Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Cwasanaeth Cynulleidfaol.
News
Cite
Share
Cwasanaeth Cynulleidfaol. Papyr a ddarllenwyd gan y Parch W. Howell, ficer Garthbrengi, o flaen cyfar- fod o Gymdeithas Glerigol Archddiacon- iaeth Aberhonddu, Rhagfyr, 1897.
(Parhad).
News
Cite
Share
(Parhad). Ond pa foddion sydd i'w mabwysiadu er dwyn oddiamgylch y diwygiad hwn, sef gwneyd yr addoliad cyhoeddua yn fwy cynulleidfaol yn ein Heglwysydd ? Ofnaf mai ofer fydd disgwyl i'r hen a'r methiantus ag ydynt hyd yma wedi llwyr esgeoluso'r ddyledswydd hon i ddechreu talu sylw iddi yn awr. 0 ganlyniad, rhaid edrych at ein haelodau ieuainc i'n cynorthwyo. Awgrym- wn y priodoldeb i holl aelodau yr Ysgol Sul gael eu gwahodd yn achlysurol i fyned dros yr oil o'r gwasanaeth gyda'r offeiriad neu'r curad, hyd y trydydd colect. Gellid yn hawdd wneyd hyn o flaen y gwasanaeth. Fel hyn gallai yr offeiriad eu harwain a'u dysgu i ddarllen y Salmau, &c., yn hyglyw ac i ymuno yn wresogyny gwasanaeth i gyd drwyddo. Heblaw hyn, buddiol a phriodol fyddai i ni weithiau wasgu'r ddyledswydd hon ar ein pobl allan o'r pwlpud, yn ogyatal ag mewn ymddiddan a hwynt. Ac yn ar- benig dylid ceisio argraffu'r ddyledswydd hon ar feddyliau ein hymgeiswyr am Gon- ffirmasiwn. Pe gwneid hyn, buan iawn y ceid diwygiad yn ein gwasanaethau, ac y gwelid hwynt, fel y bwriwyd iddynt fod, yn wasanaethau gwir gynulleidfaol. Defosiiv,n.-Dylai ein gwasanaethau fod, nidyn gynulleidfaol yn unig, ond hefyd yn ddefosiynol. Ac, yn wir, pe b'ai i ni ond dilyn rhuddellau (rubrics) ein Llyfr Gweddi yn fwy gofalus, a cheisio anadlu tipyn mwy o ysbryd y gwasanaeth, byddai mwy o ddefosiwn yn nodweddu ein haddol-' iad cyhoeddus. Na fydded i neb ei ystyr- ied yn beth dibwys i dalu sylw i'r agweddau gostyngedig a pharchus hyny o ran y corff a gymhellir arnom gan ein Heglwys i osod ein hunain ynddynt pan yn cymeryd rhan yn yr addoliad cyhoeddus. Gwir mai nid mewn agweddan allanol yn unig yr ydym i edrych am brofion o sancteiddrwydd y galon. Nid diogel dibynu ar y rhai hyn yn unig. Gall y bydd y meddwl yn crwydro, tra y bydd y corff yn ymostwng yn isel, a'r dyn allanol yn ymgrymu i'r llawr tra yr erys y galon oddimewn yn llawn balchdar. Serch hyny, yn sicr dylid bod yna ymddangosiad gweledig o ddefosiwn yn ein h iddolliad cyhoeddus yn Nhy Dduw. Cyfarwyddir ni pa bryd y mae'n rhaid penlinio a pha bryd i sefyll. Yn ddiddadl nid oes dim yn fwy atgas ac yn