Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Dirwest a Darbodaeth.

News
Cite
Share

Dirwest a Darbodaeth. ARGRAPHIADAU 0 GYNHADLEDD CKICCIETH. GAN "NODWR." Dlsgwylials weled adroddiad lied gvflawn yn y LLAN yr wythuos dduveddaf o weithred- iadau y Gynhadledd uchaf, ond cefais fy slomi. Er mwyn ceisio gwueyd i fyny y diffyg, yn egystal a rhoddi ar got a chadw rai o'r pethau da a ddywedwyd ac a glybuwyd, penderfynais gynyg fy ngwasanaeth i ddar- llenwyr y LLAN yn y cymeriad o Nodwr.' Diolch I Ap Alnon' a Gohebydd Lleyn am y sylw gafwyd npnddjrnt, nnd nifj riipnn oedd araeth Mr. Jones-Morrla heb ycn^neg o'r pethau da ddywedwyd gan eraill o'r si^rad- wyr. Pabam, tybed, y dar fll i Ap Aiuou syrthio i'r amryfusedd o dd weyd fod yr iaith Gymraeg wedi ei hanwybyddu ac yntau wrth ohebu yn dodi i fewn yn el adroddiad un o'r areithlau draddodwyd mewn cystal Cymraeg ag a barablir yn unman. Siaradwyd yn Gymraeg gan Syr Hugh Ellis-Nanney, Bart.; Deon Bangor (yn rhanol); Mr. Jones- Morris (yn hollol), a'r Ysgrlfeuydd (vn hollol). Rhaid fod yr Ap wedi ymadael i ddal y tren, neu fod rhyw leu wedi gorchuddio ei ddychymyg, cyn y buasai'r cyfaill yn gwneyd y carngymeriad hwn. Sylwais inau fod gormod o'r rhan gyntaf o'r cyfarfod yn yr iaith fain, oud eglurwyd i mi mai nid bai y pwyllgor ydoedd hyn, gan ddarfod i'r awdur dod hwnw benderfynu rhinu'r oyfarfod yn gyfartal cydrhwng y ddwy iaith. Y sylw pwysicaf, yn ol fy marn i, a wnaed yn y cyfarfod oedd eiddo Mr. J. E. Greaves, Arglwydd-Raglaw Sir Gaernarfon. Dywed- odd: —' Fy mhrofiad i fel ynad heddwch am 50ain mlytiel-1, ac fel fkdeirydd y Frawdlvs am 25ain mlynedd, ydyw mal meddwdod yn uniongvrohol neu yn anuniongyrchol, oedd yn gyfrifol am fwyafrif mawr yr achoslon o droseddau, gan fod oddeutu to neu 80 y cant yn cael eu hacbosl gan feddwdod. Pe symudid ymaith yr achos hwn, buasai carchar Caernarfon yn ddigon helaeth i gynwys troseddwyr chwe' sir Gogledd Cym- ru; buasai ein gwallgofdy yn Ninbych yn haws ei gadw, gan na fuasid yn gorfod gwario cymaint o arian i'w gynal a'i ych- wanegu; a buasal llawer o'r golygfeydd truenus a welir yn fynych yn ein tlottai yn bethau y gorphenol. Yr oedd iachawdwr- iaeth y genedl yn aros yn lleihad ymyfed, gan mai yn y cyfeiriad hwn yr oedd y gwastraff mwyaf yn cymeryd lie." Syr, mae y geiriau pwyafawr uchod yn werth eu hargraffu mewn llythyrenau o aur, a'u lledaenu o dy i dy trwy Gymru benbaladr. A gaf fi awgrymu ar fod i bwyllgor y gymdeithas ystyried y priodoldeb o ddwyn allan bamphledyn Cym- raeg, yn cynwys yr uchod mewn llythyrenau breision, fel y gwelo "yr hwn a redo." Diolch i chwi, Mr. Greaves, am eich araeth. *« Ond mae s6n am araeth Mr. Greaves yn arwain fy meddwl I gyfeiriad arall. Mor ddymunol oedd gweled boneddigion ac urdd- asolion yn cefno ;i gwaith y gymdeithas. Os nad wyf yn camgymeryd, peth digon tebyg i "ymweliad angylion" oedd gweled y 11 eyf- oethogion ar lwyfan ddirwestol, ond dyna beth welwyd yn Nghriccieth. Rhaid i mi longyfarch y pwyllgor ar lwyddiant eu hym- drechion, a dymuno hawddamor i'r boneddig- ion Son am y