Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
[No title]
Anfoner y farddoniaeth o hyn allan i AP CEREDIGION, Talybont, Bangor.
Y GAIR CYSSWYN : BYR A BYW.
Y GAIR CYSSWYN BYR A BYW. Ffwl Ebrill-Mae yr hen ffwl Ebrill ddiniwed fel ei gefnder cellweirus Falentin Sant ar fedr canu yn iach ar y genedl yn yr oes oleuedig, (chwedl y doethion) hon. Gresyn hyny o beth, a gresyn i chwithau dychan y diniwed mor an- nioddefol. Pwy o'r beirdd a gan Gwyn Coll y Ffwl' ymadawedig ? Rhinwedd.—Mae yn amlwg fod mwy o'r gras prin yn y testun nag yn y penillion meitbion, meinion. Cawsom fenthyg gwellaif gan fab y tf, yr hwn oedd sydd amaethwr, a thorwyd cyn- ffon fain y gerdd yn gwtta ddigon. Mae yn am- heus genym a adwaenech y gwaith yn awr gan ei fod y peth tebycaf yn y byd i un o gathol Ynys Manaw. Deryn Llwyd y Baw.—Pedwar pennill tlws a syml fel salm prydydd llwyd y llwyn. Diau fod yn rhaid glust denau a chalon dyner bardd i glywed ac i ganu clod cerddor mor ddiymhongar ag aderyn llwyd y baw. Braidd na chrea ei enw bedydd ragfarn yn erbyn sylwi, chwaithach moli y peth bychan pert. St. Sior II.Nia-th ar gwyn coll hen alarnad y Prif-Weinidog am fwyafrif mawr y Senedd flaen- orol yw y tri penili brathog, ac y mae galaru dan watwar fel fitrol ar friw. Diau eich bod chwi a Ned Puw yn ymgiprys yn galed am flwydd-dal y Llywodraeth am eich gwasanaeth i len a ch&n ein gwlad. Hwian-gan.—Cynyg go dda i ganu peth mor anhawdd a chan hwi. Onid barddes a mam hen famaeth a fedr weu'r hwi oreu ? Mae yn an- hawdd bod yn ddigon syml heb fod yn blentyn- aidd, ac y mae gwir syml yn orchest-gamp awen. Rhaid defnyddio geiriau syml ond cymhwys, a chynilo mynegiant a dychymyg. Dirgelwch symledd yw arfer y moddion hawddaf er sicrbau yr effaith fwyaf. Diau mai pwffyddiaeth a bombast ydyw yr ymfilamychiadau ffug-Islwyn- aidd a wobrwyir yn rhy ami. Y Balch.-Pa fodd y buoch mor greulon a chas a beiddio brathu poten Eglon ? Ni ddi- gwyddodd y fath puncture yn hanes cydau gwynt yr ugeinfed ganrif, ond fe allai mai cymwynas a'r gwr y w.
FFWL EBRILL.
FFWL EBRILL. Ffwl Ebrill a'i ffol wobrwy-yw'r ffolaf O'r ffyliaid sy'n tramwy, Y ffwl mawr fe ffaela mwy Gael i'w wane ond ei gloncwy. R.A.R.
>x GWEN BABAN.
>x GWEN BABAN. ( Cynyg cyntaf ) Mabiaith dieiriau'r mebyn—yw, yn llun Llawenydd munydyn, Heulwen dlos fy rhosyn Yn harddu gwawr gruddiau gwyn. (Ail gynyg.) Llyna i wen, pan ballo'i nad !—dwyen dew, Un daint gwyn drwy'r toriad Loued yw ar lid ei dad, Ni eill agor un llygad GWR GWRAIG.
ERYRI WEN./
ERYRI WEN. Mae trumau tragwyddol Eryri Yn awr yn eu gwenwisg sancteiddlan, Er dig y dymhestl addoli A wnant, archoffeiriaid hen Anian, Pa le y mae'r Eglwys Gadeiriol Mor lin a'r Eryri,—mor ddwyfol ? Pwy beidiai a chuddio ei wyneb Yn oedfa'r Eryri ?—Fe blygaf Fi lun yn ei phresenoldeb, Ac ar y Tragwyddol y galwaf Boed cryfder Eryri'n fy enaid, A deuparth o'i phurdeb bendigaid. SEIRIOL WYN..
Y DIODDEFAINT.
Y DIODDEFAINT. Dyma Geidwad pechadur—yn rhoi lawn Tra'i enaid mewn llafur Er yn isel, gwel o'i gur Acw oesau'n cael cysur. Cref fu hirlef Ei fawr loes Y'nghil'r Ardd, ac angel roes I'r Glan gusan o gysur- Ow'r chwys coch erch-chwys y cur Draw yn y cwm, trwm fu'r trin- I Dduw wylo ar ddeulin. Er oer ing ar awr angau, A rhyw nos hir yn neshau, Rhin Gwaed fy nhirion Geidwad A'm gesyd fry'n nbJ fy IN had.
