Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
INodion o Aberdyfi.
I Nodion o Aberdyfi. Y FYDDIN (?YMREID.—Dydd Mercher dl- weddaf, sef dydd Gwyl Dewi, gwerthwyd flags' a postcards' er mwyn danfon 'comforts' i'r fyddin Gymreiar. Yn yr hwyr cafwyd cyfarfod yn Yogol y Cyngor gyda'r un amean. Yn ol pob tebyg caed awm sylwedd- ol, yr hyn sydd yn glod mawr i'r rhai fuont mor ddiwyd wrth y gwaitb. GWABLEDD.—Drwg erenym fod Mr. Eves yn wael ei ieohyd y dyddiau hyn. Dymunwn iddo adferlad buan. Mae wedi llanw y swydd o arolygwr yn yr Ysgol Sul fwy nag unwaith, a hyny bob amser i foddlonrwydd prwb. BANC —Mae un o aelodau yr Eglwys wedi myned i'r N.P. Bane yn Brecon, sef Miss Alice Watson. Yr oedd yn selod ffyddlon yn yr Eglwys, yr Ysgol Sul, ac hefyd yri barod i gynorthwyo mewn llawer i gyfeiriad arall perthynol i Eglwysi Aberdyfi. Rhwydd hynt iddi yn ei galwedigaeth newydd. MARWOLAETH. — Drwg genym gofnodi marwolaeth Private Lewis T. Eynon, 117 Royal Welsh Fusiliers. Ymunodd o'r newydd yn union wedi'r rhyfel hwn ddechreu, ac aeth allan i'r Dardanelles tua Gorphenaf 1915, Oblegid afiechyd dvchwelodd i Loegr a bu dan drinlaeth mewn Ysbytty am ryw fisoedd Rhyw dair wythnos yn ol daeth adref yn edrych yn ei iawn iechyd, ond ychvdig ddydd- iau wedi iddo gyraedd y Park Hall Camp. Oswestry,oymerwyd efyn glaf o'r 'pneumonia,' a bu farw ddydd Mawrth, Chwefror 29ain. Cludwyd ei gorph oddiyno i gladdfa Aber- dyfi, He y claddwyd ef dydd Tau canlynoi Yr oedd yr angladd i la irIan yn angladd milwrol gan fod llawer o'i gyfeillion yn y fyddin wedi (lyfod gyda'r corpb i dalu'r gymwynas olaf i'r ymadawedig. Bacbgen tawel, yn rhodio yn weddtis oedd Lewis, a pharch iddo gan bawb a'i hadviaeiiai. Mab oedd i Mrs. Eynon, 5 Evans Terrace, ac estynwn ein cvdymdelmlad iddi a'r teulu oil yn yr awr galed hon. Presrethwyd y bregeth angladdol nos Sul, oddiar 2 Tim. ii. 3 a 1 Thess iv. 17. Chwareuwyd y Deid March gan Miss Rowlands.
Advertising
THEY GROW WELL IN WALES, 50,000 TESTIMONIALS. 1,000,000 Copies of Gibbs' Jarge illustrated Catalogue for 1916 Now RKADV This Valuable Book will be sent Post free to all of 11 on 3pplicàtion. GREAT FREE GIFTS & Special Discounts to early Buyers E. T. GIBSS, F.R.H.S., THE PRIZE' SEEDSMAN, EAST FINCHLEY, N. THEY GROW WELL IN WALES, 50,000 TESTIMONIALS. 3386939
listeddfod Gadeiriol Eglwyswvr…
listeddfod Gadeiriol Eglwyswvr Pen- machno, Gwyl Dewi, 1916. BEIRNIADAETH A R Y TRAETHOD \U AR HANEs BYWGRAFFYDDOL O'R ESGOB MORGAN A'R PARCH. GRIFFITH JONAS, PERSON LLAN- DDOWROR' Derbyniwyd pedwar o draethodau ar y testvn bwn, yn dwyn y ffug enwau 'Mynyddwr,' 4 Wil- liam Tyndal' Ab Idwal' a 1 Sion Prys.' 1. Mynyddwr. Traethawd lied faith a gwedd- ol dd,%rllenadwy ond yn ami yn anghywir yn ei ffeithiau. Dywed fod I cofgolofn hardd wedi ei hadeiladu ar fedd yr sgob Morgan.' Nid ar fedd yr Esgob y mae y gofgo!ofn wedi ei ch>»di, ond o flaen Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Y mae'r Esgob wedi ei gladdu yn rhywle y tu fewn i Eg- lwys Gadeiriol Llanelwy, ond nid edwyn neh ei fedd ef byd y dydd hwn.' Dywed yr ymgeisydd hwn befyd fod yr I Arcbesgob Whitgiftyn chwilio allan am rbywun cymhwys i gyfieithu y Beibl i'r iaith Gymraog.' Nid yw hyn yn gywir, gan y dywed yr Esgoh Morgan wrtbym mai efe ei hun a ymgymerodd ar gwaith, af fod wedi -ael cefn-* ogaeth yr Archfsgob ar ol iddo gyfieithu 5 L yfr Moses. 