Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y Gymdeitbas Genhadol Eglwysig.

News
Cite
Share

Y Gymdeitbas Genhadol Eglwysig. £ 60,000! Pob parch i'r Pabydd cyson ao eg- wyddorol. Darllenwn am Lieut.-Col. Blake, "Count of the Holy Roman Empire," Iwerddon, yn gadael £61,i02 yn ei ewyllys at addysgu a pharatoi offeir- iaid ar gyfer y macs Cenhadol. Dyma esampi uchel. Pa nifer o ddarllenwyr y LLAN sydd wedi, neu yn bwriadu gadael arian yn eu hewyllya ar gyfer y Genhad- aeth Y EWYLLYS GENHADOL. Digon tebyg fod rhai o'n darllenwyr yn edrych ymlaen at y boddhad a'r anrhyd- odd uchel o adael arian mewn ewyllys i'r Gymdeithas Genhadol Eglwysig, ond yn prydenl pa fodd i fyned at y gorchwyl. Wel, dyma ffurf o ewyllys i'r perwyl yma: I give and bequeath to the Treasurer for the time being of the Church Mis- sionary Society for Africa and the East the sum of Pounds, free of duty Los felly fydd, neu gadawer allan y geiriau free of duty] for the general pur- poses of the said Society, such sum to 00' paid within calendar months next after my death. And I declare that the moeipt of the Treasurer for the time being of the said Society shall be an effectual discharge for the said Legacy." Wrth gwrs, bydd rhaid i chwi arwyddo eich enw yn llawn, a chael o leiaf ddau dyst i arwyddo eu henwau ddarfod iddynt eich gweled yn ysgrifenu'ch enw wrth eic owyllys, gan roddi'r dyddiad yn llawn. Gellir corffori'r dvmuniad cenhadol fel rhan o ewyllys fwy, neu gellir gwneyd ewyllys Genhadol ar wahan, a'i h&rwyddo &r wahan hefyd. Y DDAU HANER: PA UN? Y mae'n arferiad gan Dr. Gibson, Bsgob Gloucester, droi i mewn fel gwrandawr ac addolwr i'w Eglwysi yn awr ac yn y man. Yn ei 'Diocesan Magazine' yn ddiweddar dywed iddo glywed un o'r offeiriaid yn cyhoeddi fel hyn: "Y Sul neeaf gwnear casgliadau ar ran yr S.P.G. a'r C.M.S., yr haner i'r S.P.G., a'r haner arall—oe bydd un—i'r C.M.S." Fuasai M. R. ddim yn hoffi addaw Sul o bre- gethu ar ran y C.M.S. ar yr arnod uchod. CHINA 1900 A 1916. Dywed yr Esgob Cassels, o Ddwyrain China, fod sefyllfa Genhadol China yn llawer mwy addawol heddyw nag ydoedd yn 1900. Y pryd hyny gorfodwyd llawer o'r Cenhadon a'u praidd i ddianc am eu bywyd. Heddyw ymofynir am y Cen- hadon gan y bobl, ac ymgynghorir a hwy gan yr Awdurdodau. Gelwir am eu gwasanaeth i wastadhau cwerylon rhwng parti on, etc. ESGOBAETH EANG. Son am ranu Esgobaethau yn wir! Beth am Esgobaeth Dr. Tugwell, Esgob Western Equatorial Africa. Mesura hon 336,000 o filltiroedd ysgwar, gyda phoblogaeth o 17,000,000--eymaint bedair gwaith a Llundain. Yn ystod haner olaf 1916 teithiodd yr Esgob Tugwell 2500 o filltir- oedd yn ei Esgobaeth. Ymwelodd a. rhai trefydd na weisai er's 17 o flynyddoedd. Kano oedd un. Yma llonwyd yr Esgob gan gynydd a gwelliantau mawr. Yr hen farchnadle lie y gwerthid dynion fel anif- eiliaid wedi myned, ac adeiladau newydd- ion yma ac acw. Yn Zatria. gwelai Eglwys newydd ar gyfer 250 o bobl. Felly hefyd yn Zungeru. Cilia nos paganiaeth ymhob man o flaen goleuni Crist a'i efengyl. Gwyn fyd tna chredem fwy ynddi ac na roddem fwy o chwareu teg iddi. EL ARISH. Pwy na, chlybu am Eli Arish, a enillwyd gan ein milwyr y dydd olaf o Ragfyr. Saif ar y gogledd-ddwyrain i Sin a. Cyn i'r rhyfel dori allan yr oedd yma Genhad- aeth addawol gan y C.M.S., ac un o'r ad- eiladau pwysicaf yn y dref a, berthynai iddi. Agorwyd ysgol i fechgyn yma ddeng mlynedd yn ol ar daer cais rhai o'r prif drigolion. Oddeutu yr un adeg addaw- odd boneddiges a ymwelsai a'r lie S50 yn flynyddol, am bum' mlynedd, at gynal •nUr9er*yno, ac adeiladwyd meddyg-dy gan foneddiges arall. Ond, Ow, yn Awst, 1914, bu raid gadael y eyfan i'r Twrc Mahomet a naidd. Mawr fydd lLawenydd y trigolion pan ddychwel Cenhadon y C.M.S. i El Arish. LLWYDDIANT MA IV'R Marw a digvnydd iawn yw ciefydd yn Nghymru el-'s blyiiyddoelad; felly, iochyd 1 ga-lon Eghvyswr cywir yw dywed am lwyddiant yr Eglwys yn unrhyw wlad. Beth roddem am brofiad v Parch. T. un o Genhadon y C.M.S. yn Ngogledd India, yr hwn a ddywed iddo fedyddio 130 mewn un mis. a 57 Ddydd Nadolig, p1'}^ yr oedd yr Eglwys yn llawn dair gwaith, a rhai o'r bob! wedi cerdded 12 milltir i'r gwasanaeth. Mewn pent.ref vn agos i Murut bedyddiwyd 112 mewn un gwasan- aeth, a'r rhai hyny'n deuluoedd. Beth feyn ag am anghysur ac anfanteision y Cenhadwr y nrae ganddo ei gysuron a'i ZD ochr oleu na fedd yr offeiriaid gartref arnynt ond anaml y dyddiau marwaidd hyn. PB buasai yr ysgrifenydd ddeng mlynedd ar hugain yn ieuengaeh ac yn gwybod vr hyn wyr heddyw am y gwaith cenhadol diau mai yn Affnca neu India y buasai rai o'r dyddiau nesaf. Syndod fod can lleied o wyr ieuainc ag yjbryd Cen- hadol ynddynt. 1\1. H.

"Morfa." - -

[No title]

DEONIAETH WLADOL LLEYN.

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney.