Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
YSTRAD.
YSTRAD. SOCKS.-Dyma enwau y sawl fu yn gweu at y parseli diweddar ar gais Miss Davies, y Ficerdy:—Mrs a Miss Davios, Fioerdy; Mrs Rowntree, Mrs Evans, Ystrad House; Airi Jonathan, Mrs Jenkins, Glascood; Mrs Llethian Davies, Mrs Davies, Rhos; Mrs Davies, Troedy- rhiw Mrs Dr Evans, Aeron Villa; Misses Grace Lowes, J. Philpin, J. Evans, M. Evans (Llanlear), M. Richards (P.O., Lampeter), S. E. Evans, S. E. Davies. A. Jones, G. Evans (Brynhaf), A. James, Lilian Evans, Esther Jones, Mary EvanB, A. Davies (Blaenpant)), a N. Evans, Oak Cottage. PENILLION Y DDRAMA.-Cofied y critic yn Llanbedr mai 'amateurs,' ag 'amateurs' da oedd y parti o Felinfach, ac mai gwneyd arian at aich-os da oedd eu hamcan, ac nid gfwario lie nid oodd budd na rhaid. 'Does dim eisieu lliawer o allu i ohwilio beiau. 'Roedd yn byw dri bugail enwog, Dafydd, John, a Shams o'r Fanog; Cyrchfan rhai'n oedd tre Llanddyfri, Heddyw'n gwerthu, fory'n prynu. John a synnai'n anghyffredin Am'r Amwythig a'i offeryn Y gwr drwg, medd ef, oedd ynddo, Ond Dai Rhacca 'sboniodd iddo. Bugail tawol, mwyn, cysurus, Ydoedd Dafydd-ond drwgdybus, Nad oedd pilyn Shemi'r Drover Yn un cymhwys iawn i ddealer. Defaid cyrniog Siams o'r Fanog, (Cynyroh garw'r tir ceriglog), Darwyd bant i Shcani'r Drover, Bargen dyu, a llawn o glebar. 'Roodd y tri a'r ffyxxau hirion 'Nadnabyddus i'r holl ddynion; Ni fuaaai'r ffair yn gyfan Heb y rhai'n a'u'cefnau nydan. Ond canu 'rwyf mown breuddwyd. Am amser na ddaw'n ol; Mae'r lladron wedi cilio O'r mynydd ac o'r ddol. Mae'r aelwyd wedi'i chwalu, Lie canai Betti gan; 'R bugeiliaid nid ynt mwyacih Yn mysg y defaid man. 1f:ae Ystrad Fflur yn adfail, Ar Abad wedi mynd; A'r Cyngor Trefol cyntaf Nid oes ar ol un ffrynd. Sir John a Powell hefyd, Nid ynt ond enwau mwy; King's Head a Morgans druan, A Southall, aeth nt hwy. Mae'r ser o hvd yn dawnsio Uwch Ystrad Ffin i gyd; Ond Tomos nid yw yno, A Gwen, a'i llais sydd fud. Mae Dafi'r gwas yn eisieu, A'r forwyn fawr o'r ty; Nid oes yn aros heddyw, Ond hanes "am a fu." Diflanu a wnaeth Steadman A'i dreiswyr brwnt a blin, Ond arm mae y werin A'i chan yn para'r un. Fel y dywedais ar y cychwyn, y Parch. E. Oellan Evans yw awdwr y gan sydd yn awr ar ben. Ei garactor ef yn y ddrama oedd Sion If an, a gofyna's i "Powell Aber- honddu" ('Neco'), a wnai efe benill neu ddau i "Sion Hall," a dyma hwy yn bert iawn:— Shon If an! siarad wnai efe Pe c'ad ei 'hangio'n straightaway'; Pan yn y llvs ui safai'n fud, Ond lliefai'n groch, 'oelwydd i gyd.' Pan yn y Cyngor troi wnai e' Ei lygad torwyn tua'r dde; Pan am 'contempt' gwnai'r Steadman son, Drofi hawlia.u'r tlawd dadleuai Shon. ENWAU'B 'ACToRs.Betti, Miss Mima Jones; Sian, Miss M. J, Davies, Rhiw- onen; Mali, Miss Lloyd, Felindiv; Peggi, Miss C. Jones, Aldergate; Sali'r Fron, Miss Sally Davies, P.O. Lettice Ifan, Miss Lizzie Evans, Penwern; Shams o'r Fanog, My John Evans, Penwern; Dafydd Mr D. J. Jones, Hendrelas; John, Mr John Edwards, New Inn; Miss Llwyd, Miss Dilys Daviea; Morgans. Mr Tim. Jones Cwmere; y ddau bolisman, Mri Tom Evans, Glanwern, a Ivor Jenkins Pentrefelin Sir John, MrSam. Evans, Gilfaclx; Shenii'i' Diovcr, Mr W. Hughes Nanthenfoel. Dyna r cyf an am y ddrama, wnaeth gryn gyffro yn yr ardal- oedd, a ohryn dipyn o arian at yr achos teilyngaf—cysuron i'r xnilwyr ar faes y gad.—R.E.D.