0 berthynas i sylwadau yr ymgeisydd hwn ar Griffith Jones prin y mae'n gywir dweyd fod Griffith Jones wedi bod yn gyfrwng i I wedd- iieu I sileiii' Dauiel Rowland, Llangeitho, a bod Daniel Rowland a'i lafur yn C gofgoloflJ i Griffith Jones byth.' Fe'n dysgir yn y Testa- ment Newydd ac yng ngwasanaeth y Be lyd i y genir dyn drachefn o ddwfr ac o'r Yspryd Glan I. William Tyndal Traethawd wedi ei Y8. grifenu yn daclus. Ond y mae'r ymgeisydd hwn j «to yn anghywir yn ei ffeithiau. Adrodda y tra- ddodiad i'r Esgob Morgan dderbyn ei addysig pan yn fachgen gan fynach oe Id ar fto a than Igudd yn y Ty Mawr, cartref William Morgan. Ond nid oes sail safadwy i'r traddodiud. LJywei Syr John Wyn yn eglur (Memoirs p 95) i Wiiliam Morgan dderbyn ei addysg foreuol yn Gwydir. Prin y mae'n gywir dweyd, fel y gwna'r ymgeis- ydd hwn, fod Dr. Morgan wedi cymeryd y graddau A.M, B.D. a D.D. tra yr oedd yn y Coleg. Buasem yn disgwyl i ymgeisydd ar hanes Esgob Morgan fod yn sicr o ddyddiad cyboeddiad i waith ra wro gvfieithu y Beibl. Dywed, fwy nag unwaith yn ei draethawd, i hyny gymeryd lie yu 1578,-deng mlynedd cyn iddo gael ei gy- i hoeddi, gan mai yn y flwyddyn 1588 y cyhoedd- odd yr Esgob Morgan ei gyfi ithiad. Y mae gan yr ymgeisydd hwn gyfeiriad at ffenestr goffadwr- iaethol yr Esgob Morgan yn Eglwys Penmachno, ac hefyd at ymdrech aflwyddianus Gethin i godi l,000p. i adeiladu cof-golofn i'r Esgob Morgan yn MbfnjpachnQ, Ond nid oes ganddo air am y gof-golofn genedlaethol i'r Esgob o flaen Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Y mae ei sylwadau ar Griffith Jones yn helaethach a chywirach na'r -eiddo ar yr Esgob Morgan. Dichon mai slip of -the pen oedd iddo ddweyd mai yr Bisgob Bell a ordeiniodd Griffith Jones, yn lle'r Esgob Bull. 3. Ablawal. Y mae'r ymgeisydd hwn wedi jsgrifenu yn drefnus, ac y mae ganddo lawysgrif dda. Ond nid yw yn hollol gywir yn ei fleithiau mwy na'r ddau ymgeisydd blaenorol. Dywed fod cofgolofn hardd wedi ei cbodi ar fedd yr Es- gob Morgan. Dywed hefvd fod Cymru wedi ei huno & Lloegr yn amser Harri'r VllI. Ond yn amser Edward I. y cvmerodd hyny le. Yn ei sylwadau ar Griffith Jones fe ddywed fod arian y Cymmun a gyfranwyd tuag at gynal yr ysgolion cylchynol wedi eu taflu i'r Chancery, a bod yr arian wedi chwyddo yn ystod yr amser y bu'r swm yno. Nid yr arian a offrymwyd yn y Cym- un a daflwyd i'r Chancery. Ond y 7,OOOp a adawodd Griffith Jones tuag at gynal ei Ysgolion Cylchynol, ynghyd&r swm o 10,OOOp. a adawodd Madam Bevau tuag at yr un achos, yn gwneuthur cyfanswm o 17,000p. 4. Sion Prys. Dyma draethawd rhagorol ymhob ystyr, mewn dullwedd, purdeb iaith a chywirdeb hanesyddol. Dengys ei fod nid yn unig yn feistr ar ei destyn, ond hefyd yn feistr ar bin ysgrifenydd buan. Y mae ei sylwadau ar yr Esgob Morgan a Griffith Jones yn dangos yn eglur mai nid rhyw