Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
VFC HAUL.) CYNWYSIAD AM CHWBFROK. Y Mis. fanu Cynulleidfaol < Adolygiadau. S Gwaaanaethu yr Arglwydd Ag un j Ysgwydd. Ton—'GlanBeuno.' Perygl y Deyrnas. Credoau yr Eglwys ac -Athraw- iaethau y Testament Newydd. Ifan Bach y Felin. Y Tair Croes. O'r Arsyllfa. Geiriau Mwys. Dydd yr Ymostyngiad. Y Gongl Ddifyr. Wodion Eglwysig. Bwrdd y Golygydd.
Advertising
pEttL Y PLA ,¡ CYNWY8IAD AM JHWEPROB. Ieu in Glan Geirionydd. Brain* ) Cysegr. Esiamplau o Dduwiol- deb Hen Lyfr. Y Prif Scotlt I (gyda Darlun). Prisiau Ym- borth. Cystadleuaeth" r 1 Perl," 1915. Dywedyd CeI- wydd. Private Willie William* (gyda Uarlun). leitheg i'r lea- ( euctyd, Cynghorion Catwg Ddoeth Partbed lechyd M Einioes. MaesLlafuryrYagol Sul yu Nghymru. Barddon- iaeth. Myfi. Ffyddloniaid yr j Ysgol Sul. Dalen Dirwast. ) Awr y Plant a Phobun. Dowch i r America. Saith Khyfeddod y byd yn yr Has j Amserau. Prydyddu. Beth mae yr Eglwyn yn es Wneyd. Y Gystadleuaeth. Anrhydeddu Duw. Y Paganiaid Bach ■ Duon. Perlau y Perl. I Llithiau Priodol am y Mis.
CWRS Y RHYFEL.
CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. 8 ENILL A CHOLLI. Y FRWYDR FAWR YN FFRAINC. BECHGYN CYMRU AR FfDDlN. EGLURO PWYNTIAU TWYLL. SAFLE Y FPHAI A WRTHODW.YD. OAM A'R CYMRO. Wythnos bwysig yn hqnes y Rhyfel a fu yr wythnos ddiweddaf. Wythnos o onill) ac o golli mawr a phwysig a fu, a'r enill a'r colli yn gyfryw ag sydd yn rhwym I o ddylanwadu yn fawr ar gwrs y rhyfel yn fuan a yn hir. BRWYDR FAWR VERDWN. Fel mai Cwymp Erzerwm oedd testyn siarad pawb er's wythnoSl yn ol, Brwydr Fawr Verdwn yn Ffrainc sy'n tynu sylw'r byd yn awr. Dinas gaerog fawr yn Ffrainc, ymron ar y terfyndir rhwng Ffrainc ai Germani yw Verdwn, yn cael ei hamgylchu gan gylch o gaerau cedyrn ac o amddiffynfeydd mawrion o wyth i bym- thelg milltir oddiwrth y ddinas ei hun. Ymron yn yr un ystyr ag y mae y Dar- danelles yn allwedd i Gaercystenyn y gellir dweyd fod Verdwn yn allwedd i Paris-gyda hyn o wahaniaeth: un drws sydd i Gaercysteinyn, ac un agoriad i hwnw, sef y Dardanelles; tra un allan o ddau neu dri o. ddrysau rhwng Germani a Ffrainc yw Verdwn. Mae Syr John French ex's misoedd wedi cau a chloi drws y gogledd, aic mae'r Maeslywydd Haig yn awr yn cadw'r allwedd. Cloiodd y Maes- lywydd Sarrail er's deunaw mis yn ol ddrws Verdwn,t.a Joffre sy'n cadw'r all- wedd. Mae'r Germaniaid, er's deunaw mis, wedi bod yn ceisio tori clo Verdwn, ac wedi methu. Ymgais fawr o'r newydd 1 wneud hyny yw y brwydro ffyrnig sy'n cymeryd lie yno yn awr ac ar sydd eiaoes wedi costio iddi gynifer o'i milwyr goreu. I ddeall pwysigrwydd y lie, rhaid cofio fod Verdwn yn setfyll ar draws y ffyrdd a'r rheilffyrdd mawr sy'n rhedeg o Germani drwy ganol Ffrainc tua Paris. Tua deu- gain milltir i'r dwyrain y saif Metz