Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Tan Ddiffoddwyr yn Achub Plant.

Diseddu Aelod Seneddol.

I Nodion Hen Bysgotwr.

. Barn Gywir."

Rhai o Fwngloddiau Ceredigion.

News
Cite
Share

Rhai o Fwngloddiau Ceredigion. CWM NEWIDION, neu WEST FRON GOCH, sydd yn ymyl y Fron Goch, ond yn per- thyn i dir-feddianydd gwahanol. Per- chenogid ef ar y dechreu gan Mrs. Lloyd, ac wedi hyny daeth i ddwylaw y Milwriad Wemyss, y tirfeddianwr presenol. Un Morgan Powell a'i ctechreuodd, oddeutu can mlynedd yn ol. Wedi hyny bu ym meddiant Taylor, yr hwn a agorodd am- ryw leoedd newyddion ynddo, oddeutu haner cant, a golchid ynddo o driugain i driugain a deg o dunelli o fwn y mis. Collodd Murray ei afael ynddo rywfodd, a syrthiodd i ddwylaw Cwmni'r Fron Goch. Am ryw reswm, ni fu gweithio yhddo dan y cwmni hwn, ac ni weithiwyd mohono byth wedi hyn. Mwn sine, ac ychydig fwn plwni, gleir ynddo. GRAIG GOCH.—Ychydig yn is i lawr yng nghwm Cwm Newidion, y saif y Graig Goch. Gwaith cymharol ddiweddar yw, a ddaeth i feddiant John Kitto agos yr un amser a'r Frongoch. Oddeutu deg ar hugain o ddynion weithiai ynddo. Mwn sine geid ynddo yn benaf. larll Lisburne yw y tir-feddianwr. Nid oes gweithio ynddo er's ugain mlynedd. PANTAU HIRION.-Fel y Graig Goch, yn gymharol ddiweddar yr agorwyd Pantau Hirion. Bu ym meddiant John Kitto am flynyddau. Nifer y gweithwyr oedd deg ar hugain. Gweithid ef gan agerbeiriant, gan nad oedd yn bosibl cael dwfr yma. GROGWYNION, un o weithiau hynaf y sir, a, saif ar lether serth uwchlaw afon Ystwyth, ar dir a dd,elid gynt gan L. Pryse, Woodstock. Credir gan lawer i'r Rhu- feiniaid fod yn chwilio am fwn ynddo. Gweithiwyd ef gan Gymdeithas y Mwn- gloddiau Brenhinol yn ddiameu. Efe oedd un o'r pedwar weithid gan Syr H. Ma,ckworth yn 1744. Yn amser Lewis Morris yr oedd yn nwylaw cwmni o Loegr, ar brydles oddiwrth Waller Pryse ac Ar- glwydd Lisburne, yr hwn a hawlia ben gorllewninol y gwaith. Codid pedwar cant o dunelli o'r mwn elwid yn potter's ore' ynddo tua'r adeg yma. 'Roedd yn gan' gwrhyd o ddyfnder, a llawer o waith ei gadw rhag llanw o ddwfr. Yn 1810 gweithiai John Probart o'r Amwythig ef ar brydles. Mwn plwm yn fwyaf neill- duol geid, ynddo, yr hwn a werthai yn 1806 am ddeunaw punt y dunell. Ga,n John Kitto y gweithiwyd ef ddiweddaf, dros ugain mlynedd yn ol. GWAITH GOCH neu TAN y GEULAN sydd ychydig i'r gorllewin o Grogwynion, ac yn rhan o'r un wythien. Gweithid ef ar brydles oddiwrth Arglwydd Lisburne, gan gwmni o anturiaethwyr mwnawl, ddi- wedd y ddeunawfed ganrif. Yr oedd am- ryw o ddynion yn gweithio ynddo ddeng mlynedd ar hugain yn ol dan John Kitto. Deallir ei fod yn nwylaw Mr. Nankarrow, a sonir am roi cynyg i'w ail gychwyn. LEFEL FAWR neu'r TRAWSCOED.