Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
44 DYDDIAU WYLOFAIN A GALAR."
44 DYDDIAU WYLOFAIN A GALAR." FEL yna y desgrifir y galar am y mwyaf o C, In blant yr Hen Destament. Ac y mae hanes- iaeth heddyw yn ail-adrodd ei hun yn y galar am y Brenhin Edward. Yn lie lleihau, cyfodi wna'r llallw yn ddyddiol. Mae pobpeth yn y wlad a byd masnach wedi ei barlysu.' Dyna ddarllenasom mewn llythyr o bell, a dyna ddywedwyd gan gymmydog: prawf o gyffredinolrwydd y teimlad. Yn ystod yr wythnos, ei goffadwriaeth yw'r oil. Foreu dydd Iau, eyhoeddwyd adroddiad swyddogol y meddygon am ei afiechyd. An- wyd a mygni wedi cerdded i lawr nes methu -anadlu, ac felly rwystro gweithrediad y galon, a'i cymmerodd ef ymaith. Awgryma y meddygon i'w benderfyniad di-ildio i lynu wrth ei waith brofi'n rhwystr i achubiaeth ei fywyd. Eithr dywedant hefyd beth raid, yn ddiau, beri gofid meddwl i'r sawl sydd gyf- rifol,—fod pryder yn nghylch eyflwr cyn- hyrfus materion gwleidyddol wedi effeithio ar iechyd y Brenin Edward. Bostiodd rhai o aelodau y Weinyddiaeth mai eu hamcan mawr drwy'r pedair blynedd diweddaf fu paratoi trap i ddal yr Arglwyddi, ac felly godi ymryson cyfansoddiadol yn y wlad, a cheisio diddymu Ty yr Arglwyddi. Llwydd- asant i osod y trap, a'r Brenin Edward oedd y cyntaf ddaliwyd ynddo. 0 ddydd i ddydd gwlawir profion o ddylan- wad ei gymmeriad ar y byd. A'r rhai di- weddaf yw'r mwyaf nodedig, canys dylifant oddiwrth bersonau a phobloedd na chymmer- ant sylw o ymadawiad brenhinoedd. O'r dwyrain ac o'r gorllewin, o barthau pellaf Asia, ac o werin-Iywodraethau deubarth yr America, yr un yw y warogaeth. Gwarog- aeth ddiffuant ydyw oddiwrth bobloedd o bob hil a gradd o wareiddiad, delir i gywirdeb a daioni yn y sefyllfa uwchaf. Dydd ar ol dydd, daw penderfyniadau cynghorau bych- ain dinod, a chymdeithasau Ileol, yn gymmysg â chenadwriaethau oddiwrth Seneddau, a phrif ddinasoedd y byd-oll mewn cydymgais yn dadgan eu gofid oblegid yr hyn a deimlant ac a gyhoeddant yn goUed i'r holl fyd yn gyffredinol. A phwy all fesur y dylanwad a ytnledodd mor bell ac a dreiddiodd mor ddwfn 1 O'r tu allan i derfynau yr ymherodraeth a'r pende- figion a'r gwladweinwyr yn unig y deuai y Brenhin i gyffyrddiad. Eto wele haenau isaf cenhedloedd y byd wedi eu cyrhaedd. Rhyfedded a hyny yw y warogaeth delir i'w goffadwriaeth gan bennaduriaid y byd. Megis gyda galar teuluaidd, felly yn mhlith brenhinoedd, mae mesur o alar a pharch yn naturiol. Eithr nid rbywbeth arferol ydyw y galar a'r parch yn mysg brenhinoedd a phen- aethiaid ar ol y Brenhin Edward. Ni welwyd yn banes y byd y fath olyfga ag a welir Ddydd Gwener. MarGhoga saith o benau coronog ar ol y Brenhin George fel y dilyna gorph ei dad o Westminster drwy heolydd y Brifddinas, heblaw wyth o etifeddion coronau, a chynrychiolwyr pob teyrn drwy'r byd. Ac mid cynrychiolwyr teyrnasoedd yn unig welir yno. Dilynir corph y Brenhin Edward i'r bedd gan ddau gyn-lywydd dwy brif werin- lywodraeth y ddaear, yr Unol Daleithau a Ffrainc ac er dyfned y galar cyffredinol, yn mhlith gwerinwyr y ddwy wlad hyn y teimlir y galar dwysaf. Yn nghanol y galar gwelir rhai o wersi am- lwg bywyd y Brenhin a'r gwersi ddysg bren- hin