Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
YR HAUL CYNWYSIAD AM CHWEFROR. Manes yr Egl wys. William III. a Mary, 1689-1694. William III. yn unig, 1694-1702. Y Mynachod. Hynt y Llong. Anfarwoldeb yn ngoleuni yr Hen: Destament. I Gofio'n Gu. Yr Etholiad.
Advertising
PURL Y PLAINT 6YNWYSIAD AM MAWRTH. Merthyrdod yr Esgob Pattesoru Ben Sands. Bwyd Estrys. Hanes Sant Nicholas o Myra. Trip Gwener y Groglith. Deuddeg o Esgobion Ty DdewL T6n—' St. Thomas.' Dadleuon Magi Jones. Yr Eglwys a'r Llyfr Gweddi. Gonest. Bwrdd y Gan. Ie, 0 Dad, canys felly y rhyng- odd bodd i ti.' Llyfr Newydd. Beth mae'r Eglwys yn ei wneyd. Y Gystadleuaeth. Y Paganiaid Bach Duon. Perlau y PERL. Barddoniaeth. Llithiau Priodol am y Mis.
Diwygio Ty'r Arglwyddi.
Diwygio Ty'r Arglwyddi. CYNYGIAD ARGLWYDD ROSEBERY. Yr oedd Ty yr Arglwyddi yn llawn nos Lun er gwrando a,r y ddadl ar gynygmd Arglwydd Rosebery ynglyn a diwygiad Ty yr Arglwyddi. Pan gyfododd Arglwydd Rosebery, teyrnasai distawrwydd drwy y Ty, ac mewn llais hyglyw cynygiodd:- Fod y Ty hwn yn ymffurfio'n Bwyllgor i ystyried y moddion goreu i sicrhau di- wygiad fel ag i gyfansoddi Ail Dy Senedd- ol cryf ac effeitluol,' a rboddodd ei resym- au dros y cynygiad. 1. Fod Ail Dy Seneddol cryf ac effeithiol nid yn unig yn rhan hanfodol o'r Cyfansoddiad Prydeinig, ond y mae'n angehrheidiol i fuddiant y "Wladwriaeth a, mantoliad y Senedd. 2. Mai y dull goreu i sicrhau Ail Dy felly ydyw trwy ddiwygio ac ad-drefnu Ty'r Arglwyddi. 3. Mai y paratoad angen- rheidiol i sicrhau y cyfryw ddiwygiad ac ad-drefniad yw derbyn yr egwyddor nad yw meddu gradd pendefig ynddo ei hun yn cael ei ystyried yn gymhwyster i.eistedd a phleidleisio yn Nhy'r Arglwyddi. Mae yr araeth a draddododd ar yr achlysur yn rhy faith i'w dyfynu yma, ond rhoddwn grynodeb o honi. Dywedai eu bod oil yn ymwybodol eu bod yn rhy luosog o ran rhif i wneyd gwaith effeithiol, ac yn ail eu bod yn cynrychioli yn ormodol un ochr. Hefyd yr oedd gwrthwynebiad i'r syniad o aelodaeth etifeddol—mab yn dilyn ei dad, yr hyn ydoedd sylfaen benaf eu Cyfansoddiad. Dywedai ei fod yn cofio clywed Mr. Gladstone yn adrodd yr hyn welodd yn Dundee adeg Mesur Diwygiad- ol 1832, sef hysbyslen yn cynwys y geir- iau, I I uffern a'r gormeswyr gwaedlyd.' G-olygai hyn mai hwy a i rhagflaenoriaid oeddynt y gormeswyr hyny? a defnyddid cyffelyb ymadroddion heddyw. Dymunai yn fynych weled y rhai ddefnyddient y geiriauhyn yn cael eu dwyn gyda'r gerbydres i Westminster i weled y Ty hwnw ar ddiwrnod gwaith cyffredin, gan nas gallai ddychymygu am ddim mwy an- nhebyg i ormeswyr gwaedlyd yn yr aelod- au didaro a chysglyd, er yn barchus, a, elsteddentar y meinciau cochion. Pan gaffent ymwared o Dy yr Arglwyddi, byddai gwrthweithiad nerthol yn cymeryd !He yn fuan, a chais uchel abron cyffredin- ol yn cael ei wneyd gan y wlad ar i ail Dy mwy nerthol gael ei sefydlu. Byddai holl fuddianau y wlad at drngaredd unrhyw fwyafrif damweiniol a sydyn, neu arddangosiad o ddigllonedd fel a amlygwyd yn 1906. Yna dywedid wrthym mai dyna lais y bobl. Yn ninas Kilkenny cynrychiolai 742,0 bleidleisiau lais y bobl, ond yn Essex Ddeheu- ol cynrychioli r yr un llais gan 53,000, eto yr oedd yn sicr fod llais Kilkenny yr un mor uchel ei s\Vn ag a glywid o unrhyw gynrych- iolaeth arall. Mae llais y