyr y LLAN ychydig eiriau o rarw- goffa un o'r cyfryw rai—y Dr. James W. Lowis, Y.H., Brynamman. G-anwyd edn physygwr anuwyl yu LIan- granog, Sir Greraaigion yn y flwyddyn 1860. Ei frodyr yw'r Dr. Lewis, Ystaly- fera, a'r Parch. E. Lincoln Lewis, eb- rwyad Gwdig, ac yng nghartrefle'r olaf yr ymadawodd y meddyg mwyn a'r fuchedd hon ar y 24ydd o Fawrth, 1917, ac yntau yn 57 mlwydd oed. Nos Sult Ebrill laf, traddodwyd pregeth angladdol nodedig yn Eglwys Blwyf St. Catherine, Brynamman, gan y Parch. E. Jcnkins Davies, yr ebrwyad. Am 25 mlynedd dilynodd Dr. Lewis ei alwedigaeth fel meddyg yn Mrynamman. Yn ystod y cyfnod maith hwn, addurnodd ei alwedigaeth trwy ei ddiwydrwydd ffydd- Ion a'i lafur cydwybodol. Nid oedd pall yn ei ymroddiad a'i ddyddordeb yn ei gleiflon. Bore a hwyr, Sul, gwyl a gwaith, yr oedd wrth eu gwasanaeth. Yr oedd ei alDu a'i fedr yn fawr a gwnaeth ddefnydd anhunanol ohonynt i leddfu poemau a lliniaru dioddefladau ei gyd-ddynion. Yr oedd ei bohlogrwydd yn ddiamheuol; eithr nid un I geieio clod gan ddynion ydoedd. Ei gymeriad disglaer a'i ym- roddiad cydwybodol a sicrhaodd iddo serch a ohymeiradwyaeth ei gyd-ddynion. Pan fyddai galw am hynny, gwyddai aut i fyned yn erbyn y llif. Yr oedd ganddo ayniad uchel am ddyledswydd a ohyfiawn- der. Perchid ei farn bob amser pan yn eistedd ar Faine yr Ynadon. Dangosai ddigllonedd llym yn erbyn pob hooed a thwyll a phob anuniondeb mewn gair a gweithred. Yr oedd ei unplygrwydd a'i ddidwylledd yn amlwg i bawb a'i had- waenai. Gellid ymddibynu ar ei air bob amser Safadwy oedd ed air a chysegredig ed gred yn ei holl drafodaeth. A dyma. sylfaen hanfodol pob cymeriad fceilwng ao anrhydeddus. Ond yr oedd Dr. Lewis nid yn unig yn feddyg mawr, eithr yn Gristion gloew hefyd. Y mae yn brofiad trist fod cynifer o feddygon yn amheuwyr neu yn ddifater ynghylch crefydd Mab Duw. Eithr nid un felly ydoedd gwrthrych hyn o eiriau. Crifltion diledryw ydoedd ef, ac amlygodd b buchedd union, unplyg, anhunanol, a'i rhodiad yn anrhydeddus. Glynodd wrth ei alwedigaeth a. fFyddlondeb eithriadol, a thrwythodd hi ag yspryd y Groes. Ffyddlondeb oedd cyweirnod emyn per ed fuchood-ffyddlon i'r Hen Fam Eglwys, i'r Esgobaeth, i'r Plwyf. Bu yn aelod o Gynhadledd yr tsgobaeth, ac am ugadn I mlynedd llanwodd swydd Warden yn Eglwys y Plwyf gyda pharch a bri. Sugnaa. ei lawenydd pennaf o'r addoliad cy- hoeddus yn Nhy Dduw. Byddai wrth ei fodd yn canu tenor yn ei briod fan dan y pulpud. Cofiaf yn dda ei woled yno pan ar ymweliad yn pregeUsu yn Eglwys St. Catherine. Tee a glaw y byddai yno, ao nid eegeultiBodd oriotd y cydgynulliad 06 gallad beidio. Yn fwy na. hyn, pan or- fodid ef i fod yn absennol, byddai yn arfer darllen y gwasanaeth yn y dirgel-yn y oerbyd fel yr eunuch gynt, ar fin y ffordd, neu yn ei gartref, Danycoed. Onid yw duwiolfrydedd y physygwr annwyl yma. yn ddigon i godi gwrid i wyneb liawer i leygwr; ie, a liawer i offeiriad hefyd Gwelir edsieu y gwr fhagorol hwn am lawer dydd i ddod ym mhlwyf Brynam- man. Gedy ei farwolaeth fwlch nas llen- wir yn fuan. Gwyddai er ys wythnosau fod y diwedd yn agosau. Ysgrifennodd at ei frawd-ofFeiriad i ddweyd na allai fyw i weled diwedd mis Ma wrth. Yna canodd yn ia-ch i'w gyfeilliou, â. gwen dawel ar ei wyneb, a ohefnodd ar ei gartref, gan wybod na ddeuad byth yn ol. Gwâg yw ei le yn y llan ac yn y plwyf, ond ecryis ei emiampl i'w hefelychu a'i goffadwriaeth i'w barchu. Y uiae- efe wedi marw yn llefaru etc. Dyna'r iawndal ddyry Duw i'r byd pan gymer ddyn da o blith y byw—erys ei daylanwad er daioni. Dyna feddwl y bardd pan ganodd :— "Ni cha.i'r lief yr un Elias Heb i'r byd gaell Eliaeus." Cbffad\vriaetli y cyfiaAvn sy fendigedig. Gadawodd esiampl arddercliog o Eglwys- garweh ffyddlon a safou uchel o ddyled- swydd Gmtionogol. "Dyma y ffordd, rhodiwch yndch. Claddwyd gweddillion ma.rwol y meddyg mâd yin mynwent Dewi Sant, Llangranog, o mewn milltir i'r man lie y gwelodd olieuni dydd gyntaf. Torwyd ei fedd yn y graig gada.rn-darlull prydferth o'i gy- meriad ei hunan, ac arwyddlun pryd- y ferthaoh byth o'i fuchedd dduwiolfrydig yn gorffwys am ei iachawdwriaeth ar Graig yr Oesoodd. Ei emw' n pe,rarogli sydd, A'i hun—mor dawel yw. Boed felly. Gorffwysed, huned mewn hedd.

._---------------Coleg Dewi…

Emyn 595 A k M,

- DEONIAETH ARFON.

TU ALLAM I'R DDEONIAETH.

LLANGYNOG.

LLANDILO.

. Yr Eglwysi Cymreig yn Lerpwl.

Advertising

LLANDDEINIOLEN.