sydd, er rhyfel 1870, yn eiddo Germani. Mae Metz yn ganolfan milwrol mawr. Drwy Metz y rhaid i holl fyddinoedd a chyfar- par Germani ddod, drwy'r drws deheuol, i Ffrainc. Rhwng Metz a, Verdwn y gorwedd y gwastadedd mawr a elwir y Wcwre, rhan o Ffrainc. Ceir cadwen hir o fynyddoedd uchel yn ffin ttr gwas- tadedd hwn. Tair ffordd fawr ac un rheil- ffordd a, geir yn arwain o Metz dros y gwastadedd a'r mynyddoedd hyn i galon Ffrainc. Drwy Verdwn y rheda'r unig reilffordd, a'r bwysicalf o'r tair ffordd. Mae Vprdwn yn greosffordd i ddwy ffordd fawr ac yn gyffordd i ddwy reilffordd. Mae y rheilffyrdd a'r ffyrdd in cydredeg i'r un cyfeåriad-y naill fel y dywedwyd o Ger- mani i ganol Ffrainc, a'r Hall gyda godre'r mynvddoedd uchel tua'r gogledd a'r de ar yr ochr bellaf oddiwrth Germani. Saif Verdwn yn gwylio'r bwlch mawr yn y mynydd-dii drwy yr hwn y rhed y rheil- ffordd a'r ffordd fawr o Germani, fel y gywlia Llanberis y Bwlch Mawr yn yr Eryri. Gwelir felly y rhaid enill Verdwn cyn y gall y Germaniaid gael ffordd rydd drwy'r bwlch i galon Ffraine. Wedi enill o honynt Verdwn bydd y ffyrdd a'r rheil- ffyrdd tua Paris, a tliua'r gogledd a'r de yn eu dwylaw. Unwaith y meddia,nallt y rheilffordd o'r gogledd i'r de peryglant holl safle Byddinoedd Ffrainc. AMCAN YR YMOSODIAD. Dywedir fod tri chwarter miliwn o Germaniaid yn cymeryd rhan yn yr ym- oaadiad mawr hwn. Amheua, rhai er hyny, ai tori trwodd er mwyn cyraedd Paris yw eu ha mean. Pe y medrent wneuthur hyny diamheu y byddent barod i aberthu mwy na'r tri chwarter miliwn milwyr sydd yn ymosod er mwyn enill Paris. Gael Ffrainc unwaith eto dan eu tra,ed, a thori asgwrn cefn grwthsafiad Prydain ar y tir. Ond mae amryw y-tyr- iaethau yn peri i awdurdodau milwrol amheu ai hyn yw eu gwir amcan. Mae Verdwn yn un o'r lleoedd cad- arnaf yn y byd heddyw. Bu'r Ffrancod, o dan gyfarwyddyd y Maeslywydd Sar- rail, am bymtheg mis yn trefnu a chryfhau amddiffynfeydd y lie, ac mae'r mynydd- dir yn rhoi mantais arbenig i'r amddi- Hynfa. Nid yn unig codwyd cylch mawr o gestyll cedyrn filltiroedd o'r tu allan i'r ddinas, ond manteisiwyd ar bob bryn, a chraig, a mynydd-dir i wneyd y He yn ym- arferol anmhosibl i'w enill. Saif llinell ar ol llinell o amddiffynfeydd o waith dyn yn manteisio ar waith natur, y naill y tu 01 i'r llall, yn y fath fodd fel po bellaf y treiddia'r gelyn i mewn, mwyaf oil fydd ei berygl a'i anhawsterau. rieblaw hyny gwyddis erbyn hyn fod y 1 Germaniaid eu hunain yn disgwyl, ac yn ddyfal parotoi i gyfarfod ag ymosiodiad ¡ mawr o eiddo'r Ffrancod a ni arnynt hwy, ac mai ceisio cymeryd y blaen arnom a gwneyd ein hymosodiad ni arnynt hwy yn anmhosibl y maent hwy yn awr. Mae llinell y brwydro yn ymetyn o lanau'r Sianel hyd gyffiniau yr Yswisdir, penter bum' can' milltir. Drwy ymocodiad mewn nelth