—Saif ym mhentref Pont Rhyd y Groes, ar lan afon Ystwyth. Gweithiwyd ef gan Bushell, ac yn ddilynol gan y cwmni o'r hwn yr oedd y Tywysog Rupert yn aelod. Bu yn waith Pwyddianus iawn dan y cwmni hwn. Nodir ef allan fel un o weithiau y Rhufeiniaid, a dywedir fod rhyw gymaint o fwn arian wedi ei gael ynddo. Dechreuwyd y lefel roddodd fod i'r enw sydd arno yn 1700. Gwariwyd arni ddwy fil o bunau yn yr ugain mlyn- edd cyntaf. Ymestyna, am y pellder o filldir a lianer dan y mynydd, a chysyllta y gwaith hwn a gwaith y Glog. Dechreu y ganrif o'r blaen gweithid ef gan J. Pro- bart o'r Amwythig, a chanlynwyd ef gan Taylor, dan yr hwn y bu llawer iawn yn gweithio. Gadawyd ef i aros oddeutu pum' mlynedd ar hugain yn ol. Newydd da i drigolion yr ardal oedd clywed, rai misoedd yn ol, son yr ail-ddechreuid ef. Erbyn heddyw, gweithia ynddo ddeugain !o ddynion. Arglwydd Lisburne yw'r tir- feddianwr. Mwn plwm gloddid o hono, a. gwerthai yn 1800 am wyth punt y dunell. GLOG FAWR sydd ychydig yn uwch i fyny na'r olaf a enwyd. Bu yn waith cyfoethog iawn flynyddau yn ol. Mwn plwm geid ynddo. Enillai y gweithwyr gyflogau uchel iawn yno pan yn codi mwn wrth y dunell. Taylor a'i gweithiodd ddi- weddaf. GLOG FACH sydd ar bwys y Glog Fawr. Taylor a weithiodd hwn olaf hefyd. Mwn plwm geid yma. Mae y ddau ym medd- iant Mr. Nankarrow, perchenog y Lefel Fawr yn awr, a, thebygol y rhoddir hwy ar waith unwaith eto, er cysur a chyfoeth ardal eang. HENDRE sydd waith bychan a, weith- iwyd gan Mr. Girdwood am ychydig amser. ESGAIR MWYN sydd waith enwog ym mhlwyf Cwnws Uchaf. Darganfyddwyd mwn yma gyntaf yn 1751, dan arolyg- iaeth Lewis Morris. Gan iddo daraw ar fwn gwerthfawr, talodd gryn sylw iddo. Yn ol ei swydd fel Arolygydd y Goron gosododd ef ar ardreth i dri o fwnwyr,— I Evan Williams, John, a D. Morgan. Tal- ent chweugain am bob tunell o fwn a, dor- rid ganddynt. Dri mis yn ddiweddarach aeth Morris ag un arall i'r cytundeb. Amcan y cytundeb, medd Morris, oedd sicrhau y gwaith rhag syrthio i ddwylaw personau ymrafaelgar, y rhai a fwriadent ei gymeryd. trwy drais. Yn ystod y flwy- ddyn darfu i'r cyfranddalwyr enill tri chant ar ddeg o bunau yn glir yr un. Codwyd ynghylch mil o dunelli o fwn yn- ddo y flwyddyn hono. Gorffenaf 15fed, 1752, penodwyd Morris yn Oruchwyliwr ac Arolygydd ar Esgair Mwyn, a phob gwaith ddarganfyddwyd, neu ddargan- fyddicl, ar diroedd y Goron, yn Aberteifi a Phenfro. Nid oedd y tir-feddianwyr cylchynol yn foddlawn gweled y Goron yn perchenogi y lie. Y canlyniad fu iddynt uno a'u gilydd er ei gwrthsefyll. Yr an- foddogion hyn oedd Iarll Lisburne, Powell Nanteos, a dau frawd, J. a, R. Wil- liams, perchenogion Llwyn Mwyn a Chil- fach y Rhew. Daeth rhai canoedd o ddynion aflywodraethus, yn cael eu blaen- ori gan ddau o Ynadon Sirol, i'r