Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
cri W Y §IAD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
cri W Y §IAD. Nodion "Senex," Y Glowyr wedi Sefyll Allan 1 Methodistiaeth Galfinaidd a'r Eglwys yn Nghymru, Nodion Cenhadol, Y Diweddar JBarch. John Williams (Glanmor) 2 Ymhlith yr Enwadau, Teitlau Gwag 3 Cyffredinol, Newyddion Oymreig 4 Adolygiad y Wasg, Gohebiaethau 5 Y Golofn Farddol, Newyddion Cymreig 6 Llith Betsy Jones, Newyddion Cymreig 7 Erthygl Arweiniol 8 Yr Adran Ddirwestol yn y Cyfaill Eg- lwysig, Y Wasg Eglwysig Gymreig 9 Newyddion 10 Taith i Wledydd Tramor, Dyfnder Cariad. 11 Siomedigaeth, Difyrion I 12 Cwmni Newydd y Wasg Eglwysig Gymreig 13 Hysbysiadau 14, 15, 16
INODION " SENEX."
News
Cite
Share
NODION SENEX." Da a chymylog yw yr awyrgylch mewn llawer cyfeiriad. Heblaw fod amryw ryfeloedci yn cael eubygwth, mae m STREIC Y ] GLOWYR. I 1 streic y glowyr wedi par- lysu masnach, ac er pob pmdrech ar ran goruchwyl- wyr y dynion, mae y gweithwyr yn parhau yn ystyfnig, a'r nifer sydd yn sefyll allan yn cynyddu bob awr. Nid oes neb a ddywed nad yw yn gyfiawn i'r glowyr sicrhau y telerau goreu iddynt eu hunain, ond y maent wedi ymddwyn yn fyrbwyll yn yr amgylcbiad hwn drwy fyned yn erbyn anogaethau eu goruchwylwyr. Yr oedd yn ddealladwy, os na cheid telerau bodd- haol, i sefyll allan ar y 9fed cyfisol, ond torwyd pob addewid, a daeth canoedd allan ddechreu yr wythnos ddiweddaf, ac erbyn hyn mae rhif y rhai sydd allan yn rhifo ugeiniau o filoedd. Pan ystyrir canlyniadau echrydus gweithredoedd an- mhwyllog o'r fath, anhawdd yw ymata! rhag defnyddio ymadroddion celyd. G*Vl' Ilawer o'r rhai sydd wedi sefyll allan drwy brofiad chwerw beth olyga streic o'r fatb, ond unwaith y rhoddir ffrwyn i syniadau penchwiban, mae pob cyfrifoldeb yn cael ei anghofio. Nid oes neb all ddirnad y niwed difrifol sydd eisioes wedi ei achosi, ac y mae lie i ofni y cawn weled un o'r streics mwyaf an- dwyol a gafwyd erioed os na wrandawa y dynion ar reswm. Uno arferion prydferthaf ein gwlad yw dodi blodau ar feddau ein hanwyl- iaid, a llonder i'm calon yw gweled y SUL Y BLODAU. gofal a gymerir i lanhau a pbrydfertbu beddau ar y dyddiau cyn Sul y Blodau. Gwir fod llawer yn gwneyd hyny ar adegau ereiil, ond edrycmr ar yr wythnos cyn y Sul a nodwyd fel adeg gyffredinol i gario hyn allan. Mewn ugeiniau o blwyfi gwneir hyn yr adeg a nodwyd, a dydd Sul