Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Adolygiad y Wasg.
Adolygiad y Wasg. ANTHEM— PWY A ESGYN I FYNYDD YR ARGLWYDD 1" (Psalm xxiv. 3—10), gan Mr. Morris Griffith, A.C. (Pencerdd Eifion), ac i'w chael ganddo o GIaslyn Fawr, Chwilog, R.S.O. Ar ol gwrando ar yr anthem hon yn cael ei chanu gan gerddor medrus, gallwn yn ddi- betrus ei chymeradwyo i gorau gogyfer a gwyliau a chymanfaoedd. Y mae yn syml a thlws, ac nid oes genym amheuaeth na ddaw yn anthem boblogaidd. Llongyfarchwn yr awdwr ieuanc ar waith mor dda a chlasurol, a hyderwn y bydd i'r gefnogaeth a dderbynia ei ddyrchafu uwchlawunrhyw bryder arianol, Teimlaf mai ein dyledswydd yw cefnogi awdwyr ieuainc Cymreig. Boed lledaeniad ehelaeth i'r anthem ragorol hon. ISFRYN.
Nodion o Lanau Tegid.
Nodion o Lanau Tegid. LLANUWCHLLYN,—Da genym ddeall fod golwg addawol am gyfarfod llwyddianus yma ddydd Llun y Pasg. Dywedir i ni fod y cystadleuwyr yn lluosog mewn awen, celf a chan, felly gellid disgwyl hwyl. Y Barwnig o Wynstay fydd yn llywyddu yn nghyfarfod yr hwyr, a'r Parch. W. Hughes, y Deon Gwladol, sydd yn llywyddu yn nghyfarfod y prydnawn. LLANDDERFEL.—Mae y Parch. Price Evans, rheithor y plwyf hwn, yn myned i briodi ddecbreu y mis nesaf. Hawddamor iddo ef a'i briod yng nghwlwm serch. Y PARCH. T. LLOYD.—Pleser digymysg genym fel plwyfolion fod ein hen Reithor wedi cael ei benodi yn Archddiacon Llanelwy. Rhwydd hynt iddo yn ei swydd bwysig yw ein dymuniad oddeutu y Glanau yma. YSGOLFEISTR.—Mae Mr. W. Gordon Price, o Rhymni, wedi cael ei benodi yn ysgolfeistr i Ysgol Genedlaethol-y Bala, a bydd yn dechreu ar ei waith Ebrill 4ydd. Dywedir i ni ei fod yn gerddor safonol, yr hyn fydd yn gyfnerthiad i ni yma. Ceiff groesaw calon genym. Gobeithio y bydd Mr. Price mor ddefnyddiol a'r diweddar Mr. Llew G. ap Jones (coffa da am dano). CHURCH HousE.-Mae dyhead aelodau y Church House am gael aelwyd o eiddo eu hunain yn gwawrio. Cawn fod yma bwyllgor cryf a dylanwadol wedi ei ddewis i chwilio am le ac i ymorol am gynlluniau, ifec. Yn ol pob argoel y tebygolrwydd yw y bydd y bechgyn yn cyfarfod mewn Church House newydd y gauaf nesaf. EIN CURAD.-YR oeddyni yn falcho glywed fod y Parch. G. 0. Griffith, ein curad, wedi codi allan. Y mae wedi bod yn wael er's wythnosau; gobeithio y ca adferiad buan. Y mae ef bob amser mor chwanog i waith, fel mai chwith genym ei golli o'n plith.
LLANBEDR-PONT-STEPHAN.