y dychryniadau ar adeg fel y presenol. Yn mysg y dosbarth cyntaf, mae gwobr yr hwn, megis y wraig yn Methania, a wnaeth yr hyn a allodd. Yr wyf yn Ilwyr benderfynol,' medd y Brenin Edward ar ei esgyniad i'r or- sedd, naw mlynedd yn ol, cyhyd ag y byddo anadl yn fy nghorph, i weithio er daioni i'm pobl a'u llesiant.' Ac yn Ilythyrenol, tra bu anadl yn ei gorph, daliodd at ei benderfyniad. A chanlyniad y fath fywyd o lafur er llesoli ei bobl, heb niweidio neb arall, yw y flodeu- dorch y mae'r holl fyd yn ei phlethu erbyn dydd ei gladdedigaeth. Yr ydoedd safle brenin yn uchel, eto naw mlynedd yn ol tyb- iai y cyffredin o honom mai safle ornament ydoedd ac ni siomesid ni pe'r edrychasai y brenhin ami felly. Y mesur i'r hwn y troes efe y safle ddiolwg hon o ddefnydd i'w bobl yw mesur serch ei ddeiliaid ato a'u galar o'i golli. Mae calon dynion yn gyfiawn, ac ni chyll y gweithiwr esyd ddyledswydd yn faner ei fywyd mo'i wobr o'u hedmygedd, pa un bynag ai cul ai eang fyddo'r Uwyfan lie y gesyd Rhagluniaeth ef i chwareu ei ran mewn bywyd. Ffaith dal i fyfyrio uwch ei phen, drachefn, ydyw mynediad yr holl genedl i gyssegrfa- oedd yr Arglwydd ar y fath amgylchiad. Gwelir miloedd ddydd Gwener, os nad mil- iynau, yn cymmeryd rhan yn y gwasanaeth- au, ac nid o ran ffurf, nas plygasant lin ger- bron Duw er's blynyddoedd. Y difraw, yr esgeuluswr, yr amheuwr, a'r gwawdiwr,—- drosga y fath ddigwyddiad bob hugan oddiam danynt byd nes y deuir at y gwir ddyn. Yna llefara y galön, a dywed, Daw sydd yn teyrnasu.'
[No title]
Cyflog swyddogol Arlywydd yr Unol vn. Dalaethau ydyw 10,000p. yn y. flwyddyn. AEGRAFFU EH AD, CYFLYM, A DESTLUB YN SWYDDFAU "tLAN." J¿,
Y Flwyddyn Eglwysig.
Y Flwyddyn Eglwysig. SUL Y DRINDOD. Dyma ni bellach wedi cyrhaedd y burned a'r olaf o brif Wyliau yr Eglwys yn ystod y Flwyddyn Eglwysig. Y cyntaf yw y Nadolig ar ba wyl yr ydym yn dathlu dyfod yr Arglwydd lesu Grist i'r byd :—' Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol' (St. loan iii. 16). Yr ail yw Gwyl y Pasc ar ba un yr ydym yn coffhau anrhydeddus Adgyfodiad lesu Grist: canys efe yw'r gwir Oen Pasc, yr hwn a offrymwyd drosom, ac a ddileodd bechod y byd yr hwn trwy ei angeu ei hun a ddinystriodd angeu, a thrwy ei Adgyfodiad i fywyd, a adferodd i ni fywydl tragwyddol.' Y drydedd wyl ydym yn gadw er coffad am esgyniad Crist i'r nefoedd-Dydd lOll y Dyrchafael; a'r nesaf yw y Sulgwyn, a gedwir er cof am ddisgyniad yr yspryd Glan. Ac heddyw yr ydym yn cadw gwyl y Drindod. Mewn hen ffurfiau gwasanaeth (Liturgies), ystyrid y dydd hwn felj octave megis wythnos -wyl ar ol y Sulgwyn, ac y mae ei benodiad fel dydd Gwyl y Drindod o sefydliad diweddar- ach. Oherwydd fod mawl yn cael ei roddi i'r Drindod Fendigaid yn yr hymnau, y credoau, &c., yn. mbob gwasanaeth, nid oedd eisieu trefnu un dydd penodol i gynal yr hyn a wnaed yn ddyddiol ond pan gyfododd y sect a elwid yr Ariaid, ynghyd ag eraill, y rhai a wadent athrawiaeth y Drindod, ystyrid yn ddoeth i sefydlu un dydd arbenig i ddathlu, myfyrio, a chydnabod pwysigrwydd yr ath- rawiaeth hon mewn modd neillduol. Sylwer, ynte, na chofnodir unrhyw ffaith ond athraw- iaeth ar Sul y Drindod. Dywed Gervase o Gaergaint, mai