fwy poenus i bob meddwl duwiol, na gweled addolwr yn gweddio ar ei eistedd. Pa well esiampl allwu ni ei ddilyn nag eiddoein Harglwydd Beudigedig. Yn nghardd Gethsemane, 4 Efe a syrthiodd ar ei wyneb gan weddio.' Yn yr Eglwys foreuol, yr oedd penlinio mewn gweddi yn arferiad cyffredinol, ac ymhob oes o'r byd gwelir dynion sanctaidd yn dra gofalus gyda golwg ar ddefosiwn allanol o ran y corff. Llawer o'n haddol- wyr a welir Sul ar ol Sul yn mynychu ein gwasanaethau, ond ni welir hwynt yn syrthio areu gliniau mewn gweddi. Dilys genyf mai dymuniad calon pawb o honom yw i weled mwy o ddefosiwn o ran y corff ymysg ein haddolwyr. Ac mewn trefn i sicrhau hyn, dylid gofalu fod aelodau y cor yn penlinio, fel ag iddynt fod ya esiampl i ereill. Gan belled ag y mae yn bosibl, y mae o bwys i aelodau y cor fod yn gymunwyr neu yn ymgeiswyr am gonffirmasiwn, ac felly ar fedr bod yn gymunwyr. A thra yn eu parotoi erbyn y ddefod. dylem argraffu ar eu meddyliau y pwysigrwydd o gofio mai Ty Dduw yw'r Eglwys-nad oes yno onid ty i Dduw a phorth y nefoedd,' a'n bod tra yno yn ngwyddfod digyfrwng Duw ei Hun. Eto, y maeo bwysigrwydd neillduol i bawb fod yn brydlon yn y gwasanaethau* ac yn bendifaddeu dylai yr offeiriad ei hun fod yn esiampl i'w bobl yn y cyfeiriad hWD. I gyflawn sylweddoli prydferthwch anghy- mharol ein ffurf-wasanaeth, rhaid i ni edrych arno yn ei gyfanrwydd, a'i holl ran- au yn gydgysylltiedig a'u gilydd, fel nad ydyw y weichred o addoliad yn gyflawn a chyfan oni bydd yr addolwr wedi ymuno ynddi o'r adnodau agoriadol hyd y Fendith ar y diwedd. Y mae fod personau yn dyfod i mewn i'r Eglwys wedi dechreu y gwasan- aeth, nid yn unig yn lleihau y fendith, ond hefyd y maent yn aflonyddu ar ddefcsiynau eu cydaddolwyr a'r unig ffordd i sicrhau prydlondeba chysondeb ar ran y gynull- Bidfa yw i'r offeiriad ei hunan fod yn batrwm o brydlondeb. Dylai fod cyflawnder o glustogau ymhob eglwys i'r gynulleidfa benlinio arnynt. Buddiol a phriodol hefyd fydd ar rai achlysuron canu yr emynau hyny ag ydynt yn weddiau yn penlinio. Dylid yn achlysurol gymell aelodau y gy- nulleidfa i dreulio ychydig funydau mewn gweddi ddistaw, yn enwedig yn ystod y Garawys ar ol y Fendith. Garawys ar ol y Fendith. Moddion syml yw y rhai hyn, ond m gredaf, pe yr arferid hwynt yn gyson, y gwelid mwy o arwyddion nag yn awr fod ein cynulleidfaoedd yn sylweddoli gwirion- edd y gair Dwyfol, 'Sancteiddrwydd a weddai i'th dy, 0 Arglwydd.'