grynodeb o ffeithiau yn unig ydyw ei draethawd, ond y mae yn pwyso ac yn mesur gwaith y ddau wron yma yn banes byd ac Eglwys. Darllenasom ei gyfatsoddiad gyda 11awer iawn o fwynhad, ac y mae'n rhagori gym- aint ar ei gydymgeiswyr fel na chawsom unrbyw anhawsder yn penderfynu p" uu oedd y Traeth- awd goreu yn y gystadleuaeth. Rhodder y wobr i Sion Prys.' W. HUGHES, Ficer Llanuwcbllyn, Chwefror 23ain, 1916. PRYDDEST Y GADAIR CRIST AR BINACL Y DEML." Daeth i law naw o bryddestau,-saith mewn pryd, a dwy yn rhy ddiweddar. Anfonodd ,m; Gwynt yr Anial' ei bryddest elo'r tren, wedi talu 6i chludiad i orsaf Caernarfon a chnstiodd y siwrnai benodol i'w chyrchu oddi yno swllt i'r beirniad Yr oedd bon yn rhy ddiweddar o ddeuddydd, er na chollwyd ame;-r o gwbl gyda hi yn y pen hwn o'r daith. Yr oedd pryddest 4 Plentyn y Ddrycin' yn ddiweddarach fyth, gan na dderbyuiwyd hi hyd y 19eg, yn lle'r 14eg. Teflais olwg ar y naill a'r Hall o'r pryddestau hyn, a gwelais eu bod yn dda ond er mwyn mwy o L. j foddlonrwydd, dymunaf ddweyd mai yr un yn f- hollol fuasai'r dyfarniad terfynol yn y feirniad- aeth ped anfonasid hwy i mewn yn unol i'r Amodau. Dyma enwau'r siith arall-Piiael y Dernl, Tanguefeddwr, Simeon, Hwyrol Awel o'r Olew- wydd, Olive, Aurelius. Y Temlwr; a cheisiaf wneyd ychydig sylwadau ar y rhai hyn o un i uu PINACL Y DEML -Pryddest yn cael ei rhag flaenu gan Ragair, a'i dilyn gan Nudiadau Eglur- haol. Nid oeid angen am y naill na.'r llall, gan fod y gwaith drwyddo'n ddigon eglur a deall- adwy hebddynt. Er nad oes yn y bryddest hon ond ychydig wreiddioldeb ineddwl ac arbenig- rwydd cynllun, y mae'n perthyn iddi ragoriaeth- au, y penaf o ba rai, efallai, ydyw ei llithrigrwydd a'i chlirder. Ond er llyfue l ei rhediad, y mae'r gystrawen, tnewn rhai tuanau, yn lied bell c> fod yn berffaith. -Hyma, er engraifft, linellau a'r geiriau wedi eu cystrawenu'n hynod o ddrwg :— Ar ol ei fedyddio yn afon Iorddonen, A:11 Yspryd i ddisgtn ar ddelw colomen, A r Tad igt/hoeddi ei berflaith foddlonrwydd.' Y cyfosodiad geiriol cywir yn y Hinellau yna fuasai— Ar ol ei fedyddio, Ac i'r Yspryd ddisgyn, Ac i'r Tad gyhoedtf. Defnyddia'r ymgeisydd, hefyd, yr arddodiad i lie nad oes angen 0 am dano, ac nid o ddamwain y gwna hyn— 4 Fel byddai i Abab i syrthio yn Ramoth Rhag i Ti i daro dy droed yn anhylaw.' Ni ddylai Cymro llenyd lol fabwysiadu arddull aflerw fel yna Beth sydd o'i le efo,-Fol byddai i Ahab syrthio, a Rhag i Ti iArt) ? Rhaid dweyd mai lied rvddieithol, hefyd, ydyw rhai darnau o'r bryddest hon, megis- Ond nis digalonwyd, chwanegodd ei ryfyg, Newidiod I ei faes i gymeryd ail gynyg Arweiniodd yr lesu i fynvdd mawr uebel, Ond buan disgynw d, cin's byr fu r ymrafel Buddugol, hebanaf. disgynodd yr Iesu, Tra'r diawl geisiai guddio ei friw oedd yn gwaedu.' Chware teg i'r ymge'sydd am roddi ei enw priod- ol weithiau i'r I g*r drwg,' a gomedd o hono gwbl ymlynu wrth y coeg ledneisrwydd o'i alw ar enw mwynacb rh tg brif,)'i deim ad-u ef a'i blant!' TANGNiCFICDDWR.