yr Arch- esgob Thomas a, Becket, yn fuan ar ol ei gys- egriad yn y flwyddyn 1172, a sefydlodd yr wyl hon yn Lloegr, ond ni wnaed rheol i'w chadw yn gyffredin trwy yr holl Eglwys hyd ddechreu y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cys- egrwyd Iorwerth, neu Gervase, yn Esgob Ty Ddewi yn y flwyddyn 1215. Y COLECT. Mae y Colect yn dyddio o'r flwyddyn 590, ac i'w gael yn Sacramentary Gregory. Fel yr awgrymwyd, nid unrhyw ffaith neu berson neillduol, ond athrawiaeth a goffeir ar Wyl y Drindod, ac yn y Colect yr ydym yn gweddio ar i ni gael ein cadw yn ddiysgog yn y ffydd hon, a byth eln hamddiffyn oddiwrth bob gwrth wyneb. YN LLJ: YR EPISTOL (DAT. iv. 1-11). Mae tair penod gyntaf y Datguddiad yn cynwys ymdriniaeth Crist a'i Eglwys ar y ddaear, fel yr arddangosir yn saith Eglwys Asia. Mae y bedwaredd benod yn dechreu gyda datguddiad o addoliad y nefoedd. Adn. 1. Ar ol y pethau hyn yr edrychais.' Ar oliddo dderbyn ycenadwriaethau iesgobion y saith Eglwys, Wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef.' Crist yw y drws (St. loan x. 7). Yr oedd y drws i'r nef, hyd yn hyn, yn gau- edig. Aberth Crist a'i esgyniad agorodd y ffordd i'r orsedd, i'r cysegr sancteiddiolaf (Heb. ix. 8, 12). Trwy y drws yr edrychodd St. loan. Tybia Clarke mai bwlch gweledig yn yr awyr uwch ei ben oedd hwn—' Llais udgorn yn ymddiddan a. mi.' Yr oeddent yn galw yr addolwyr i'r gwasanaethau luddewig, nid trwy ganu clychau, fel yn ein dyddiau ni, ond trwy chwythu mewn udgorn arian (Num. x. 2). Dring i fyny yma'—nid yn y corff, ond yn yr Yspryd—'y pethau sydd raid eu bod,' neu sydd i gymeryd lie ar ol hyn (pen. i. 19). Adn. 2. 'Yn yr Yspryd.' Wedi fy llyncu i fyny yn y fan mewn per-lewyg (pen. i. 10). Felly yn nychymyg neu ddarfelydd loan yn hollol yr oedd y cwbl a basiodd. Gorsedd- fainc, ac un yn eistedd arni mewn ffurf ac ymddangosiad mawreddog-Crist fel Brenin, Llywodraethwr, a Barnwr. Adn. 3. 'Jaspis'—maen gwaed-goch, yn arwyddo Ei natur ddynol 1 a sardis '—Ei natur Ddwyfol; enfys,' yr hwn sydd bob amser yn arwydd o drugaredd a ffyddlondeb Duw (Gen. ix. 16). Adn. 4. Bedwar henuriad ar hugain.' Tybia rhai mai y deuddeg patriarch a'r deu- ddeg apostol yw yr henuriaid hyn, a bod y rhai blaenaf yn cynrychioli yr Eglwys dan yr Hen Destament, a'r rhai olaf yr Eglwys dan y Testament Newydd. Wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion,' neu offeiriadol, i ar- wyddo en purdeb. 4 Coronau aur,' yn wobr am eu ffydd a'u cariad, ac i arwyddo eu bod yn frenhinoedd yn gystal ag yn offeiriaid i Dduw. Adn. 5. 1 Fellt, a tharanau, a Ileisiau,' y rhai ywceryddon neu gospauDuw, ac yn arddangos ei fawrhydi arswydol. Saith o lampau tin y rhai a arddangosant amrywiol ddoniau a gweithrediadau yr Yspryd Glân. (Isaiah xi. 2, 3). Adn. 6. M6r o wydr.' Cyfeiriad, fe allai, at Fedydd, a'r purdeb hwnw ag sydd yn ofynol yn mhawb a feddant yr anrhydedd o agoshau at bresenoldeb a gorsedd Duw. Pedwar aiiifail'-Groeg, 'pedwar creadur byw.' Beth neu pwy oedd y rhai hyn ? Ymddengys oddi wrth pen. v. 9, nad angylion neu gerubiaid ydynt, am eu bod yn cyfaddef mai rhai wedi eu prynu ydynt trwy waed yr Oen o blith dynion. Dichon eu bod yn cynrychioli yr Efengylwyr. Yn llawn o lygaid '—i arwyddo doethineb, gwyliadwriaeth a gwybodaeth o'r Hen Destament yn gystal a'r Newydd. Adn. 7. Oedd debyg i lew,'yn arwyddogwr- oldeb diarswyd, sef St. Marc, yr hwn sydd yn dechreu ei Efengyl a I Ilef un yn llefain yn y diffaethwch,' trigfanau anifeiliaid rheibus. 