diweddaf gellid gweled miloedd yn ymdeitbio i'r gwahan- ol fynwentydd a chladdfeydd er gweled y beddau. Mae amcan da gan lawer wrth wneyd hyn, ond yn y rhan fwyaf o amgylchiadau gwamalrwydd gwallgofus a arddangosir gan heidiau o fechgyn a merched ieuainc. Nid yn unig ym- ddygir yn gellweirus a dibarch yn y mynwentydd, ond mathrir sancteidd- rwydd y dydd dan draed, ac y mae ym- ddygiadau y mwyafrif yn warth i ddyn- oliaeth a chrefydd. Gresyn fod yn rhaid galw sylw at hyn, ond y mae yn ffaith alarus fod golygfeydd arswydus i'w can- fod ar Sul y RIodau yn Neheudir Cym- ru, yn enwedig yn Nghaerdydd, Aber- dar, Cefn (ger Merthyr Tydfil), Caer- fyrddin, &c., a gwneir masnach helaeth ar y dydd hwn wrth y mynedfeydd i'r claddfeydd. Goreu po gyntaf y cauir y mynwentydd ar y dydd hwn, os na ellir sicrhau gwell ymddygiad ar ran rhai a'u mynychant. Mae yr anmharch a ddangosir a'r iaith isel a ddefnyddir yn boenus i'r eithaf i'r rhai a ant yno i wylo uwchben beddau eu hanwyliaid, a dylid gwneyd esiamplau o rai o'r giwed a ym- gasglant i ddim amgen na boddio chwaeth anachus ac isel. Mewn colofn arall, cyhoeddir ysgrif ragorol a ymddangosodd yn Per en Gomer, cylchgrawn tri-misol bychan destlus BRUTUS gynoeddir gan y jsedyddwyr yn Nghymru. Da genyf weled gweinidog Anghydffurfiol, ac I ua oedd mor adnabyddus a Brutus yn troi yn ol y cyhuddiadau anwireddus wnaethpwyd lawer tro yn erbyn yr hen lenor digymar gan bersonau na wyddent ond y nesaf peth i ddim am dano. Cyhoeddir yr ysgrif gyda'r parodrwydd mwyaf yn y LLAN, a dymunir ar yr un pryd ddatgan diolchgarwch cynes i Mr Lewis am ei dystiolaeth onest a gwerth- fawr. Mewn rhai manau, mae pregethwyr ac ereill yn gwneyd eu hunain yn wrth. ddrychau atgasrwydd drwy eu hymyr- TROI Y BYRDDAU ladau a phethau na pherthyn I iddynt, ac nid oedd dau mwy nodedig am hyn na'r Parch I W. Spurgeon, a Mr Richard Cory, Caerdydd. Am dymor o leiaf, ni fydd eisieu y ddau bregethwr hyn ar Fwrdd Gwarcheidwaid Caerdydd, gan fod Mr Robert Hughes (brodor o Lan- egryn, Meirionydd), a Mr Matthew Pearse wedi eu dewis yn eu lie ddydd Sadwrn, a hyny gyda mwyafrif gorlethol. Yr hyn wnaeth Caerdydd ellir wneyd mewn rhanan ereill o'r wlad, ac y mae yn hen bryd cael ymwared o rai sydd yn cario enwadaeth i bob peth. Lie bynag y dioddefir oddiwrth y pla hwn, myner ei symud, ac eir ymlaen yn llawer rhyddach a gwell hebddynt.
Y Clowyr Wedi Sefyll Allan.
