Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
YR HAUL, t ( CYNWYSIAD AM MAI. Edward y Tangnefeddwr (gyd a < Darlun). Y Breuin. Hanes yr Eglwys—Dadleuon y XVIII. Ganrif. } Cof-nod am Mr. John Lumley, Pengarnddu (gyda Darlun). Eglwys Gadeiriol Bangor a'r Bibl Cymraeg, Gweinidog Ymneillduol a'r ) Z, Eglwys. j 0 Ruskin ar Afonydd a Glaciers. Rheithoriaid LJaIJ sad wrn, Môn. j TThlTT1 f'M 1 PI'IMWIMWIHgW—WHIWIHillWff ..Lit
Advertising
J'KHL y plant ( j CYNWYSIA.D AM MAI. Ne Guinea (gyciR. Darlun). David Victor Griffiths (Darlur^ Dadleuon Magi Jones. j Caneuon Plant y PERL. Beth mae'r Eglwys yn ei wneyd George Haydn Clark (Darlun). j Y Dyrchafael. T6n, Pentraeth. Hanes Sant Nicolas o Myra. Clywed y Gog (gyda Darlun). Deuddeg o Esgobion Ty Ddewi. Bwrdd y Gân. Rhai o Feirdd Cymru. Canlyniad Anufudd-dod Merch. Y Gystadleuaeth. Y Paganiaid Bach Duan. Perlau y PERL. Llithiau Priodol am y Mis | Barddoniaeth.
ANGLADD Y DIWEDDAR FRENINI…
ANGLADD Y DIWEDDAR FRENIN I IORWERTH VII. t. Y DEYRNAS MEWN GALAR. "I GORYMDAITH FAWREDDOG YN LLUND 'EFE A HUNODD GYDA'L DADAU.' Dyma'r dydd a hir gofir genym, a chanoedd bob eu geni a adgofir fod y mwyaf yn Israel wedi syrthio pan bu farw Iorwerth VII. Nodir Dafydd allan yn y Bibl fel gwr wrth fodd calon Duw, nid am ei fod yn ddibechod, ond ei fod wedi ymgais i gysegru ei holl dal- entau disglaer i wasanaeth ei genedl er go- goniant i Dduw. Mae angen yn dangos am- canion y dyn. Fe welwyd ar waith Dafydd yn cysegru ei holl eiddo i wasanaeth Duw, trwy gyfranu mor helaeth at y Demi taw ei amcan yn rhyfela a gelynion Israel oedd nid cyfoethogi ei hun, ond cael heddwch i Israel i ogoneddu y Goruchaf. Mae amcanion bywyd y Brenin Iorwerth VII. wedi dod yn fwy am- lwg ar ei farwolaeth nag yn ei fywyd, sef gwasanaethu ei deyrnas, a chadw hedd weh trwy yr holl fyd. Byddai llywiawdwyr yn y dyddiau gynt yn Ewrop yn ceisio diogelu eu teyrnasoedd trwy greu anghydfod rhwng eu gelynion. Am hwn, pan yn ceisio heddychu ei deyrnas ei hun a theyrnasoedd eraill, yr oedd ar yr un pryd yn ymgais i wneyd teyrn- aseedd eraill yn gyfeillgar a'u gilydd. Dyna ddigon o reswm ynddo ei hun dros waith holl deyrnasoedd y byd yn dangos eu cydymdeim- lad dwysaf ar ei farwolaeth, a thros benau coronog yr holl fyd yn dyfod i'w gladdedig- aeth. Credaf fod ei lwyddiant digyffelyb i'w briodoli i'r miloedd o weddiau offrymid beun- ydd drosto yn ei ddydd fel ein Teyrn. DIRGELWCH EI DDYLANWAD. Dywedai yr Athraw Mawr am i'r hwn oedd am fod yn fwyaf yn ein plith i fod yn was i bawb. Felly y bu Iorwerth VII. Er ei fod ef y Brenin daearol mwyaf urddasol yn rhin- wedd ei enedigaeth, cysegrodd ei holl dalent- au disglaer i wasanaethu ei ddeiliaid a'i holl fryd yn ddiarbed, gan gyflawni pob peth fel dyledswydd yn ei ddydd priodol. Nid defnyddio ei safle urddasol fel Brenin i ymbleseru wnaeth, ond ymgais i achosi eraill i gael