Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
i PERL Y PLANT CYNWYSIAD AM MAI. I New Guinea (gyda Darluu). | David Victor Griffiths (Darlun). i Dadleuon Magi Jones. ( Caneuon Plant y PERL. | Beth mae'r Eglwys yn ei wneyd. George Haydn Clark (Darlun). Y Dyrchafael. T6n, Pentraeth.' Hanes Sant Nicolas o Myra. Clywed y Gog (gyda Darlun). Deuddeg o Esgobion Ty Ddewi. I Bwrdd y Can. | Rhai o Feirdd Cymru. | Canlyniad Anufudd-dod Merch. Y Gystadleuaeth. Y Paganiaid Bach Duon. S Perlau y PERL. Llithiau Priodol am y Mis Barddoniaeth.
iTREFNIADAU YR ANGLADD..-"
TREFNIADAU YR ANGLADD.. Creodd y newydd amfarwolaeth annisgwyl- iadwy y Brenin Iorwerth VII. deimladau galarus ymhob rhan o'r byd, ac yn neillddol yn y deyrnas hon, lie yr oedd wedi enill serch ac edmygedd pob un o'i ddeiliaid. Cymerodd y digwyddiad alaethus le am chwarter i ddeuddeg o'r gloch nos Wener, Mai 6ed, a boreu dranoeth cyhoeddwyd yr hanes athrist yn newyddiaduron dyddiol y deyruas, a phell- brwyd yr hysbysiad i bob gwlad wareiddied- Ig. Yr oedd ei ddylanwad yn ddwfn a phell- gyrhaeddol, a phob gwlad yn edrych arno fel Un o'r penaduriaid goreu a eisteddodd ar orseddfainc erioed. Ar farwolaeth ei fam, y Frenhines Victoria, ar yr 22ain o Ionawr, 1901, cyhoeddwyd ef yn frenin, ac o'r adeg hono hyd ei farwolaeth profodd ei hun yn olynydd teilwng i'w fam urddasol. Medd- ienid ef & gradd hclaeth o ddoethineb, pwyll, ac arafwch, ac y mae gan lawer gwlad le i fod yn ddiolchgar iddo am ei barodrwydd i roddi terfyn ar ymrysonau allent arwain i ryfel- oedd gwaedlyd a cholledfawr. Nis gallwn ar byn o bryd sylweddoli yn gyflawn y golled dderbyniodd em hymerodraeth eang drwy ei farwolaeth, gan fod ei rinweddau yn gyfryw ag y bydd ei enw igiewn parchus goffadwriaeth am ganrifoedd i ddyfod. ORIAU DIWEDDAF YR YRFA DDAEAROL. Am chwech o'r gloch nos Wener, hysbys- wyd fod ei Fawrhydi y Brenin mewn cyflwr difrifol, a chynyddodd y tyrfaoedd y tuallan reiliau Palas Buckingham, gan yr ofnid y gwaethaf. 0 amgylch gwely y Brenin yr yd- eedd y Frenhines Alexandra ac aelodau ereill O'r Teulu Brenhinol. Ychydig funydau wedi chwech, daeth Syr James Reid, un o'r medd- ygon weinyddent ar ei Fawrhydi, i lawr o ys- tafell y claf, a rhoddodd i ysgrifenydd cyfrin- achol y Brenin bulletin i'w ddodi ar y rheiliau o arngylch y palas. Pa fodd bynag, cyn i'r adroddiad gael ei ddodi i fyny, yr oedd y dorf fawr yn ymwybodol fod rhyw beth difrifol 1 w fynegu, a brawychwyd pawb pan ddeallas- all ddifrifoldeb y newydd-fod bywyd y Brenin mewn perygl, yr hwn a lawnodwyd gan Syr James Reid a thri o feddygon ereill. Ymledodd y newydd yn fuan i bob parth o'r brif-ddinas datgenid gofid diffuant ar bob ¡ jlaw, a choleddid gobeithion yr adferid iechyd y Brenin. Gwaethygu yr ydoedd ( 01 Fawrhydi, ac yr oedd yn eglur ei fod yn suddo yn raddol. Cynhaliwyd gwasan- aeth yn ei ystafell-wely, pryd y gweinyddwyd gan Archesgob Caergaint. ( oedd yn bresenol:—Y Frenhines Alexan-B( dra, Tywysog a Thywysoges Cymru, Duces Be jfife a Due Fife, y Tywysogesau Victoria alt J-'Ouise, ynghyd a nifer o foneddigesau a I £ °neddigion swyddogol. Hunodd Ei Favvr-1 «ydi yQ dawel am 11.45, er mawr alar i'wl denlu, ei ddeiliaid, a gwledydd gwareiddiedig y byd. Fel I lorwerth y Tangnefeddwr yr adnabyddid ef, ac ymadawodd a'r byd mewn j| tangnefedd. EI AFIECHYD OLAF. 1 Y dydd Mawrth blaenorol, canfyddwyd fod a yr anwyd a gafodd y Brenin yn Sandringham Yn gwaethygu, ac anfonwyd am ei feddygon.