-Tipyti >n -inystwyth ydyw rhai o'r llinellau yu y bryddest bon, yn enwedig yn y rhan fl euaf o honi. Cymerer y llinell gyntaf oil fel engraifft Urist lir binacl y deml'ddesgrifiwyd, Fel un dan lawryf buddugoliaeth, Gall efengylydd a eneiiiiwyd A nawdd y netol ysbrydoliaeth.' Er ateb gofyniou y mesur, a chytuno &'r drydedd linell,-y lhnell gyfatebol yn y penill,-rhaid llusgo'r acen yn lied bell o'i lie yn yr un flaenaf. Pan newidia'r ymgeisydd ei fesur ymhellach ymlaen, ciii yn llawer mwy diasglotf, er nad yw'n hollol sionc a hoew byd yn oed yno. Engraifft Yn y Nef,—y Dewl anniflan, Atat, am byth, 0 ein Crist.' Gwelir y rbaid dodi'r acen ar y gair am yn yr ail linell,-atat am byth. Fe ddylid talu'r un sylw i gorfan,—y dosraniad, neu leoliad yr acen, -mewn llinell fydryddol, ag a wneir i nifer y silIafau ynddi Lied ddiffygiol ydy w'r iaith hefyd mewn manau. Ni ddichon fod graen llenyddol ar frawddegtu yn cynwys geiriau fell arhosa J a I gwela/ -am er.s a gwêl. Mewn nodiadau ar waelod y ddalen, yn mha rai y c feirir at weith- iau gwahanol awduron, deng) s yr ymgeisydd ei fod yu ddarllenwr sylwgar a hyddysg. SIMEON.—Ni cbeir yn y bryddest hon ddim newydd a tharawiadol. Cyffredin ac arwynebol ydyw ar y cyfan. Ni chais yr ymgeisydd dori ffordd newydd iddo'i hun, ond ymfiyddlona ar ddilyn hen lwybrau cynefin cystadleuwyr. Gwelsom o'r blaen syniadau tebyg i'r rhai can- lynol, ac yn sicr nid oes ynddynt win awen i wella dim wrth beneiddio Sylla engyl trag'wyddoideb arno mewn edmyg- edd 81n' Nid oes c&n ar eu gwefusau.ar ganllawiau nef y nef.' Gwelir yma rai ffigyrau amhriodol hefyd, poegis— 1 Ni sangodd ei ucbelder ond aden dlos y wawr.' Aden yn sangu I Fe fethodd ei bicellau ef Lychwino bywyd Aer y Nef.' Picellau yn llychwino Defnyddia'r ymgeisydd hwn eto yr arddodiad i heb ei eisiau yn y llinell hon Mor ddengar ceisiai ganddo i roddi ei orchy- myn.' Ac onid yw llinellau fel y rbai canlynol yn dwyn gormod o ddelw gwers eglurhaol athraw Yegol Sul ?- Awgryma yn gyfeillgar, a'i weddi am ei lwydd- iant, qp Mai prawf o'i Dduwdod fuasai'n cwtogi ffordd I gogoniant Pe gwnaetbai arddangosiad o'r gallu oedd dan lenni, Gostyngai'r byd ei liniaU ar unwaitb i'w addoli.' Ond pan wedi ymollwng i ganu'n annibynol ar fanylion yr hanes, yn adranau 4 a 5, y mae'r ymgeisydd hwn yn llawer iawn gwell, ac yn fwy o awenyddT HWYROL AWEL O'R OLEWYDD.—Dyma bryddest lAn a thrwsiadus, wedi ei chorfanu'n gywir, ac yn darllen yn rhwydd ddigon drwyddi. Ceir cy- ffyrddiadau cynghaneddol hapus befyd yn ychwanegu'n ami at swyn y gan. Ond nid yw'r bardd yn ymddyrchafu'n uchel o gwbl. Teimlir fod yma fwy o esbonio, ac egluro, a helaethu, nag o awenyddu. Dyma linell dda pa fodd bynag,— A'u calon yn eu gw6n a'u brwd groesawiad.' Synais weled gan fardd mor bwyllog a gofalus linellau fel y rhai canlynol,— Daw ar dy arcbiad Wyrth o gol Dwyfoldebt A nerth ei braich fel darn o Anfeidroldeb 0 galon Duw.' Trwst llestri gweigion yw peth fel yna Ond, ar y cyfan, y mae'r ymgeisydd hwn yn bur dda yn y ffordd a gymerodd. OLIVIC.