LLANFAIRYNEUBWLL.
LLANFAIRYNEUBWLL. MA.RWOLA.ETH.—Dydd Mercher, yr 8fed cyf., bu farw Mrs. Lloyd, Ty'nllan, Llan- fairyneubwW (gweddw y diweddar Owen Lloyd), wedi cyraedd o fewn ychydig ei 84 mlwydd oed. Byr amser y bu yn o-orwedd, ac nid oedd llch yn meddwl fod y diwedd mor agos. gan iddi fyned i ffordd "I yr lioll ddaear yn sydyn. Ganwyd hi yn Rhoscolyn, ond ar acleg ei phriodas, oddeutu 55 mlynedd yn ol, da,eth i Ty'n- Man Llanfair, cartrefle ei gwr a theulu y Lloyds er's mwy na can' mlynedd. Yr oedd wedi cydoesi ac wedi bod mewn cy- ffyrddiad agos clawed 1 0 reithonaid Rhos- oolvn a T/lanfair, a diddan fyddai gwrando armi yn adiodd am ddigwyddiadau a gy-
Cynyrchiad Gormod o Wenwyn.…
Cynyrchiad Gormod o Wenwyn. Mae rhai pobl yn cynyrchu dyfroedd gwonwynig ddwy waith mor gyflym ag eredll, ac y mae gormodedd o hyn yn rhywbeth difrifol iawn i unrhyw un. Daw mown gwahanol ffurfiau. ond yr achosion mwyaf cynyrchiol ydynt ymdreohion gor- modol, a bwyta yn ormodol, yn enwedig cig- Dylid caniatau goddefiad i'r rhai hyny a ddioddefant oddiwrth anhwylderau dyfrol, gan nas gallant lai na bod yn nerfos, digalon, croes, amheus, gyda chur yn y pen, syfrdandod ar brydiau, ac yn cael eu blino .gan bob math o boenau rhyfedd. Gwyr y dioddefydd oddiwrth y oryd- cymialau beth olyga poenau gwirioneddol, ac nid yw yn rhyfedd ei fod yn heneiddio cyn ei aniser,-aic yn fuan neu hwyr efe a ddioddefa oddiwrth anhwylder y galon, sciatica, grafel, dropsi, neu galed- rwydd y rhedwoliau (arteries). Y peth doethaf i'w wneyd yw cynxeryd rhybudd ar ddadblygiad yr anhwylder dyfrol-bnvyta llai o gig, ac nid gormod o unrhyw ymborth. Yfer digonedd o laeth a dwfr. Yiiiai-ferer yn rheolaidd, ac ym- drecher cael wyth awr o gysgu am saith noson yr wytixnos. Defnyddiwch Doall's Backache Kidney PiUs i adgyweirio yr elwlenod gweiniaid, a'u cynorthwyo i lxidlo y dyfroedd gwen- wynig o'r gwaed. Nis gallweh fod yn wirioneddol iach tra y bodola. gormodedd or gwJybvroedd gwenwynig yn eioh cyfun- dx-ef ix. Nid oss braidd ddyix na dynes yxx Llan- bedr nad ooR ganddynt rhywbeth cannxol- adwy i'w ddwcyd ani Doan's Backache Kidney Pills, y feddyginiaeth noillduol ar gyfer yr elwlenod. ond nad yw Y11 hawlio gwella pob peth. Ar werth gan yr holl werthvn/r, ve-u 2*. f)c. y blychoicl, oddiwrth Fostcr- McClellan Co., 8, Wells Street, Oxford | Straff, T.nnrfav. W. 4 t