ODLAU COFFA
ODLAU COFFA Am y diweddar Barck. David Griffith (Curad), Civmavon, Morganwg, yr hwn v fu farw Ion. d, 1910, yn 72 mlwydd oed. FEr, DYN CYMWYNASGAR. Yn weii)ydd rhydd dii-riis At enaid anffbrtunus Ar ael pwll oer-rhoi help llaw Ewddwyniheddohonaw. Iddo anian ni roddwyd <, I bellhau rhag gwyneb llwyd Rhai isel ato frysient—yn serchog, A gwýr newynog arno a wenent. Nid o gyfoeth y da gofiai-am lwm Lu angen a welai Ond 0 brinder hanerai Y blawd rhwng gwyneblwyd rai. FEL CRISTION. Y Duwddyn yu Frawd iddo-a enwai Mynodd trwy wertdio, Feddu graen crefydd gryno, Ddofn, oddifown iddo fo. 0 fyd glan, trigfod Yoleuni,-ei gred Gai ei grylii (li'wy'r blwydd*i; Yn y Tad y planwyd hi;—ni chadd had Hen gyfeiliornad un gafael arni. I)i-fost fu'i rodfa wastad;' Ei nod oedd cael gwen ei Dad. YN MARW. Gwenai'r nefoedd yn ei wyneb Wrth droi ymaith tua thref; Nid oedd nos yr ymadawiad Yn yr angau, ond dechreuad Y dydd hwyaf iddo ef. Cadw'r arfa,u, cael gorphwysfa, Myn'd o nos, croesawu gwawr, Gado angen, gweled digon, Rhoi y groes, a derbyn coron, Dyna wnai'n ei olaf awr. Wedi byw hyd gyflawn henaint, Byw i'r gwir, a byw i'r da, Glaniodd yn y pur drigfariau- Gerddi yr anfarwol flodau, Llenyrch y tragwyddol ha'. Nid dieithriol iddo ydyw Miwsig p6r yr anthem fawr Genir ar y nefol fryniau Canodd ef ei chyntaf nodau Pan oedd yma ar y llawr. EIN HIRAETH. Mae hiraeth am dano'n naturiol; Yn nghalon ei bobl 'roadd ef Ac nid yw yr hiraetb yn peidio Er gwybod ei fod yn y nef. Ein biraeth am dano yw'r fendith I'n harwain i'r goleu o'r gwyll A'r deigryn a gollir i'r galon o'i eisiau Dry'n enill i'r galon a'i cyll. Pe byddai i'r biraeth droi'n awydd I fyw fel y bu fyw efe, Fe fyddai ein bywyd mewn cydgord A'r bywyd a dreilia'n y ne'. Ystradfellte. T.J. (LLANORFAB).
OYMRAEG YN CAEL EI DYSGU YN…
OYMRAEG YN CAEL EI DYSGU YN YR i YSGOLION DYDDIOL. At Olygydd Y LLAN A'R DYWYSOGAETH. SYR,-Gan fod yr uchod wedi dyfod mor gyff- redin yn Ngbymru, doeth fyddai galw sylw rhieni'r plant at y earn mawr y maent yn gael. Apwyntiwyd, yn ddiweddar, ddau arholydd gan y Bwrdd Addysg yn Llundain, gyda chyflog i bob un honynt o dair punt y dydd am eu gwaith. Nid oes gyda ni ddim i ddweyd yn erbyn y ddau arholydd, ond yr ydym yn credu ei bod yn was- 'traff mawr ar arian y tretbdalwyr i ddysgu Cym- raeg i blant Cymru am y rhesymau canlynol:— Y mae miloedd ar filoedd o lyfrau Cymraeg a Saesneg, bob tu i'r ddalen, yn cael eu cyhoeddi a'u dysgu i'r plant na wyddant ddim ond iaith eu rhieni-iaith y maent yn siarad a'u plant, iaith y mae'r plant yn siarad â'u gilydd, a iaith yn yr hon y bydd canoedd o honynt feirw, er eu bod wedi bod am flynyddoedd yn yr ysgolion dyddiol. yn gwybod dim Saesneg—ddim yn medru siarad Saesneg, darllen Saesneg, na'i hysgrifenu. Cym- raeg yn cael ei dysgu i blant plwyfi gwledig, y mae yn afresymol, ac yn wastraff ar arian. Ni anghofia'r plant byth Gymraeg; ond gwnant anghofio y Saesneg yn hollol os na ymarferant ei siarad beunydd. Y mae yn resynus meddwl fod dros bedair miliwn ar ddeg o bunau'r flwyddyn yn cael eu gwario ar addysg, ac un o bob mil neu lai o'r plant a fedr ysgrifenu pwtyn o lythyr Saesneg, a hwnw yn hynod anmher- ffaith. Pa bryd y daw rhieni i agor eu llygaid, ac i