Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

ILlwynog y 'Llan.'i

News
Cite
Share

I Llwynog y 'Llan.' Dyma'r Llwynog druan wedi helfa ystor- mydd gauafol, a'r diluvv dymor, wedi codi o'r lselder a dwfn ddystawrwydd y Garawys ar fryn Gwyl y Pase, ac wedi llechu yn mwthyn y Llanerch sydd wedi ei amgylchynu a, cboedydd y maes, ac hefyd wedi dadebrn o'u trwmgwsg cysglyd gauafol a'u gwyrddlesni yn siarad mor swynol, ac ymadrodd ac iaith ysbrydol a phob meddwl meidrol, a'r blodau wedi deffro a'u gwenau gwynion, a'u gruddiau bochgoch sydd yn chwareu a'u bysedd mein- ion ar fy nghalon fel telynwyr ar danau eu telynau. Yn cyduno a hwy mae'r adar man yn pyncio, yn gorawd cynghaneddol, a'r deryn du yn cynaeryd yr unawdau, a'r oil fel cyfeiliant iddo, a'r Llwynog druan, yn llyfu ei glwyfau, wedi rhedeg dros greigiau geir- won, drwy amgylchiadau'r byd ar bywyd presenol, ie, drwy ddyrysni a drain pechod a I brwydrau'r helfa. Wedi'r cyfan a'r ddydd Gwyl y Pasc mae'n cael ysglyfaeth, a'r hin mor byfryd, a'r dydd megys yn ymestyn fel cawr o'i wely caddugawl, ac mae'r cyfan fel balm i'w glwyfau, tra'n teimlo fod harddwch eto wedi adgyfodi, tra'n edrych yn ol yn nghol y gauaf oer yn estyn allan y pibonwy glain yn ymrolio ar yr eira, gan foldio arwedd i bob prydferth lun. Mae Gwyl y Pasc yn tystio fod prydferthwch eto wedi adgyfodi, nes gwneyd hyd yn nod i enaid Llwynog ganu fod Duw eto yn Ben-llywydd ar Ei sedd, ac mae'r cyfan yn crochlefain drwy lais natur fod Adgyfodiad yn ffaith. Gobeithio caf faddeuant gan Ap Ceredigion, golygydd an wyl Bwrdd y Beirdd yn y LLAN, am iaith Dryw Bach y Llanerch :— Wei, dyma Ie i wledda Ar Wyl y Pasc y sydd, I enaid sydd mewn angen Am ymborth sydd o fudd Mae yna lawnder ddigon I bawb yn ddi-wahan, I'r tlawd ac i'r cyfoethog, A phawb a dd'ont ymla'n. Mae pawb yn cael eu gwahodd I'r wledd fawreddog hon, Yr hoew cawrddyn, heini, A'r cloffddyn wrth ei ffon; Nid oes gwahaniaeth yma, Sefyllfa dyn na'i liw, Trwyddedfa rhad fynedfa Yw Trwydded Bwrdd ein Duw. Mae yma'r fath ddarpariaeth, Cyflawnder mor ddi-drai Gyflenwyd drwy'r holl oesau, A'r Stor' sydd ddim yn llai. Er rhoddi i fil miloedd Digonedd rbad a rhydd, Eu seiniau sydd yn seinio, Digonedd yma sydd. DYDD GWENER Y GROGLITH. Tra'n tramwyo'r wlad a chyfarfod yn Nhref Abertawe h'm eyd-Eglwyswvr o'r Eglwys Gatholig, da genyf weled fod fy ngyd-genedl yn troi yn ol at hen arferion y Cymry gynt o gadw y gwyliau heglwysig, drwy dyru wrth y miloedd i'n Eglwysi yn nghanol dwndwr dyrnu politicaidd, ac yn cadw ar gof Ddydd Mawr y Grog ar Galfaria. n SANT IOAN, GOWERTON. Cafwyd gwasanaethau dwys a difrifol yn yr Eglwys hon Ddydd y Groglith yn foreuol a hwyrol, a chynulleidfaoedd lluosog. Yn yr hwyrol wasanaeth, cafwyd pregeth ddylan- wadol gan y Parch. T. Madoc Jones ar y geiriau, Canys nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Crist, a dangosodd gyda noethder dwyll-proffes crefyddwyr yr oes yn foddlon arddel yr Iesu ond heb ddyoddef croesau. SANT BARNABAS, WAMARLWYDD. Yn yr Eglwys uchod cynhaliwyd gwasan- aethau boreuol a hwyrol i gynulleidfaoedd Iluosog. ac yma eto yr oedd genethod a gwyryfon ieuainc yn goreuro'r gwasanaethau, ac nid wedi myned i roddiana neu dyru i grechwenu mewn cyfarfod cystadleuol neu fwyniantau mwy isel-radd ag sydd yn cael eu cynal ar Ddyddiau Gwyliau ein Heglwys. SANT PEDR, COCKETT. Cafwyd gwasanaethau boreuol a hwyrol yn yr Eglwys uchod; gwasanaethau gwresog a chynulleidfaoedd lluosog iawn, ac mae'r Ficer i'w glodfori ar y wedd Eglwysig gynyddol yn y plwyf hwn. DYDD GWENER Y GROGLITH YN EGLWYS SANT DEWI, LLANGYFELACH. Rhoddodd cor y gangell ddatganiad o'r gantawd Yr Awr Olaf,' dan arweiniad eu galluog organydd, Mr. T. D. Jones. Y cor- awdau gan y cor, ac yr oedd datganiadau y cor bechgyn yn neillduol yn nhraethodiad y disgyblion, a'r unawdau gan Madam Brader, Mri. Tom Bowles, W. S. Davies, a LI. R Bowen. 