Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Pererindod Eglwysig.I

News
Cite
Share

Pererindod Eglwysig. (O'r Haul). Yn y flwyddyn lyu5, yr oeddwn wedi ymroi i ymgydnabyddu a hanes diiyr y Di-wygiad. Angiicanaiad, neu r hyn eiwir fynychaf yn bymudiad Rhydychain (' The Oxiord Movement'). IN id oes ddadl nad dyma symudiad crefyddol pwysicaf y bedwarocid ganrif ar bymtiieg. Geo ur rhanu canrif yn dair rliaa gyiartal o ychydig dros 33 o flynyddoodd yr un. Wrth gymeryd y drydedd ran gyntaf o'r ganrif ddiwoddaf, cyrhaeddwu y flwyddyn 1833. Dyma flwyddyn cycliv/ynial Sym- udiad Rhydychain. Wrth ddarllen hanes yr Eglwys cyn 1833, g-welwn both ydoecid cyn cychwyn- iad y Symudiad clodwiw y soniwn am dano; a'i hanes ar ol 1833 yw ei hanes o dan ddylanwad y Symudiad hwnw. Cyn 1833, 'pobl yn myned i'r Eglwys,' ac nid gwir Eglwyswyr oedd corff mawr Eglwys- wyr y wlad hon wedi bod, ac yn bod, er's cenedlaethau. Cysglyd, difater, ac yn hollol niwlog o ran argyhoeddiad. Eglwys- ig, oeddynt. Yn iaith y Deon Church: 'Men were afraid of principles; the one thing they most shrank from was the suspicion of enthusiasm.' Mae gwaed bywyd Eglwys wedi myn'd i guro yn isel ac egwan pan y bydd ei haelodau ofn cael eu hadnabod fel 'Eglwyswyr selog.' Gwir fod yn y cyfnod hwn lawer iawn o ddynion ysplenydd ymhlith yr offeiriaid, ond yr oedd cyfangorff yr Eglwyswyr yn ddi-zel. Fo wneid gwaith goreu yr Eg- lwys, yn y cyfnod hwn, gan ddwy blaid neillduol ac amlwg, sef yr Efengylaidd a'r blaid uniongred' (Uchel-Eglwyswyr yr hen ddull). Dywedwn fod y ddwy blaid hyn yn amlwg,' ac yr oeddynt felly yn eu gweithgarwch a'u zel; ond nid oeddynt felly o' ran eu. nifer. Rhan fach o Eglwyswyr y cyfnod oedd yn perthyn i'r pleddiau selog hyn. Yr oedd trigolion y wlad bron i gyd yn Eglwyswyr mewn enw y pryd hwn, ac yr oedd y crynswth mwyaf yn hoffi. esmwythyd digyffro cwsg respect- ability yn hytrach na bod yn selog a, than- baid. Fanatics ystyrid pobl selog. Mewn cydmariaeth i nerth yr Eglwys o ran rhif, nid oedd y ddwy blaid yma felly ond bychan i ganlyn eu gilydd; ac er iddynt wneyd gwaith da, nid oedd ei effaith ond braidd i'w ganfod ar fywyd cyffredinol yr Eglwys. Erbyn 1832-blwyddyn fawr yr Etholfraint Ddiwygiedig-yr oedd dynion blaenllaw yn yr Eglwys fel Dr. Thomas Arnold Rugby, a Dr. Richard Whately, Archesgob Dublin, wedi hyn, yn 11 wyr gredu fod dyddiau yr Eglwys yn Mhryd- ain wedi eu rhifo. The Church, as it now stands, no human power can save.' Nothing, as it seems to me, can save the Church but an union with the Dissenters.' Dyna eiriau Dr. Arnold yn 1833. Achos y golygiad niwlog, tywyll, yma am ddyfodol yr Eglwys oedd y syniad pen- agored, niwlog, tywyll, am natur Eglwys lesu Grist, a fodolai bron yn gyffredinol yn y cyfnod hwn. Yr oeddys wedi colli gafael ar y gwirionedd mai nid dyn sydd wedi gwel'd y buasai yn