'Llo' neu ych (Ezec. i. 10), yn arwyddo am- ynedd diflino; felly St. Luc, yr hwn sydd yn dechreu gyda hanes am offeiriad, ac yn benaf a osoda allan nodweddiad offeiriadaeth Crist. Gwyneb dyn,St. Matthew, yr hwn sydd yn olrhain disgyniad Crist oddi wrth Dafydd, fel dyn, dyn yn arwyddo callineb a thosturi. 'Eryr,' yn arwyddo grym, bywiogrwydd, a chyflymdra. St. loan, yr hwn sydd yn dech- reu gyda dwyfoldeb Crist, ac yn adrodd yn benaf am Ei uchel a'i nefohidd addysgiadau. A'r 011 o'r pedwar anifail byw yn cynrychioli Crist ei Hun hefyd, y Brenin (y Llew o lwyth Juda—Dat. v. 5), yr Offeiriad a'r Aberth, y Dyn a Duw. 8. Chwech o adenydd,' fel y Seraphiaid welwyd gan Isaiah (vi. 2), y rhai a arwyddent eu parodrwydd i wneuthur ewyllys en Harglwydd. Yr oedd yr aden- ydd oddi fewn yn llawn llygaid, yn arwyddo eu goleuni ysprydol. Holl feddyliau a, dymuniadau y creaduriaid byw oedd yn troi ac yn canoli ar, neu yn Nuw. Nid oeddynt yn gorphwys ddydd na. nos, gan ddywedyd, Sanet, Sanct, Sanct.' Dyma yr addoliad parhaus a gyflwynent i'r Tad, Mab ac Yspryd, un a thragwyddol. Tri Pherson Sanctaidd yn g-wneyd i fyny un Arglwydd Dduw Holl- alluog. Ni welir y gair Trindod yn y "Beibl. 9. A phan fyddo yr anifeiliaid/ hyny yw, mor fynych ag y byddo y creaduriaid byw yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a, diolch,' yr hyn sydd yn cyfateb i'r Sanct, Sanet, Sanct,' yn adn. 8, y mae yr henuriaid yn syrthio i lawr i addoli, gan arwyddo fod holl oruchwyliaethau Duw wrth fodd yr Eglwys. 10. 'Ac yn bwrw eu coronau,' i ddan- gos mai oddiwrth Dduw y derbyniasant hwy eu bod a'u bendithion". 11. (0 herwydd dy ewyllys di y maent,' wedi eu dwyn i fodola-eth; ac y crewyd hwynt,' neu, fel y giellir ei gyfieithu, ac y ffurfiwyd hwynt,' ar y llun hwn neu arall. Fel hyn dywedir mai Duw yw Creawdwr defnydd neu fater, yn gystal a ffurf neu ymddangosiad allanol pob peth (Gwel Idrisyn). EFENGYL (ST. IOAN iii. 1-15). Yn yr Efengyl yr ydym yn darllen am yr ymddiddan rhwng yr lesu a, Nicode- mus, ac er i'r rhan yma. o'r Efengyl gael .Bi dethol ar y dechreu mewn cyfeiriad at fedydd, eto y mae yn dwyn perthynas ag athrawiaeth y dydd hwn; canys y mae, yn dywedyd wrthym fod dirgeledigaethau y Deyrnas uwchlaw dirnad dyn, ac nis gellir eu derbyn ond gan y rhai hyny a aned o'r Yspryd.' Dywed St. Awstin wrthym, pan yn myfyrio ei bregeth ar y Drindod, yr oedd yn rhodio ar lan ymor. Yr oedd yno fachgenyn, yr hwn, ar ol tori twll yn y tywod, oedd yn cario dwfr o'r mor i'w lanw. 'Paham yr ydych yn g-wneuthur hyn?' gofynai St. Awstin. Yr wyf yn bwriadu arllwys holl ddyfroedd y dyfn- der mawr i'r twll yma,' oedd yr ateb. Amhosibl,' ebe St. Awstin. (Dim mwy amhosibl,' meddai y llanc, 'nag- ydyw i chwi i eglurhau y dirgelwch ar ba un yr ydych yn awr yn myfyrio.' Gogoniant fyth i'r Tri yn Un, Am gadw dyn colledig; Yn Sion lan molianus yw Un Gwir Dduw Bendigedig.' (Diwedd). CYNWYL.
