Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
--"---'---_"---------. ! ;.."Gwib-Nodion.I;'
News
Cite
Share
Gwib-Nodion. I;' [GAN ISALLT, J Mae yn ddieu genyf mai y peth cyntaf sydd weddus i mi wneyd yn nechreu fy llith ydyw ymddiheuro i chwi, Mr Gol., a'ch darllenwyr hawddgar, am fy nistaw- rwydd maith. Y mae amryw resymau genyf, wrth gwrs, paham yr wyf wedi sefyll o'r neilldu cyhyd, ond gan na chaent yr un gwrandawiad ond yn hytrach eu camenwi yn esgusodion, gwell ydyw gwneyd handsome apology ar un- waith ac addaw pwt o lythyr mor ami ag y gellir. Yr hyn a'm tarawai pan yn darllen nodyn deffrous Sylwedydd' alluog yn ei lith ddiweddaf ydoedd mor rhwydd y gellir hebgor y goreu, pa faint mwy y lleiaf ymhob cylch. Ein tuedd ni yw barnu nas gall mudiad neu waith fyned ymlaen heb ein cymorth NI o hyd. Cawn y dyb hon yn cael ei choleddu ymhob cylch-yr Ysgol Sul, y cor, y pwlpud, y gymdeithas hon neu'r gym- deithas arall. Ond fe gwyd yr haul, fe newidia'r lleuad, ac fe aiffy LLAN ymlaen a hi a dywallt ei goleuni llachar yn ffurfafen yr Eglwys yn Nghymru yn union yr un peth, pwy bynag ymgilia o'r golwg. Mawr les i ymdrechion y LLAN-garwyr pybyr yn eu penderfyniad i wthio i'r dwfn. Dirgelwch llwyddiant ydyw yni a dyfalbarhad yr officers', fe ddaw y rhengoedd os gwelant galon a gwroldeb yn arwain. Mae neillduaeth Reuben yio beth cywilyddus wrth gwrs, ond iddo ef y mae'r cywilydd yn unig ac y mae bod Dan yn aros mewn lIongau yn siomedigaetb, ond wedi'r cwbl Dan yw e', a dyna ddisgwylid ganddo. Ond fe geir goal hebddo, druan. V Mae yna lawer o bynciau pwysig yn cael eu trin mewn byd ac Eglwys y dyddiau hyn sydd o ddyddordeb dwfn i bawb o honom, ac y mae yn anhawdd iawn dewis pa un o honynt deilynga y gair cyntaf I ddechreu gyda'r byd gwleidyddol fel arfer, gellir dweyd, os gallwn gredu y newyddiaduron, fod yna. gryn anesmwythder ar led yn mhob gwlad ar yr adeg bresenol. Ond yn fy tuhrofiad i petbau i'I'res iawn ydyw'r newyddiaduron, ac 1) mae ychydig o halen yn welliant mawr arnynt. Y mae un peth yn wiram bob un o'r Galluoedd, sef, nad ydynt yn dymuno rhyfel o gwbl. Gwir bod arnynt ofn rhyfel, a'u bod yn paroti ar ei chyfer, ond gwna pob un o honynt eu goreu i'w osgoi. Arwydd ragorol yw hyn. Y maent wedi, o'r diwedd, ddysgu y wers nad enill ond colled aruthrol hyd y nod i'r gorchfygwr L ydyw rhyfel; ac y maent wedi dysgu gwerth heddwch ac wedi cael bias ar drafnidiaeth a masnach. Ac os daw rhyfel, o orfod y daw ac nid o ddewis, a lied debyg mae'r ddau allu mawr ieuanc yn rheoleiddiad y byd, sef y Wasg a'r Werin, gyneu^'r fatsen. ( nd tueddfryd pob gwlad o bobl y dyddiau hyn sydd tuag at heddwcb, a dyma lie y mae ein gobaith. Pwnc blaenaf y dydd yn y cylch Eglwysig ydyw y Mesurau Nawddog- aeth. Am y rhan fwyaf o lawer o'r naill Fesur a'r Hall, nid oes yn gyffredinond un farn a hono yn ffafriol, ond y mae yn fater dyrus dros ben, a gellir gwneyd anghyfiawnder yn rhwydd iawn ynddo. Perygl mawr y pwnc ydyw ceisio gwneyd y