Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
Anffawd Genedlaethol.
News
Cite
Share
Anffawd Genedlaethol. Teimlif tristwch cyffredinol drwy y wlad a'r ymherodraeth benbwygilydd oherwydd fod iechyd y Prif Weinidog wedi pallu dros enyd, yr hyn sydd wedi ei ot fodi i drosglwyddo i Mr Balfour, am yr amser presenol, y gwaith pwysig ynglyn a'r Swyddfa Dramor. Y mae pawb, gan nad pa blaid y perthynant iddi, yn hyderu y bydd i'r gwendid oddi- wrth yr hwn y dioddefa Arglwydd Salisbury, fel canlyniad yn fwyaf neill- duol i'w ymgysegriad i ddyledswyddau ei swydd ddyblyg fel Prif Weinidog ac Ysgrifenydd Tramor, ymadael ag ef yn 0 fuan, ac y gwelir ef eto draclefri yn ei gyflawn arfogaeth cyn pen hir amser. Gwyddis mai anweithgarwch yw y mwyaf blinderus o bobpeth i'n Prif Weinidog gweithgar a llafurns. Gweithiwr caled, yn ystyr fanylaf y gair, ydyw penaeth teulu hanesyddol Cecil ac nid yw yn gyfrinach yn y Swyddfa Dramor, ei fod yn ym- gymeryd yn bersenol ag wmbredd o waith a addewir yn gyffredin i is-raddol- ion, a'r hwn, yn bendifaddeu, allesid ei adael yn llonydd gan wladweinydd sydd yn cyfuno dyledswyddau dwy safle drwm- Iwythog o gyfrifol yn ei berson ei hun. Pan y mae yr ellyll anwydwst yn gosod ei grafangau ar ddyn sydd yn meddu ar gymaint o waith caled, ac o bryder di- baid Ardalydd Salisbury, nid yw ond peth i'w ddisgwyl fod yn ofynol i'r claf gymeryd gorphwysdra fel amod anheb- gor am ddiangfa o'i bawenau, gan hyny, nid oes yr un rheswm dros ryfeddu at balliant rhanol Arglwydd Salisbury dros amser. Ond tra y mae ei hawddgarwch per- sonol a'i ymroddiad gwladgarol i wasan- aeth y Wladwriaeth wedi enill i Ar- glwydd Salisbury serch ei ganlynwyr ei hun a pharch ei wrthwynebwyr gwleid- yddol, y mae rhesymau ereill paham y rhaid i ni oil dddymuno am ei adferiad buan, y rljai a fynegwyd gan Arglwydd Rosebery yr wythnos ddiweddaf. Nid gormod ydyw dweyd fod Arglwydd Salisbury yn sefyll, drwy gydsyn- iad cyfltredinol, ar lwyfan uwch mewn perthynas ag arweiniad materion tramor nag unrhyw wladweinydd Prydeinig arall sydd yn fyw. Y mae ganddo, fel y ddywedodd Arglwydd Rosebery, 'brofiad dihafal braidd o faterion tramor," ac felly, pan y mae wrth y llyw, teimla y genedl fod ganddi wladweinydd yno y gellir ymddiried, yn ngeiriau Arglwydd Rosebery, ei fod yn deall ei waith yn well na neb arall. Hwyrach, pan y temtir rhai ohonom gan arddangosiad o ochelgarwch ar ran Arglwydd Salisbury sydd yn ymddangos yn ormodol, i hiraethu am wladlywiaeth fwy anturiaethus, nad ydym yn dal mewn cof fod ganddo ef, pa un a yw ei farn yn iawn ai peidio, lawer gwell moddion i ffurfio barn gywir nag sydd gan neb o'i feirniaid. Yn wir, nid oes unrhyw ddyn yn y wlad, a dim ond un ddynes-ein grasusaf Frerhines-a all drafod materion tramor gydag Arglwydd Salisbury oddiar brofiad ohonynt cyfartal iddu ef. Y mae hon yn ffaith y byddai yn dda ei chadw mewn