Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Colofn y Calendar.—Rhif xv.

News
Cite
Share

Colofn y Calendar.—Rhif xv. Y SUL CYNTAF YN Y GARAWYS.— MAWRTH 12. Y Llithiau.- Y Boreu, Gen. xix. 12-30; St. Marc x. 32. Yr Hwyr, Gen. xxii. 1-20 neu xxiii.; 1 Cor. iv. 18 a v. Yr Epistol.-2 Cor. vi. 1-11; Yr Efengyl, St. Matt. iv. 1-12. Yr ydym yn awr wedi dyfod i dymor y Garawys, trwy cldrws Dydd Mercher y Lludw, sef y dydd cyntaf o r Garawys. Nid yn unig cafwyd tri Sul o ymbartooad, ond rhaid wrth un dydd arbenig i osod pwysigrwydd neillduol ar brif wers y tymor, sef natur echryslon pechod, ei ofnadwyaeth, a'i ganlyniadau. Nis gellir cael gwell Gwasanaeth i osod hyn o'n blaen na Gwasanaeth y Comminasiwn, neu Gyhoeddiad Digofaint a Barnedigaet-hau Duw yn erbyn Pecliaduriaid anedifeiribl, er eu cynhyrfu i wir edifeirwch. Y mae fel pob Gwasanaeth o eiddo yr Eglwys, yn llawn o'r Ysgrythyr Lan, ac y mae wedi ei drwytho ag ysbryd Crefydd yr Arglwydd lesu. Nid rhyfedd fod rhai pobl, ie, ysywaeth, Thai 'crefyddwyr' yn ei erbyn, gan nad oes ganddynt iawn syniad o bechaduruswydd pechod. Y mae yn an- mhoblogaidd am ei fod yn oondemnio yn drwm (er nid yn fwy felly na Gair Duw) anwyl bethau llawer yn Nghymru. Y mae yr hen enw "Dydd Mercher y Lludw" yn cadw mewn cof yr arferiad Ysgrythyrol o ymwisgo mewn sachlian a lludw. fel ar- wydd allanol o dristwch mewnol (Job xlii. 6; S. Matt. xi. 21). Dysgir arno (1) yr angenrheidrwydd i ymprydio; (2) natur yhpryd; (3) amcan a llesad ympryd; (4) y modd y dylid ymprydio; (5) ac argraff gymeradwyol Iesu Grist ar iawn ympryd. Mae y gair GARAWYS yn fath o lygriad or gair Lladin Quadragesima, sef deugeinfed dydd, hyny ydyw, cyn y Pasg. Mae yr enw wedi ei ddefnyddio yn yr iaith Gymraeg er yn fore iawn, anhawdd dweyd pa mor fore; yn wir, daeth yn air mor deuluaidd ymhlith yr hen Gymry, nes swnio yn hollol gartrefol ac yn cael ei ystyried fel yn enedigol. Ymhlith y Saeson 'Lent' yw yr enw, yn -arwyddo gwanwyn, neu estyniad y dydd, neu flaen darddiad y ddaear—gair digon priodol ar dymor rydd arwyddion o flaguriad ac ad- newyddiad, o fywyd allan o farwolaeth, o lafur a arweinia i fwyniant. Ar y Suliau o'r Nadolig hyd ddiwedd yr Ystwyll, swm pob addysg ydoedd, Crist yn ei agwedd tuag at yr Eglwys ond yn ystod y Gara- wys, daw agwedd yr Eglwys tuag at Grist I i'r golwg. Ar y cyntaf, cadwodd y Crist- ionogion boreaf dymor byr o ympryd a hunan-ymwadiad, i goffhau y dyddiau trymion o alar aeth yr Apostolion a I dsgyblion Crist trwyddynt yn ystod y deugain awr y bu Efe yn y bedel. Ond buan y gwelodd yr Eglwys wir angen am estyniad adeg o ymddarostyngiad, i gyf- ateb i'r syniad a draethodd yr Arglwydd lesu Ei Hun: "Y dyddiau a ddaw pan ddygir y Priodfab oddi wrthynt; ac yna yr ymprydiant" (St. Matt. ix. 15). Beth oedd yr achos o'i ddygiad ymaith yn angeu ? Onid pechod y ddynoliaeth ? Heb- law hyn, oni ddarfu i Iesu Grist ei Hun wynebu gelyn edn Hiachawdwriaeth, gwedi Ei Fedydd ac ar drothwy Ei weinidogaeth gyhoeddus, trwy ymprydio ddeugain ni- wrnod a deugain nos, ac ymostwng i gael Ei demtio gan ddiafol ? Ai gormod ydoedd disgwyl i'w blant Ei ddilyn ? Na! Can- fyddodd yr Eglwys mai daioni ysbrydol penaf ac uchaf ei haelodau fyddai, galwad difrifol arnynt i efelychu eu Gwaredwr, trwy fyned i gyfnod o ddeugain niwrnod j mewn hunanymholiiad ac edifeirwch, ym- pryd ac aberth, er dyfnhau ac adfywio y bywyd crefyddol. Y COLECTAU.