gwaith ar y 23ain o Chwefror, 1753, a meddian- asant ef trwy drais. Ar gais Morris, daeth cynorthwy milwrol i'r lie ar y laf o Ragfyr, 1753, er cadw heddweh. Aeth yn ymgyfreithio rhwng y pleidiau, pa. fodd 'bynag. Aeth cynifer a phedwar ugain o dystion gyda Morris i Lundain, y rhai a ddywedent yn unfryd mai ar Dir y Brenin' y safai y gwaith. Gelwid ef gan- ddynt yn Gae Siors.' Ni holwyd yr un o'r tystion hyn er iddynt fod yno dair wythnos. Cariwyd y gyfraith gan y Goron. Gorfu i Powell Nanteos fenthyca un cant ar bymtheg o bunau i dalu y costau. Daeth Morris yn ol yn arwr y dydd ar y 19eg o Fehefin. Ysgrifenai, ar yr 8fed o'r mis canlynol, fod rhagolygon rhagorol am fwn plwm yn Esgair Mwyn, a'i fod wedi talu mil o bunau mewn cyf- logau y diwrnod hwnw. Oherwydd cen- figen rhyw ddyhirod galwyd Morris i Lun- dain yn lonawr, 1755, i roddi cyfrif o'ior- uchwyliaeth. Nid oedd yr adeg yma, yn gweithio yn Esgair Mwyn ond ychydig ddwylaw i gadw y dwfr allan. Yn ystod y tair blynedd a haner codwyd gwerth X13,604 12s. lie. yn y gwaith. Ni fu holl c'berth Morris i gadw y gwaith yn eiddo'r Goron o un diben. Yn Ebrill, 1755, prynodd Chauncey Townsend hawl honedig y tir-feddianwyr cylchynol am fil o bunau gyda chostau y gyfraith. Yna, perswadiodd Townsend Arglwydd y Try- sorlys i brynu yr hawl ganddo ef er atal ymgyfreithio ychwanegol. Talwyd iddo oddeutu pedair mil o bunau yn 1755. Ar y 26ain o Ionawr, 1756, apwyntiwyd Paynter yn arolygydd yn lie Morris. Rhoddwyd prydles i Arglwydd Powis ary gwaith ar y 26ain o Chwefror, 1757. Goll- yngodd y brydles yn 1759 oherwydd diffyg elw, ond adnewyddwyd hi iddo yn fuan wedi hyny, yr hon a gadwodd hyd y gan- rif ddilynol. Mwn plwm geid ynddo fwyaf. Gweithir ef ar hyn o bryd o dan arolygiaeth Nankarrow. PENLAN FACH.—Saif rhwng Ysbyty Ystwyth a Phont Rhyd Fendigaid. Peter Garland oedd yr unig un fu yn ei weithio. Mwn plwm gafwyd yno. Y mae ym meddiant Nankarrow yn awr, a, sonir am ei ail-ddechreu. LLWYN MALAIS sydd waith bychan yn agos i Swyddffynnon. RHOS Y GOG.-Hen waith yw hwn ym mnlwyf Llanddewi Brefi, ym Maenor Ty- ddewi. Gweithiwyd ef gan T. Johnes yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif. ESGAIR GAD FACH sydd waith bychan yn yr un plwyf, ym Maenor yr Esgob. Oddeutu 1744 y darganfyddwyd z;1 ef. Gweithiwyd ef am bymtheng mlynedd, yna gadawyd ef i aros. CWM TRINANT.-Mae hwn eto yn yr un plwyf a maenor. Dechreuwyd ef gan Saunders, Perth y Berllan, a Humphreys, Ivy Bush, Caerfyrddin. TANYGAER sydd waith bychan ym mhlwyf Cellan. Agorwyd ef yn 1807. Perthynai i Jenkin Davies. FACH DDU.—Saif hwn yn yr un plwyf, a, darganfyddwyd hi yn 1806. Mwn plwm godwyd yn y pump olaf a enwyd, gydag ychydig o fwn sine yn Esgairgad Fach.

Gwyl Ysgolion yn Llanfihangel…

[No title]