mesur yn rhy gaeth drwy osod gormod ynddo. Tybia pawb y gallant ddiwygio yr Eglwys, ac y mae ganddynt eli at bob clwyf. Os mynir pasio'r mesur, gwneler ef mor syml ac mor fyr ag a ellir. Myn rhai osod yn y Mesur hwn hawl i'r plwyfolion ddewis y person. Ni fyddai hyny ond dechreuad gofidiau diddiwedd. Anghofir bod pob plwyf yn meddu yr unig hawl sydd yn ddiogel ac angeni heidiol iddynt gael yn bresenol. Gofynir llais y plwyf cyn 1 ordeiniad pob offeiriad, ac onid yw hyn j yn ddigon ? Hyn yw rheol yr Ysgrythyr a'r Eglwys erioed, a synwyr cyffredin J hefyd. Nid oedd St. Paul yn gofyn Eglwys Creta a fluent Titus ai peidio c ond gadawodd ef yno ar ei awdurdod el hun. Mwynheais fy hun yn fawr ar ddydd Gwyl St. Dewi o f ,wn muriau cysegredig Ai athrofa enwog. Yr oedd yn iechyd calon ac ysbryd i gael bod yn ngolwg a chlyw y fath frwdfrydedd cenedlaethol ac Eglwysig. Yi oedd y proffwydi yn ymddisgleirio mewn gwladgarvcn a chenin, a'u meibion, wrth gwrs, yn wen- fflara, Unig siom y dydd i mi ydoedd colli I Sanbalat' ffytidlon, ddoniol. Fy i llaw yn y LLAN iddo hyd well ffawd y tro nesaf. Diolch iddo am ei nodiad caredig.
Y Llyfr Gweddi Cadeiriol a'r…
News
Cite
Share
Y Llyfr Gweddi Cadeiriol a'r Psallwyr Cadeiriol." Dan olygiaeth y Parch Canon Williams, Caerfyrddin, a Mr Thomas Edwards, or- ganydd Eglwys Gymreig St Martin, Caer. Argraffwyr Mri Novello, Ewer, a'u Cwmni, Llundain a New York. Rhan V., pris 2s 6c. [GAN NORTHMAN.] Bu i'ch adolygiad cymeradwyol chwi, Syr, ar y llyfr uchod, ynghyd ag adolygiad- au ffafriol ereill a welais, godi awydd mawr ynof i gael gol wg arno, a chael cyfleusdra, fel y gweddill o'm cydgreaduriaid, i roddi fy nhipyn tap mesur arno. Er's pan ddaeth i law, mae pob munyd allaf hebgor wedi myned i'w chwilio a'i farnu, a'i gymharua phob llyfr, hen a diweddar, fedrais rdddi fy llaw arno, a'm barn gydwybodol a gonest yw, I Ti a dra ragoraist arnynt oIl.' Ni ddymun wn roddi argraff gamarweiniol. Nid wyf gerddor yn wir ystyr y gair, ond bydd- af yn or-hoff o flirtio gyda cherddoriaeth, ac y mae'r llyfr newydd hwn wedi agor maes newydd i'm gwendidau. Yr wyf wedi cael hwyl ac adloniant am oriau yn ei gym- deithas. Pa ryfedd hyny pan y mae cerdd- orion Seisnig. mor adnabyddus a Syr J. Barnby, Mr J. Battisbill, Syr vY. S. Ben- nett, Dr J. C. Bridge, Dr W. Crotch, Syr G. Elvey, Dr Gilbert, Syr J. Goss, Dr Garrett, Dr Hopkins, Syr G. A. Mae- farren, Dr E. G. Monk, Syr John Stainer, Dr Rimbault, &c., a cherddorion Cymreig, fel Dr Roland Rogers, Owain Alaw, Eos Llechid, Mr Westlake Morgan, Hywel Idloes, Mr Thomas Edwards, Mr M. W. Griffith, y Parch J. Owens Evans, &c., yn cyfoethogi ei dudalenau a ffrwyth eu tal- entau disglaer. Y mae yn cynwya tua 300 o gorganau, ac y mae yn eglur nad ydynt wedi eu rhoddi i mewn i chwyddo maiut y llyfr, ond oherwydd eu rhagoroldeb. Y mae dros driugain ohouyat yn copyright y eyhoeddwyr-ffaith hwysig iawn, fel y syl- wodd y Parch J. R. Roberts, Garthbeibio, mewn rhifyn