LLANBEDR-PONT-STEPHAN. YR WYTHNOS SANCTAJDD.- Yn ystod yr wythnos hon, cynhelir gwasanaethau yn Eg- lwys St. Pedr fel y canlyn :-Gweinyddiaci o'r Cymun Bendigaid am 8 o'r gloch ar foreuau .1 ZD Llun, Mawrth, Mercher, a Ian, a gwasanaeth- au boreuol am 11, Gwasanaethau a phre- gethau am 7 30 nos Lun a nos Fawrth nos Fercher a nos Ian, gwasanaethau parotoad ar gyfer Cymun y Pasc. Dydd Gwener y Grog- lith bydd y gwasanaethau fel y canlyn :—8 y boreu, gwasanaeth y Cymun gwasanaeth a phregethau am 10, 11-30 y boreu, ac am 7 yn yr hwyr. Cynhelir gwasanaeth Seisnig hefyd am 7 yn yr Ysgoldy, a gwasanaeth a phregeth Gymraeg yn Pentrebacham 7. Sul y Pasc, gweinyddir y Cymun Bendigaid yn eglwys y plwyf am 7 a 10 yn Gymraeg, ac vn ,Saesneg am 8 a 11. 30; yn St. loan, Peutre- bach am 10, ac yn St. Mair, Maestir, am 11. 30. CYNGOR EGLWYSIG.- Dydd Mercher nesaf, etholir aelodau ar y Cyngor Eglwysig Plwyfol drwy bleidleisiau y Cymunwyr yn yr Ysgol- dy. Mae enwau yr ymgeiswyr i gael eu hanfon i Mr. D. F. Lloyd, un o'r wardeniaid, erbyn dydd Sadwrn, ac os dymuna unrhyw un a gynygir dynu yn ol ceir cyfleusdra i wneyd hyny ddydd Mawrth. Bydd y Cyngor yn cynwys 3p. o aelodau fel y caiilyi-i Offeiriaid y plwyf, 3; Wardeniaid St. Pedr, 2 cynrychiolwyr yr Ysgolion Sul, 4 cyn- rychiolwyr cor eglwys y plwyf, 2 Warden- iaid Maestir a Pentrebach, 2 chwech o sides- mm sydd yn awr' mewn swydd chwech o ddynion, a chwech o ferched. CONFFIRMASIWN.—Disgwylir Arglwydd Es- gob Ty Ddewi yma i gynal gwasanaeth y Conffirmasiwn ddydd Llun, Ebrill lleg.—X.
GWASANAETHAU Y GROGLITH A'R…
GWASANAETHAU Y GROGLITH A'R PASG. Bydd yn dda genym dderbyn ad- roddiadau am wasanaethau y Grog- lith a'r Pasg i'w cyhoeddi yn y LLAN nesaf. Dylent fod mewn llaw erbyn boreu ddydd Mawrth.
Ty'r Arglwyddi.
Ty'r Arglwyddi. Dyma brif bwnc y dydd yn y Senedd y dyddiau diweddaf hyn. Pa fodd i'w ddiwygiol Y mae y darlithiau mwyaf dysgedig a doniol wedi eu traddodi yn Nhy'r Arglwyddi gan y penaf yn ein teyrnas. Agorwyd y pwnc gan Arglwydd Rosebery. Dywedai fod y Gwydd- elod oedd am ddiddymu gallu y Ty yn deall eu ham can, sef cael hunan-Iywodraeth trwy y cynllun hwn, a bod y Blaid Lafur yn gweith- redu i'r un cyfeiriad er mwyn cyraedd eu hamcan o wneyd pob peth yn eiddo cenedl- aethol. Ond am y Rhyddfrydwr oedd yn cyd-weithredu a'r ddau ddosbarth uchod, nis gwyddent i ba le yr oeddynt yn cyfeirio eu camrau. Byddai Prydain yn hynod anghyson &'i hun trwy ddiddymu Ty'r Arglwyddi. Byddai mewn effaith yn dweyd wrth ei Thref- edigaethau, Mae yn iawn i chwi, pool Can- ada, i gael Senedd ac Ail Ystafell, ond yr ydym ni gartref yn myned ymlaen heb y fath beth.' Yr ydym yn eich eynghori chwifchau yn Awstralia i lywodraethu trwy eich Ty Arglwyddi a'ch Ty Cyffredin, ond yr ydym ni yn gwneyd ffwrdd a'r fath beth yn Lloegr.' Gwir yw i ni eich cynghori chwi yn Neheubarth Affrica i sefydlu eich Llywodr- aeth trwy fod genych ddau Dy, yn cyfateb i ni yma, ond mae Mr. Lloyd George wedi ein dysgu ni yn awr nad oes dim eisiau y fath beth arnom ni yn Lloegr.' Dyma ynfyd- rwydd. Yr oedd Oliver Cromwell yn un o'r teyrn cadarnaf a welodd. ein gwlad. Ei brofiad ef oedd nas gallai barhau i lywyddu heb fath o Dy'r Arglwyddi i gyfryngu rhyddo ef a Thy'r Cyffredin. Felly doeth fyddai i ganlynwyr Cromwell astudio ei hanes cyn penderfynu diddymu