bobl, fel llais per- sonau unigol, mewn angen am seibiant i ystyried, ac y mae yr ail Dy, os cedwir ef niewn sefyllfa effeithiol, yn sicrhau y caiff llais y bobl fod yn bwyllog ac ystyriol. Os nad yw y cwrs a fwriada y Llywodraeth ddilyn yn ddim amgen na thori bedd i'r Ymherodraeth, nis gallai ddychymygu dim. Y fath olygfa! Mam seneddau yn tynu i fyny ei Chyfansoddiad ei hunan wrth y gwraidd, a phlanu yr hyn a erys mewn rhyw dir diffrwyth i wywo yn unig. Yr oedd eu dylswydd yn glir. Cyn- rychiolent Dy henafol iawn, ac yr oeddynt yn rhwym o ddangos eu cynllun i'r wlad, er t!1 rnwyn gorthrechu y mawr-ddrwg cynygiedig. Dymunai gynyg i'r Ty eu bod yn ymsymud yn y mater drwy benderfyniad, ac nid drwy basio mesur. Credai yr addefent oil fod yr hawl etifeddol wedi goroesi ei defnyddioldeb, a dyna y rhan o'r Cyfansoddiad ag y teimlai y wlad fwyaf o wrthwynebiad iddo. Hwn yw yr hawddaf i ymosod arno, a'r anhawddaf i'w amddiffyn, ac y mae wedi colli ei ddylanwad. Nid oedd yn ateb digonol i gyfeirio at enwog- rwydd eu haelodau, ac ni symudai Ty cyfan- soddedig o Shakespeares, Bacons, New tons, a Burkes, y gwrthwynebiad i gyfansoddiad eti- feddol y Ty. Dywedai eu beirniaid, Pa fodd y gwyddom y bydd i'w holafiaid eti- feddu eu galluoeddr Dywedir fod llawer mwy o arglwyddi nag sydd o angen am danynt, ac ychwanegir yn flynyddol atynt i raddau ag sydd yn beryglus. Yr ail egwyddor ag y dymunai arnynt fabwysiadu, ac yr edrychai arni fel yn anhebgorol angen- rheidiol i ddiwygiad y Ty, ydoedd yr egwydd- or o etholiad oddi allan. Nid oedd gwahardd- iad y Brenin yn debyg o ddyfod i weithrediad yn eu hoes hwy. Wedi cael ymwared o un gwaharddiad drwy gam-ddefnyddiad, yr oedd- ynt yn ceisio cael ymwared o waharddiad arall drwy gyfraith, a gadael Ty y Cyffredin yn rhydd. Credai nad oedd dim a allai roddi bywyd newydd a nerth i'r Ty ond yr egwydd- or etholiadol. Ni roddai dim arall y cyffyrdd- iad angenrheidiol a, bywyd a barn cenedlaeth- ol er cyfnerthu y galluoedd a feddienid gan- ddynt. Ni chyrhaeddai yr egwyddor etifedd- ol yr amcan hwnw. Pe cymerent Mr. Lloyd George a Mr. Winston Churchill, dau ddyn poblogaidd, eugwneyd yn arglwyddi dros eu hoes, a'u dodi yn Nhy yr Arglwyddi, ymhen blwyddyn neu ddwy ni fyddai gan- ddynt fwy o gyffyrddiad a'r bobl na'r gweddill o'r Ty. Credai efe y byddai i'r cynulliad hwnw dderbyn nerth, gras, ae ur- ddasolrwydd adnewyddol drwy gymdeith- asu a'r Cynghorau Sirol, a'u ffurfio yn gyrff etholiadol, yn ol y cynllun a fodolai yn Ffrainc. A'i holl galon a'i enaid, a chyda difrifoldeb erfyniai ar eu harglwyddiaethau ystyried y ddwy egwyddor fawr a grybwyllodd. Eglur- odd y byddai y Llywodraeth yn fuan yn apelio at y wlad gyda golwg ar ddifodiad Ty yr Ar- glwyddi, ac anogai ar fod iddynt hwythau fyned a'u cynllun gerbron y wlad hefyd, gan mai y wlad, wedi'r cwbl, ydoedd y Ilys uchaf. Y cwrs arall ydoedd glynu a gafael gwan wrth freintiau ydynt wedi dyfod yn anmhoblogaidd a dirym. Hyderai y byddai iddynt achub y Cyfansoddiad drwy y cynllun a gynygiai, a thrwy waredu eu gwlad enillent anrhydedd anniflanedig, nid yn unig oddiar law y genedl yn awr, ond parhaai eu henwau mewn coffa- dwriaeth anrhydeddus am oesau i ddyfod. (Cymeradwyaeth). Cymerodd amryw ran yn yr ymdrafodaeth a ddilynodd, yr hon a barhawyd am rai dydd- iau.