both doeth a hwylus i Gristionogion y mgymdeith? su a ffurfio yn Eglwysi,' ond fod Crist wedi s^fydlu Cristionogaeth yn Gymdeithas ar y cychwyn; ac felly mai yn y ffurf gym- deithascl sefydlodd Crist Ei Hunan y dylai Cristionogion ymgymdeithasu, a'r ffurf hhano yw yr Eglwys Gatholig. Y I hiae hon i fod yn deyrnas annibynol, ac nid i fod yn ddibynol ar deyrnasoedd man na mawr y byd. Though states may come and States may go, The Church goes on for ever. Yn y nos hon ar Eglwysyddiaeth y daeth John Keble i'r golwg. Mewn nos difaterwch gorweddai Y syniad Catholig, yn brudd, Nes dywedodd yr Arglwydd, Boed Keble? A'r cwbl oleuodd fel dydd. Ganwyd John Keble, ar y 25ain o Ebrill, 1792. Mab ydoedd i'r Parch. John Keble, Rheithor Coin St. Alwyns, Swydd Glou- cester. Yr oedd ei dad yn Uchel Eglwys- Wr o'r hen ddull. Addysgodd ei blant gartref, ac aeth John i Rhydychain cyn bod yn 15eg oed, wedi enill ysgoloriaeth agored yn Ngholeg Corpus Christi. Cadd yrfa golegawl anghyffredin o ddisglaer. ^n 1810 cymerodd ei raddau yn y dos- bartli cyntaf yn y clasuron, ac hefyd mewn mesuroniaeth (double first). Yn 1811 eafodd anrhydedd mwyaf y Brifysgol y Pryd hwnw, sef ei ethol yn Gymrawd o Goleg Oriel; ac yn 1812 cipiodd wobr- wyon y Brifysgol am y traethawd Saes- Iloeg, ac hefyd am yr un Lladin. Yn 1815 ordciniwyd ef yn ddiacon, ac yn offeiriad Y flwyddyn ganlynol. Aeth yn syth i radiaeth East Leach, heb dori ei gysyllt- iad a'i goleg. Cymerai ddisgyblion, arholai yn y Brifysgol a gweithiai yn ei guradiaeth hyd 1818, pryd y penodwyd ef yn Tutor yr Oriel, a dyma lie y bu tan 1824. Yn y flwyddyn hon bu ei fam farw; ymroddodd i'r gwaith oedd hoffaf ganddo, sef gwaith plwyfol, ac aeth adref 1 gynorthwyo ei dad. Tua 1826 cawn ef am ychydig amser yn gurad yn Hursley, ac yn awr daw i'r golwg yn ei fywyd enw lleygwr ddylanwadodd yn helaeth iawn ar ei fywyd, sef Syr William Heathcote, Hursley Park. Y Syr William hwn oedd y pummed barwnig o'r enw Heathcote i fyw yn Hursley Park, ac fel rheol yr oedd *pab ieuengach na'r etifedd i'r teulu Heathcote yn Ficer y plwyf. Er cymaint 0 r teulu oedd wedi byw yn y plwyf, y Syr iiiam uchod C>2dd yr enwocaf o honynt oil. Mab ydoedd i'r Parch. William i sath • vte, vr hwn ydoedd fab i'r trydydd barwnig o Hursley, ac yn Rheithor Wort- "ng, swydd Hants. Bu ei dad farw a gadawoid ef yn unig blentyn dan ofal ei fam, yr hon ddaeth i Winchester i fyw ac i'w fagu. Cafodd yr addysg oreu. 0 ysgol fawr Winchester, yn y flwyddyn 1318, pan yn mron 17eg oed, aeth i Goleg Oriel, Rhydychain, 'a chafodd yn Tutor yno yr enwog John Keble, yr hwn nid oedd ond wyth mJynedd yn hyn nag ef. Yn 1821 cymerodd ei raddau yn y dosparth cyntaf yn y clasuron, ac otholwyd ef yn gymrawd o Goleg All Souls. Dech- eucdd ddarllen am yrfa gyfreithiol, ond yn 1825 bu farw ei ewythr, y pedwerydd barwnig, a, daeth ef yn Syr