blaenorol. Cyfansoddwyd 35 yn neillduol ar gyfer y gwaith hwn. Y mae digonedd o ddewis ar gyfer y cantiglau, 35 i'r I Venite,' 12 i'r Te Deum,'17 i'r 'Bene- dictus,' &c. Caraswn weled mwy o ddewis gyda'r Psalmau. Oni buasai fod pob un yn dda, buasai genym gwyn am hyn. Tra yn son am y Psalmau, gadawer i ni longyfarch y golygwyr ar y trefniad—y chant a'r Psalm i'w chanu arni ar yr un tudalen. Mae hyn yn hwylusdod dirfawr. Meddylddrych rhagorol hefyd oedd rhoddi y Psalmau Priod ar gyfer dyddiau gwyliaa ar wahan yn y diwedd, yn lie fod yn rhaid i'r cor droi tudalenau yma ac acw i chwilio am danynt. Bydd y trefniad yma yn sicr o gael ei werthfawrogi gan ein corau. Dyna ddigon ar y gerddoriaeth. Pan yn ymddiddan ynghylch y llyfr y dydd o'r blaen a cherddores dalentog, y cwestiwn cyntaf a ofynodd i mi oedd, Sut mae'r geiriau wedi eu eyfaddaeu i'r gerdd- oriaeth V Ac nid oes genyf ofn ysgrifenu ar dudalenau y LLAN fy atebiad iddi 'Rhagorach o lawer na'r un a welais eto. Ni chanais Psalm erioed heb ddyfalu beth allasai y cyfaddasydd fod yn meddwl am dano pan yu trefoil rharmd y geiriau mown dull mor glogyrnaidd. Mae yn anmhosibl canu llawer Psahn oherwydd y dull aa^belf- ydd y mae'r geiriau wedi eu Uefnu Mae Canon Williams wedi cyraedd pnffoith- rwydd uwch na'r un o'i ragflnenwyr mae rhaniad y geiriau yn rhedeg fel lli'r afon maent yn naturiol, rhwydd, a Hitbrig; 'doe,-i yma ddim jaw breakers. Y rheswm ydyw fod y Canon wedi cymeryd trafferth a llafur dirfawr ond ni fuasai y 1 afur mwyaf yn cynyichu gwaith mor ddifrychau a hwn oni b'ai fod y golygwyr yn gerddorion ym- arferol, ac y maent i'w llongyfarch yn gal- onog ar berffeithrwydd ou gwaith. Yr wyf wedi chwilio tudilen ar ol tudalen am wall argraffyddol, ond ni sylwais ond ar un, sef lawen yn lie )Jawen ar tudalen 21. Yr wyf newydd weled adolygiad y Western Mail ar y llyfr, ac y mae yn siarad vn uchel am dano. 'Oh the whole, how- vel', the book is quite irreproachable, aearing proofs on every page of the loving :are and pains bestowed upon it. It is a great undertaking, and Canon Williams and Mr Edwards, in bringing it out, have incurred a serious responsibility, and we earnestly hope that their noble and patriotic efforts will be duly rewarded.' Mae y Rhaglith a'r Cyfarwyddiadau geir yn werth eu hastudio yn ofalus gan holl arweinyddion ac aelodau ein corau. Byddai hyn yn sicr o ddyrchafu canu y cysegr. Yr wyf yn hoffi awgrymiad y Mctil ar i'r llyfr gael ei fabwysiadu yn Ngholeg Dewi Sant. Byddai hyny yn foddion effeithiol i lefeinio holl Gymru. A wna Cymru werthfawrogi yr ymdrech hon 1 Ymhen amser y mae y llyfr yn sior o gael ei fabwysiadu yn lied gyffredinol. Mae gwerth bob amser yn pwyso. Ac y mae'r llyfr hwn trwy y gofal a'r galln a pha rai y parotowyd ef, a'r destlusrwydd a'r hwn y trefnwyd ef, yn sicr o enill safle uchel yn serch Eglwyswyr Cymru. Y mae yn an- ujhosibl psidio ei gymeradwyo, a llongyfarch y golygwyr ar ei gyhoeddiad. Bydd yr Eglwys Gymreig yn gyfoethocach erddo.