LLANBEDR-PONT-STEPHAN.
LLANBEDR-PONT-STEPHAN. YR EGLWYS.—Pregethwyd nos Fercher yn Eglwys St. Pedr gan y Parch. Broffeswr Lori- mer Thomas, a phregethir heno (nos Wener) gan y Parch. B. Davies, Coleg Dewi Sant. Y CYNGOR PLWYFOL.- Bwriedir sefydlu Cyngor Plwyfol Eglwysig yma yn unol a'r hyn basiwyd yn Nghynhadledd Esgobaethol Ty Ddewi, a chynhaliwyd cyfarfod nos Fer- cher, dan lywyddiaeth y Ficer, er trefnu rhai manylion. Bydd yr aelodau yn cael eu hethol yn festri y Pasg. Y RHEILFFORDD I ABERAYRON.—Mae rhag- olygon y bydd y rheilffordd hen yn cael ei gorphen erbyn mis Gorphenaf nesaf, a dis- gwylir y bydd trafnidiaeth yn cael ei gario ymlaen yn mis Awst, yr hyn fydd yn dra derbyniol gan y miloedd dyeithriaid sydd yn ymweled a'r lie bob blwyddyn. CONFFIRMASIWN. Disgwylir Esgob Ty Ddewi yma yn fuan i gyual Gwasanaeth y Conffirmasiwn yn Eglwys St. Pedr. Mae nifer dda o ymgeiswyr yn cael eu hyfforddi ar gyfer y ddefod bwysig. GUILD ST. PEDR.—Llywyddwyd yn y Guild nos Lun gan y Parch. Ganon Camber-Wil- liams, ficer. Darllenwyd papyr gan Miss Williams, Temple Terrace, ar 'George Elliot,' ac un arall gan Miss Sarah Davies, Station Terrace, ar Charles Dickens,' a chanmolid y ddau gan y rhai oeddynt yn bresenol. Caf- wyd sylwadau ar y papyrau gan y cadeirydd, Mr. R. J. Parry, Glyn, a Mr. W. Lewis, Ar- fryn, ac ar gynygiad Miss Cissie Jones, ac eil iad Miss E. Jones, pasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i Miss Williams a Miss Davies am eu- papyrau galluog. COLEG DEWI SANT.—Dygwyd tymor pre- senol y Coleg i derfyniad nos Fercher. a dydd Iau ymadawodd y myfyrwyr am eu cartrefle- oedd. Pan ddychwelont ymhen rhyw fis o amser, byddant a'u holl egni yn ymbarotoi ar gyfer arholiad Mehefin, pryd yr hyderir y byddant oil yn llwyddianus. Mae dros 140 o fyfyrwyr yn y Coleg ar hyn o bryd, ac y mae y ffaith hon, ynghyd a'r sibrwd fod llawer ereill am geisio mynediad i mewn, ynprofi fod yr Eglwys yn fyw a gweithgar er gwaethaf daroganau dadgysylltwyr cegrwtb.X.
Llith yr Hen Golier.