mawr ar y Ffra.nccd mewn lie pwysig fel Verdwn, gobeithia'r Kaiser I gwneir ymosodiad o'n heiddo ni mewn rhan avail o'r llinell yn anmhosibl. Mae y Kaiser ei hun, meddir, gyda'r I fyddin sy'n ymosod yn Verdwn, a thy- wallta, waed blodeu ei Fyddin yn afonydd lies lliwio'r holl wlad. Dyma'r frwydr fwyaf, ffyrnicaf, a, phwysicaf a ymladdwyd yn Ffrainc er's misoedd laweir. TTawlia'r Germaniaid eu bod wedi cymeryd deng mil (10,000) o'r Ffrancod yn garcharoriou rhwng y Sul a nos Wener diweddaf. Os gwir hyn rhaid fod yr alanas o bobtu wedi bod yn ofnadwy. Cydnebydd y Ffrancod en bod hwy wedi ci.lio yn ol o dair i bum' miltir tua Verdwn, a bod un rhan o flaen- fyddin y G-ermaniaid yn awr o fewn tua saith neu wyth milltir i'r ddinas. Ond mae dwy ffaith bwysig yn ysgafnhau ychydig ar y pryder a deimlir yn y wlad hen. Y cyntaf yw nad yw Germani ei hun yn dweyd ei bed wedi cymeryd nemawr ddim yspail rhyfel, a dim un cannon mawr. Y llall yw fod y Maeslywyddion Ffrengig yn berffaith hyderus yn eu gallu i rwystro y gelyn i gario'r lie. ERZERUM A'l HEFFAITH. Mae enill y Rw&iaid yn Erzerum yn mwy na goi-bwyso ISwyddiant y Grerman- iaid yn nghymydogaeth Verdwn hyd yn hyn. Mae pwysigTwydd buddugoliaeth Ererum yn dod yn amlycach o'r naill ddydd i'r Hall. Ffodd rhan fawr o Fyddin Twrci oedd yn dal Erzerum tua'r gorllewin pan welodd nad oedd obaith cadw'r ddinas. Ond yr oedd y Rwsiaid wedi danfon byddinoedd eraill o'u heiddo o'r tu ol iddynt, ac erbyn hyn gwelir fod cylch mawr o Fyddinoedd Rwslaidd wedi oau yn ymarferol -ob ffordd ar hyd y rhai y gall Bvddin Erzerum encilio, ac ar hyd y rhai yn unig y gellir dwyn iddynt ad- gyfnerthion o'r tu allan. Disgwylir y bydd tua chwarter miliwn (250,000), neu efallai ragor o'r Tyrciaid wedi cael eu dal yn y fagl pan dynir rhwyd Rwsia i'r lan. BYDDIN GARDD EDEN. Newyddion da hefyd a geir o Fyddin Gardd Eden. Mae Byddin y Maes- lywydd Townshend yn dal ei thir yn Kut el Amara yn erbyn yob ymosodiad. Mae'r llifogydd mawr oedd v/edi gorlifo'r wlad rhwng Kut a' Bydcun y Maeslywydd Aylmæ: oedd ar y ffordd i gynorthwyo Townshend, yn treio a'r tir yn dechreu syohu. Mae digoii o fwyd a cliyfarpar c bob math gan Townshend, a Byddin Aylmer yn chwyddo mewn lliif ac mewn nerth o ddydd i ddydd drwy adgyfnerthion o r Iiidia a, manau eraill. Dywedir fod y Tyrciaid yn cydnabod bod Townshend a'i Fyddin yn anorchfygol, a soniant eisoes am gilio yn ol tua Bagdad. Mae y Rwsiaid liefyd yn dechreu tynu yn nes at Bagdad o gyfeiriad y de-ddwy- rain o Persia, Mae Byddin" Rwsia yn Erzerum, Byddin Rwsia ar gyffiniau Persia, a Byddin Gardd Eden, fel "tair troed trybedd," neu driongl mawr, a Bag- dad ei hun yn y canol a thua 150 milltir oddiwrth y tair Byddin. Prydera'r Twrc .Y heddyw fwy am Bagdad nag a wnai am Erzerum er's mis yn ol. Pan syrth