Cyflwyniad Dyddorol yn Nghaerfyrddln.
News
Cite
Share
Cyflwyniad Dyddorol yn Nghaerfyrddln. Yr oedd dydd Gwener, y 25ain cynfisol, yn ddiwrnod a hir gofir gan weithwyr swyddfa y LLAN a'r Journal yn Nghaer- fyrddin, yn herwydd y ffaith fod y rhai sydd yn dal cysylltiad a'r newyddiaduron a enwyd wedi ymgynull yn y Blue Boar Inn, Water-street, i'r dyben o arddangos eu hedmygedd o, a'u parch tuag at, Mr Daniel Watkins, cyfieithiwr, Llaubedr-pont- stephan, yr hwn fu hyd yn ddiweddar yn uwchreolydd a golygydd y Journal. Heb- law aelodau y swyddfa, yr oedd nifer mawr o gyfeillion Mr Watkins hefyd yn bresenol. Yn absenoideb anorfod Mr Tobit Evans Y.H., yr uwchreolydd a'r golygydd pre- senol, oherwydd afiechyd, etholwyd Mr T. Davies, arolygydd yr adran newyddiadurol, i'r gadair. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Tobit Evans yn gofidio am ei fod yn analluog i fod yn bresenol, ac yn dwyn tystiolaeth uchel i ragoriaethau Mr Watkins fel dyn unplyg a chyfaill cywir, ac yn dy- muno iddo o galon bob llwyddiant yn ei gylch newydd yn y dyfodol.-Wedi ychydig eiriau pwrpasol i'r un perwyl gan y Cadeir- ydd, deuwyd at brif waith y cyfarfod, sef cyflwyno i Mr Watkins ddarlun hardd ohono ei hun, gwneuthuredig gan Mr H. Howell, yr arlunydd enwog o Gaerfyrddin. Yr oedd y darlun wedi ei osod mewn ffram oreuredig wych, ynghyd ag arysgrifen briodol odditano o waith Mr J. P. Lloyd. Gofynwyd i Mr Watkins dderbyn yr an- rheg fechan hon, nid yn gymaint o ran ei gwerth, eithr fel arwydd fechan o'r parch a'r edmygedd a goleddid tuag ato gan ei hen weithwyr.' Cyflwynwyd yr anrheg gan Mr G. Millman, un o arolygwyr y swyddfa, mewn araeth fer ond bwrpasol.-Yua cod- odd Mr Watkins yn nghanol brwdfrydedd mawr, a dywedodd ei fod y noson hono ymhlith ei hen gyfeillion a'i gydweithwyr. Teimlai mai gorchwyl caled oedd siarad, am fod cynifer o bethau yn ymwthio i'w feddwl fel nas gallai ddatgan ei hun yn hriodol parthed y saith mlynedd a dreuliodd mor ddedwydd yn eu plith. Yna gwnaeth y siaradwr adolygiad o brif helyntion y tymor hwnw, gan gyfeirio at sefyllfa y Journal pan ddaeth efe gyntaf i gysy 11 tiad ag ef, gyda chylchrediad o 400 yr wythnos, a dim ond tri o ddynion ac ychydig fechgyn, tra yr oedd ei gylchrediad yn awr yn fwy nag eiddo unrhyw newyddiadur yn y tair sir. Yr oedd y clod am yr agwedd lewyrchus bresenol ar y swyddfa mewn rhan yn ddy- ledns i'w cydweithrediad hwy fel gweith- wyr, ac mewn rhan iddo yutau. Yr oedd llwyddiant y Journal i'w briodoli i ddoeth- ineb y cyfarwyddwyr, y rhai a adawent bob- peth yn nwylaw y cyfarwyddwr