Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y Gorlan Dramorol.

News
Cite
Share

Y Gorlan Dramorol. ANGBN T BYD 0 8APBWTNT GORCHYMYN OLAF lBSU GRIST. Y tro dlweddaf sylwyd ar y gwahaaol ag- weddau gymerwyd gan y pcdwar Efengylydd wrth groniclo gorchymyn olaf Iesu Grist. Eto nid ydynt bedwar gorchymyn, ond yn unig yr ysgrifeawyr yn rhoddi y gorchymyn yn ol y safbwynt yr ymgymerasant wrth Y8- grifenu yr Efengylau. (Yn bersonol, parod wyf i gredu eu bod wedi ysgrifenu yr Efeng- ylau o safbwynt y gorchymyn. Meddianwyd hwy gan rhyw un agwedd yn neillduol o Siars fawr Crist i'w Eglwys, a darfu iddynt hwythau weu yr hanes gyda'r agwedd neill- duol hyn yn eu meddyliau, e.g., yr hyn apel- iodd at St. Matthew oedd awdurdod Crist, gwel Mat. xxviii. 18 20, ac ysgrifena ei J Efengyl gan bortreadu Criat fel Brenin). 1 Yn yr ysgrif hon yr ydym am sylwi fod y pedwar Efengylydd yn cyffwrdd a phedwar -angen mli'.wr y byd. (i) ANGEN AM AWDURDOD. Yn bendifaddeu, un o brif anghenion dynion ydyw awdurdod mewn materion moesol. Tu allan i grefydd Iesu Grist, wrth astudio y gwahanol athraw- iaethau canfyddir dyryswch parthed y ffaith o bechod. Nid oes awdurdod bendant ar y cwestiwn, ac eto mae dynion yn dyheu am rhywun i lefaru yn eglur gydag awdurdod fiafonol i roddi datguddiad dilen ar natur pechod. Cyflwyna St. Matthew i ni le!'oll Grist fel Brenin a chanddo awdurdod. Darfu i'r bobl gyffredin medd yr Efengylydd weled hyn o wahaniaeth rhyngddo a'r arweinwyr Iddewaidd. Arglwyddiaeth Crist ddylai fod ein nodyn cyntaf ninau wrth bregethu yr Efengyl. Cyfeiliornwn os credwn mai Ei gariad ddylem bregethu yn gyntaf. 0 bosibl fod yr athrawiaeth hyn yn hen ffasiwn, ond credwn fod angen ail ddyohwelyd i'r gwirion- edd-nas gall dyn brofi grym troedigaeth hyd nee yr argyhoeddir ef o angen argyhoeddiad o bechod a'r angen am faddeuant. Nis gellir oreu y fath argyhoeddiad ond trwy oeod safon foesol awdurdodedig. (if) YR YMWYBODOLRWYDD 0 BOEN A GALAR Dyma un o ganlyniadau peohod, trwy wrthod ufudd-dod i awdurdod y Brenin. I Canys ni a wyddom fod pob creadur yn oyd- ooheneidio, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hwn. Ac nid yn unig y creadur, ond ninau hefyd gan ddisgwyl y mabwygiad, sef prynedigaeth ein corS" Rhaid i'r ddynol- laeth wrth iachad, a dyma un o anghenion mawr y byd-angen iachad ac adnewyddiad. Dløgwylir i Eglwys Jesu Grist fyned i'r 1 holl fyd' mewn gwasanaeth aberthol, trwy yr hyn y dinystrir galluoedd diBtrywgar pechod, ac y oyflwynir bywyd newydd. (iii) YR YMWYBODOLRWYDD O'N HANALLUOG- RWYDD I GYRABDD PERFFBITHRWYDD. Dyma angen tnawT y byd; ac eto ar bob llaw dyagir ni trwy brofiad nas gallwn ym- gyraedd yn uohel, ond meddai St. Luc, yr ydym ni yn dystion o allu Crist yn gweithio ynom. Ceir yr un gwirionedd gan y Cen- hadwr St. Paul, Yr wyf yn gallu pobpeth trwy yr Hwn (yn yr Hwn) sydd yn fy nerthu.' Disgwylir i'r rhai hyny sydd yn ymblygu i Freniniaeth Crist- i'r rhai hyny sydd yn brofiadol o allu iachusol Crist—disgwylir