Hide Articles List

5 articles on this Page

Nodiadau Cyffredinol.

News
Cite
Share

Nodiadau Cyffredinol. (Gran TKGAI). Fal y gwelir oddiwrth hysbysiad mown eolofn arall, eynhelir Cynhadlcdd Flyn- yddol Cy mdedtLas Ddirwestol Eglwys Loegr (Adran Esgobaeth Bangor) yn Mhenmaonmawr ar ddydd Iau, y 29ain oyfiaol. Yr oeddys wedi ponderfynu ar ddyddiad blaenorol, ond er mwyn cyfarfod hwylusdod yr Arglwydd Esgob, yr hwn sydd ganddo gyhoeddiad pwysig ar y 5* 14eg o Fawrth, mae y 29ain-dydd Iau- wedi ea fabwysiadu. Gwahoddir holl offeiriaid yr Esgobaeth i'r Gynhadledd, ynghyda chynrychioJaeth o ddau o bob Eglwys. Ar yr adeg bresenol, pan mae ooet trafaelu yn uchel, hydera'r Pwyllgor y bydd i offeiriaid y cylch wnoyd ymdrech neillduol i ymbresenoli ac i anfon- cynrych- iolwyr. Prin y gallwn ddisgwyl cynrych- iolwyr o ben axall yr Esgobaeth, ac am hyny disgwyiir yn ffyddiog y bydd eglwysi a gwyr mawr Arllechwodd-ai hi yw y benaf o'r Deomaethau î-edrych ati i wneyd y Gynhadledd yn llwyddiant ac fod llais yr Eglwys iw glywed yn hyglyw yn y cyfwng preaenol yn hanes ein gwlad. Diau y bydd i orchymyniop ac awgrym- iadau y 'Food Controller' a'r Prif Wein- idog, a'r angen am 'Arawys Cenodlaethol,' gael llawer o sylw, a sicr genym y dylai pob Eglwyswr sy'n credu yn nefnydd- loldeb tymhorau sanctaidd yr Eglwys wneyd ymdrech i fod yn brbsenol. Poed ly. < Pwne y Gynhadledd y prydnawn yw 'Gwaith Dirwestol yn 48i berthynas (1t) a'r Rhyfel Fawr, (b) a'r Genhadaeth Genedl- aethol.' Darllenir papur yn Saesneg gan y Parch. J. D. Jones, fioer St. Deiniol, Bangor, ac yn Gymraeg gan Mr. Hugh Jones. Talysarn. Disgwylir i amryw o ❖yr lien a lleyg i gymeryd rhan yn y dra- fodaeth ddilynol. Yn yr hwyr ceir cyfar- fod cyhoeddus yn Ystafell yr Eglwys. Mae pwyllgor o foneddigesau yn garedig wedi ymgymeryd a pharotoi te i'r cyn- nrychiolwyr. it Faint o Eglwyswyr Esgobaeth Bangor, tybed, sydd wedi darllen yr hysbysiad arall yn ngholofnau y LLAN o berthynas i wobrau cynygiedig i aelodau Ysgolion Dyddiol, Ysgolion Sul, a Chyfarfodydd Plant yr Eglwys. Yr amcan mewn golwg yw cael pLant y dyfodol i gymeryd mwy o ddyddordeb mewn pynciau cymdeithasol a dyngarol nac a gymerwyd yn y. gor- phenol. A ydyw yn ormod gofyn i athrawon Y sgolion Sul a dyddiol yr Eglwys ynghyda hyrwyddwyr Cyfarfodydd Plant i dynu sylw y rhai ieuainc at hyn, penu ar noswaith arbenig i gynal yr ar- holiad neu i yagrifenu y traothodau, ac yna eu hanfon i Ysgrifen/dd Dirwestol yr Esgobaeth erbyn y Sulgwyn. Mae digon o ddefnydd traethodau yn areithiau dynion mawr y Weinyddiaeth y dydd iau hyn, ac am bris isel oeir pob matn o fan- ylion a ffigyrau oddiwrth Gymdeithas Ddirwcstol yr Eglwys. Hysbysir enw y beirniaid eto. < < Ystyrir gan bobl sydd mewn sefyllfa i farnu ac mewn cyfleusdra i allu cymharu pethau, fod araeth y Prif Weinidog yn y Senedd, lai llJ90 phythefnoe yn ol, yn un o'r datgania.dau mwyaf difrifddwys yn hanes ein gwlad. Er nad oedd yn ddi- ffygiol mewn ffydd a gobaith o berthynas i'r dyfodol, etc lled-awgrymodd fod dyddiau enbyd o'n blaen fel gwlad a, chenedl; yn wir, oesglir nad ydyw r Prif Weinidop wedi rhoddi datgamad i r oil oedd ganddo i'w ddweyd, ac fod y rhag- olwg o newyn ac eisieu yn ymrithio yn barhaus i'w feddwl. Pa fodd bynag, er iddo ymgadw oddiwrth y pethau hyn dy- wedodd ddigon i argyhoeddi y Senedd, a !Iwyddod i sicrhau derbyniad dirwgnach i'r oeisiadau mwyaf a, wnaed erioed gan Seneddwr oddiar ddeiliaid y wlad. Ystyrir hyn yn deyrnged fawr i'w allu arcithydd- ol. Dyma'r araeth sydd wedi cario mwyaf o argyhoeddiad o berthynaa i faintioli aruthrol y gwaith a erys i'w gyflawni cyn y gallwn enill buddugoliaeth. Rhanodd v Prif Weinidog ei araeth yn dair rhan, sef (1) y mesurau mae'r Llyngcs ar eu cario allan i gyfarfod peryglon ar y mor; (2) yr ange-nrheidrwydd am adeilaclu llongau er gwld i fyiiy am golledion a