Advertising
Golyniadau y Genhadaeth. Profodd y gofyniadau hyn o fawr gymorth mewn cenhadaethau flynydd oedd yn ol Gweithredeut fel rnynegbvst i gadw petha.u n,aw r y Ge ihad- aeth e flaen cydwJbod y gv, randav.y> Rheni i liwy i'r gyuulleidfa tia y ceuid yr ernyn ar ol y bre^eth, a ffurfient heriait yr aiserchiad ar ol byny. Cyboeddir hwy ar awgiymiad ihai fu yn eu defnyddio. Ar gardiau bychaiu, yn y ddwy iaith, Cymraeg a Saesneg, ar bob tu i'r cerdyn. Prisiau :-25, 1/ 50, 1/9; 100 2/6. A RGLWYDD, chwiliaist ac adnabuost fl. Ti a adwaenust fy eisteddiad am cyfodiad deall: ty meddwl o bell: Am- gylchyni fy llwybr a'm gorweddfa j a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd Pesbiii, 139,-1, 2, 3. (Bofyniabau. 1. A ydwyf ft wedi rhoddi fy hunan i Dduw? Os nad wyf, Pa bryd y gwnaf ? 2. A ydwyf fi yn darllen rhyw ffyfran o'r Bibl bob dydd ? 8. A ydwyf ft yn cadw gweddi deuluaidd gartpef ? IF *k\ A ydwyf fl yn arfer. gweddio dros eraiil? 5. Pa beth ydwyf yn wneyd i ddwyn eraill at Dduw ?
PENTIR.i
PENTIR. DARLLENYDD LLEYG.—Mae Mr. Richard Thomas, darllonydd lleyg phvyf Pontir, wedi newydd ymuno a'r lluaws yn y fyddin, i wneyd ei ran dros- ei wlad. Cyn gynted a bydd y rhyfel erchyll drosodd, bydd. ei swydd wag yn ei ddisgwyl, pan ddyohwelo adref. Boed y nef yn dangnef iddo ymhob man. Bu ei arosiad o naw mis yn y plwyf yn hapus a llwyddianus; yr oedd ei weinidogaeth yn dderbyniol iawn. a'i gysylltiad mor dyn nes yr ocdd plant bach Glasinfryn a Rhiwlas yn teimlo eu colled i'r byw. Dywedai'r Ficor y buasai gweddiau yr Eglwys yn ei ddilyn, ac yn cofio am dano. Deallwn. ei fod yn aros ar hyn o bryd yn Northwich. Yn adeg ei absenoldeb mae Mr. Robert Griffith Roberts yn cario ei waith ymlaen gyda boddhad. FURLOUGH.—Y mae un o fcchgyn St. Kedol, Pentir. adref am 10 diwraod. Adref am yspaid o Ypres, Ffrainc,wedi bod yn y ffrynt 15 mis. Bu yn y frwydr fyth- gofiadwy Memmetz Wood. Ma,e Private Hughie Pierce Owen yn edrych yn dda, dvn ieuanc gwrol, cyfaill ffyddlon, yn ei holl arferion. Yr oedd pawb o'r Eg- lwys a'r ardal yn falch ei weld. Dyn ieuanc cynicradwy. ffyddlon i'w Eglwys, a diadarn c-i egwyddorion. Boed y nefoedd gydag ef adref ac oddicartref. Brysied yn ol i'^gvnefin, He y mae congl gynes yn meddwl am dano. j rVllAr v T'RRW vmhob tv vn NThvmT*u. <
LLANGYFELACH.