Llith yr Hen Golier. Mae amryw rhifynau o'r LLAN wedi ym- ddangos er pan ddanfonais fy llith syml di- weddaf atoch, Mr. Gol. Gresyn meddwl fod cymaint o ddynion ieuainc, talentog, yn ein plith, yn Eglwyswyr selog, ac yn medru ar ddigon o wybodaeth a chymwysderau i ohebu yn gyson i'n wythnosolyn, yn gadael colofnau ein newyddiadur yn hollol ymddibynol ar Hen Golier am unrhyw gofnodiad Eglwysig a phlwyfol. Nid am fod amser hamddenol genyf y dydd heddyw yw y rheswm fy mod yn ceisio trefnu y pwt' bach syml hwn, ond rbywsut yn ystod y blynyddoedd er pan wyf yn danfon yn awr ac eilwaith i golofnau ein wythnosolyn, yr wyf yn teimlo mai fy nyled- swydd yw gwneyd hyny, fel o bosibly medraf ddweyd gair neu ddau er amddiffyn yr hen sefydliad hwnw sydd, er cof genyf, megis targed i dderbyn saethau gwenwynllyd y dosbarth hwnw sydd byth a hefyd yn croch- lefain, Dynoethwch hi! Dynoethwch hi hyd at ei sylfaen.' Ond beth bynag am hyny, bydded i'n Heglwyswyr hen ac ieuainc trwy Gymry benbaladr wirioneddu y frawddeg hono, The pen is mightier than the sword,' trwy ddanfon o bryd i bryd air neu ddau i golofnau ein wythnosolyn mewn amddiffyniad i hen Eglwys ein tadau. Er"pan ddanfonais atoch y tro diweddaf, Mr. Gol., mae llawer o betbau heb eu cofnodi yn blwyfol felly yn y He yma. Boreu dydd Nadolig diweddaf, yn y gwasanaeth 11 o'r gloch, dadlenwyd ffenestr Hi wiedig ddwyrein- iol ein cangell gan Mrs. L. Joseph, sef merch y diweddar Mr. D. Evans, Pare, Llangenech, er cof am ba un y gosodwyd y ffenestr i fyny gan aelodau o'r teulu, o dan gysgod pa un y gorwedda yr hyn sydd farwol o'r diweddar foneddwr uchod hyd y boreu hwnw Pan genir udgorn Duw Gan angel nef, Y meirw oil ddeffroir Gan nerth y llef. Cynwysa y ffenestr y darluniau canlynol Ymgnawdoliad, Bedydd, Croeshoeliad, Ad- gyfodiad ac Esgyiyad ein Harglwydd Bendi- gedig. Daeth lluaws ynghyd i'r gwasanaeth yma, a chafwyd pregeth hynod o bwrpasol i'r amgylchiad gan ein Ficer, gan egluro y gwa- hanol ddarluniau yn y ffenestr. Teimla Eg- lwyswyr Sant Cennech eu dyled yn fawr i deulu y Pare am eu caredigrwydcl a'u haelioni i'r Eglwyswyr a'r Eglwys er dyfodiad ein Ficer presenol i'r plwyf, tua saith mlynedd yn ol. Yn wir i chwi, ar amcangyfrif, nid ydwyf yn credu fod rhoddion y teulu yma yn fyr o 1,800p. Ychydig wythnosau yn ol cynhaliwyd cyngerdd cysegredig yn yr Ysgoldy Genedl- aethol gan gor yr Eglwys. Yr oedd y gan- iadaeth i fyny i'r 'standard,' a thystiolaeth pawb oedd fod y eyngerdd hwn yn rhagori ddigon ar unrhyw gyngerdd a gynhaliwyd yma o'r blaen. Mac diwydrwydd, dyfalbar- had, a gallu Mr. Hopkins, ysgolfeistr, fel ar- weinydd y g&n i'w ganfod yn eglur o Sul i In Sul yn nghaniadaeth y cyssegr. Edrych yn mlaen ydym bellach i ddyfod- iad yr Esgob yma ar y 30ain o'r mis hwn, pryd y derbynia deugain o bobl o bob oedran Fedydd Esgob. Bydded i ni fel cymunwyr ac aelodau Eglwys Sant Cennech weddio llawer ar i'r Arglwydd eu cynorthwyo a'i nefol ras i barhau yn eiddo iddo Ef, ac i gynyddu fwy-fwy yn yr Yspryd hyd eni ddelont i'w dragwyddol deyrnas Ef. Da genyf allu croniclo yr wythnos yma am yr olwg lewyrchus sydd ar y Gymdeithas dda hono yn ein plwyf, sef y C.E.M.S. Hyfryd a