benderfynu na chaiff eu plant ddioddef y fath gamwri ar law yr Awdurdodau Addysg, pa rai sydd yn malio dim, fel rheol, am gyfranu addysg dda i'r plant, ond iddynt hwy gael eu dycbwelyd i'r Cynghorau Sirol ? Fel rheol, pan y mae'r plant yn gadael eu hysgol, un o gant fedr siarad ychydig Saesneg, darllen Ilyfr hawdd Saesneg, neu ysgrifenu pwtyn o lythyr Saesneg. Gwyr yr ysgrifenydd am ddwsinau o blant fel yma yn gadael eu hysgol yn anwybodus o'r iaith Saesneg, a fy marn ostyngedig i ydyw na ddylid dysgu Cymraeg o gwbl i blant plwyfi gwledig, ond yn hytrach Saesneg. Y mae rhieni'r plant yn gyff- redinol yn cwyno yn erbyn y fath drefn afresym- ol, ond ddim yn gwybod pa fodd i ddwyn oddi- amgylch ddiwygiad. Gorfodir pob ysgolfeistr i ddysgu Cymraeg i bob plentyn, byd nes y gadawa ei ysgol, yr hyn sydd yn golled, ac yn gam mawr a'r plentyn, ac fe deimla hyny wedi iddi fyned yn rhy ddiweddar arno. Son am gamwri a gwas- trafi arian, dyma beth ydynt Rieni Cymru, defirowch o'ch cysgadrwydd, mynweh i'ch plant ddysgu Saesneg, a dim Cymraeg, yn yr ysgolion dyddiol, ac, wedi hyny, bydd llenyddiaeth y byd o'u blaen, ac yn agored iddynt.—Yr eiddoch, &c., HIRAETHOG.
COLEG S. COLUMBA.
COLEG S. COLUMBA. At Olygydd Y LLAN A'R DYWYSOGAETH. SYR,-Prin, Mr. Gol., mae angen dilyn F.Ph. Engl. nemawr pellach, gan nad ydyw yn gwneyd ymgais union i egluro yr hyn ddylasai. Mae fel fcwrch daear yn codi tociau yn rhywle arall, gynted ac y chwelir y lleill. Mae'n amlwg nad yw yn gynefin a rheolau dadleuaeth na rhesymeg; ac nad yw wedi arfer ysgrifenu i'r wasg, neu os ydyw, ysgrifena lawer o anghyson- derau rhyfedd iddi. Mae mor anhawdd cael gafael ar y sylwedd yn ei epistolau hirwyntog ag ydyw cael graen ar groen mul. Mae dadleuydd fedr ddweyd Chwefror 4ydd I Eithr yn Lloegr Did yw gradd mewn athroniaeth yn bosibl,' ac ar Mawrth 19eg yn dweyd fod yr haner dwsin graddolwyr sydd yn ffurfio Bwrdd, &c., wedi derbyn eu graddau yn benaf, mewn athron- iaeth yn Mhrif Athrofa I)urbarri," ttihwnt i eiriati 1. Mae yn gwrth-ddweyd bron bobpeth wrth fyn'd ymlaen Ac nid yw yn foddlawn ar hyny; mae yn dwyn llywydd y Coleg i'r un camwedd drwy I briodoli iddo mewn un llytbyr Seisnig beth hollol groes i'r hyn amlygodd yn y llythyr Seisnig cyntaf Cynghorwn y llywydd a'i ddisgyblion i astudio rheolau elfenol dadleuaeth, yn lie dwyn eu graddu mewn athroniaeth i wawd a dirrnyg. Mae Ned (yr hen walch!) yn dweyd fod Rhaid wrth ben a chynffon,' ond attolwg, Mr. Got, onid oes bosibl perswadio Ned i ddweyd wrth B.A. I)tirliam ,both i wneyd hefo rhywbeth heb ben NA chynffon ? Nis gailaf yn fy myw gael gafael ar resymeg F.Ph. Eng. na'r llywydd—mae heb ben na chynffon. 1:1 Ymddengys mae y tir y mae F.Ph. Eng. yn sefyll arno yn awr yw Mae yn dal fod F.Ph. yn deitl anrhydeddus.' Pe buasai wedi boddloni ar y tir yma i gyehwyn, ni fuasai yr ohebiaeth yma erioed wedi dechreu o'm rhan i. Nid oeddwn am ei anrbydeddu na'i ddi-anrhydeddu, Ond gan fod F.Ph. yn parhau i godi tociau, gadawer i mi chwalu y tocyn olaf yma eto cyn myned o'r cae. Os yn y syniad o ladrata neu ) dwyllo mae y brawd yn golygu y term anrhyd- eddus,' nid wyf am ei wrthwynebu o gwbl. Am a wn i, mae wedi talu yn onest am dano, ac mae yn ddigon anrhydeddus