Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

"Hanes Saul" i'r Plant.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

"Hanes Saul" i'r Plant. [MAES LLAFUR ESGOBAETH BANGOR 1910—11]. f IV.—TRECHU'R AMMONIAID. 1. Pan ranwyd gwlad Canaan rhwng y deuddeg llwyth, cafodd Manasseh, Gad, a Reuben ranau ar yr ochr ddwyreiniol i'r Iorddonen. I'r dwyrain eto i'r ddau Jwyth olaf, Gad a Reuben yr oedd yr Ammoniaid yn byw. Disgynyddion i Ammon un o feibion Lot ydoedd y rhai hyn. Pobl wyllt a rhyfel- gar oeddynt yn crwydro o amgylch gan yspeilio. Yn amser y Barnwyr buont yn gwasgu ar yr Israeliaid hyd nes y gorchfyg wyd hwy gan Jephthah. 2. Yr amser yma yr oedd yr Israeliaid eto yn ddioddef oddi wrthynt a dysgwn mai eisieu un i'w harwain yn erbyn Nahas, brenin yr Ammoniaid, oedd un o resynau y bobl dros ofyn am frenin. 3. Ymhen rhyw fis ar ol i Saul gael ei ddewis yn Mispah, yr oedd Nahas wrthi eto yn blino yr Israeliaid. Gwersyllodd yn erbyn Jabes yn Gilead, dinas yn Ngogledd Gad. (Rhoddid yr. enw Gilead i Manasseh a Gad gyda'u gilydd). Yr oedd pobl Jabes gymaint o'i ofn, fel y gofynasant iddo ddyfod i gytundeb a hwy a byddai iddynt ei wasan- aethu ef. 4. Atebodd Nahas y deuai i gytundeb a hwy ar un amod. Byddai raid iddyot fodd- loni iddo dynu ymaith lygad de pob un o'r dynion. Ar ol colli y llygad de ni fedrent ryfela, achos byddai y tarianau a garient yn rhwystro iddynt weled a'r llygad chwith. Gofynodd henuriaid Jabes am saith niwrnod i ystyried beth i'w wneyd. Heb golli amser anfonwyd rhai i Gibeah i ddweyd yr hanes wrth Saul. 5. Yr oedd Saul wedi bod yn aredig. Wrth ddyfod gartref o'r maes clywai swn v/ylo. Gofynodd beth oedd yr achos, a dywedwyd wrtbo y newydd drwg ojabes. Ar unwaith disgynodd yspryd yr Arglwydd ar Saul. Lladdodd yr ychain yr oedd yn eu arwain a thorodd hwy yn ddarnau. Yna anfonodd rai arfrys i bob cwr o'r wlad gyda'r darnau a neges oddi wrtho, y byddai iddo wneyd yr un fath ag ychain pob un na ddeuai ar ei ol ef a Samuel, I 6. Pan ddaeth neges y Brenin a'r Prophwyd i'r bobl daeth ofn Duw ac ufuddhasant fel un gwr. Daethant ynghyd i Bezec. Pan gyfrif- wyd hwy yr oedd yno 300,000 o wyr o Israel a 30,000 o Judah. 7. Yr oedd Bezec union] gyferbyn a Jabes, ond yr ochr arall i'r lorddonen. hyny yw, i'r gorllewin. Yr oedd 7 milltir o Bezec i'r Iorddonen a thua'r un faint o'r Iorddonen i Jabes, yn gwneyd taith diwrnod ysgafn i Saul a'i fyddin. 8. Anfonwyd y gwyr a ddaeth a'r newydd drwg yn ol i Jabes gyda'r newydd da y byddai help yn cyrhaedd yno erbyn gwresogi o'r haul y diwrnod wedyn. Llanwyd y ddinas a llawenydd pan glywyd y neges. Ond er mwyn gwneyd i'r Ammoniaid gredu nad ganddynt obaith am help anfonodd gwyr Jabes atynt, gan ddweyd, Y fory deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oil a welwch yn dda.' 9. Er hyn yn gynar iawn y diwrnod wed'yn yr oedd Saul a'r fyddin wedi cyrhaedd. Rhan- wyd y fyddin yn dair rhan i gau o amgylch yr Ammoriaid. Yna yn ngwyliadwriaeth y bore,' hyny yw, rywbryd rhwng dau o'r gloch a chodiad yr haul, syrthiodd yr Israeliaid ar yr Ammoriaid. Parhaodd y lladdfa hyd yn agos i haner y dydd, a'r Ammoriaid a adawyd heb eu lladd a wasgarwyd yn Ilwyr. 10. Fel y gellid disgwyl yr oedd yr Israel- iaid yn falch iawn o'u brenin oedd wedi eu harwain i fath fuddugoliaeth. Cofiwyd am y rhai oedd wedi gwrthod ei gydnabod (gwers iii.), a galwodd rhai am eu lladd. Ond ni fynai Saul hyny nid oedd dim i roddi cwmwl ar y dydd. 11. Ar wahoddiad Samuel aethant i gyd i Gilgal, ac yno ail-ddewiswyd Saul yn frenin. Yna offrymodd y brenin a'r bobl offrymau o ddiolch i'r Arglwydd am y fuddugoliaeth ac am Ei fendith ar y frenhiniaeth. 