dymunol yw gweled y bobl ieuainc yn mwyn- hau ,eu hunain yn ystafell y Gymdeithas uchod bob nos trwy'r wythnos. Darllenir papyr yma y Mawrth cyntaf o bob mis, ac yn wir i chwi yr oedd yr hyn a ddarllenodd Mr. Hopkins bythefnos yn ol, sef Hanes yr Eg- lwys,' yn adeiladol i'r eithaf. Mae yn rhoddi pleser mawr i mi pan yn talu ymweliad a'r ystafell yma i weled y bobl ieuainc yn mwyn- hau eu hunain efo Chess, Draughts," Dom- inoes,' 'Air Gun.' Mae yrna hefyd 'Billiard Table' ardderchog, ar bu un y dechreuir tournament' nos Fawrth nesaf. Mae'r gym- deithas hon yn hollol hunan-gynorthwyol, pawb o'r aelodau yn Eglwyswyr, a phob un ar ei oreu i gadw rheolau'r gymdeithas yn ddifwlch. Llywydd y gymdeithas yw ein Ficer, tra mae Mr. E. Williams, Wern Cottage, yn gadeirydd. Mae'r gymdeithas dda arall, y G.F.S., dan lywyddiaeth Mrs. Jones, y Ficerdy, yn cyf- flawni amcan a bwriad y gymdeithas i'r man eithaf. Felly, chwi welwch, Mr. Gol., mai nid Eglwys ddiwaith yw Eglwys Sant Cenech, ond yn hytrach y mae a'i holl egni yn magu meibion a merched yn amddiffynwyr i hen Eglwys ein tadau, pan fydd yr hwn sydd a'i bin yn ei law yn ysgrifenu yr ychydig lin- ellau hyn, ynghyd ag amryw eraill, yn gorphwys yn dawel yn nhy ei hir gartref. Tra y parhao Eglwys ac Eglwysyddiaeth, bydd yn rhaid i ni wrth amddiffynwyr. Mae'r ymosodiadau ar yr hen Sefydliad yn beryglus i'r eithaf y dyddiau hyn, a'n dyled- swydd ninau fel Eglwyswyr yw awchlymu ein harfau a gosod ein hunain mewn trefn i wrthsefyll yr holl ymosodiadau hyn o eiddo ein gwrthwynebwyr gyda'r penderfyniad i ymorphwys yn ddiysgog yn yr addewid Na wna uffern fawr Gwaetha'i holl gynddaredd Dynu hon i lawr.' Colled aruthrol, ie, diwrnod tywyll du cym- ylog yn hanes ein gwlad fydd y diwrnod hwnw os byth y dadgysylltir ac y dadwaddolir Eglwys. Mae ger fy mron yn bresenol gyfrif rhoddion gwirfoddol Eglwyswyr ein gwlad am y flwyddyn yn diweddu y Pasg, 1909. Mae'r swm anferth o 8,060,389p. wedi ymarllwys trwy gulfor gwirfoddol y Sefydliad tu yma a thu draw i foroedd i geisio diwallu angen yspryd- ol a chorphorol pawb sydd yn cofleidio Crist- ionogaeth. Nid rhyfedd pan feddyliom wrth weled y ffigyrau uchod bod ein gwrthwyneb- wyr yn dywedyd y medrom fyw heb ein gwaddoliadau. Gwir y medrwn fyw a thalu lawer iawn mwy o gyflog i'n hoffeiriaid. Ond pwy, meddweh, fyddai yn dioddef pe ysbeilier yr Eglwys o'i meddianau 1 Neb llai na'r cymdeithasau hyny sydd heddyw yn hollol ymddibynol ar y Sefydliad am eu cynhaliaeth, plant amddifaid, ynghyd a'r tlawd a'r anghenus. Na, na, nid mor rhwydd a hyny fydd i Eglwyswyr ein gwlad oddef dwyn oddiarnynt yr hyn sydd wedi ei roddi iddynt gan eu cyn-deidiau am genedlaethau lawer yn ol gyda'r amcan a'r bwriad i gynorthwyo offeiriaid yr Eglwys i bregethu Gair Duw i bawb o bobl y byd, tlawd a chyfoethog, yn rhad ac am ddim. Tybiaf fod ysbryd yr hen Naboth, gynt, yn meddianu Eglwyswyr ein gwlad heddyw, fel yr atebant i bob gwalch boneddig sydd yn meiddio estyn ei law allan a dwyn meddianau y Sefydliad oddiarni: • Na ato yr Arglwydd i mi roddi tref-dadaeth fy hynafiaid i ti.' Mae rhaid tewi, mae'r llythyrdy ar gauad. Llangennech, HEN GOLIER. Mawrth 14eg, 1910.