Bag- dad bydd teyrnasiad y Twrc yn Asia wedi terfynu, holl obeithion y Kaiser yn Asia wedi aa,eleu siomi, a'r Aifft yn hollol ddiogel rhag unrhyw ymosodiad o eiddo na Thwrc na German. Os a phan yr unir y tair Byddin a nodwyd, bydd cwymp Caercystenyn yn rhwym o ddilyn. Os, eto, yn gydamserol a hyn y tar aw a Rwmainia o'n plaid, fel y mae yn awr yn debyg o wneyd, ac y symuda Sarrail ymlaen o Salonica, cauir y drw. draclrefn rhwng Germani a'r Balkans a daw dydd barn Bwlgaria a Thwrci yn Ewrop. AMERICA A GERMANI. Nid llai na'i siom yn Asia yw siom Germani yn America. Mae yr Arlywydd Wilson wedi rhoi ei droed i lawr yn fwy pendant a phenderfynol nag erioed yn erbyn nior-lofruddiaethau suddlongau Ger- mani. Gwendid yr Arlywydd yw ysgrif enu Ilyfchyrau yn lie rhoi ei dro'ed i lawr. Ond yn awr mae wedi dwevd mewll geiriau plaon a digamsyniol na clia Germani gario allan ei bwriad o ymosod mwyach o gw bI ar longau teithwyr nac yn ddirybudd ar longau masnaicli. Deil yn bend ant y gall Haugan masnach, yn unci a Deddf y Gwledydd, gario cyflegrau at amcanion a.mddiffyno^ ac na cha Germani ym- ddwyn at y cyfryw fel pe baent longau rhyfel. Mae. gwrthdarawiad rhwng Aiii- erica a Germani yn ymddaigos yn nes heddyw nag y bu erioed. STAMP, OS GWELWCH FOD YN DDA. 0 fewn y tair wythnos ddiweddaf yr wyf wedi derbyn llu aneiryf o lythyrau o bob sir yn Nghymru yn gofyn am wybod- aetli ynghylch y Ddeddf Gorfod a mater ion cysylltiedig a hi. Bu llu c bersonau o bedair sir yn ymweJed a mi er cael ym- gynghoriad peisonol. Hyd eithaf fy ngallu a'm gwybodaeth ceisiais aÜ b pawb naill ai trwy lythyr neu ymgom. Golygai hyny roddi heibio dros y cyfryw gyfnod fy nyledswyddau galwedigaethol. Nid oe& genyf na Ohymdeithas na Phwyllgor nac arall tu cefn i mi i ddwyn y draul. Gwaith hollol wirfoddo 1 oedd ac ydyw yr oil. Amlygais ar y cycliwyn y disgwylid i bawb oedd yn ysgrifenu ac yn disgwyl atebiad drwy'r post, i amgau 'stamped addressed envelope. Gwnaeth ll.awer, esgeulusodd eraill. Gan nad wyf wedi codi ceiniog dal ar neb am a wnaethum, gan fy mod yn rhai fy amaer a'm llafur i'w cyfarwyddo yn ol fy ngallu, yn sicr y lleiaf peth fedr gohebwyr wneyd yw talu cludiad atebion a ddai-foiiir iddynt. 0 ddiffvg hyny gor- fodwyd fi i bostio atebion mewn rhai am- gylchiadau heb eu stampio. Golyga hyny fod derbynydd y llythyr yn gorfod talu dwy geiniog am eegeuluso ohono ddanfon stamp ceiniog i gario'r ateb yn ol iddo. No ddigied neb o'r cyfryw wrthyf am gan- lyniadau eu hesgeulusdod hwy eu liunain. Y SAWL A WRTHODWYD. Cafwyd yn y Senedfl, yr wythnos ddi- weddaf, oleuni pellach ar y cwestiwn o safle y saw] a wrthodwyd eisoes gan y Fyddin. Mae nifer fawr o bersonau a wrthodwyd o'r 'blaen oherwydd afiechyd neu anghymwyster corfforol, wedi derbyn 0' fewu yr wythnos neu y pythefnos