William Heathcote, Hursley Park. Daeth bvwol- iaeth Hursley yn wag yn bur fuan, a chynygiodd Syr William hi i'w hen Tutor Keble, a derbyniodd yntau hi, ond bu ei chwaer farw yr un adeg gan adael ei dad vn unig iawn, a phenderfynodd mai'r peth 0 goreu oedd iddo fyn'd i rywle yn agos i'w dad, a gwrthododd Hursley. Cymerodd guradiaeth fach yn agos i blwyf ei dad, ac yma y cyfansoddwyd y Christian Year- ffynhonell dyddanwch miloedd ar filoedd o Eglwyswyr defosiynol byth er hyny dros yr holl fyd. Yn 1831 penodwyd Keble yn Broffeswr Barddoniaeth i Brifysgol Rhydychain. Yr oedd dyledswyddau y awydd yn ysgafn ac yn caniatau iddo yn rhwydd ddilyn ei hoff waith o weinidog- aethu. Parhaodd yn y swydd hon tan 1831. Y peth pwysig iddo ef yn y swydd hon cedd ei bod yn rhoi iddo Ie ymhlith awdurdodau y Brifysgol. Llanwai bulpud y Brifysgol nid yn anfynych. Mae'n debyg, er hyny, mai yn ei ddylanwad ar ddisgyblion neillduol yr oedd yn gwneyd ei waith goreu y pryd hwn. Aeth a thri o honynt yn 1823 i blwyf ei dad i'w gan- lyn, sef Richard Hurrell Froude, Robert Wilberforoe, ac Isaac Williams. Cymer- odd y tri hyn safle ddisglaer yn eu harol- iadau; ond mae'n amlwg eu bod yn ym- drin tra gyda'u gilydd a'u Tutor, byngc- iau heblaw pyngciau arholiadau y Brif- ysgol. Yfasant yn helaeth o yspryd newydd y Christian Year-yspryd o ddi- galondid am gyflwr bywyd yr Eglwys yn Mhrydain, ac yspryd o gred newydd mai'r hyn achubai'r Eglwys oedd yniofyn am yr hen Iwybrau—llwybrau Catholigrwydd Cristionogaeth gyntefig. Mae 11e cryf i gredu mai yn ymddiddanion cyfrinachol yr efrydwyr hyn a'u Tutor ieuanc, John Keble, y dechreuodd syniadaeth y Diwyg- iad Anglicanaidd gymeryd gwraidd, a thyfu yn nghalonau efrydwyr, ac oddi yno ledu drwy'r. hold Eglwys fel Symudiad Rhydychain. Dywedasom fod safle Keble fel Proffeswr yn rho'i iddo fantais i esgyn pwlpud y Brif- ysgol, a dyma'r fantais a'i gwnaeth o'r diwedd yn gychwynydd cyhoeddus y Diwygiad Anglicanaidd. Ar foreu Su!, y 14eg o Orphen- af, 1833, efe oedd i bregethu yr 'Assize Sermon o bwlpud y Brifysgol. Pregethodd bregeth gyhoeddwyd ganddo wedi hyn dan yr enw National Apostasy-Gwrthgiliad Cenedlaethol, Dyma ddywed Cardinal New- man am hyn I have ever considered and kept the day (July 14th, 1833) as the start of the religious movement of 1833.' Cyn diwedd y flwyddyn hon, yr oedd y cyfarfod pwysig hwnw wedi ei gynal yn nhy y Parch. Hugh James Rose, sef Hadliegh Rectory, Suffolk, yn mha un y penderfynwyd cychwyn y Tracts for the Times, y rhai ddaethant allan am oddeutu wyth mlynedd, yr oil yn galw yn glit am i'r Eglwys yn Mhrydain dd'od yn ol i'r hen Iwybrau Catholig cyntefig. Yr oedd cewri ar y maes, heblaw John Keble, erbyn i'r symudiad gychwyn; ac mae'n debyg mae'r mwyaf ei ddylanwad, ar ol Keble, oedd John Henry Newman (1801- 1890); ac yna—ond nid ar y cychwyn-Dr. E. B. Pusey (1800-1882). Am flynyddoedd lawer, hanes y symudiad ydyw hanes ei dri arweinydd-Keble, Newman, a Pusey. Yn 1835, bu farw tad Keble. Yr oedd yntau, felly, heb ddim i'w gadw yn y rhan hono o'r wlad. Ymneillduodd Mr. Heath- cote, yr hwn aeth yn Rheithor Hursley pan wrthododd Keble y lie, o'r fywoliaeth, a chynygiodd Syr William Heathcote y fywol- iaeth drachefn i Keble, a derbyniodd yntau hi. Ymbriododd hefyd yr- un flwyddyn (1835) a merch i gyfaill mawr i'w dad, Miss Charlotte Clarke, boneddiges dyner a galluog, ond hynod wanaidd ei hiechyd. Yr oedd yn 43 mlwydd oed pan aeth i Hursley, a dyma. y bu hyd ei farwolaeth yn 1866, sef yspaid o 31ain o flynyddoedd, a dyma lie gorwedd yr hyn sydd farwol o hono wrth ymyl yr Eglwys ysplenydd adeiladwyd ganddo gydag enillion gwerthiant y Christian Year. Mae darllen hanes Keble yn ei blwyf gyda'i gurad flyddlon, y Parch. Peter Young, a'i blwyfolion ysplenydd, Syr William Heath- cote a Miss Charlotte M. Yonge, yn bleser o'r mwyaf. Yr oedd wedi bod yn gymaint pleser i ys- grifenydd hyn o linellau, fel y cefais fy hunan yn niwed Medi, 1905, yn y gerbydrea ar fy ffordd rhwng Llundain a Winchester gyda'r bwriad o fyn'd i weled Hursley. Cyrhaedd- wyd Winchester yn gynar y prydnawn. Pen- derfynu ar le i aros y noson hono, gadael ein ychydig 'luggage yno, a chychwyn cerdded rhagblaen i Hursley. Ffordd rwydd i'w cherdded, wlyddaidd ac o liw tywyll goch. Un peth neillduol a'm synai bron ar hyd y ffordd oedd amledd coed Yw. Mewn myn- wentydd y gwelir Yw gyda ni; ond mae gwrychoedd o honynt yn Wiltshire a Hants. > Peth arall sydd yn taraw dyn o (Jgledd Uym- ru yn Neheubarth Lloegr yw, prydferthwch y bythynod. Maent oil yn orchnddiedig gan creepers, ac megis yn ymnythu mewn man- wydd. Cerdded pedair milltir, cyfarfod y curate (dyn priod, newydd ddod i'r plwyf ae heb sefydlu yn ei dy ei hun, ac felly yn aros yn y Ficerdy gyda'r Ficer), heibio i'r eglwys fach adeiladwyd gan Charlotte M. Yonge ar y plwyf; cyrhaedd Hursley o'r diwedd, tua phum milltir o Winchester. Pentref bychan tawel gydag un heol, hyny yw, tai yn digwydd bod ar bob ochr y ffordd fawr, gydag eglwys ysblenJdd yn y pentref, a'r I t- n Ficerdy prydferth tu fewn i lawnt yr Eglwys. Tai uchel a llofffcydd iddynt, ond wedi eu toi A gwellt, a'r cwbl, yn eglwys a phentref, yn ym- nythu yn nghanol coed tewfrig talgryf, ac yn cael eu cadw yn hollol lan; canys mae'r Manor House, Hursley Park, mewn ystyr yn y pentref ond ei fod o'r golwg yn y coed, a chredwn nad tebygol fyddai i'r trigolion fod yn fler gyda'u tai tra y cedwir pob peth mor brydferth yn y palas sydd mor agos. Dyna Hursley i ti ddarllenydd. Dyna lie bu John Keble am 31ain mlynedd, yn byw egwyddor- ion yr Oxford Movement, ac yn trwytho ys- pryd yr Eglwys yn Mhrydain a thynerwch a phrydferthwch ysgolheigdod aruchelaf Rhyd- ychain yn ostyngedig i grefydd Gatholig Crist. Y mae awyr y lie megis yn suo enw John Keble. Aethum yn syth i'r Ficerdy. Gwyddwn mai y Parch. J. G. Young, brawd yr enwog Peter Young, oedd yno yn Ficer. Gwyddwn ei fod yn hen, oherwydd efe ddaeth yma yn 1866 yn olynydd i Keble. 