Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

--BEICHIAU YR OFFEIRIAID PLWYFOL.

News
Cite
Share

BEICHIAU YR OFFEIRIAID PLWYFOL. At Olygydd y 44 Llan a'r Dywysogaeth SYR,—Y mae'r adeg wedi dyfod pryd y dylai pawb ag sydd yn caru yw Eglwys lefaru yn eglur yn erbyn parhad yr anghyf- iawndtr gyda pha un y mae'r offeiriaid plwyfol yn cael eu llethu. Cofier eu bod yn gorfod talu trethi ar eu hincwm, yr hyn nid oes yr un dosbarth arall o ddynion yn cael eu gorfodi i wneyd. Nid yw'r meddyg, y cyfreithiwr, y siopwr, na'r amaethwr yn talu y fath drethi. Paham y caniateir i'r offeiriaid ddioddef oddiwrth y fath orthrwm? Nid ydynt ddim yn gofyn ond am gyfiawn- der noeth. Yn barod y mae llawer o'ch gohebwyr wedi ysgrifenu yn helaeth ar y pwnc, ond eto doeth yw cadw'r 'crocban yn berwi.' Yn hyn o beth y mae yn rhaid i'r Eglwyswyr—yn offeiriaid a lleygwyr- fod yn daer. Dywedodd Ardalydd Salis- bury mewn effaith, 'Os ydych am i ni glywed, y mae yn rhaid i chwi waeddi.' Ac yn wir, Syr, y mae yn rhaid i ni ddal i waeddi nes y ceir yr hyn a ofynir am dano. Ami gnoc a dyr y gareg.' Yn ol fy marn ostyngedig i, nid oes ond ychydig wahan- iaeth rhwng y Ceidwadwyr a'r Rhyddfryd- wyr. Y mae y Rhyddfrydwyr eisieu gafael-

MOSTYN.

PENMORFA.

DEONIAETH LLANBEDR.

Advertising

' PWN ' YR OFFEIRIAID : BETH…