Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
YR HAUL. | CTYWTSIAD AM NAT. 7 Mis. Swn ym Mrig y Morwydd. j Myoegiant Crefyddol. J Y diweddar Alaw Fardd, Llan- j fachraeth, Mon. j Y Tiodion yn cael Pregethu'r | Efengyl Iddynt." 0 Lygad y Ffynnon. 'c, Wnct John." 4" Bwrdd y Golygydd.J O'r Arsyllfa. -1 V r"i. Nodion Eglwyaig. & '< Adolygiad. < Y Gongl Ddifyr. -e Cyfieithiad neu Efelyghiad o Emyo y diweddar Esgob How, rhif 437 (Ancient & Modern), j Manion. j
Advertising
P;H L V PLANT. CYNWYBIAD AM MAI. | Dadleuon Magi Jones. I Ieitheg i'rleuenctyd. Llytbyr Llo. Dalen Dirweat, Maes Llafur yr Yagol Sul 18 Nghymru. Constantinople. Tôn-Aberdaron. Ffyddloniaid yr Yagol Sul. I Darlun yn Siarad. Monica. Y Caplan a'r Milwr. 1 Cynghorion Catwg Ddoeth. Saith Cynghor. Llytbyroddiwrtb Milwr Cymretg yn Malta. Breuddwyd Y Gwr Meddylgar. Y Gystadleuaeth. Betb mae yr Kglwya yn ei Wneyd. Y Paganiaid Bach Duon. P-erlaq y "Perl." Barddoniaeth. Llithiau Priodol am y Mis. i'
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.…
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. o CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. HELBULON CARTREFOL. GWRTHRYFEL YN Y WERDDON. ANGHYDFOD YN Y SENEDD. CYNLLWYNION GERMANI. Am wythnos arall miie dyddordeb yn Nghwrs y Rhyfel wedi troi o amgylch dilwyddiadau a datblygiadau yn y wlad ton yn hytrach nag ar yr hyn a gymerodd le dros y mor. Anghydfodau yn y o^rKvld vr ymgaiii i arosod Gorfodaeth Filwrol Gyffredinol, a'r Gwrthryfel ynfyd yn y Werddon,—y pethau "hyn, yn fwy o lawecr na'r brwydro a'r colli gwaed ar y Cyfandir, sydd vredi achosi prydcr a thynu sylw pawb ystyriol. Mae y datblygiadau hyn, yn y Sanedd ac yn y wlad, yn pwysleisio yr hyn a, cldy- wedwyd yma yr wythnos cdiwoddaf, sef na bu orioed or dechreu y Rhyfel, adag pan yr oedd mwy o angen i ni fel gwlad fod yn unol ac yn unodig, na phan yr oedd yn fwy o ddyledswydd ar bawb, o bob dosbarth, o bob gradd, o bob sefyllfa, i anghofio' "hunan" ymhob cylch, ac i aberthu yn rhwydd yn barod, yn ewJ^ ysgar, dros ac er mwyn sicrhau yr undeb unoliaeth hyny sydd yn fwy hanfodol nag erioed er enill buddugoliaeth ar y gelyn yn y Rhyfel ofnadwy presenol. CYNLLWYNION NEWYDD GER- MANI. Mae Haw Gennani i'w gweled yn amlwg ddjgon mewn amryw o'r helyntion sydd yn blino Prydain heddyw ac yn bygwth gwneyd aborth bywydau canoedd o filoedd o fechgyn gorou ciii gwlad ar y Cyfandir yn ofer. Er na ellir dweyd mai Cyfandir yn ofer. 0 fewn oorff yr Ull dyddia.u tridiau neu bedwar (a) tanbelenwyd Lowesetoit a Yarmouth ar lanau dwyrain Lloegr gan longau rhyfel Germani, (b) ymwelodd Zeppelins ddwywaith a'r siroedd dwy- reiniol, (c) glaniwyd arfau a cheosiwyd glanio gwyr arfog o long rhyfel