LLANGYFELACH. Porfformiwyd cantata, yn dwyn yr enw 'Chrysanthemum,' gan gor Ysgol Sul EglWYS y Plwyf yn yr Ysgol Ddyddiol noe Xau, y 15fed cyf. Treuliodd y dorf famr noson ddifyrus droe ben gan mor dda oedd y oanu a'r adrodd, yn arbenig folly eiddo'r plant. Arweinydd y c3r oedd Mr. D. Edgar Edwards, a'r cyfedlyddion oedd Misses Beasie Roes a Florrie Hughes. Cynygiwyd pleidlais" wrooog o ddiolch i'r oor gan Fioer y plwyf, ac eiliwyd gan y Parch. Enoch J ones (Isylog), cur ad. Ter- .fynwyd tan ganu'r Anthem Genedl- I aethol.
LLANGOWER.
LLANGOWER. Y GENHADAETH GENEDLAETHOL.-Dydd Llun, Miawrth, a Mercher olaf o loiiawr, yn Eglwys y plwyf uchod, fe fu i'r Parch. D. Saunders Rees, fioer Rheeycae, aef Cenad yr Egob, draddodi'r Genadwri Ddwyfol gyda grym ac arddeliad difrifol. Cynorthwyid ef gan y Parch. J. Abel, rector. 'Roedd difrifoldeb a thaerineb y Cenhadwr yn hawlio gwrandawiad oddiar liaw pawb. Gobeithio y bydd i ni gofio am bregeth Paul i Felix, a pheidio aros am yr adeg gyfaddas, ac y bydd effaith y Genhad- aeth yn dwyn ffrwyth.
PLWYF LLANDUDNO.
PLWYF LLANDUDNO. PRIODAB-Unwyd mewn glan briodas y Parch D. Thomas Jones, M.A, caplan yn y Fyddin, a chyn-gurai y pi wyf, 4 Miss Sarah Jones, Combermere, Llandudno, ar Ionawr 25iin. Ail ferch I Mr. a Mrs William Jones, o'r dref hon, ydyw y briodasferch, ac o deulu parchus ac Eglwysig. Yr oedd Miaq Jones wedi bod yn aelod o'r cdr Cymraeg (St Sior) am rai blynyddau, ac y mae yr holl deula yn gysylltiedig 4'r Eglwys Gymreig yn y dref. Yn HYOlheg y cafwyd y seremoni, an ya llawn corawl, a dilynwyd y gwasanaeth priodasol gyda gweinyddiad o'r Cymun Ben- digaid. Priodwyd y ddau gan Arglw ydd Esgob Bangor, y Parch Griffith Williams, rheithor Corwen (ac ewythr i'r briodasferch), y Parch. E. Ffrydlas Daviea, a'r Parch. Henry Williams. Gweinyddwyd yn y Cymun Ben- digaid gan Argl w ydd Esgob Bangor, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. E., Ffrydlas Davies TRALLOD T RHSITHOR.—Fel y mae'n hys- bys i ran fwyaf o ddarllenwyr y LLAN, cafodd mab ieuengaf y Rheithor, sef Lieutenant Hubert Darrell Hughes, Royal Welsh Fusi- liers, ei ladd yn y rhyfel tra yn ymladd dros ei Frenin a'i wlad yn Mesopotamia. Yr oodd ei yrfa a'i ddyrchafiad yn y Fyddin wedi bod yn Ilwyddianu4 a chyflym, a diameu y buatal wedi myned yn uchel iawn pe heb syrthlo ya y frwydr. Daeth y newydd trist i'r Rheithor- dy ar Ionawr 18fed, a mawr oedd y trallod trwy y plwyf. Derbyniodd y Rheithor oddi- wrth gynulleidfaoedd y gwahanol Eglwysl, ac hefyd amryw gymdeithasau yn y plwyf, lythyrau o gydymdeimlad, ac hefyd amryw o wahanol drefydd yn Lloegr a Chymru. Cbwitb iawn i ni feddwl fod bachgen mor ieuanc ac addawol wedi syrthio kl cyn ei am- ser, ond nis gallai wneyd dim yn fwy yn y byd hwn na rhoddi ei einioes I lawr dros ryddid el wlad.—Ffrydlas.