-Pryddest Saesneg sydd gan Olive. Y mae'n amheus genyf a ydyw hyn yn unol 3, thelerau'r gystadieuasth, gan mai yn Gymraeg yn unig y rboddwyd y testyn. Pa fodd bynag, fel y mae'n digwydd, nid yw'r peth o fawr bwys ar yr achlysur presonol. Y mae hwn yn witù llenyddol glan a gorpbenedig, ac yn hollol barod i'r wasg. Telir sylw ynddo hyd yn oed i'r manylion lleiaf. Cynwysa hefyd amryw feddyl- ian tlysion a barddonol; ac y mae'r cyfan yn berffaith yml ac eglur, beb chwydd na rbodres o gwbl. Yn rhan olaf y bryddest. mewn cyfres o benillion tarawiadol iawn, rhybuddir ni foct y Temtiwr o hyd wrth ei orchwyl, yn enwedig yn Nby Gweddi; ac mai at Waredwr y byd yn unig y gellir troi am nerth adnewyddol i'w wrth- wynebu o ddydd i ddydd. He lingers round each market pface, He sits on Pleasure's stair; And, silent as the panther's tread, Creeps in the House of prayer.' There, best of all, hp loves to see The Christian's ensign furled,— To see his banner slidTng down Before a watchful world.' Ob Saviour of the world to Thee For strength renewed we turn, That in the three-fold conflict we Thy sympathy discern.' AUREMUS —Dyma bryddest naturiol, hollol ddirodres, a llawn o feddwl craff a gafaelgar. Y mae'r ymgeisydd hwn yn fydryddwr o gryn allu, acyn feistr pr>fiidol ar iaith ga trefol, dda, heb (idioa o goe,),rii'r ',Ivsge(iigit)ii' yn agos uti. Pa fodd y digwyddodd iddo ddefnyddio'r ferf gynorthwyol anolygus yn y cysylltiad canlynol sydd ddirgelweh :— o I Fry o ucheledd pinacl Salem wèo, Ar frys gwna ddiagyn.' Onid llawer coethach a mwy persain eiriau'r Gwaredwr wrth Ziccheus fel y cawn hwy yn yr Efengyl, Disgyn ar frys" ? Ac mor hawdd fuasai dweyd 1 Yn frysiog disgyn.' Ond brycheuyn damweiniol yw hwna. Fel engraifft o ansawdd y farddoniaeth yn y bryddest wastad bon, gellir dyfynu a ganlyn Y fath wrthuni nid wrth fwrw'i Hun O'r pinacl fry, y profai Mab y Dyn Mai gwir Fab Duw Efe nid arddangosiad Mo'i fywyd dwyfol fawr, i foddio llygad Y ddinas fostgar, falch, a'r dorf gywreingar, Ond ymdaith distaw cariad an-hunangar, Nid bwrw'i Hunan ar y palmant oer, Ond cilio'n gudd, heb ddim ond goleu'r lloer Yn gwel'd ei gam, draw i neilltuaeth unig Rbyw fynydd pell, i gwrdd a'r Anweledig, Er mwyn cael nerth i roi ei Hun yn fwy I'r truan, llesg, a'r afiach dan ei glwy' 0 ferw'r dorf, a'i dwndwr blin a'i rhu', Heb geisio'i les ei Hun, ond lies y llu Ah! bwrw'i Hun i lawr,—boblogrwydd rhad! A ffrwyth dychymyg calon fryntaf brad. Dyma'n ddiameu y bryddest fwyaf boddbaol fu dan sylw byd yn hyn. Y TEMLWR.- Y mae'r bryddest hon yn hollol ar ei phen ei hun yn y gystadleuaetb, o ran ei cbynllun a'i cbynwys a cbeir ynddi fwy o awen nag yn yr un o'r lleill. Rhenir hi fel y canlyn :— I. Oriau'r Temtiwr II. Tua'r Demi III. Esgyn i'r Pinacl; IV. Y Temtiad; V. Yr Oruchafiaeth. Dengys yr awdwr ei fod yn deall cyfrinion iaith a mydr i'r dim, er ei fod yntau wedi syrthio unwaith i'r amryfusedd o ddefn- yddio'r arddodiad i heb ei eisieu. Defnyddia hefyd y gair hwylus defion,' a ninau'n cael ein rhybuddio'n barhaus mai y flurf gywir arno ydyw defodau! Ac heblaw hyn, ceir geiriau fel breuddwyd, cymhelri, ac enaid, yn y rhyw fenywaidd ganddo, yn groes i arfer y Gogledd. Dyna'r boll frychau a fedraf fi eu canfod yn y gerddd ragorol hon, cs brychau befyd. Ie, cefdd