Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y Genhadaeth Genedlaethol.I

News
Cite
Share

Y Genhadaeth Genedlaethol. I Beth am y GeuLadaeth Genedlaethol f Beth yw ei fhwythau 7 A ydyw wedi methu Y Dyma a ofynir ar bob llaw yn bryderus gan y rhai a gar byrth Seion ac sydd yn eiddgar dros ei chlod a'i ffyniant. Wedi'r holl guro tabyrddau a ehanu i udgyrn, mud ydyw'r Wasg Eglwysig gan mwyaf, ac nid LLeiaf y Wasg Eglwysig Gymraeg. Yr wythnos ddiweddaf, ymddangosodd yn y 'Church Family Newspaper' ysgrif ar 'Walæ and the National Mission,' gan 'Welsh Rector.' Ymddengys y periglor parchedig yn hollol wrth ei fodd wrth fesur y mudiad a'i ganlyniadau. Dyma. fel y cychwyn :Mae gwaith y Genhad- aeth Genedlaethol yn myned rhagddo. Penderfynodd offeiriaid Cymru ei phaih.au trwy'r Garawys ac ymlaen ar ol hyny. Yr ydym eisoes^ wedi medi ffrwythau gwerthfawr. Dyfnhawyd bywyd ysbrydol y ffyddloniaid. I>effrowyd ffydd? gobaith, a chariad ein tcynullieidfaoedd. Pregeth- yd edifeirwch yn daer, a gosodwyd syl- faen i gynydd cyffredinol. Yna a ymlaen I i son am yr hyn a eilw yn "ganlyniadau eilraddol," sef, parch newydd gan Ym- meilldttwyr at yr Eglwya; undeb & brawd- garwch ymhlith Eglwyswyr eu hunain; darganfod gwyr o ddoniau arbenig ymhlith T oe-nhadon. Wrth ddarllen ymadroddion gobeithlon ein beirniad Rheithorol, daeth i'm cof feirniadaeth athro nid allenwog yn Ngholeg Dewi Sant ar draethawd niwlog un o'r myfyrwyr: "Quite good, but you must work in more facte!" A dyma wendid traethawd y rheithor ar y Gen- hadaeth Genedlaethol. Nodweddir ei sylwadau gan y gobaith glasdwraidd a'r boddhad meddal sydd bob amser yn barod i'n hamgylchu. Ond, atohvg, bl'e ma;'r ffeithiau ? "Dyfnliad y bywyd ysbrydol," "deffroad ffydd, gobaith, a ohariad y ffyddloniaid," "undeb," "brawdgarwel-i, --dyma 'stock-in-trade' pob crach-areith- iwr chwyddwyntog mewn gwlad ac eglwys. Eithr mewn argyfwng fel hon, pan yw Duw yn barnu'r byd mewn uniondeb, nid I oes neb ond yr ynfyd a gais ymborthi ar wynt a geiriau gwych. Tra gwahanol i obaith sionc a didaro y 'Rheithor' yw'r farn a'r teimlad yn y <?ylchoedd a adwaen i. Lie bynag yr ym- gyferfydd offeiriaid, holant eu gilydd am lwyddiant a ffrwythau y Genhadaeth. Y I rhan fynyohaf, ysgydwant ben yn siom- edig, a chyffesant na welant fawr o arwydd I diwygiad, ond yn hytrach fel arall. Tyst- iant fod difaterwch ac anuwioldeb mor ¡ amlwg ag erioed yn eu plwyfi, a hyny er gwaetha'r amseroedd enbydus a'r dychryn- iadau sydd yn ein bygwth. Mewn un Siapter Deoniaeth yn cynwys plwyfi gwlooig a, gweithfaol, adroddiad anffafriol Toddwyd gan bob person plwyf yno, oddi- t gerth un! Ni cheisiasant gelu eu siom- edigaeth, a. thaerai amryw fod cyflwr ysbrydol eu plwyfi yn waeth nag o'r blaen. Dyma ffeithiau! Nid Rheithoreg a llefain "Heddwch" He nid oes heddwch. Y mae ffeithiau eraill yr un mor athrist. | Beth fu profiad llawer i Genad Esgob yn ei ymweliadau? Onid hyn--cael, y plwyf yn hollol amhawod-heb weddi, heb ddis- gwyliad, heb ffydd, heb awydd? Cynhaliwyd y Genhadaeth am ei bod wedi ei threfnu gan yr awdurdodau gor- uchel. Cyhoeddwyd