Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

I. Nodion o Ddyffryn Clwyd.

News
Cite
Share

I Nodion o Ddyffryn Clwyd. Yr oedd yn llawen iawn genym ddeall oddiwrth lythyr y Parch. 11. Camber- Williams yn y LLAN diweddaf, fod yna drefniadau wedi eu gwneyd i ddwyn y LLAN allan am na yn mhellach, gan yr hen bwyllgor. A in i. x r h;. d rwn y bydd iddo gael ei symud i'w gartref newydd yn y cyfamser, ac y bydd iddo gartref arhosol yn Llanbedr. Y mae wedi cael ami symudiad, ond gobeithiwn mai hwn fydd yr olaf iddo. Ac yn wir y mae ein calon yn llosgi ynom with weled difaterwch Eglwyswyr arianog Cymru mewn perthynas aChwmni Newydd y Wasg Eglwysig Gymreig. Ac nid yr arianog yn uuig, ond y rhai hyny hefyd sydd mewn amgylchiadau ag y gallent yn hawdd brynu cyfran yn y Gwmniaeth uchod. Nis gallaf ddyfalu beth maent yn feddwl dywedant y dymuneui i'r LLAN i. a'r Haul gael eii cadw mewn bodolaeth. Ac eto i gyd, nis gwnant ddim er gwneyd hyny yn ddichonadwy. Ar y Haw arall eto, cawn rai a ddywedant, nad yw yn un gwahaniaeth ganddynt hwy, nad ydynt byth yn eu derbyn. Wel, meddwn ninau, mawr yw eu cywilydd ddweyd y fath beth. Ac er mwyn cysondeb na fydded i'r cyfryw rai ymgyfenwi mwyach yn Eglwyswyr. Er mwyn hen Eglwys y tadau, ie, a gwir Eglwys y Duw byw, ymysgydwn o'n syrthni a'n difaterwch, a rhoddwn bob cynorthwy sydd yn ein gallu i'r Cwmni Gewydd yma. Gwyddom oil trwy brofiad mai cryf iawn yw dylanwad y Wasg, a phe collem y LLAN beth a ddelai o honom fel Eglwyswyr 1 Bydded i ni ystyried hyn a gweithredu yn unol ag argyhoeddiadau cydwybod, ac uchel lais dyledswydd. Mawr obeithiwn fod y Parch. R. Camber- Williams yn gwella o'r influenzx, a derbyn- ied ei barchedigaeth ein diolchgarwch tnwyaf diffuant am ei ymdrechion digym- harol, a'i lafur diflino mewn perthynas a'r Wasg Eglwysig Gymreig. Y mae ein rhwymediaeth i'r boneddwr yma yn wir fawr. NANTGLYN. Taflwyd y pentref tawel hwn i gyffro ttlawr y dydd o'r blaen, trwy i orsaf yr heddgeidwad gychwyn ar dan, ond trwy ymdrechion gwrol a deheuig Mr Griffiths, y gof, trechwyd yr elfen ddinystriol cyn iddi gasglii Ilawer o nertb. Ond yr hyn oedd yn gwneyd yr amgytchiad yn wir sobr a difrifol oedd meddwl fod Mrs Williams, anwyl briod yr heddgeidwad, yn ei gwely dan law cystudd, ac yn analluog i symud. Ond da genym allu dweyd na fu y golled yn drom iawn. DINBYCH. Dydd Mercher, gerbron yr Ynadon Sirol, cyhuddwyd geneth ieuanc o Lanrhaiadr, o'r enw Catherine Thomas, o ladrata dwy ffedog, a chafwyd hi yn encg ar ei haddefiad ei hun. Gan mai hwn oedd ei throsedd, cyntaf, rhwymwyd hi i dd'od i fyny i dder- byn ei dedfryd pan elwid hi, gydii thalu lp 6a o gostau.-f:lefyd, dirwywyd un R. W. Ellis, Lon Ganol, o'r dref hon, i Ip a'r costau, am herwhela ar dir Pontruffydd.- Nos Iau, yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, cyn- haliwyd cyfarfod dir>vestol. Y cadeirydd y Waith hon ydoedd Mr D. Roberts, verger, St. Dewi, a llanwodd ei swydd yn wir effeithiol. Dechjeuwyd fel arferol trwy erayn, ac offrymwyd gweddi daer at Dduw am ei fendith ar y gwaith gan y Parch E. J. Davies, curad hynaf. Y peth cyntaf t.r y thaglen ydcedd can gan Mr Henry Roberts, 11 yna cafwyd can gan Mr Edward Storry, ao adroddiad gan Mr J. Morris Jones yn ddilynol cafwyd anerchiad hynod alluog a thanllyd gan y Parch D. W. Davies, ficer Llanelwy, ar Y gwaith dirwestol yn ei wahanol agweddau.' Llefarwr hyawdl a lUthrig yw Mr Davies, a theimlad y Din- bychiaid yw, brysied yma eto. Yna cafwyd adroddiad arall gan Mr J. M. Jones. Da genym allu dweyd fod y canu a'r adrodd yn rhagorol. Chwareuid ar y berduneg gan Miss Nott, yn hynod feistrolgar. Yr oedd Y cynulliad yn weddol dda, ag ystyried oerni y tywydd. Ar ol canu Dan dy fen- dith,'&c., datgapwyd y fendith gan y Parch D. Davies, rheithor.—Y pregethwyr yr Wythnos hon oeddynt Parch E. J. Davies, yn Gymraeg, a'r Parch Poole Hughes, ticer Wyddgrug, yn Saesneg. AMRYWION. Clywsom mai llwyddiant perffaith oedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn ysgoldy Cefn Meiriadog nos Fawrth, mewn cysylltiad a Chyngrair y Friallen. Manylion yr wyth- nos nesaf. -Tybed Dacl ydywRasmws Jones ddim wedi d'od yn ol o'r Brifddinas ar oJ Gwyl Dewi? Mawr ofnwn nad ydyw Betsy Jones hefyd ddim wedi cyraedd, neu ynte ei bod wedi anghofio ei hun ar ol cael ) fonet newydd i fyned gyda'i meistr i Lun. dain. HILARY.

[No title]

TRELEWIS.

LLUNDAIN.

BLAENAU FFESTINIOG.

ST. ANN'S,

[No title]

Advertising