YMDDIDDAN Y GWEITHWYR
News
Cite
Share
YMDDIDDAN Y GWEITHWYR YN CHWAREL YR EIFL, LLAN'HAIARN. [GAX "MYNAOII Y CEIRI."] Myfi, yr hwn sydd yn trigo yn nhref hen- afol y Ceiri, ar fynydd yr Eifl, a gymerais yn fy mhen i ymweled achwarel setts y lie, ac wrth nesau at ryw fan neillduol yno, fe glywais ddadleu mawr yn myned ymlaen, a chan fod mwy nag un yn siarad ar unwaith, nid oedd yn hawdd iawn i mi ddeall beth oedd y pwnc ag oedd ganddynt dan sylw. Yna fe ddarfu i mi fyned yn nes atynt, ac eistedd ar dalp o gareg ag oedd newydd gael ei chwythu o'r lie y bu am oesoedd maith. Wedi rhoddi fy hnnan i lawr, clywn un yn gwaeddi allan, Un ar unwaith, os gwelwch yn dda.' Yr oedd yn dda genyf glywed hyn, fel y gallwn glywed y cwbl yn eglur a'i gofnodi yn daclus er mwyn ei ddanfon i'r LLAN, y papyr goreu a gyhoeddir yn yr iaith Gymraeg. Wedi ychydig o ddistawrwydd, dyma un yn decbreu bwrw drwyddi ac yn dywedyd, Myfi oedd yn siarad, onide, a'r pwnc sydd dan sylw ydyw ceisio profi fod Ymneilldu- aeth yn iawn, acyn gwneyd. mawr gynydd yn Nghymru y dyddiau hyn. Mae genyf yn fy meddiant dri neu bed war o ddyddiad- uron am y flwyddyn hon, ac yr wyf wedi bod yn eu darllen yn ofalus. Y mae yn syndod, yn ol y cyfruon a geir ynddynt, fel yr ydym yn cynyddu, ac os bydd i ni fyned ymlaen fel yr ydym, byddwn yn y man wedi enill Cymru yn gyfangwbl, ac yna fe 9 fydd heddwch ya teyrnasu o Gaergybi i Gaerdydd. Yr wyf yn canfod, yn ol fel y mae yn ysgrifenedig yn y dyddiaduron hyn, ac hefyd yn y Genedl, fod y Metbodistiaid yn hawlio 458,449 o aelodau a gwrandawyr, yr Annibynwyr 282,793, y Bedyddwyr 101,699, a'r Wesleyaid 20,088. Ond nid yw y Wesleyaid yn cyfrif eu gwrandawyr yn y rhif uchod-dim ond aelodau yn unig. Mae yn ddiamheu fod ganddynt gymaint a h,yn o wrandawyr hefyd ond gan na roddir mohonynt i lawr, edrychwn pa faint ydyw cyfanswm y rhifnodau a grybwyllwyd eisoes. Yr ydym yn cael fod yr oil yn gwneyd i fyny y swm anrhydeddris o 863,029. Nid ydym ar hyn o bryd wedi son am y sectau ereill; ond fel y dywedais yn y dechreu, mai fy mhwnc i ydyw ceisio dangos i chwi gynydd cyflym Ymneillduaeth. Yn ol y cyfrif a roddwyd, fe v el pob un ohonoch ein bod ni, y Methodistiaid, yn carlamu ymlaen, er fod rhai ohonoch wedi dywedyd fod ty Saul yn llaihau, a thy Dafydd yn cynyddu, gan olygu wrth hyny fod y Methodistiaid yn colli tir, a'r Annihynwyr yn enill. Ond y gwirionedd am dani ydyw hyn, digied a ddigio-mae y Methodistiaid yn fwy o 53,922 na'r Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Wesleyaid gyda'u gilydd ac yn awr, beth sydd genych i'w ddywedyd yn erbyn ffeith- iau noethion fel hyn ?' Yna clywaia rhyw Owen Thomas yn galw ar rywun ag oedd wedi bod yn ymgeisydd am fod