DWYRAIN LLUNDAIN.
DWYRAIN LLUNDAIN. EGLWTB RHYSTTD SANT.—Nos Iau cawsom gyfarfod adioniadol yma, a da genyf ddweyd ei fod i fyny & safon uchel y ddau gyfarfod o'r blaen. Ar ddeohreu y tymor gosodwyd y gwaith 0 drefnu y cyfarfodydd hyn yn nwy- law pwyllgor o feohgyn ieuainc; ond mae un o'r pwyllgor erbyn hyn yn rhengoedd y gwyr meiroh, a'r lleill heb gyraedd yr oedran gofynol. Llywyddwyd yn y tri ohyfarfod gan Mrs. J. Parry Rogers; Mr. T. Ll Powell, a Mr. H. Jones, a gwnaethant au gwaith yn berffaith esgobol, gan gyfranu yn haelfrydlg at gyllld yr Eglwys. Ni wlw I ml enwi y datgeiniaid, na thraethu barn ar eu gwaith, ond digon yw dweyd fod yma dalentau dis- glaer yn myd can a Hen. GWASANABTHAU. —Er fod nifer o'n oyfelll- ion yn rhengoedd y Brenin ar for a thir, eto mae ein gwasanaethau nos Sul yn dda iawn ac mae yr effaith yn hynod darawiadol pan fyddo'n parchus Gaplanyn arwain y gynull- eidfa mewn gweddi wrth Fwrdd yr Allor ar ddiwedd y gwasanaeth. LLWYDDIANT.—Da genym ddeall fod Mr. D. Richards, 68 Green Street, Bethnal Green, wedi enlll el dystysgrif fel Cadben Hong. Mae profiad Mr. Riehards yn un hynod oddi ar ddeohreu y rhyfel, ac mae'r caledl a gafedd yn ddigon I berl syndod, ond nid oes genyf hawII fanylu Hlr oes iddo fyned ymlaen yn gorohfygu ac i orchfygu. Da genyf glywed fod Mr. J. 0. Lloyd, Bishop's Road, Betbnal Green, gartref yn heinyf ac iaoh. Gobeithio y caf weled ei wyneb HOD, a chlywed galr ganddo am ei brofiad ymhltth m6r lofruddion M6r Adria a manau eralll: I Llawn a lion yw loan Llwyd.' Y mae pump eraill a weddai i mi eu coffau, end dichon y bydd I'r golygydd wneyd defnydd 0'1 uchelfaeroniaeth a thaflu'r oil i'r t&n gan ddweyd ceneored. Ca-rdogyn.
LLAN DILO-F AWR.
