Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Llith Meudwy y Glyn.

News
Cite
Share

Llith Meudwy y Glyn. CYMUNDEB HWYROL. Yr hyn a ysgrifenais, a ysgrifenais." Nid ydym yn rasol" nac yn afrasol wedi nac yn cydnabod yr hyn a ysgrif- enodd y Parch T C Phillips, dan y penawd Cymundeb Hwyrol, yn y LLAN am Rhagfyr Slain, 11 yn erthygl olygus," Efe ei hun sydd yn ei galw yn "olygus," ac nid y ni; "hynod" y galwn ni hi. Trwy gyfeirio at ein Llith yn y LLAN am Ionawr 14eg, fe wel ein darllenwyr nad ydym yn defnyddio y gair golygus ond unwaith, a'r unwaith hono mewn cysylltiad a'r ddadl geisia Mr Phillips ei sefydlu ac nid a'i erthygl. Yr hyn a ddywedasom ni am yr erthygl ac a ddywedwn eto yw ei "bod yn un o'r cynyrchion mwyaf hynod "—nid golygus a ddarllenasom ni er's llawer dydd," Yn y mynegiad yna yr ydym yn gyd- wybodol, os nid yn rasol." Eto. Ni ddywedasom ni fod "amcan yr erthygl yn ddirgelwch i niond yr hyn a ddywedasom ni ac a ddywedwn eto yw "fod y modd y daeth yr awdwr i'w hysgrifenu yn ddirgelwch anesbon- iadwy i ni." Gwir yw i ni ddywedyd mai "pdf bwynt yr erthygl yw dangos a phrofi fod yr arferiad o weinyddiad hwyrol y Cymun Bendigaid ar dir ysgrythyrol neu yn ol trefn Apostolaidd yn anawdurdodedig." Yn mha le, gofynwn, y mae y gwrth-siaradaeth y sonir am dano yn y mynegiadau yna ? Nid prif bwynt yr erthygl," fel y dywed Mr Phillips, sydd ddirgelwch i ni; ond y pa fodd y daeth yr Awdwr i'w hysgrifenu." Ac am ein "gwenu" a'n galar," nid oedd dim yn neillduol i ni nac yn anghyffredin i ddyn yn hyn. Gwiriondeb y mynegiad cyntaf a wnaeth i ni wenu "—nid chwerthin na it clirechwenn." Mr Phillips ddywed hyny, ac nid y ni-a chyfeiliornad y mynegiad olaf a wnaeth i ni 11 synu a galaru." Efallai ein bod yn un o'r cymer- iadau yn mha rai y mae y "lion a'r lleddf" yn ymylu yn agos iawn ar eu gilydd; ond nid ydym drwy wybod i ni, yn ateb i'r digriflun y cyfeiria Mr Phillips mor ddichwaeth ato. Wrth adael y pen hwn, yr hwn a eilw Mr Phillips yn anghysonderau Meudwy,' ni a ofynwn ymha le y mae'r anghysonderau 1 Nid yn yr hyn a ysgrifenasom ni, ond yn ei ddychymyg ef. Ni a adawn i'n darllenwyr farnu. Ein gwrthddadleuon: Gofyna y Parch T. C. Phillips ychydig yn ffroen- uchel ac yn wawdlyd, A ydyw I Meiidwy mor gibddall a d) chymygu ei fod ef yn gadael allan angeu gwerth- fawr y Gwaredwr o'r cwestiwn 7 t Os yw methu gweled yr hyn nid yw yn < ysgrif fechan y Parch T. C, Phillips yn y LLAN am Rhagfyr 31ain, yn arwydd o gibddellni, ni a addefwn ein bod yn berffaith gibddall.' Ni cheir un cyfeiriad at angeu gwerthfawr y Gwaredwr o gwbl ynddi o'i dechreu i'w diwedd. Nid baeru ei fod yn cau allan angeu gwerthfawr y groes yn drylwyr o Swper yr Arglwydd a wnawn ni, ond mynegu ffaith anwadadwy. Nid a'r hyn oedd yn feddwl, ond a'r hyn ddywedodd Mr Phillips, yr oedd a wnelem ni, ac ni a ail ddywedwn ei fod ef wedi cael allan angeu gwerthfawr y groes yn drylwyr o'i • ysgrif fechan,' ac i ddim ond i gael sylfaen i seilio dadl-nid erthygl— olygus arni yn erbyn Cymundeb Hwyrol a thros Gymundeb Boreuol a Phlygeiniol.' Cyfenwed Mr Phillips ni yn i gibddall' os myn, ac ni a addefwn ein bod yn rhy bw) ein golwg i weled yn ei ysgrif fechan ar Gymundeb Hwyr- ol yr hyn