yn flaenor. Gwir bob gair a ddy- wedodd John Owen, ac fe allwch oil fy I nghredu, canys ni ddy wedais gelwydd erioed, os na fuaswn yn dywedyd rhywbeth am yr Eglwys a'i raynychwyr.' Paid a bod mor wirion a dweyd peth fel yna,' meddai William Owen, 4 o flaeu pawb. Mae llawer gwir gwell ydyw ei gelu, ac fe wyddost nad oes enwad ar wyneb daear a fedr wneyd hyny yp well na ni. Yr ydym wedi dysgu y gelfyddyd hon er pan yn blant wrth ddilyn y seiat.' Yna cododd yr hen dad ar ei draed, ac yn galw ar y siaradwr cyntaf, gan ofyn iddo a oedd efe mor wirion a chredu y fath lol— fod y Methodistiaid yn fwy eu rhif o haner can' mil na'r holl Anuibynwyr, Bedyddwyr, a'r Wesleyaid ag sydd yn Nghymru. 4 Yr wyf yn barod i lyncu fy het os gall yr un ohonoch brofi hyn. Celwydd bob gair. Mae yn sicr gen' i mai rhyw un Eglwyswr ystrywgar sydd wedi gwneyd i fyny y cyf- rif yna er mwyn ein gyru ni fel enwadau yn benben â'n gilydd.' 4 Taw y lob,' medd Taid; oni chlywaist ti John Owen, Ty Draw, yn dywedyd mai o ddyddiadurion y gwahanol enwadau a enwodd y mae wedi cael y ffigyrau, ae hef-vd fe ddywedodd fod y peth wedi ymddangos yn y Genedl, ac fe rhoddwn gyngor yn rhad ac am ddim i ti, Paid a gwneyd dy hunan yn brigswn i'r rhai sydd o dy gwmpas,' 4 Waeth gen' i beth a ddywedo un dyn. Myn einios Pharo, mynaf gael gwybod hyn cyn cysgu beno.' 4 Myn di gael gwybod neu beidio, dyna fel y dywedodd John, ac y mae pawb sydd yn berchen ar synwyr cyffredin yn gwybod mai nid gwaith Eglwyswyr ydyw eich dyddiaduron, nac hefyd y Genedl. Eich llyfrau chwi ydynt, a chwilia di am danynt, fel y cei weled drosot dy hunan.' A chyda fod Taid wedi tewi, dyma Hugh Owen yn codi, ac yn dywedyd ei fod yn cydolygu a'r hen dad-fod y cyfrif hwn braidd yn anmhosibl i'w gredu. 11 Os nad ydyw y Methodistiaid yn ein cyfrif ni yn eu plith pan y byddwn yn myned yiio i gadw seiat, neu gyfarfod gweddi, neu ryw gyfarfod cymysg o'r fath, yr wyf fi yn credu fod yna gamgymeriad ofoadwy yn rhywle. Mae eisieu cael gwell cyfrif na'r cyfrif hwn, beth bynag. Y Methodistiaid yn fwy o haner cant ofiloedd na'r holl enwadau ereill gyda'u gilydd Yr oeddwn i yn meddwl bob amser, ac yr wyf yn sicr hefyd, mai cyfartal ydym ni a'r Methodistiaid, ond fod gyda ni well pregethwyr, gwell meddylwyr, a gwell beirdd, ond am ddywedyd fod yr I Hen Gorff dros haner can' mil yn fwy na'r holl enwadau ereill gyda'u gilydd, y chreda i ddim o hyny byth." 