Ty'r Arglwyddi, oblegid y mae dileu veto Ty'r Arglwyddi yn cyfateb i ddileu y Ty. Heb allu i atal mesurau croes i'w cydwybod, ni byddai sefyllfa yr Arglwyddi ond sham i ddallu'r wlad. CYFLWR Y TY. Mae Ty'r Arglwyddi fel y mae yn effeith- iedig, ac yn ddigon nerthol. Yma ceir tua 200 o oreuon y byd. Dynion dysgedig, profiadol, a mwyaf cymwys a fedd y byd fel Seneddwyr. Eto addefir fod nifer yr aelodau yn rhy luosog, y ty yn rhy gyfyng iddynt i eistedd ynddo, ac nad oes cyfleusdra i'w holl aelodau i gymeryd rhan yn mhynciau y dydd ynddo. Dywedai Arglwydd Landsdowne fod eisiaugweled mwy o Ryddfrydwyr yn y Ty; fod yn ngallu'r Ceidwadwyr i wneyd a fynent yn bresenol. Ebe We can out-vote you and out-talk you;' ond nid gwaith bawdd yw cyraedd yr amcan hwn, gan fod Rhyddfryd- wyr yn troi yn Geidwadol ar ol gadael Ty'r Cyffredin i fyned i Dy'r Arglwyddi. Y CYNLLUNIAU. Pe byddai aelodau Ty'r Arglwyddi yn cael eu hethol, eu tuedd fyddai hawlio yr un gallu a Thy'r Cyffredin, gan haeru eu bod hwy yn cynrychioli'r werin fel hwythau. Pe byddid yn ethol un rhan o'r Ty i gyfarfod a nifer o'r Arglwyddi sydd yn eu seddau yn rhinwedd eu safle deuluol, byddai hyn megis gosod darn o frethyn newydd ar hen ddilledyn, ac yn tueddu i'w rwygo. Aethai y cyfryw i sefyll yn erbyn yr Arglwyddi, gan haeru nad oedd- ynt yn cynrychioli y werin. Dywedir am roi experts mewn dysgeidiaeth yn y Ty, ond nid yw y cyfryw yn fawr fel gwleidyddwyr. Awgrymir rhoddi seddau i rai o brif ddynion ein Trefedigaethau yn y Ty; ond nid yw y Trefedigaethau yn awyddus am hyn, ac ni fyddent yn foddlon gweled eu goreuon yn gwario eu harnser yn Nhy'r Arglwyddi. Pe dewisid nifer o aelodau gan y Cynghorau Sirol, byddai hyn yn anogaeth a chefnogaeth 1 ddwyn gwleidyddiaeth i fewn i faterion sirol a lleol, ac yn niweidiol. Pe rhoid sedd- au i brif ddynion enwadau crefyddol, byddai hyn yn gefnogaeth i bregethwyr yr Efengyl i c droi allan yn wleidyddwyr ar draul yr Efengyl. Pe amddifadid aelodau presenol Ty'r Ar- glwyddi o'u seddau heb roddi cyfleustra iddynt i gael llais yn y Ty, cauid drws y Ty yn erbyn rhai o brif ddynion y deyrnas sydd yn meddu dylanwad mawr mewn cylehoedd pwysig ac yn gwneyd gwaith mawr yn rhad dros y cyhoedd yn eu hardaloedd ac yn golofnau dan y fyddin yn ol cynllun Mr. Haldane o ad-drefnu y milwyr. Addefir fod nifer yr aelodau yn Nhy'r Arglwyddi yn rhy luosog. Os bydd person yn meddu sedd yn y Ty hwn, nis gall fod yn ymgeisydd am sedd 0 1 yn Nhy y Cyffredin. Y mae degau o'r dyn- ion goreu yn aelodau o Dy'r Arglwyddi, heb fawr gyfleusdra i gymeryd rhan yn nadleuon y Ty am fod cynifer o ddynion galluog yno eisoes at y gwaith. Mae eisiau y cyfryw rai arnom yn Nhy'r Cyffredin, sydd wedi dirywio yn ddiweddar yn ol barn ein prif ddynion. CYNLLUN ARGLWYDD LANSDOWNE. Mae yn cymeradwyo rhoddi mantais i nifer o'r Arglwyddi ddod yn aelodau o Dy'r Cyffredin. I aelodau Ty yr Arglwyddi i ethol nifer arbenig i fod yn aelodau Ty'r Arglwyddi. I ddewis nifer o brif Ryddfryd- Wyr y dydd sydd yn meddu mwyaf o ddylan- "Wad a chymhwysder i fod yn aelodau o Dy'r Arglwyddi am dymor, neu am eu bywyd, a'u gwneyd yn hollol annibynol. Ni fuasai yr Arglwyddi yn colled u eu hunain trwy y cynllun hwn, a buasai y ddau Dy mewn safle i gyd-weithredu yn well yn y dyfodol. T. MEREDITH WILLIAMS,
Y Ddadl Oddiwrth Gynilun.