ragorol ydyw,—wir alluog, a hollol ddlwastraff. Y brofedigaeth i ymgeisydd ar des- tyn fel hwn ydyw dilyn yr hanes, a damcan- iaethau gwahanol esbonwyr yn ei gylch, yn was- aidd, yn hytrach na thori llwybr iddo'i hun gyda meddwl annibynol a chrebwyll awenyddol uwch- law dynwared. Ond nid dilyniad di-feddwl o'r testyn fel ffaith banesyddol sydd yma, ond barddoniaefch seiliedig arno, a flyddlon iddo, a'i llond o feddwl pwyllog ac urddasol; ac nid 4'r meddwl hwnw unwaith ar ddisberod. Gwelir arddull y g&n yn ei llinellau agoriadol,—Oriau'r Temtiwr?— ( 'Mae ym mreuddwyd forer proflfwyd, yn nadeni'r enaid mawr,- Cyn bod gweledigaeth eglur iddo, a chyn dod ei awr,— Oriau o ledritbion dieitbr,-oriau'r Temtiwr— (Duw a'i gwyr)- Ddeuant megis gwibiad ystlwn rhwng dau oleu ynJr hwyr; Gwyll a gwawl ymlidia'u gilydd nid yw ddydd ac nid yw nos Ond y bore dry'n dywyllwcb, ac awr ddewaint wrida'n dlos Gloew ffydd a llwyd amheuon liwia'r enaid bob yn ail- Un yn codi'r deml newydd, a'r llall yn cloddio dan ei sail.' Ac yn adran olaf y bryddest,- Yr Oruchafiaeth, —dyma fel y dywed, gan derfynu'r gan gyda chyfeiriad ftyddiog at y rbyfel a buddugoliaeth sicr uniondeb,— Crist ar binacl pob perffeithrwydd sai'n oruchaf ddyddiau'r byd,- Cedyrn gras a rhinwedd blygant mewn gwarog- aeth iddo 'nghyd Heddyw, ar demlau, led y ddaear, wele'n uchaf lun ei groes — Delfryd nef, arwyddlun perftaith ras a rhinwedd ym mhob oes. Er bod gorchudd ar ei wyneb-fel fu ar wyneb Moses cyd, Er bod gwaed yn t'wyllu'r ddelfryd ddisglaer heddyw yn ein byd, Ar y pinacl y mae lesu Byth ni fwria'i Hun i lawr Nid o'i fodd yr a ei weision allan i'r gymhelri fawr I Wrth genhedlaeth yn y ffosydd, Dring i fyny yw ei lef- o v Ac mae gobaith -goreu'r ddaear yn ei oruchaf- iaetb Ef.' J Ni phetrusaf dd/ivedyd mai y goreu yn y gys- tadleuaeth hon ydyw I Y Temlwr.' Rhodder iddo ef y Gadair, a'r holl aurbydedd perthynol iddi, heb warafun. BERW. CHWE' PHENILL COFFADWRIATHOL f — Y DIWEDDAR MARC OWEN." Derbyniwydary testyn hv?ngynyrchion.yr wyth ymgeisydd canlynol,-I-Iadad-riuamon, Hen Gyd- nabod, Is yr Ywen, Dagrau Cyfaill, Linus, Deig- ryn ap Galar, Telyn Adgof, a Glanpulr Fachno.- Nid am alargan y gofynai'r pwyllgor. Gall, a dylai, • penillion coffadwriaothol I fod yn bethau tra gwahanol i'r galarnadau hen ffasiwn a gwelaf fod yr ymgeiswyr yn lied gyffredin wedi sylweddoli hyn. Ofnais pan welais linellau agoria ol-I Dagrau Cyfaill' nad oedd ef wedi gallu hollol ymysgwyd oddi wrth bruddylwyf enaid yr hen farw-nadwyr drwg en s\tn Awen gwisg dy alarwisgoedd. Rnodia'n araf ar dy daith.' Ond siomwyd fi'r ffordd oreu, gan fod ganddo benillion pur ddymunol wedi'r cyfan. Nid oes yn "y gystadleuaeth ond yobydig wallau ieithvddol ac y mae rhwyddineb myd- ryddol yr holl benillion yn amlwg. Sieryd rhai o'r cystadleuwyr am y diweddar Marc Owen feI anwylyn gwlad yn bytrach nag fel cymenad anwyl yn ei ardal. Yn wir, dywed Hen Gydnabod am dano, 1 Gyfaill anwyl, byw adgafion Ddcffry hiraeth yn y byd: Y tnie dywediad fel yna'n auaturio] am wladwr diymhongar a'i rtaoriaethauii gyfvneeditr i'w ardal ei hun J o o > 3Yr hyn