'Nag ydynt wir, Hugh,' medd Evan Thomas; 4 ahwiredd bob gair. Waeth gen' i beth ddywed eich Cenedl na'oh dyddiadur- on. Peth siwr nad oes dim mwy o Fethod- istiaid nag sydd o Annibynwyr.' Wedi dywedyd llawer o bethau rhyfedd- ach neu gilydd, dyma pawb yn myned i waeddi, ac yn dywedyd, 'Ni sydd fwyaf.' I Nage,' medd un arall, 'ni sydd fwyaf,' a dyma un yn gwaeddi allan fel pe b'ai yn halio'r angor, ac ar gychwyn ar ei fordaith, 4 Na, ni sydd fwyaf myn loan Fedyddiwr, ac yr ydym yn myned i wneyd capel new- ydd yn Cae Sychnant, ac fe ddaw pawb o drigolion Trevor i'n capel ni.' Dyna hwre ar ol hwre aes yr oeJd y chwarel yn crynu. Wedi i bawb dewi, ac ar fyned yn ol at eu gwaith, dyma ryw hogyn difarf yn codi i fyny, ac yn galw arnynt i aros ychydig o funydau, ac yn dechreu bwrw drwyddi nes yr oedd pawb yn ddistaw fel y bedd. Dywedodd, Ohwi gamguhyddwyr Eglwys Dduw, yr hon a sylfaenwyd gan yr Apostolion, ac Iesu Grist ei hun yn Ben conglfaen iddi, ac a ddywedodd & phyrth uffern nis gorchfygant hi, bydded hysbys i chwi, ffyddlon blant eich tad, yr hwn sydd er y dechreu yn ym- hyfrydu i ddywedyd celwydd ac i wneyd ffigwr un yn gant, nad oes dim a wnelo yr Eglwys a'ch cyfrif o gwbl. Chwi, ie, a chwi yn unig, sydd yn gyfrifol am y cyfrifon a roddwch yn eich byddiaduron er mwyn taflu llwch i lygaid y planios hyn, ac i'w camarwain mai eu sect hwy ydyw y Iluosocaf. Nid ydych yn meddwl dim ond ceisio eu hudo i roddi eu harian i chwi, am y rhai y maent ynl gorfod llafurio yn galed. A chyda golwg ar y cyfrifon ag sydd wedi cael cymaint o sylw yma heddyw, yr wyf finau o'r un farn a llawer sydd yma—fod mwy o dwyll ynddynt nag sydd o wirionedd. Nid dyma y tro cyntaf i mi glywed son am gyfrifon. Yr ydych yn cofio am gyfrif Gee o Ddinbych, beth ddaeth ohonynt? Ni chawsant byth weled goleuni dydd. Ond cofiwch hyn, nid wyf yn dywedyd dim nad yw yr hwn a lefarodd gyntaf wedi dywedyd y gwir, fel ag y mae y cyfrifon i'w gweled yn y gwahanol ddyddiaduron. Nid ei fai ef ydyw os nad ydynt yn gwir, fel mae rhai o'r siaradwyr eisoes wedi crybwyll. Mae cyfrifon ag sydd yn y gwahanol lyfrau hyn yn swyddogol, ac fe ddylasent fod yn gywir. Gobeithio nad ydyw y Methodist- iaid wedi cael eu camarwain i wneyd un yn fwy nag un, ac felly yr holl enwadau' ereill. Ond beth wnewch chwi tra y byddo yr hen ysbryd cas hwnw yn myned drwy y wlad, sef i gael mwy o rif nag o dduwiol- deb, cael mwy o gyfrif nag o wirionedd? Oa gwrandewch am haner munyd yn hwy, fe ddangosafi chwi ddirgelwch y rhifo yma, ac yr wyf yn gwybod y bydd i chwi gyd- synio a mi mai dyma y dirgelwch mwyaf yn y ganrif bresenol. Cymerwn eto y dydd- iaduron a enwyd, ac edrychwn ynddynt am y^ cyfrif a roddir am y sir sydd yn gorwedd o'n blaen yn y fan acw, sef Sir Fon. Chwi wyddoch mai teneu iawn ydyw ei phoblog- aeth, a'r rhai hyny yn wasgaredig, eto hawlia y Methodistiaid fod ganddynt, rhwng aelodau a gwrandawyr, yn y sir fach acw, 31,328. Mae gan yr Annibyn- wyr 6,037 (ac fe welwch fod gan y Method- istiaid chwech aelod