'Pererin o Ogledd Cymru sydd yma,' ebwyf, wedi d'od i weled bedd John Keble.' Cefais groesaw ar un- waith. Mae canoedd o bobl yn ymweled a'r lie, ymddengys, bob blwyddyn. Yr oedd yn tynu at chwech o'r gloch, ac yr oedd gwasan- aeth yn yr Eglwys. A ydych am dd'od i'r gwasanaeth ?' Mae yn dda genyf,' meddwn inau, 'gael d'od; dyma wasanaeth dyddiol, onide, gychwynwyd 70ain mlynedd yn ol, gan Keble, pan ddaeth gyntaf i'r plwyf?' 'Ie,' ebe Mr. Young, fe'i cedwir foreu a hwyr byth er hyny. Ond mae amser,' meddai, i chwi weled ychydig ar y ty ac o gwmpas cyn y gwasanaeth.' 'Yn lie yr oedd study Keble ?' meddwn. Yn yr ystafell hon y gwnai ei holl ddarllen a'i ysgrifenu, yn y gongl yna ger y ffenestr, a'i wr&ig glaf yn bresenol i'w ganlyn. Yr oedd yn rhaid iddo fod braidd bob amser gyda bi, am ei bod mor wan. Er hyny gwnaeth waith mawr, ac yr oedd eu bywyd ynghyd yn brydferth tu hwnt i amgyffred,' meddai Mr. Young wrthyf. "Ð Aethom oil i'r gwasanaeth, a synwyd fi gan y nifer bedd yn bresenol. Nid yw poblogaeth yr holl blwyf ond 801, er hyny mae nifer dda yn bresenol foreu a hwyr yn y gwasan- aethau dyddiol. Dywedwyd wrthyf fod am- ryw o foneddigesau wedi d'od yma i fyw, o barch i Keble, ac i fynychu y gwasanaethau dyddiol yn bwrpasol. Eglwys brydferth tu hwnt i'r cyffredin yw'r Eglwys, wedi ei hadeiladu gyda nave ac aisles, ond fod yr aisles yn ymddangos yn hollol fel y nave, nes mae'r Eglwys fel tair o naves ochr yn ochr A'ii gilydd. Yn y pen orllewinol yn niwedd y nave, mae frftr ysgwar a spire ar ei ben. Costiodd yr Eglwys hon tua 8,000p., a rhoddodd Keble ei hunan beth j bynag 6,000p. tuag at ei hadeiladu, sef arian oedd wedi wneyd oddiwrth werthiant ei lyfrau, yn benaf y Christian Tear. Fel hyn mae yr adeilad megis wedi ei gysegru a defosiynau miloedd darllenwyr y Christian Year a'r Lyra Innocentium (un arall o'i lyfrau). Ar ol y gwasanaeth, aethum gydag aelod caredig o deulu'r Ficer i weled Hursley Park, cartref yr enwog Syr William Heathcote. Yr oedd lleni'r nos yn dechreu taenu dros y wlad erbyn hyn, ond mwynheais weled y palasdv prydferth tu allan—nid oedd amser palasdv prydferth tu allan—nid oedd amser i fyn'd i fewn, er fod gwahoddiad. Mae'r ty a'r ystad wedi myn'd o deulu'r Heathcotes er 1888. Bu farw Syr William yn 1881. Yn awr, dyn cyfoethog a charedig o'r enw George Cooper, Ysw., yw y meddianydd. Bu y ty hwn a'r ystad yn eiddo teulu Oliver Cromwell, ac mae yn yr Eglwys lawer o gofianau i'r teulu. Synwyd ni mai yma y bywiai mab hynaf Oliver Cromwell, sef Richard, the phantom king of half a year.' Yr oedd ef wedi priodi merch Richard