iddynt hwy fod yn dystion, yn esiampl, ao yn brofion byw-i ateb cri ingol y byd, yr hwn sydd beunydd yn arddangos ei analluogrwydd, fe, disgwylir i ti, ddarllenydd hynaws, sydd wedi dy nodi kg arwydd y Groes, i ddangos i'r byd fod goruchafiaeth ar bechod yn bosibl i ni trwy ddyfod i gyffyrddiad bywiol & Iesu Grist. (iv.) TR YMWYBODOLRWYDD 0 ANBSMWYTHDER. Angen mawr arall y byd ydyw oymodiad a Duw. Mae'r byd allan o gydgord. Gwelir ansefydlogrwydd mewn gwledydd, torir cy- tundebau rhwng gwlad a gwlad. Un o'r geirisu hyllaf fedd y ddyr.oliaeth heddyw ydyw 'diplomacy.' Mae rhyfel fawr Ewrob yn guddiedig yn y gair hagr hwn. Mae pechodau dynion heddyw yn tarddu oddiwrth bechod un dyn, yr hwn a drodd -oddiwrth Dduw. Felly angen y byd ydyw cymodiad k DLiw-ail-ymadyd yn y ber- thynas a gollwyd yn Eden. Yn ngaUu ein cymdeithas a Christ danfonir ni i'r byd i ddatguddio y Tad, fel y medr y byd ddargan- fod lie i orphwys ei ben mewn gorphwysfa dawel a heddychol. Trwy y cymodiad hwn y rhvddheir hwv oddiwrth eu pechodau. I .Efeithiaw. Gobeithio I eii, bod bellach wedi cael allan y berthynas sydd rhwng Comisiwn Olaf Iesu Grist, fel yr amlygir ef gan y pedwar efengylydd, a phedwar angen y byd. Wrth gyflwyno Efengyl lesu Grist yn ei hagwedd bedeirplyg, hawdd canfod yr effeith- fail (1) Canlyniad pregetbu Brenhiniaetb Crist ydyw creu argyhoeddiad o bechod. (2) Canlyniad pregethu yr Efengyl i'r byd (yr hell greadigaeth) mewn gwasanaeth aberthol, ydyw creu y grediniaeth yn y posi- -bilrwydd o gyfiawnder. Mae'r p >sibilrwydd hwn yn cael ei arddangoa trwy liniaru dio- ddefiadau y ddynoliaeth. (3) Canlyniad tystio o blaid gallu Crist vmhlith y cenhedloedd fydd argyhoeddi y byd o farn. Medr Cristion cryf, ac yn Hawn bywyd, brofi i'r byd fod tywysog y byd hwn wedi ei farnu, fod posibilrwydd i orthrechu galluoedd y tywyllwch, ao mae'r posibilrwydd hwn o fewn cyraedd pawb sydd yn ufuddhau'r Brenin. (4) Canlyniad datguddio'r Tad a'i allu i faddeu pechod jdyw crell y fath grediniaeth a fydd yn sylfaen y fath edifeirwoh, ar yr hwn yr adeiledir cymeriad ac y dadblygir bywyd. Dyma ynte y gorchymyn yn ei lswnder, a disgwylir i Eglwys Iesu Grist i'w gario allan. (1) Danfonir hi i'r byd i gyhoeddi Brenin- aeth Crist. (2) Gelwir arni i wasanaethu gyda Christ mewn aberth, fel y medr gyflwyno iechyd i'r boll greadigaeth. (3) Disgwylir iddl brofi i'r byd y medr pawb ymgyrhaedd at berffeithrwydd yn ngallu'r Meistr. (4) Erfynir arni i ddatguddio'r Tad a'i barodrwydd 1 faddeu. Daw wyneb yn wyneb k'r pechadur. Gwel hwnw Crist yn Frenhin, a bloeddia Ansanct- aidd, Ansanctaidd ydwyf.' Daw yn ymwybod- ol fod poen a galar yn canlyn pechod, a bod yn anmhosibl iddo o hono Ei hun i gyflawni yr hyn ewyllysial. I'r cyfryw & yr Eglwya gyda'r newydd o faddeuant y Tad trwy ddyfod gysylltiad a'r Mab. ESGAIR.

Yn Nyffryn Teifi.

Llythyp Llundain. - i \

NEWYDDION DIWEDDARAF.

Tmhlith yr Enwadau.

Coleg Dewi Sant.

Llofion.

ST. MAIR, CAMBERWELL.

PORTHMADOG A'R CYLOH.