yr edrychwn arn datio yma ydyw can goffa fechan naturiol, dawel, a hydenis, yn cyfat- eb i'r cymeriad distaw, rhadlon, a diddichell y cenir am dano. firedaf mai v ddau sydd yn dyfod- ainsif i'r nod ydyw « Doigryn ap Galar' a I Glanau'r FAchiio ac yn hytrach ua cheisio b,)Iiti blew, rhaner y. wobr yn gyfarta! rhwng y ddau hyn. I BRRW. ENGLYN « Y SUDDLONG.' Daeth i law 24 o englynion, sef eiddo Pryderi'r Donn (rhy ddiweddar), Lusitania (rhy ddiwedd- ar), Brodor o Brydain (rhy ddiweddar), D.M. W., Dewi o'r Cefn, Glanmor (1), Glanmor (2), Ap loan (1), Ap loan (2), Un o Fon wen wyf fi, Madian, 0 frig y don (tri englyn), Cymro dewr, Brig y don, Ar lan y mor, Neifion, Lief o'r Hi,' Murmur y don, Lord Fisher, Trystan, Nelson, a Brython. Gellir symio i fyny'r gystadleuaeth hon fel un hynod ddifrychau a chywir partbed gofynion cynghanedd a mesur, ond heb lawer o bertrwydd na chryfder ynddi. Egwan iawn yn englynion D.M.W., Dewi o'r Cefn, Glanmor (1), Glanmor (2), Un o F6n wen wyf fi, Ap loan (1), Ap loan (2). Ac nid yw'r wyth canlynol lawer gwell. Cyff- redin ydynt, a hollol ddiafael :—Madian, Neifion, Ar lan y mor, Brig y don, Cymro dewr, 0 frig y don (tri englyn). Y goreuon yw eiddo Lief o'r Hi', Murmur y don, Lord Fisher, Nelson, Trystan, a Brython. Y mae gan Lord Fisber englyn tarawiadol iawn ond, yn anffodus canodd yn unig i sudd- fad y gelyn :— Cul fad estron, celf distryw,- Ym mrwydr yr aig mwrdrwr yw.' Sylwer mai ei gyfieithiad ef o submarine yw suddfad, ac nid suddloug fel yn rhestr testynau'r eisteddfod ac fel bad y cenir iddo hefyd gan ymgeisydd arall yn y dosbarth hwn, sef Brythoji. Ysryriaf eu bod at eu rhyddid yn hyn o beth a chredaf hefyd mai englyn nodweddiadol Brython yydw'r teilyngaf Or wobr, a'i fod yn ei Uwyr haeddu. Dyma fo:- BAd cywrain, enbyd caria-ar ei fwrdd Arfau erch rhyfela Is tonn torpedoes dannia,— Os tery 'i nod dinystr wna.' BERW.
Can-Liais Adgof.
Can-Liais Adgof. Cujlwynedig i'r Parch. D. Griffiths, Y.H., a Rheithor Llangranog. Mae hiraeth ar fy nghalon, Am Wyliau Dewi Sant,' Gynbelid yn Llangranog gynt, Gan un o'i mwynaf blant; Hen wyliau goriawn oeddynt, G ysbryd cn a hedd, Ac am flynyddau ynddynt ceid Elfenau grasol wledd. Cydgan—Heddyw mae fy serch yn drj^og Ar fedd Gwyliau S&int Liftngranog, I Mae hiraeth ar fy nghalon, Am Gvrddau' ™ hen Yfjl, Pryd ceid y neuadd dios yd A'r Rbeithor yn ei bwyl Tangnefedd yn teyrnasu, Ac ysbryd Dewi Sant Yn rhanu gwobrau cariad pur I ddedwyddoli'r plant. Cydgan—Heddyw mae fy serch yn ddrylliog, Ac Mae biraeth yn fy nghalon. Am hedd y dyddiau gynt, Pan nad oedd Mawrth a'i fyddin ffol, Yn taro cyrau'r gwynt Ce's ynddynt wleddoedd enaid, Yh nghwmni'r Ynad Hedd, Ac ynwyf heddyw Ilosgi wnant, 0 dan gysgodau'r bedd. Cydgan-Heddyw mae fy serch yn ddrylliog, &c Mae hiraeth ar fy nghalon, Am lawer cyfaill cu, A gwrddais yn y gwyliau hyn Yn eu gwladgarol fri; Tra byddaf ar y ddaiar, Anwylaf eu coffhad, A cbroesi ynof dros y ffin, Wna'u dylanwadau mad. Cydgan- Heddyw mae fy serch yn ddrylliog, Ar fedd Gwyliau Saint Llangranog. Ffostrasol. CTNPEljYN. Mawrth laf, 1916.
DEONIAETH WLADOL LLEYN.