y cysur mwyaf yn eu bywyd. Tra byddai gwleidyddwyr ar ein goreu yn ceisio cynllunio y modd i ddyrchafu dylanwad eu pleidiau, yr oedd ef a'i holl egni yn ceisio cadw heddweh rhwng y gwahanol bleidiau gwleidyddol yn y deyrnas er mwyn.daioni a lleshad y cyhoedd. Nis gellir disgwyl mwy ar law goreuon ein milwyr, ar for a thir, na bod bob amser yn barod i ryfel. Rhoddai ein Brenin Iorwerth VII. bob cefnogaeth iddynt, tra yr oedd ef ar yr un pryd yn treulio nos a dydd i drefnu'r moddion mwyaf effeithiol i heddychu teyrnasoedd y byd, trwy ei eirijau doeth a charedig, a thrwy ei hunan- ymwadiad, ie, fel na byddai byth alwad ar y fyddin neu'r llynges i ryfela os yn bosibl. Nid oedd ef yn galw ar un o'i ddeiliaid i ddangos mwy o hunan-ymwadiad nag oedd yn ddangos ei hun. Yr oedd wedi etifeddu y nod uwchaf yn bosibl i'r mwyaf uchel-geisiol ei ddych'mygu. Yr oedd y gwleidyddwr mwyaf ymhlith gwladweinwyr, ac yn Frenin ymhlith brenhinoedd. Yr oedd brenhinoedd a thywysogion yn dyheu am wybod ei farn, a rhoddai ei farn iddynt yn ddiragfarn. Cael ei gydnabod ganddo oedd y wobr ddaearol fwyaf urddasol ar y ddaear i'r dewraf neu'r dysgedicaf. Anrhydeddai y gweithiwr tlawd am ei ddewrder a'i hunan-ymwadiad yn ceisio achub bywyd ei gyd-ddynion, fel y cadfridog mwyaf urddasol am ei wasanaeth i'w deyrnas. Yr oedd wedi ei feithrin o'i febyd i ffurfio barn gywir am bob gradd, ac yn ystod ei ddydd, wedi dyfod i gyfarfyddiad a phrif ddynion y byd. Felly nid hawdd y twyllid neu y dallid y Brenin. Ystyriai pawb yn urddas i'w wasanaethu yn y cylchoedd uwch- af, a rhoddai y penaf o'r bobl eu holl ym- ddiried ynddo i benderfynu y materion mwyaf dyrus. Fel yr oedd ei ddylanwad yn cynyddu, a'r wybodaeth am addfedrwydd ei farn yn lledaenu, yr oedd yr apel- iadau at ei orsedd am gyngor yn lluosogi. Bob dydd deuai y llythyr- gludydd yn Ilwythog at Iorwerth VIL, lie bynag y byddai, a llythyrau yn llawn o faterion pwysig yn gofyn am ei farn aeddfed gyda brys. Darllenai, yna meddyliai pa fodd i benderfynu un mater, a chadarnhau y llall. Rhaid oedd iddo gadw ei gyfrinach mewn dyrus amgylchiadau, gan roddi barn I gywir yn ddigynorthwy ar unwaith mewn geiriau cymwys. Rhaid oedd edrych i'r dyfodol er mwyn diogelwch y deyrnas yn hytrach na boddloni plaid neu bersonau. Rhaid oedd iddo ef. wylio tra yr oedd ein ceidwaid yn cysgu er mwyn ein diogelu. Rhaid ymbwyllo, pan fyddai eraill yn gor- frysio, er mwyn tawelu y storm fyddai yn ddigon i losgi'r byd. Rhaid iddo ef deyrnasu heb ymddangos ei fod yn llywodraethu. Dyna waith ein Brenin, ac y mae heddwch byd heddyw yn brawf o'r modd y darfu iddo ei gyflawni. Hauodd hadau hedd cyn myn'd i'w fedd, ac yr ydym ninau yn mwynhau ffrwyth ei Ilafur heddyw. Ychydig wyddai y werin am ei waith caled, a'i orchestion, am fod yn rhaid iddo fel ein teyrn i ymguddio tu hwnt i'r lien yn ei balas er mwyn cyflawni ei