Y Ddadl Oddiwrth Gynilun. [GAN GURAD EGLWYS GYMREIG SENGHENYDD], Y chydig wythnosau yn ol, ymdrechasom ymwneyd a'r gwahanol ddadleuon sydd yn profi y tebygolrwydd fod yna Achos Cyntaf i'r cyfanfyd, a cheisiasom mewn modd digon anmherffaith ddangos nad yw y gwrthwyneb- iadau ddygir yn mlaen gan Agnostiaid ac eraill i'r dadleuon hyny yn meddu sylfaen mewn sylwedd na ffaith. Yn yr erthygl hon, carwn osod gerbron eich darllenwyr yr hyn a elwir Y ddadl oddiwrth gynilun,' a'r hon yn ddiau sydd mewn modd grymus iawn yn dan- gos y tebygolrwydd fod pobpeth yn byw, yn symud, ac yn bod yn yr Hanfod Dwyfol. Mae chwe' diwrnod y cread, neu i fod yn fwy cywir, chwe' gris ddadblygol yn Natguddiad y Goruchaf o'r deddfau ag sydd yn ffynu yn' y bydysawd, yn ein dwyn wyneb yn wyneb ag amryw wyddonau, pob un o ba rai saif yn ei le gosodedig. Daw gwahaniaeth cydrhwng y ddaear a'r moroedd cyn bod son am lysieu- aeth, a daw llysieuaeth cyn bod son am anianeg. Mater ag yni yw y defnydd yn llaw'r Archadeiladydd, ag sydd yn tyfu yn oriel uwch oriel o fydoedd yn nghwmpas di- derfyn gofod. Dyna'r bywyd llysieuol mor amrywiol yn ei arweddau a'r tywod arlan y mor, neu y ser afrifed oleua wybr nos, yn cynhal ac yn ategu bywyd anianol. A dyna'r bywyd anianol yn babell glyd i'r bywyd meddyliol. Buan iawn y gwan- ychir y meddwl gan wendid corftorol. A dyna'r bywyd meddyliol yn deml i'r Ysbryd. Mawr yw dyn er ei holl fychander oblegid, er ei fod ar y naill law yn gyfroddedig a bod- olaeth yn ei man gwanaf, y mae, ar y llaw arall, yn ei chyffwrdd pan y gwisga ddelw'r Duwdod. Nid yw y ddadl oddiwrth gynilun, mewn modd yn y byd, yn cael ei gwanychu gan athrawiaeth dadblygiad. Mae Eglwys Gadeiriol Llynlleifiad heb ei chwblhau yn awr, er fod yr adeiladwyr wedi bod yn gweithio ar yr adeilad am y pedair blynedd diweddaf. Pe buasai'r adeilad wedi ei gwbl- hau mewn chwe' mis, ni fuasai hyny yn fwy o brawf o gynllun na'i fod i'w chwblhau mewn chwe' mlynedd. Yn wir, mae'r cyn- llun yn dyfod yn fwy amlwg a dealladwy yn 01 yr amser gymerir i'w gario allan. Yr oedd 'model' o'r Eglwys Gadeiriol grybwylledig yn amgueddfa Llynlleifiad pan osodwyd i lawr y gareg sylfaen. Mae genym ninau y I model' o adeiladwaith Duw yn yroractau ysbrydoledig, ac yn ein cylchynu mae'r adeil- adwaith ei hun. Mae'n dangos ffyddlondeb mawr i'r model,' eithr adeiladu y mae Duw yn awr. Mae gan ddyn i esgyn. Mae gan genhedloedd i ddadblygu. Mae'n rhaid distewi llais aflafar cenfigen, malais, digofaint, chwant, a gormes, gan gynghanedd fuddugoliaethus cariad. Ychydig genhedlaethau yn ol edrychid ar dduwinydd- aeth naturiol Paley fel meistrolwaith peni- gamp, ac yn arddangos y ddadl oddiwrth gynllun yn y bydysawd yn ei gwisgoedd goreu. Bu llyfr Paley yn un o destynau arholiad Caergrawnt am oesau. Yehydig o glerigwyr sydd heb wybod am dano. Pwy sydd heb wybod am ddadl yr oriadur ? Wel ychydig flwyddi yn ol ymddanghosodd Charles Darwin ar y maes, a rhoddodd i'r byd waith gwyddonol gwerthfawr Cychwyniad hiliogaethau.' Syfrdanwyd y byd gwyddonol ddim llai na'r byd duwinyddol gan y gwaith meistrolgar hwnw. Yr oedd yn ffrwyth ugain mlynedd o efrydiaeth hunan-ymwadol o wahanol ymddanghosion bywyd. Diau fod y gwr mawr ac athrlithlawn yn gobeithio, ar I I byd llinellau anianaeth a bywydeg, ddargan fod y maen athronyddol fuasai yn dadrys holl anhawsderau bod. Beth yw y deddfau y mae efe yn proffesu fod wedi eu darganfod 