di- weddaf rybudd o'r newydd oddiwrth yr Awdurdodau Milwrol, yn eu galw i fyny drachefn. Gwnaeth y ddadl yn y Sellecld yr wythnos ddiweddaf yn hollol glir nad oedd hawl gan yr Awdurdodau Milwrol i wneuthur hyny. Dyma safle y cyfryw ddynion fel yr eglurwyd hi gan Syr John Simon, y diweddar Ysgrifenydd Cartrefol, ac mae'r Llywodraeth yn cydnabod fod darlleniad Syr John Simon o'r gyfraith yn gi/wir. 1. Ni ellir gorfodi neb a wrthodwyd gan y Fyddin ar oi Awst 14eg, 1915, i ymuno. Mae pob un o'r cyfryw yn rhydd o dan Ddeddf Gorfod. 2. Ni laid i neb o'r cyfryw fyned o dan archwiliad etc gan feddyg er mwyn cael ei ryddhau. -Mae yn rliydd. 3. Mae pawb a wrthodwyd (gwel 1 uchod) yn rhydd pa un bynag a oes gan- ddo dystysgrif ei fod wedi cael ei wrthod ai peidio. Ni raid iddo wrth dystysgrif o gwbl; eto da, er osgoi trafferth, fydd iddo gadw yn ofalus unrhyw dystysgrif o'r fath a gafodd. n, 4. Os boddlona neb fyned eilwaith o dan archwiliad y meddyg, er mwyn cael 'Armlet' neu arall, bydd hwnw yn goscd ei hunan drachefn yn nwylaw yr Awdur- dodau Milwrol; cyfrifir ef fel yn eynyg ei hun fel gwirfoddolwr o'r newydd, a gellir hawlio ei wasanaetli at unrhyw bwrpas milwrol. 5. Mae y neb a gynvgiodd enlistio, neu a atestiodd, i'r Territorials, ac a wrthod- wyd ar ol Awst 14eg, llynedd, mor rhvdd oto y Ddeddf a'r neb a wrthodwyd pan yn ceisio enlistio i'r Fyddin Reciaidd. 6. Nid oes gan y Recruiting Officer, mt neb arall. hawl i oenderfynu a cedd -ail gan y meddyg dros wrthod dyn i'r Fyddin. Nid ces angen i ddyn a gafodd ei wrthod Apelio at unrhyw Tribunal gan nad yw yn dod o da.n y Ddeddf. Os dygir cynghaws i w erbyn penderfvnir ei achos mewn Uys ustusiaid. 7. Mae y sawl a wrthodwyd ar ol Awst 14eg, llynedd, y'n rhydd. pa un bynag ai cyn ai ynte ar vl iddo atestio v gwrthod- wyd ef. 8. Nid oes hawl gan yr Awdurdodau Milwrol i newid y Ddeddf mewn modd vn y byd. 9. Er )iyn oil ymddengvs fod rhai swyddogion yn gyru Ffurflen Swvddf-gol ) (Form W. 3236) at rai ydynt yn rhydd oddiwrth y Ddeddf, yn galw arnynt re- portio eu hunain mewn lie ac ar adeg penodol i ymuno a'r Fyddin. Nid oes rym o gwbl yn y cyfryw rybudd os gwrth- odwyd y dyn yn ol yr eglurhadau uchod. Geill y neb or cyfryw a gaffo y fatb rybudd, hysbysu y Recruiting Officer fod hwnw wedi gwneyd camgymeriad. Dan- foned pob un a gaffo rybudd o dan y cyfryw amgylcliiadau, lythyr yn rhoi yr holl fanylion, at The Right Hon. H. J. Tennant, Under Secretary of State for War, War Office, London, S.W. Dan- fonecl hefyd gopi o'i lythyr i'w Aelod Sei: eddol, ac i Beriah Gwynfe. Evans, Caernarfon. DAU FIS 0 DDYDD GRAS. Dadleua rhai fod darpariaeth yn y Ddeddf yn Adran 3 (3) sydd yn estyn dydd gras am ddau fis ymhellach na'r dyddiad y gohirir gorfodaeth ar ddyn gan y Tribunal. Fel y gwyddis mae hawl gan y Tribunal