iddo. Ond os anrhyd- eddus' yn syniad ac ystyriaeth y byd addysgawl mae'r brawd yn feddwl, gwybydded y byd a'r Bettws nad ydyw mor anrhydeddus a Standard I. Ysgol Elfenol, ac mae mor hawdd i'w enill (ac eithrio y taliad) ag ydyw tystysgrifau safonau'r Ysgol Sul gan yr Hen Gorph yn Ngogledd Cymru. Nid yw y brawd yn hofii y gydmariaeth rhwng y pysgotwyr a Senate Rhydychain, ac y mae yn 'dadansoddi' fy nghydmariaeth. Dywed pe buasai y pysgotwyr yn rhoddi graddau mewn pysgota, buasent yn werthfawr ac yn gydnabydd- edig. Digon gwir dyna yn union y tir yr ydym vn sefvll arno o'r dechreu. Ond pe buasai v I pysgotwyr yn caniatau graddau mewn Groeg a 11 Lladin, byddent, er yn gyfreithiol, yn anghyd- nabyddedig. Ac mae'r gwrthgyferbyniol yr un fath, h.y. pe byddai Senate Rhydychain yn ym- gymeryd & rhoddi graddau mewn pysgota, ni fuasai y byd pysgotawl yn eu cydnabod. A phe buasai Coleg S. Columba yn ymgymeryd a rhoddi graddau mewn gwybodaeth o'r Rbodd Mam, neu rhywbeth cyffelyb, dichon y buasai rhywrai yn eu cydnabod, ond pan yn dechreu rhoddi graddau mewn athroniaeth, maent yn croesi cyfyl tir dieithr iddynt, ac ni chydnebydd neb eu hawdur- dod. Mae y cyfaill mewn berw parthed pwy ydwyf efallai fy mod yn hen gyfaill, meddai. Waeth pwy ydwyf, na phwy yw yntau gwerth addysg- awl F. Ph. Eng.' yw y pwnc dan sylw. Cymer- odd hefyd yn ganiataol mai ato ef yr oeddwn yn cyfeirio, pan ddigwyddais son am un gafodd y F. Ph. wedi methu droion cael ei B. A. Pe buasai y brawd yn cymeryd llai yn ganiataol, buasai yn ymddangos yn well ysgrifenydd yn y wasg nag ydyw. Dywed ei fod wedi chwerthin llawer ar ol darllen fy llythyr diweddaf. Clywais fod eraill wedi chwerthin llawer hefyd ond ni ddywedwn am beth Caiff Ned a'r beirdd cocosyddol egluro. Yn awr, Mr. Gol., yr wyf yn gadael IF. Ph. Eng.' i fyned ar ei ffordd ei hun, a rhoddaf y fraint iddo o gael y gair cyntaf a'r olaf yn y mater. Ond cofied y cyhoedd—yn enwedig yr ebrwyaid-y ffeithiau nodais parthed y Coleg uchod. Peidiwch a beirniadu F.Ph. yn galed am ei fod wedi syrthio i'r abwyd gynygiwyd iddo gan y Coleg uchod. Diameu fod yn ei allu i gael rhywbeth gwell na bogus degree' pe byddai yn ymaflyd ynddi o ddifrif.Yr eiddoch, &c., Union Society, Durham, B.A. Mawrth 24.
GAIR 0 DDIOLCH.
GAIR 0 DDIOLCH. At Olygydd Y LLAN A'R DYWYSOQAHTH. SYR,—Gan eich bod wedi caniatau i'r bardd enwog Ned Puw' gyflwyno i mi ddwy ganig fechan ddestlus, diau y gwelwch y cyfiawnder i minau gael cyfran o'ch gofod i ddiolch iddo. Hyd yn nod pe byddwn fardd di-gynffon, ni ddi- ystyrwn berl o ben llyflant. Ni ddywedais erioed fod gwerth mewn gradd na theitl ond fel y mae'n gymhelliad cryf i efrydiaeth. Dywed ef taw peth chwithig yw cynffon heb ddim yn y pen. Wel, siaraded pawb fel y mae'n teimlo, ac nid wyfmor anfoneddigaidd a dweyd fod Ned Puw ¡ yn dweyd llai na'i brofiad. Dyma gan fach fenthyg i 4 Ned Puw' am yr eiddo ef :— 'Mae genyf gynghor bach i'w ddweyd, Mae'n gynghor da rwy'n credu, Mae'n gynghor hen, a hawdd ei wneyd, Ond nid yw waeth er hyny Y sawl a wnelo'r cynghor hwn, Ni fydd ef ar y golled, CaifF fwy o barch gan bawb, mi wn, A mwy o bres i'w boced A dyma y cynghor, gwrandawed pob dyn, Meindied pawb ei fusnes ei hun.l -Yr eiddoch, &c., F. PH. ENG.