dydd o wasanaethau a phregethu yn yr un ysbryd ag y cy- hoeddir y "Cyrddau Diolchgarwch am y Cynhauaf," a, gadawyd argraff gyffelyh gan y ddau. Pa sawl offeiriad ddatganai ei farn vn gyfrinaohol nad oedd ei heisiau, ao nas gwyddai yn ei fyw beth a ddisgwylid iddi gyflawni! Dygwyd cy- huddiad hefyd yn earbj 1J yr offeiriaid ieuainc am eu difaterwch a'u claerineb tuag ati. Y dydd o'r blaen dywedodd un offeiriad ieuanc nad oedd ef yn gofalu dim am y pethau hyn nac am drcfniadau ac athrawiaethau yr Eglwys yn gyffredinol. Ni ddarllcnai ddim ond y papur Ueol bob wythnos Ddarllenydd hoff! nid bwgan yw hwn 11a chreadur dychymyg afiacli a dyryslyd, ond gwr 0 gig a gwaed yn fyw ate yn iach heddyw yn un o blwyfi Cymru. I Engraifft eithafol, efallai, o esgeulusdod offeiriadol; gobeithio mai e. Ond tra rhai fel hyn yn y tir, ofer disgwyl am lwyddiant Cenhadaeth Genedlaethol neu unrhyw fudiad arall. Mae ysbryd Galio yn llawer rhy nod- peddiadol, ysywaeth, o'r offeiriadaeth Gymreig. Ymffrostia 'Welsh Rector," yn yr ysgrif a nodwvd, fod yr Eglwys yn N ghymru yn fwv unol na, r Eglwys yn Lloegr. Ychydig o Eghvyswyr mthafol sy genym ymhlith yr "Uchel" neu'r "Isel" (0, lysenwau gwael !), "Ceiiedli yw'r Cymry o 'Oemtral Churchmen' Dyma blaid-enw newydd eto-mor newydd fel na chafodd hyd yn hyn ddiwyg Gyniraeg. O'r enwau plaid!—yn drewi o bartiol farn a rhagfarn-i lawr a hwy! Megys pe na bai genym ormod o honynt eisoes, dyma blaid-enw newydd spon, a phlaid newydd yn mynu ychwanegu at ddwadwr byddarol Babel ymbleidiaeth. Dysgir ni fod Catholigrwydd yn un 0 nodau Eglwys Crist, ond newydd i ni yw clywed fod "Canologrwydd" bondigrybwyn J yn un o honynt hefyd! Gormod o lawer o'r ysbryd "canol" yma sydd heddyw yn ein Heglwys—yi" ysbryd diddrwg-didda, di- ascrwrn oefn, hob set, heb dan, heb frwd- frydedd, heb fentr. Yn awvrgylch t>en- 11yd "Canologrwydd" pa fodd y gall hyd yn oed Cenhadaeth GenedlaotLol gynhesu aelwyd yr Hen Fam? "Canologrwydd" a "Chymedroldeb," dyma'r Baal ac As- toreth y gwahoddir ini blygu glin iddynt heddyw yn Eglwys Cymru. Tybed ai dyma nodweddion hen Eglwys Laodicea gYllt Awgrymi.'r hanes hyny yn an- orchfygol. Sut greadur, tybed, yw "Eglwyswr Cyiiiedrol"i phrif-lythyren hefyd 00 gwehvch yn dda? A ellir dy- chymygu am "Bechadur Cymodrol" nou "Anffyddiwr Cymedrol?" Ai rhinwedd yn y pechadur a'r anffyddiwr ydyw'r cyfonw yma? Gellir dyfynu ad nod o Yagrythur, mae'n wir, i brofi rhagoroJdeb y safle liwu! "N a, fydd ry gyfiawn Na fydd ry anuwiol." (Eccl. vii. 16, 17) Ond cofier y gall; Satan ddyfynu yr Ys- grythyr a'i gwyr-droi at ei ddichellion ei hun. Yn ddiamou fod y Pregcthwr yn "Eglwyswr Cymedrol" neu yn "An- ffyddiwr Cymedrol." (A oes llawer o wahaniaeth rhwng y ddau?). Ac ym- ddengys fod bagad o'n- cyd-grofyddwyr heddyw yn ewyllysio ymbalfalu yn Ffos Anobaith gyda'r hen Bregethwr druan. Dyma eu patnvni a'u delfryd. Bu'm bron dweyd "ou nawdd-sant," ond ni chredant y fath ofergoeledd a hyn! Dyma koff-berson "Fluellyn" yn ei "Reply to the Perfidious Welshman." "Y mae ef (sef y parson Cymreig), fel rheol, yn rhyddfrydig ac yn