German- fidd aJ lanau'r Werddon, (d) torodd pwrthryfel allan mewn rhanau or Werddon, (e) lledwyd y gair fod llongau masnach oedd er dechrcu y rhyfel yn llechu mewn porthladdoedd yn Ngogledd a Deheu America ar fedr antuno allan i'r 06 YnOIawr yr oedd yr holl bethau uchod wedi oael eu cyd-drefnu gyd^f "u amc^ syml, sef ceisio denu-Llynges irwylio'r mor rhwng Germani a P ry 1 ymwasgaru i wah'anol gyfeirxadau gan waniau ei nerth mewn .^au P W gadael llwybr mwy clir-i longau Germ jnByddai7 (SnWbr clir felly yn fantais i Germani mewn dau gyfeiriad arbenig, &of I 1. I wneyd rhuthr sydyn ar draws y mor gyda ilongau rhyfel,- a chludlongau yn dwyn milwyr, i ymosod ar Brydain. 2. I roi cyfle i nifer o wiblongau tebyg i'r 'Emden' a'r 'Moewe' i gyraedd Mor y Werydd, ac yno i ymosod ar longau masnach yn cludo bwyd a nwyddau rheidiol eraill i'r wlad hon. Dibwys, a chymharol ddiniwed yn- ddynt eu hunain oedd pob un o'r pump cynllwyn a nodwyd uchod ond pe cyr- hLeddent yr amcan oedd mewn golwg sef denu Llynges Prydain oddiar eu gwyliad- wriaefch ddiflino yn Mor y Gogledd. gall- asai'r canlymadau fod yn alaothus. Sylwaf yn fyr ar bob un o'r pump:— TANBELENU GLANAU LLOEGR. Unwaith o'r bliaen, sef tua diwedd 1914, y gwuafith llongau rhyfel Germani ruthr cyffelybr i'r un yr wythnos ddi- weddaf, ar lanau Lloegr. Y pryd hwnw, fel y cofir, tanbelenwyd Scarboro a, Whitby. Y tro yma Lowestoft a Yarmouth oedd nod yr ymoaodiad. Ond ffugymosodiad oedd wedi'r cwbl. Gwelsoch blant di- reidus weithiau yn euro wrth ddrws y ffrynt neu yn canu'r gloch, ac yna yn rhedeg ymaith oyn y deuai neb i ateb. Rhywbeth tebyg i hyny oedd yr ymosod- iad ar y ddwy dref yn Lloegr yr wythnos ddiweddaf. 0 ugain munud i haner awr o bellaf, y bu llongau rhyfel Germani ar ein glanau. Yna, ar ol gwneyd cymaint ag a fedrent o ddifrod, ffoisant am eu bywyd yn ol tuag adref rhag ofn y deuai rhan o Lynges Prydain tit" eu gwarthaf. Gwnae papurau "Gsrinani lawer o'r ym- osodiad, gan fostio ddarfod i'w llongiau rhyfel fombardio trefi Lloegr, yn ddiwrth- wynebiad; a chyraedd yn ol adref yn ddiogel. Ond sylwer ar ddau beth tra phwysig yn y cysylltiad hw-n:- 1. Y rhan; o lanau Prydain agosaf i Germani a-ddewiswyd y tro hwn i ym- osod ariiyiit; felly yohydig O1 amser a gymerai y llongau i fynd a dod. 2. Yr oedd nerth Llynges Prydain ganoedd o filltiroodd oddiwrth y man He y gwnaed yr ymosodiad, ac er pellebru i'w hysbysu pan ddaeth y gelyn i'r golwg, yr oedd y gelyn wedi dianc cyn i'r dialydd gael amser i ddod yn agos i'r fan. Er hyn oil ni ddihangodd llongau rhyfel Germani yn hollol ddianaf. Ymoaodwyd yn ddewr arnynt gan y Ilongau bychain oedd gan Bjryd'ain o fewn' cyraedd, a thybir fod mwy na,g un o longau'r gelyn