Deoniaeth Lleyn.- -
Deoniaeth Lleyn. (0 dan arolygiaeth y Parch H. R. ROBERTS, Llanengan). GGHEBIAETH,—Ni ddaeth yr un ohebiaeth i law i gyfarfod a'r cais o'r swyddfa i fod yn gynarach yr wythnos hon. Yr wyf yn amgau gair yn gyfrinachol i'r compositor sydd yn euog o adael n allan yn barhaus yn y gair Llanengan, ac o roddi y naill lythyren o flaen y llall yn fy enw i. Gwallau bychain, ond dianghenraid. LLANENGAN.—Rhoddion.—-Y mae Rheithor Llanengan newydd dderbyn at wasanaeth yr Eglwys ddau Glass Cruets with Silver Mountings' heirdd oddiwrth foneddigion fu yn aros yn y plwyf yr haf diweddaf, gan fyn- ychu y gwasanaethau Seisnig, yn enwedig gwasanaeth y Cymun am wyth o'r gloch bob boreu Sal. Rhodd werthfawr bob amser yw cael yr hyn fyddwn yn sefyll mewn angen am dano, ac felly yr oedd yn yr amgylchiad hwn. Hefyd, yr hyn a fawr edmygem ydyw fod y boneddigion cymwynasgar wedi gweled yr eisiau, ac wedi dyfod yn rnlaen i ofyn a fuasai eu rhodd yn dderbvniol genym. Byddant yn cael eu defnyddio am y waith gyntaf yn y brif wasanaeth ar y Pasg nesaf. Ar y traed 11 y mae yn gerfiedig yn ol y black letter style fel y canlyn :—' A.M.D.G. et in hon B.V.M. matus Insularum et seti Aivini Odini ded. D.R.P. et V.N.P. M.CMIX,' Yn Saesneg fel hyn, To the greater glory of God and in honour of the Blessed Virgin Mary, mother of the Isles, and of the holy Aivin Odin. (riven by Douglas Raymond Pelly, and Verena Noelie Pelly, 1909.' LLWYDDIANT EFRYDWYR.—Gwelwn oddi- wrth y LLAN diweddaf fod dau efrydwyr o Sir Gaernarfon wedi enill yn gyfartal y wobr am ddarllen Cymraeg yn Ngholeg Dewi Sant, sef Mr. Griffith Williams, Mynytho, Llangian, a Mr. W. 0. Williams, o St. Ann's, Bethesda. Gan fod y ddau yn adnabyddus i ni, llon- gyfarchwn hwy, a sisialwn yn ddistaw yn. eu clustiau am ddal ati hi o hyd, a dyfod yn well-well yn barhaus. UXDEB DIONIABTH YHGOLION Sm, LLEYN. -Fe gynhelir Cyfarfoi Chwarterol Doabarth Bottwnog, ar ddydd Sadwrn, yr 16ego Ebrill, pryd yr arholir yr ysgolion yn y Maes Llafur oanlynol :Dosbarth Hynaf, 1 Sam. iv. v.; Dosbarth Canol, Actau ix. 1-22, a x.; Dos- barth leuengaf, Hanes Samuel, gan belled ag C, yr a haner cyntaf Llyfr y Parch. A. 0. Evans.J. Wheldon Griffith, ysgrifenydd.
GARTHELI.