ni cheir ynddi. Mor bell ag y mae ei' ysgrif fechan gyntaf ef yn myned, nid oes ynddi air o son am farwolaeth Crist, ond am ei adgyfodiacl Ef yn unig, ac nid yw ei esboniad yn ei ysgrif fawr ddiweddaf yn gwella dim ar ei sefyllfa annymunol. Gan nad beth olyga efe wrth fod I matwolaeth ac adgyfodiad Crist yn ymadroddion cyd-berthynasol, nid ydynt yn ym- adroddion cydgyfnewidiol, ac ni ellir defnyddio y naill am nac yn lie y llall. Dathlu marwolaeth yr Arglwydd wneir yn Swper yr Arglwydd, medd St. Paul, a threfn gweinyddiad y Cymun Bendigaid. Ac yr ydym yn parhau i wrthod gosodiad Mr Phillips er ei esbon- iad athronyddol, a'i holl siarad am eiriau cyd-berthynasol. Ni ddaw dathlu ffaith fawr yr Adgyfodiad i fewn o gwbl i 'Swper yr Arglwydd,' yn ddim mwy na ffaith fawr yr Ymgnawdoliad. Y 'tori bara yn Troas.—Yr hyn a ysgrifenasom ni ar hyn yw-'Os'-sylwer ar yr os yna-I yn oriau man y boreu y gweinyddwyd yr ordinhad Sanctaidd, pregeth hirfaith yr Apostol-os pregeth hefyd-ac nid arferiad yr Eglwys, a bar- odd i hyny gymeryd He,' Pa le yn y geiriau yna yr ydym yn 'addef i'r Cymun Bendigaid ar yr achlysur crybwylledig gymeryd lie yn oriau man y boreu.' Y Parch T. C. Phillip3, ac nid y ni, sydd yn dywedyd hyny. Ac am Corinth hefyd, nid yr hyn a ddywed Mr Phillips a ddywedasom ni. Yr hyn a ddywed- asom ni, ac a ddywedwn eto, yw, mai yr hyn wnaeth yr Apostol yn Corinth oedd, nid newid amser y Cymundeb o'r hwyr i'r boreu, ond gwahanu y Cymun- deb a'r Cariad Wledd a gynhelid mewn cysylltiad a Swper yr At-glwydd." Ac ychwanegwn, mai nid meddwdod yn unig a daeth i mewn i'r Cariad WIedd yn Corinth, ond glythineb' hefyd oblegid sonia yr Apostol am fwyta yn ogystal ag I yfed,' 1 Cor. xi. Dywedodd Mr Phillips am chwech rheswm a ddygodd i attegu ei osodiad, a chasgla, gan ein bod yn myned heibio i dri o honynt heb wneyd cyfeiriad atynt, cin bod yn eu derbyn fel rhai boddhaol. Pell oddiwrth hyny. A'r ddadl Ysgryth- yiol yr oedd a fynem ni, gan mai ar hon y gosodai efe y pwys mwyrf; ac am y rhesymau a adawsom ni-allaii o'n llith y tnae I Ap Israel' yn eu dynoethi yn effeithiol yn ei lythyr rhagorol yn y LLAN am Ionawr 21ain. Dyna y rheswm paham yr aethum heibio iddynt heb eu hateb. Gwir i ni ddywedyd, ac ni a ddywed- wn eto, I Mewn adduliad, yr ysbryd sydd bob peth.' Nid ar ein hawdurdod ein hunain, fel yr awgryma y Parch T, C. Phillips, y dywedasom ni hynyna, ond ar awdurdod y gwr a ddywedodd, I Gwneler bob peth yn wediaidd ac mewn trefn,' ac awdurdod uwch na Paul, sef Pen Mavvr yr Eglwys (loan iv.) Derbynied y Parch T. C, Phillips ein diolch mwyaf cywir am ei gyngor caredig (1) i ni i ymgydnabyddu mwy a gweith- iau y Tadau Eglwysig ac a phrif ddysg- 15 Z3 I? awdwyr yr Eglwys yn yr oes hon, megis Canon Liddon, Blring Gould, &e,' Mae yn dda genym hysbysu Mr Phillips ein bod yn hen gyfarwydd a. rhai o'r rhai hyn, ac yn gwerthfawrogi eu cynyrchion yn fawr mor belled ag y maent yn gyson a Gair Duw. Ni a derfynwn ein llith a'n holl ymdrafodaeth ar y cwestiwn hwn gyda chyngor caredig i Mr Phillips am ei gyngor caredig ef i ni-Gwnewcb fwy o'r Ysgrythyrau a llai o'r Tadau Eg- lwysig.

Ymgais i Ddadebru " Corff…

Nodion o Eifiouydd.

LLANYMDDYFRI.

TREGARON.

Advertising