boneddigion sy'n gwneyd i mi gofio am y brodyr daionus sy'n "trigo ynghyd yn Nghriccieth. Daetfy i'm llaw bamphledyn, wedi ei arwyddo a'i gyfansoddi gan Archddiacon Meirionydd a Mr. William George, brawd Gweinidog yr Ergydion. Un da ydyw; mor dda nes mae Golygydd y "Spectator" wedi gwneyd sylw neillduol o hono, ac mae'r Archddiacon wedi cael llythyr- au o wahanol fanau o Loegr yn gofyn, "0, gwelwch yn dda ddweyd wrthym pa sut yr ydych yu trefnu elch ead-gyrch o blaid cael y lluaws i ddilyn esiampl y Brenin ? Diameu fod yr Archddiacon, yn unol a'i brydlondeb a'i hyfwynedd arferol, wedi rhoddi pob cyfar- wyddid i'r ymofynwyr. Tra yn cyfelrio at esiampl y Brenin. hwn ydyw y cyfleustra goreu i egluro fod Criccieth wedi hynodi ei hunan o'r newydd (Llanys- tumdwy, please excuse me for connecting Mr. Ll. G. with Criccieth) yn mhlith y llwythau Cymreig fel y dref gyntaf yn Nghymru i symud 'fel un gwr,' Eglwyswyr ac Ymneill- duwwyr, o blaid dilyn esiampl ragorol y Brenin ynglyn a'r diodydd meddwol. Rhaid i Bwllheli a'i Chlerc Trefol gwreiddtol edrych ati, neu fe adewir hynodrwydd prif dref Lleyn yn mhell ar ol gan brif ymdrochle Eif- ionydd. Dlsgwylid ryw ddeugain neu haner cant o glerigwyr a ohynrychiolwyr i'r gynhadledd brydnawnol. Y fath syndod I ni oodd gweled cymaint a hyny dair neu bedair gwaith yn bresenol. Er hyny yr oedd priod hynaws yr Archddiacon a'i chynorthwywyr wedi gofalu am y dyn oddimewn,' tra yr, oedd y gyn- hadledd ei hunan yn faethfwyd i'r dyn oddi uchod.' ## Yr oedd y gynrycbiolaeth o glerlgwyr yn dra boddhaol. Daeth llawer o bellder mawr, tra yr oedd llwyredd premenoldeb clerlgwyr lleol yn glod uchel iddynt. Yn naturiol ddigon yr oedd mwyafrif y cynrychiolwyr yn foneddigesau, a chynrychlolid llawer teulu sy'n cyflawnt gwrhydri ar faea y gwaed yn y cyfarfod. Gwnaeth yr Arglwydd Esgob, wrth lywyddu dros gyfarfod y prydnawn, un neu ddau o sylwadau tarawiadol iawn. Dywed- odd fod y merched glandeg sy'n harddu cymydoijaethau ein gwiad yn gwario miliwn a haner o bunau ar blyf. Credai yr Esgob y byddai i'r boneddigesau edrych lawn mor gymen a dymnnol bebddynt, ae ychwanegodd un wag o'r tu cefn y cawsent wyr yn llawer mwy rhwydd heb yr artificial@.' Sylw arall priodol iawn o eiddo'r Esgob oedd fod tueddiad ymhawb i osod beichiau ar ysgwyddau eraill Hawdd iawn ydyw i'r dyn nad yw yn cyffwrdd a myglys gynghori eraill i ddilyn ei esiampl, ond beth, ysywaeth, a wna y g*r da ei hun 1 Meddai'r Esgob Prin, fe allai, y gellid dweyd fod unrhyw ddyn ag oedd wedi bod yn llwyr-ymwrthodwr ar hyd ei oes yn dilyn esianipl y Brenin, ond gallai ei Fawrhydi fod yn esiampl iddo mewn hunan-ym wadiad. Rhaid fyddai i'r cyfryw un edrych am ryw fiordd arall i hunan- ymwadu.' Dyma dd'od a phwnc dirweet a darbodaeth i'n hyrnyl-mor agos, fel nas gallwu drosglwyddo y baich a'i ddodi ar ysgwyddau eraill fel yr ydym oil mor dueddol i wneyd. Beth ydym ni yn ei wneyd er lies ein gwlad; pa gynorthwy estynwn iddi yn nydd ei chyfyngder faint g-well ydyw'r wlad mewn canlyniad in gofal ni—dyma gwestiynau sy'n werth i ni oil chwilio am atebion