GARTHELI. CLADDEDIGAETH.— Boreu dydd Llun, yn mhreswylfod ei merch, Penbont, Tregaron, bu farw yn 83 mlwydd oed, Mrs. Lloyd, gweddw y diweddar Mr. D. Lloyd, Pant, Llanddewi Brefi, a'r olaf o hen deuiu enwog Blaenplwyf, Llanfihangel Ystrad, y rhai oeddynt yn un-ar- ddeg. Yr oedd yn chwaer i Cerngoch, Am- non, a'r diweddar ^Jenkin Jenkin, Blaen- plwydd, enw pa un oedd yn adnabyddus iawn fel Guardian, Cynghorwr Sirol, ac yn en- wedig gyda rhedegfeydd ceffylau a chwn cadno. Dydd Gwener canlynol daeth tyrfa fawr ynghyd i weini y gymwynas olaf iddi, pryd y cludwyd yr hyn oedd farwol o honi mewn elor-gerbyd o Penbont i dy ei hir gar- tref yn mynwent Gartheli, lie y gosodwyd hi I orphwys yn yr un bedd a'i hanwyl briod, yr hwn oedd wedi ei rhagflaenu er's agos wyth- mlynedd-ar-hugain. Yr oedd 60 o gerbydau yn y cynhebrwng, gyda llawer o wyr traed yn ei gyfarfod, llawer o honynt yn wyr adna- byddus a chyhoeddus, ond yn rhy luosog i ddechreu eu henwi. Gadawodd ar ol ar dir y byw dri o blant (a llawer o wyrion), pa rai ydynt yr Henadur W. J. Lloyd, Nantcwnlle J. Lloyd, clerc Bwrdd Gwarcheidwaid Tregar- on, a Mrs. Lloyd, Penbont, gweddw ydiwedd- ar Mr. R. Lloyd, Arolygydd Ffyrdd Gogledd- barth Ceredigion. Mor belled ag y daethum i adnabyddiaeth bersonol o honi, credaf ei bod yn meddu ar nodweddion y gwir Gristion. Yr oedd yn dymuno heddweh a daioni i bawb, ac yn wir garedig i'r tlawd. Nis gwn a ydyw pawb ag oedd yn dwyn cysylltiad a. hi wedi mabwysiadu ei harwyddair hi, sef, Byddwch heddychlon a phob dyn hyd ag y mae ynoch, canys heb hyn ni chaiff neb weled o wyneb yr Arglwydd.' Bydded iddi hun esmwyth hyd ganiad yr udgorn y dydd diweddaf, a cbofi wn ninau sydd ar ol ar dir y byw mae Einioesaiid yw ond enyd-diddim Yw dyddiau ein bywyd, Ein afiach daith sydd hefyd I d'r bedd wrth ddod i'r byd. FESTRI BLWYFOL.—Nos Lun, y 14eg, cyn- haliwyd festri er dewis District Councillor,' neu yn ol yr hen enw (Guardian' i wasan- aethu y Plwyf ar Fwrdd Tregaron. Yr oedd Mr. Daniel Jones, Hendrephylip, wedi gwas- anaethu y Plwyf am chwe' blynedd, ac yr oedd ef yn rhoddi y swydd i fyny eleni; ac yna yr oedd yn rhaid dewis un yn ei le ef. Mae y plwyf yma yn un tawel a thangnefedd- us, a dim rhyw syched mawr fel rheol yn neb am swyddi, a thrwy hyny, gwaith cymell sydd ran fynychaf ar rywun i gymeryd y swyddi rhad yma, a thrwy hyny yr ydys yn y plwyf yn arbed twrf a therfysg yr etholiad. Syrthiodd y dewisiad eleni yn unfrydol ar yr arwerthwr poblogaidd, Mr. E. R. Lloyd, Pen- blodeun. Bydded iddo bob rhwyddineb i gyflawni y swydd yn anrhydeddus. ETHOLIADAU.-Mae y flwyddyn 1910 yn flwyddyn hynod am ei hetholiadau. Dechreu- wyd gyda y lecsiwn fawr seneddol, wedi hyny daeth etholiadau y Cyngorau Sirol, eto mae'r Guardians' yn dechreu swnio mewn rhai manau, ac y mae yn beth eithaf posibl y cawn etholiad seneddol eto cyn bydd y flwyddyn hon wedi tynu ei hanadl olaf. Clywed rhai yn dywedyd fod dynion yn dwyllodrus iawn a chelwyddog yn amser yr etholiadau yma pa ryfedd hyny 1 Mae y cynyich bob amser yn dyfod yr un natur a'r had fyddo wedi cael ei hau. Dyna ddysgir gan flaenoriaid crefydd er's dros bymtheg mlynedd ar hugain. Cofiaf yn dda am etholiad 1874 pan ddaeth y balot i arferiad gyntaf, ac fel yr oedd arweinwyr y bobl-dynion crefyddol, medde nhw, yn eu hyfforddi trwy ddywedyd, Dywedwch chwi wrth y meistr tir y gwnewch chwi fotio gydag ef, ond fotiwch chwi fel arall, oblegid mae