News
Cite
Share
Y Clowyr Wedi Sefyll Allan. Y FASNACH LO GYMREIG WEDI EI PHARLYSU. 100,000 0 DDYNION YN SEGUR. RHAGOLYGON TYWYLL. DYDD SADWRN. Er's peth amser, bodolai anfoddogrwydd ymhlith glowyr Deheudir Cymru a Sir Fynwy, y rhai a fygythient sefyll allan ar y 9fed cyfisol, ond tarawyd y wlad a braw pan ddeallwyd eu bod, yn groes i anogaethau eu harweinwyr, wedi sefyll allan ddiwedd yr wyth- nos ddiweddaf. Drwy hyn maent wedi taflu y wlad i argyfwng difrifol, ac y mae y sefyllfa yn llawer gwaeth nag a deimlwyd yn streic fawr 1875, gan tod ar hyn o bryd tua chwe' gwaith mwy o ddynion allan nag oedd yr adeg hono. Anhawdd iawn yw desgrifio yr helynt presenol, gan nad yw yr hyn ellid yn briodol alw yn streic, nac ych- waith yn gload allan. Rhoddodd y dyn- ion rybudd o chwe' mis i derfynu y llithr- raddfa, a darfu i'r meistri roddi mis o rybudd i derfynu y bargeinion. Pan osodir bargen, mae adran yn dal cysyllt- iad a streics yn cael ei dodi i mewn yn y cytundeb, ond anhawdd penderfynu a ellir cyfrif yr hyn sydd wedi digwydd fei yndyfod dan y cytundeb crybwylledig. Dydd Iau, y Blain cynfisol, yr oedd digon o arwyddion fod ystorm ar dori allan, a dangoswyd y fath wrthwynebiad cyndyn a chyffredinol yn erbyn caniatau 11awn reolaeth i'w cynrychiolwyr fel ag i I gynyrchu ofnau anobeithiol am i'r ddwy blaid gytuno. Boreu dydd Gwener, penderfynodd tua'r drydedd ran o'r dyoion i ymatal rhag gweithio, a chan fod ereill wedi dilyn yr esiampl hon ddydd Sadwrn, daeth y sefyllfa yn wir ddifrifol. Mae ymddygiad y gweithwyr wedi taflu masnachwyr glo i helynt flin jacholled fawr. Ymddibynent hwy na ddigwyddai y streic hyd y 9fed cyfisol, ac ymgymerasant ag ymgymeriadau am filoedd o dunelli i'w hanfon gyda llongau o Gaerdydd, Abertawe, Barry, Cas- newydd, &c., i wledydd tramor, ac y maent eisoes wedi gorfod talu 22s y dunell, yn lie 12s 6c. er gorphen eu llwythi, yr hyn a olyga filoedd o bunau o golled iddynt hwy. Bydd yn anmhos- ibl i farsiandwyr a pherchenogion Ilongau gario allan eu hymgymeriadau. Dywedir mai yr hauliers, y rhan fwyaf o honynt yn ddynion ieuainc, heb gyfrif- oldeb gwragedd a phlant yn gorwedd arnynt, sydd wrth wraidd y drwg hwn. Pan gymerir i ystyriaeth nad ydynt ond 10 y cant o'u cymharu a nifer y glowyr, mae yr argyfwng yn fwy difrifol fyth, ac yn dangos pa fodd y gall dynion ieuainc anghyfrifol beri galanastra i filoedd o deuluoedd diniwed, a pharlysu masnach §drwy y deyrnas, a rhoddi mantais i dramorwyr, fel mewn Ilawer achos o'r blaen, fyw yn fras tra byddo miloedd yn y wlad hon yn new- ynu. Condemnir yr hauliers ymhob cyfeiriad, gan fod yn anmhosibl cario y pyllau ymlaen heb eu cynorthwy hwy, a gresyn fod ymddygiadau gwirionffol y dyrnaid hyn yn foddion i barlysu y fas- nach lo am dymor o leiaf. DYDD LLUN. Er fod y sefyllfa yn ddifrifol iawn ddydd Sadwrn, mae yn llawer mwy felly heddyw. Dydd Sadwrn, darfu i nifer fawr o weithwyr datgan eu penderfyniad i beidio gweithio, a boreu heddyw am- cangyfrifid fod o leiaf gan' mil o ddyn- ion allan. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan berchenogion glofeydd ddydd Sad- wrn, penderfynwyd dwyn allan y ceff- ylau a'r arfau o bob pwll, a gwnaed dar- pariadau helaeth ar gyfer streic hirfaith. Ar hyn o bryd, nid oes dim masnach mewn glo yn cael ei gario ymlaen yn mhorthladdoedd Caerdydd, Casnewydd- ar-Wysg, a Barry, ac effeithia hyn yn ddifrifol ar berchenogion Ilongau, rheil- ffyrdd, &c. Anbawdd dirnad maint y galanasdra a achosir gan y streic hon, ac nid oes ond gobeithio y bydd i'r dynion wrandaw ar anogaethau eu harweinwyr, a dychwelyd at eu gwaith yn ddioed. Heddyw (dydd gwyl Mabon), cynhelid cyfatfodydd mewn gwahanol fanau i drafod y sefyllfa, a phenderfynu gyda golwg ar y dyfodol. Cynhelid cyfarfod gan y meistri yr un dydd. Traddododd Mabon araeth rymus yn Mhontypridd ddydd Sadwrn, yn yr hon y condemniai ymddygiad y dynion, ac y cynghorai hwy oil i ddychwelyd at eu dyledswydd- au ddydd Mawrth. Digalon iawn yw y l'hagolygon ar hyn o bryd, ac y mae y miloedd sydd allan yu debyg o beri i weithwyr ereill uno â'u rhengoedd. Drwy eu hymddygiada annoeth, mae y glowyr wedi colli cydymdeimlad y cy- hoedd, ac os parhant yn eu cyndyn- rwydd, mae lie i ofni y gwelir mwy o galedi, dioddefiadau, ac angenoctyd nag a welwyd yn eu plith er's llawer blwydd- yn. DYDD MAWRTH. Cynhaliwyd amryw gyfarfodydd ddoe, ac ynddynt datganai y gweithwyr eu penderfyniad i sefyll allan, ac y mae y sefyllfa yn myned yn ddifrifolach bob awr. Gan fod y gweithwyr wedi gwrth- od rhoddi galluoedd cyflawn i'w cyn- rychiolwyr i ddyfod i delerau a'r per- chenogion, nis gellir gwneyd dim tuag at ddwyn yr anghydwelediad i derfyniad. Effeithia y streic yn niweidiol ar weith- feydd haiarn a dur, gan nas gellir cael glo. Mae y meistri wedi datgan y bydd iddynt hwy gadw eu rhan o'r cytundeb drwy adael y pyllau yn agored hyd y 9fed cyfisol, ond nid yw yn ymddangos yn awr fod unrhyw obaith am ddyfod i delerau.
LLUNDAIN.
News
Cite
Share
LLUNDAIN. EGLWYS DEWI SANT. -Nos Iau, y 31ain cynfisol, caed pregeth ragorol gan y Parch G. Hartwell Jones, A..C., rheithor Nut- field. Cawsom ddau gini ganddo cyn ymadael tuag at ddileu y ddyled sydd yn aros ar yr eglwys. Mae y boneddwr poblog- aidd yn parhau i fod yn hynod o garedig i'r eglwys hon er's llawer blwyddyn bellach. Mae holl aelodau yr eglwys, yn ogystal a'r Parch B. Thomas, B.A., yn teimlo yn ddiolchgar iawn i Mr Jones am ei garedigrwydd-yn enwedig am na ddarfu neb ofyn iddo am ein cynorthwyo.
[No title]
News
Cite
Share
Bydd olaf i fyned drwy ddwfr dwfn. Drwg yw'r ty na byddo hen wr yndde. Ar raw mawr, y mae hoel yn werth march. Pwyth mewn pryd, naw a erbyd. — Diareb. Llundain oedd y ddinas gyntaf i ddef- nyddio glo. Nid yw genedigaeth uchel ond saig wael ar y bwrdd. Yr hyn a ganmoler gan ynfydion gocheler gan ddocthion. Dewis dy wraig ar ddydd Sadwrn, ac nid ar ddydd Sul. Gair tyner a ddiffydd fwy o wres nao ystenaid fawr o ddwfr. ° Pan suddo y llong, pawb a wyr pa fodd y gallesid ei hachub. Yr hwn ni phrisia y ffyrling, ni bydd byth yn werth y ddimai. ty dy gymydoa ar dan, cyrcha ddwfr i th dy dy hun. Fe all meistr un-llygeidiog weled mwy na gwas a phedwar llygad ganddo. Yr hwn sydd yn byw mewn ty gwydr, ni ddylai daflu ceryg at ei gymydogion. Y mae tai yn sefyll yn awr yn Nurem- 1080' BaVaria' a adeiladwyd yn y flwyddyn Nid oes ond yn unig un person allan o bob 15 yn meddu llygaid perffaith. ac y mae y cyfrif mwyaf o'r diffyg hwn yn mysg y peraonau sydd yn meddu gwallt goleu.