ddyledswyddau pwysicaf, a defnyddio pob cyneddf oedd ganddo ar ei oreu pan y tybiai llawer mae mwynhau ei hun oedd. Ni feddyliai neb fod eisiau arbed y Brenin, ac nid arbedai yntau ei hun. Nid oedd iddo ef orphwysdra yn ei henaint. Pan ar ei eithaf mewn gwendid corfforol, yn gohebu a gwledydd tramor trosom, methai ein seneddwyr a chytuno pa fodd i drefnu y modd goreu i ddeddfu ato ef y troent am gyngor a chynorthwy. Fel tad tosturiol yn ei henaint a'i fethiant, gwrandawai ar eu llais yn galw arno, er ein mwyn ni. Ac er ein mwyn ni, daliodd hyd dranc angeu i gyflawni ei waith. Fel y dymunai ein gweled ni, ei ddeiliaid distadlaf, yn cyflawni ein dyled- swyddau mewn dinodedd, felly y cysegrodd ei dalentau a'i urddas nwchaf i wasanaethu ei genedl yn ddirwgnach. EI FARWOLAETH. Mae marwolaeth Iorwerth VII. yn brawf o unoliaeth dynoliaeth. Er nad oedd ond dyn, fel un o honom ninau, eto gan ei fod y fath dorch gysylltiol rhwng pob cyflwr a gradd ymhlith ei ddeiliaid trwy ei Ymerodraeth eang, a thrwy holl deyrnasoedd y ddaear a phob llwyth ac iaith, wele waith ei anadl yn myned o'i ffroenau yn syfrdanu'r holl ddyn- olryw 4eth yr holl fyd mewn galar Mae hyn yn ddatguddiad i ni. Mae yn cadarnhau y gwirionedd ein bod oil wedi ein gwneyd o'r un gwaed dynol. Soniai Crist am danom fel deiliaid Teyrnas, ar yr hon y mae Ef ei Hun yn Frenin. Cysgod o'r deyrnas hono y pob teyrnas ddaearol. Mae dylanwad un person fel lorwerth VII. i alw sylw myrdd iynau o bersonau ato ei hun, fel heddyw, yn brawf o allu yr Un Crist i dynu pawb ato Ei Hun. Mae claddedigaeth y Brenin heddyw yn golygu y gynhadledd fwyaf lluosog o'r fath yn hanes y byd. Daeth holl benau coronog y byd yr awr hon, yn bersonol, i dalu gwarogaeth o barch iddo, neu eawsant eu cynrychioli gan eu hurddolion penaf. Onid yw dylanwad un person fel Iorwerth VII. yn brawf fod dynolryw wedi eu creu i fod yn ddeiliaid un Crist 1 T. MEREDITH WILLIAMS.
jY DEYRNAS MEWN GALAR.
j Y DEYRNAS MEWN GALAR. GORYMDAITII FAWREDDOG YN LLUNDAIN. NAW 0 FRENHINOEDD YN CYMERYD RHAN. Y GWASANAET.FI OLAF YN EGLWYS ST. SIOR, WINDSOR. Oddiar y boreu Sadwrn prudd hwnw, dair wythnos yn ol pan ddeffroddd y byd i glywed y newydd difrifol am farwolaeth y Brenin xorvvertli VII., nid oedd unrhyw awgrymiad swyddogol yn angenrheidiol i beri i bobl arddangos arwyddion o alar. Er fod yr haul yn tywynu yn siriol foreu Gwener diweddaf, eto yr oedd pob calon yn athrist a dolurus, ac erioed ni welwyd y fath olygfa o deyrngarwch a chariad mewn unrhyw wlad—milldiroedd ar fill- diroedd o bobl yn disgwyl yn amynedd- g-ar am gipolwg o'r oerbyd a, gludai wedd- illion marwol eu penadur anwyl,—Ior- werth y Tangnefeddwr. Cynrychiolid pob gradd a, dosbarth, ac yr oedd pawb yn gydradd y diwrnod hwnw, a miloedd wedi cymeryd eu safleoedd yn yr heolydd y noson flaenorol? a pharhau yno hyd bryd- nawn Gwener.
CYCHWYNIAD YR ORYMDAITH.