y. tugel yn eithaf diogel.' Tebyg i hynyna y maent wedi bod yn dysgu y bobl trwy y blynyddau. Syned y nefoedd a chryned y ddaear wrth feddwl fod dynion yn cymeryd arnynt i arwain y bobl i'r gwynfyd, ond yn lie hyny yn eu gyru i drueni, trwy eu dysgu i fod yn rhagrithiol. twyllodrus, a chelwyddog, oherwydd pob un sydd yn gwneuthur ac yn dywedyd celwydd, ie peth siwr pob un a ddysgo arall i wneyd hyny, plentyn i'r ysbryd drwg ydyw hwnw, canys nid a i mewn i'r ddinas sanctaidd neb ag sydd yn gwneuthur twyll a chelwydd, ond hwy a fyddant o'r tu allan gyda'r cwn a'r llofruddion, &c. Gwnelai y rhai hyny ag oedd yn pregethu ar y lecsiwn yn ystod yr etholiad di weddaf fil gwell gwaith pe buasent yn pregethu tipyn bach ar onestrwydd a geirwiredd, ond beth dal siarad, mae Ymneillduaeth fel Rhyddfrydiaeth wedi cyfnewid i gyd. Yr oedd yr Ryddfrydwr os blynyddau yn ol yn arswydo yr enw Radical, ond heddyw y mae yn ymffrostio yn yr enw, er fod yna lawer o wahaniaeth yn eu dysgeidiaeth. Felly mae yr Ymneillduwr hefyd wedi myned i ddiystvru cysegredigrwydd pob peth (dyna cam cyn- taf cyfeiliornad yn y bywyd crefyddoJ)- di- ystyrn cysegredigrwydd Gair Duw, fel yr oedd prawf yn yr etholiad ddiweddaf trwy eu gwaith yn ei ddefnyddio ar y llwyfanau politicaidd. Nis gwn am ddim yn debycach i daflu gemau o flaen modi a rhoddi y peth sydd sanctaidd i'r cwn, na pheth felly. Di- ystyrant Dy Dduw yn lie ei gadw yn dy gvveddi a tnawl cadwant bobpeth ynddo— cad want gyfarfodydd politicaidd ynddo canant ganeuon etholiadol, &c., ynddynt. Cofiwn fod pethau o'r fath yn achos i'r rhai ieuainc i feddwl yn fach ac yn ysgafn am bethau crefydd—pethau Duw. Er ys blyn- yddau yn ol, llawer iawn ddywedwyd am Sgriw y Meistr Tir, ond heddyw Sgriw y Capel sydd, a phob un yn rho'i tynfa fach iddi os gall efe rywsut, trwy ddywedyd efallai, Os na fotiwch chwi gyda ni, ddeuwn byth i'r capel yna wed'yn.' Neu os bydd yna rywun ag mae yna ofn am dano nad ydyw o'u tu hwy, y mae yn rhaid i'r blaenor neu y bugail fyned i dreio dylanwadu arno, ac os na fydd yna arwyddion sicr ei fod yn iawn, beth wneir eto Mae yn rhaid rhoddi pob gallu a dylanwad ar waith i dreio ei gadw gartref trwy deg neu hagr. Dyna fel y gweithredir heddyw. Pa faint mae y byd yn wella? Pa faint mwy o ryddid sydd heddyw nag oedd haner can' mlynedd yn 011 Pa faint gwell ydyw Sgriw y Capel na Sgriw y Landlord ? -os nad ydyw ryw ychydig bach yn wanach. Pa fodd y collodd yr aur coeth da ei liw ? Pa fodd yr aeth y pleidiau crefyddol a duwiol yn bleidiau politicaidd ? Atebed a ".y1' hyny. —Meurigian,
LLANDEGAI..
LLANDEGAI. DARLITH.—Nos Lun, cawsom ddarlith ddy- ddorol ac addysgiadol gan Mr. Griffith, yr ysgolfeistr. Cymerwyd y gadair gan y ficer, y Parch. D. Andrew Jones. Yr oedd yn ym- wneyd ag Eglwys Groeg, Rhufain, a Lloegr, neu Brydeinig. Yn yr oes oleuedig hon, myn rhai Ymneillduwyr ddangos y fath gaddug o anwybodaeth trwy honi y flaenoriaeth i Bab- yddiaeth, yr hon ni chafodd sangu ar ddaear Prydain hyd y chweched ganrif, pryd yr oedd yma Eglwys, sef ein Heglwys ni (y Cymry), mor foreu a'r*flwyddyn 208. Cafodcl y Cymro cyntaf ei ferthyru mor foreu a'r flwyddyn 304, ac yr oedd ein Heglwys yn cael ei chyn- rychioli yn Nghynhadledd fawr Aries yn Ffrainc yn y lfwyddyn 314. Anfonwydoddi- yma Esgobion, Ofleiriaid, a Diaconiaid, sef y tair gradd. Diolchwyd i Mr. Griffith, ar gynygiad Mr. Williams, Penlan, ac eiliad Mr. Jones, Lodge.
PENBOYR.