1 (1) Detholiad naturiol, (2) gor-fucheddiad y teilyngaf, (3) ac etifeddiaeth. Nid wyf yn pro- ffesu unrhyw gysylltiad a'r coeg-ostyngeid- rwydd ddesgrifir mor-feistrolgar gan Dickens o dany titllJriahHeapyn David Copperfield, eithr dywedaf nad wyf yn honi cymhwysder i basio barn ar seiliau y casgliadau ag y mae Darwin wedi dyfod iddynt. Er mwyn hyny, buasai yn ofynol i mi neu unrhyw un arall dreulio ugain mlynedd i wylio yn fanwl ac yn wydd- onol pob arwedd ar fywyd y gwahanol gread- uriaid ddaw dan ei ymdrafodaeth. Gallwn pa fodd bynag ymwneyd a'i gasgliadau. Ym- drecha ddangos fod y deddfau a enwais yn cyfrif am bob math o fywyd, a thybia yr alltudient y syniad o gynilun o'r bydysawd, ac y rhoddant daw ar bob llais ddywed fod Duw yn Greawdydd, Amddiffynydd, a Chyn- haliwr y cyfanfyd. Nis gallaf weled fod ganddo yr un hawl i gyrhaedd y casgliad yna oddiwrth y deddfau a enwais. I ddychwelyd yn ol at gymhariaeth yr Eglwys Gadeiriol, gwelais droion y Scaffolding, y peiriant i ddirwyn i fyny y meini mwyaf aruthrol, ac wedi hyny y peiriant ar y scaffolding i gaboli ac i ddwyn y maen i'w faint priodol cyn ei osod ar y rnur. Nid yw y rhai yna i'w gweled yn y model. Beth pe buasai rhyw un yn dweyd ar ol gadael yr amgueddfa, a dyfod wyneb yn wyneb a'r adeilad: Non- sense Nid oes yna ddim cynllun ynglyn a'r Eglwys Gadeiriol. Y scaffolding a'r peirianau acw sydd vn cyfrif am y cwb1.' Ni fuasem yn ei ystyried yn gryf mewn Logic,' ys y dywed y gwyr cynffonog.' Buasai gweled y scaffolding a'r peirianau yn dangos y cyfryngau ddewisiwyd i gario allan y cyn- llun, unrhyw un o synwyr cyffredin. Dyna yn gymhwys hanes y deddfau ddarganfyddodd Darwin mewn bywydeg. (1) Dyna ddethol- ¡ iad naturiol. Beth yw ond Scaffolding y Goruchaf yn adeiladwaith natur 1 Mae byw- yd ar hyd y llwybr hwn yn cyflymu i gyn- yrchu bywyd, ac i'w gynyrchu yn y fath fodd fel ag i adael natur yn gyfoethocach o mater- ial nag o'r blaen. (2) Dyna ddeddf gor- fucheddiad y teilyngaf rachefn. Beth yw honyna, ond peiriant i ddwyn y meini goreu i'r Scaffolding. Trwy hwn dyrehefir cread- uriaid i bwynt uwchaf eu perffeithrwydd. Os yw yr amcanion yn aruchel, yna mae'r modd- ion i'w cyrhaedd, hyd yn nod pe yr achosent angeu a phoen, yn cael eu llwyr gyfreithloni. Pan y gwel gwlad fod ei rhyddid yn cael ei fygwth gan ymyriad teyrnas arall, nid am genbedlaeth ond am genedlaethau, ni phetrusa ddadweinio'r cledd, a rhuddo maes y frwydr a gwaed ei meibion goreu a dewraf. Rhaid cerdded dros gyrph ei dewrion i fuddugol- iaeth, a bydd pris y fuddugoliaeth yn mesur gwerth en rhyddid. Nid yw y profiad yn y frwydr yn un hapus. Mae aberthau mawr yn cael eu gwneyd. Mae calon y genedl ar ei phrawf, ond mae'r cyfan yn cyflym ddadblygu elfenau goreu ei 'chymeriad. Ac os na all gyfodi i'r tir yna o wroldeb ac annibyniaeth, cyll ei bodolaeth, ac nid yw y byd dylotach o'i cholli. Dyna'r egwyddor mewn bywydeg. Mae'r bywyd goreu yn aros. Mae'r ei wedi enill ei ddealldwriaeth drwy fyrddiwn o ym- drechfeydd, a'r Hew ei nerth, a'r hydd ei gyflymdra trwy'r un cyfrwng. Dyna ddeddf etifeddiaeth drachefn. Nid yw amgen na pheiriant anffaeledig y Goruchaf i gadarnhau adeiladwaith natur. Wedi enill y goron trwy ddeddf gor-fucheddiad y teilyngaf, cedwir y goreu trwy ddeddi etifeddiaeth. Yn hytrach na bod y deddfau hyn yn alltudio y syniad o bwrpas Dwyfol yn y cyfanfyd, maent mewn modd hyawdl yn tystio i'r gwirionedd