LLANFAIR P.G.
LLANFAIR P.G. C.E.M.S.—Prif bwnc cyfarfod o'r I Gangen, a gynhaliwyd yn yr Ysgoldy nos Fawrth ddiweddaf, oedd papyr ar Ym- I pryd/ a ddarllenwyd gan Mr. Owen Jones, Plas Coedmor Lodge. Pwysleis- iau Mr. Jones fod ystyr y gair yn gyf- ochrog a dirwest/ a, dyfynodd esiamplau o ympryd o'r ddau Destanient. er dangos ei Ie a'i waith priodol. Dangosodd Mr. Jones fanteision a, ddeilliaw o wir ympryd —darostwng yr ochr anianol er rhoddi mynegiant a'r oruchafiaeth i'r ochr ysprydol i ddyn. Pwysleisiai ar ein dyledswydd ni yn y cyfeiriad hwn i ddilyn esiampl Crist. Y mae ympryd yn gysyllt- iedig, meddai, a gweddi bob amser, a sylwai ar yr angenrheidrwydd am ragor o reality ynghylch ein liymprydiau, ein gweddiau, a'n holl ddefosiynau. Cafwyd ymdrafod- aeth helaeth a dyddorol gan yr aelodau. Y trio phwnc amlycaf yn yr ymdrafodaeth oe,ddynt:(I) Natur ac ystyr gwir ym- pryd; (2) Natur dechreuad yinpryd (3) Gwir ystyr ympryd Crist. Gorfu gohirio y cyfarfod hyd yr wythnos nesaf. Pas- iwyd fod y Gangen yn llongyfarch Mr. Pretty ar ei waith llwyddlanu yn goleuo Heol yr Eglwys (Church Lane) a llusern- au nerthol, y rhai sydd yn rhoddi bodd- liad eyffredinol. CENHADAETH Y GARAWYS.—Pregethwyd gan Canon Davies, Gaerwen, nos Iau diweddaf yn yr Ysgoldy i gynulleiaia luosog.
I YSTRAD MEURIG.
I YSTRAD MEURIG. COLEG ST. IOAN.-Nos Sadwrn, Mawrth y 12fed, cynhaliodd y Gymdeithas Ddadleuol Gymraeg ei chyfarfod. Am 7 o'r gloch, cy- merwyd y gadair gan Mr. A. Lewis. Ar y dechreu, rhoddwyd rhyw ddeg munyd o am- ser tuag at faterion cyfrinachol yr Ysgol. Yna galwyd ar Mr. J. D. Sayr i ddarllen papyr, dros yr ochr gadarnhaol, ar y testyn 'A oedd y Cymry a'r Saeson yn un genedl ?' Ceisiai Mr. Sayr ddangos eu bod, nid o'r cychwyn, mae'n wir; ond wedi dyfod drwy eu cysyllt- iad maith ac agos a'u gilydd, pan orchfygwyd y Cymry gan y Saeson, dan arweiniad Hen- gist a Horsa, a'r brwydrau ddilynodd; na yrwyd y Cymry o'r rhanau hyny oresgynwyd ganddynt, ac na erlidiwyd ond yn unig y rhai oedd yn cymeryd rhan flaenllaw yn yr arwein- iad fod corff y genedl wedi aros ac ymgyf- eillachu a'r Saeson; a chan mai gwyr ieuainc oedd yn dyfod drosodd, yn fwyaf neillduol, o Saxony yr adeg hono, cymerent ferched yr hen Frythoniaid yn wragedd, fel mai anhawdd, erbyn heddyw, cael teulu yn Lloegr heb fod ynddo ddiferyn o'r gwaed Cymreig. Dangos- odd yn glir fod hyny yn cymeryd lie er pan ddaeth y Saeson gyntaf i'r wlad, a'u bod yn edrych ar ferched y Cymry yn rhai atdyniadol a theg yr olwg, yn gymaint felly fel nad oedd un aberth yn ormod ganddynt ei wneyd er eu mwyn, a thuag at sicrhau un o honynt yn wraig. I brofi hyn dygodd ymlaen waith Hengist, eu penaeth, yn cymeryd