12. Yn ddiweddaf, cyn iddynt ymadael, mae Samuel yn ffarwelio a'r bobl. Mae swydd y y Barnwr yn awr yn gorffen, a mae'r genedl o hyn allan i ddilyn y Brenin. Rhybuddiodd y bobl i barhau yn ffyddlon i Dduw, ac yna fe fyddai Duw gyda hwy a'u brenin. Er ei fod yn rhoddi ei swydd i fyny, ni fyddai iddo beidio parhau i weddio drostynt. ADOLYGIAD. Pwy oedd yr Ammoriaid ? Plant Ammon, mab Lot, oedd yr Ammoriaid. Ymha Ie yr oeddynt yn byw ? Yr oedd yr Ammoriaid yn byw i'r dwyrain o Wlad Canaan. A oedd yr Ammoriaid a'r Israeliaid yn gyfeillion Byddai yr Ammoriaid yn ami yn ymosod ar yr Israeliaid ac yn gwasgu yn drwm arnynt. Pwy oedd Nahas? Nahas oedd frenin yr Ammoriaid. Pa beth a wnaeth efe? Aeth Nahas a'i fyddin i warchae Jabes Gilead. Pa beth a ofynodd pobl Jabes ? Gofynodd pobl Jabes i Nahas ddyfod i gytundeb a hwy. Pa ateb a roddodd Nahas? Atebodd Na- hal y byddai raid iddo gael tynu llygad de pob un o'r dynion i ffwrdd. Pan glywsant yr amod beth wnaeth y bob11 Gofynodd prif ddynion Jabes am saith diwr- nod i ystyried y mater a gyrasant i ddweyd wrth yr Israeliaid eraill. I ba le y cyrhaeddodd y neges ? Daeth yr hanes i Gibeah, lie yr oedd Saul. yn byw. Ymha le yr oedd Saul Yr oedd Saul yn dyfod o'r maes wedi bod yn aredig. Pan glywodd y newydd beth a wnaeth Saul 1 Lladdodd Saul y ddau ych yr oedd yn arwain a thorodd hwy yn ddarnau. Pa beth wnaeth efe a'r darnau ? Anfonodd y darnau i bob cfar o'r wlad gyda neges y gwnai yr un fath i ychain pob un na ddeuai i achub Jabes. A atebodd y bobl i'r neges ? Daeth y bobl fel un gwr at Saul a Samuel yn Besec. Pa neges a anfonwyd i Jabes? Anfonodd Saul i ddweyd y byddai help yn cyrhaedd Jabes yn gynar y diwrnod wed'yn. A glywodd yr Ammoniaid fod help yn dyfod i bobl Jabes ? Gwnaeth pobl Jabes i'r Ammoniaid feddwl nad oedd ganddynt obaith am help trwy anfon i ddweyd y deuent allan y diwrnod wed'yn, ac y ca'ent wneyd fel y mynent a hwy. Beth gymerodd le y diwrnod wed'yn ? Cyn i'r haul godi, syrthiodd Saul a'i fyddin ar yr Ammoniaid. Sut y trodd y frwydr allan LladdlVyd yr Ammoniaid a lladdfa fawr, a'r rhai na ladd- wyd a wasgarwyd. Pa fodd y teimlai yr Israeliaid ? Teim- lai yr Israeliaid yn falch iawn o'u brenin. Beth oedd ar rai o honynt eisieu ei wneyd ? Yr oedd rhai o honynt eisieu lladd y gwyr oedd wedi gwrthod cydnabod Saul yn frenin, ond rhwystrodd Saul hwy. I ba le yr aeth yr Israeliaid ? Ar wahodd- iad Samuel, aeth yr Israeliaid i gyd i Gilgal. Beth gymerodd le yno Yn Gilgal ail- ddewiswyd Saul yn frenin. Beth arall ? Offrymwyd aberth o ddiolch i'r Arglwydd am ei fuddugoliaeth a'i fendith ar y brenin. Pa araith fawr a wnaed yn Gilgal? Yn Gilgal gwnaeth Samuel ei araeth ffarwel i'r bobl. Enwch ryw wersi i ni oddiwrth yr hanes. 1. Cofiwn ddiolch i Dduw ar ol derbyn bendith yn gystal ag am weddio am dani cyn ei chael. 2. Y bobl sydd yn cofio Duw, ydyw y bobl sydd yn cael eu cofio gan Dduw. (Araith Samuel). Llangian, Pwllheli. J. WHELDON GRIFFITH. Mai 13eg.

"Hen Wlad fy Nhadau."

Deoniaeth Arllechwedd.

Tref ar Dan.

[No title]

Rhestr o Lysenwau Lleoedd.

Y Corned.

RheilfforddBeddgelert a Phorthmadog.

IFfrwydrad Dinystriol Mewn…

LLUNDAIN.

PENRHYNDEUDRAETH.

ABERYSTWYTH.

Yn Colli Mewn Pwysau,

RHYMNI.

LLANBERIS.

LLANBEDROG.

[No title]