LLAN DILO-F AWR. Prydnawn Sul, Chwefror 4, talodd y Parch. W. Rees, cyn-fier Llangadock, ymwellad A'D Hysgol Sul, er mwyn dosbarthu gwobrwyon i'r ffyddlonlaid am ddyfod mor gyaon i'r ysgol. Gwobrwywyd 31 k llyfrau hardd a gwerth- fawr. Yr oedd 11 heb golli un Sul 91 y flwyddyn, 7 wedi colli ond un, a 18 wedi colli dau. Dyna record da lawn. Gwnaeth Mr. Reea ei waith gyda phleser mawr am fod yn hoff ganddo gwmni plant. Diolchwyd iddo ar ran yr ysgol gan y Parch. W. A. Jones, curad. FFAIRFACH —Prydnawn ddydd Iau, yr 8fed cyfisol, oafwyd gwledd o de a bara britk mewn cysylltiad ag Ysgol Sul Ffairfaoh. Daeth lluaws ynghyd i fwynhau y danteitfh- ion a ddarparwyd gan y boneddigesau, ac ar ol clirio y byrddau dosbarthwyd y gwobrwyon blynyddol i'r ffyddlonlaid gan Mr. Rees drachefn. Cafwyd araeth dda ganddo, ac yr oedd pawb wrth en bodd. Yr oedd y fieer, yr Hybarch Archddiacon R. Williams, a'i anwyl briod yn bresenol, yn ogystal a chyfeill- iou gweithgar y plwyf. FFYDDLONDEB-Mae deng mlynedd wedi uxyned heibio er pan ddechreuwyd yr Yagol Sul yn Ffairfach, ac yn ystod yr amaer hwn nid yw y trysorydd, sef Mr. James, Tregyb Arms, wedi colli un Sul. Mi gredaf mat anaml iawn y ceir ffyddlondeb o'r fath yna yn ein Hysgolion Sul. JO na chaem ragor yn debyg iddo. Y UOBBITHLU—Ar y lieg a'r 15fedo'rmls hwn, bu plant y Gobeithlu yn chwareu dau 'Operatta' yn y Drill Hall, haner yr elw tuagat y Groes Gocb, a'r haner arall at wahanol achosion Eglwysig. TJyner P ERL Y l'LANT yu mhob r yn Ngtijrmra.
LLANFAIRYNEUBWLL.
morodd le yn amseroedd y Parchedigion sydd wedi ei rhagflaenu, act Williams, Hughes, Jones, Hopkins, a D. Roos. Trwy ei charedigrwydd helaoth ynglyn ag Eg- lwys Llanfair, yr oedd yn adnabyddus i gylch eang o glerigwyr a fu ar ymweliadau gweinidogaethol a'r Eglwys yn y lie yn yatod yr haner can' mlynedd diweddaf. Claddwyd hi yn 'vault' y teulu yn Llanfair ddydd Sadwrn, pryd nad oedd neb yn bre- aenol (oddigerth ychydig bersonau) heblaw y teulu a'r perthynasau agosaf. Gadaw- odd bump o ferched ac un mab i wylo ar ei hoi, sef Misses Lizzie a. Mary Lloyd, Ty'nllan; Hannah Lloyd, Llundain; Mrs. Jones, Rheithordy Ilenoglwys; Mrs. Wm. Lewis, Llanllibio, a Mr. Richard Lloyd, Ty Mawr, Caergybi. Yr oedd hefyd rai wyrion yn bresonol, sef y Parchn. Thomas Lloyd-Jones, Llandudno; R. W. Lloyd- Jor.es, Heneglwys; Mr. Arthur Lloyd-j Jones, Heneglwys; W. Lloyd Lewis, LI an-1 laibio, ac O. Trevor Lloyd, Ty Mawr; ei merch-yn-nghyfraith, Mrs. Lloyd,. Ty Mawr, a'i meibion-yn-nghyfraith, y Parch R. Jones. Heneglwys, a, Mr. Wm. Lewis, Llanllibio. Yr oedd hefyd yn bresenol amryw neiod i'r ymadawedig, Major Ed- wards, Towyn Lodge; Mri. D. Lloyd, Dinanx, a John Lloyd. Treflesg. Bliaen- orid yr arch o'r ty i'r Eglwys gan y clerigwyr canlynol yn eu gwenwisgoedd, yn ychwanegol at y rhai a enwyd eisoes, sef y Parchn. J. A.. Rees, rheithor; Wat- kin Anwyl Roberts, ac A. Roberts, curad- iaid; D. Jones, Llanfachraeth; D. Price, Caerhun, a W. M. Wright, Yaliley. Cy- merwyd rhan yn y gwasanaeth gan yr otil o'r clerigwyr, a, chladdwyd hi gan ei mab- yn-nghyfraith. Chwareuwyd y 'Dead March' gan y Parch. Atkinson Roberts. Anfonwyd amryw dorchblethau gan ber- thynasau a ohyfeillion. Nawdd y nef fo ar y plant a'r peithynaaau, a choded Diiw rai i lenwi'r bwloh yn yr Eglwys.