Bachgen o dan driniaeth greulawn.
Bachgen o dan driniaeth greulawn. Adroddwyd ystori ddychrynllyd o ddiffyg dynoliaeth tuag at fachgen pum' mlwydd oed, yr hwn sydd yn fud ac yn f asglwyfus, yn Preston, ddydd Mawrth, yn ystod erlyniad dyn o'r enw Thomas Cutler, yr hwn anfonwyd i garchar am chwe' mis, gyda, llafur eall,ed. Dangosai y dystiolaeth fod y plentyn wedi cael ei adael o dan ofal Cutler, tra yr elai ei fain i weithio mewn melin. Yn ystod ei hab- senoldeb ymddygai y dyn yn greulawn at y plentyn, gan ei guro gyda belt' a, bwcl, a dywedai un o'r cymydogion iddi weled y dyn yn rhedeg ar ol y plentyn—yr hwn oedd gyda hualau am ei ddwylaw-ar hyd y buarth, ac yn ei lusgo mewn modd ger- win. Can ei fod yn fud, nis gallai y bach- gen godi un waedd, ond yr oedd y cymy- I a, dogion yn ei wel,ed yn wylo bob amser a phan ddeuai y carcharor yn agos ato, ed- rychai yn ddychrynedig. Yr oedd yn amlwg fod y fam yn hoff iawn o'r bach- gen; a phan gynygiai hi ei ymolchi, gwrthodai y carcharor iddi gael gwneyd hyny, a hyny, y mae'n debyg, am y byddai [ iddi wedi hyny weled cyflwr clwyfedig ei gorph. Pan dda-eth y fam i wybod yr holl ffeithiau, torodd allan i wylo, a, dywedai ei bod yn ca.ru y plentyn yn ormod i'w gamdrin. Cyfrifwyd dau a deugain o friwiau ar y corph. Rhoddodd Dr. Stan- well fanylion am y briwiau, y rhai oedd yn ymestyn o'r gwddf i'r traed. Yr oedd gan y plentyn ofn cael ei gyffwrdd. Gwrandawai Cutler, mewn distawrwydd, yr adroddiadau am ei greulondeb, ac ni wnaeth un ymgais i esgusodi ei ymddyg- iad. Y maer a ddywedodd fod y carcha- ror wedi cael ei brofi yn euog o gyhuddiad annynol, ac nid oedd dim allai y faingc ei ddyweyd yn ddigon gryf i arddangos ei dygasedd. Galwai y plentyn hwn arno, o herwydd ei gyflwr di-aillu, am amddi- ffynwr cryf. Yn lie hyny, modd bynag, yr oedd wedi ymddwyn yn annynol at y bachgen.
IHenry Richards fel Gwladgarwr.