cof. Modd bynag, os oes unrhyw adeg ag y buasai yn ofidus fod Arglwydd Salisbury yn cael ei orfodi i ymneillduo o arwein- yddiaeth y Swyddfa Dramor, y mae am- gylchiadau y sefyllfa ryngwladwriaethol bresenol yn ein cyfiawnhau i ystyried ei absenoldeb fel anffawd genedlaethol. Nid oes genym air i'w ddweyd yn erbyn Mr Balfour, gan fod ei gyfeillach adna- byddus a'i berthynas yn sicrwydd digon- ol y bycfd iddo wneyd ei oreu i lanw lie Arglwydd Salisbury fel y mynai iddi gael ei llanw. Er hyny, y mae cynifer o futerion mor bwysig i ymdrin a hwy ar yr adeg bresenol fel y gellir dweyd na fu gan arweinyddiaeth llywottrefn Brydeinig erioed fwy o anhawsderau a chyfrifoldeb i gyfarfod a hwynt. Dyna un rheswm pellach paham nas gellir heb- gor Arglwydd Salisbury. Y mae ei archwaeth wancus at waith wedi ei allu- ogi i gadw rheolaeth ar yr holl edefau yn nghenglyn dyrys Uysgenadaeth mewn ffordd ag y cenfydd Mr Balfour yn hynod anhawdd ei efeJychu. Ac ni raid dweyd mai dyrysu fwy-fwy wna y ceng- lyn yn absenoldeb Arglwydd Salisbury. Mae ein cydymgeiswyr tramor yn gwyl- io, a gellir disgwyl y cant hwy eu cyf- leusdra yn ein hanffawd ni. Yn wir, mae yr hen frawd Kruger eisoes yn ym- ddangos megis wedi dyfod i'r pender- fyniad y gall gymeryd gafael ar yr ach- lysur presenol i ymwrthod a Chytundeb Llundain, gan obeithio fod dwylaw Lloegr eisoes yn ddigon Hawn i ganiatau iddi amddiffyn ei hiawnderau a'r cledd. A gellir disgwyl yn hyderus y bydd i wledydd eangach nag a lywodraethir gan Arlywydd Kruger ei ddilyn mewn ffyrdd gwahanol. Nid yw Rwsia na Ffrainc yn ddifater i'r ffaith fod yr Ys- grifenydd Tramor yn gystuddiol. Am ba achos, yn y cyfwng difrifol presenol ar faterion cenedlaethol, y mae yr holl Ymherodraeth Unedig yn edrych ymlaen yn awyddus at ddychweliad Arglwydd Salisbury i'r swydd ag y mae yn an- mhosibl i neb arall ei llanw fel efe.
Yr Helynt Chineaidd.
News
Cite
Share
Yr Helynt Chineaidd. BYGWTH KHYFEL. Y FANER RWSIAIDD YN CAEL EI DYRCHAFU. Pan gyhoeddwyd yn y newyddiaduron ddydd Llun fod y Rwsiaid wedi medd- I ianu Porth Arthur a Talienwan, crewyd cryn anesmwythder drwy y wlad, ac er fod rhai yn ameu yr adroddiad, cafwyd digon o sicrwydd yn ystod y dydd ei fod yn wir, er nad oedd llawer o fanylion wedi cyraedd. Dydd Llun, derbyniwyd hysbjsrwydd pellebrol o Pekin i'r per- wyl fod y cytundeb rhwng China a Rwsia wedi ei arwyddo y dydd blaenor- ol. Ymadawodd y milwyr Chineaidd yn ddioed o'r daau le, a chymerwyd eu lie gan filwyr Rwsiaid,d, o ba rai y mae baner can' mil wedi glanio yn China. Ofnir yr esgora hyn ar ganlyniadau erchyll, gan y dywedir nad yw Prydain yn foddlawn i'r hyn a wnaed, heblaw fod Germani a Ffrainc yn eiddigeddus. Dywed rhai fod dealltwriaeth rhwng Lloegr a Rwsia gyda golwg ar y medd- ianiad, tra y mae ereill yn ei wadu yn yn llawn mor egniol, ond ceir ychwaneg o oleuni ar hyn yn fuan.
--AFIECHYD ARGLWYDD SALISBURY.