am bob un Annibyn- wr). Mae y Bedyddwyr yn hawlio fod ganddynt hwythau 2.195 o aelodau yno, ond ni ddywedant pa faint o wrandawyr sydd ganddynt. Dywedwch fod ganddynt tua mil, nid ydyw hyny i fyny a. chyfar- taledd y ddau enwad parchus a enwyd. Mae gan y Wesleyaid achosion yno hefyd] oud ni ddywedir pa faint ydyw eu rhif- gadewch pe rhoddem ar eu cyfer tua mil a haner rhwng aelodau a gwrandawyr nid yctyw hyny yn ryw lawer. Ni soniwl1 ar hyn o bryd pafaint sydd yn mynychu yr Eglwy3 yn yr ynys, nac am y rhai hyny nad ydynt yn myned i un lie. Yn awr, gadewch i ni weled pa faint ydyw cyfanswm yr oil a enwyd, sef Methodistiaid, 31,328 Annibynwyr, 6,037 Bedyddwyr, 3,195, a'r Wesleyaid tua 1,500. Mae hyn yn gwneyd 42,060 u bobl yn perthyn i'r gwa- i hanol enwadau yn Sir Fon. Swm go dda, onide ? Ond i fyned ymlaen, gadewch i ni weled pa faint oedd cyfrif poblogaeth Sir Fon yn y flwyddyn 1891. Yn ol Whittaker's Almanack fe ddywedir yn hwnw mai 34,210 oedd nifer y bobl. Ac yn mhellach, dywedir fod poblogaeth Sir Fon yn lleihan yn lie cynyddu, canys rhwng y flwyddyn 1881 a 1891, fe leihaodd y boblogaeth tua deg mil. Wel, chwi ag sydd yn deall ffigwrs, fe ganfyddwch wrth y cyfrif a roddwyd fed tua 7,850 o bobl yn perthyn i'r gwahanol enwadau a enwyd yn fwy na phoblogaeth Sir Fon, heb son yr ungair am" yr Eglwys. A gadewch eto fod cyfrif yr Eglwyswyr yn Sir Fon yn cael eu rhifo yn ol gosodiad eich pregethwyr chwi eich hunain, sef bod un Eglwyswr am bob naw o honoch chwi, fe fuasai hyny tua 5,000. A dywedwch fod tua mil o bobl nad ydynt yn myned i un lie, ac y mae hyn yn sw.n baeh iawn, fe ddylaswn ddweyd chwe' cym- aint, ond fe'i gadawn fel y nodais gyntaf, a phe b'ai i chwi chwanegu 6,000, sef cyfrif yr Eglwyswyr a'r rhai nad ydynt yn myned i un Ile o addoliad, yr ydym yn cael fod tua 13,850 yn myned i'r capelydd ac Eg- lwysydd ac yn aros gartref yn Sir Fon, yn fwy nag sydd o bobl yn y sir Y mae hyn yn ddirgelwch mawr i mi. Nis gallaf ei esbonio. Mae yn rhaid fod rhywun wedi rhoddi mwy i lawr yn y dyddiadur nag sydd yn perthyn iddynt. Pwy ydyw y pechadur- iaid hyny Nid y.Methodiatiaid, ond pwy bynag ydynt mae nifer go dda yn perthyn i'r gwahanol enwadau, nad ydynt yn byw ar yr Ynys. B'le maent yn byw ynte ? Dyna gwestiwn, ac yr wyf yn galw ar y boneddigion canlyn- ol roddi gair o eglurhad ar y mater, sef Mri Thomas Owen, John Williams, Hugh Owen, John Owen, Robert Owen, neu ryw un arall.' Pawb yn fud. Yna Tom a gododd ar ei draed gan ddywedyd, 4 Rwan, os oes gan un o honoch air i ddywedyd i daflu goleuni ar y cym- mysgedd cogyddol hwn, nfynegwch ar unwaith, Yr wyf yn deall eich bod oil yn deall ffigwrs.' (Pawb yn fud a'u UJodau wedi glynu wrth daflod eu genau.) I