iddynt. Dangosai adroddiad yr Ysgrifenydd fod lleihad adhygoel bron wedi cymeryd lie yn nifer y personau a ddirwywyd yn ddiweddar am feddwdod o'i gymbaru a'r nifer ddeng mlynedd yn ol. Nid wyf yn cofio yu iawn pa un ddywedwyd ai dau ynte pedwar a ddirwy- wyd am ddracbtio yn ormodol yn Nosbarth Porthmadog a'r cylch. Pa un bynag, mae'r ffigyrau yn ein synu, ac yn gwneyd I ni dd'od i'r penderfyniad fod y wlad yn effeithio ei hiachawdwriaeth ddirwestol mewn dull rhyfeddol o effeithiol. Er hyny, gofid i'n calon oedd deall fod ymyfed ymblith y merched yn cynyddu, ae fod yr adeg wedi d'od pan y dylid gwneuthur rhywbeth i roddi atalfa iddo. Darllenwyd llythyr pur ddoeth ar y pen hwn oddiwrth Faer Caer- narfon, yn argymhell i foneddigesau gynorth- wyo gyda banciau cynilo yn y prif drefi. Cafodd y Parch. J. A. Rees, rbeithor Rhos. colyn, hwyl neillduol yn ystod y dydd ond paham, wys, y bu iddo ef-elerigwr o ganol a chalon Mon, mam Cymru-siarad y cwbl a wnaeth yn yr ialth Saesneg t Clywais gyfeillion oeddynt yn eistedd yn agos i mi yn nghyfarfod yr hwyr yn dweyd mai hwyl Gymreig oedd ganddo ar araeth Saesneg, ac onibai am glaiarineb yr iaith fain y buasal ei hyawdledd wedi tynu y ty i lawr.' Fel y dywedodd y Parch. George Salt yn y Gynhadledd rare treat ydoedd peroration y gr parchedig i'w ddwy araeth. Yr oedd araeth Mr. Rees yn y prydnhawn yn arlwythog o ffeithiau tarawiadol, a diameu genym y elytir ei lais yn fynych ar Iwyfanau y gymdeithas yn y dyfodol. « Cawsom ein siomi yn y ddadleuaeth ddilyn- ol i bapur y prydnawn. Calem glywed wyth neu ddeg o areithiau pum' munyd yr un yn egluro 'points of view' clerigwyr a Ileygwyr yr Esgobaeth yn lie hyny, parodd hwyr- frydigrwydd y cyfeillion yn codi i'r Esgob, yr hwn sy'n busnes man yn y cynhadleddau hyn, gredu nad oedd yno rai parod i gyn. orthwyo drwy sylwadau. Siaradwyd gan y Parchn. George Salt, Canon Lewis, Canon Ragg, Syr Hugh Ellis-Nanney, a Mr. T. H. Wynne, Bangor. Daeth Deon Bangor i'r cyfarfod bron cyn oyraedd gartref o'i ymweliad k Bedford, lie y pregethodd i'r milwyr. Teimlem fod argraph- ladau ei ymweliad i'w oanfod yn ei araeth, ac fod y Deon wedi ei swyno lawn gymaint gan ymddygiad boneddlgaidd y milwyr, a chan y moddion effeithiol sydd yn nghylch profiad gwyr ieualne ein gwlad i ddwyn eu 'corph yn gaeth,' fel ag i wneyd yr holl ddyn, yn enaid a ohorph, yn hardd deml yspryd yr Arglwydd. Anfonodd Mr. Jones-Morris un pwynt da gartref i feddyliau ei wrandawyr. Cyn y ceid ymwared a'r fasnach feddwol, meddai, ac a'r drwg o feddwdod, rhaid fyddai i'r Eglwys ystyried y peth yn bechod. Chwareu a pherygl ydoedd pobpeth arall. Yr oedd mwyafrif y presenolion yn cydweled &g ef. # Dlolchwyd i gyfeillion Criccieth am eu croesaw i'r Gynhadledd, ac am gynulliad mor llawn yn yr hwyr gan yr Ysgrifenydd. Gobeithial y llwyddid yn yr ymgais i gael trigolion Criccieth a'r cylch i arwyddo eu bod yn barod i ddilyn esiampl y Brenin yn ystod tymhor y rhyfel.

CEI NEWYDD A'R CYLCH.

Llythyr Llundain.

Coleg Dewi Sant.

Gwyl Dewi Sant, Llundain.

CORRIS.

\LLANBEDR-PONT-STEPHAN.

Lloffion.

PORTHMADOG.