Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CYMUNDEB HWYROL.

News
Cite
Share

CYMUNDEB HWYROL. At Olygydd y "Llan a'r Dywysogaeth." SYR,—Yn eich rhifyn am Ragfyr 31ain diweddaf, darllenais inau erthygl ar y penawd uchod gan eich gohebydd ffydd- lawn, y Parch T. C. Phillips, ficer Sciwen. Yr wyf wedi cydolygu a'r ysgrif- enydd dan sylw laweroedd o weithiau, ac wedi cael budd wrth ddarllen ei gynyrch- ion ond am ei yagrif o dan y penawd uchod, nid wyf yn cydolygu ag ef o gwbl. Y mae perffaith hawl gauddo i'w farn ond yr wyf yn methu yn lan ag amgyffred betb sydd ganddo yn erbyn Cymnndeb Hwyrol. Yn bendifaddeu nid yw y Gyfrol Sanctaidd yn dweyd dim o blaid Cymundeb Boreuol ond os rhywbeth o gwbl, o blaid Cymun- deb Hwyrol y mae. Cyn dweyd fod yr ar- feriad, sef Cymun Hwyrol, yn anawdur- dodedig,' rhaid i Mr Phillips brofi ei bwuc ar dir ysgrythyrol, ac nid dilyn dychymyg- ion Uchel Eglwyswyr ac arferiadau Pab- yddol. Nid da na doeth i Hen Eglwys y Cymry efelychuy cylundebau uchod yn eu hymarferiadau' anawdurdodedig.' Yn bersonol, yr wyf yn falch fod y Parch T. C. Phillips wedi dyfod ymlaen a'r pwnc gorbwydg hwn ar dudalenau y LLAN, pe byddai ond yn unig cael allan y fath gyu- yrchion meistrolgar ag eiddo Meudwy y Glyn ac Ap Israel,' o Lanbadarn Fawr. Dtolch yn fawr i chwi, fecbgynglan yr Eg- lwys, am eich ysgrifeniadau ar bwnc yr wyf fi, a lluaws ereill o leygwyr yn y parth yma o Gymru, wedi bod yn dadleu o'i blaid er's amser bellach. Pe byddai yr arferiad o weinyddu y Cymuu Hwyrol yn anawdurdodedig,' paham mae ugeiniau o eglwysi gwledig yn anufuddhau i'r awdurdodau 1 Gwir fod rhai Uchel Eg- lwyswyr yn dal o blaid Cymundeb Boreuol, fod yn rhaid cael cylla gwag i gymuno, oherwydd byddai y bwyd yn y cylla cyn cy- muno yn halogi I corff a gwaed Crist Dyna sothach o'r mwyaf, onide ? Ac y mae ereill yn dal na roddir cyfle i'r meddw ddyfod at yr allor yn y cyflwr yna. Beth! dim meddwon ar foreu'r Sab- bath Deuant i Gaerfyrddin, a gwelant feddwon am chwech o'r gloch boreu'r Sab- bath. Hefyd, mae y rhai sydd yn dal o du Cymundeb Boreuol yn credu fod dyn yn fwy duwiol yn y boreu nag yn yr hwyr ar y Sabbath Nid oes angen am y fath logic a hyn arnom ni y Cymry. Gan fod ein Heglwys yn 'Eglwys Gatholig,' dyledswydd yr awdurdodau (yr offeiriaid) ydyw astudio y 'lluaws,' ac nid yr ycliydig,' a hyny, cofier, pan nad oes sail Ysgrythyrol yn profi yn amgen. Mae canoedd o aelodau Eglwysig yn methu dyfod i'r Cymun Boreuol oherwydd am- gylchiadau teuluol, ac y mae hyn yn dor- calonas i feddwl. Pe byddai Cymundeb Hwyrol yn ein Heglwysi yn gyffrediuol, beiddiaf ddweyd byddai rhif y cymunwyr wedi ei ddyblu yn fuan iawn. Os ydym am weled pwysigrwydd a difrifoldeb y Cymun Hwyrol yn ein heglwysi gwledig, awn am dro i Eglwys fechan Sant Anne, Cwmffrwd, ger Caerfyrddin, lie gwelir gweision a mor- wynion, ynghyd a'u meistri a'u meistresi, yn ec)ffa am I farwolaeth Crist.' Ni welir hyu yn ein trefydd, am fod amgylchiadau, fel y dywedais o'r blaen, yn rhwystro ein gweision a'n morwynion ddyfod i'r Eglwys yn y boreu. Onid yw y gair 'swper' yn arwyddocau hwyr-fwyd,' hwyr bryd ?' I mi yn ber- sonol, y mae'r gair yn profi mai gwledd hwyrol' yw Swper yr Arglwydd, ac nid 1 gwledd foreuol.' Gan mai 'Swper'ydyw ordinhai y Cy- mun Sanctaidd, paham na chynhelir hi yn yr hwyr—ad eg a ystyrir, yn ol pob rheswm dynol, yn niwedd y dydd ? Nid digon yw i ni, y Cymry, i efelychu ac i gredu yr hyn a ddywed Canon Liddon, Baring Gould, ac ereill; ond pa beth a ddywed y Gyfrol Sanctaidd ar y pwnc dan sylw ? Pa un sydd yn fwyaf manteisiol i'r lluaws ? Yr wyf yn gobeithio, Mr Gol., y gwyn- tyllir y pwnc yma i'r dyfnder eithaf cyn ei daflu heibio, a hyny mewn ysbryd Criation- ogol. Nid oes eisieu bod yn gellweir- gnoawl ac yn bersonol, am fod y pwnc yn rhy gysegredig. Cofied y dysgedig offeir- iaid o bob tn y bydd y ddadl yma o fudd i ganoedd o leygwyr anllythyrenog. fel ag yw i'ch gohebydd— MYRDDINFAB.

CYMUN HWYROL.

GAIR AT "TAWEFAB."

LLANASA.

"Ymneillduaeth yn colli Tir."

Y "Llan'' a'r "Haul"

. CAERFYRDDIN.

--BEICHIAU YR OFFEIRIAID PLWYFOL.