sicrhau trafmdiaeeth forawl; (3) yr angenrheidrwydd am gynlo gartref a chynyrohu moddion cynhahaeth fel ag i ryddLu y llongau a ddygant fwydydd a inoethau y gell.r yn bawdd wnoyd heb- ddynt er mwyn iddynt o hyn allan gludo gwir anghenion cynhaliaeth deiliaid y genedl. Mae. y 'Food Controller' ac eraill yn cydnabod dylanwad aruthrol gweinidogion yr Efengyl o berthynas i'r trydydd pwynt, sef eu dylanwad ar ffermwyr, garddwyr, • man-dirddeiliaid. a phobi eraill sy'n dal tir. Pwysir yn arbenig iawn ar i glerig- wvr vr ardaloedd gwledig arfer eu dylan- wad i gael gan yr uchod i droi a thrin cymaint o dir ag sydd bosibl. Gwn am lawcr offeiriad sydd wedi gwneyd mwy na.'i ddyledswydd yn y cyfeiriad hwn, a hvnv er lies y wlad. Mae ami i ffermwr eisiau ychydig gymeradwwth—edsieu ychvdig o guw ar ei gefn—cy*»mentro ar welliantau yn ei ymdrmiaeth or tir. Cofier mai Ceidwadwr mawr iawn yw y ffermwr serch i'w gredo capelyddol ei arwain i fotio yn RhyddfrydolI Mae yagrifenydd y llineliau hyn wedi mentro i alw cyfarfod o'i blwyfolion er mwyn rhoddi safle bresenol y wlad gerbron y bobl, ac mae holl weinidogion Ymneill- duol y cylch wedi addaw ymbresenoli a chefnogi yr apel. Bydd y cyfarfod drosodd cyn i'r LLAN ziesaf weled goleuni dydd. Os gellir cael gan bob tyddynwr i wneyd ei oreu i godi moddion cynhaliaeth ac i ufuddhau yn ddirwgnach i geisiadau y wlad bydd llawer o waith da wedi ei wneyd. Gwelwn fod rhai gweithwyr dirwestol yn teinilo'n enbyd am na ddarfu i'r Prif Weinidog roddi atalfa, lwyr a hollol ar y Fasnach Feddwol yn ystod tymor y rhyfel a chwcch mis gwedi hyny. Mao ysgrif- enydd y nodiadau hyn yn bleidiol iawn i'r symudiaed hwn ac o'r farn mai hwn fuasai y mudiad cymdeithasol, dyngarol a chrefyddol mwyaf er's canrifoedd o amser; er hyny cydymdeimla a'r Prif Weinidog yn ei awydd i gario'r wlad gydag ef, pan yn effeithio, cyfnewidiadau enfawr, a chred mai barn y Prif Weinidog yw mai dyledswydd y Cymdeitha&au Dir, weitol yw arloesi y ffordd ar lwyr waha,rddiad yn hytrach na disgwyl i'r Weinyddiaeth wneyd hyn o'i barn neu ei mympwy ei hun. Mae yn amheus a ydyw y wlad yn barod i dderbyn llwyr- wahaiddiad ar hyn o bryd. A ydyw y gweithiwr yn y trefi mawr ion yn barod'i ymgadw oddiwrth ei wydriad sydd yn fater pur broblemyddol ar hyn o bryd. Ryw ddydd, pan fyddwn mewn sefyllfa i edrych ar bethau o olygwedd wahanol i'r hyn a welwn y dyddiau hyn, bydd yn rhaidl., i ni gydnabod fod y rhyfel fawr wedi "%od yn foddion i'n deffroi o gwsg oesol ac wedi agoryd ein llygaid i weled pechod a llygredigaeth mown agwedd newydd. I longau. tanforawl Germani mae Prydain grefyddol a Christionogol (1) i ddiolch am y symudiad dirwestol sydd wedi tynu rhif y bareli o gwrw a ganiateir .yn y wlad i ddeng miliwn y lIe gymaint a hyny deirgwaith yn 1915. Enillir drwy hyn 600,000 o dunelli o foddion cynhal- iaeth, heblaw rhyddhau llongau a dynion i gynorthwyo y wlad. Y fath atalfa fu'r fasnach feddwol ar ffordd cynydd yn ystod y canrifoedd. < Bwriadwn yn un o'r rhifynau neeaef o'r LLAN dynu sylw at Fil Diod y Genedl. Mae y ffigyrau newydd eu cyhoeddi. Da genym ddweyd fod y genedl wedi Uyncu llai o ddiodydd alcoholaidd yn 1916 nag a wnaeth yn 1915 a 1914. Mae y ffigyrau yn dangos lleihad o 12 y cant ar 1915 a 18 y cant ar 1914. Er hyny mae'r swm a wariwyd ar y ddiod yn fwy nag erioed; h.y., yn fwy o 12 y cant ar 1915 ac o 24 y cant ar 1914. Y rheswm am hyn yw fod y ddioden yn ddrutach i'w phrynu nag y bu, tra nad yw'r chwant am dani ond ychydig lai. Amcangyfrifir ddarfod i'r Deyrnas Gyfunol wario X203,989,000 am ddiodydd yn 1916, yr hyn sy'n gynydd o zC22,030,000 ar 1915. A chymeryd fod poblogaeth y wlad yn 46,089,000, dengys yr uchod fod £4 8s. 6c. yn cael ei wario ar gyfer pob person unigol yn y wlad. Deuwn at y ffigyrau hyn eto.

Coleg Dewi Santo

Llythyp Llundain.

Yn Nyffryn Teifl.j

Advertising