CYCHWYNIAD YR ORYMDAITH. Ychydig wedi naw o'r gloch y boreu, ynghanol distawrwydd y tyrfaoedd en- fawr, aeth y rhan gyntaf o'r orymdaith allan o gynt.eddau Palas Buckingham, gan gerddecl yn araf drwy Birdcage Walk i Westminster. Tynodd y dynion a linell- ent y ffordd eu hetiau tra yr elai y Brenin Sior, y Frenhines Mary, y Fam-Fren- hines Alexandra, Due Connaught, &c., heibio yn nghyfeiriad Neuadd Westmins- ter. Pan ddarawodd yr awrlais ddeg o'r gloch, clywid 68 o ergydion y magnelau yn cofnodi oed y diweddar deyrn, a gosod- wyd yr arch ar y fagnel-gerbyd, gan ei gorchuddio a'r pall a, ddefnyddiwyd yn angladd y Frenhines Victoria, ac yna cychwynodd yr orymdaith hir ar y daith drwy Lundain. Anmhosibl rhoddi un- rhyw ddisgrifiad o wychder a mawredd yr orymdaith, ond cyhoeddir rhestr o'r rhai mwyaf blaenllaw gymerasant ran yn yr orymdaith angladdol odidocaf a welwyd erioed yn y deyrnas.
MYNEDIAD YR ORYMDAITH DRWY…
MYNEDIAD YR ORYMDAITH DRWY YR HEOLYDD. Yr oedd yr heolydd ar hyd y daith o Neuadd Westminster i Paddington dan ofal miloedd o filwyr a. heddgeidwaid, a bodolai y trefnusrwydd a'r distawrwydd mwyaf, er fod y dirwasgiad mewn rhai manau yn orlethol, a llawer yn llewygu dan effeithiau y gwres ange,rddol. Blaen- orid yr orymdaith gan gatrodau o filwyr, yn cael eu dilyn gan ganoedd o swyddog- ion yn cynrychioli pob g-wlad wareidd- iedig, ac yr oedd yr olygfa yn un na anghofir byth gan y rhai a'i gwelsant. Ar 01 y magnel-gerbyd, yr oedd yr urddas- olion canlynol ar eu meirch, yn cael eu dilyn gan eu gwahanol swyddogion Due Connaught Y BRENIN. Ymerawdwr Germani. Brenhinoedd Norway, Yspaen, a'r Hellenes. Brehinoedd Bwlgaria, Deumarc, a Portugal. Brenin Belgium, Tywysog Etifeddol yr Ymherodraeth Ottomanaidd, a'r Archdduc Ferdinand o Awstria. Y Tywysog Fushmi, Yr Uehel Dduc Michael Alexandrovich o Rwsia, a'r Due Aosta. Y Tywysog Rupprect o Bavaria, Due Sparta, a Thywysog Coronog Roumania. Y Tywysog Henry o'r Netherlands, Due Albrecht o Wurtemburg, a Thywysog Servia. Y Tywysog Henry o Prwsia, Uchel Dduc Hesse, ac Uchel Dduc Meeklenburg-Sfcrelitz. Y Tywysog Sior o Sacsony, Due Saxe- Coburg, a Thywysog Waldeck a Pyrmont. Y Tywysog Mohammed Ali o'r Aipht, y Tywysog Tsailsa o China, a'r Tywysog Siarl o Sweden. Y Tywysog Albert o Schleswig-Holstein, y Tywysog Arthur o Connaught, a'r Tywysog Christian o Schleswig-Holstein. Due Fife, y Tywysog Sior o Cumberland, y Tywysog Alexander o Battenburg. Y Tywysog Alexander o Teck, Due Teck, a'r Tywysog Francis o Teck. Y Tywysog Maxmilan o Baden, y Tywysog Andrew o Groeg, a'r Uchel Dduc Michael Mikhailovich. Y Tywysog Phillip o Saxe-Coburg, y Tyw- ysog Danilo o Montenegro, a'r Tywysog Christopher o Groeg. Uchel Dduc Macklenburg-Strelifcz, Due d'Alencon, a'r Comte d'Eu. Y Tywysog Perre d'Orleans,,Duc Vendome, a'r Tywysog Louis d'Orleans. Y Tywysog Bovaradej o Siam, y Tywysog Leopold o Coburg, a'r Tywysog Wolrad o Waldeck. Yn dilyn yr oedd cerbydau yn cynwys y rhai canlynol CERBYD CYNTAF.-Her Majesty Queen Alexandra; Her Imperial Majesty the Empress Marie Feodorova of Russia; Her Royal Highness the Princess Royal; Her Royal Highness the Princess Victoria. AIL GERBYD.—Her Majesty Queen Mary Her Majesty the Queen of Norway His Royal Highness the Duke of Cornwall; Her Royal Highness the Princess Mary. TRYDYDD CERBYD.