■ Y DIWEDDAR FRENIN IORWERTH VII. Y noson flaenorol, yr oedd wedi bod yn cin- iawa gyda chyfeillion, ac ymddangosai gystal ag arferol. Deallodd Syr James Reed, ar ol gwneyd archwiliad arno, ei fod yn dioddef dan ymosodiad o'r bronchitis fel ag yn Biar- ritz, a chytunai Syr F. H. Laking ag ef. Tra yn Biarritz nid oedd yr anhwylder wedi effeithio ar ei galon, ond erbyn hyn yr oedd gwahaniaeth dirfawr i'w ganfod. Am rai Idyddiau, ni chaniatawyd iddo adael ei wely o gwbl, a chedwid gwres yr ystafell yn yr un tycaheredd yn barhaus. EI WEITHGARWCH DI-ILDIO. Tra yn Biarritz, nis gallai y Brenin ymatal rhag gweithio, er ei fod yn gyfyngedig i'w wely, ac yr oedd ei ysgrifenyddion yn cael eu cadw mewn llawn gwaith yn barhav&s. Yr oedd yn ufudd i orchymynion ei feddygon yn Biarritz, ond yn Llundain methent ei ddar- bwyllo i gymeryd seibiant. Erbyn dyddlau, yr oedd ei gyflwr yn ddifrifol iawn. Nis gallai orwedd yn ei wely, gan fod ei besweh EI WEITHGARWCH DI-ILDIO. Tra yn Biarritz, nis gallai y Brenin ymatal rhag gweithio, er ei fod yn gyfyngedig i'w I wely, ac yr oedd ei ysgrifenyddion yn cael eu cadw mewn llawn gwaith yn barhaus. Yr oedd yn ufudd i orchymynion ei feddygon yn Biarritz, ond yn Llundain methent ei ddar- bwyllo i gymeryd seibiant. Erbyn dyddlau, yr oedd ei gyflwr yn ddifrifol iawn. Nis gallai orwedd yn ei wely, gan fod ei beswch yn drwm, a'i galon yn ei flino. Bu yn ymddi- „ ddan ag ymwelydd yn ychwanegol at rai o aelodau ei deulu. Pa un a wyddai nad oedd gobaith gwellhad ai peidio ni wyddis, ond mewn atebiad i geisiadau ei feddygon i roddi heibio ymdrafferthu ynghylch materion y deyrnas, dywedai, k Na, ni roddaf i fyny af ymlaen; bydd i mi weithio hyd y diwedd.' Yn fuan wedi hyn, syrthiodd i anymwybodol- rwydd, ac ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes. IORWERTH Y TANGNEFEDDWR. (GAN NORTHMAN). Y mae pob gwir genedl-garwr yn gwyro ei ben yn isel heddyw oherwydd y ddyrnod Idrom sydd wedi disgyn ar ein gwlad a'n teyrnas trwy farwolaeth annisgwyliadwy, brawychus yn ei sydynrwydd, Iorwerth Vli., Brenin y Deyrnas Gyfunol, Amddiffynydd y Ffydd. Anh.awdd meddwl, heb son am ysgrifenu ar unrhyw destun arall heddyw. Trwy ei golli ef, y mae ein gwlad wedi colli yr asset cadarnaf oedd yn ei meddiant dros ddiogelwch yr Orsedd, y gwrthglawdd mwyaf anorchfygol yn erbyn Sosialaeth chwyldroad- ol, a'r noddwr diogelaf dros heddwch ymhlith teyrnasoedd y byd. Buasai colli ein tirion Frenin ar unrhyw gyfnod yn hanes ein gwlad yn archoll ddofn, ond y mae ei golli yn y cyfnod pryderus hwn yn alanasdra cenedl- aethol. Ar beth y gwna digwyddiadau y ddwy flynedd-Y tair blynedd-nesaf esgor, nis gellir rhagweled ar hyn o bryd. Ond nid oes angen am weledigaeth prophwyd i ganfod fod ein hanwyl wlad yn gwynebu ar crisis na fu ei hafal yn ei hanes er dyddiau Cromwell. Y mae elfenau ffrwydrol diamheuol yn y sefyllfa w Ieiddyddol bresenol, ac y mae yr orsedd ei hunan yn y fantol. Y mae angen am ddoethineb mawr, am wladweinydd hir ei drem, am diplomatist hir ei ben, i lywio'r wlad yn ddiogel drwy'r cyfwng enbyd presen- ol, rhag ofn i'r elfenau dori allan yn goelcerth difaol na