Ronwen, merch Gwrth- eyrn y Gwrthenan, brenin Cymru yr adeg hono, yn wraig iddo ei hun, a chan fod eu penaeth yn gwneyd hyn, hawdd credu mai naturiol oedd fod eraill yn dilyn ei esiampl. Hefyd fod miloedd o Saeson wedi dylifo i Gymru, a Chymry i Loegr, ac yn dal rhai o'r swyddi uohaf yn y. deyrnas. Mawrion y ddwy genedl yn byw mor agos, fel mewn gwirionedd mai un oeddynt ac nid dwy; y gallai'r Sais hawlio'r Brenin fel ei frawd, fod yntau'r Cymro yn ei arddel fel ei gyfathrach. Ac o'r orsedd i lawr drwy bob dosbarth yr oedd yr un peth i'w ganfod. Cafwyd ganddo bapyr rhagorol. Yn nesaf galwyd ar Mr. Daniel Harris i ddarllen papyr dros y nacaol. Hawdd deall fod Mr. Harris yn hanesydd gwych, ac yn Gymro gwladgarol, yn teimlo sel ac eidd- igedd dros ei genedl, yn credu i ddyfnder el fodolaeth nad oedd yn ail i un genedl dan yr haul. Dangosodd, er cymaint y cysylltiad oedd wedi bod rhyngddynt, ac er cymaint edmygedd y Sais o ferched y Cymry, nad oedd yn ddigon i brofi eu bod yn un, fod hanes yr hen genedl yn dangos yn glir na fynai merched y Cymry ddim i wneyd i'r Saeson, ond yr edrychent arnynt, fel yr Iuddewon gynt ar y Philistiaid dienwaededig, gyda dirmyg. Cyfaddefai fod eithriadau, ond nad oedd hyny yn dweyd dim ond profi'r rheol. Peth cydmarol ddiweddar oedd gweled y Cymry a'r Saeson yn dal cyfeillach mor agog a'u gilydd, a cbymerai ganrifoedd lawer eto cyn y gallesid dweyd fod y ddwy yn un fod pobpeth yn profi'n wahanol, eu dull o fyw, eu nodweddion, ac yn enwedig eu teithi meddyliol. I unrhyw un oedd wedi talu sylw manwl i'r pethau yma, canfyddai ar unwaith y gwahaniaeth fodolai, ac adnabyddai yn mhob man y Cymro oddi wrth y Sais, heb wahaniaeth pa un ai Cymraeg ai Saesneg fyddai ei dafodiaith. Papyr gwir alluog ac adeiladol. Ar ol hyn rhoddwyd y ty yn agored, a daeth yn mlaen amryw i siarad o blaid ac yn erbyn. Hawdd canfod wrth y siaradwyr fod yr elfen Gymreig yn chwareu rhan bwysig yn y ddadl, fod y Celt o hyd yn fyw, ac mai nes penelin nac arddwrn. Pan ranwyd i y ty cafwyd dau o fwyafrif o blaid Mr, Daniel Harris.—Erwyd.
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. Y GARAWYS.—Yn ystod yr wythnosau diweddaf, pregethwyd gan y Parch. D. Collwyn Morgan, Dolbenmaen Mr. T. Har- lech Jones, cenhadwr o Ganolbarth Affrica, a'r Parch. Hugh Williams, ficer Ynyscynhaiarn. YMADAWIAD.-Y Sul diweddaf, gorfu ar i I Miss Anne Brown, 111 High Street, oherwydd ei bod yn ymadael am Rhuthin, roddi eu lie i fyny fel organyddes yr Ysgol Sul. i'r swydd y penodwyd hi ond dechreu y flwyddyn hon, ac ar gynygiad Mr. Rd. Parry, a Mr. J. Jeffrey Roberts, penodwyd Miss Lizzie Humphreys, 120 High Street, i chwareu o hyn allan.—Gestianwr.