News
Cite
Share
AFIECHYD ARGLWYDD SALIS- BURY. Cyhoeddwyd erthygl arweiniol bwysig yn y limes ddydd Llun, yn yr hon y gelwid sylw at y ffaith anffodus fed Lloegr ar hyn o bryd, i bob dyben ym- arfero!, heb Brif Wbinidog nag Ysgrif- el 0 C5 enydd Tramor, swyddi a ddelir gan Ar- glwydd Salisbury, yr hwn, oherwydd ei afiechyd, sydd ar hyn o bryd yn Ffrainc. Wrth gwrs, nid oes neb a goledda dyb- iaeth am funyd y dyhi ymddiswyddo. Y gobaith a goleddir yw y bydd i'r ar- dalydd urddasol benodi boneddwr cy- mwys i arolygu y Swyddfa Dramor yn ystod ei absenoldeb. Mae difrifoldeb y sefyllfa ar hyn o bryd yn galw ar i ryw- un cryf a galluog fod wrth y llyw.
YMDRAFODAETH YNY SENEDD.
News
Cite
Share
YMDRAFODAETH YNY SENEDD. Cymerodd ymdrafodaeth le yn y Sen- add nos Lun ar y sefyllfa bresenol, ond ychydig eglurhad gafwyd arno, gan nas gallai aelodau y Weinyddiaeth nr hyn o bryd ddatguddio dim o'u cyfrinion. Pa. fodd bynag, dywedodd Mr Balfour a Mr Ourzon fod papyrau yn cael eu parotoi, yn y rhai y ceid yr holl fanyliun am y trafodaethau a gymerasant le y misoedd diweddaf. Dywedid ymhellach y byddai aelodau y Ty mewn meddiant o'r holl fanylion cyn y gohirid dros wyliau y Pasg. Mae Jll. ofynol cael mynegiad pendant ar y wladlywiaeth a fwriada Lloegr fabwysiadu yn yr ymrafael pre- senol, a chredwn na fydd llawer o le i feio y Weinyddiaeth pan wneir y myneg- iad addawedig. Er mwyn i'r aelodau ffurfio syniadau cywir am y cwestiwn mewn dadl, mae Mr Curzon, yr Is-ys- grifenydd Tramot-, wedi addaw rhoddi mapiau yu un o ystafelloedd Ty y Cy- ffredin, fel y gall yr aelodau eu hystyried a'u trafod.
YR EGLURHAD YN Y SENEDD.
News
Cite
Share
YR EGLURHAD YN Y SENEDD. Dywedir pan yr ydym yn myned i'r wasg y bydd i Mr Balfour wneyd my- negiad pwysig yn Nhy y Cyffredin heno (nos Wener), ond os bydd ymdrafodaeth yn debyg o gymeryd lie ar y mynegiad, In cymer hyny le nos Fawrth nesaf.
Masnach Lo y Deheudir. --
News
Cite
Share
Masnach Lo y Deheudir. ARGYFWNG PWYSIG. Dydd LInn, yn Nghaerdydd, cynhal- iwyd cyfarfod o gynrychiolwyr y glo- wyr, dan lywyddiaeth Mabon. Rhodd- odd aelodau pwyllgor y Llithr-raddfa adroddiad parthed yr ymweliad diweddar a'r meistri, y rhai fynent i gynrychiol- wyr y dynion gael hawl i benderfynu yr helynt yn derfynol. Yr oedd y rhy- buddion i derfynu contracts yn d'od i ben Mawrth Slain, ond estynwyd yr amser hyd Ebrill 9fed, er mwyn i'r dyn- ion gael hamdden i bleidleisio ar y ewes- tiwn. Cynygiodd cynrychiolwyr o Gwm- garw bleidlais o gerydd ar aelodau y Llithr-raddfa, gan alw arnynt i ymddi- swyddo bob un, ond gwrthodwyd y cy- nygiad gan 70 o gynrychiolwyr yn erbyn 15. Yna dilynodd dadl gyffrous ar gais y meistri ar fod i gynrychiolwyr y dyn- ion gael llawn hawl i setlo yr helynt. Pleidleisiodd 44 dros roddi y cwestiwn i falot yn y glofeydd, a 51 yn erbyn. Ail- bleidleisiwyd, oherwydd i her gael ei rhoddi, a chyfrifwyd y pleidleisiau yn ol rhifedi y gweithwyr gynrychiolid, gyda'r canlyniad mai y ffigyrau dros falot oedd 135,838 yn erbyn 26,059.