llywyddol, y Milwriad Davies Evans. Yr egwyddor ar yr hon y gweithredai y cyfarwyddwyr yd- oedd tal da am waith da. Yroedd ganddynt feistr haelfrydig a rhyddfrydig yn Mr Tobit Evans. Ar ol diolch i bawb am y cynorth- wy a estynasant iddo pan yn olygydd, ter- fynodd gyda dymuno pob llwyddiant iddynt. Nid ydym ond yn rhoddi crynodeb o'r araeth deimladwy hon, a geUid gweled oddi- wrth y cymeradwvaethau ami a gawsai pa mor uchel ei bareh ydoedd Mr Watkins yn ngolwg y gwyddfodolion. Yr oedd rhaglen ardderchog wedi ei darparu, yn cynwys caneuon difyr ac adloniadol, ac y mae clod yn ddyledus i Mr W. G. Hancocke am ei wasanaeth fel ysgrifenydd. Cyfeiliwyd yn fedrus anghyffredin, fel arfer, gan y perdonegydd galluog, Mr T. S. Puddicombe. Yr oedd pob math o refresh- ments wedi eu harlwyo ar draiii Mr Watkius. —Terfynwyd y cyfarfod drwy ganu yr Anthem Genedlaethol.
[No title]
News
Cite
Share
Ar gyfartaledd, y mae pob dynes yn cario o ddeugaiu i driugain milldir o wallt ar ei phen. Y mae y Chineaid yn San Francisco yn rhifo oddeutu 20,000, ac yn oynwys 2,500 o ferched.
Dirgelwch Bywyd.
News
Cite
Share
Dirgelwch Bywyd. Un o ddadguddiadau pwysicaf yr oes hon yw y milionos.' Y mae presenoldeb an- eii-if y mhnfilod byn yn mhob peth ac o amgylch pob peth wedi dymchwelyd hen I y gyfundrefnau athronyddol a chrefyddol. Cyn 1830 ni wyddai y byd fawr am y bacteria a'r 'microbes sydd yn chware rhan rnor hanfodol yn haneg cychwyniad a dadblygiad clefydau. Yn ngoleu yr athraw- iaeth ryfedd gellid meddwl nad yw bywyd dyn nac anifail yn ddim ond cynyrch myrddiynau o'r manfilod hyn Syniad newydd hefyd yw fod poen yn gynyrch presenoldeb rhywogaethau gwenwynig ac afreolus o'r manfilod hyn, ac fod hyd yn nod y meddwl dynol a gweithrediadan yr ymenydd yn ymddibynu ar gyflwr cyflun- iad bywydol y milionos amrywiol hyn. Ar y cyntaf coelid mai cynyrch ymddirywiad bywyd oeddynt ond yn ddiweddar daw i'r amhvg fod iechyd yn ogystal ag afiechyd yn gynyrch perthynas a rheolaeth y man fywydau aneirif hyn yn en plith eu hunain. Presenoldeb y rhai hyn sydd yn rhoddi bias ar fwydydd a sawyr ac arogl i ddef- nyddiau. Y maent yn deyrnasoedd o fewn a bydoedd anamgyffreadwy i ddiruadaeth y meddwl dynol Onid yw yn ofnadwy tybio, feallai, fod ymhob un o'r manfilod deyrnasoedd o rai eto annhraethol fanach ? Achosir clefydau a heintiau gan gythrwfl nou wrthryfel yrnhlith lluoedd o'r mau- fodau hyn, ac nid yw pcen, y ddanodd er engraifft, ond cyayrch gwrthdarawiad rhwng dwy fyddin o filionos y gellid gosod 500,000,000 o bonynt ar ddarn chwech.
ST. FFAGAN'S, ABERDAR.
