Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y " Llan " a'i Cwmni Newydd.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y Llan a'i Cwmni Newydd. Bellach y mae y cwmni newydd wedi ei wthio i'r dwfr, a chyfeillion y Wasg Eglwysig yn dyfal ddisgwyl a gyfyd y 0 Z5 dwfr yn ddigon uchel i'w nofio. Ac nid cyfeillion yn unig sydd yn bryderus, mae gwrthwynebwyr hefyd yn disgwyl ac yn pryderu. Hyd yn hyn (dydd Llun) mae y rbagolygon yn ddisglaer. ac erbyn wythuos i heddyw credaf y bydd y Wasg Eglwysig yn hwylio yn llawen m6r hunanaberth plant yr- Eglwys odditani, ac awel eu sel yn llenwi ei hwyliau. Dyhidla awgymiadau arnom, gan mwyaf yn rhai tra gwertlifawr eithr dymunaf erfyn am i'r cynghorion gael eu cadw ar hyn o bryd; yn merw yr helynt iiofio fe'u hangofir. Unwaith y byddom dan hwyliau byddant yn fwy na derbyn- iol. Unpethaddymunwnddweydai-y pen hwn. Cwyna un neu ddau nad yw y LLAN yn rhydd oddiwrth ddylanwad y pwyllgor. Ac nag ymdrinia a phynciau poethion. Wel, dyma'r cyfleusdra i'w rhyddhau. Gofaled corff Eglwyswyr y wlad am gyfranau, ac yna hwy a benod- ant y cyfarwyddwyr, ac a lywodraethant y Golygydd, ac y mae darpariaeth arbenig yn y rheolau ihag i'r tanysgrif- wyr mawrion orbwyso y rhai bychain. Bydd gan bob cyfranddalydd bieidlais am bob cyfran hyd ddeg. ond ni fydd gan y crwr cant ond wyth ar hugain am ei gan' cyfran. Gwasg a chwinni i'r bob! fwriedir iddynt fod. Yn hyn mae yn dra gwahanol i hen gwmni Y Gwalta, Yno yr oedd y cyfranau yn 5p, ac nid rhyfedd iddofethu Uwyudo. Cyfoethog- ion yn unig allent brynu shares. Oud yma mae y cyfranau o-fewn cyrhaedd pob gweithiwr—pum' sw!!t y cyntaf o Chwcfror, pun.' swllt y cyntaf o Fawrth, ac efallai y gweddill rywdio y flwyddyn nesaf. Heddyw dymunwn alw sylw at ychydig o bethau ymarferol. 1. Cyfrifoldeb y rhanddalwyr. Mae yn gwmni cyfyngedig; hyny yw, pa beth bynag a all ddigwydd iddo, pe y troai allan yn fethiant hollol, ni fyddai neb yn gyfrifol am ddimai heblaw gwerth ei gyfran. Os un gyfran, yna wedi iddo dalu ei bunt unwaith ni byddai gyfrifol am geiniog yn ychwaneg. Dymnnaf I osod hyn yu am] wg, oblegid y mae anit-yw wedi aufon i ofyn. 2. Rhanddalwyr yr un daleilt.- Teimla rhai, yn enwedig clerigwyr, radd 0 Z5 o yawildod anfon am ddim ond un gyf- ran. Eithr na phetrused neb. Mae amryw wedi anfon yn barod ac y mae cefnogaeth y cyfryw yr un mor dderbyn- iol, megis y mae mor wresog, ag eiddo yr hwn a all fforddio ychwaneg. Yn wir, cyfranau lie y maenifer o weithwyr wedi ymuno i brynu un ydynt y rhai rydd fwyaf o foddhad i'r cyfarwyddwyr. 3. Cymry yn Lloegr.—Nid ydym wedi llwyddo i gael enwau -E-lw%swyr Cyin- reig yn nhrefydd Lloegr. Onid eUi" cael gauddynt anfon o Lundain, Caer, Man- ceinion, a Llynlleifiad ? Awgrym aryd gan un y gallesid yn hawdd gael cyfarfod adeg te brydnawn Sul nesif i drin y mater a'i eglurc. Byddai yn bleser gan ysgrifenydd y cwmni, Mr W. Davies, St. David's College, Lampeter, anfon sypyn o prospectuses i'r neb ymgymera a dwyn y mater i sylw. Pa ie y mae offeiriaid y Cymry ydyut mor weithgar yn y cy- ffredin ? 4. Da genyf gael ar ddeall fod cyfar- fodydd wedi cael eu cynal mewn gwa- hanol fanau i jstyried y cynlluti, a cheisio cael tanysgrifwyr. Ac ar y blaen yri hyn yr oedd fy hen gyfeillion yn Nolwyddelen. Y drefn fabwysiedir yn y mwyafrif yw galw yr Eglwyswyr ynghyd, ac yna egluro y pwnc yn fanwl. 1!1 5 Mewn rhai lleoedd, yr wyf yn deall i'm llythyr blaenorol i'r LLAN gael ei ddar- llen. Onid ellir cael cyfarfod o'r fath ymhob plwyf erbyn wythnos i heno o leiaf I Clerigwyr a lleygwyr gyda'u gilydd, neu ar wahan. 5. Dyma ddau awgrymiad a wnaed heddyw. (1). Fod i bob clerigwr ymgymeryd a chael pum' cyfran naill ai ei hunan neu drwy gael ereill yn ei blwyfi gymeryd rhai. Pe gwneid hyny, byddai y gwaith wedi ei orphen. (2). Cael casgliad yn yr Ysgolion Sul at gyfranau. Deg swUt yn awr a deg swllt yn nechreu Mawrth a brynai ddwy gyfran. Ac yna derbyniai yr ysgolion y llog at eu gwasanaeth, a chynorthwyent i sefydlu peiriant a ddichon fod o ddir- fawr wasanaeth i'r Y sgolion Sul yn y dyfodol. 6. Dymunaf ar gyfeillion y mudiad, yn ychwanegol at yniddiddan a'u cyfeill- ion, anfon am gopiau o'r prospectus, os nad oes ganddynt rai, a'u rhoddi i'w cyf- eillion. Wrth derfynu, cofier unwaith eto fod tynged y Wasg yn y fantol. Gall Eg- lwyswyr Cymru, darllenwyr y LLAN, yn hawdd ei chadw ond gw6ithredu yn awr. Os y gadawant i'r cyfleustra hwn fyned heibio, bydd y posibilrwydd wedi di- flanu. Hwyrfrydigrwydd a difaterwch, a diflana yr Haul a'r LLAN. Ymroddiad a gweithgarwch, a byddant yn ddisgleir- iach nag erioed. Pa un a fydd ? ROBERT CAMBER-WILLIAMS. Coleg Dewi Sant, Llanbedr.

CYFFREDINOL.

Advertising

PORTHMADOG.

LLAN S A MLE r.