hwnw. Pwy all ddarllen hanesiaeth naturiol heb weled y deddfau rhyfeddol hyn wedi gweith- redu yn anffaeledig er cynydd a dadblygiad hiliogaethau is-fywyd y byd 1 Ac yn y fan yma, ni fydd yn anmhriodol i ni sylwi, er cymaint yr amheuaeth parthed dilysrwydd llyfr Genesis, ei fod yn cludo un prawf cadarn iawn o'i ysbrydoliaeth. Dywedir yn mhenod- au agoriadol y llyfr fod lly wodraeth yr anif- eiliaid wedi ei roddi i ddyn. Cyd- nabyddir gan yr uehfeirniaid mwyaf eith- afol fod y llyfr yn rhedeg yn ol i ddyddiau Ezra a Nehemiah. Nid oedd son am ddadblygiad yr adeg hono, ac felly nis gellir dweyd fod y cyfryw fynegiad wedi ei n wneyd er cyd-daraw a'r athrawiaeth hono. Mae adnabyddiaeth dyn o'r deddfau a enwais yn rhoddi iddo gwbl ymherodraeth dros yr- is-anifeiliaid. Ewch i erddi Kew, a chwi a welwch amryw fathau newyddion o blanhig- ion wedi eu dwyn i fod, trwy ddefnydd dynol o'r deddfau hyn. Ewch i arddangosfeydd mawr anifeiliaid, a chwi a welweh ddyn, ar linellau y deddfau a enwais, wedi perffeithio breeds neillduol o anifeiliaid, ac wedi galw rhai eraill i fod. Edrychwch ar hanes gwleidyddol, cym- deithasol, a chrefyddol y byd, a chwi a wel- wch taw trindod galluoedd dadblygol y byd yw detholiad, gorfucheddiad, ac etifeddiaeth. Dyna'r genedl Israel. Detholwyd hi yn gyf- rwng datguddiad Dwyfol i'r byd ar bwys ei chymhwysderau crefyddol. Nid oedd ond un Abraham yn yr holl fyd pan y galwyd ef o Ur y Caldeaid, i sylfaenu cenedl offeiriadol. Dyna Groeg. Dyna'r ymherodraeth gyda'r del- frydau cymdeithasol goreu yn nydd ei mawr- edd. Dyna Rhufain drachefn yn cynrychioli y gallu gwleidyddol mwyaf a welodd y byd. Mae'r holl alluoedd yma yn cyd-gwrdd yn ymyl Mynydd yr Olew-wydd, ac yn derbyn yn moeseg y Gwaredwr yr unig gyfrwng i'w cadw ar un aelwyd, i weithredu yn y ber- thynas briodol i'w gilydd er daioni cyffredin dynol ryw. Er mor anmherffaith ein byd, mae'n gysur meddwl fod pob cenedl yn edrych ar bregeth Mynydd yr Olew-wydd fel y gyfres oreu o reolau i lywodraethu cymeriad unigolyn, cymdeithas, cenedl, a'r byd. Wel beth yw y pwrpasau 1 Pob bywyd yn gweinidogaethu i ddadblygiad y bywyd ysbrydol yn ein byd. Dyna un pwrpas mawr a gogoneddus a welwn mewn dadblygiad. Pob crefydd, pob cym- deithasiaeth, pob gwleidiadaeth, yn cym- hwyso eu hunain i lywodraeth Mab y Dyn yw y pwrpas arall a welwn wrth edrych ar hanesiaeth y byd yn ngoleuni deddf dad- blygiad.
DYLIFE, MALDWYN.
DYLIFE, MALDWYN. CYFARFOD ADLONIADOL.-Nos Wener, y 18fed cyfisol, yn yr Ysgoldy, cYllhaIiwyd cyfarfod adloniadol gan blant yr ysgol ddyddiol, yn cael eu cynorthwyo gan amryw mewn oed. Yr oedd y plant wedi eu parotoi yn ofalus er's wythno-aa gan Miss Ellis, yr athra wes, ac aethant drwy en gwaith o ganu, adrodd, dadleu, &c., yn rhagorol, nes tyny cynieradwyaet'" uchel y dorf oedd yn eu gwrando. Arweiniwyd y cyfarfod gan y Fioer, a gwasanaethodd Airs. Headley, Ficerdy, fel a-ccompanist i'r c-tatorion. Heblaw y plant cymerodd y rhai canlynol ran yn y cyfarfod:—Mr. Richard Evans, Blaentwymyn; Evan Davies a'i barti; Idwal Davies a'i barti, Miss Evans, Post Office; Mr. Richard David Davies, William Tudor, Albert I Roberts ac eraill. Cawsom gyfarfod rhagorol, a'r'Ysgoldy yn orlawn o wran- chwyr. Y mlie clod arbenig yn ddyledus i Miss Ellis am y drafferth fawr a, gymer- odd i addysgu'r plant i'r fath berffeith- rwydd. Wedi y diolchiadau arferol. ter- fynwyd cyfarfod a hir g-ofir.