News
Cite
Share
ST. FFAGAN'S, ABERDAR. PRIODAS. —Gyda chryn dipyn o syndod a llawenydd y gwrandawsom ar ostegion ein hen gyfaill, Mr Jonathan Jones, darllenwr lleyg trwyddedig, ac ei fod yn bwriadu ym- glymu yn ystod gwyliiu y Pasg. Cawsom syndod am fod y peth yn sydyn ac yn ddi- arwybod i bawb, ac yn llawenydd am ei fod yn bwriadu cartrefu yma gyde, gwraig o'r hen wlad dda ac adnabyddus, sef Sir Aber- teifi. Nis gallwn ar hyn o bryd hyfforddio i golli neb, gan fod bylchau yn cael eu gwneuthur yn fynych yn y rhengoedd. Dymuuwn hir oes a dedwydd iddynt.— Oyfaill. MARWOLAETH.—Pruddaidd yw ein gor- chwyl ni yr wythnos hon i gofnodi am farwolaeth yr hen frawd parchus a gweith- gar, Mr William Jones, clochydd, yr hyn a gymerodd le yn nhy ei fab nos Fawrth di- weddaf, sef yr 22ain cynfisol, yn 63 mlwydd oed. Yn wir, yr oedd yr hen frawd yn un o'r aelodau henaf o'r Eglwys, ac yn cyflawni y swydd o fod yn glochydd am flynyddau lawer. Yr oedd yn ganwr ardderchog, ac yn meddu ar lais melodaidd, ac fel dechreu- wr canu cynulleidfaol yr oedd yn odidog. Yr oedd afiechyd wedi ei analluogi i ddilyn ei alwedigaeth er's blynyddau, ond trwy drugaredd, yr oedd yn abl i ddyfod i'r'Eg- lwys, yn Sabbathol ac wythnosol, hyd yn nod o fewn tri mis i'w farwolaeth. Cafodd ei ran o helbul yn y byd hwn, fel y patri- arch Job gynt, a chredwyf ei fod wedi dysgu y wers o ymostwng i ewyllys ei Grewr yn drwyadl yn ysgol yr Athraw Mawr, oblegid arferai ddywedyd y dylai pawb dderbyn cystudd o Jaw Duw mor ewyllysgar a'r trugareddau allanol mwyaf hyfryd. Teimlad cysurus o'r fath a nodwyd I yn ddiamheu a'i cynorthwyold i ddioddef ei gystudd diweddaf mor amyneddgar ag y gwnaeth. Ymunodd a chrefydd pan yn bur ieuanc, a chafodd y fraint o ddal gyia hi hyd derfyn ei oes. Arferai ddywedyd yn fyuych fod crefydd yn talu ei ffordd yn dda yn y byd hwn, ond meddai, pa faint gwell yn y byd a ddaw—'bywyd tragy- wyddol.' Canmolodd lawer ar grefydd, ac y mae yn sicr genym na wrthododd hithau yntau yu ei oriau olaf, ond yn hytrach iddi droi yn elw tragywyddol iddo. Collodd yr Eglwys a'r Ysuol Sul gyfaill twytngalon, ac un ag oedd yu gweithio yn eguiol dros yr achos. Yr oedd yn weddiwr taer a theiml- adwy iawn. Anfynych y cyfodai oddiar ei liniau heb ddagrau ar ei ruddiau. Fel pen teulu yr oedd yn ffyddlawn a thirion, ac fel cymydog yr oedd yn gymwynasgar, ac hawdd cydfyw ag ef. Gadawodd weddw a phedwar o blant i alaru ar ei ol. Y dydd Sadwrn canlynol cludwyd y rhan farwol ohono i fynwent Eglw) s y Plwyf, pryd y daeth tyrfa luosog ynghyd i dalu ygymwyn- as olaf iddo Cyn cychwyn o'r ty, darllen- wyd a gweddiwyd gan y Parch E. Davies, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parchn E Bevan, ficer, a H. R. Roberts, ein curad Nos Sul diweddaf, traddudodd ein parchus Ficer y bregeth angladdol, gan sefydlu ei destyn oddiar Phillipi i. 19, Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth.' Cyfeiriodd mewn modd toddedig a theimladwy ar ol ein cyfaill. Canodd y cor emynau cyfaddas i'r achlysur, ac ar ddiwedd y gwasanaeth, chwareuwyd y Dead March yn effeithiol iawn gan Mr E. Hughes, ein horganydd. Bydded i Dad yr amddifaid dywallt olew cydymdeimlad ar y weddw a'r plant sydd yn eu galar. W.