CYNWYS I AD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYNWYS I AD. Marwolaeth Arglwydd Cawdor, Newydd. ion 1 Ymhlith yr Enwadau, Hen Eglwysi Adfeil- iedig Sir Gaerfyrddin .n 2 Adolygiad y Wasg, Newyddion 3 Cyffredinol, Newyddion Cymreig 4 Y Golofn Farddol 5 Gwib-Nodion, Y Llyfr Gweddi Cadeiriol a'r Psallwyr Cadeiriol, Newyddion 6 Nodion o Ddyffryn Clwyd, Newyddion 7 Nodion Senex 8 Cwmni Newydd y Wasg Eglwysig Gymreig 9 Llith o'r Mynydd, Newyddion 10 Marwolaeth Mr W. Evans, Llanfihangel-y- Creuddyn, Difyrion, Gohebiaethau 11 Y Cartref a'i Reolaeth, Newyddion. 12 Marchnadoedd 13 Hysbysiadau 14, 15, 16
Marwolaeth Arglwydd Cawdor.
News
Cite
Share
Marwolaeth Ar- glwydd Cawdor. COLLI PENDEFLG URDDASOL. GALAR CYFFREDINOL. Boreu ddydd Mawrth, ar ol bod yn dyhoeni am rai wythnosau, bu farw Arglwydd Cawdor, Arglwydd Raglaw Sir Gaerfyrddin, yn ei breswylfod, Stackpole Court, Sir Benfro, yn 81 mlwydd oed. Er's rhai dyddiau, ofnid y gwaethaf, ac yr oedd ei fab, Arglwydd Emlyn,'ac aelodau ereill y teulu wedi eu gwysio i fod yn bresenol. Yr oedd yn dirfeddianwr mawr, ac yn hynod am ei garedigrv4 ydd tuag at ei denantiaid. Olynir ef yn y teitl a'r etifeddiaeth gan Arglwy4d Emlyn. Tua chwech wythnos yn ol, ymdaen- odd prudd-der drwy Gymru ar ledaeniad y newydd fod Argl wydd Cawdor, yr hwn oedd wedi mwynhau iechyd da ar hyd ei oes, wedi ei gaethiwo i'w wely gan ymosodiad o'r parlys, yr hyn a ystyrid yn dra difrifol i un o'i oedran ef, ac ofnid y pryd hyny nad oedd y diwedd ymbell. Boreu LIun diweddaf, gan ei fod yn ymddangos yn llawer gwell, aeth Arglwydd Emlyn, yr hwn oedd yn Stackpole Court er's wythnos, i fyny i Lundain er mwyn bod yn bresenol yn \.ghyfarfod pythefnosol cwmni rheil- ffordd y Great Western, o ba un y mae yn gadeirydd, ond am naw o'r gloch boreu ddydd Mawrth ehedodd ysbryd ei dad at yr Hwn a'i rhoes, er galar cyffredinol. Daeth Arglwydd Emlyn i Stackpole Court o Lundain nos Fawrth. Dyn ydoedd Iarll Cawdor ydoedd a gymerai ddyddordeb personol yn llwydd- iant ei denantiaid a phawb o'i gwmpas, ac fel tirfeddianydd yr oedd yn ddi- guro. -Ni arbedai draul na thrafferth i sicrhau cysur ei denantiaid, ac ni fu erioed y rhithyn lleiaf o anghydweled- iad rhyngddo a hwy. Llywodraethid ef gan yr amcanion puraf ymhob amgylch- iad, ac anwylid ef gan bawb. Mae yn gysur i'w denantiaid ddeall fod Arglwydd Emlyn hefyd yn meddu yr un rhin- weddau ag a nodweddai ei dad, a bydd yn sicr o ddilyn esiampl odidog ei dad. Cydymdeimlir yn ddiffuant a r teulu yn en galar, gan mai nid yn ami y cyfar- fyddir ag un a feddai rinweddau Ar- glwydd Cawdor. Heddwch i'w lwch.