wedi derbyn cryn niwed. TALU'R PWYTH I GERMANI. Gwnaeth llongau Prydain lawer mwy o niwed i Germjani mewn ymosodiad ar, Zeebrug yr wythnos ddiweddaf nag a wnaeth Germani i ni yn y rhuthr ar Brydain. Ymosododd adran á Lynges Prydain ar y lie yr wythnas ddiweddaf, gan wneuthur galanastra ofnadwy yno. Dy- wedir fod dwy o longau r gelyn wedi cael eu suddo, eraill! eu niweidio, tra y di- fethwyd hefyd y dociau a rhai o'r gweith- dai fel na bydd modd i'r suddlongau oedd yn yr harbwr ddod allan eto hyd nes y clirir y fynedfa o'r mor i'r harbwr. YMWELIAD Y ZEfPELINS ETO. Ystyrir mis Ebrill yn un o'r misoedd rmjwyaf fEafriol yn y flwyddyn i'r Zep- pelins i groesi'r mor ac ymosod ar y wlad hon. Fel; mater o ffaith uisgwylid gweled llawer mwy o ymosodiadau o'r awyr y mis diweddaf nag a gawsom. Siroedd dwy- reiniol Lloegr a ddioddefasant eto y tro hwn, ond yr oedd y niwcd a aohoswyd yn llawer llai nag o'r blaen—er mai y di- niwed a ddioddefodd, fe- :I arfer. Pwysioach nag ymosodiad y Zeppelins oedd y gwasanaeth a wnaethant i longau rhyfel y gelyn. Chwillodd y Zeppelins wyneb y mor o flaen llongau Germani i'w rhybuddio pe bae llongau rhyfel Prydain yn y gorwel, neu o fewn cyraedd i ruthro allan. I'r wyliadwriaeth a gadwyd droa wyneb y mor gan Zeppelins yn yr awyr uwchben, y rhaid priodoli, i raddau helaeth, y ffaith fod llongau'r gelyn wedi gallu cyraedd ein glanau ni a ffoi yn ol tuag adref heb i'n llongau rhyfel oryfion ni gael cyfle i daro ergyd. Y GELYN YN GLANIO YN Y WERDDON. Yn oriau man bore'r Groglith daeth Hong a ymddnaiigosai fel Ilong fasnach ddiniwed, ac o dan faner Holand i gyffiniau glanau dehau'r Werddon. Trodd allan, fodd bynag, mai Hong ryfel Ger- manaidd, wedi ei ffugio i ymddangos fel llong masnach ydoedd. Yr oedd yn llawn o arfau a fwriedid at wasanaeth gwrth- ryfelwyr y Werddon. Gyda. hi yr oedd suddlong Germanaidd i'w gwylio a'i hamddiffyn. O'r suddlong gollyngwyd cwoh i'r dwfr, a thri o ber- sonau ynddo. Tynasant tua'r lan. Lladd- wyd un 6'r tri, a chymerwyd y ddau arall yn garohatorion gan y Prydeinwyr. Syr Roger Casement oedd un o'r ddau a ddal- iwyd. Cedr many lion am Syr Roger Case- ment isod. Daeth llong rhyfel Brydeinig yn sydyn i'r golwg. Ymsuddodd suddlong Ger- mani i ddiogelwch o dan y tonau. Yn lie danfon criw ar fwrdd y Ilong German- aidd, gorchymynodd y llong Brydeinig i'r llong Germanaidd ei chanlyn tua'r porth- ladd, gan fygwth tanio arni a'i suddo os na wnai. Pe bae y Ilong rbyfel Brydeinig wedi aros i osod criw ar fwrdd llong y German- iaid, buasai'r suddlong wedi cael cyfle i ymosod arni hithau gyda torpedo. Canlynodd y llong Germanaidd ein Ilong ni i gyfeiriad y porthladd, ond yn sydyn tynwyd Human Holand i lawr a chodwyd