-Rhoddir cyfarwyddid i ddefnyddio y Colect am Ddydd Mercher y Lludw bob dydd o'r Garawys, ar ol y Colect a osodir i'r diwrnod, am ei fod yn gyweirnod i'r holl dymor ac yn gosod stamp unoliaetb arno. Bendith fyddai i grefyddwyr ein gwlad fyfyrio yn ddwys arno, teimlo ei addasrwydd, a sylweddoli yr oil a ddysg yn nghylch (1) pechod, (2) edifeirwch, (3) cyfaddefiad, (4) maddeuant a thrugaredd Duw, a (5) gollyngdod trwy leeu Grist ein Harglwydd, ac yn ei ffordd Ef, sef trwy Air y Cymmod. Yn y Colect am y Sul cyntaf yn y Garawys, adgofir ni o'r hyn wnaeth ein Harglwydd er ein mwyn, sef ymprydio 40 niwrnod a 40 nos. Ar y ffaith hon, seliwn erfyniad am "ras i ymarfer a chyfryw ddirwest," gyda dau amcan a chyrhaedd un nod. Yr amcan- ion ydynt, (1) darostwng y cnawd i'r ysbryd-ffrwyilo y nwydau a'r chwantau, a'u oadw yn eu lie, er mwyn nerthu a chadarnhau pob peth a berthyn i'r ysbryd (2) gallu i ufuddhau i holl anogg-ethau Crist yn ei Air a thrwy ei Ysbryd "mewn cyf- iawnder a gwir sancteiddrwydd." Yna y nod goruchel ydyw, cyrhaedd ac ar- ddangos anrhydedd a gogoniant Duw. Dalier sylw fod y Weddi hon yn cael ei chyfeirioyn uniongyrchol at Grist Ei Hun, yr hyn sydd yn brawf o gred ddiysgog yn Ei Duwdod. YN YR EPISTOL, dvgir i'n cof ein bod wedi derbyn gras gan Dduw i fyw bywyd o wyli -dwriaeth a hunan-ddysgybliad; ? rhybuddir rhag y perygl o'i dderbyn yn ofer Trwy gydweithio a Duw yn yr amser cymeradwy hwn a dydd ein hiachaw- dwriaeth, cawn ganfyddiad eglur a gwy- bodaeth gynorthwyol o'r modd i orchfygu I profedigaethau, ac i wynebu anhawsderau fyrdd, fel y gwnaeth St. Paul, heb gael ein llychwino ganddynt, ond ein puro a'n per- ffeithio drwyddynt. YN YR EFENGYL, daw o'n blaen un o ddirgelion penaf bywyd daearol y Duw- Ddyn, sef Ei demtiad. Heb geisio clirio yr anhawsderau ynglyn a'r ffaith, mae rhai gwersi syml ond anwyl yn amlwg, Temt- iwyd Ef, (1) fel y bydd-ai Iddo orchfygu y diafol; (2) fel ag i'n dysgu ni pa fodd y gallwn ninau ei orchfygu; (3), ac fely gallai, trwy brofiad Personol, gydymdeimlo a'r rhai a demtir, a rhoddi nerth iddynt o dan bob temtasiwn. Fel yr "Ail Dyu," pan ddaeth yu Ben dynoliaeth newydd, aeth trwy gyffelyb demtasiwn driphlyg a'r "dyn cyntaf, Adda"—"chwant y cnawd, chwant y llygad, a balchder bywyd (1 loan ii. 16). Ie, cafodd ei demtio ymhob petli yr un ffunud a ninau, eto heb bechod (Heb. iv. 15), fel nad oes i ni yn awr Arcli- offeiriaid heb fedru cyd-ddioddef gyd a 'i gwendid ni." Nid ffug-ymladdfa ydoedd yr ymgyrch erchyll rhyngddo a'r diafol, ond yn ei, ddynoliaeth berffaitli teimlodd yr Iesu holl bicfellau tanllyd y fall yn fwy angerddol na neb arall, o herwydd purdeb Ei Natur, llymdoster yr ymosodiadau, a'i benderfyniad di-ildio i'w gwrthsefyll. Ond yr oedd pob temtasiwn yn un wirioneddol, ate yn apelio at dueddiadau dilwgr a di- niwed Ei deimladau Dynol, ac at amgylch- iadau caled Ei Fywyd ar y pryd. (1) Yn y demtasiwn gyntaf apeliwyd at awydd naturiol perthynol i'r corff, sef ohwant y cnawd, ond dangosodd yr Iesu fod bodd- loni tuedd naturiol trwy foddion anghyf- reithlawn yn bechod. Heblaw hyn, bu- asai cydsynio yn golygu anymddiried yn Ei Dad. (2). Cyfeiria yr ail demtasiwn at y teimlad o uchelgais sydd yn naturiol yn perthyn i ddyn, neu ymgais am urddacl a mawredd. Rhaid i'r awydd hwn gael ei lywodraethu gan egwyddorion uniawn, onite daw yn rhyfyg pecliadurus. (3). Apelia y drydedd demtasiwn at y duedd i feddianu awdurdod a llywodraeth; ond y ffordd i wrthsefyll ydyw addoli a gwasan- aethu Duw yii unig. Diolch y gallwn ninau orchfygu pob temtasiwn trwy nerth Crist a defnyddiad o gleddyf yr Ysbryd, Gair Duw. W. WILLIAMS. Jeffreyston,, Mawrth 4, 1916.

Braslun o Bregeth.

Y Gorlan Dramorol.

CAERDYDD.

DEWI SANT, PADDINGTON.

RHOSCOLYN.

ABERYSTWYTH.

CORWEN.

LLANGAFFO.