Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Llitli o'r Mynydd.

News
Cite
Share

Llitli o'r Mynydd. Bum yn disgwyl yn amyneddgar wrth •Eglwyswr' Tycroes i anfon ychydig o hanesion a gweithrediadau y lie i'ch LLAN glodwiw, ond yn ofer bu y disgwyl- iad hyd yn hyn. Gobeithio y daw l'hyw awel fywhaol heibio iddo yn fuan, fel y cawn ganddo fyr-nodau o'r lie. Wele fi yn cymeryd yr eofndra o deithio ar ei dir am dro, gan erfyn am faddeuant, a gwn y gwnaiff ganiatau hyny. Yr wyf yn gwneyd hyn rhag ofn i'r hanes fyned yn rhy hen i'r LLAN, oblegid y "mae stale goods bob amser yn bur wrthodedig. Bu cyda ni Eisteddiod yma nos Sadwrn, Mawrth 12fed. Mr W. Lewis (Alaw Fferws), oedd yn beirniadu y canu, a'r Parch E. Jones, B.D., Hendy, Pontardulais, yr amrywiaeth; a chyf- lawnasant eu gwaith i foddlonrwydd cy. ffredinol. Yr oedd yr. ysgoldy yn or- lawn, a llawer yn ymgeisio am bob un o'r gwobrau. Bu rhai ofechgyn a merch- ed yr Eglwys yn llwyddianus i gadw rbai o'r gwobrau yn ein plith. Cafwyd y fath hwyl ynddi fel y penderfynwyd cael un arall yn fuan eto, a'r un beirniaid i wasanaethu. Mae llawer iawn o gleifion yn y gymydogaeth yma yn awr a'r llwch hwn wedi bod yn dioddef yn galed gan y clefyd hwnw a elwir yr influenza, ond diolch yr wyf yn gwella yn raddol. Mae olion yr hen glefyd yn aros ar ol, sef gwendid gobeithio y symudir hwynt yn fuan. Mae y tywydd oer difaol yn gorfodi y gwan i gadw o fewn y ty. Swn cwyno glywir o bob lie gan yr afiechyd hwn, a diau fod llawer o ohebwyr ffyddlon y LLAN yn cyfansoddi y dorf. Ein gobaith yw am ddyddiau gwell-dyddiau braf mis Ebriil, pan y ceir nerth i daflu ffwrdd yr hen afiechyd hwn sydd fel corff y farwolaeth yn poeni dynolryw. Nos Ian diweddaf, Mawrth 24ain, bu Mr Richards (Afonwyson) yma yn dar- litbio, oyda chymorth yr hud-lusern. Y pwnc oedd ganddo dan sylw oedd 4 Hanes gweittit-ediadau yr Eglwys Gatholicaidd yn y ddwy ganrif ddiweddaf.' Yr oedd Mr Richards yn hwylus d i-os ben gyda'i bw' ne, a chafodd ein llygaid a'n clustiau toddlonrwydd llawn. Fe ddarfu i'r hin droi yn an- ffafriol hollol, onide buasai yr ysgoldy yn rhy faoh. Y cadeirydd oedd ein Rheithor parchus. Yr oedd y darlith- ydd yn Ysgoldy LIanedi nos Wener drachefn, a chafodd wrandawiad astud, ond yr oedd yr hin yn hynod o anffafriol y noson hon- etc. Trueni o'r mwyaf fod cysylltiadau Mr Richards a'r gymdeithas ar ddiweddu, ac yntau wedi bod mor ffyddlon yn ei gwasanaethu am flynydd- au lawer. Dymunaf nawnddydd tawel i fy hoffus frawd. Llawenydd nid bychan i mi fod Cwmni y Wasg Eglwysig Gymreig yn byw, ac yn debyg o euill nerth bob dydd. Rhyfedd mor araf y symudir gyda mater mor bwysig, ac yn wir, oni b'ai fod y rhai sydd wrth y llyw yn meddul ar amynedd mawr, yn sicr byddai y llong erbyn hyn yn ddrylliau wrth daro yn erbyn y graig, alr gelynion yn bloeddio hwre ar y wreck. Mae He i ofni fod tuedd yn yr oes hon—yn neillduol y rhai hyny sydd yn J.aenllaw gan y cyhoedd i sathru yr hen iaith- iaith eu tadau-o dan draed, trwy siarad pob peth yn yr iaith fain a byddai yn gymwynas i ambell un gael ei droi yn ol i'r standard cyntaf ymhlith y rhai bach er e u dysgu i seinio y llythyrenau yn briodol. Nid yw y LLAN a'r Haul yn cael caniatad i ddyfod o dan eu cronglwyd. Yr oeddwn yn meddwl ar ol yr holl frwdfrydedd a ddangoswyd er dathlu dydd Dewi Sant, y byddai cyfranau y cwmni newydd wedi eu cymeryd i fyny bob yr un a llawer ereill yn curo yn daer wrth y ddor am gael rhan yn y gwaith, ond fel arall mae yr hanes yn profi. Fechgyn a merched anwyl Cymru lan, gwlad y g&n, mae yr ymddygiadau hyn yn tynu eich brwdfrydedd Cymreig yn wir i lawr i- zero, Darfu i ni feddwl ys- grifenu llith ar gyfrifoldeb ein dynion n" 1 cyhoeddus i'r iaith Gymraeg, a'r cam mae yr ben iaith yn ei gael oddiar eu dwylaw, ond ymataliaf rhag ofn i'r gwenyn dd'od at fy rnben. Drwg genyf yn wir fod hualau yr influenza wedi goddiweddyd y Parch R. Camber-Wil- liams, ond gwelaf ei fod yn dal ei law yn dyn wrth lyw y Ilong yn ei afiechyd. Dymunaf iddo adferiad buan, gwynt teg a heulwen bywyd i'r Hong i nofio weilgi ein Ilenyddiaeth Eglwysignes creu cy- wilydd i'r rhai nad ydynt wedi rhoddi eu henwau ar y I lory book.' Y mae ychydig o gyfranau wedi eu cymeryd o'r lie hwn (ond nid wyf wedi gweied yr enw allan yn y LLAN eto), a gallaf eich sicrhau nad oedd amgylcbiadau rhai yncaniatau hyn, ond gwnaed yr aberth o gaiiad pur at yr amcan mewn golwg. With orphen v llith apniben hwn, yr wyf meNn HVlyd,¡ i floeddio ddwywaitb, rliagofa fo 1 y I y n yn cygn yn dnvrn, 'DetI'ro, deiiVo, yr hwn wyt yn cysgu.' Tycroes. GARMON.

Creulondeb at Anifeiliaid.

Y Fasnach Alcan.

Penodiadau Eglwysig yn Esgobaeth…

Advertising

CHURCH PUBLICATIONS.

JARVIS & FOSTER'S