baner Germajii i fyny yn ei lie. Yna gwelwyd fod y Ilong yn suddo. Yr oedd y criw o Germaniaid ar ei bwrdd wedi scytlo'r Ilong, hyny yw tori tyllau yn ei gwaelod a gollwng y mor i lawr i'w suddo. Gwell oedd ganddynt hyn na chaniatau i'r Ilong a'r arfau ar ei bwrdd syrthio i ddwylaw Prydain. Achubodd y Prydeinwyr y criw Ger- manaidd oil rhag boddi. Dyna ddiwedd yr vmdrech i lanio Grermaniaid yn v Werddon. SYR ROGER CASEMENT. Gwyddel yw Syr Roger Casement. Bu aim flynyddoedd maith yn swyddog i Lywodraeth Prydain yn y Trefedigaeth- au, gan weithredu fel Consul. Er pan ymneillduodd rai blynyddoedd yn ol, dangosodd elyniaeth anghymod- lawn tuag at Bryin. Gwaeddai am Annibyniaeth i'r Werddon, ac ni fodd- lonai ar Ymreolaetk. Pan dorodd y rhyfel allan yr oedd yn Germani, neu aeth yno yn fuan wedi dechreu rhyfel. Mvnai i'r Kaiser gredu fod y Werddpn yn barod i wrth- ryfela, a haerqdd yfeodai'l' Gwyddelod fel un gwr o blaid Germani yn erbyn Prydain er mwyn sicrhaút Annibyniaeth i'r Werddon. t Pan gymerwyd nifer o'r Gwyddelod yn Myddin Prydain yn garoharorion gan y Germanaid yn y brwydro ar y Cyfandir, aeth Syr Roger Casement atynt gyda ohynygiad oddiwrth y Kaiser. Cynygiai arian yn had iddynt, a breintiau lawer, am droi ohonynt yn.fradwyr yn erbyn Prydain. Y cynllun o-edd flfiu-fio catrawd arbenig yn Germani o Wyddelod, ac o unjrhyw Brydeinwyr eraill a foddlonent werthu eu gwlad, i ymladd yn erbyn Prydain. Y bwriad oedd, pe y gellid gwneyd hyny, gludo y bradwyr hyn i'r Werddon a chodi yno faner gwrthryfel yn erbyn Prydain, a gwneyd y Werddon yn Dalaeth o dan lywodvaeth y Kaiser yn lie o dan Frenin Lloegr. Er clod i'w gonestrwydd gwrthod y llwgrwobrwy mawr hWll a wnaeth y I Gwyddelod bod ag un! Ac folly pan an- turiodd Syr Roger Casemont i'r Iwerddon, "o'r bobl nid oedd neb gydag ef" o blith milwyr Prydain oeddent garcharorion yn Grormani. Mae'n dra thebyg fod swyddogion milwrol Germani ar fwrdd y Hong Ger- manaidd a suddwyd ar lanau'r Werddon, ac mae'r cynllun oedd i'r swyddogion hyny drefnu ac arwain y gwrthryfelwyr y tybid eu bod yn barod i ymfyddino drwy'r Ynys Werdd yn erbyn Prydain. Wedi ei ddal yn garcharor dygwyd Syr Roger Casement i Lundain i sefyll ei brawf ac yno y mae ar hyn o bryd. Y GWRTHRYFEL YN Y WERDDON Dydd Gwener y Groglith a dydd Sadwrn, y oedsiodd y Germr.niaid lanio yn y Werddon. Dydd Llun y Pasg torodd gwrthryfel allan yn Dublin. Yr oedd cysylltiad wnlwg rhwng yr helynt yn Dublin a'r ymgais i lanio gan y Grerman- iaid yn y Werddon. Mae yn dra thebyg mai y bwriad oedd sicrhau arfau i'r sawl oodd yn barod i wrthryfela mewn gwahanol ranau o'r wlad, a bod amser penodol wedi cael cytuno arno iddynt oil godi mewn gwrth- ryfol. Ondbu dal Syr Roger