IY Llywodraeth mewn Helbul.
I Y Llywodraeth mewn Helbul. I APELIAD ARALL I GAEL EI WNEYD AT Y WLAD. Y newyddion pwysicaf yw fod y blaid Ryddfrydol yn trefnu'n ddyfal ar gyfer etholiad buan. Yr oedd bywiogrwydd a phrysurd-eb mawr yn adran y Prif Chwip yn Downing Street ddydd Sadwrn. 1 9 Dywed Mr. Jesse, Herbert fod y Prif Chwip yn trefnu i ymladd pob sedd a, ddelir yn awr gan yr Wrthblaid, ac nid oedd sail i'r son y bwriedid gadael llawer etholaeth heb ornest ynddi o gwbl. Ceir liuaws- o ymgeiswyr Rhyddfrydol wedi eu dethoi eisoes, a, fchrefnir ar gyfer ymgyrch egniol ar ran y Gyllideb, yn erbyn Ty'r Arglwyddi, a thros Fasnach Rydd. Treuliodd y Prif Weinidog y Sul yn Llundain, a, bu'r Prif Chwip mewn ym- gynghoriad åg ef. Wrth siarad yn Lerpwl, ddydd Sul sylwodxl Mr. John Redmond, A.S., nad oedd y Blaid Wyddelig yn gwrthwynebu y GylKdeb ar ei theilyngdod neu ei han- nheilyngdod, ond rhaid oedd i allu Ty'r Arglwyddi gael ei drafod gyntaf. Yr oedd yn rhaid cael ystrywiau chwyldroadol mewn brwydr chwyldroadol, ac nid oedd y Blaid Wyddelig am daflu heibio eu r herfyn cryfaf, sef rheolaeth cyllid y wlad. Wrth siarad yn Manchester ddydd Sadwrn, sylwodd Mr. Churchill y byddai i drafodaeth yr Arglwyddi ar eu gallu ben- clerfynu tynghed y Senedd, a, cliymhellai ei bleidwyr i barotoi ar gyfer brwydr fyddai'n ddigymhar o lym ac angerddol, ac o dorai allan yn mhen ychydig wythnosau. Yn Merthyr, ddydd Sadwrn, dywcdai Mr. Keir Hardie fod ymddygiad y Llyw- odraeth o berthynas i'r Arglwyddi yn llwfr. Byddai iddynt fyned at y wlad ar yr un pwnc ag o'r blaen, yr hyn a ddan- gosai nid diffyg gwroldeb yn y Weinydd- iaeth ond ofn y canlyniadau. Dyma ddywed y 'Manchester Guardian:' -Mae geiriau Mr. Herbert yn werthfawr am y dangosant nad yw'r Llywodraeth yn gweled ei bod yn bosibl iddynt drechu yr anhawsderau a ddaeth i'w cyfarfod, ac felly fod etholiad yn anocheladwy. Yn 01 pob arwydd daw'r apel at y wlad yn fuan, ac o bosibl y daw fel y prophwyd- odd Mr. Redmond o fewn ychydig wyth- nosau. Bu adeg pan yr ymgynghorodd Mr. Birrell, Mr. Lloyd George, Mr. Red- mond, Mr. Dillon, a, Mr. T. P. O'Connor, pan y tybid fod siawns i ddod i drefniant alluogai y Llywodraeth i wynebu'r ystorni, ond daeth eraill heblaw yr arweinwyr Gwyddelig i bwyso ar y Prif Weinidog. Yr oedd Mr. Redmond yn gryf dros fynu yr oil a hawliai y Gwyddelod, ac yr oedd gwaith y Llywodraeth yn cyfyngu y cyflenwadau i chwech wythnos yn profi nad oeddynt yn tybio y gallent ddal eu safle fawr hwy na hyny. Hyd yn nod pe na byddai dim anhawsderau o fewn y blaid ei hun, credid y byddai i ymddygiad yr Arglwyddi achosi apel bellach at y wlad. Credir fod gwaith y Prif Chwip yn cael ei hyrwyddo trwy awdurdod lawn y Llywodraeth canys bu y Chwip mewn ymgynghoriad a'r Prif Weinidog ddiwedd yr wythnos. Dywed Mr. Austin Chamberlain nas gall etholiad cyffredinol fod yn mhell, ac y mae'n bwysig i'r etholaethau drefnu yn gynar i sicrhau ymgeiswyr ar ran Undeb- iaeth a Diwygiad Tollawl.