—Her Royal Highness the Princess Christian of Schleawig-Holstein Her Royal Highness the Princess Louise (Duchess of Argyll); Her Royal Highness the Princess Henry of Battenberg; Her Royal Highness the Duchess, of Connaught PEDWERYDD CERBYD.—Her Royal Highness the Duchess of Albany; Her Royal Highness the Princess Patricia of Connaught Her Royal Highness the Princess Andrew of Greece; Her Grand Ducal Highness the Princess Louis of Battenberg. PUMED CERBYD.—Her Highness the Princess Alexandra; Her Highness the Princess Maud Her Highness the Princess Victoria of Schleswig-Holstein Her Highness the Prin- cess Marie Louise of Schleswig-Holstein. CHWECHED CERBYD.—Her Serene Highness the Duchess of Teck; Her Highness the Prin- cess Louise of Battenberg His Royal High- ness the Prince Albert His Royal Highness the Prince Henry His Royal Highness Prince George of Cumberland. SEITHFED CERBYD.—His Imperial Highness Prince Tsai-tao of China Lieutenant-general Lord Li Ching-Mai; General Ha Han-Chang; Major-general G. F. Browne. WYTHFED CERBYD.—His Excellency Hon. Theodore Roosevelt His Excellency M. S. Pichon His Excellency Sanad Khan Montaz- os-Saltaneh. NAWFED CERBTD. Right Hon. Lord Strathcona and Mount Royal Right Hon. Sir George Houstoun Reid Hon. William Hall Jones. DEGFED CERBYD.—(Suite of Her Majesty Queen Alexandra) The Mistress of the Robes The Lady-in-Waiting The Woman of the Bedchamber; Maid of Honour. UNFED AR DDEG CERBYD.—(Suite of Her Majesty Queen Mary); The Lady-in-Waiting The Woman of the Bedchamber .,Suite of His Majesty King George) The Lord-in- Waiting. Y DDEUDDEGFED CBRBYD.—Lord Knollys Lord Suffield General Sir Dighton Probyn Major-general Sir Stanley Clarke State Li,veries and Dressings. Yr oedd pob man dichonadwy wedi ei feddianu gan dyrfaoedd oriau lawer cyn yr amser penodedig i'r orymdaith gychwyn, ac fel y deuai yr orymdaith yn arafaidd at y gwahanol fanau lie y disgwyliai y canoedd o filoedd o edrychwyr, cyfeiriai golygon pawb i'r un cyfeiriad, a meddianwyd y tyrfaoedd aruthrol gan deimladau o alar a chydym- deimlad, ac anghofiai pawb eu trafferthion a'u anghysur eu hunain yn y sefyllfaoedd cyfyng yr oeddynt ynddynt. Bu raid cludo allan ganoedd o rai lewygasant mewn canlyn- iad i'r tyndra a'r gwres, ac yr oedd yr awdur- Idodau wedi trefnu yn helaeth ar gyfer di- gwyddiad o'r fath. Dywedir fod dros bym- theg mil o achosion o lewygfeydd, damwein- iau i aelodau, &c., wedi bod dan ofal y St. John Ambulance Corps yn unig. Gwerthid dwfr am geiniog y glasiad, a chludid poteli o smelling salts, y rhai fuont o wasanaeth dir- fawr. Yr oedd gwres yr haul yn 125 o radd- au yn yr awyr-agored, ac effeithiodd yn ni- weidiol ar lawer.
Y FRENHINES ALEXANDRA.
Y FRENHINES ALEXANDRA. Ar hyd yr holl daith, yr oedd yn amlwg mai y Frenbines Alexandra oedd prif wrth- ddrych y tyrfaoedd, gan ei bod wedi enill lie dwfn yn nghalonau deiliaid Prydain oddiar pan ddaeth yma, ac yr ymbriododd a'r teyrn ymadawedig 47 mlynedd yn ol. Mae wedi bod yn esiampl ardderchog o'r hyn ddylai gwraig a mam fod, a bob amser yn barod i gynortbwyo pawb mewn angenoctyd a thrallod. Heddyw, treiglai dagrau i lawr gruddiau llawer un wrth ei gweled wedi ei hamddifadu o'i phriod, ac er na wnaed un- rhyw arddangosiadau, eto yr oedd calonau pawb yn cydymdeimlo â hi yn ei thrallod dwfn, a chafodd y rhan fwyaf o'r edrychwyr y fraint o weled ei gwyneb gwelw tra yn myned heibio yn ei cherbyd.