Caheinent, a suddo'r llong oedd yn dwyn arfau i'r Werddon, ddrysu yr holl gynllun. Tebyg yw fod y gwrthryfelwyr yn Dublin ag arfau ganddynt,yn barod, ac felly taraw- sant hwy ar yr MVT a benodwyd. Eithr am y gweddill o'r gwrthryfelwyr, yr ooddent heb arfau—er fod profion bellach mai nid Iiivn oedd yr ymgais cyntaf i lanio arfau o Gormani yn y Werddon. Ym- ddongys fod arfau wedi cael eu glanio ychydig amser yn ol ar draethau gor- llowin y Werddon. Ac ymhen rhyw ,ddeuddydd neu dri wedi i'r tan dori allan yn Dublin, cyneuwyd ef hefyd yn y rhan- barth orllowinol. Ond dinas Dublin yw canolbwynt y draiferth. Yno, dydd Llun y Pasg, ym- osodwyd yn sydyn ac anisgwyliadwy ar y Prif Lythyrdy, a'r ddwy orsaf rheilffordd, a'r rhesi o dai yn yrnyl y cei lie daw y llongau, ac ar fanau manteisiol eraill. Meddianwyd y rhai hyn gan y gwrth- ryfelwyr lladdwyd tua dwsin o filwyr ao o heddgeidwaid a wrthwynebaaant yr ym- osodiad. Torwyd gwifrau r teiograF a'r toliffon fei na ellid danfon hyabysrwydd o'r hyn oedd wedi cymeryd lie.. Wrth fedd- ip.nu'r Llythyrdy dyryswyd yr holl drefn- iadau swyddogol arferol i ledu newyddion. Wrth feddianu gorsafoedd y rhealffordd rhwystrwyd dros beth amser unrhyw ym- gais i weithio'r rheilffyrdd, a dwyn cymorth i Dublin o'r wlad oddi amgylch. Wrth feddianu adeiladauar y oei, yn ymarferol cauwyd y porthladd fel na allai cymorth ddod yno o'r mor. Y GWRTHRYFELWYR—" NI EIN HUNAIN." Pan chwilir i hanes yr helynt ceir v ffellir rhanu'r gwrthryfelwyr yn ddau adosparth, sef 1. Y Siim Ffein, a 2. Y Larkiniaid. Math o Gymdeithas Gcnodlaethol eith- afol yw y "Sinn Ffein,"—mewn gwir- ionedd, Cymrodorion y Werddon ydynt. Ystyr yr enw "Sinn Ffein" yw "Ni ein Hunain,yr hyn o'i ddehongli yw fod Aelodau y Gymdeithas yn gosod y Werddon a'i hawliau o flaen pawb a phob- peth. Mae y Sinn Ffein mor wrthwynebol i Redmond a'r Aelodau Gwyddelig ag ydynt i Carson a'i ganlynwyr yn Ulster. Poh] anghymodlawii ydynt. Wna dim y tro iddynt na. chanddynt ond adwfydlu Annibyniaeth hollol i'r Werddon. Chwarddant am ben Ymreolaeth fel peth diwCtrth a ffugiol. Anheyrngar i Brydain a fuont erioed ac ydynt eto. Etifeddion y Ffeniaid gyllt ydynt. Am y Larkiniaid, ca-nlynwyr Larkin, vr arweinydd llafur a achosodd gymaint helynt ym myd Llafur ychydig cyn dechreu y rhyfel ydynt. L Cydweithiodd y ddau ddosparth hyn, y Sinn Ffein a'r Larkiniaid yn y gwrth- ryfel. DYLANWADU AR YR AMERICA. Dewiswyd yr adeg bresenol i gyneci tan gwrthryfel yn y Werddon, am fod y cweryl ar hyn o bryd rhwng Wilson a'r Kaiser, rhwng America a Germani, yn dod i argyfwng. Mae pleidwyr Germani yn America ear's tro yn oeisio amgylchu tir a mor, a symud nef a daear i godi cri yn America yn erbyn yr Arlywydd