gymedrol, ao nid yw yn rhedeg i eithafion." Cyinedroldob- 0 fendigedig air fel Mesopotamia! Yn dy enw di y gobeithiwn ac y gwnawn ein noddfa, a throat ti y cawn ymwared o'n heJbulon a'n cyfynderau! Ac af rhagof gan ddwys fyfyrio am ddiwygio Credo'r Apost-olion, a sibrwd yn fy hun y gred gysurlawn: "Credaf yn Eglwys Lan Gymedrol a Chanolog!" Ond pa fath Genad. Esgob wnai'r hen Bregethwr neu ei efelyohwr llipa a meddal? Ai dynion o'r nodwedd yma fedr ennyn brwdfrydedd, dymchwelyd cestyll anuwioldeb, a throi y byd wyneb i waered ? Eto mae'r Olynilaeth A pos- tolig yn golygu "eithafion" o'r fath yma os yw'r Testament Newydd i'w gredu. Rhaid cael rhywun yn amgen na Galio difatei*; ie, na Gamaliel gall, a gochelgar i gyneu tan hyd yn oed ar hen aelwyd. Tybed ein bod yma yn dodi ein bys ar fan afiaoh y corff Eglwysig, ac yn asbonio i gryn raddau fod y Genhadaeth Genedl- aethol mor ddi-rym? Ond hwyrach y gwedir ei bod yn ddi- rym. Gwnai "Welsh Rector" hyn yn ddiameu. Nid af i ddadleu yn bendaoit ei bod hi. Mynegwyd uchod rai o'r ffeithiau ddaeth o fewn fy mhrofiad a'm sylw. A chofier, ffeithiau sydd eisieu. Nid haeriadau cyffredinol a swnfawr. Beth yw'r ffeithiau am Gymru? PwyjL wyr? Pe gwnai y pedair esgobdeth Gymreig yr hyn a wnaed yn Esgobaet-h Caerefrog, caern weled pa fodd y bu a pha le yr ydym yn sefyll. Yno casglwyd adroddiadau am effeithiau y Genhadaeth ymhob plwyf, ac yn ol yr adroddiadau, dosbarthwyd y plwyfi i bed war dosbarth. Safent fel y canlyn :-Plwyfi lie bu'r Gen- hadaeth yn fethiant llwyr, 14; Plwyfi lie 'roedd yr effeithiau yn anfoddhaol, 58; Plwyfi lie bu'r Genhadaeth yn llwyddian- us, 238; Plwyfi lie y bu'r Genhadaeth yn llwyddianus dros ben a'r effeithiau yn hynod, ,65. Wele yma ffeithiaiu cadarn diymwad i adeiladu haeriadau cyffredinol arnynt, ac yn gyfarwyddyd ac yn galon- did i fynd ymlaen yn y dyfodol a'r Rhyfel Sanctaidd. Oni ellir cael rhywbeth tebyg yn Nghymru; os na, paham? Mae tuedd yno i edrych ar y Genhadaeth Genedlaethol fel ymysg y pethau a fu- rhywbeth tebyg, fel y dywedais, i Wyl y Cynhauaf. Ond rhybuddiwyd ni yn erbyn yr amryfusedd hyn. Mudiad yw'r Genhadaeth a mudiad yw peth yn symud ymlaen, nid peth yn digwydd ac yn darfod am dano. Gwys i'r gad oedd ym- weliad y Genad i'r plwyf. Cawn gym- hariaeth i'r Genhadaeth Yll yr Ymosodiad Mawr—"the Big Push"—y sonir cymaint am dano. Daetih y Genad i'r plwyf i seinio coni y gad, a, rhagdybiwyd fod pawb yn barod ac yn disgwyl am yr wys. Os pad oedd y mil wyr yn barod, ofer canu'r ndgorn. Ai dyna fel y bu arnom ni 1 Canwyd yr udgorn ymhob plwyf gyda mwy neu lai o fedr, gan gynyrchu sain mwy neu lai anhynod. Ond a oedd popeth yn barod, y trefniadau wedi eu gwneyd, a'r mijwyr yn disgwyl yn ddyfal Os nad ooddynt. beth cllir wneyd. Ac os oeddynt, os caed gweltedigneth newydd, beth ellir wneyd ? Dyma dymor y Garawys wrth y drws—tymor i ddisgyblu, a myfyrio, a gweddio, a ymdrech o'r newyddi i ddilyn buchedd newydd a chan- lyn gorchymynion Duw.

Cenhadaethau yn Ngegledd Cymru,

Llythyp Llundain.

LLANBEDR-PONT-STEPHAN.

Advertising

NANTCWNLLE.

PENMORFA.

Advertising