welir ei ben draw ond mewn Rhyfel Gartrefol. A dyma'r unig ddyn-the very man-yr oedd gan. aelodau rhesymol pob plaid yr ymddiriedaeth lwyraf yn nghywirdeb ei farn, ac yn anmhleidgarwch ei ymddygiad- ymddiriedaeth yn codi oddiar edmygedd eithr- iadol, bron nas gellir dweyd oddiar gyfeillgar- wch personol-wedi ei dori i lawr pan yr oedd mwyaf o angen am ei wasauaeth dihafal a'i arweiniad diogel a doeth. Dyrus ac anchwil- iadwy yw trefn Rhagluniaeth, ac y mae yr amgylchiadau yn hawlio adnoddau goreu pob dyn er dwyn oddiamgylch, dan reolaeth Duw, ddaioni oddiwrth y golled genedlaethol alaethus hon. Pan ysgrifenir hanes y naw mlynedd diweddaf—cyfnod rhy fyr teyrnasiad ein di- weddar Frenjn credaf mai y nodwedd amlycaf yn ei gymeriad a ddaw i'r goleu fydd, ei ymdrechion diflino a llwyddianus drol beddweh y byd. Yr oedd wedi enill clust Llysoedd y Cyfandir i raddau anghyffredin. Yr oedd llwyr ymddiriedaeth yn ei air ac yn nghywirdeb ei amcanion. Yr oedd wedi argyhoeddi pob gwlad o'i anhunanolrwydd, ac os goddefir i mi basio barn ar un sydd eto'n fyw, dyna un o'r gwahaniaethau dirfawr oedd rhyngddo a'i nai hyglod, Emprwr Germani. Pa gynygiad bynag wneir gan yr Emprwr William, ymholir ar unwaith pa gynlluniau dwfn sydd ganddo mewn golwg. Ofnir af. Y mae hyn yn wendid pwysig yn nghymer- iad dyn cyffredin, ond mewn brenin, y mae yn parlysu ei holl amcanion, ac yn ddigon mynych yn peri i bob ymyriad, er yn cael ei wneyd gyda'r bwriadau goreu, fod yn feith- rinfa anesmwythder a pherygl. Ond fel arall yr adnabyddai y byd y Brenin Iorwerth. Dyn oedd efe a'i air yn gywir a'i amcanion yn bur. Ac y mae yn rhaid cael golwg ar y nodwedd amlwg hon yn ei gymeriad cyn y gellir iawn werthfawrogi gwerth ei fywyd, a llwyddiant ei deyrnasiaeth. Ni ddatguddir yn awr pa ryfeloedd gwaedlyd y mae ei ym- yriad doeth wedi osgoi; ond gwyr pawb am y teimlad da sydd yn bodoli heddyw rhwng llywodraethau Ewrop rhagor na'r hyn ydoedd pan esgynodd ef i'r Orsedd. Ac, yn ddios, y mae hyn i'w briodoli bron yn gyfangwbl i ymdrechion clodwiw y Brenin y cauodd angeu y drws ar ei fywyd nos Wener diweddaf. Cawsom, yn hanes y wlad, frenhinoedd mwy arwraidd: cawsom Alfred Fawr; cawsom Albert Dda; ond ni chawsom ond un sydd yn gwbl deilyngu'r teitl o 1 Iorwerth y Tang- nefeddwr.' Gwyn eu byd y tangnefeddwyr.' IORWERTH, EIN DIWEDDAR ARWR FRENIN. [GAN LLWYNOG Y LLAN.'] Boreu ddydd Iau diweddaf, tra hamdden foreuol am 8 y boreu, yr oeddwn tu allan i Buckingham Palace,' yn ymholi hanes iechyd Brenin Hedd y Byd,' a Brenin pob annedd Brydeinig, heb feddwl fawr fod angeu fcufewn i'r Palas, yn parotoi ei symud i'r Palas nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd ie, y meddyliau oedd yn gwibio i mi ydoedd tra'n tremio ar y gof-golofn fawrcddog j'n diweddar Frenhines Victoria, a meddwl ei bod hi yn y nefoedd, ac yn edrych lawr dros ganliawiau y nef gydag hyfrydwch tua Buckingham Palace' ar ei mab ag oedd wedi fagu i fod yn offeryn yn llaw Duw i suo'r byd mewn hedd- I (Parhad ar tudalen 4.)
Advertising
YR HAULJ CYNWYSIAD AM EBRILL. Hanes yr Eglwys yn y XVIII. Ganrif. George I. 1714- 1727. George II., 1727- 1760. Trefniad ac ystyr gwahanol Ranau y Paratoad yn ngwasanaeth y Cymun Ben digaid. ) Yr Adgyfodiad. s Y Sacramentau. Henry Richards fel Gwladgar- j wr. ? Hen Fesurau.