Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

BRITON FERRY.

News
Cite
Share

BRITON FERRY. EGLWYS ST MAIR -Bob nos Lun, yn yr Eglwys hon, cynhelir Band of Hope i'r plant, ac y mae yn hyfrydwch mawr genym dd wayd fod y cyfarfod h wn yn un da dros ben. Eglurir hyny yn gyfangwbl pan y dywedaf fod oddeutu 70 o blant yn ei fynychu. O! mor hyfryd oedd gweled y plant yn cael eu hyfforddi yn nhymor eu hieuenctyd drwy ddysgu amryw adnodau o'r Beibl, a chanu llawer o'r hen emynau hefyd. Nid gwaith bach yw trafod y nifer uchod o blant bychain, ond rhaid i ni ddweyd y gwir fod ein hanwyl frawd, Mr John Davies, Warren, yn eu hyfforddi yn iawn drwy gymorth dau neu dri o frodyr ereill gydag ef. Melus iawn oedd clywed ambell i blentyn yn adrodd Salm, yn en- wedig y Salm gyntaf. Yr oeddwn i yn teimlo hyfrydwch mawr dros ben o fod yu eu plith nos Lun diweddaf, pryd y cawsom hefyd y pleser o weled ein parchus gnrad, Mr Roderick, yno. Mae Mr Roderick yn cymeryd dyddordeb anghyffredin ynddynt, ac wrth ei glywed yn holi y plant ar hanes- ion y Beibl, yr oedd hyny yn profi eu bod yn gwneyd ymdrech neillduol i ddiJyn pob cyfarfod, wythnos ar ol wythnos. Chwar- euwyd yr offeryn gan Miss Roberta, Warren, organyddes yr Eglwys hon, ac y mae hithau yn wastad yn barod i wneuthur ei goreu er lies pob plentyn. Gobeithiwn yr aiff y cyfarfodydd hyn rhag eu blaen, fel y bydd- ont o les mawr yn y dyfodol i'r Eglwys. oendith Duw fyddo gyda'r plant yn eu gwaiih ywdymuuiad-Cyfaill.

LLANGENNECH.

. CALEDFWLCH.

Marchnadoedd yr Wythnos.

Marchnadoedd Cymreig.

ILLANOVER.