Wei, os nad oes genych ddim i ddywedyd, ewch at eich gwaith, a myfyriwch ar y celwydd goleu hwn ag sydd yn ysgrifenedig yn eich Dyddiaduron. Fe allaswn ychwanegu, ond fe adawaf yr hyn oeddwn yn feddwl ddy- wedyd tan y tro nesaf, canys yr wyf yn credu eich bod wedi cael digon am un haner blwyddyn i gnoi eich cil arno, ac y mae yn ddarn chwerw iawn hefyd. Cymerwch gynghor genyf, dysgwch ddywedyd y gwir beth bynag fyddc. Byddwch wyneb agored, yn straight forward fel y Sais, ac yr wyf yn diolch mai Sais ydwyf. Yr ydych chwi fel cenedl yn cael y gair eich bod yn gelwyddog. Pwy sydd wedi eich dysgu fel hyn ? Os goddefweh i mi roddi fy marn, yr wyf yn meddwl na chyfeiliorwn pe dywedwn mae ffrwyth dywedyd profiad yn y seiatlydyw. Edifarhewch ar frys diw- ygi wch a gadewch eich pechodau, a gwnewch bob brys i wneyd cyfrif teg, a pheidiweh byth eto sefyll yn erbyn y Llywodraeth i wneyd cyfrif iawn pa faint sydd yn mynychu pob lie o addoliad yn y Deyrnas. Yr ydych oil yn canfod mai celwydd ydyw eich cyfrifon fel ag y maent yn bresenol. Cofiwch nid ydwyf yn eich cyhuddo chwi, ond eich blaenoriaid, y rhai ag sydd yn euog o ddywedyd celwydd ag sydd mor oleu a'r dyad i bob un o honoch.' Yna fe ymadewais, ac aethum i'm cartref yn Nhre Ceiri.
Trysorfa Elusengar Dafen,…
News
Cite
Share
Trysorfa Elusengar Dafen, Llanelli. Mae y Parch J. R. Jones, M.A., ficer Dafen yn dymuno anfon apeliad ychwaneg- ol i'r cymwynasgar. Bydded hysbys fod cynrychiolwyr canlyn- ol y gymdeithas uchod yn barod i gyduabod gyda gwir ddiolchgarwch danysgrifindao pellach at yr amcan a nodwyd, i leddfu angen y lluaws sydd allan o waith yn y plwyf hwndros chwe' mis o amser Parch J. R. JoneS, ficer Dafen, Llanelli. Parch W. L. Davies, curad Dafen, Llan- elli. Mr J. Banks, Hillside, a Mr W. Evans, N. Terrace, wardeniaid, Dafen, Llanelli. Parch P. Phillips, gweinidog y Bedydd- wyr, Dafen, Llanelli. Mr Walter Davies, Cilsaig, Independiaid, Dafen, Llanelli, Mr John Jones, Bryngwyn Road, Wesleyaid, Dafen, Llanelli. Mr John Evans, Bryngwyn Road, Methodistiaid, Dafen, Llanelli.
[No title]
News
Cite
Share
Bwriada y Parch Ganon Knox-Little yin- gymeryd a thraddodi pregethau yn Eglwys Gadeiriol Manceinion ar ddydd Gwener yn ystod rhan o'r Garawys, gan ddechreu Chwefror 25ain, a diweddu Mawrth 25ain. Y mae Arglwydd Esgob Ty Ddewi wedi dyrchafu y Parch Evan Jones, rheithor Trefdraeth, Sir Benfro, yn brebendari yn Eglwys Gadeiriol Ty Ddowi, fel olynydd y diweddar Brehondari Pughe Evans. LIon- gyfercbir y gwr parchedig ar bob lIaw ar ei ddyrchafiad haeddianol, gan ei fod wedi gwasanaethu ei Eglwys gyda ffyddlondeb dihafal am flynyddoedd. Mae yn bregeth- wr rhagorol, ac wedi cyhoeddi amryw lyfr- au gwerthfawr.