CYRAEDD GORSAF PADDINGTON.
CYRAEDD GORSAF PADDINGTON. Aeth yr orymdaith yn arafaidd drwy yr heolydd nes cyraedd gorsaf y rheilffordd yn Paddington am ddeng munyd i ddeuddeg o'r gloch. Wedi i'r teulu brenhinol ddisgyn o'u cerbydau, gwnaethant eu ffordd ar fanllawr Gorsaf Paddington, yr hon oedd wedi ei gwisgo yn wych, a chyfeiriasant at y tren brenhinol oedd wedi ei drefnu i'w cludo i orsaf Windsor. Yn yr orsaf, arweiniwyd y Fam-Frenhines a'i mherch i'r salwn, yn mha un yr oedd arch y Brenin Edward eisioes wedi cael ei rhoddi. Cymerodd y galarwyr eu seddau yn union a rhyw dri munyd cyn haner dydd, cychwynodd y tren am Windsor, tra yr oedd y seindyrf yn chwareu y Funeral March.' Wedi i'r tren fyned yn mlaen tua Windsor, ceid arwyddion digamsyniol ar bob llaw o'r galar cyffredinol oedd yn ffynu trwy y wlad; a chaed yr unrhyw arwyddion o warogaeth pan gyrhaeddwyd i Windsor. Claddwyd llawer teyrn yn Windsor, ond ni arddangoswyd y fath wychder mewn cysyllt- iad ag un o honynt.
Y GWASANAETH OLAF.
Y GWASANAETH OLAF. Pan gyrhaeddwyd i Gapel St. George, yr oedd y He yn Hawn o flodau. Yr oedd yr es- gobion, gweinidogion y weinyddiaeth, a chyn- weinidogion, eadfridogion, barnwyr, rhaglaw- iaid, maerod, a swyddogion eraill, yn eu lleoedd ar feingciau yr ochrau. Yn fuan wed'yn daeth yr orymdaith angladdol i mewn, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Archesgob Caergaint, Archesgob Caerefrog, ac urddasolion Eglwysig ereill. Chwareu- wyd darnau o gerddoriaeth Croft ar ddechreu y gwasanaeth, a chafodd Salm xc.— 'Ti, Ar- glwydd, fuost yn breswylfa i ni yn mhob cen- edlaeth-ei chor-ganu. Wedi hyny darllen- wyd rhanau o 1 Cor. xv. Yn ystod y cor- ganu a darllen y llithoedd safai y Frenhines Alexandra ond pan symudwyd yr insignia oddi ar yr arch, plygodd ar ei gliniau mewn gweddi. Cododd ar ei thraed pan ddechreu- odd y cor gor-ganu cerddoriaeth o waith Handet- I His body is buried in peace, but his name liveth evermore.' A thra yr oedd y geiriau hyny yn Job xiv. yn cael eu darllen, Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul. Fel blodeuyn y daw allan, ac y torir ef ymaith ac efe a gilia fel cysgod, ac ni saif,' gosodwyd yr arch yn y bedd. Trodd y Frenhines Alexandra i weddio, a'r Brenin George wrth ei hochr. Dygwyd y gwasan- aeth i derfyniad trwy ganu yr emyn, Now the labourer's task is o'er,' ar gerddoriaeth Beethoven, a pbasiodd y galarwyr brenhinol heibio y bedd agored, gan fyned i Gastell Windsor.
- YMWELIAD A'R BEDD.
YMWELIAD A'R BEDD. Gwedi gorphen o'r gwasanaeth angladdol, aeth y galarwyr Brenhinol yn ol i Gastell Windsor. Yn mheu ysbaid aeth y Brenin Sior, y Frenhines Mary, y Fam-Frenhines, y Brenin Manoel, y Frenhines Maud a'r Dyw- ysoges Victoria i weled y pleth-dorchau. Yna, aetbant i lawr i'r ddaear-gell lie gorwedd yr arch ar fwrdd o faen yn y canol. Arosh isant yno am beth ainser, a gosododd y Fam-Fren- hines bleth-dorch dlws o liliod gwynion ar yr arch. Yr oedd pleth-dorchau yn ogystal gyda'r Ymberodres Marie a'r Dywysoges Victoria. Am chwarter wedi pump cychwyn- (Parhad ar tudalen 5).