I Henry Richards fel Gwladgarwr. Nid fy amcan yma. fydd rhoddi hanes ei fywyd na'i waith, ond yn hytrach dad- ansoddi ei gynxeriad fel gwladgarwr yn ngoleuni yr hyn a wnaeth dros y genedl a'i magodd. Yr wyf am geisio gwneyd hyn yn deg a di-duedd, heb lunio bai lie na bydd,' na. rhoddi clod lie 11a bo haeddiant. A chan fod cymaint wedi ei ysgrifenu arno, y mae i ni well mantais i wneyd hyn nag oedd gan ei gyfoedion. Y mae Henry Richards yn ei fedd bellach er's ugain mlynedd; ac yr ydym erbyn hyn wedi cael hamdden i ffurfio barn gywir am dano mewn gwaed oer yn ngoleuni ffeith- iau ac hanesyddiaeth. Wei i dechreu, pa fath ddyn ydoedd yn allanol ? Edirych- wch ar ei lun ar scwar Trega-ron--creffwch yn dyn arno a chwi gewch gipdrem ar y dyn fel yr oedd mewn gwirionedd mewn bywyd. Dyn cryf, esgyrnog, gydag ys- gwyddau llydain braf. Sylwch ar ei I wyneb, a, gwelwch y trwyn mawr Rhu- feinaidd, y llygaid treiddgar, yr aeliau trymion blewog-, yr en enfawr, y gwefusau tyn, y war yn plygui a'r pen yn gogwyddo tua'r dde. A pha beth a welwch 1 Onid ynni, gwroldeb, a phenderfyniad di-ildio? Math o prize-fighter a gymer ei ladd cyn rhoi fyny ymladd. Pwy fuasai yn tybio wrth edrych arno mai dyma bleidiwr heddwch grymusaf Prydain yn ystod y ganrif ddiweddaf? Dyn herfeiddiol yr olwg arno oedd Henry Richards, a thyna'r fath ddyn ydoedd, "dyn penderfynol di- droi-yn-ol; a, thyna, guddiad ei gryfder a dirgelwch ei lwyddiant. Ac yr oedd hyn yn naturiol i fab Ebenezer Richards, y dysgyblwr a'r trefnydd mwya' llwyddianus a, fu erioed yn mhlith y Methodistiaid Oallfiuaidd. Yr oedd Ebenezer, ei dad, yn Ymneillduwr rhonc, yn gwybod ei feddwl ei hun, a phob amser yn gwneyd yn unionsyth at ei nod ar draws pob math o rwystrau. Gwelir hyn yn amlwg oddi- wrth y ffaith iddo feiddio fod yn mhlith y rhai cyntaf o'r Methodistiaid i gymeryd ei urddo yn afreolaidd gan rai wedi cy- meryd yr awdurdod arnynt eu hunain ac heb eu galw gan Dduw megis Aaron,' a hyny yn groes i drefn ac arferiad yr Eg- lwys Gristionogol yn y wlad hon oddiar sylfaeniad Cristionogaeth. Dyn o'r un nodwedd feiddgar a phenderfynol oedd Henry ei fab. Ar ol gwneyd ei feddwl i fyny, ni adawsai i ddim sefyll ar ei ffordd i gyrhaedd ei amcan. Wrth edrych ar Henry Richards oddiar safbwynt Cymro g-wladgarol, yr ydym yn rhwym o gymeryd i ystyriaeth ddau beth neillduol a saif ar ein ffordd, sef yn gyntaf, ei waith yn troi ei gefn mor ddiseremoni ar y cyfundeb crefyddol y iiiagnvyd Ief ynddo, ac o ba un yr oedd ei dad yn weinidog mor barchus, a, hwnw hefyd y cyfundeb mwyaf Cymreig a chenedlaethol o'r holl enwadau, ac ym- uno a'r Annibynwyr; ac yn ail, ei waith yn gadael ei w lad-gw lad y bryniau a garai mor fawr ac ymsefydlu yn mhlith y Saeson a'u gwasanaethu hwynt. Y gwladgarwr goreu, yn fy ngolwg i beth bynag, yw yr hwn a lyn yn ddiysgog wrth ei wlad enedigol yii eithlodi a'i dinodedd, gan ei gwasanaethu yn gywir a ffyddlon yn ei fwthyn cartre,' a chan foddloni ar yr ychydig fydd ganddi i gynyg iddo mewn taledigaeth; yn hytrach na'r hwn a adawo ei wlad, fel y gwnaeth Henry Richards, er Iles iddo ei hun, fe ddichon, ond er colled i'w genedl. Am y rheswm hyn buaswn yn rhoi rhai fel Doctor Lewis Ed- wards o'r Bala—cydoeswr a Henry Rich- ards—a'i fab Thomas Charles Edwards- yr hwn yntau gafodd ei demtio ag uwch cyflog am groesi Clawdd Offa,-y Cang- hellwr Sylfan Evans ac eraill y gallwn eu henwi, mewn dosparth