i roi rhyddhad dros amser penodol i ymgeisydd. Gall yr oediad fod am unrhyw dymor a ddewiso'r Tribunal. Pan ddaw'r amser penodedig hwnw i 'fyny, tybir yn gyffredin fod dydd gras wedi terfynu. Ond dadleua rhai fod yr Adran a nodwyd yn estyn rhyddhad pob dyn a gaffo "dystysgrif dros dymor" am ddau fis ymhellach. Bwriadwyd yr Adran hon. pan y'i pasiwyd gyntaf, yn unig i alluogi gweithiwr a gaffai ei droi i ffwrdd o'i waith mewn gweithfa cyfarpar (munition works) neu'r cyffelyb, i gael dau fis o amser i chwilio am waith cyffelyb yn rhyw le arall. Ond dywedir fed geiriad yr Adran, cherwydd y brys gyda'r hwn y gwthiwyd y Ddeddf drwy'r Senedd, yn estyn y fraint or ddau fis gras yma i bawb a esgusodir dros dymor gan y Tribunal. Pwynt hollol newydd ydyw, ac nid wyf yn cymeryd arnaf i benderfynu a yw y de- hongliad a roddir uchod ar yr Adran yn gywir ai peidio. Os yw yn gywir bydd yn fantais fawr i anil un i gael amser i drefnu ei f us nes cyn ymuno. CAM A'R CYMRO. Gwna'r Awdurdodau Milwrol gam dybryd a'r Cymro uniaith drwy ddanfon iddynt ffurfleni yn yr Iaith Seisnig yn unig, a thrwy gyhoeddi hysbysleni yn yr hyn a ehiir yn Gymraeg, ond na fedr yr un Cymro eu dea]]. Y Parliamentary Recruiting Committee sydd yn gyfrifol am yr olaf. Cyhoeddwyd ganddynt yr wyth- nos ddiweddaf ddvyy hysbyslen bwysig iawn yn Gymraeg—meddent hwy. Ond mae'r Gymraeg ynddynt mor glogymog, ac mor anghywir, fel y mae yn anmhosibl heb gvmorth geiriadur, ac weithiau er cael cymorth geiriadnr, i ddeall pa beth a fwriedir ei ddweyd yn yr hysbyslen. Ffug-arddangosiad o ddysgeidiaeth ddofn yw petli felly. Yr hyn sydd ar y Cymro uniaith ei angen yw Cymraeg plaen ø y medr dyn cyffredin ei ddeall, ac nid rhvw gymhlethiad trwsgl o eiriau angliynefin, a'r rhai hyny yn ami wedi eu camgyfleu, neu wedi eu hargraffu yn anghywir. Ai nid 03d cymaint ag un o'r Aelodau Cym- reig a eiliv sylw at y cam hwn a Chenedl ac a Iaith y Cymry 1 GWNEWCT4 BOPETH YN GYMRAEG." Ynglyn a'r uchod dyddorol yw svlwi fod rhywun yn y Senedd yn galw sylw'r Awdurdodau at y ffaith fod Aelodau l gynrychioli y Llywodraeth wedi cael eu pcnodi ar rai o'r Llysoedd Lleol fydd yn gwrandaw Apeliadau o dan y Ddeddf, heb fod yr Aelodau Swvddogol hyny yn medru gair o Gymraeg. Engraifft- arall yw hyn o'r modd yr anwybvddi?~-ein Cenedl a'n Hiaith gan yr Awdurdodau. Canlyniad naturiol hyn fydd gwneyd cam dirfawr a l Cymry fydd yn Apelio.. Os ceisia Cymro, fel y gwna ugeiniau, osod ei achos gerbron y Llys yn Saesneg, ac ynlau heb fod yn hyddysg yn yr Iaith bono, nis gall wneyd chwareu feg a'r ffeithiau fydd ganddo. Os myn, ar y Haw arall, fel y ma.e ganddo hawl) i wneyd, ddadleu ei achoy yn Iaith ei Fam, ni fydd y Sais ar y Faiiic yn deall ei ddadl. Cyffelyb vw'r camwri a wneir a'r Cvmro drwy fod Ffurflen yr Apel yn gyfangwbl