Major, meddianydd ac yswain Hursley, a dilynodd ei dad-yn-nghyfraith yn yswain y lie, a'i ddisgynyddion werthodd yr ystad i'r Heathcotes tua'r flwyddyn 1715. Yma yn Eglwys Hursley y gorwedd gweddillion Richard Crcmwell, a llu eraill o'i ddisgynydd- ion. Yma hefyd y gorwedd gweddillion Thomas Sternhold, a gofir byth oherwydd y Salmau Can Seisnig, Sternhold and Hopkins. Bu yr enwog Syr Isaac Newton yn byw yn yr ardal gyda nith iddo, mewn ty yn agos i gartref Charlotte M. Yonge, ac mae yno sun-dial o'i waith yn aros hyd heddyw. Mae hyn oil yn ddiddadl yn ddyddorol, ond mwy felly o lawer i ni oedd gweled mangre fechan bedd John Keble, gyda'r monument, flat brydferth o A bei-deen granite sydd yn ei nodi allan, ac wedi ei gerfio o'i gwmpas :— Here rests in Peace the Body of John Keble, Vicar of this Parish, Who died March 29th, 1866.' Mwy dyddorol i ni hefyd oedd cofio mai yma y bywiai Syr William Heath- cote, ac mai yma y claddwyd ef, ac mai yn yr ardal hon y treuliodd Charlotte M. Yonge ei holl fywyd hirfaith, ac mai yn mynwent Otterbourne, ar gfrr Hursley, y gorwedd ei gweddillion. Aiff Hursley ac Otterbourne i ganlyn eu gilydd fel un fywoliaeth. Keble oedd tad ysprydol Char- lotte M. Yonge. Efe fu yn ei pharotoi at ei chonffirmasiwn pan oedd yn eneth fach deuddeg oed oedd hi yn 1835 pan ddaeth Keble yno yn Ficer. Bu yn byw yn yr ardal, heb ond yn achlysurol iawn fyn'd oddiyno, am bedwar ugain mlynedd, hyny yw, tan 1902, pan fu farw. Yma yr ysgrifenodd hi ei hystoriau tlysion. Credwn fod tua 38 o gyfrolau o ysbonau ganddi. Maent yn llawn o awelon tyner-felus parch at bethau uchel, ac yn enwedig yn llawn parch at yr Eglwys. Deuant allan yn awr yn gyfrolau prydferth gan gwmni Macmillan am ddim ond swllt yr un. Gwnaethent les annhraethol pe gellid eu cael i bob plwyf, i'w rho'i i'w darllen i'r bobl ieuainc, yn enwedig y genethod. I mi, oedd yn gurad ar y pryd, dyddorol iawn hefyd oedd meddwl am rodfeydd y Parch. Peter Young, curad ffyddlon K>1ble. Gwyddom fod Isaac Williams, John Henry Newman, Edward B. Pusey, ac eraill tebvg, wedi bod yn gweinyddu wrth yr allor, ac yn y pwl- pud yr edrychwn arnynt. Gwyddwn fod Pusey wedi rho'i y fedyddfan hono yr ed- rychwn arni yn rhodd i'r Eglwys. Yr oedd y lie yn llawn o gymdeithasiadau Symudiad Rhydychain yn cychwyn. Ond rhaid oedd ymadael. Aethum i fewn i'r Ficerdy i dalu'm diolch a rho'i fy ffarwel i'r Ficer. Rhoddodd anrheg o lyfr i mi, ac ysgrifenodd arno. Llyfr o breethau dra- ddodwyd mewn cyfres o wythnos o wasan- aethan Jubili agoriad Eglwys Hursley ydoedd. Yr oedd rhai o brif hregethwyr yr Eglwys wedi d'od yno i gynorthwyo, ac mae eu pregethau yn y Llyfr. Mae genyf feddwl mawr o hono. Mae y rhoddwr erbyn hyn wedi uno gyda'i frawd enwog, Peter Young, ac wedi myn'd adref at ei wobr. T. LLECHID JONES.

Tudno.

Gwyl Dewi Sant yn Cadoxton-Barry.

[No title]