Wilson am ei fod wedi gosod ei droed i Lawr mor benderfynol ar gweetiwn suddlongau Germani a'u llof- ruddiaethau. Ceir yn yr Unol Daleithiau ddegau o filoedd o Wyddelod gwladgar, oernedlgar. Buasai gweled oodi gwrthryfel yn y Werddon yn erbyn Prydain ac o blaid Germani, meddai yr awdudrodau yn Ger- mani, yn sicr o enyn diofaint a chyffroi Hid Gwyddelod America yn erbyn yr Arlywydd Wilson am ei fod ef yn ffafrui Prydain yn erbyn Germani. Pe gellid dylanwadu felly ar WyddeJod America i fygwth WilSon, buasai o leiaf obaith j boddlonai ef iir delerau esmwythaoh i Germani ar gwestiwn y suddlongau nag yr ymddengya yn awr yn barod i'w oaniatau. Yr ateb goreix i'r oynllwynion cyfrwya hyn o eiddo'r Keiser yw y ffaith fod Red- mond a'r Aelodiau Gwyddelig yn y Senedd yn oondemnio'r gwrthryfel yn hollol ddi- lloesgni, a bod Cenedlaetholwyr y Werdd- on, canlynwyr Redmond, wedi cynyg eu gwasanaeth i'r Llvwodraeth i ymosod ar y gwrthryfelwyr. Er fod y gwrthryfelwyr hyd yn hyn (ddydd Gwener) yn dal meddiant o ran o ddinas Dublin, nid oea ganddynt obaith y me-drant ddal eu tir ond am ychydig iawn o amser. ANGHYDFOD YN Y SENEDD. Wedi eistedd am ddeuddydd mewn Seiet Seneddol ddirgel mae'r Senedd un- waith etc yn agored i'r wasg ac i'r cy- hoedd. Bwriadai y Llywodraeth ddwyn Mesur Gorfod i mown. ar linellau yr oedd y Cabinet wedi cytuno arnynt fel cyfadd- awd rhwng y ddwy blaid. Ond nos Iau tynwyd y Mesur yn ol, ac ar hyn o bryd anmhosibl yw dweyd pa gwrs pellach a. gymerir. GALW'R GWYR PRIOD. Yr wythnos hon cyhoeddwyd Rhybudd- ion Swyddogol yn galw y gwyr priod o dan 36 mlwydd oed (hyny yw, i fyny hyd Group 41), oedd wedi atestio, i ymuno a'r Fyddin ar neu cyn Mai 29ain. Os bwriada neb o'r cyfryw wneyd caia am "exemption" rhaid Henwi'r Ffurflen, a'i dychwelyd i Glerc y Tribiwnal Lleol o fewn corff yr wythnos hon, sef o fewn deng niwrnod ar ol cyhoeddi y Rhybudd. Rhaid i'r gwyr priod fo'n apelio ddis- gwyl gweled y Tribiwnalau yn fwy an- mharod i ganiatau "exemption" nag a fuont, gan fod yr awdurdodau milwrol yn gwasgu yn fwy ac yn drymach am ddynion i'r Fyddin. Y BRWYDRO. Ychydig o gyfnewidiad a welwyd yn y sefyllfa ar faes y gad yr wythnos a aeth heibio. Parhau y mae ymosodiadau ofer y Germaniaid ar Verdun. Aros i'r ffyrdd ddod yn dramadwy y mae y ddwy blaid yn Rwsia. Mae yr Eidal ag Awstria yngyddfau y naill y llaU mewn oodwm marwol yn y Trentino. Mae pethau mawr ar ddigwydd mewn gwa- hanol ranau o'r maes. DYDD GWENER. TEYRNFRADWRIAETH Y GWYDDELOD. Erbyn dydd Gwener, yr oedd y gwrth- ryfel yn yr Iwerddon wedi lledaenu i leoedd ereill heblaw Dublin, a phender- fynwyd gosod yr holl wlad dan v ddeddf filwrol. Parhäai y gwrthryfelwyr i ddal llawer o safleoedd pwysig yn Dublin