PENBOYR. GWASANAETHAU GARAWYS. — Yn y tymor hwn eleni cawsom y fraint o glywed y Parchn. J. E. Jones, ficer Whitland; W. Williams, ficer Llangeler E. Jenkins, curad Pencader W. J. Evans, rheithor Llanfair Orllwyn D. James, curad Llangeler, a W. Powell, ficer Castellnewydd Emlyn. Yr ydym yn disgwyl Arglwydd Esgob Ty Ddewi i'r gymydogaeth ar y dydd cyntaf o Ebrillj. i arddodi dwylaw, yn ol esiampl yr Apostolion Sanctaidd.
ST. ANN'S, BETHESDA.
ST. ANN'S, BETHESDA. GWASANAETHAU Y GARAWYS.-Y wythnos ddiweddaf, cawsom fwynhau gwasanaeth y Parch. James Salt, Llandinorwig, yn St. Ann's, a'r Parch. Benjamin Jones, Penmachno. UNDEB Y MARA U. -Pryd nawn dydd Mercher yn Nhanysgafell, cynhaliwyd cyfarfod o Undeb y Mamau a chafwyd anerchiad dydd- orol gan y Parch. Evan Dav^es, LIanIIechid.
HELYGAIN (ESGOBAETH LLANELWY).
HELYGAIN (ESGOBAETH LLANELWY). Bydd yn dda gan gyfeillion y Parch. J. F. Rees, rheithor Helygain (gynt Caerwys) glywed fod Kenneth, ei fab hynaf (yn ei 14eg oed), wedi enill ysgoloriaeth gwerth 30p. y flwyddyn, yr hon a rydd drwydded iddo i ysgol ragorol Rossal. Ysgolor ydyw o Colet House, Rhyl, ac y mae ei lwyddiant wedi rhoddi boddhad neillduol i'r 'Principal,' ac ni raid ychwanegu i'w rieni dedwydd. Gyda'r llwyddiant hwn caiff Kenneth y manteision addysgol goreu yn bosibl, ac eled y mebyn ieuanc gobeithiol hwn yn mlaen (yn awr wedi cael ei droed yn ddisigl ar yr ysgol) nes cyraedd un o binaclau anrhydedd byd neu Eglwys.
LLANDDULAS.
LLANDDULAS. CHURCH HOUSE.-Dydd Sadwrn di- weddaf, gorhpenodd chwarelwyr Llanddu- las eu gwaith ynglyn a'r Church House' sydd i'w godi yn fuan. Dyddorol oedd edrycli ar nifer dda, Sadwrn ar ol Sadwrn, yn rhoddi eu g-waith er mwyn hyrwyddo y mudiad yn ei flaen. Ymgyiixerodd yr Egiwyswyr a'r gwaith o gloddio y seiJiau ar ba un y codir yr adeilad. G-weithiodd nifer o honynt dros haner cant o oriau yr un. Gellir dywedyd iddynt wneuthur yr hyn a allasent. CYNGOR PLWYF.—Nos Lun, y 14eg o'r mis liwn, cynhaliwyd y cyfarfod plwyf blynyddol. Y flwyddyn hon dangoswyd y brwdfrydedd nid bychan ynglyn a'r cyfar- fod. Yr oedd yr ystafell yn orb wn o bleidleiswyr. Daeth 14 o ymgeiswvr i'r maes, er llanw saith o seddau. Etholwyd y Parch. J. W. Thomas, curad, i'r gadair. Pleidleisiwyd ar ran y 14 ymgeiswyr, a chafwyd fod y saith blaenaf vii Eglwvs- wyr, a Canon C. F. Roberts yn eu mvsg. Ar ol hyn daethpwyd i gytundeb, ac ar hyn o bryd, ceir pedwar o Egiwyswyr ar y Cyngor, a thri o Anghydffurfwyr.
PENRHOSGARNEDD.
PENRHOSGARNEDD. GARAWYS.—Nos lau diweddaf, cawsom bregeth gan y Parch. D. T. Jones, B.A., Eglwys St. Mair, Bangor. Y mae Mr. Jones yn bregethwr ieuanc addawol iawn. Rhodd- odd anogaeth ar i bob Cristion fyw bywyd dilychwin er esiampl i'r rhai tu allan i gylch yr Eglwys. Y GENITADAETH.-—Nos Wener diweddaf, yn ysgol y Faenol, traddododd y Parch. Morris Roberts, Rhosybol, anerchiad ar y genhadaeth, Gresyn na fuasai mwy wedi dyfod yn nghyd i glywed yr anerchiad ardderchog, ac i gefn- ogi yr achos cenhadol. Ar ddiwedd y cyfar- fod cynygiodd Mr. Edwards bleidlais o ddi- olehgarweh i'r cenhadwr, yr hyn a eiliwyd gan Mr. H. Jones.—Aethioy,