uwch fel gwladgar- wyr na'r diweddar Henry Richards, er mor fawr ei ddylanwad, ac er cymaint ei wasanaeth i Gymru. A'i farnu wrth y safon hou, beth bynag, gorfodir ni i ddweyd am ein harwr, fe'i pwyswyd yn y clorianau cenedlaethol, ac fe'i caed yn brin' o bwysau. Gadawodd yr enwad mwyaf Cymreig a chenedlaethol o'r holl enwadau, a, throdd ei gefn ar ei wlad ar adeg nas gallasai yn hawdd heb- gor ei wasanaeth, ac ymsefydlodd yn mhlith y Saeson a allasent yn hawdd wneyd hebddo, pa un ai oblegid uchelgais neu elw personol iddo ei hun, neu ryw achos arall mwy teilwng, nid wyf yn cymeryd arnaf bendeffynu. Ond, pa beth bynag oedd yr achos, ni chyfrifir hyn iddo yn gyfiawnder fel Cymro gwladgarol. Ac os dywed rhywun mewn amddiffyniad iddo fod uchelg-ais o'r fath yn esgusodol mewn bachgeen ieuanc, dywedaf finau mewn atebiad iddo dderbyn cynyg i ddychwelyd yn ol i'w wlad drachefn rai blynyddau ar ol hyny—1853—fel athraw Coleg Aberhonddu, ond iddo wrthod yr alwad. Y gwir yw ni fynai un o yspryd mor fawr a Henry Richards gael ei gyf- yngu i lei mor fychan a Chymru. Ond os gadawodd ei wlad er lies iddo ei hun ar y dechreu, er clod iddo, y mae'n rhaid dweyd nad angho-fiodd hi yn llwyr fel y gwnaeth rhai y gellid eu henwi. Ar y gwrthwyneh, fel y dyrchafai ar risiau en- wogrwydd, trodd ei galon yn ol at Gymru fechan, a dangosodd ei fod yn ei charu a chalon gynes. Gresyn na fuasai wedi ei ethol dros Gymru cyn 1865, canys yr oedd erbyn hyn yn ymyluar henaint ac yn 56 mlwydd oed. Yr oedd eisiau dyn o fath Henry Richards ar Gymru ar y pryd, un o blith y werin, yn Gymro o ran iaith. ac yn gwybod ansawdd y wlad ynghyd ag anghenion a dyheadau y bobl. Tirfedd- ianwyr oedd y rhan fwyaf o'n cynrychiol- wyr ar y pryd, yn Rhyddfrydwyr a Cheid-, wadwyr, rhai yn malio mwy am gwn hela ac ysgyfarnogod na dim arall yn y byd ac yn gosod mwy o bwys ar ddiogelu eu hanrhy.d.edd a'u hawliau personol eu hun- ain nag ar ddyrchafiad eu gwlad mewn addysg a moes a chrefydd. Ac heblaw hyn, nid oedd nemawr un dyn gwir alluog yn eu plith, a fedrai hawlio gwrandawiad y Ty. Mewn gair, yr oedd Cymru bron mor ddisylw gan y Senedd y pryd hwnw a phe na buasai ganddi gynrychiolaeth yno o gwbl. Yr oedd Henry Richards yn un o r rhai cyntaf i graffu ar hyn, ac i alw sylw at y diffyg, ac i geisio deffroi y wlad o'i chysgadrwydd gwIeidyddol. (I'w barhau).
Ymfudwyr i Canada.
Ymfudwyr i Canada. Y rhai sydd yn trefnu i anfon ymfudwyr i Canada ydynt wedi eu taraw yn dost gan y rheolau newyddion sydd wedi eu tynu allan gan y Llywodraeth yno mewn perthynas ag ymfudwyr. Y mae natur y rhai hyn yn hynod o gaeth. Y rheol y teimlir mwyaf o wrthwynebiad iddi ydyw yr un sydd yn dweyd na chaniateir i'r un ymfudwr cynorth- wyedig gael glanio, os na bydd yn dyfod yno felllafurwr, neu un a fo yn myned i wneyd urfrhyw waith amaethyddol. Rhoddir y rheol hon mentalgrym hyd yn oed tuag at y rhai y bydd gittddjrit ymrwymiad ac addewid am waith yn uniongyrchol o fewn y drefedig- aeth. Golyga hyn gau allan nifer fawr o grefftwyr rbag cael glanio; ac hwyrach na bydd ganddynt arian i dalu am eu cludo yn ol. Yr eglurhad a roddir am hyn ydyw, mai eisieu dynion i drin ei thiroedd sydd gan Canada, a hi a sicrha ddigon o orchwyl i bawb o'r cyfryw. Nid yw hi yn gwarantu gwaith i grefftwyr o gwbl; ac os daw y rhai hyn drosodd, rhaid iddynt ddangos swm 0 arian wrth gefn cyn y ca'nt lanio. J
Llosgi Negroaid i Farwolaeth.