Agor Llyn Vyrnwy.
Agor Llyn Vyrnwy. Ddydd Mercher aeth Tywysog Cymru trwy y seremoni o agor Gweithiau Dwfr Llyn y Vyrnwy, yr hwn sydd yn cwblhau cynllun ea,ng gweithiau dwfr Lerpwl yn Sir Drefaldwyn. Trodd yr holl weithred- iadau allan yn hynod o Iwyddianus. Yr oedd tyrfa luosog wedi dyfod yn nghyd. Cyflwynodd Corphoraetli Lerpwl a Chor- phoraeth Llanfyllin anerchiadau i Dyw- ysog Cymru. Yr oedd ymweliad Tyw- ysog Cymru a Llyn Vyrnwy yn rhoddi cyfleusderau iddo ef weled nid yn unig 1 Z7, ran brydferth a rhamantus o'r Dywysog- a«th, ond liefyd orpheniad un o ymgymer- iaclau mwyaf nodedig yr oes. Cronwyd tair afon, difodwycl pèntref lienafol, a. ffurfiwyd y llyn mwyaf ac ardderchocaf yn Nghymru, ac li-efyd gludiad dwfr gryn 70 milidir o hyd. Cymerodd ddeuddeng mlynedd ar hugain i'w gwblhau, ac y mae y gost yn agos i dair iniliwn o buriau, a gellir cyflenwi Lerpwl a'r trefydd cylch- ynol gyda 40 miliwn o alwyui o ddwfr yn ddyddiol, haf a ga-uaf. Yr oedd gorchwyl y Tywysog ddydd Mercher yn syirii. Gofynid iddo ddadorchuddio cofgolofn a thynu y fraich a agorai y twnel diweddaf a gromvyd i'r llyn. Gadawodd y tren yn Fourcrosses, 16 milidir o'r Vyrnwy, a der- byniodd groesawiad Arglwydd-Faer Ler- pwl, yr Henadur Williams, Arglwydd Raglaw Maldwyn, Syr H. L. Watkins Williams Wynn, a boneddwyr eraill, ac awd tuag at y llyn mewn ceir modur drwy y pentrefi Cymreig. Yr oedd y ffyrdd wedi eu harddwisgo a banerau, a phlant yr ysgol yn ca-nu o dan y pontydd tra yr elai y Tywysog heibio. Yr oedd un am- gylcliiad prudd. Nid oedd y prif gynllun- ydd—George Frederick Beacon—yno. Bu farw yn mis Mehefm diweddaf, pan oedd y gwaith. ag y cysegrodd 30 mlynedd o'i oes iddo bron wedi ei gwblhau. Y mae y ffenestr goffadwriaethcl yn yr eglwys fechan He y gorwedd ei Iwcli bron yn weladwy o'r lie y cyflawnid y seremoni o Y mae ei waith. yn aros. Ar o J ol y seremoni planodd y Tywysog gceden, a bwriada, Corphoraeth Lerpwl ddechreu gwinllan oddeutu y llyn.
Argyfwng Difrifol yn Neheudip…
Argyfwng Difrifol yn Neheudip Cymru. ANGHYDWELEDIAD YN Y MAES GLOFAOL. Bodola pryder dwfn yn Neheudir Cymru ynglyn a'r argyfwng difrifol sydd yn bodoli rhwng perchenogion glofeydd a'u gweithwyr. Mae amryw gynhadleddau rhwng y ddwy blaid wedi eu cynal, ond hyd yn hyn (ddydd Mawrth), nid oes argoel y deuant i gytundeb boddhaol. Terfyna y rhybuddion ar y dydd olaf o'r mis hwn, ac os na ellir dyfod i gytun- deb cyn y diwrnod hwnw, bydd yr holl lofeydd yn cael eu hatal, a chan' mil o lowyr allan o waitb. Golygai hyn barlysiad masnach yn gyffredinol, tra y byddai dioddefiadau miloedd o deuluoedd yn alaethus, fel y dengys hanes digwyddiadau o'r fath yn y gorphenol. Cyuhelir cynhadleddau eto yr wythnos hon, pan yr hyderir y llwyddir i osgoi streic. Mewn rhai cylchoedd coleddir gobeithion mae felly y bydd, a gobaith pawb yw y llwyddir i symud pob rhwystr, ac y ceir beddweh rhwng y pleidiau.