0 na welem gorau ein heghvysi yn dilyn yr esiampl, a chwaeth ein ieuenctyd yn dychwelyd yn y gwasanaeth i roddi mawl i Dduw yn Ei deml, ac nid rhedeg i'r man Eisteddfodau sydd bron mor llygredig yn ami a rhedegfeydd ceffylau. EGLWYS Y DRINDOD, ABERTAWE. Yn yr Eglwys hon ar Ddydd y Groglith i orlif gynulliad rhoddodd cor y gangell ddat- ganiad o Stainer's Crucifixion.' Rhai o'r corawdau gan y cor a ddatganwyd gyda medrusrwydd ac ysbryd defosiynol uwch raddol, ond o bobpeth ag oedd yn ein codi i'r byd ysbrydol oedd y pedwarawd Canys felly carodd Duw y byd gan y cantorion adna- byddus a galluog, set Mrs. Powney, Mrs. Hale, Mr. Spicer, a Mr. Geo. Thomas, aelod o g6r Eglwys yr Holl Seintiau, Kilvey, bachgen mae'r Llwynog' wedi cael y fraint ,i drwsio ychydig, a bachgen yr wyf yn erfyn y weled yn serenu yn ffurfafen gerddoroi Cymru. Mae'r organydd yn Eglwys Drindod Abertawe, Mr. Louis Torr, yn un o lachar gerddorion Prydain Fawr; a chafwyd casgliad anarferol a chyfoethog ar derfyn y gwasan- aeth, yr hyn oedd, er elw cyllid cor y gangell. EGLWYS SANT PAUL, SKETTY. Cynhaliwyd yn yr Eglwys hon wasanaeth boreuol ac hwyrol, ac yn brydnawnol cafwyd Gwasanaeth Tair Awr.' Ymneillduid wrth droed y Groes mewn ympryd dwys a gwedddi- gar. Yr oedd yr Eglwys drwy'r dydd yn orlawn o bechaduriaid yn erfyn ar gael o gynyrfiad y dyfroedd. ac mae lie i gredu fod y plwyfolion a'u ficer, y Parch. D. Akrill Jones, yn erfyn wrth Dduw Israel eu ben- dithio a'r dylanwadau dwyfol ac a'r llun- iaeth ysbrydol sydd i'w porthi yn dra- gwyddol mwy, lluuiaeth arlwy Oen y Testament Newydd. MARWOLAETH AELOD O'R CYNGHOR GWLADOL YN GOWERTON. Dydd Sadwrn diweddaf, rhoddwyd i orwedd weddillion daearol Mr. Wni. John, Gwesty y Gower, Gowerton, un o'r ddau aelod ar y Cyngor Gwladol, ac hefyd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, yr hwn a fu farw yn gyd- marol ieuanc, dim ond 40 oed. Mab ydoedd i Mr. George John, Golden Lion, Trefdraeth, Sir Benfro, a brawd i Mrs. Tuder, o'r un lie. Dioddefodd gystudd trwnj, ond cariodd y groes heb gwyno. Dioddefodd oddiwrth y dolur ofnadwy 'cancer,' ond beth bynag am afiechyd y corfF, yr oedd dan ei boenau yn meddu ar yspryd fel eryr, ac yn hedfan uwch y byd a'i bethau gydag ysgafnder ehedydd ar ei aden. Er iddo dreulio misoedd lawer yn stfoi dyfroedd yr Iorddonen, yr oedd yn hyderus pan fum yn siarad ag ef, canys dywedodd wrthyf y buasai yn debyg o'i chroesi yn go fuan, ac nid oedd arno drallod am fater ei enaid, oherwydd credai ei fod wedi cael ateb i'r addewid- Galw arnaf fi yn nydd trallod, a mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.' Ac er mewn tafarndy, fel mae rhai o'm cyd-frodyr dir- westOl yn dadleu a mi yn ami, ond gwiw iddynt a'u culni, oherwydd waeth yn y byd b'le gwna'r Arglwydd osod hedyn gras yn y galon, blaguro i ddwyn ffrwyth i ogoniant Gwron Calfaria wna'r hedyn. Pan fum yn nghwmni'r cyfaill ddiweddaf, ceisiodd genyf ganu'r emyn, 0 aros gyda mi, Y mae'n hwyr- hau.' Gwelwn fod yr hen babell yn vgwely yn Gowerton, ond deallais fod ei yspryd ar ei adenydd uwchlaw y ddaear, a phrofodd hyny, gan iddo hyd y diwedd godi yn uwch nes ym- ado a'r ddaear yn goncwerwr ar bechod a'r byd, a gobeithro gwna'r Arglwydd ymgeleddu ei weddw, Mrs. John a'r tri phlentyn amddi- fad. Heddwch i'w lwch hyd ddydd mawr y Pasc olaf, pan fydd corph ac yspryd tad a phlant eto'n uno.

Yr Anghydwelediad Glofaol…

Advertising

Advertising

- Rhai Sylwadau ar "The Case…

Gwrthryfel yn Ngopllewinbapth…

Advertising

Advertising

IGwragedd Gweithwyr.

[No title]