DEONIAETH WLADOL LLEYN. 0 dan arolygiaeth y Parch. J. BANGOR JONKS, Edern). MARWOLAETH.—Mae genym y gorchwyl pruddaidd yr wythnos bon o ysgrifenu ynghylch marwolaeth Mra. Stevens, mam y Parch. W. S Williams, rheithor Bottwnog, yr hyn a ddigwyddodd yn y Rheithordy ych- ydig ddyddiau yn ol. Ymddatododd wedi goroesi ei phedwar ugain, ac onibae am y ddamwain a gyfarfyddodd ychydig flynyddau yn ol, diameu y gwelsai lawer mwy o ddydd- iau, oblegid yr oedd o gyfansoddiad cryf, a bob amser yn llawn yspryd. Yn wir, meddai yspryd dynes ieuanc iawn, yr hyn a gyfrifal am ieuenctid ei gwedd. Yr oedd Mrs. Stevens yn nodedig o hardd yn ei dydd, a gwelid olion ami wg o hyn yn ei hen ddyddiau. Fel y gwyddis, bu Mrs. Stephens yn briod ddwy- waith. Ei gwr cyntaf ydoedd y Parch. William Sylvanus Williams, ficer Trawsfyn- ydd, Gwr hynod boblogaidd ydoedd Mr. Williams, ac fel ei fab yn bregethwr rhagorol. Er wedi ymadael a'r byd hwn, mae iddo le cynes yn nghalonau ei ben blwyfolion. Arei farwolaeth, gwnawd cais gan y plwyfolion ar iddo gael ei gladdu yn medd un o'r hen ficerlaid a gladdwyd oddeutu 200 o flynydd- oedd cyn hyny yn yr ben fynwent. Cydsyn- iwyd a'r cais, a chladdwyd ef gyda'r hen ficer. Yn fuan iawn wedi hyny canwyd yr hen fynwent. Dengys hyn y parch a gawsai ac a deilyngai gan y plwyfolion. Symudodd Mrs. Williams i Aberystwyth, lie y'i ganwyd ac y'i magwyd, a bu yno am 18 mlynedd, pryd y priododd y Parch. J. Stevens, ficer St. loan, Tonyrefail. Wedi marwolaeth ei hail wr, aeth Mrs. Stephens yn ol drachefn i Aberys- twytb, ond ni bu yno yn hir, gan iddi symud drachefn, y tro hwn i Bottwnog at ei hanwyl fab. Er mai byr ydoedd ei harosiad yo Lleyn, yr oedd wedi gwneyd llu o gyfeilUon, a chwith lawn fydd genym ar ei Os bu cadair wag erioed mewn ty, dia- 11n heddyw yn Rheithordv "*k u aa vdvw meddwl ar^ ~-«*wnog. Anhawdd old^b VT Rheithordy heb bresen- Stevena. Byddai bob amser yii I nwyliog ac yn hynod groeaawus. Ond och nid oes ond ei lie heddyw. Nid rhyfedd i Dafydd ddywedyd yn ei farwnad ar ol Saul a Jonathan, 'Pa fodd y cwympodd cedyrn ?' Yr oedd euaid Dafydd wedi glynu wrthynt oherwydd eu mawredd mewn llawer --tvr ynghyd a'r cysylltiad agos a fu rhyngddo ei a bÿ. Gallwn nlnau fypegu yr un geiriau oherwydd y mae uri dadarnj yn gorphorol a Chriationogol, wedi ei thori i lawr yn mherson Mrs. Stevens, ao agos iawn fu ein cysnlltiad a hi tra yn ein plith. Cafodd gystudd maith, ond dioddefodd y cwbl yn dawel ac yn amyneddgar. Gadawodd fab a merch i alaru ar ei hoi, a derbynied Mrs. Rudd a'r Parch. W. S. Williams ein oydyoi- deimlad llwyraf yn eu profedigaeth. Dymunal gael ei chladdu ym medd ei mhab yn Aberystwyth. Cafwyd gwasanaeth yn y tj cyn cychwyn, pryd y gwasanaethodd y Parck. J. Davies, rheithor Llaniestyn. Yna clud- wyd y corph gyda'r gerbydres i Aberystwyth gan gyraedd yno oddeutu haner awr wedi dau. Yn yr orsaf, gwelwyd yr Archddiacon Williams, ficer y Drindod Banctaidd, a llu o garedigion a adwaenent Mrs. Steveng yn dda So yn unol a'r trefniant awd yn syth i'r Eglwys uchod. Oynorthwywyd yr Arch- ddiacon yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. J. Lodwick Davies, ficer Bryncroes. Rhoddwyd yr hyn oedd farwol o Mrs. Stevens i Orweud yn :dellau y dyffryn yn nghanol galar dwys y teulu Iluosog. gethwyd y bregeth angladdol yn Bottwnog prydnawn Sul diweddaf gan Reithor Llan- iestyn, a'r gwasanaeth yn cael ei ddarllen gan Ficer Brynoroes. LLANGWNADL.—Deall wn fod ymdrechion diflino yn cael eu gwneyd yn mhlwyfi Llan- gwnadl a Bodferin i ddarparu adnoddau cysurOn a diddanwch i'r milwyr Cymreig a'r clefion yn yr ysbyttai. Y mae nifer o foneddigesau ieuainc o dan gyfarwyddyd teulu y Ficerdy yn myned o gwmpas i hel pr-as a chasglu wyau. Defnyddir yr arian i bryna defnyddiau i wneyd hosanau, socks, i'r milwyr, ac anfonir y wyau i'r ysbyttai. Y mao eisioes lawer pecyn o nwyddau wedi eu gyru i ffwrdd, ac y mae eraill ar fin cael eu hanfou. Nodweddir pob plaid a chred gan undeb yspryd, a symbylir pawb gau gydym- deimlad a brawdgarweh—ttrwythau pereidd- iaf a dyf ar breu Cristionogaetb. Dalied y boneddigesau tirron at y gorchwyl clodfawr hwn. Ni phery yn hir, ac yua ar ol y cymhelu auynol sy'a rhwygo Ewrop ar hyn o bryd, fe geir daear newydd a nefoedd newydd.