Llosgi Negroaid i Farwolaeth. Gohebydd y Central News yn New York, ddydd Mawrth, a ddywed fod un ar bymtheg ar hugain o droseddwyr negroaidd wedi cael eu llosgi i farwolaeth ddydd Llun, wrth bolgaer (stockade) yn Centerville, Alabama. Ceisiodd un o honynt danio y polgaer yn y gobaith o wneyd ei ffordd allan, ond ymledodd y fflamau gyda'r fath gyflymder fel yr oedd yr adeiladau coed yn un goelcerth yn union.
Corphluoedd i'r Orymdaith…
Corphluoedd i'r Orymdaith Angladdol. Dygir tua dengmil ar hugain o gorphluoedd i Lundain ar gyfer yr orymdaith angladdol ddydd Gwener. Bydd iddynt adael eu ham- rywiol wersyllfaoedd ar awr foreu, a defnyddir rhyw bymtheg o drenau arbenig i'w dwyn i Lundain. Dygir y rhan fwyaf o'r corphlaoedd o AIdershot a Devonport. Daw rhai o'r corphluoedd a osodir ar hyd yr heolydd o Balas Buckingham i Lundain dros nos, a gwersyllant yn un o'r parciau-yn Hyde Park, y mae'n debyg.
Pedwar yn cael eu taraw gan…
Pedwar yn cael eu taraw gan Fellten. Torodd ystorm ddychrynllyd dros Aber- gafenni prydnawn ddydd Llun. Cafodd nifer liosog o bleserdeithwyr eu dal gan yr ystorm yn nghymmydogaeth y Castell a chyn iddynt allu cyrhaedd i le y gallent gysgodi ynddo, tarawyd pedwar o honynt gan fellten. Niweidiwyd dau ddyn ieuangc o Merthyr, y Mri. T. Nash a B. R. Morgan cafodd y cyntaf ei daraw yn ei ben, a'i wneyd yn an- ymwybodol, tra y llosgwyd y diweddaf ar ei fraich a'i gltin. Bu y ddau o dan driniaeth aelodau o Gymdeithas St. John's Ambulance. Dwy ferch ieuangc oedd y lleill niweidiwyd. Tarawyd Miss Grant, cynnorthwyes mewn siop yn Abergafenni, o'r tu 01 i'w phen, a llosgwyd ei het a'i gwallt. Cafodd Miss Morgan o Abergafenni, hefyd, ei niweidio, ond nid yn ddifrifol. Bu yr oil o honynt o dan driniaeth feddygol.
DEWI SANT, PADDINGTON.
DEWI SANT, PADDINGTON. GWIBDAITH YR YSGOL SUL.-Ar y Llun- gwyn hafaidd tesog aeth aelodau'r Ysgol Sul ac eraill am ei gwibdaith eleni i Ruislip. Yr oedd y trefniadau yn nwylaw Mri. W. R. Goodwin a G. E. James, arolygwr acysgrifen- ydd yr Ysgol Sul. Ymgasglodd y rhan fwyaf o'r difyr gymdeithas ar orsaf Paddington i gyfarfod y gerbydres 1-25 prydnawn, a chyrhaeddwyd pen y daith o gylch dau o'r gloch. Daeth eraill yn ddiweddarach. Gwedi crwydro tipyn hwnt ac aew, ymweled a, hen eglwys y plwyf a hen bentref Ruislip, awd i'r Poplars erbyn haner awr wedi tri fel ag yr oedd Mri. James Williams, W. R. Goodwin, a Gwilym Thomas medi trefnu yn mlaen Haw. Yr oedd canmoliaeth uchel i'r t6 a'r danteith- ion blasus arlwywyd ar y ford. Eisteddodd cant a thri i gyfranogi ynddo. Gwedi'r te crynhodd y cwmni mewn safle briodol i gymeryd darlun o honynt. Ar ol hyn gwas- garodd y dorf yn y maes a berthyna i'r Poplars—y gwyr ieuainc i chwareu criciad, y canol oed i chwareu coetau, a'r merched i chwareu amryfal gampau. Unasant oil ar ddiwedd y dydd i gyfranogi yn y gwahanol redegfeydd y rhai a drefnwyd gan y bonedd- wyr a enwyd uCAodâ Mr. Tom Jenkins. Ymddangosai pawb yn llawen ac yn mwynhau eu hunain yn ddirfawr. Yr oedd pob peth o'u plaid-yr hin yn ddymunol a'r trefniadau yn ddiball. Dychwelwyd adref gyda'r gerbydres am haner awr wedi wyth. Can diolch i'r trefnwyr4